Ymchwil yn edrych ar ffyrdd o wella’r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yng Nghymru - Casgliad
Bu cydweithio rhyngom â’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gynnal ymchwil i’r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Roeddem am brofi sut oeddem yn cydgreu yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Nod yr ymchwil hon yw creu prototeip ar gyfer cydgynhyrchu GSR a bu cydgynhyrchwyr yn gweithio gyda'i gilydd, o’r cam o greu cwmpas y prosiect, cynllunio a chasglu data hyd at ddadansoddi, nodi themâu a datblygu strwythur naratif a chynnwys yr adroddiad hwn. Cafodd adroddiadau eu llunio a sicrhawyd eu hansawdd gan ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru ac fe'u cynigiwyd i'r holl gydgynhyrchwyr er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud synnwyr. Bydd i ba raddau y cyflawnwyd y nodau cydgynhyrchu yn destun gwerthusiad ar wahân.
Roedd y tîm cydgynhyrchu’n cynnwys 7 Cadeirydd Gweithgorau’r THA, ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru, swyddogion polisi Llywodraeth Cymru a myfyriwr PhD.
Cyflwynwyd canfyddiadau'r tri grŵp ffocws gyda chyflogwyr, cynrychiolwyr undebau llafur, cynrychiolwyr SPA a GA yn yr adroddiad hwn. Dylid cydnabod mai darn cyfyngedig o ymchwil yw hwn nad oedd yn anelu at werthuso'r cynllun cyfredol yn llawn, ond yn hytrach archwilio'r opsiynau a gyflwynwyd yn argymhelliad gwreiddiol gweithgor y THA. Cynhaliwyd yr archwiliad hwn gydag ystod o rhanddeiliaid, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad bywyd o gael eu hanablu gan rwystrau. Fodd bynnag, nid yw'r sampl yn gwbl gynrychioliadol o bob person anabl na phob math o gyflogwr, ac nid oedd yn cynnwys barn adran Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gynnal y cynllun presennol.
Nod y Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd presennol yw 'cael mwy o bobl anabl i mewn i gyflogaeth a lleihau'r bwlch cyflogaeth rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl' a 'chefnogi cyflogwyr i wneud y gorau o'r talentau y gall pobl anabl eu cyflwyno i'r gweithle'.
Mae canfyddiadau'r ymchwil yn awgrymu bod angen gwelliannau a mwy o ymgysylltiad â phobl sydd â phrofiad bywyd er mwyn i'r cynllun presennol gyrraedd y nodau hyn yn well.
Dywedodd y cyfranogwyr bod pobl anabl yn aml yn fwy tebygol o fod mewn swyddi ansicr, â thâl isel, nad ydynt bob amser yn cynnig gweithio hyblyg. Gosodir rhai pobl anabl dan anfantais bellach yn sgil y sector neu'r contract sy’n eu cyflogi. Ni all gweithwyr llawrydd a phobl anabl ar gontract dim oriau bob amser ymaelodi ag undeb llafur.
Rhannodd y cyfranogwyr ystyriaethau hefyd nad yw rhai pobl yn dymuno cael eu hadnabod fel pobl anabl oherwydd stereoteipiau a rhagdybiaethau negyddol posibl gan eraill. Hefyd, efallai nad yw rhai pobl anabl yn gwbl ymwybodol o'u hawliau a'u cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010). Ystyriwyd bod y diffyg dealltwriaeth hwn yn enwedig ynghylch addasiadau rhesymol yn ei gwneud yn heriol i gyflogwyr ddeall eu gweithlu yn llawn a sicrhau bod yr addasiadau yma ar gael yn ôl y gofyn.
Ystyriwyd bod amgylcheddau gwaith diogel lle mae pobl anabl yn teimlo eu bod yn gallu nodi ei hunain fel pobl ag anabledd yn hanfodol. Soniwyd am y cynigion i’w gwneud yn ofynnol i adrodd ar y bwlch cyflog anabledd, ac roedd hyn yn cael ei weld fel cam cadarnhaol ymlaen. Fodd bynnag, nodwyd y byddai hyn wedi'i anelu at gyflogwyr mawr yn unig ac y byddai'n dibynnu ar hunan-adrodd a allai achosi problemau.
Mae tair lefel o fewn y cynllun presennol y gall cyflogwyr eu cyflawni. Cytunodd llawer o gyfranogwyr fod statws arweinydd Lefel 3 yn werthfawr oherwydd bod angen asesiad allanol gan sefydliad arall a oedd eisoes wedi ennill statws Lefel 3 yn y cynllun er mwyn ei gyflawni. Cododd llawer o gyfranogwyr broblemau gyda'r cynllun presennol, yn enwedig ar y lefelau is.
