Neidio i'r prif gynnwy

Bu cydweithio rhyngom â’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gynnal ymchwil i’r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Roeddem am brofi sut oeddem yn cydgreu yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf: 11 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Mehefin 2025

Cydnabyddiaeth

Roedd hwn yn brosiect ymchwil gymdeithasol cydweithredol. Cyflwynodd tîm o gydgynhyrchwyr yr ymchwil gan gynnwys Cadeiryddion gweithgorau’r Tasglu Hawliau Anabledd, ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru, swyddogion polisi Llywodraeth Cymru a myfyriwr PhD. Cyfunai’r tîm cydgynhyrchu brofiad bywyd o wynebu anabledd oherwydd rhwystrau gydag arbenigedd mewn hawliau anabledd ac ymchwil gymdeithasol (academaidd a gan y Llywodraeth). 

Ni fuasai'r prosiect ymchwil gymdeithasol hwn yn bosibl heb yr amser a neilltuwyd a'r cyfraniadau helaeth a chraff a wnaed gan y cydgynhyrchwyr yn ystod pob cam o'r ymchwil, o bennu cwmpas y prosiect i gyhoeddi'r adroddiad hwn. 

Hoffai Llywodraeth Cymru ddiolch yn arbennig i aelodau tîm cydgynhyrchu’r Tasglu Hawliau Anabledd am rannu eu hasedau personol a sefydliadol, gan gynnwys profiad bywyd o fod yn anabl oherwydd rhwystrau, eu brwdfrydedd a'u huchelgais i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, eu sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol, ac am ddefnyddio’u harbenigedd a'u dealltwriaeth o'r sefyllfa bresennol a hanesyddol ar gyfer pobl anabl a gallu defnyddio eu rhwydweithiau eu hunain. 

Roedd aelodau’r Tasglu Hawliau Anabledd yn cynnwys:

  • Yr Athro Debbie Foster, Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd. Cadeirydd y Gweithgor Cyflogaeth ac Incwm a chyd-Gadeirydd Tasglu Hawliau Anabledd Llywodraeth Cymru
  • Damian Joseph Bridgeman – ymgyrchydd anabledd, entrepreneur cymdeithasol, Cynghorydd dros Gymuned Sain Tathan, a Chadeirydd Gweithgor Tai Tasglu Hawliau Anabledd Llywodraeth Cymru
  • Dr Natasha Hirst, Cadeirydd Gweithgor Mynediad at Wasanaethau Tasglu Hawliau Anabledd Llywodraeth Cymru
  • Willow C Holloway, Cadeirydd Gweithgor Byw’n Annibynnol: Iechyd Tasglu Hawliau Anabledd Llywodraeth Cymru
  • Joe Powell, Prif Weithredwr, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a Chadeirydd Gweithgor Mynediad at Gyfiawnder Tasglu Hawliau Anabledd Llywodraeth Cymru
  • Ruth Nortey, myfyriwr PhD, Prifysgol Caerdydd

Rhestr termau

HA

Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd

SPA

Sefydliad Pobl Anabl

THA

Tasglu Hawliau Anabledd

DWP

Yr Adran Gwaith a Phensiynau

GA

Grŵp Amhariad

Cydgynhyrchydd

Aelod o'r tîm traws-sector a gydweithiodd i greu prototeip o ymchwil wedi ei gydgynhyrchu i Adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth

GSR

Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth

TUC

Undebau Llafur Cymru

DDEU

Yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd

ERDEU

Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd

Crynodeb gweithredol

Cyflwyniad a chefndir

Rhesymeg ymchwil

Ym mis Medi 2023, cytunodd Cadeiryddion Gweithgorau'r Tasglu Hawliau Anabledd (THA) i gydweithio â'r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd (DDEU) gyda'r nod o gydgynhyrchu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR). Roedd y Tasglu wedi nodi cyfres o argymhellion yn flaenorol, ac un ohonynt yn ymwneud â'r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd.

Argymhellodd aelodau Gweithgor y Tasglu Hawliau Anabledd fod angen gwella'r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd a manteisio mwy ar y llwybrau cymorth a chyngor presennol gan bobl anabl sydd â phrofiad bywyd. Fe wnaethant gynnig syniadau newydd ar gyfer y cynllun, a oedd yn cynnwys nod barcud cyflogwr penodol ar gyfer Cymru, cynllun gwell gydag elfen Gymreig neu geisio gwelliannau i'r cynllun presennol ledled y DU. 

Nod yr ymchwil hon oedd archwilio ymhellach argymhelliad Gweithgor y Tasglu Hawliau Anabledd ynghylch y Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd gydag ystod o rhanddeiliaid a defnyddio dull o gynhyrchu ar y cyd. 

Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd

Mae'r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn gynllun ledled y DU ac mae'n cael ei gyflwyno gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). 

Nod y cynllun yw 'cael mwy o bobl anabl i mewn i gyflogaeth a lleihau'r bwlch cyflogaeth rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl'. 

Mae gan y cynllun dair lefel y mae cyflogwyr yn cael eu hannog i symud drwyddynt i'r lefel uchaf i gyflawni nod barcud statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. 

Yn ôl nodau'r cynllun, mae 'bod yn Hyderus o ran Anabledd yn gyfle i gyflogwyr arwain y ffordd yn eu cymuned a darganfod sgiliau a thalentau nad allant wneud hebddynt'. 

Y ffigurau diweddaraf ynghylch pobl anabl mewn cyflogaeth

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024 yng Nghymru, roedd 50.9% o bobl anabl mewn cyflogaeth (16 i 64 oed) o'u cymharu ag 81.6% o bobl nad ydynt yn anabl. Roedd y bwlch cyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl anabl yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024 yn 30.7 pwynt canran. 

Yn ogystal â hyn, yn 2022-23, roedd pobl anabl neu bobl â salwch cyfyngus hirsefydlog yn fwy na dwywaith mor debygol o fyw mewn cartref a oedd mewn amddifadedd materol na'r rhai nad ydynt yn anabl. Roedd un o bob pedwar o bobl anabl neu bobl â salwch cyfyngus hirsefydlog (25%) yn byw mewn cartref a oedd mewn amddifadedd materol o'u cymharu ag 11% o bobl nad ydynt yn anabl.                                                

Ar gyfer pobl anabl mewn cyflogaeth, y gwahaniaeth cyflog rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yng Nghymru oedd £1.75 (12.2%) yn 2023. Mae hyn yn golygu bod pobl anabl yng Nghymru yn ennill, ar gyfartaledd, £1.75 yn llai yr awr na phobl nad ydynt yn anabl. 

Dull cydgynhyrchiol 

Roedd yr ymchwil hon yn brototeip ar gyfer cydgynhyrchu GSR. Aeth ati i brofi a yw'n bosibl cydgynhyrchu'r math hwn o ymchwil, faint y gellir ei gydgynhyrchu ac i ddangos y gellid ei wneud yn y dyfodol. 

Cyfunodd y tîm cydgynhyrchu brofiad bywyd o gael eu hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas gydag arbenigedd mewn hawliau anabledd ac ymchwil gymdeithasol. Roedd y tîm yn cynnwys 7 Cadeirydd Gweithgorau’r THA, swyddogion ymchwil a pholisi Llywodraeth Cymru a myfyriwr PhD. 

Nod y tîm oedd dysgu sut i gynhyrchu ymchwil gyda'i gilydd. Byddai hyn yn gwella ansawdd y dystiolaeth a’r defnydd o’r dystiolaeth sy'n llywio penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl anabl. 

Methodoleg 

Cynhaliwyd tri grŵp ffocws ym mis Gorffennaf 2024 ac roeddent yn cynnwys cyflogwyr, undebau llafur a chynrychiolwyr o Sefydliadau Pobl Anabl (SPA) a grwpiau amhariad (GA). 

Diffinnir SPA fel 'sefydliad sy'n cael ei arwain, ei gyfarwyddo a'i lywodraethu gan bobl anabl, gydag ymrwymiad i'r model cymdeithasol o anabledd a hyrwyddo hawliau dynol i unigolion anabl'.

Gellir diffinio GA yn fras fel 'sefydliad sydd â’r diben o hyrwyddo buddiannau pobl ag amhariad penodol, nad yw'n cael ei redeg a'i lywodraethu yn llwyr, neu o gwbl, gan bobl anabl'.

Cafodd y grwpiau ffocws eu hwyluso a'u cyd-ddadansoddi gan y tîm cydgynhyrchu. Roedd 25 o gyfranogwyr i gyd yn y grwpiau ffocws. Yn ogystal, gweithredodd 5 o gadeiryddion gweithgorau’r THA a myfyriwr PhD fel hwyluswyr a chydhwyluswyr a bu rhai’n cyfrannu at drafodaethau’r grwpiau ffocws gan eu bod yn cynnig profiad bywyd ac arbenigedd.

Dewiswyd cyfranogwyr i gynrychioli ystod o wahanol brofiadau a gwybodaeth am y Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd a materion cyflogaeth sy'n effeithio ar bobl anabl. 

Cynhaliwyd y grwpiau ffocws yn rhithwir i sicrhau bod yr ymchwil yn hygyrch. Cynigiwyd ffyrdd amgen i gyfranogwyr y grwpiau ffocws roi eu barn os oedd angen hyn. Darparwyd rhestr o awgrymiadau trafod i gyfranogwyr y grwpiau ffocws ymlaen llaw. 

Cyflwynir y data a gasglwyd fel mewnwelediadau am y cynllun presennol ac archwiliad o'r potensial ar gyfer modelau amgen sy'n fwy pwrpasol i ddiwallu anghenion pobl anabl a sefydliadau yng Nghymru. 

Dylid cydnabod nad oedd yr ymchwil hon yn anelu at werthuso'r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd presennol yn llawn, ond yn hytrach archwilio'r opsiynau a drafodwyd gan weithgor y THA. Nid yw'r sampl yn gwbl gynrychioliadol o bob math o gyflogwyr, ac nid oedd yn cynnwys barn adran Llywodraeth y DU sy'n cynnal y cynllun presennol. 

Roedd y dull grŵp ffocws yn cynnig y cyfle i gael mewnwelediadau cyfoethog ac amrywiol i'r pwnc hwn. Daeth y cyfranogwyr â chyfoeth o brofiadau bywyd o gael eu hanablu gan rwystrau ac ymgysylltu â'r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd cyfredol.

Canfyddiadau’r ymchwil

Cyd-destun

Bu trafodaethau’r grwpiau ffocws yn ystyried y cyd-destun ehangach mae'r cynllun presennol yn gweithredu o’i fewn yn ogystal â rhai o'r rhwystrau cyflogaeth i bobl anabl. Roedd y cyfranogwyr yn meddwl bod pobl anabl yn fwy tebygol o fod mewn cyflogaeth ansicr, â thâl isel, nad yw bob amser yn cynnig gweithio hyblyg. 

Ystyriwyd bod rhai pobl anabl dan anfantais bellach yn sgil y sector neu'r contract sy’n eu cyflogi. Ni all gweithwyr llawrydd a phobl anabl ar gontract dim oriau bob amser ymaelodi ag undeb llafur. 

Rhannodd y cyfranogwyr sylwadau am y ffaith nad yw rhai pobl yn dymuno cael eu hadnabod fel pobl anabl oherwydd stereoteipiau a rhagdybiaethau negyddol posibl gan eraill. Nododd y cyfranogwyr nad oedd rhai pobl anabl na chyflogwyr o bosibl yn gwbl ymwybodol o'u hawliau a'u cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010). Ystyriwyd bod y diffyg dealltwriaeth hwn yn enwedig ynghylch addasiadau rhesymol yn ei gwneud yn heriol i gyflogwyr ddeall eu gweithlu yn llawn a sicrhau bod yr addasiadau hyn ar gael os oes angen. 

Ystyriwyd bod amgylcheddau gwaith diogel lle mae pobl anabl yn teimlo eu bod yn gallu hunan-adnabod yn hanfodol. Mynegwyd bod cynigion i’w gwneud yn ofynnol i adrodd ar y bwlch cyflog anabledd, a oedd yn cael ei weld fel cam cadarnhaol ymlaen. Fodd bynnag, nodwyd y byddai hyn wedi'i anelu at gyflogwyr mawr yn unig ac y byddai'n dibynnu ar hunan-adrodd a allai achosi problemau. 

Barn y cyfranogwyr am y cynllun cyfredol

Mae tair lefel o fewn y cynllun presennol y gall cyflogwyr eu cyflawni. Cytunodd llawer o gyfranogwyr fod statws arweinydd Lefel 3 yn werthfawr oherwydd bod angen asesiad allanol gan sefydliad arall a oedd eisoes wedi ennill statws Lefel 3 yn y cynllun er mwyn ei gyflawni. 

Cododd llawer o gyfranogwyr eu bod wedi cael problemau gyda'r cynllun presennol, yn enwedig ar y lefelau is a drafodir isod.

Roedd y cysyniad o gael sicrwydd o gyfweliad ar gyfer ymgeiswyr anabl wrth wneud cais am swyddi yn cael ei ystyried fel mantais. Er bod gan rai cyfranogwyr brofiad o sefyllfa lle nad oedd hyn wedi cael ei anrhydeddu. 

Roedd y cyfranogwyr o’r farn y gallai arddangos logo’r cynllun Hyderus o ran Anabledd ar hysbysebion swyddi fod yn fanteisiol i bobl anabl pe bai'n dangos y byddai rhai disgwyliadau cyflogaeth sylfaenol yn cael eu bodloni. Fodd bynnag, er bod rhywfaint o hyder ymhlith cyfranogwyr y gallai cyflogwyr Lefel 3 fodloni'r disgwyliad hwn, roedd llai o hyder yn y cyflogwyr lefel is. 

Roedd y cyfranogwyr ar draws y tri grŵp ffocws yn credu nad oedd lefelau is (lefelau 1 a 2) y Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd presennol yn cael eu hystyried yn ddigon heriol a’u bod yn cynrychioli safon isafswm. Ystyriwyd nad oedd y lefelau is yn darparu digon o gefnogaeth ac arweiniad i gyflogwyr. Credwyd bod hyn yn golygu bod rhai cyflogwyr heb ddeall yn llawn beth maen nhw wedi cofrestru i'w gyflawni. Roedd y cyfranogwyr yn teimlo bod diffyg dealltwriaeth ymhlith cyflogwyr o'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu yn y gweithle ac o'r cynllun ei hun. 

Roedd cyfranogwyr yr ymchwil yn credu bod y 'safon sylfaenol' hon o bosibl yn rhoi ymdeimlad ffug o ddiogelwch i gyflogwyr a phobl anabl sy'n chwilio am waith. 

Dywedodd cynrychiolwyr Sefydliadau Pobl Anabl nad yw rhai cyflogwyr bob amser yn deall yn glir beth yw’r rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl yn y farchnad lafur ac efallai y byddant yn meddwl bod eu harferion recriwtio yn gwbl hygyrch, ond nid yw hyn bob amser yn wir. 

Nid oedd lefelau is y cynllun yn cael eu hystyried yn ddigon cadarn gan fod gofyn i gyflogwyr hunanasesu ar y lefelau hyn ac nid oes unrhyw fonitro, gwerthuso nac achredu allanol.

Disgrifiwyd y cynllun presennol gan lawer o’r cyfranogwyr fel 'ymarferiad blwch ticio', 'ddim yn addas i'r diben' ac fe'i cymharwyd yn anffafriol â chynlluniau cyflogwyr eraill. Roedd cynlluniau tebyg eraill ar gyfer pobl â gwahanol nodweddion gwarchodedig, er enghraifft cynlluniau penodol LHDTC+, yn cael eu hystyried yn rhai mwy effeithiol, heriol a chadarn. Bu trafod bod pobl â phrofiad bywyd fel arfer yn rhan o sefydlu, rheoli a gwerthuso'r cynlluniau hyn. 

Ystyriwyd bod diffyg pwyslais ar ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad bywyd i geisio cael adborth ganddynt ynghylch pa mor dda oedd y cynllun yn gweithio iddynt ar hyn o bryd. Roedd hyn yn cael ei ystyried yn hanfodol gan mai pobl anabl yw'r rhai y tybir eu bod yn cael budd o’r cynllun.

Tynnodd y cyflogwyr a gymerodd ran yn yr ymchwil sylw at eu dymuniad i ddysgu a gwella’n barhaus. Roedd rhai cyflogwyr yn credu bod canllawiau’r cynllun cyfredol yn canolbwyntio ar gamau yr oeddent eisoes wedi'u cymryd. 

Roedd y cyfranogwyr yn credu bod y cyllid a’r cymorth a roddir i gyflogwyr weithiau’n amrywio. Rhoddodd rhai cyflogwyr enghreifftiau o gymorth da gan yr Adran Gwaith a Phensiynau mewn rhai ardaloedd daearyddol, tra bod eraill yn dweud iddynt gael trafferth cael y cymorth hwnnw.

