Ymchwil yn edrych ar ffyrdd o wella’r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yng Nghymru - Disgrifiad o'r cynllun
Bu cydweithio rhyngom â’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gynnal ymchwil i’r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Roeddem am brofi sut oeddem yn cydgreu yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Nod y cynllun yw 'cael mwy o bobl anabl i mewn i gyflogaeth a lleihau'r bwlch cyflogaeth rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl' a 'chefnogi cyflogwyr i wneud y gorau o'r talentau y gall pobl anabl eu cyflwyno i'r gweithle'. Nododd fod 'bod yn Hyderus o ran Anabledd yn gyfle i gyflogwyr arwain y ffordd yn eu cymuned a darganfod sgiliau a thalentau nad allant wneud hebddynt'. Mae'r cynllun yn wirfoddol ac mae’r canllawiau, hunanasesiadau ac adnoddau ar gael yn rhad ac am ddim.
Lefel 1: Ymrwymedig
Y pum ymrwymiad yw:
- sicrhau bod eich proses recriwtio yn gynhwysol ac yn hygyrch
- cyfathrebu a hyrwyddo swyddi gwag
- cynnig cyfweliad i bobl anabl
- rhagweld a darparu addasiadau rhesymol yn ôl y gofyn
- cefnogi unrhyw weithiwr presennol sy'n cael anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, gan ei alluogi i aros yn y gwaith
Y naw gweithgaredd yw:
- profiad gwaith
- treialon gwaith
- cyflogaeth â thâl (parhaol neu gyfnod penodol)
- prentisiaethau
- cyfleoedd cysgodi swyddi
- hyfforddeiaethau
- interniaethau â thâl ac interniaethau â chymorth
- lleoliadau myfyrwyr
- lleoliadau academi gwaith sector
Lefel 2: Cyflogwr
Mae cyflogwyr ar y lefel hon yn cwblhau hunanasesiad sy'n canolbwyntio ar gamau gweithredu sy'n cwmpasu dwy thema ac yn cytuno i ymgymryd â'r 'camau gweithredu craidd' ac o leiaf un 'gweithgaredd' a bennir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau mewn perthynas â phob thema. Rhaid i gyflogwyr gwblhau Lefel 1 cyn symud ymlaen i'r lefel hon. Y ddwy thema yw:
- cael y bobl gywir ar gyfer eich busnes
- cadw a datblygu eich pobl
Lefel 3: Arweinydd
Er mwyn cyrraedd y lefel hon, mae tri cham ychwanegol y mae angen i gyflogwr eu cymryd (DWP). Mae’r rhain yn cynnwys:
- her: mae gofyn i gyflogwyr gael eu hunanasesiad wedi'i ddilysu gan drydydd parti i sicrhau bod y cyflogwr yn cyflawni yn erbyn y camau craidd ac yn cyflogi pobl anabl
- arweinyddiaeth: rhaid i gyflogwyr ddarparu naratif o'r gweithgareddau a gyflawnwyd neu sy’n cael eu cyflawni i gefnogi bod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd
- adrodd ar anabledd, iechyd meddwl a lles: rhaid i gyflogwyr ddefnyddio'r Fframwaith Adrodd Gwirfoddol i adrodd ar gamau gweithredu a gymerwyd