Roedd y cysyniad o gael sicrwydd o gyfweliad ar gyfer ymgeiswyr anabl wrth wneud cais am swyddi yn cael ei ystyried fel mantais. Er bod gan rai cyfranogwyr brofiad o sefyllfa lle nad oedd hyn wedi cael ei anrhydeddu.
Roedd y cyfranogwyr o’r farn y gallai arddangos logo’r cynllun Hyderus o ran Anabledd ar hysbysebion swyddi fod yn fanteisiol i bobl anabl pe bai'n dangos y byddai rhai disgwyliadau cyflogaeth sylfaenol yn cael eu bodloni. Fodd bynnag, er bod rhywfaint o hyder ymhlith cyfranogwyr y gallai cyflogwyr Lefel 3 fodloni'r disgwyliad hwn, roedd llai o hyder yn y cyflogwyr lefel is.
Roedd y cyfranogwyr ar draws y grwpiau ffocws yn meddwl nad oedd lefelau is y Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd presennol yn ddigon heriol nac yn cynrychioli safon sylfaenol.
Ystyriwyd nad oedd y lefelau is yn darparu digon o gefnogaeth ac arweiniad i gyflogwyr. Credwyd bod hyn yn golygu bod rhai cyflogwyr heb ddeall yn llawn beth maen nhw wedi cofrestru i'w gyflawni. Roedd y cyfranogwyr yn teimlo bod diffyg dealltwriaeth ymhlith cyflogwyr o'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu yn y gweithle ac o'r cynllun ei hun.
Roedd cyfranogwyr yr ymchwil yn credu bod y 'safon sylfaenol' hon o bosibl yn rhoi ymdeimlad ffug o ddiogelwch i gyflogwyr a phobl anabl sy'n chwilio am waith.
Dywedodd cynrychiolwyr Sefydliadau Pobl Anabl nad yw rhai cyflogwyr bob amser yn deall yn glir beth yw’r rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl yn y farchnad lafur ac efallai y byddant yn meddwl bod eu harferion recriwtio yn gwbl hygyrch, ond nid yw hyn bob amser yn wir.
Nid oedd lefelau is y cynllun cyfredol yn cael eu hystyried yn ddigon cadarn gan fod gofyn i gyflogwyr hunanasesu ar y lefelau hyn ac nid oes monitro, gwerthuso nac achredu allanol.
Disgrifiwyd y cynllun presennol gan lawer o’r cyfranogwyr fel 'ymarferiad blwch ticio' sydd 'heb fod yn addas i'r diben' ac fe'i cymharwyd yn anffafriol â chynlluniau cyflogwyr eraill. Ystyriwyd bod cynlluniau tebyg eraill ar gyfer pobl â gwahanol nodweddion gwarchodedig, er enghraifft cynlluniau penodol LHDTC+, yn fwy effeithiol, heriol a chadarn. Bu trafod bod pobl â phrofiad bywyd fel arfer yn rhan o sefydlu, rheoli a gwerthuso'r cynlluniau hyn.
Ystyriwyd bod diffyg pwyslais ar ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad bywyd i geisio cael adborth ganddynt ynghylch pa mor dda oedd y cynllun yn gweithio iddynt ar hyn o bryd. Roedd hyn yn cael ei ystyried yn hanfodol gan mai pobl anabl yw'r rhai y tybir eu bod yn cael budd o’r cynllun.
Tynnodd y cyflogwyr a gymerodd ran yn yr ymchwil sylw at eu dymuniad i ddysgu a gwella’n barhaus. Roedd rhai cyflogwyr yn credu bod canllawiau’r cynllun cyfredol yn canolbwyntio ar gamau yr oeddent eisoes wedi'u cymryd.
Roedd y cyfranogwyr yn credu bod y cyllid a’r cymorth a roddir i gyflogwyr weithiau’n amrywio. Rhoddodd rhai cyflogwyr enghreifftiau o gymorth da gan yr Adran Gwaith a Phensiynau mewn rhai ardaloedd daearyddol, tra bod eraill o’r farn ei bod yn anoddach cael cymorth ganddynt.