Tynnodd rhai cyfranogwyr sylw at brofiadau 'ofnadwy' mewn cyflogaeth yr oedd pobl anabl wedi'u hwynebu yn hanesyddol. Mae'r diffyg dilyniant i gyflogwyr sy'n rhan o'r cynllun yn golygu nad yw rhai’n cael eu dwyn i gyfrif ar hyn o bryd, a all arwain at ailadrodd profiadau gwael i bobl anabl yn y gweithlu. 

Awgrymiadau rhanddeiliaid am sut i wella'r cynllun presennol

Rhannodd cyfranogwyr y grwpiau ffocws awgrymiadau am sut i wella'r cynllun presennol a oedd yn cynnwys: 

  • cynyddu adnoddau fel staff, cyllid a chapasiti ymhlith rhanddeiliaid i fynd i'r afael â'r problemau a nodwyd gan yr ymchwil a sicrhau bod gwelliannau yn barhaus ac ystyrlon
  • un enghraifft a gynigiwyd oedd y gellid darparu adnoddau ychwanegol i Sefydliadau Pobl Anabl weithio'n fwy uniongyrchol gyda chyflogwyr i roi cyngor ac arweiniad
  • monitro cynnydd yn gadarn a rheolaidd yn erbyn meincnodau mesuradwy y cytunwyd arnynt ar draws pob lefel i gynyddu hyder ac i ddangos canlyniadau gwell i bobl anabl yn y gweithlu
  • gwerthusiad annibynnol ar bob lefel lle gallai pobl â phrofiad bywyd chwarae rôl efallai, o ystyried mai nhw yw’r rhai y tybir eu bod yn cael y budd o’r cynllun
  • awgrymwyd y gallai Sefydliadau Pobl Anabl o bosibl ffurfio bwrdd cynghori gyda Llywodraeth Cymru ac adeiladu ar waith yr Hyrwyddwyr Anabledd i ymgymryd â gweithgarwch gwerthuso
  • mwy o gyfleoedd ar gyfer dysgu ar y cyd ymhlith rhanddeiliaid
  • mwy o ymgysylltu ar lefel ranbarthol rhwng Sefydliadau Pobl Anabl, sefydliadau'r trydydd sector, cyflogwyr ac undebau llafur

Un o egwyddorion sylfaenol unrhyw welliant a nodwyd oedd ymgysylltu â phobl anabl oedd â phrofiad bywyd. Mae angen i gyflogwyr ddeall yn llawn beth yw'r rhwystrau i bobl anabl, a sut mae adnabod arfer da. Credwyd bod angen i'r cynllun presennol osod uchelgeisiau uwch ar gyfer newid ar draws pob lefel. 

Dywedodd cynrychiolwyr yr Undebau Llafur y byddent yn hoffi cael mwy o ran mewn unrhyw gynllun a weithredir yn y dyfodol. Ystyriwyd bod eu rhwydwaith o gynrychiolwyr undeb yn y gweithle yn ffynhonnell bosibl o gefnogaeth ac addysg i gyflogwyr a phobl anabl fel ei gilydd.

Ystyriwyd bod y ddeddfwriaeth gyfredol yn rhwystr strwythurol. Gwnaeth cyfranogwyr yr undebau llafur y sylw bod y ddeddfwriaeth yn aml yn canolbwyntio mwy ar achosion unigol o wahaniaethu ar sail anabledd yn hytrach na mynd i'r afael â rhwystrau ar draws sectorau. Rhannodd y cyfranogwyr uchelgais i’r rhanddeiliaid fod yn gweithio mwy gyda'i gilydd yn y dyfodol i ganfod atebion ar y cyd. Dywedodd y cyfranogwyr ar draws y grwpiau ffocws fod angen gweithdrefn adrodd gryfach i sicrhau atebolrwydd a gonestrwydd cyflogwyr. 

Ystyriodd y cyfranogwyr rôl yr Adran Gwaith a Phensiynau, o ystyried mai hwy yw perchennog presennol y cynllun. Credwyd y byddai angen gwella ymddiriedaeth a’r berthynas gyda nhw er mwyn i gydweithio greu gwelliannau. Fodd bynnag, soniodd y cyfranogwyr y gallai trefniadau amgen ar gyfer cynnal y cynllun fod yn opsiwn gwell os nad yw cydweithio effeithiol rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r rhanddeiliaid yn bosibl. 

Awgrymwyd y gallai Llywodraeth Cymru chwarae rôl fwy gweithredol efallai mewn cynllun yn y dyfodol neu gynllun diwygiedig. Byddai hyn o bosibl yn galluogi rhwydweithiau lleol o rhanddeiliaid i gydweithio. Arweiniodd hyn at ddadl bellach ynglŷn â manteision a heriau posibl cynllun cyflogwyr pwrpasol i Gymru fel y trafodir isod. 

Manteision a heriau posibl cynllun i Gymru neu elfen ddatganoledig o fewn cynllun cenedlaethol

Mae’r dystiolaeth o'r ymchwil yn awgrymu cefnogaeth gymysg i gynllun newydd i Gymru neu elfen ddatganoledig o fewn cynllun ledled y DU. Gallai hyn fod yn rhan o unrhyw gyfrifoldebau datganoledig i sicrhau bod y cynllun yn ystyried anghenion rhanbarthol ac yn caniatáu mwy o gyfranogiad cymunedol. Rhoddwyd ystyriaeth i’r manteision a’r heriau posibl sy'n gysylltiedig â hyn. 

Roedd un o fanteision posibl datganoli rhywfaint neu'r cyfan o gynllun Hyderus o ran Anabledd i Gymru, a godwyd gan gyfranogwyr y grwpiau ffocws, yn cynnwys sefydlu fforwm penodol o arweinwyr yng Nghymru. Ystyriwyd y gallai'r fforwm hwn gael y fantais o godi uchelgais a darparu rhwydwaith lleol i arweinwyr herio ei gilydd a rhannu arfer da.  Awgrymwyd y gallai hyn gynnwys cydweithio â Sefydliadau Pobl Anabl, Grwpiau Amhariad ac undebau llafur.

Cydnabuwyd y gallai dimensiwn Cymreig i gynllun cyflogwr integreiddio siaradwyr Cymraeg yn well a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg. Gallai cynllun sy'n ystyried dimensiwn penodol Cymreig ddeall patrymau cyflogi rhanbarthol yn well efallai yn ogystal â’r rhwystrau economaidd sy'n wynebu pobl anabl. 

Amlygodd rhai cyfranogwyr bryder nad oedd llawer o gyflogwyr yng Nghymru wedi ennill statws arweinydd Lefel 3 hyd yn hyn. Felly, ystyriwyd bod cymorth lleol yn ffordd bosibl o gynyddu nifer y cyflogwyr yng Nghymru yn y sector preifat a chyhoeddus sy'n cyflawni statws arweinydd. 

Roedd rhai pobl anabl a Sefydliadau Pobl Anabl yn teimlo bod lefelau ymddiriedaeth gyda Llywodraeth Cymru yn uwch na'r lefelau gyda Llywodraeth y DU. Ystyriwyd hefyd y gallai cael elfen Gymreig bwrpasol roi cyfle newydd ar gyfer 'newid diwylliannol'. Dywedodd un cyfranogwr y byddai hyn yn cynnig y cyfle i ddiwygio o'r gwaelod i fyny a gweithio'n gydgynhyrchiol gyda phobl anabl. 

Awgrymwyd y gallai hyn gynnwys ailfrandio'r cynllun yn llwyr heb iddo fod yn cyd-fynd â’r Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn sicrhau mwy o hyder ac ymddiriedaeth yn y cynllun. 

Awgrymwyd y gallai elfen Gymreig bwrpasol gydredeg efallai â'r broses gaffael gyhoeddus yng Nghymru a allai gael ei defnyddio fel ffordd i ennyn diddordeb mwy o gyflogwyr. Er enghraifft, gellid gosod safon ansawdd sylfaenol i sicrhau y byddai'n rhaid i unrhyw gyflogwyr sy'n cynnig am gontractau'r sector cyhoeddus ei arddangos yn ymarferol. 

Roedd yr heriau posibl a amlygwyd yn cynnwys materion ymarferol fel cyllid a chapasiti. Cododd y cyfranogwyr y byddai angen mwy o fuddsoddiad yng Nghymru i wella capasiti’r  rhanddeiliaid, yn enwedig ar gyfer Sefydliadau Pobl Anabl a Grwpiau Amhariad. 

Awgrymwyd hefyd y gallai cael cynllun Cymreig pwrpasol ochr yn ochr â chynllun cyflogwr cenedlaethol y DU achosi rhywfaint o ddryswch, yn enwedig i gyflogwyr sy'n gweithredu ledled y DU. 

Cwestiynodd rhai cyfranogwyr pa mor ymarferol oedd cyflawni hyn mewn termau real. Roedd rhai cyfranogwyr yn teimlo y gellid defnyddio’r ymdrech yn well yn ceisio gwella neu adeiladu ar y cynllun presennol yn hytrach na dargyfeirio adnoddau oddi wrtho o bosibl. 

Ar y cyfan, roedd y cyfranogwyr yn teimlo bod cyfleoedd clir a manteision posibl i gynllun Cymreig pwrpasol, ar y llaw arall roedd cefnogaeth gref hefyd i gynyddu'r adnoddau sydd ar gael a gwneud gwelliannau i'r cynllun presennol yn hytrach na datblygu rhywbeth newydd.

Cefndir

Rhagair gan arweinydd polisi'r Tasglu Hawliau Anabledd

Ym mis Gorffennaf 2021, amlygodd adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 yr anghydraddoldeb sy’n wynebu pobl anabl mewn cymdeithasUn o ymatebion Llywodraeth Cymru i'r adroddiad oedd sefydlu'r Tasglu Hawliau Anabledd, sef partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a phobl anabl. Roedd y Tasglu’n gweithredu ar egwyddor cydgynhyrchu, gyda mwy na 200 o swyddogion polisi Llywodraeth Cymru a 350 o rhanddeiliaid allanol yn cydweithio i ddatblygu argymhellion, gyda'r nod o wella’r canlyniadau i bob person anabl yng Nghymru. Defnyddiwyd yr argymhellion hyn fel sail i ganlyniadau a chamau gweithredu’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl.

Y rhesymeg ar gyfer cydgynhyrchu wrth wneud yr ymchwil

Ym mis Medi 2023, cytunodd y THA i gydweithio â'r Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd (ERDEU) gyda'r nod o gydgynhyrchu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR) wedi'i llywio gan brofiad bywyd. Byddai'n profi i ba raddau y gellir cydgynhyrchu GSR, gan gydweithio i ymdopi â’r rhwystrau a chroesawu galluogwyr newid.

Nod yr ymchwil oedd profi ffordd amgen o gynnal ymchwil ar y cyd â chynrychiolwyr pobl anabl ac yn unol ag egwyddorion y model cymdeithasol o anabledd. Nodir mai ‘cydgynhyrchydd’ yw aelod o'r tîm traws-sector a gydweithiodd i greu prototeip o adroddiad GSR sydd wedi’i gydgynhyrchu.

Nod yr ymchwil oedd galluogi cyflawni cenhadaeth ERDEU, sef 'gwella argaeledd, ansawdd, gronynnedd a hygyrchedd tystiolaeth am unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig fel ein bod yn deall lefel a mathau o anghydraddoldeb yng Nghymru yn llawn.'

Yr uchelgais, fel rhan o gyfrannu at Gymru fwy cyfartal, oedd galluogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddatblygu polisïau sy’n seiliedig ar well gwybodaeth a sbarduno canlyniadau gwell i bobl. 

Bwriad yr ymchwil oedd cryfhau gwaddol y THA trwy archwilio'r argymhellion ymhellach. Dewiswyd dau argymhelliad gan Gadeiryddion y THA i ymchwilio iddynt, gan gynnwys un gan y Grŵp Cyflogaeth ac Incwm sy'n ganolbwynt i’r adroddiad hwn..

Profiad bywyd pobl anabl: nodyn gan gadeirydd y Gweithgor Cyflogaeth ac Incwm

Mae'r adran hon yn cynnwys crynodeb o'r prif bwyntiau trafod gan 'Weithgor Cyflogaeth ac Incwm' y THA a gyfarfu chwe gwaith rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr 2023. Roedd y gweithgor yn cynnwys pobl anabl a sefydliadau sy'n eu cynrychioli, swyddogion polisi Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr undebau llafur, cyflogwyr ac academyddion. Cafodd argymhellion eu cyd-greu gan y gweithgor ac yna eu cyflwyno i'r THA llawn. Aeth y Gweinidog sy'n gyfrifol am gyflogaeth i’r cyfarfod olaf. 

Roedd cyfarfodydd y gweithgor yn archwilio ystod o rwystrau sy'n wynebu pobl anabl mewn perthynas â chyflogaeth ac incwm. Rhannodd pobl anabl eu profiadau bywyd o geisio cael gwaith ac aros mewn gwaith. Ymhlith y themâu a ddaeth i'r amlwg o'r profiadau hyn oedd diffyg dealltwriaeth cyflogwyr o'r Ddeddf Cydraddoldeb (2010), yn enwedig y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol. Trafodwyd hefyd brinder darpariaeth trefniadau gweithio hyblyg, diffyg cymorth a hyfforddiant wedi'u teilwra, dyluniad swyddi anhyblyg ac agweddau negyddol tuag at bobl anabl. Lleisiodd llawer o gyfranogwyr anabl eu bod yn amharod i nodi eu hunan fel pobl anabl oherwydd ofn, gwahaniaethu a diffyg dealltwriaeth o hawliau yn y gweithle. 

Trafodwyd dwy o fentrau presennol y llywodraeth gan y gweithgor: Cynllun Mynediad at Waith Llywodraeth y DU a'i Chynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Mewn perthynas â’r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, roedd aelodau'r gweithgor yn teimlo nad oedd gan y cynllun hygrededd, ar ei ffurf bresennol, a bod angen ei ddiwygio. 

Cytunodd aelodau'r gweithgor fod cynllun cyflogwr sy’n esgor ar well arferion cyflogaeth i bobl anabl yn syniad da mewn egwyddor. Fodd bynnag, nid oedd gan lawer o bobl anabl fawr o hyder bod cynllun presennol Hyderus o ran Anabledd yn cyflawni hyn. 

Mae gan y cynllun dair lefel. Ystyrir nad yw lefelau 1 a 2 yn 'addas i'r diben' nac yn 'heriol'. Gellir cyflawni'r ddau hefyd trwy hunanasesiad gan y cyflogwr yn hytrach nag arolygiad ac achrediad allanol. Ystyrir bod Lefel 3 yn fwy cynhwysfawr a’i bod yn mynnu llawer mwy o waith i gyflogwyr. Mae gwerthuso ac arolygu yn elfen, er bod y rhain yn cael eu cynnal gan sefydliad Lefel 3 arall o fewn y cynllun, nid corff annibynnol a oedd â hyder pob person anabl. Roedd y diffyg ymdrech sy'n ofynnol gan gyflogwyr i gyflawni Lefel 1 y cynllun yn cael ei ystyried yn arbennig o nawddoglyd ac yn drech na diben y cynllun. Mewn cyferbyniad, mae Lefel 3 yn gofyn am fwy o ymrwymiad gan gyflogwyr, ond nodwyd mai dim ond 40 o gyflogwyr yng Nghymru sydd wedi cyflawni statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd Lefel 3 ar hyn o bryd, a dim ond 12 yn y sector preifat. Dylid nodi y gallai'r ffigurau hyn fod wedi cynyddu ers i'r argymhelliad gwreiddiol gael ei wneud. 

Awgrymodd aelodau'r gweithgor fod angen i gynllun presennol Hyderus o ran Anabledd fod yn fwy trylwyr, cynnwys mwy o bobl anabl a sefydliadau sy'n eu cynrychioli mewn gwerthusiadau a dangos manteision go iawn i bobl anabl. Fe wnaethant gynnig syniadau newydd ar gyfer y cynllun, fel nod barcud cyflogwr penodol ar gyfer Cymru, cynllun gwell gydag elfen Gymreig neu geisio gwelliannau i'r cynllun presennol ledled y DU. Mynegwyd pryderon gan rai nad oedd unrhyw adnoddau pwrpasol ar lefel ranbarthol ar hyn o bryd i wella'r cynllun yn y modd hwn, ac er mwyn iddo fod yn gadarn, y byddai angen y rhain. Y posibiliadau a’r cyfyngiadau posibl o ddiwygio'r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd presennol yw sail y prosiect ymchwil hwn. Hoffwn ddiolch i holl aelodau’r Gweithgor am eu cyfraniadau a’u syniadau a wnaeth ysbrydoli’r gwaith ymchwil hwn.

Y ffigurau diweddaraf ynghylch pobl anabl mewn cyflogaeth

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024 yng Nghymru, roedd 50.9% o bobl anabl mewn cyflogaeth (16-64 oed) o'u cymharu ag 81.6% o bobl nad ydynt yn anabl. Roedd y bwlch cyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl anabl yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024 yn 30.7 pwynt canran.

Yn ogystal â hyn, yn 2022-23, roedd pobl anabl neu bobl â salwch cyfyngus hirsefydlog yn fwy na dwywaith mor debygol o fyw mewn cartref a oedd mewn amddifadedd materol na'r rhai nad ydynt yn anabl. Roedd un o bob pedwar o bobl anabl neu bobl â salwch cyfyngus hirsefydlog (25%) yn byw mewn cartref a oedd mewn amddifadedd materol o'u cymharu ag 11% o bobl nad ydynt yn anabl.

Ar gyfer pobl anabl mewn cyflogaeth, y gwahaniaeth cyflog rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yng Nghymru oedd £1.75 (12.2%) yn 2023. Mae hyn yn golygu bod pobl anabl yng Nghymru yn ennill, ar gyfartaledd, £1.75 yn llai yr awr na phobl nad ydynt yn anabl.

Trosolwg o’r ymchwil

Nod yr ymchwil oedd archwilio ymhellach argymhellion Gweithgor y THA yn ymwneud â'r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd fel y disgrifiwyd uchod gydag ystod o rhanddeiliaid. Cynhaliwyd tri grŵp ffocws gyda chyflogwyr, undebau llafur a chynrychiolwyr Sefydliadau Pobl Anabl a Grwpiau Amhariad. 

Diffinnir SPA, Sefydliad Pobl Anabl, fel 'sefydliad sy'n cael ei arwain, ei gyfarwyddo a'i lywodraethu gan bobl anabl, gydag ymrwymiad i'r model cymdeithasol o anabledd a hyrwyddo hawliau dynol i unigolion anabl'. 

Gellir diffinio GA, Grŵp Amhariad, yn fras fel 'sefydliad sydd â’r diben o hyrwyddo buddiannau pobl ag amhariad penodol, nad yw'n cael ei redeg a'i lywodraethu yn llwyr, neu o gwbl, gan bobl anabl'. Sefydlwyd rhai o’r Grwpiau hyn i fynd i'r afael â'r problemau canfyddedig sy'n gysylltiedig â bod â chyflwr meddygol a defnyddio model meddygol o anabledd. Mae rhai Grwpiau Amhariad yn cydnabod manteision model cymdeithasol.     

Cydgynlluniwyd themâu trafod y Grwpiau Ffocws gyda'r nod o archwilio sut y gellid gwella'r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd presennol a pha fodelau o’i gyflwyno a allai fod yn ddefnyddiol. Y cwestiynau ymchwil oedd:

  • sut fyddai bob un o'r tri opsiwn canlynol yn gweithio?
    • datblygu nod barcud cyflogwr penodol i Gymru?
    • gwella'r cynllun presennol gydag elfen Gymreig iddo?
    • dylanwadu ar Lywodraeth y DU sy’n dod i mewn i newid cynllun y DU gyfan?

Cytunodd y tîm ymchwil ei bod yn bwysig ystyried:

  • o’i gymharu â'r cynllun presennol, beth yw manteision ac anfanteision cymharol pob un?
  • beth yw'r costau a’r buddion economaidd posibl i bobl anabl, cyflogwyr a'r economi ehangach?
  • beth yw'r heriau a'r cyfleoedd ar gyfer gweithredu?

Cydhwyluswyd trafodaethau’r Grwpiau Ffocws a chaniatawyd iddynt lifo er mwyn clywed am y meysydd oedd o’r diddordeb mwyaf i’r cyfranogwyr ac oedd fwyaf o fewn eu profiad. Roedd y data a gasglwyd fesul thema ac fe’i cyflwynir fel gwybodaeth sy’n rhoi mewnwelediad ynghylch y cynllun presennol ac yn archwilio'r potensial ar gyfer modelau amgen sy'n fwy pwrpasol i ddiwallu anghenion pobl anabl a sefydliadau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys:

  • profiadau o'r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd presennol a barn rhanddeiliaid am sut i wella'r cynllun presennol
  • rhwystrau posibl rhag diwygio'r cynllun presennol
  • creu cynllun cyflogwr Cymreig annibynnol i Gymru neu elfen ddatganoledig o fewn cynllun cenedlaethol y DU a manteision a heriau posibl hyn
  • problemau cyflogaeth sy’n wynebu pobl anabl y byddai angen i gynllun fynd i'r afael â nhw yn y dyfodol

Daeth cyfranogwyr yr ymchwil â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad ynglŷn â'r cynllun a'r materion sy’n wynebu pobl anabl mewn cyflogaeth. Fodd bynnag, dylid cydnabod mai darn cyfyngedig o ymchwil yw hwn nad oedd yn anelu at werthuso'r cynllun cyfredol yn llawn, ond yn hytrach archwilio'r opsiynau a drafodwyd gan weithgor y THA. Nid yw'r sampl yn gwbl gynrychioliadol o bob math o gyflogwyr, ac nid oedd yn cynnwys barn adran Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gynnal y cynllun presennol. Mae adran fethodoleg yr adroddiad hwn yn amlinellu'r dulliau ymchwil yn fanylach ymhellach, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau methodolegol.

Cyd-destun polisi

Mae maes polisi cyflogaeth pobl anabl yng Nghymru yn gymhleth. Mae deddfwriaeth cyflogaeth wedi'i gadw gan Lywodraeth y DU sy'n golygu bod pwerau Llywodraeth Cymru wedi'u cyfyngu i raddau helaeth i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda chyflogwyr ac undebau llafur i newid diwylliant ac ymddygiad, creu mwy o arfer da, a defnyddio eu perthynas â nhw i hyrwyddo'r model cymdeithasol o anabledd.               

Fodd bynnag, gallai newidiadau diweddar ar lefel y DU a lefel ddatganoledig helpu i gyflawni newid pellach. Mae hyn yn cynnwys: 

  • Bil Hawliau Cyflogaeth a Bil Cydraddoldeb (Hil ac Anabledd) arfaethedig a pherthynas gryfach â’r Adran Gwaith a Phensiynau, i weithio'n fwy cydweithredol i fanteisio ar safbwynt polisi sy’n cydredeg fwyfwy
  • mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fabwysiadu dull cydgynhyrchiol a defnyddio profiad bywyd i lywio datblygiad polisi, yn enwedig drwy'r THA a sefydlu'r DDEU, yn cyflwyno cyfleoedd gwerthfawr i gryfhau polisi cyflogaeth pobl anabl Llywodraeth Cymru
  • mae sefydlu tîm parhaol o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl yn gwella gallu Llywodraeth Cymru i weithio'n strategol gyda phartneriaid a chyflogwyr i wella rhagolygon cyflogaeth pobl anabl

Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cyflogi tîm o bum Hyrwyddwr Cyflogaeth Pobl Anabl.

Mae'r Hyrwyddwyr yn cynorthwyo i gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau cyflogaeth i bobl anabl fel y nodir yn rhaglen Llywodraeth Cymru: 

Un o rolau’r Hyrwyddwyr yw ymgysylltu â chyflogwyr mawr, sefydliadau cynrychioli cyflogwyr ac undebau llafur, gyda'r nod o hyrwyddo recriwtio a chadw pobl anabl, hybu ymwybyddiaeth o'r model cymdeithasol o anabledd, hyrwyddo'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd a gwella profiad pobl anabl o waith a’u rhagolygon gyrfa.

Mae eu gwaith yn ategu gwaith Cynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru sy'n ymgymryd â rôl debyg gan ganolbwyntio ar fusnesau newydd a busnesau bach a chanolig (BBaChau). 

Mae dros 250,000 o fentrau gweithredol yng Nghymru, gyda’r Hyrwyddwyr yn canolbwyntio eu hamser a'u hymdrechion ar berthnasoedd 'un-i-lawer', yn hytrach na pherthnasoedd 'un-i-un' gyda chyflogwyr unigol. Cyflawnir hyn trwy weithio gyda chyrff cynrychioli cyflogwyr, sefydliadau'r sector cyhoeddus a phartneriaethau cymdeithasol. 

Gwaith Teg

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o agenda gwaith teg Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ystod o weithgareddau yn y maes hwn a fydd yn cael effaith gadarnhaol dros y tymor hwy ar gyfleoedd a chanlyniadau cyflogaeth i bobl anabl ac eraill sydd â nodweddion gwarchodedig. Mae hyn yn cynnwys: 

  • gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i gyflogwyr: gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i ysgogi newidiadau mewn diwylliant ac ymddygiad, ac i hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o waith teg a manteision gweithlu amrywiol
  • gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i weithwyr: hybu ymwybyddiaeth o hawliau yn y gweithle, gan adeiladu ar ymgyrchoedd blaenorol drwy ddatblygu adnoddau ar-lein sy'n rhoi cyngor ac arweiniad ac yn cyfeirio pobl at wasanaethau arbenigol
  • ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch hawliau gweithwyr sydd wedi eu cadw ganddynt a galw am amddiffyniadau ychwanegol a gorfodi mwy effeithiol
  • hyrwyddo pobl i gael cysylltiad ag undebau llafur ac ymaelodi â nhw fel modd o amddiffyn hawliau gweithwyr anabl
  • uchelgais cynyddol i wella cyrhaeddiad ac effaith y Contract Economaidd a'n Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi

Cyflogadwyedd a Sgiliau

Mae'r cymorth i unigolion gael gwaith a datblygu yn y gwaith, yn ogystal â chymorth wedi'i dargedu i bobl anabl, wedi'i nodi yn "Cymru gryfach, decach, wyrddach: cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau". Mae hyn yn cynnwys ystod o raglenni cyflogadwyedd.

Dros y misoedd diwethaf, mae gwaith wedi dechrau i ddatblygu Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd a fydd yn dod â rhaglenni cyflogadwyedd (ReAct+, Twf Swyddi Cymru + a Chymunedau am Waith) at ei gilydd. Dros y misoedd nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phartneriaid ar y Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd a'i rhyngwyneb â rhaglenni cyflogadwyedd eraill sy'n cael eu cyflwyno yng Nghymru.

Ers i'r gwaith hwn ddechrau, mae Llywodraeth y DU wedi datgan ei bwriad i ddatganoli cyllid cymorth cyflogaeth nad yw'n perthyn i’r Ganolfan Byd Gwaith i Lywodraeth Cymru fel y gall lunio cynnig gwaith, iechyd a sgiliau cydgysylltiedig i bobl leol, gan gynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig. Ar hyn o bryd mae Swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda swyddogion yr Adran Gwaith a Phensiynau i roi gwybodaeth ar gyfer yr hyn y dylid canolbwyntio arno wrth gyflwyno rhaglen arfaethedig yr adran honno sef Trailblazer, (sy'n canolbwyntio ar anweithgarwch economaidd). Bydd y cydweithio cadarnhaol hwn rhwng swyddogion yn sicrhau bod y rhaglen yn croesawu dulliau arloesol wrth gefnogi pobl i fynd yn ôl i'r gweithle.

Er bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddatganoli'r holl gymorth cyflogaeth nad yw’n perthyn i’r Ganolfan Byd Gwaith i Gymru, mae’n ddyddiau cynnar iawn ar drafodaethau swyddogion am yr hyn y gallai hynny ei olygu i Gymru.

Methodoleg

Mae'r bennod hon yn nodi'r dulliau a'r gweithgarwch ymchwil a gynhaliwyd.

Trosolwg

Cynhaliwyd tri grŵp ffocws ym mis Gorffennaf 2024 ac fe’u hwyluswyd gan y tîm cydgynhyrchu a oedd yn cynnwys pobl anabl a oedd yn aelodau o'r THA a Swyddogion Llywodraeth Cymru. 

Roedd 25 o gyfranogwyr yn y grwpiau ffocws. Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys cyflogwyr (9 cyfranogwr), cynrychiolwyr undebau llafur (5 cyfranogwr), cynrychiolwyr SPA a chynrychiolwyr GA (11 cyfranogwr gyda’i gilydd). Y bwriad gwreiddiol oedd gwahodd 10 i 12 cyfranogwr fesul grŵp ffocws. Yn ogystal, gweithredodd 5 o gadeiryddion gweithgorau’r THA a myfyriwr PhD fel hwyluswyr a chydhwyluswyr a bu rhai’n cyfrannu at drafodaethau’r grwpiau ffocws gan eu bod yn cynnig profiad bywyd ac arbenigedd.

Mabwysiadwyd dull samplu pwrpasol i fynd ati’n fwriadol i ddewis cyfranogwyr gyda nodweddion penodol a phrofiadau unigryw yn gysylltiedig â'r cwestiynau ymchwil. Roedd y cyfranogwyr a ddewiswyd yn cynrychioli cyfoeth o brofiad a gwybodaeth am y Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd a materion cyflogaeth sy'n effeithio ar bobl anabl a chyflogaeth. 

Tynnwyd cysylltiadau ar gyfer cyflogwyr o Gymru o gronfa ddata’r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd sydd ar gael i'r cyhoedd. Gweithiodd ymchwilwyr Llywodraeth Cymru gyda hyrwyddwr anabledd i samplu’n fwriadol gyflogwyr ag ystod o brofiadau a safbwyntiau yn seiliedig ar eu statws. Anfonwyd gwahoddiadau hefyd at aelodau Grŵp Cydraddoldeb Undebau Llafur Cymru (TUC) drwy ysgrifennydd y grŵp. Yn ogystal, bu aelodau o'r tîm cydgynhyrchu’n cysylltu â phobl oedd yn hysbys fel cynrychiolwyr undebau. Ar gyfer Sefydliadau Pobl Anabl a Grwpiau Amhariad, defnyddiwyd rhestr o gyfranogwyr o weithgorau’r THA i nodi pobl a allai fod yn gyfranogwyr. Gweithiodd hyn yn dda i gylchredeg y gwahoddiad i sefydliadau sy'n cynrychioli pobl anabl ag ystod o amhariadau. 

Cynhaliwyd y grwpiau ffocws yn rhithwir i alluogi pobl o bob cwr o Gymru i gymryd rhan. Gofynnwyd i’r cyfranogwyr nodi unrhyw ofynion hygyrchedd ymlaen llaw. Rhoddwyd y canllaw i’r pwnc trafod y cytunwyd arno ymlaen llaw i'r cyfranogwyr hefyd. Hwyluswyd y grwpiau ffocws gan Gadeirydd Gweithgor Cyflogaeth ac Incwm y THA sydd hefyd yn arbenigwr academaidd yn y pwnc hwn ac fe’u cydhwyluswyd gan gadeiryddion eraill y THA yn y tîm.

Cafodd y canllaw pwnc ei gydgynhyrchu gan y tîm cydgynhyrchu ac roedd y cwestiynau ymchwil fel a ganlyn: 

  • sut fyddai bob un o'r tri opsiwn canlynol yn gweithio?
  • datblygu nod barcud cyflogwr penodol i Gymru?
  • gwella'r cynllun presennol gydag elfen Gymreig iddo?
  • dylanwadu ar Lywodraeth y DU sy’n dod i mewn i newid cynllun y DU gyfan?
  • o’i gymharu â'r cynllun presennol, beth yw manteision ac anfanteision cymharol pob un?
  • beth yw'r costau a’r buddion economaidd posibl i bobl anabl, cyflogwyr a'r economi ehangach?
  • beth yw'r heriau a'r cyfleoedd ar gyfer gweithredu?

Mabwysiadwyd dull digynllun a oedd yn caniatáu i drafodaethau’r grwpiau ffocws lifo er mwyn manteisio ar y meysydd o ddiddordeb mwyaf i’r cyfranogwyr a oedd fwyaf o fewn eu profiad. Mae grŵp ffocws yn ddull ymchwil a ddefnyddir yn gyffredin i gael data ansoddol a chaniatáu archwiliad manwl o bwnc y cytunwyd arno. Fel y nodir yn y Llyfr Magenta, mae'r dull ymchwil hwn yn caniatáu i'r hwylusydd rywfaint o hyblygrwydd i holi a mwy o amser i archwilio barn cyfranogwyr. Mae grŵp ffocws hefyd yn helpu i ddeall nid yn unig 'beth' sydd wedi gweithio ond 'pam' a 'sut' y cafwyd profiad penodol o ymyriad.