Tynnodd rhai cyfranogwyr sylw at brofiadau 'ofnadwy' mewn cyflogaeth yr oedd pobl anabl wedi'u hwynebu yn hanesyddol. Mae'r diffyg dilyniant i gyflogwyr sy'n rhan o'r cynllun yn golygu nad yw rhai’n cael eu dwyn i gyfrif ar hyn o bryd, a all arwain at ailadrodd profiadau gwael i bobl anabl yn y gweithlu.
Rhannodd cyfranogwyr y grwpiau ffocws awgrymiadau am sut i wella'r cynllun presennol. Roedd y rhain yn cynnwys:
- cynyddu adnoddau fel staff, cyllid a chapasiti i fynd i'r afael â'r problemau a nodwyd gan yr ymchwil a sicrhau bod gwelliannau yn barhaus ac ystyrlon
- un enghraifft a gynigiwyd oedd dyrannu adnoddau ychwanegol i Sefydliadau Pobl Anabl weithio'n fwy uniongyrchol gyda chyflogwyr i roi cyngor ac arweiniad
- monitro cynnydd yn gadarn yn erbyn meincnodau mesuradwy y cytunwyd arnynt ar bob lefel i gynyddu hyder ac i ddangos canlyniadau gwell i bobl anabl yn y gweithlu
- gwerthusiad annibynnol lle gallai pobl â phrofiad bywyd chwarae rôl efallai, o ystyried mai nhw yw buddiolwyr tybiedig y cynllun
- awgrymwyd y gallai Sefydliadau Pobl Anabl o bosibl ffurfio bwrdd cynghori gyda Llywodraeth Cymru ac adeiladu ar waith yr Hyrwyddwyr Anabledd i ymgymryd â gweithgarwch gwerthuso
- mwy o gyfleoedd ar gyfer dysgu ar y cyd ymhlith rhanddeiliaid
- mwy o ymgysylltu ar lefel ranbarthol rhwng Sefydliadau Pobl Anabl, sefydliadau'r trydydd sector, cyflogwyr ac undebau llafur
Un o egwyddorion sylfaenol unrhyw welliant a nodwyd oedd ymgysylltu â phobl anabl oedd â phrofiad bywyd. Mae angen i gyflogwyr ddeall yn llawn beth yw'r rhwystrau i bobl anabl, a sut mae adnabod arfer da. Credwyd bod angen i'r cynllun presennol osod uchelgeisiau uwch ar gyfer newid ar draws pob lefel.
Dywedodd cynrychiolwyr yr Undebau Llafur y byddent yn hoffi cael mwy o ran mewn unrhyw gynllun a weithredir yn y dyfodol. Ystyriwyd bod eu rhwydwaith o gynrychiolwyr undeb yn y gweithle yn ffynhonnell bosibl o gefnogaeth ac addysg i gyflogwyr a phobl anabl fel ei gilydd.
Ystyriwyd bod y ddeddfwriaeth gyfredol yn rhwystr strwythurol. Gwnaeth cyfranogwyr yr undebau llafur y sylw bod y ddeddfwriaeth yn aml yn canolbwyntio mwy ar achosion unigol o wahaniaethu ar sail anabledd yn hytrach na mynd i'r afael â rhwystrau ar draws sectorau. Rhannai’r cyfranogwyr uchelgais i rhanddeiliaid fod yn gweithio gyda'i gilydd yn y dyfodol i ganfod atebion ar y cyd. Dywedodd y cyfranogwyr ar draws y grwpiau ffocws fod angen gweithdrefn adrodd gryfach i sicrhau atebolrwydd a gonestrwydd cyflogwyr.
Ystyriodd y cyfranogwyr rôl yr Adran Gwaith a Phensiynau, o ystyried mai hwy yw perchennog presennol y cynllun. Credwyd y byddai angen gwella ymddiriedaeth a’r berthynas gyda nhw er mwyn i gydweithio greu gwelliannau. Fodd bynnag, soniodd y cyfranogwyr y gallai trefniadau amgen ar gyfer cynnal y cynllun fod yn opsiwn gwell os nad yw cydweithio effeithiol rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r rhanddeiliaid yn bosibl.
Awgrymwyd y gallai Llywodraeth Cymru chwarae rôl fwy gweithredol efallai mewn cynllun yn y dyfodol neu gynllun diwygiedig. Byddai hyn o bosibl yn galluogi rhwydweithiau lleol o rhanddeiliaid i gydweithio. Arweiniodd hyn at ddadl bellach ynglŷn â manteision a heriau posibl cynllun cyflogwr pwrpasol i Gymru.