Gall fod risg o ragfarn gyda'r dull hwn, er enghraifft efallai y bydd rhai rhanddeiliaid yn fwy neu lai parod i gymryd rhan mewn grŵp ffocws nag eraill. Mae angen cymedroli gofalus ar grwpiau ffocws hefyd i sicrhau bod pob cyfranogwr yn cael cyfle cyfartal i gyfleu ei farn. Roedd rhai cyfranogwyr wedi bod yn rhan o weithgor y THA o’r blaen, felly byddant wedi cael rhywfaint o ran yn natblygiad yr argymhelliad gwreiddiol. 

Roedd hwyluswyr y grwpiau ffocws yn bobl anabl a oedd yn aelodau o'r tîm cydgynhyrchu ac roedd ganddynt ddealltwriaeth glir o'r materion dan sylw. Sicrhaodd Ymchwilwyr Cymdeithasol y Llywodraeth ansawdd y canllaw pwnc i sicrhau bod safonau GSR yn cael eu dilyn drwyddi draw. 

Mae cyfyngiad methodolegol ychwanegol i ddefnyddio grwpiau ffocws. Nid yw'r sampl yn sampl gynrychioladol. Fodd bynnag, yr hyn y mae'r dull ymchwil hwn yn ei gynnig yn aml yw mewnwelediadau cyfoethog ac amrywiol i bwnc penodol, er mwyn archwilio safbwyntiau cyfunol ac amrywiol yn fanwl. Cyflwynwyd y safbwyntiau hyn yn yr adroddiad hwn.

Dadansoddi'r data

Recordiwyd capsiynau fel y gellid cynhyrchu trawsgrifiad ar gyfer pob grŵp ffocws. Ar ôl casglu’r data fe dynnwyd manylion adnabod aelodau’r grŵp gan un o ymchwilwyr Llywodraeth Cymru ac yna cafodd ei rannu gydag aelod o'r tîm cydgynhyrchu a weithredodd fel 'cyd-ddadansoddwr' cyn rhannu’r canfyddiadau cychwynnol gyda'r tîm cydgynhyrchu ehangach.

Gwnaed dadansoddiad thematig, a dilynodd yr ymchwilydd y chwe cham dadansoddi thematig systematig fel y’i disgrifiwyd gan Naeem et al (2003) a ddatblygwyd gan dechneg Braun a Clarke (2008).

Y chwe cham

Cam 1

Cam cychwynnol lle mae ymchwilwyr yn cynnal archwiliad dwfn o’r data ac yn dewis dyfyniadau sy'n dod â'r data yn fyw ac yn adlewyrchu cwestiynau ac opsiynau’r ymchwil.

Cam 2

Yn cynnwys archwilio'r dyfyniadau a dewis geiriau allweddol sy'n eu hadlewyrchu.

Cam 3

Yna mae ymchwilwyr yn symleiddio'r geiriau allweddol trwy drosi data crai yn unedau sy’n rhoi craffter ac sy’n haws eu trin.

Cam 4

Yna trefnir codau yn grwpiau ystyrlon i nodi patrymau sy'n cysylltu â chwestiynau’r ymchwil.

Cam 5

Yyn cynnwys deall a diffinio cysyniadau sy'n dod i'r amlwg o'r data.

Cam 6

Mae’r ymchwilwyr yn creu cynrychioliad unigryw o'r data, wedi'i arwain yn aml gan ddamcaniaethau neu themâu presennol, sy’n ateb y cwestiynau ymchwil ac sy’n ddiweddglo i’r dadansoddiad

Ymgymerwyd â'r dull fesul cam hwn gan ymchwilydd o Lywodraeth Cymru ac fe'i hailadroddwyd gan ail ymchwilydd o Lywodraeth Cymru i gadarnhau bod y themâu oedd yn datblygu yn gwneud synnwyr cyn rhannu a chymharu themâu â'r cyd-ddadansoddwr.

Y broses o greu prototeip ar gyfer cydgynhyrchu

I ddechrau, disgwyliwyd y byddai'r ymchwil yn cael ei chyd-ddylunio gyda Chadeiryddion y THA a'i chyflwyno gan Ymchwilwyr Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, roedd gan Gadeiryddion y THA ddyhead i chwarae mwy o ran ac arweiniodd hyn at ddull cydgynhyrchiol a ffurfiwyd tîm cydgynhyrchu. 

Mae’r ymchwil wedi anelu at gael ei chyflwyno yn unol ag egwyddorion y model cymdeithasol o anabledd a chymerwyd camau gweithredol i ddiwallu amrywiaeth o anghenion hygyrchedd y cydgynhyrchwyr. Aeth y tîm cydgynhyrchu ati i gydweithio i sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn 'edau euraidd' trwy bob cam o'r ymchwil. Gwerthusir ar ddiwedd y prosiect i ba raddau y llwyddwyd i gydgynhyrchu. Mae cydgynhyrchu yn broses ailadroddus, a newidiodd dyluniad yr ymchwil yn ystod y prosiect. Roedd rhai elfennau o ddyluniad yr ymchwil na chafodd eu datblygu gan eu bod y tu hwnt i'r adnoddau oedd ar gael o fewn amserlen y prosiect ymchwil hwn. Roedd hyn yn cynnwys cynnal adolygiad llenyddiaeth ar raddfa lawn, gweithdy ymgynghorol gyda rhanddeiliaid a chasglu straeon gan bobl anabl o wahanol gymunedau yn ystod y gwaith maes. Roedd hyn hefyd yn cyfyngu ar y graddau y gellid triongli canfyddiadau’r ymchwil gyda ffynonellau tystiolaeth ychwanegol. Cydnabyddir fod hyn yn gyfyngiad methodolegol ar yr ymchwil hon.

Roedd y tîm cydgynhyrchu yn rhan o bob cam o'r ymchwil fel y nodir isod yn fwy manwl:

Cam cwmpasu: Roedd hyn yn cynnwys hwyluso gweithdai’r tîm cydgynhyrchu i ddeall yn well y rhesymeg dros argymhelliad Gweithgor y THA a datblygu cwestiynau ymchwil cychwynnol i ffurfio'r canllaw pwnc. Cynhaliwyd gweithdy cyd-destun polisi ac adolygu tystiolaeth gyda Swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn ystod y cam hwn. 

Cam cydgynllunio: Roedd hyn yn cynnwys cytuno ar grŵp ffocws fel y prif ddull ymchwil, cyd-ddylunio canllawiau pwnc, cyfuno cysylltiadau ac ymdrechion i recriwtio cyfranogwyr. Cynhaliwyd sesiwn weithdy i gyd-ddylunio'r dull cydhwyluso ymlaen llaw. 

Cam gwaith maes: Fel y nodwyd uchod, roedd hyn yn cynnwys tri grŵp ffocws wedi’u cydhwyluso gyda chyflogwyr, cynrychiolwyr undebau llafur a chynrychiolwyr SPA / GA. 

Cam cyd-ddadansoddi: Cafodd y data crai ei drawsgrifio gan un o ymchwilwyr Llywodraeth Cymru a wnaeth dynnu manylion adnabod ohono hefyd cyn cynnal dadansoddiad thematig. Ymgymerwyd â'r broses canfod themâu hon hefyd yn annibynnol gan ymchwilydd cymdeithasol academaidd cyn cymharu a chytuno ar themâu. 

Cam adrodd: Cafodd yr adroddiad ei ddrafftio gan ymchwilydd o Lywodraeth Cymru a sicrhawyd ei ansawdd yn erbyn safonau GSR. Rhannwyd yr adroddiad drafft gyda'r tîm cydgynhyrchu i gael ei sylwadau cyn y diwygiadau terfynol. Rhoddodd y tîm cydgynhyrchu gyngor ac arweiniad ynglŷn â fformatau hygyrch ac amlygodd yr angen i sicrhau ansawdd unrhyw allbynnau i wneud yn siŵr eu bod yn cadw at iaith y model cymdeithasol o anabledd. 

Cynigiwyd tâl fel cyfraniadau o fath arall sef hyfforddiant hwyluso a digwyddiadau dosbarth meistr gan ymgyrchwyr hawliau anabledd uchel eu parch.

Barn am y cynllun presennol

Bu cyfranogwyr y grwpiau ffocws, a oedd yn cynnwys cyflogwyr, undebau llafur, cynrychiolwyr Sefydliadau Pobl Anabl a Grwpiau Amhariad, yn ystyried manteision y cynllun a’r problemau a gafwyd gyda'r cynllun.

Manteision y cynllun cyfredol

Yn nhrafodaethau’r grwpiau ffocws, cydnabu rhai cyfranogwyr fod asesu a chraffu annibynnol ar statws Arweinydd: Lefel 3 yn sicrhau bod rhaid i sefydliadau adrodd ar y camau a gymerwyd ganddynt, ac ystyriwyd bod hyn yn agwedd gadarnhaol ar y cynllun cyfredol a oedd yn dwyn sefydliadau i gyfrif. 

Dywedodd un cyfranogwr fod y cysyniad o gael sicrwydd o gyfweliad yn elfen gadarnhaol:

Rwy'n gwybod yn bersonol gan rai o’m ffrindiau anabl eu bod wedi bod yn falch o'r gofynion i gyfweld ag ymgeiswyr anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Rwy'n credu bod hynny'n elfen ddefnyddiol ohono. Ond rwy’n credu ei bod yn fwy o fater o rai elfennau defnyddiol mewn cynllun cyffredinol nad yw’n cael ei fonitro’n briodol. (cyfranogwr grŵp SPA)

Serch hynny, roedd gan rai cyfranogwyr brofiad o sefyllfa lle nad oedd hyn wedi cael ei anrhydeddu.

Roedd y cyfranogwyr o’r farn y gallai arddangos logo’r cynllun Hyderus o ran Anabledd ar hysbysebion swyddi fod yn fanteisiol i bobl anabl pe bai'n dangos y byddai rhai disgwyliadau cyflogaeth sylfaenol yn cael eu bodloni. Fodd bynnag, er bod rhywfaint o hyder ymhlith cyfranogwyr y gallai cyflogwyr Lefel 3 fodloni'r disgwyliad hwn, roedd llai o hyder yn y cyflogwyr lefel is.

Problemau a gafwyd gyda'r cynllun cyfredol

Manylir isod ar dystiolaeth ynglŷn â phroblemau a gafwyd gyda'r cynllun cyfredol. Rhoddwyd mwy o dystiolaeth ynglŷn â’r problemau a gafwyd gyda'r cynllun presennol yn hytrach na’i fanteision. 

Roedd llawer o’r cyfranogwyr yn credu nad oedd lefelau 1 a 2 yn ddigon cadarn. Roedd hyn oherwydd y gofyniad i gyflogwyr hunanasesu unrhyw gynnydd a diffyg monitro allanol ac achrediad trwyadl trwy gydol y broses. Dywedodd un cyfranogwr ei fod fel petai cyflogwyr yn 'marcio eu gwaith cartref eu hunain'. Beirniadwyd Lefelau 1 a 2 am beidio â bod yn ddigon heriol ac am osod safon isel o ddisgwyliad i gyflogwyr. Disgrifiwyd y cynllun presennol gan lawer o’r cyfranogwyr fel 'ymarferiad blwch ticio' a 'ddim yn addas i'r diben'.

Roedden ni'n teimlo nad oedd unrhyw werth i lefel 1 neu lefel 2 oherwydd eich bod chi'n gwerthuso eich hun. (Cyfranogwr grŵp cyflogwyr)                                                   

Lleisiodd cyflogwyr Lefel 3 a gymerodd ran yn yr ymchwil y farn bod y cynllun i raddau helaeth yn achredu camau gweithredu yr oeddent eisoes wedi'u cymryd, a bod angen i'r cynllun fod yn fwy uchelgeisiol i gefnogi cyflogwyr ar bob lefel drwy ddarparu mwy o gyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu pellach. Soniodd cyfranogwyr o rai o'r Grwpiau Amhariad fod rhai cyflogwyr ar Lefel 3 wedi 'mynd eu ffordd eu hunain a chreu fframwaith newydd' gan nad oedd y cynllun presennol yn gweithio'n ddigon da iddynt. Roedd hyn oherwydd y farn nad oedd y cynllun presennol yn darparu digon o gymorth arbenigol.

Ac fe wnaethon ni ganfod yn bendant nad yw o reidrwydd yn addas i'r pwrpas ar gyfer y cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu, ac fe aethon ni ymhell y tu hwnt i'r gofynion yn y maes hwnnw. Ac felly, rwy'n credu ein bod wedi cael sgwrs yn fewnol am, wyddoch chi, sut mae hyn yn gweithio i ni mewn gwirionedd?. (Cyfranogwr grŵp GA)

Dywedodd y cyfranogwyr fod lefelau is y cynllun presennol yn cynrychioli 'safon sylfaenol' i gyflogwyr ei chyflawni'n hawdd. Mae hyn o bosibl yn rhoi ymdeimlad ffug o ddiogelwch i bobl anabl o ran tybio bod mesurau iechyd a diogelwch priodol ac addasiadau rhesymol eisoes yn y gweithle.

Dw i’n meddwl ei bod hi’n cymryd tua hanner awr i lenwi'r ffurflen ar-lein hefyd ar gyfer lefel 1 sydd wir yn peri gofid, ac mae'n eithaf nawddoglyd i bobl anabl. Dyna'r cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud. (Cyfranogwr grŵp GA)          

Gwnaed nifer o gymariaethau â chynlluniau cyflogaeth eraill ar gyfer grwpiau eraill â nodweddion gwarchodedig. Roedd Hyderus o ran Anabledd yn cymharu’n anffafriol o ran nodau ac amcanion y cynllun cyffredinol, y ffordd mae’n cael ei fonitro a’r canlyniadau o ran cynnydd.

Roedd rhai cyfranogwyr yn rhannu’r farn nad oedd gan rai cyflogwyr a phobl anabl ddealltwriaeth dda o’r ymwybyddiaeth o'r cynllun presennol a'i amcanion.

A yw pobl hyd yn oed yn gwybod amdano? Wyddoch chi, os ydych chi'n rhan o’r byd hwnnw, neu os ydych chi'n berson anabl, efallai y byddwch chi'n ymwybodol o Hyderus o ran Anabledd ond beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd i rywun sy'n ceisio cysylltu â’r sefydliad hwnnw i gael gwasanaethau neu gyflogaeth? (Cyfranogwr grŵp cyflogwyr)                 

Dywedodd cynrychiolwyr Sefydliadau Pobl Anabl fod rhai cyflogwyr efallai’n deall i ryw raddau’r rhwystrau sy’n wynebu pobl anabl rhag cael gwaith, ac efallai eu bod yn credu bod eu harferion recriwtio yn gwbl hygyrch, ond nid yw hyn bob amser yn wir. Mae angen gwell dealltwriaeth o'r cynllun ei hun ond hefyd y rhwystrau sy’n wynebu pobl anabl wrth gael cael cyflogaeth.

Tynnodd rhai cyfranogwyr sylw at brofiadau 'ofnadwy' mewn cyflogaeth yr oedd pobl anabl wedi'u hwynebu yn hanesyddol. Mae'r diffyg dilyniant i gyflogwyr yn golygu nad yw rhai’n cael eu dwyn i gyfrif ar hyn o bryd, ac nad oes gofyn iddynt wneud unrhyw newidiadau mewn amgylchedd gwaith a gall hynny arwain at ailadrodd profiadau gwael. (Cynrychiolydd grŵp SPA/GA)

Mynegwyd hefyd fod diffyg pwyslais ar ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad bywyd i gael adborth.

Yr hyn sy'n peri gofid gwirioneddol i mi yw'r diffyg pwyslais ar ofyn i bobl sy'n cymryd rhan yn y cynllun gael adborth gan bobl anabl go iawn y maent yn eu cyflogi. Mae’n berffaith iawn cael system fonitro ac adolygu. Ond os nad yw honno'n casglu barn pobl a gyflogir yn y gweithle hwnnw. (cynrychiolydd grŵp ffocws GA)

Mynegodd cyflogwyr y farn y byddent yn croesawu mwy o ymgysylltu a dysgu. Nid yw'r cynllun presennol yn rhoi digon o gymorth ac arweiniad i gyflogwyr i sicrhau eu bod yn deall beth maen nhw wedi cytuno i'w gyflawni'n dda. Gall hyn waethygu ymhellach ddiffyg dealltwriaeth o'r cynllun ei hun a'r rhwystrau sy’n wynebu pobl anabl yn y gweithle.

Rydyn ni'n gyflogwr Hyderus o ran Anabledd a dw i'n meddwl mai'r pwrpas o wneud hynny i ni oedd, er ein bod yn credu ein bod ni'n cynnig cyflogaeth gynhwysol yn dda iawn, roedden ni'n chwilio am beth arall allem ei wneud? Felly, rydym yn ymgynghori â'n gweithwyr anabl, rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn darparu'r hyn sydd ei angen ac roeddem yn gobeithio y gallai Hyderus o ran Anabledd roi rhyw fath o ddulliau a chymorth pellach i ni wneud hynny hyd yn oed yn well. Ac roedden ni'n siomedig gyda hynny a dyna pam na wnaethon ni fwrw ymlaen ymhellach â’r cynllun. (Cyfranogwr grŵp SPA)

Tynnwyd sylw at fater cael y cyllid a’r adnoddau pwrpasol sydd eu hangen i hwyluso cynllun fel Hyderus o ran Anabledd. Mynegodd un cyfranogwr fod gorddibyniaeth ar y trydydd sector i roi cyngor. Awgrymwyd y dylai fod dyletswydd statudol ar draws gwahanol sectorau i gynnwys cynrychiolwyr pobl anabl i chwalu’r rhwystrau i bobl anabl.

Soniodd y cyfranogwyr fod uchelgais wirioneddol i sicrhau cyflogaeth gynhwysol gan rai cyflogwyr sydd wedi cofrestru gyda’r cynllun, ond ni ystyrir bod y cynllun presennol yn darparu'r haen ychwanegol honno o gymorth sydd ei hangen i symud cyflogwyr trwy'r lefelau. Roedd cyfranogwyr â phrofiad perthnasol, fel sefydliadau sy'n cynrychioli pobl anabl ac undebau llafur, yn dweud y gallent chwarae mwy o rôl benodol yn y cynllun presennol a/neu gynllun yn y dyfodol. Un o fanteision hyn fyddai sicrhau bod cyflogwyr yn deall yn llawn yr heriau sy’n wynebu pobl anabl. Bydd hyn yn cael ei drafod ymhellach yn yr adroddiad hwn.

Rhwystrau posibl i newid

Yn ogystal â myfyrdodau ar y Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd cyfredol, cafwyd trafodaethau ymhlith cyfranogwyr ynglŷn ag unrhyw rwystrau rhag diwygio'r cynllun presennol.

Un rhwystr y bu’r cyfranogwyr yn ei grybwyll ar draws y tri grŵp ffocws oedd capasiti’r rhanddeiliaid. Soniodd rhai Sefydliadau Pobl Anabl yn arbennig mai capasiti bach oedd ganddynt ar hyn o bryd i gymryd rhan yn y cynllun presennol neu unrhyw gynllun yn y dyfodol ac y byddai angen adnoddau ariannol ychwanegol.

Sawl SPA sydd yng Nghymru? Llai na 30, efallai, hyd y gwyddom. A dyna'r peth olaf a ddyfynnwyd i mi. Rwy'n gwybod bod Sefydliad X yn gwneud ymdrech i ddatblygu rôl y Sefydliadau Pobl Anabl. Ond nid oes gennym unrhyw gapasiti o gwbl. Rydyn ni'n treulio llawer o amser yn cefnogi pobl sydd mewn cyflogaeth, sy'n profi camwahaniaethu lle mae'r cyflogwr yn ceisio cael gwared arnyn nhw. (Cyfranogwr grŵp SPA)

Trafodwyd y gofyniad i roi cymorth. Byddai angen i SPA ddatblygu'r seilwaith angenrheidiol i sicrhau bod cyflogwyr yn cael eu cefnogi â pholisïau a gweithdrefnau perthnasol sy'n cael eu llywodraethu'n dda i gynnal safonau ansawdd.

Rwy'n credu mewn gwirionedd, o ran ariannu Sefydliadau Pobl Anabl, ein bod ni'n mynd i weld llai o hynny, nid mwy. Rwy'n credu o ddifrif na fydd unrhyw siawns o unrhyw SPA yn cael ei ariannu i ddarparu unrhyw beth fel hyn. (Cyfranogwr grŵp SPA)

Byddai angen i chi gael digon o arian i dalu cyflogau cyn i chi hyd yn oed ddechrau ymgymryd â gweithgaredd gwerthuso. Felly, er y gallai hynny fod yn ffrwd incwm i chi, mae'n rhaid i chi allu talu'r staff i gael eu cyflogi yn eich sefydliad. (Cyfranogwr grŵp SPA)

Byddai angen 'pwrpas a rennir' rhwng gwahanol grwpiau o rhanddeiliaid sydd â buddiannau cyffredin.

Trafododd y cyfranogwyr y berthynas wael rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau, rhai pobl anabl a Sefydliadau Pobl Anabl. Roedd rhai cyfranogwyr yn rhannu pryderon ynghylch diffyg ymddiriedaeth a oedd yn seiliedig ar sut mae pobl anabl yn teimlo eu bod wedi cael eu gweld a'u trin yn hanesyddol ac yn cyfeirio at hynny.

Nid oes gan bobl anabl yn gyffredinol unrhyw ymddiriedaeth o gwbl mwyach. Ac mae'n mynd y tu hwnt i hynny, i fod ag ofn yr Adran Gwaith a Phensiynau. Felly, os oes gennych chi hynny ar un llaw, nid ydych chi'n mynd i gael yr hyder a'r ymddiriedaeth mewn cynllun sy'n cael ei redeg gan y sefydliad hwnnw. (Cyfranogwr grŵp undeb llafur)

Ie, o ran elfennau’r Adran Gwaith a Phensiynau. Ni allaf ateb ar ran fy sefydliad. Ond fel rhywun sy'n uniaethu fel person anabl ac yn briod â pherson anabl. Ydw, rwy'n credu, o ystyried y pryderon sydd gan ein cymunedau am yr Adran Gwaith a Phensiynau, y byddai hynny'n ddealladwy yn bendant. (Cyfranogwr grŵp cyflogwyr)

Fodd bynnag, crybwyllodd rhai cyfranogwyr hefyd fod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi cymryd rôl weithredol yn eu hardal leol trwy annog cyflogwyr i symud tuag at Lefel 3. Ac felly, roedd llwyddiant y cynllun yn aml yn dibynnu ar y berthynas rhwng rhanddeiliaid yn lleol a'u swyddogion yn yr Adran.

A’r broses honno, sef cyfuniad o'r 3, y swyddog mynediad, y busnes a gefnogwyd a'r hyrwyddwyr anabledd dysgu, am wn i, a arweiniodd atom yn mynd ar drywydd statws Arweinydd Anabledd. Ac mae'n rhaid i mi ddweud mai trwy’r Adran Gwaith a Phensiynau y digwyddodd hynny. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, maen nhw'n weithgar iawn yng Ngorllewin Cymru. Felly mae’r Adran yn weithgar iawn yn hyrwyddo Hyderus o ran Anabledd yng Ngorllewin Cymru. Ni fyddem wedi dod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd oni bai am ddigwyddiad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yr aeth ein pennaeth AD a'n Prif Swyddog Gweithredol iddo lle dywedwyd wrthynt gan ein hyrwyddwyr anabledd y dylent fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. (Cyfranogwr grŵp cyflogwyr)

Felly, ystyriwyd bod sefydlu mwy o ymddiriedaeth rhwng rhanddeiliaid a'r Adran Gwaith a Phensiynau yn hanfodol i oresgyn y rhwystrau rhag diwygio'r cynllun presennol.

Ystyriwyd y gallai'r newid diweddar yn Llywodraeth y DU gyflwyno cyfleoedd newydd i rhanddeiliaid ymgysylltu a gweithio'n agosach â'r Adran yn y dyfodol. Roedd y cyfranogwyr yn teimlo y gallai hyn gynnwys ymgysylltu â phobl anabl a gweithio'n gydgynhyrchiol, yn debyg i'r hyn a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.

Trafodwyd rôl undebau llafur mewn perthynas â chefnogi pobl anabl yn y gweithle. Nodwyd y gallai rhai pobl anabl deimlo 'ar goll’ o ran undebau llafur, dim ond oherwydd nad oes llawer yn y farchnad lafur.

Adlewyrchwyd nad oes gan undebau llafur fawr o ran yn y cynllun presennol. Fodd bynnag, cydnabuwyd yn gadarnhaol y gall (ac y dylai) undebau llafur chwarae rhan i wella a chefnogi gwaith sefydliadol ym maes anabledd yn y dyfodol.

Ond yr hyn sy’n bwysig yw’r ymgyrch ynglŷn â'r hyn rydyn ni'n ei wneud a gwneud yn siŵr bod gan y rhai yn ein cymunedau lais ond bod hawliau anabledd wrth wraidd y gwaith hwnnw rydyn ni'n ei wneud. (Cyfranogwr grŵp undeb llafur)

Roedd cydnabyddiaeth y gallai undebau llafur fod yn cydweithio llawer mwy â Sefydliadau Pobl Anabl. Fodd bynnag, yn yr un modd â’r Sefydliadau hynny, byddai angen capasiti a chyllid er mwyn i undebau llafur chwarae mwy o ran.

Yn 2013, roedd trafodaethau i sefydlu cydlynydd cynrychioli cydraddoldeb yn yr undeb llafur. Ac yna erbyn 2015, roedd y cyllid ar gyfer y swydd honno wedi mynd. (Cyfranogwr grŵp undeb llafur)

Ystyriwyd bod y ddeddfwriaeth gyfredol yn rhwystr strwythurol. Teimlai’r cyfranogwyr fod deddfwriaeth yn aml yn canolbwyntio mwy ar achosion unigol o wahaniaethu ar sail anabledd yn hytrach na mynd i'r afael â rhwystrau ar draws sectorau. Rhannodd y cyfranogwyr uchelgais i’r rhanddeiliaid fod yn gweithio mwy gyda'i gilydd yn y dyfodol i ganfod atebion ar y cyd.

Dywedodd un cyfranogwr ei fod yn wynebu anghydfod cyflogaeth anabledd ar hyn o bryd a’i fod wedi cael cymorth ac anogaeth gadarnhaol gan gangen leol ei undeb.  Fodd bynnag, gan fod cyllid yn brin ar lefel ranbarthol, roedd yr undeb yn amharod i geisio profi'r achos a chefnogi gyda chostau cyfreithiol i fynd â'r achos ymlaen.

Cefais fy nigalonni gryn dipyn gan hynny. A minnau wedi bod yn aelod o'r Undeb ar hyd fy oes. A phan wnes i brofi gwahaniaethu yn y gweithle, a hynny ynghylch addasiadau rhesymol a methiant i wneud addasiadau rhesymol, roeddwn i'n teimlo fel nad oedd fy undeb yno i mi. Ac rwy'n credu bod hyn yn cael ei ailadrodd gan dipyn o bobl anabl sydd wedi cael profiadau yn y gweithle. (Cyfranogwr grŵp undebau llafur)

Mynegwyd y gall y mater hwn godi lle gall fod trothwyon arbennig o uchel wedi’u gosod i benderfynu pa achosion a dderbynnir oherwydd siawns prin o ennill. Nodwyd gan un cyfranogwr na fyddai rhai undebau am gael eu gweld yn colli achosion gwahaniaethu gan y gallent 'golli eu 'dylanwad' yn y dyfodol efallai’.

Byddai'n ddiddorol gweld sawl un o'r arweinwyr mawr hyn sy'n cyflogi llawer o bobl, sawl achos o wahaniaethu ar sail anabledd y bu’n rhaid iddynt ddelio â nhw. Oherwydd bydd hynny'n cyfleu go iawn a yw'r nod barcud hwn yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl. (Cyfranogwr grŵp)

Dywedodd cyfranogwyr o'r grŵp ffocws undebau llafur fod trafodaethau’n mynd rhagddynt ynglŷn â'r mater hwn o gyfraith ac ymrwymiad o'r newydd gan undebau llafur i adolygu'r trothwyon i fynd ag achosion yn eu blaenau yn y dyfodol.

Awgrymiadau’r rhanddeiliaid

Un thema a ddaeth i'r amlwg o'r data oedd cyfranogwyr yn myfyrio ynghylch y cynllun cyflogwr presennol a phrofiadau ohono, ond bu’r cyfranogwyr hefyd yn trafod sut i wella'r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn y dyfodol.

Cafwyd cefnogaeth gref i wella a chryfhau'r cynllun presennol, i wneud y mwyaf o'r ymgysylltiad a gwneud gwelliannau i symud y cynllun i ffwrdd (yn enwedig ar Lefelau 1 a 2) rhag cael ei ystyried fel 'ymarferiad blwch ticio'.

Adlewyrchai’r cyfranogwyr deimladau cryf ynghylch pa mor bwysig oedd sicrhau bod profiadau bywyd pobl anabl yn ganolog i unrhyw gynllun sy’n cael ei wella a phwysigrwydd sicrhau newid diwylliannol eang hefyd.

Felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn os yw cynllun yn mynd i gael ei adolygu, neu os yw cynllun newydd am gael ei ddatblygu, fod pobl â phrofiad bywyd o wahanol anableddau yn rhan o hynny, ac y gwrandewir arnyn nhw o ddifrif. A bod yr hyn a ddywedant yn cael ei glywed. (Cyfranogwr grŵp SPA)

Trafodwyd bod angen adnoddau ychwanegol i gryfhau'r cynllun i fynd i'r afael â'r problemau a nodwyd. Yr adnoddau penodol a nodwyd oedd mwy o gapasiti staff a chyllid. Cydnabu’r cyfranogwyr fod hyn yn nodwedd hanfodol o unrhyw newid i sicrhau ei fod yn newid ystyrlon a chynaliadwy.

Crybwyllodd y cyfranogwyr fod angen monitro cynnydd yn rheolaidd yn erbyn safon ansawdd ar draws pob lefel o'r cynllun ac y byddai hynny'n gam cadarnhaol ymlaen.

Yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw rhoi mwy o werth i Hyderus o ran Anabledd a'i fod yn cael ei fesur, rwy'n credu, pe bai mwy o fesur yn digwydd arno a bod gwerth cymdeithasol yn rhedeg ochr yn ochr â mesur pa mor effeithiol fyddai hyn fel offeryn. Rwy'n credu y byddem yn gweld y dadansoddiad budd cost ohono. (Cyfranogwr grŵp cyflogwyr)

Mynegodd llawer o gyfranogwyr fod angen sicrhau ansawdd a gwneud gwerthusiad annibynnol o'r cynllun presennol. Awgrymwyd y gallai pobl sydd â phrofiad bywyd chwarae rôl yn y dyfodol, o ystyried mai nhw yw'r buddiolwyr tybiedig.

Trafodwyd rôl Sefydliadau Pobl Anabl a mynegodd y cyfranogwyr y gellid eu cynnwys yn ystod gwahanol gamau'r broses achredu i graffu’n annibynnol arni ond nodwyd bod rhwystr rhag cyflawni hyn.

Rwy'n credu bod angen cynnwys Sefydliadau Pobl Anabl gymaint ag sy’n bosibl, a dweud y gwir. Ond unwaith eto, problem gyllid yw hon, rydyn ni'n gwybod hynny. (Cyfranogwr grŵp SPA)

Mynegodd cyfranogwyr o Sefydliadau Pobl Anabl y dylai addysgu cyflogwyr a gweithio gyda nhw fod yn un o nodau'r cynllun i sicrhau bod ganddynt well dealltwriaeth o'r model cymdeithasol o anabledd a'r rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl mewn cyflogaeth.

Dywedodd Undebau Llafur a Sefydliadau Pobl Anabl y gallent chwarae mwy o ran yn y cynllun presennol a/neu unrhyw gynllun yn y dyfodol, er enghraifft, drwy hwyluso rhwydwaith staff cydraddoldeb.

Nododd y cyfranogwyr gyfleoedd ar gyfer dysgu a rennir a chydweithio i wella'r cynllun presennol. Ystyriwyd bod yr angen i ymgysylltu ag amrywiol gyflogwyr, undebau llafur a Sefydliadau Pobl Anabl yn rhan sylfaenol o unrhyw welliannau a wneir i rannu dysgu a chynyddu nifer y cyflogwyr sy'n cyrraedd Lefel 3. Byddai hyn hefyd o bosibl yn gyfle i gynyddu’r uchelgais ar gyfer y cynllun yn gyffredinol.