Mae’r dystiolaeth o'r ymchwil yn awgrymu cefnogaeth gymysg i gynllun newydd i Gymru neu elfen ddatganoledig o fewn cynllun ledled y DU. Gallai hyn fod yn rhan o unrhyw gyfrifoldebau datganoledig i sicrhau bod y cynllun yn ystyried anghenion rhanbarthol ac yn caniatáu mwy o gyfranogiad cymunedol. Rhoddwyd ystyriaeth i’r manteision a’r heriau posibl sy'n gysylltiedig â hyn.
Roedd un o fanteision posibl datganoli rhywfaint neu'r cyfan o gynllun Hyderus o ran Anabledd i Gymru, a godwyd gan gyfranogwyr y grwpiau ffocws, yn cynnwys sefydlu fforwm penodol o arweinwyr yng Nghymru. Ystyriwyd y gallai'r fforwm hwn gael y fantais o gynyddu uchelgais a darparu rhwydwaith lleol i arweinwyr herio ei gilydd a rhannu arfer da. Awgrymwyd y gallai hyn gynnwys cydweithio â Sefydliadau Pobl Anabl, Grwpiau Amhariad ac undebau llafur.
Cydnabuwyd y gallai dimensiwn Cymreig i gynllun cyflogwr integreiddio siaradwyr Cymraeg yn well a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg. Gallai cynllun sy'n ystyried dimensiwn penodol Cymreig ddeall patrymau cyflogi rhanbarthol yn well efallai yn ogystal â’r rhwystrau economaidd sy'n wynebu pobl anabl.
Amlygodd rhai cyfranogwyr bryder nad oedd llawer o gyflogwyr yng Nghymru wedi ennill statws arweinydd Lefel 3 hyd yn hyn. Felly, ystyriwyd bod cymorth lleol yn ffordd bosibl o gynyddu nifer y cyflogwyr yng Nghymru yn y sector preifat a chyhoeddus sy'n cyflawni statws arweinydd.
Roedd rhai pobl anabl a Sefydliadau Pobl Anabl yn teimlo bod lefelau ymddiriedaeth gyda Llywodraeth Cymru yn uwch na'r lefelau gyda Llywodraeth y DU. Ystyriwyd hefyd y gallai cael elfen Gymreig bwrpasol roi cyfle newydd ar gyfer 'newid diwylliannol'. Dywedodd un cyfranogwr y byddai hyn yn cynnig y cyfle i ddiwygio o'r gwaelod i fyny a gweithio'n gydgynhyrchiol gyda phobl anabl.
Awgrymwyd y gallai hyn gynnwys ailfrandio'r cynllun yn llwyr heb iddo orfod cyd-fynd â’r Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn sicrhau mwy o hyder ac ymddiriedaeth yn y cynllun.
Awgrymwyd y gallai elfen Gymreig bwrpasol gydredeg efallai â'r broses gaffael gyhoeddus yng Nghymru a allai gael ei defnyddio fel ffordd i ennyn diddordeb mwy o gyflogwyr. Er enghraifft, gellid gosod safon ansawdd sylfaenol i sicrhau y byddai'n rhaid i unrhyw gyflogwyr sy'n cynnig am gontractau'r sector cyhoeddus ei arddangos yn ymarferol.
Roedd yr heriau posibl a amlygwyd yn cynnwys materion ymarferol fel cyllid a chapasiti. Cododd y cyfranogwyr y byddai angen mwy o fuddsoddiad yng Nghymru i wella capasiti’r rhanddeiliaid, yn enwedig ar gyfer Sefydliadau Pobl Anabl a Grwpiau Amhariad.
Awgrymwyd hefyd y gallai cael cynllun Cymreig pwrpasol ochr yn ochr â chynllun cyflogwr cenedlaethol y DU achosi rhywfaint o ddryswch, yn enwedig i gyflogwyr sy'n gweithredu ledled y DU.
Cwestiynodd rhai cyfranogwyr pa mor ymarferol oedd cyflawni hyn mewn termau real. Roedd rhai cyfranogwyr yn teimlo y gellid defnyddio’r ymdrech yn well yn ceisio gwella neu adeiladu ar y cynllun presennol yn hytrach na dargyfeirio adnoddau oddi wrtho o bosibl.
Ar y cyfan, roedd y cyfranogwyr yn teimlo bod cyfleoedd clir a manteision posibl i gynllun Cymreig pwrpasol, ar y llaw arall roedd cefnogaeth gref hefyd i gynyddu'r adnoddau sydd ar gael a gwneud gwelliannau i'r cynllun presennol yn hytrach na datblygu rhywbeth newydd.