Yn y tymor byrrach, a ninnau’n gobeithio datblygu, dylem gynyddu nifer yr arweinwyr i greu fforwm o arweinwyr sy'n gallu rhannu eu hymarfer; gallant herio ei gilydd, gallant weld sut mae'n cael ei wneud, a daw hefyd yn uchelgais i sefydliadau eraill sydd am fod yn rhan o'r hyn maen nhw'n ei weld fel y lefel uchaf o Hyder Anabledd. Fel y daw’n rhywbeth i ymgyrraedd ato’n fwy na dim ond rhywbeth y gall pobl eraill ddewis ei wneud. Efallai y gallai hynny gynnwys Sefydliadau Pobl Anabl hefyd, a hefyd yn amlwg, undebau llafur. (Cyfranogwr grŵp undeb llafur)

Roedd rhai cyflogwyr a oedd eisoes wedi cyrraedd Lefel 3 yn dweud y byddent yn croesawu cyfleoedd yn y dyfodol i ddysgu ac ymgysylltu yn fwy cydweithredol. Soniwyd yn benodol am rôl hyrwyddwyr anabledd:

Felly, roeddwn i'n meddwl am rywbeth fel panel cynghori sy'n cynnwys Sefydliadau Pobl Anabl ond sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Byddai’r panel hwnnw wedyn yn mynd allan, nid o reidrwydd, pob un ohonynt ar yr un pryd, ond mynd allan fel grŵp a gwneud y gwerthusiadau hyn. Defnyddio'r hyrwyddwyr anabledd, ac yna cael tîm bach lle gallech drafod ac yna cynghori cyflogwyr. A chael cyswllt lle gall gweithwyr ddod am gyngor, os oes angen, gallant ddod at y grŵp o bobl am help neu gymorth, neu beth bynnag sydd ei angen arnynt. (Cyfranogwr grŵp GA)

Mater arall a amlygwyd oedd y potensial i undebau llafur gefnogi drwy 'gydfargeinio' i dynnu sylw at faterion ymhlith cyflogwyr. Cafodd rhai undebau llafur rywfaint o lwyddiant gydag ymgyrchoedd ehangach ynghylch materion fel y menopos, ond nodwyd bod rhai cyflogwyr yn cymryd hyn yn fwy difrifol nag eraill.

Trafodwyd defnyddio cymhellion fel rhywbeth a allai annog mwy o gyflogwyr i gofrestru ac ymgysylltu â'r cynllun.

Rwy'n credu bod cymhellion yn wych. Gyda’r prosiect rydw i'n ei redeg, ac efallai y byddwch chi'n cofio, ond roedd gennym gyllid Ewropeaidd, a'r hyn a wnaethom oedd talu cyflog y sawl a oedd yn mynd i gyflogaeth i gael ei hyfforddi i safon. Felly, pan gymerodd y cyflogwr gyfrifoldeb am y cyflog roedd popeth eisoes yn weithredol ac roedd hynny'n gweithio'n wych. Nid y cyflogwr [yn unig] a oedd ar ei ennill, oherwydd cafodd 10 wythnos neu 12 wythnos, beth bynnag oedd o. Yn achos yr unigolyn hwnnw, nid oedd yn rhaid iddo ei dalu ond yna roedd hefyd ar ei ennill trwy gael y person eisoes wedi'i hyfforddi i wneud y swydd pan oedd wedyn yn ei gymryd fel gweithiwr. (Cyfranogwr grŵp GA)

Dywedodd rhai o’r cyfranogwyr y dylai fod yn egwyddor sylfaenol fod unrhyw welliannau i'r cynllun presennol yn cael eu cydgynhyrchu gyda rhanddeiliaid sy'n cynnwys pobl anabl â phrofiad bywyd.

Un o'r heriau a nodwyd oedd yr angen am gymorth ychwanegol a chefnogaeth y llywodraeth.

Mae bron angen corff llywodraeth y tu ôl iddo i roi'r dylanwad sydd ei angen arno. Ond ni ddylai fod yn rhywbeth sy'n cael ei orfodi ar bobl chwaith. Rwy'n cytuno bod safoni'r achrediad yn bwysig iawn i'w wneud yn hygyrch i bawb. (Cyfranogwr grŵp cyflogwyr)

Un awgrym a godwyd oedd y gallai'r cynllun presennol aros ar lefel y DU ond y gellid datganoli cyfrifoldeb dros ei weithredu i sicrhau y gallai Llywodraeth Cymru fod yn rhan o'i gyflwyno mewn partneriaeth â rhanddeiliaid lleol y mae iddynt fudd ohono.

Roedd ystyried yr awgrymiadau uchod gan rhanddeiliaid i wneud gwelliannau’n aml yn cael ei drafod ochr yn ochr â’r gofyniad i greu newid diwylliannol eang. Teimlwyd bod angen 'pwrpas a rennir' rhwng gwahanol rhanddeiliaid i sicrhau bod unrhyw gynllun yn cael effaith ystyrlon ar fywydau pobl anabl.

Rwy'n credu ei fod yn beth pwysig i'w wneud, ond rhaid ystyried sut mae ei wneud fel y daw’n rhan o ddiwylliant sydd wedi ei ymgorffori yn hytrach na rhywbeth sy'n cael ei wneud ar wahân. (Cyfranogwr grŵp cyflogwyr)

Ond ydy, mae'n dibynnu ar yr arian yma ar y ddwy ochr hefyd i allu ymgorffori hyn yn iawn a'i wneud yn ystyrlon hefyd, a pheidio bod yn ddarn o bapur yn unig y gall rhywun ei ddarllen a'i ddewis, fel y dywedwch chi. (Cyfranogwr grŵp cyflogwyr)

Manteision posibl cynllun i Gymru

Trafodwyd manteision posibl sefydlu cynllun cyflogwr Cymreig annibynnol newydd neu elfen ddatganoledig o fewn cynllun cenedlaethol ehangach.

Awgrymodd y cyfranogwyr a oedd yn gyflogwyr y gellid sefydlu fforwm o arweinwyr yng Nghymru. Gallai unrhyw fforwm gynnwys Sefydliadau Pobl Anabl ac undebau llafur i sicrhau cydweithio ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Cydnabuwyd bod angen gwneud mwy o waith yng Nghymru i gael mwy o gyflogwyr i Statws Lefel 3: Arweinydd. Roedd rhai cyfranogwyr yn mynegi pryder bod cyn lleied o gyflogwyr wedi cyrraedd y lefel hon o fewn y cynllun presennol hyd yn hyn.

Yn anffodus, ar hyn o bryd dim ond ychydig dros 30 o arweinwyr sydd yng Nghymru. Felly nid oes gennych gymaint â hynny o bobl sydd ar lefel i allu camu i fyny. Felly, rwy'n credu bod angen i ni wneud llawer o waith gyda busnesau yn y sector cyhoeddus a phreifat yng Nghymru i gael mwy o bobl i fyny i lefel arweinwyr. (Cyfranogwr grŵp undeb llafur)

Roedd rhai cyfranogwyr yn crybwyll heriau posibl cynllun Cymru yn unig pe na bai'n rhan o gynllun ehangach yn y DU (a fydd yn cael ei drafod yn y bennod nesaf). Fodd bynnag, gwelodd y cyfranogwyr resymau dilys pam y gallai cynllun annibynnol neu ddimensiwn lleol o fewn cynllun cenedlaethol fod yn fuddiol.

Un o'r manteision a amlygwyd oedd y Gymraeg a sicrhau ei bod yn cael ei thrin gyda statws cyfartal. I'r bobl anabl hynny sy'n dweud eu bod yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, byddai hyn o bosibl yn dileu rhwystr ychwanegol.

A hefyd, oherwydd bod gennym ein hiaith ein hunain yn wahanol i Lywodraeth y DU. I mi, yr ochr honno o bethau y mae'n rhaid edrych arni, wyddoch chi. Er mwyn sicrhau nad yw hynny’n dod yn rhwystr i berson anabl sy'n byw yng Ngogledd-orllewin Cymru. Rhywun sydd â’r Gymraeg yn iaith gyntaf a dyna’r iaith maen nhw’n ei defnyddio i gyfathrebu. Mae angen i ni estyn allan at y bobl hynny hefyd. (Cyfranogwr grŵp undeb llafur)

Mynegwyd bod patrymau cyflogaeth ac amddifadedd rhanbarthol yng Nghymru yn wahanol i weddill y DU a’i bod yn bwysig cydnabod y gwahaniaethau lleol hyn.

Mynegodd rhai cyfranogwyr hefyd fod cael elfen Gymreig bwrpasol yn cynnig rôl bosibl ar gyfer caffael cyhoeddus yng Nghymru. Er enghraifft, defnyddio caffael cyhoeddus fel modd o ymgysylltu â mwy o gyflogwyr a’u hannog i ddangos arfer da o ran cefnogi pobl anabl wrth gynnig am gontractau sector cyhoeddus.

Roedd rhai pobl anabl a Sefydliadau Pobl Anabl yn teimlo bod lefelau ymddiriedaeth gyda Llywodraeth Cymru yn uwch na'r lefelau gyda Llywodraeth y DU. Dywedodd rhai cyfranogwyr fod ganddynt lai o hyder mewn agweddau tuag at bobl anabl ar lefel y DU a’u bod yn teimlo y gallai'r cyfle i 'ailadeiladu' rhywbeth yn benodol yng Nghymru sicrhau agweddau mwy cadarnhaol tuag at bobl anabl yn y dyfodol. Teimlwyd y gallai cynllun Cymreig pwrpasol ganiatáu ymgysylltu a chydgynhyrchu ehangach gyda phobl anabl a Sefydliadau Pobl Anabl.

Fel y trafodwyd yn y bennod uchod, byddai cael elfen Gymreig bwrpasol yn rhoi cyfle i greu newid diwylliannol. Roedd trafodaethau ynghylch y newid hwn yn canolbwyntio ar gydweithio a chymryd ymagwedd o'r gwaelod i fyny sy’n canolbwyntio ar brofiad bywyd.

Ac ar unrhyw gynlluniau yn y dyfodol, bod yn benodol i Gymru, neu edrych ar beth sy'n digwydd yn y newidiadau yn San Steffan. Dw i'n meddwl y dylem anelu o hyd at greu rhywbeth sy'n benodol i Gymru. Felly, rydych chi'n gwybod bod hwn yn gyfle i ddiwygio rhywbeth o'r gwaelod i fyny a gweithio’n gydgynhyrchiol gyda phobl anabl, yn hytrach na newid system sy'n eithaf mawr yn sylfaenol. (Cyfranogwr grŵp SPA)

Heriau posibl cynllun i Gymru

Trafodwyd heriau posibl cael cynllun cyflogwr Cymreig annibynnol newydd neu elfen ddatganoledig o fewn cynllun cenedlaethol ehangach hefyd.

Y brif her a nodwyd oedd sut y byddai cynllun penodol i Gymru yn cydredeg â sefydliadau sy'n gweithio ar lefel y DU. Roedd rhywfaint o ganfyddiad gan gyfranogwyr y gallai hyn achosi dryswch a chyflwyno rhai problemau ymarferol i'w hystyried.

Rwy'n credu y byddwn i'n hoffi gweld cynllun sy’n gweithio i’r DU, fel rwy'n siŵr y byddem i gyd ac mae yna rai problemau gyda chynllun Cymru yn unig ar wahân i'r gost, mae yna hefyd sefydliadau a busnesau sy'n gweithredu ar draws y DU. (cyfranogwr grŵp undebau llafur)

Dywedodd rhai cyfranogwyr y gallai Llywodraeth Cymru gael mwy o ddylanwad mewn sectorau datganoledig fel iechyd neu addysg yn hytrach na meysydd heb eu datganoli fel yr heddlu a allai fod yn her o ran cyflawni’r cynllun.

Bu’r cyfranogwyr yn ystyried a fyddai cynllun penodol i Gymru yn dargyfeirio adnoddau oddi wrth y Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd presennol ac yn 'gwanhau' y capasiti sydd ar gael. Byddai cynllun newydd yn gofyn am gyllid a chapasiti pwrpasol yn barhaus i ariannu a rheoli'r cynllun. Barn rhai cyfranogwyr oedd y byddai'n fwy effeithiol canolbwyntio adnoddau yn ganolog a gwella'r hyn a oedd eisoes yn ei le.

A ddylen ni gael rhywbeth ar wahân yng Nghymru, a byddwn i'n dal i ddweud na, rwy'n credu bod angen i ni wella'r hyn sy'n bodoli eisoes. (Cyfranogwr grŵp cyflogwyr)

Trafodwyd un her ychwanegol sef a oedd gan rhanddeiliaid y gallu gofynnol i gymryd rhan a chefnogi naill ai gynllun cyflogwr annibynnol i Gymru neu elfen ddatganoledig o fewn cynllun cenedlaethol. Cydnabuwyd ei fod yn syniad cadarnhaol i Sefydliadau Pobl Anabl chwarae rhan fwy uniongyrchol, ond codwyd pryderon ynghylch sut y gellid cyflawni hyn yn realistig o ystyried statws capasiti presennol ar draws llawer o’r Sefydliadau hyn yng Nghymru.

Ond ydy, mae’r gallu i gynnal gweithgareddau gwerthuso o'r math sydd wedi'i ddisgrifio yn brin iawn, iawn. Ond ie wir, pe bai’r capasiti gennym, byddai hynny'n ffrwd incwm bosibl. (Cyfranogwr grŵp SPA)

Adlewyrchwyd hyn yn yr un modd gan rai cyfranogwyr oedd yn cynrychioli undebau llafur. Cydnabuwyd mai prin yw rhan undebau llafur yn y cynllun presennol. Ac er gwaethaf sylwadau’n cydnabod yn gadarnhaol y gall undebau llafur (ac y dylent) chwarae rhan yn y dyfodol, tynnwyd sylw hefyd at gapasiti fel mater i'w ystyried.

Teimlwyd y byddai angen meithrin capasiti a buddsoddi ymhlith Sefydliadau Pobl Anabl ac undebau llafur os am lwyddo i gydweithio a chydgynhyrchu gyda rhanddeiliaid naill ai mewn cynllun penodol i Gymru neu elfen ddatganoledig o gynllun cenedlaethol.

Problemau cyflogaeth sy’n wynebu pobl anabl

Amlygodd trafodaethau’r grwpiau ffocws y problemau cyflogaeth sy’n wynebu pobl anabl y byddai angen i gynllun fynd i'r afael â nhw.

Amlygodd y cyfranogwyr fod pobl anabl yn aml yn fwy tebygol o fod mewn swyddi ansicr, tâl isel, nad ydynt bob amser yn cynnig gweithio hyblyg neu weithio gartref.

Gall gwahaniaethau yn y sector gael effaith ar bobl anabl gan fod rhai cyflogwyr yn gwneud 'yn well nag eraill' wrth allu cefnogi pobl anabl mewn cyflogaeth yn effeithiol.

Mae gennym ofal a hamdden a gwasanaethau eraill cysylltiedig, gwerthu a gwasanaethau cwsmeriaid a galwedigaethau elfennol, ac yna galwedigaethau gweinyddol. Felly, rhai o'r rheini yw'r swyddi ar y cyflogau isaf oll, a byddwch chi'n gweld pobl anabl yn cymryd mwy o swyddi yn y sectorau hynny. Felly, rwy'n credu bod hon yn broblem sector hefyd. A bod y galwedigaethau hynny yn llawer rhy isel eu cyflog. A dyna'r unig rai sydd fel petaent yn gwneud unrhyw fath o addasiadau i bobl anabl. (Cyfranogwr grŵp undeb llafur)

Gall pobl anabl sy'n weithwyr llawrydd neu sydd ar gontract dim oriau wynebu rhwystrau ychwanegol gan nad ydynt bob amser yn gallu ymaelodi ag undeb llafur. Crybwyllwyd na all undebau llafur bob amser gynrychioli'r grŵp hwn o weithwyr yn effeithiol.

Amlygodd y cyfranogwyr o undebau llafur eu bod yn aml yn ceisio atgyfnerthu'r cysylltiad rhwng cynrychiolwyr iechyd a diogelwch a chynrychiolwyr cydraddoldeb. Mae gan gynrychiolwyr cydraddoldeb undebau llafur rôl i'w chwarae gan fod ganddynt ddylanwad statudol y gellir ei ddefnyddio i drafod gyda chyflogwyr a sicrhau bod addasiadau rhesymol ar waith ar gyfer aelodau anabl. Fodd bynnag, cydnabuwyd y gellid diffinio'r rolau hyn yn well a bod amser cyfleusterau yn aml yn brin.

Mae'r rhan fwyaf o'n gweithleoedd yn fach ac nid oes gan ein cynrychiolwyr y capasiti na'r amser cyfleuster. Weithiau'r cytundeb yw nad yw'n cael ei ddyrannu i gynrychiolwyr unigol, ond ei rannu ar draws y pwyllgor cyfan neu gangen y gweithle. Ac yna rydych chi'n cyd-drafod gyda'ch cynrychiolwyr eraill o ran faint o amser y gallwch chi ei sicrhau. (Cyfranogwr grŵp undeb llafur)

Mae rhai undebau llafur yn casglu data am bobl anabl mewn swyddi â chyflog gwael a gwaith ansicr. Fodd bynnag, tynnwyd sylw at y ffaith nad yw'r data sy'n cael ei gasglu ar hyn o bryd ar y cyfan yn ystyried anfantais groestoriadol. Er enghraifft, ystyried nodweddion gwarchodedig eraill.

Felly, mae mathau o gontractau yn bwysig iawn pan fyddwch chi'n edrych ar hyn hefyd. Felly, wyddoch chi, mae rhan fawr o'n gwaith yn ymwneud â dileu contractau dim oriau a cheisio cael pawb ar gontract priodol. Ond, wyddoch chi, pan ystyriwch chi sut mae hynny'n torri i lawr yn groestoriadau, byddwch chi'n gweld bod gweithwyr anabl, ac yn enwedig gweithwyr anabl Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn destun gwahaniaethu dwbl neu hyd yn oed gwahaniaethu triphlyg. (Cyfranogwr grŵp undeb llafur)

Crybwyllwyd bod Llywodraeth y DU wedi cynnig adrodd ar fylchau anabledd, a bod hyn yn arwydd o gam cadarnhaol ymlaen. Fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar hunan-ddatgelu unigol i gyflogwr a all achosi problemau.

Roedd cyfranogwyr o Sefydliadau Pobl Anabl a Grwpiau Amhariad yn dweud efallai na fydd rhai pobl yn dweud eu bod yn anabl oherwydd rhagdybiaethau posibl gan eraill.

Weithiau maen nhw'n rhy bryderus i ddweud eu bod yn anabl neu'n ceisio addasiadau rhesymol, oherwydd bod natur eu symptomau’n codi cywilydd arnynt, ac mae ganddynt ofn gorfod eu datgelu a'u trafod gyda chyflogwr, sydd, yn anffodus, yn digwydd mewn gwirionedd yn amlach nag y byddech chi'n ei feddwl, ac mae'n gallu bod yn hynod ymwthiol i’w bywydau ac achosi trallod. (Cyfranogwr grŵp SPA)

Yn ogystal, efallai na fydd rhai pobl anabl yn ymwybodol o'u hawliau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010) a'u bod yn gymwys i gael cymorth gan eu cyflogwr.

Mae hyn yn gosod her i'r cyflogwr ddeall ei weithlu’n llawn a sicrhau bod safonau'n cael eu bodloni'n llawn i gefnogi gweithwyr anabl.

Felly, mae’n un anodd iawn i mi oherwydd rydyn ni'n gweithredu o ran y model cymdeithasol o anabledd a'r model cymdeithasol yw mai eich amgylchedd yw'r peth sy'n eich analluogi chi yn fwy na chi fel person. Felly, mae'n anodd iawn dweud y dylai pobl anabl ddweud ei bod yn anabl. (Cyfranogwr grŵp cyflogwyr)

Mae'r dyfyniad uchod yn dangos cymhlethdod y mater hwn, efallai na fydd pobl yn dymuno hunan-adnabod fel pobl anabl oherwydd y stigma a’r stereoteipio posibl sy'n gysylltiedig. Yn ogystal, cwestiynwyd a ddylai fod yn ofynnol i unigolion hunan-adnabod, o dan y model cymdeithasol o anabledd. Fodd bynnag, dywedodd y cyfranogwyr hefyd fod hyn o bosibl yn golygu nad yw’r cyflogwr a'r undebau llafur yn deall yn llawn y gweithlu y maent i fod i’w gefnogi. Yn eu tro, efallai nad yw pobl anabl yn cael y cymorth priodol y maent yn gymwys i’w gael.

Mynegodd y cyfranogwyr fod angen mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus o’r rhwystrau i bobl anabl fel y gall cyflogwyr greu amgylchedd gwaith diogel i annog pobl i ddatgelu eu hanabledd.

Crybwyllodd cyfranogwyr undebau llafur hefyd broblemau gydag ableddiaeth yn y gweithle. Efallai na fydd rhai cyflogwyr yn deall y cysyniad hwn yn dda.

Rydym wedi cael llwyth o enghreifftiau lle gofynnwyd i ni alw ar gynrychiolwyr oherwydd mae llawer o weithleoedd yn dangos ableddiaeth yn ôl eu diffiniad. (Cyfranogwr grŵp undeb llafur)

Yn olaf, nodir bod maint y gweithle yn cael effaith wahaniaethol ac y gall gyfyngu ar yr adnoddau y gellir eu hymrwymo i bobl anabl.

Ond ie, ac unwaith eto, yn yr un ffordd ag y canfuom gyda’r prosiect, roedd y rhan fwyaf o'r cyflogwyr, o edrych arnynt, o ran canran, yn fusnesau bach a chanolig. Nid rhai sector cyhoeddus oeddent. Roedd y sector cyhoeddus yn tueddu i fod yn weithwyr ar gyfer y rhaglenni interniaeth â chymorth, ond ar wahân i hynny, roedden nhw mor anodd i gael arnynt, hyd yn oed gyda’r asiantaethau cyflogaeth â chymorth a'r hyfforddwyr swyddi hynny yn rhan o'r broses. Roedd yn anodd iawn, am eu bod yn codi rhwystrau o hyd, ac mae’n rhaid i chi gyrraedd y person cywir sy'n gallu gwneud y penderfyniad. Ac rydym yn dal i ddarganfod yn aml, wyddoch chi, mai iechyd a diogelwch yw’r cyfan. Mae’n fater iechyd a diogelwch. Ond nid dyna beth yw, wrth gwrs. Mae llawer o waith i'w wneud o hyd. Cymaint, o hyd. (Cyfranogwr grŵp SPA)

Casgliad

Nod yr ymchwil hon yw creu prototeip ar gyfer cydgynhyrchu GSR a bu cydgynhyrchwyr yn gweithio gyda'i gilydd, o’r cam o greu cwmpas y prosiect, cynllunio a chasglu data hyd at ddadansoddi, nodi themâu a datblygu strwythur naratif a chynnwys yr adroddiad hwn. Cafodd adroddiadau eu llunio a sicrhawyd eu hansawdd gan ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru ac fe'u cynigiwyd i'r holl gydgynhyrchwyr er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud synnwyr. Bydd i ba raddau y cyflawnwyd y nodau cydgynhyrchu yn destun gwerthusiad ar wahân. 

Roedd y tîm cydgynhyrchu’n cynnwys 7 Cadeirydd Gweithgorau’r THA, ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru, swyddogion polisi Llywodraeth Cymru a myfyriwr PhD. 

Cyflwynwyd canfyddiadau'r tri grŵp ffocws gyda chyflogwyr, cynrychiolwyr undebau llafur, cynrychiolwyr SPA a GA yn yr adroddiad hwn. Dylid cydnabod mai darn cyfyngedig o ymchwil yw hwn nad oedd yn anelu at werthuso'r cynllun cyfredol yn llawn, ond yn hytrach archwilio'r opsiynau a gyflwynwyd yn argymhelliad gwreiddiol gweithgor y THA. Cynhaliwyd yr archwiliad hwn gydag ystod o rhanddeiliaid, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad bywyd o gael eu hanablu gan rwystrau. Fodd bynnag, nid yw'r sampl yn gwbl gynrychioliadol o bob person anabl na phob math o gyflogwr, ac nid oedd yn cynnwys barn adran Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gynnal y cynllun presennol. 

Nod y Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd presennol yw 'cael mwy o bobl anabl i mewn i gyflogaeth a lleihau'r bwlch cyflogaeth rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl' a 'chefnogi cyflogwyr i wneud y gorau o'r talentau y gall pobl anabl eu cyflwyno i'r gweithle'. 

Mae canfyddiadau'r ymchwil yn awgrymu bod angen gwelliannau a mwy o ymgysylltiad â phobl sydd â phrofiad bywyd er mwyn i'r cynllun presennol gyrraedd y nodau hyn yn well. 

Dywedodd y cyfranogwyr bod pobl anabl yn aml yn fwy tebygol o fod mewn swyddi ansicr, â thâl isel, nad ydynt bob amser yn cynnig gweithio hyblyg. Gosodir rhai pobl anabl dan anfantais bellach yn sgil y sector neu'r contract sy’n eu cyflogi. Ni all gweithwyr llawrydd a phobl anabl ar gontract dim oriau bob amser ymaelodi ag undeb llafur. 

Rhannodd y cyfranogwyr ystyriaethau hefyd nad yw rhai pobl yn dymuno cael eu hadnabod fel pobl anabl oherwydd stereoteipiau a rhagdybiaethau negyddol posibl gan eraill. Hefyd, efallai nad yw rhai pobl anabl yn gwbl ymwybodol o'u hawliau a'u cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010). Ystyriwyd bod y diffyg dealltwriaeth hwn yn enwedig ynghylch addasiadau rhesymol yn ei gwneud yn heriol i gyflogwyr ddeall eu gweithlu yn llawn a sicrhau bod yr addasiadau yma ar gael yn ôl y gofyn. 

Ystyriwyd bod amgylcheddau gwaith diogel lle mae pobl anabl yn teimlo eu bod yn gallu nodi ei hunain fel pobl ag anabledd yn hanfodol. Soniwyd am y cynigion i’w gwneud yn ofynnol i adrodd ar y bwlch cyflog anabledd, ac roedd hyn yn cael ei weld fel cam cadarnhaol ymlaen. Fodd bynnag, nodwyd y byddai hyn wedi'i anelu at gyflogwyr mawr yn unig ac y byddai'n dibynnu ar hunan-adrodd a allai achosi problemau.

Mae tair lefel o fewn y cynllun presennol y gall cyflogwyr eu cyflawni. Cytunodd llawer o gyfranogwyr fod statws arweinydd Lefel 3 yn werthfawr oherwydd bod angen asesiad allanol gan sefydliad arall a oedd eisoes wedi ennill statws Lefel 3 yn y cynllun er mwyn ei gyflawni. Cododd llawer o gyfranogwyr broblemau gyda'r cynllun presennol, yn enwedig ar y lefelau is. 

Roedd y cysyniad o gael sicrwydd o gyfweliad ar gyfer ymgeiswyr anabl wrth wneud cais am swyddi yn cael ei ystyried fel mantais. Er bod gan rai cyfranogwyr brofiad o sefyllfa lle nad oedd hyn wedi cael ei anrhydeddu. 

Roedd y cyfranogwyr o’r farn y gallai arddangos logo’r cynllun Hyderus o ran Anabledd ar hysbysebion swyddi fod yn fanteisiol i bobl anabl pe bai'n dangos y byddai rhai disgwyliadau cyflogaeth sylfaenol yn cael eu bodloni. Fodd bynnag, er bod rhywfaint o hyder ymhlith cyfranogwyr y gallai cyflogwyr Lefel 3 fodloni'r disgwyliad hwn, roedd llai o hyder yn y cyflogwyr lefel is. 

Roedd y cyfranogwyr ar draws y grwpiau ffocws yn meddwl nad oedd lefelau is y Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd presennol yn ddigon heriol nac yn cynrychioli safon sylfaenol. 

Ystyriwyd nad oedd y lefelau is yn darparu digon o gefnogaeth ac arweiniad i gyflogwyr. Credwyd bod hyn yn golygu bod rhai cyflogwyr heb ddeall yn llawn beth maen nhw wedi cofrestru i'w gyflawni. Roedd y cyfranogwyr yn teimlo bod diffyg dealltwriaeth ymhlith cyflogwyr o'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu yn y gweithle ac o'r cynllun ei hun. 

Roedd cyfranogwyr yr ymchwil yn credu bod y 'safon sylfaenol' hon o bosibl yn rhoi ymdeimlad ffug o ddiogelwch i gyflogwyr a phobl anabl sy'n chwilio am waith. 

Dywedodd cynrychiolwyr Sefydliadau Pobl Anabl nad yw rhai cyflogwyr bob amser yn deall yn glir beth yw’r rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl yn y farchnad lafur ac efallai y byddant yn meddwl bod eu harferion recriwtio yn gwbl hygyrch, ond nid yw hyn bob amser yn wir. 

Nid oedd lefelau is y cynllun cyfredol yn cael eu hystyried yn ddigon cadarn gan fod gofyn i gyflogwyr hunanasesu ar y lefelau hyn ac nid oes monitro, gwerthuso nac achredu allanol. 

Disgrifiwyd y cynllun presennol gan lawer o’r cyfranogwyr fel 'ymarferiad blwch ticio' sydd 'heb fod yn addas i'r diben' ac fe'i cymharwyd yn anffafriol â chynlluniau cyflogwyr eraill. Ystyriwyd bod cynlluniau tebyg eraill ar gyfer pobl â gwahanol nodweddion gwarchodedig, er enghraifft cynlluniau penodol LHDTC+, yn fwy effeithiol, heriol a chadarn. Bu trafod bod pobl â phrofiad bywyd fel arfer yn rhan o sefydlu, rheoli a gwerthuso'r cynlluniau hyn. 

Ystyriwyd bod diffyg pwyslais ar ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad bywyd i geisio cael adborth ganddynt ynghylch pa mor dda oedd y cynllun yn gweithio iddynt ar hyn o bryd. Roedd hyn yn cael ei ystyried yn hanfodol gan mai pobl anabl yw'r rhai y tybir eu bod yn cael budd o’r cynllun. 

Tynnodd y cyflogwyr a gymerodd ran yn yr ymchwil sylw at eu dymuniad i ddysgu a gwella’n barhaus. Roedd rhai cyflogwyr yn credu bod canllawiau’r cynllun cyfredol yn canolbwyntio ar gamau yr oeddent eisoes wedi'u cymryd. 

Roedd y cyfranogwyr yn credu bod y cyllid a’r cymorth a roddir i gyflogwyr weithiau’n amrywio. Rhoddodd rhai cyflogwyr enghreifftiau o gymorth da gan yr Adran Gwaith a Phensiynau mewn rhai ardaloedd daearyddol, tra bod eraill o’r farn ei bod yn anoddach cael cymorth ganddynt. 

Tynnodd rhai cyfranogwyr sylw at brofiadau 'ofnadwy' mewn cyflogaeth yr oedd pobl anabl wedi'u hwynebu yn hanesyddol. Mae'r diffyg dilyniant i gyflogwyr sy'n rhan o'r cynllun yn golygu nad yw rhai’n cael eu dwyn i gyfrif ar hyn o bryd, a all arwain at ailadrodd profiadau gwael i bobl anabl yn y gweithlu. 

Rhannodd cyfranogwyr y grwpiau ffocws awgrymiadau am sut i wella'r cynllun presennol. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • cynyddu adnoddau fel staff, cyllid a chapasiti i fynd i'r afael â'r problemau a nodwyd gan yr ymchwil a sicrhau bod gwelliannau yn barhaus ac ystyrlon
  • un enghraifft a gynigiwyd oedd dyrannu adnoddau ychwanegol i Sefydliadau Pobl Anabl weithio'n fwy uniongyrchol gyda chyflogwyr i roi cyngor ac arweiniad
  • monitro cynnydd yn gadarn yn erbyn meincnodau mesuradwy y cytunwyd arnynt ar bob lefel i gynyddu hyder ac i ddangos canlyniadau gwell i bobl anabl yn y gweithlu
  • gwerthusiad annibynnol lle gallai pobl â phrofiad bywyd chwarae rôl efallai, o ystyried mai nhw yw buddiolwyr tybiedig y cynllun
  • awgrymwyd y gallai Sefydliadau Pobl Anabl o bosibl ffurfio bwrdd cynghori gyda Llywodraeth Cymru ac adeiladu ar waith yr Hyrwyddwyr Anabledd i ymgymryd â gweithgarwch gwerthuso
  • mwy o gyfleoedd ar gyfer dysgu ar y cyd ymhlith rhanddeiliaid
  • mwy o ymgysylltu ar lefel ranbarthol rhwng Sefydliadau Pobl Anabl, sefydliadau'r trydydd sector, cyflogwyr ac undebau llafur

Un o egwyddorion sylfaenol unrhyw welliant a nodwyd oedd ymgysylltu â phobl anabl oedd â phrofiad bywyd. Mae angen i gyflogwyr ddeall yn llawn beth yw'r rhwystrau i bobl anabl, a sut mae adnabod arfer da. Credwyd bod angen i'r cynllun presennol osod uchelgeisiau uwch ar gyfer newid ar draws pob lefel. 

Dywedodd cynrychiolwyr yr Undebau Llafur y byddent yn hoffi cael mwy o ran mewn unrhyw gynllun a weithredir yn y dyfodol. Ystyriwyd bod eu rhwydwaith o gynrychiolwyr undeb yn y gweithle yn ffynhonnell bosibl o gefnogaeth ac addysg i gyflogwyr a phobl anabl fel ei gilydd.

Ystyriwyd bod y ddeddfwriaeth gyfredol yn rhwystr strwythurol. Gwnaeth cyfranogwyr yr undebau llafur y sylw bod y ddeddfwriaeth yn aml yn canolbwyntio mwy ar achosion unigol o wahaniaethu ar sail anabledd yn hytrach na mynd i'r afael â rhwystrau ar draws sectorau. Rhannai’r cyfranogwyr uchelgais i rhanddeiliaid fod yn gweithio gyda'i gilydd yn y dyfodol i ganfod atebion ar y cyd. Dywedodd y cyfranogwyr ar draws y grwpiau ffocws fod angen gweithdrefn adrodd gryfach i sicrhau atebolrwydd a gonestrwydd cyflogwyr. 

Ystyriodd y cyfranogwyr rôl yr Adran Gwaith a Phensiynau, o ystyried mai hwy yw perchennog presennol y cynllun. Credwyd y byddai angen gwella ymddiriedaeth a’r berthynas gyda nhw er mwyn i gydweithio greu gwelliannau. Fodd bynnag, soniodd y cyfranogwyr y gallai trefniadau amgen ar gyfer cynnal y cynllun fod yn opsiwn gwell os nad yw cydweithio effeithiol rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r rhanddeiliaid yn bosibl. 

Awgrymwyd y gallai Llywodraeth Cymru chwarae rôl fwy gweithredol efallai mewn cynllun yn y dyfodol neu gynllun diwygiedig. Byddai hyn o bosibl yn galluogi rhwydweithiau lleol o rhanddeiliaid i gydweithio. Arweiniodd hyn at ddadl bellach ynglŷn â manteision a heriau posibl cynllun cyflogwr pwrpasol i Gymru. 

Mae’r dystiolaeth o'r ymchwil yn awgrymu cefnogaeth gymysg i gynllun newydd i Gymru neu elfen ddatganoledig o fewn cynllun ledled y DU. Gallai hyn fod yn rhan o unrhyw gyfrifoldebau datganoledig i sicrhau bod y cynllun yn ystyried anghenion rhanbarthol ac yn caniatáu mwy o gyfranogiad cymunedol. Rhoddwyd ystyriaeth i’r manteision a’r heriau posibl sy'n gysylltiedig â hyn. 

Roedd un o fanteision posibl datganoli rhywfaint neu'r cyfan o gynllun Hyderus o ran Anabledd i Gymru, a godwyd gan gyfranogwyr y grwpiau ffocws, yn cynnwys sefydlu fforwm penodol o arweinwyr yng Nghymru. Ystyriwyd y gallai'r fforwm hwn gael y fantais o gynyddu uchelgais a darparu rhwydwaith lleol i arweinwyr herio ei gilydd a rhannu arfer da. Awgrymwyd y gallai hyn gynnwys cydweithio â Sefydliadau Pobl Anabl, Grwpiau Amhariad ac undebau llafur.

Cydnabuwyd y gallai dimensiwn Cymreig i gynllun cyflogwr integreiddio siaradwyr Cymraeg yn well a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg. Gallai cynllun sy'n ystyried dimensiwn penodol Cymreig ddeall patrymau cyflogi rhanbarthol yn well efallai yn ogystal â’r rhwystrau economaidd sy'n wynebu pobl anabl. 

Amlygodd rhai cyfranogwyr bryder nad oedd llawer o gyflogwyr yng Nghymru wedi ennill statws arweinydd Lefel 3 hyd yn hyn. Felly, ystyriwyd bod cymorth lleol yn ffordd bosibl o gynyddu nifer y cyflogwyr yng Nghymru yn y sector preifat a chyhoeddus sy'n cyflawni statws arweinydd. 

Roedd rhai pobl anabl a Sefydliadau Pobl Anabl yn teimlo bod lefelau ymddiriedaeth gyda Llywodraeth Cymru yn uwch na'r lefelau gyda Llywodraeth y DU. Ystyriwyd hefyd y gallai cael elfen Gymreig bwrpasol roi cyfle newydd ar gyfer 'newid diwylliannol'. Dywedodd un cyfranogwr y byddai hyn yn cynnig y cyfle i ddiwygio o'r gwaelod i fyny a gweithio'n gydgynhyrchiol gyda phobl anabl. 

Awgrymwyd y gallai hyn gynnwys ailfrandio'r cynllun yn llwyr heb iddo orfod cyd-fynd â’r Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn sicrhau mwy o hyder ac ymddiriedaeth yn y cynllun. 

Awgrymwyd y gallai elfen Gymreig bwrpasol gydredeg efallai â'r broses gaffael gyhoeddus yng Nghymru a allai gael ei defnyddio fel ffordd i ennyn diddordeb mwy o gyflogwyr. Er enghraifft, gellid gosod safon ansawdd sylfaenol i sicrhau y byddai'n rhaid i unrhyw gyflogwyr sy'n cynnig am gontractau'r sector cyhoeddus ei arddangos yn ymarferol. 

Roedd yr heriau posibl a amlygwyd yn cynnwys materion ymarferol fel cyllid a chapasiti. Cododd y cyfranogwyr y byddai angen mwy o fuddsoddiad yng Nghymru i wella capasiti’r rhanddeiliaid, yn enwedig ar gyfer Sefydliadau Pobl Anabl a Grwpiau Amhariad. 

Awgrymwyd hefyd y gallai cael cynllun Cymreig pwrpasol ochr yn ochr â chynllun cyflogwr cenedlaethol y DU achosi rhywfaint o ddryswch, yn enwedig i gyflogwyr sy'n gweithredu ledled y DU. 

Cwestiynodd rhai cyfranogwyr pa mor ymarferol oedd cyflawni hyn mewn termau real. Roedd rhai cyfranogwyr yn teimlo y gellid defnyddio’r ymdrech yn well yn ceisio gwella neu adeiladu ar y cynllun presennol yn hytrach na dargyfeirio adnoddau oddi wrtho o bosibl. 

Ar y cyfan, roedd y cyfranogwyr yn teimlo bod cyfleoedd clir a manteision posibl i gynllun Cymreig pwrpasol, ar y llaw arall roedd cefnogaeth gref hefyd i gynyddu'r adnoddau sydd ar gael a gwneud gwelliannau i'r cynllun presennol yn hytrach na datblygu rhywbeth newydd.

Disgrifiad o'r cynllun

Lansiwyd y Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd presennol ym mis Tachwedd 2016 gan y DWP yn lle’r cynllun 'ticio ddwywaith' (DWP)

Nod y cynllun yw 'cael mwy o bobl anabl i mewn i gyflogaeth a lleihau'r bwlch cyflogaeth rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl' a 'chefnogi cyflogwyr i wneud y gorau o'r talentau y gall pobl anabl eu cyflwyno i'r gweithle'. Nododd fod 'bod yn Hyderus o ran Anabledd yn gyfle i gyflogwyr arwain y ffordd yn eu cymuned a darganfod sgiliau a thalentau nad allant wneud hebddynt'. Mae'r cynllun yn wirfoddol ac mae’r canllawiau, hunanasesiadau ac adnoddau ar gael yn rhad ac am ddim. 

Mae gan y cynllun dair lefel y mae cyflogwyr yn cael eu hannog i symud drwyddynt: Lefel 1 'Ymrwymedig', Lefel 2 'Cyflogwr' a Lefel 3 'Arweinydd' fel y nodir isod (DWP)

Lefel 1: Ymrwymedig 

Ar y lefel hon, mae cyflogwyr yn cofrestru i'r cynllun drwy GOV.UK lle mae cyflogwr yn cytuno mewn egwyddor i bum ymrwymiad Hyderus o ran Anabledd ac i gynnal o leiaf un gweithgaredd o restr o naw a fydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl anabl (DWP)

Y pum ymrwymiad yw:

  1. sicrhau bod eich proses recriwtio yn gynhwysol ac yn hygyrch
  2. cyfathrebu a hyrwyddo swyddi gwag
  3. cynnig cyfweliad i bobl anabl
  4. rhagweld a darparu addasiadau rhesymol yn ôl y gofyn
  5. cefnogi unrhyw weithiwr presennol sy'n cael anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, gan ei alluogi i aros yn y gwaith 

Y naw gweithgaredd yw:

  1. profiad gwaith
  2. treialon gwaith
  3. cyflogaeth â thâl (parhaol neu gyfnod penodol)
  4. prentisiaethau
  5. cyfleoedd cysgodi swyddi
  6. hyfforddeiaethau
  7. interniaethau â thâl ac interniaethau â chymorth
  8. lleoliadau myfyrwyr
  9. lleoliadau academi gwaith sector 

Lefel 2: Cyflogwr

Mae cyflogwyr ar y lefel hon yn cwblhau hunanasesiad sy'n canolbwyntio ar gamau gweithredu sy'n cwmpasu dwy thema ac yn cytuno i ymgymryd â'r 'camau gweithredu craidd' ac o leiaf un 'gweithgaredd' a bennir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau mewn perthynas â phob thema. Rhaid i gyflogwyr gwblhau Lefel 1 cyn symud ymlaen i'r lefel hon. Y ddwy thema yw: 

  1. cael y bobl gywir ar gyfer eich busnes
  2. cadw a datblygu eich pobl

Ar Lefelau 1 a 2 mae adnoddau a chanllawiau ar gael i ddangos sut y gall cyflogwr weithredu'r camau gweithredu a'r gweithgareddau craidd o dan bob thema yn effeithiol (DWP)

Lefel 3: Arweinydd

Er mwyn cyrraedd y lefel hon, mae tri cham ychwanegol y mae angen i gyflogwr eu cymryd (DWP). Mae’r rhain yn cynnwys:

  1. her: mae gofyn i gyflogwyr gael eu hunanasesiad wedi'i ddilysu gan drydydd parti i sicrhau bod y cyflogwr yn cyflawni yn erbyn y camau craidd ac yn cyflogi pobl anabl
  2. arweinyddiaeth: rhaid i gyflogwyr ddarparu naratif o'r gweithgareddau a gyflawnwyd neu sy’n cael eu cyflawni i gefnogi bod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd
  3. adrodd ar anabledd, iechyd meddwl a lles: rhaid i gyflogwyr ddefnyddio'r Fframwaith Adrodd Gwirfoddol i adrodd ar gamau gweithredu a gymerwyd

Dull cydgynhyrchiol

Nodau cydgynhyrchu

Cynhyrchodd y tîm cydgynhyrchu weledigaeth gyffredinol ar gyfer y prosiect ymchwil, y dull cydgynhyrchu a'r gwerthusiad. Cytunwyd ar gydgynhyrchu fel 'dull o weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth gyfartal er budd cyfartal' a chytunwyd ar ystod o egwyddorion i helpu cydweithio ymhlith aelodau'r tîm. 

Yr uchelgeisiau a rennir oedd dysgu sut i gynhyrchu ymchwil GSR gyda'i gilydd, lle byddai'r dysgu’n cael ei ddefnyddio i wella ansawdd a defnydd tystiolaeth i lywio penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl anabl yn y dyfodol. Roedd yn arbrawf oedd yn creu prototeip i brofi'r terfynau wrth gydgynhyrchu adroddiad GSR. Bydd y graddau y cyflawnwyd uchelgeisiau yn destun adroddiad gwerthuso ar wahân ac nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn.

Y tîm cydgynhyrchu ymchwil

Cyfunodd y tîm cydgynhyrchu brofiad bywyd o anablu gan rwystrau ag arbenigedd mewn hawliau anabledd ac ymchwil gymdeithasol (academaidd a Llywodraeth) a daeth â 7 o Gadeiryddion Gweithgorau’r THA a swyddogion Llywodraeth Cymru at ei glydd:

  • roedd y Cadeiryddion yn cynrychioli cyfoeth o brofiad bywyd o gael eu hanablu gan rwystrau, gwybodaeth ac arbenigedd (gan gynnwys arbenigedd academaidd mewn anghydraddoldebau cyflogaeth ac anabledd) ac roeddent wedi cadeirio Gweithgorau’r THA yn ymdrin â phynciau Cyflogaeth ac Incwm, Byw'n Annibynnol ac Iechyd, Byw'n Annibynnol a Gofal Cymdeithasol, Tai, Mynediad at Wasanaethau, Mynediad at Gyfiawnder a Theithio
  • ymunodd Myfyriwr PhD a oedd yn gysylltiedig â Chadeirydd Gweithgor Cyflogaeth ac Incwm y THA ac yn ymchwilio'n annibynnol i'r un pwnc hefyd â'r tîm
  • arweinydd Polisi’r THA a gynhaliodd gysylltiadau rhwng prosiectau ymchwil a'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl
  • roedd o leiaf tri o ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i'r tîm cydgynhyrchu drwy’r prosiect, gan gynnwys rhai â phrofiad bywyd o gael eu hanablu gan rwystrau
  • bu Prif Ymchwilydd yn cefnogi’r cydgynhyrchu trwy’r cyfnod ac yn gyfrifol am y gwerthusiad terfynol
  • roedd gan Bennaeth yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd oruchwyliaeth ers cychwyn y prosiect ac roedd yn rhan lawn o'r cydgynhyrchu o'r adeg y cytunwyd ar y ffocws ymchwil

Nodau’r ymchwil

Nod yr ymchwil oedd cydgynhyrchu tystiolaeth sylfaenol yn ailadroddol a'i defnyddio i archwilio argymhelliad Gweithgor y THA, trwy gynnwys:

  • y tîm cydgynhyrchu a'i drafodaethau cwmpasu cychwynnol
  • cynrychiolwyr pobl anabl (gan gynnwys Sefydliadau Pobl Anabl a Grwpiau Amhariad)
  • cynrychiolwyr cyflogwyr
  • swyddogion polisi Llywodraeth Cymru
  • cynrychiolwyr undebau llafur

Sut cynhyrchwyd yr ymchwil

Aeth y tîm cydgynhyrchu ati i weithio mor gydgynhyrchiol â phosibl i gwmpasu, cyd-ddylunio a chydgynllunio'r ymchwil, datblygu offer ymchwil a chyd-ddadansoddi'r data. Bu ymchwilwyr Llywodraeth Cymru yn drafftio’r adroddiadau ac yn sicrhau ansawdd y rhain i safonau GSR cyn eu cynnig i'w hadolygu gan y tîm cydgynhyrchu. 

Roedd y graddau y cydgynhyrchwyd penderfyniadau yn amrywio yn ystod gwahanol gamau'r prosiect. Cafodd rhai penderfyniadau eu cadw gan Lywodraeth Cymru lle roedd ganddi gyfrifoldebau i'w cynnal. Er enghraifft, cyfrifoldebau diogelu data statudol neu safonau GSR proffesiynol fel cyfrifoldebau moesegol sy'n ymwneud â chyfrinachedd canfyddiadau cyn eu cyhoeddi. 

Mae cydgynhyrchu yn broses ailadroddol. Roedd y cydgynhyrchu’n cynnwys dau ddarn o ymchwil ac roedd penderfyniadau a wnaed ynglŷn â'r dyluniad gwaith maes yn effeithio ar yr adnoddau a oedd ar gael i gyflawni amcanion ymchwil eraill yn ddigonol. Eglurir hyn yn fanylach yn yr adran fethodoleg a bydd yn cael ei archwilio ymhellach trwy werthusiad y prosiect. Bydd y gwerthusiad yn ystyried i ba raddau y cydgynhyrchwyd yr ymchwil ar draws gwahanol gamau'r ddau brosiect o greu prototeip ymchwil.

Roedd cydweithio fel tîm o arbenigwyr trwy brofiad ac ymchwilwyr cymdeithasol academaidd neu Lywodraeth (a rhai’n perthyn i’r ddau gategori) yn ychwanegu at ansawdd yr ymchwil, er enghraifft:

  • cyfunwyd gwybodaeth am y pwnc ymchwil ac roedd yr ymchwil yn adeiladu ar wybodaeth a gronnwyd yng Ngweithgor y THA ac ymchwil annibynnol y Myfyriwr PhD
  • cymhwyswyd lens profiad bywyd wrth ddatblygu'r adnoddau ymchwil, cydhwyluso grwpiau ffocws a dadansoddi data’r grwpiau ffocws
  • heriwyd rhagdybiaethau am bobl anabl a thynnwyd sylw at gyfleoedd i wneud pethau'n wahanol
  • cydgynlluniwyd ymchwil ac adroddiadau wrth geisio cyflawni yn unol ag egwyddorion y model cymdeithasol o anabledd
  • gwnaed ymdrechion ar y cyd i ddewis a recriwtio cyfranogwyr mewn grwpiau ffocws

Manylion cyswllt

Awdur yr adroddiad: Yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd

Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: YrUnedTystiolaethCydraddoldeb@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 57/2025
ISBN Digidol: 978-1-83715-745-7

GSR logo