Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae gweunydd niwlog, coedwigoedd glaw Celtaidd ffrwythlon ac arfordiroedd garw Cymru yn rhan annatod o'n hunaniaeth genedlaethol, ac wedi llywio ein hanes, ein diwylliant, ein heconomi, ein hiechyd a'n llesiant. Ond nid yw gwydnwch y lleoedd pwysig hyn yn ddiogel. Rydym yn dibynnu ar we gyfoethog a chymhleth o fywyd - genynnau, rhywogaethau ac ecosystemau - sy'n rheoleiddio ein hinsawdd, yn rheoli dŵr, yn ysbrydoli celf ac yn sail i gynhyrchu bwyd iach, ymhlith gwasanaethau hanfodol eraill. Wrth i ni wynebu'r argyfwng natur, mae adfer a diogelu'r we o fywyd sy'n cefnogi gwydnwch cymdeithasol, economaidd ac ecolegol yn rhan annatod o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i '30x30’; y targed byd-eang i ddiogelu 30% o dir, dŵr croyw a môr ar gyfer pobl a natur erbyn 2030.

Mae natur yn bodoli mewn gofod ffisegol. Mae 30x30 yn tanlinellu'r egwyddor bod diogelu'r gofodau hyn ar gyfer natur yn hanfodol os ydym am ei adfer. Mae'r fframwaith hwn ar gyfer 30x30 yng Nghymru, sy'n rhan o'n Cynllun Gweithredu Adfer Natur, yn amlinellu ein dull cyffredinol ac yn mynegi'r meini prawf ar gyfer ardaloedd sy'n cyfrannu at y targed. Mae'n cadarnhau'r cyfraniad y bydd ein hardaloedd gwarchodedig a Mesurau Cadwraeth Effeithiol Eraill (OECMs) ar sail ardal yn ei wneud at sicrhau rhwydwaith gwydn o ofodau sy'n doreithiog o ran natur y gall cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol eu mwynhau ac elwa arnynt.

Meini prawf 30x30

Wrth galon 30x30, mae cydnabyddiaeth nad yw creu ffiniau ar fapiau yn diogelu nac yn gwarchod ac adfer natur. Bydd cyflawni'r targed yn ystyrlon yn cofleidio dull wedi’i gyd-arwain, sy’n gynhwysol ac yn gyfranogol, ac yn sicrhau canlyniadau hirdymor i bobl a natur.

Gyda mewnbwn gan randdeiliaid, aethom ati i ddatblygu set o feini prawf y dylai ardaloedd a nodwyd o dan y targed 30x30 eu bodloni, gan alinio ag uchelgeisiau Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal (GBF) a'r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN):

Dylai'r ardaloedd a nodwyd o dan y targed 30x30 yng Nghymru:

  1. Gefnogi organebau byw a mathau o gynefinoedd sy'n cael eu gwarchod yn gyfreithiol a/neu sydd o bwysigrwydd allweddol at ddiben cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru, gan gynnal ac adfer swyddogaethau a gwasanaethau ecosystemau sy'n hanfodol i lesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
  2. Cyfrannu at gynrychiolaeth gymesur o'r ystod lawn o ecosystemau, prosesau ecolegol ac eco-ranbarthau sy'n bresennol yng Nghymru.
  3. Ceisio cyfrannu at rwydwaith sydd wedi'i gysylltu'n strwythurol a swyddogaethol â choridorau cynefinoedd sy'n caniatáu llif genynnau, rhywogaethau ac adnoddau naturiol, gan ganiatáu gwydnwch i newid.
  4. Cael eu rheoli'n effeithiol am byth a sefydlu mecanwaith teg ac atebol erbyn 2030 i ddangos canlyniadau cadarnhaol ar gyfer gwydnwch bioamrywiaeth ac ecosystemau yn y fan a'r lle. Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael â bygythiadau a phwysau a allai effeithio ar werthoedd bioamrywiaeth yr ardal. Dylai canlyniadau barhau am gyfnod amhenodol, a dylen gael eu profi drwy ddulliau cyfreithiol neu ddiffiniedig tebyg am o leiaf 25 mlynedd.
  5. Integreiddio gwaith monitro safonedig o ansawdd uchel, a thystiolaeth i gefnogi rheolaeth effeithiol ar lawr gwlad ac ar lefel genedlaethol. Sicrhau bod y defnydd a'r rheolaeth o ddata bioamrywiaeth yn mabwysiadu egwyddorion FAIR h.y. y gallu i ddod o hyd iddo, hygyrchedd, y gallu i ddefnyddio a chyfnewid, a’i ailddefnyddio.
  6. Arddel amcan ac egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (SMNR).
  7. Bod wedi'u sefydlu ac yn cael eu rheoli a'u llywodraethu fel bod costau a buddion ardaloedd 30x30 yn cael eu rhannu'n deg, a bydd hyn yn cynnwys cyfranogiad tryloyw, atebol a chynhwysol wrth wneud penderfyniadau, gan gydnabod hawliau, bywoliaethau ac amry.

Y Targed 30x30

Enw arall ar 30x30 yw Targed 3 Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol, y cytunwyd arno gan 196 o wledydd, gan gynnwys Cymru drwy'r DU. Mae'r diffiniad llawn yn darllen fel a ganlyn:

Ensure and enable that by 2030 at least 30 per cent of terrestrial and inland water areas, and of marine and coastal areas, especially areas of particular importance for biodiversity and ecosystem functions and services, are effectively conserved and managed through ecologically representative, well-connected and equitably governed systems of protected areas and other effective area-based conservation measures, recognising indigenous and traditional territories, where applicable, and integrated into wider landscapes, seascapes and the ocean, while ensuring that any sustainable use, where appropriate in such areas, is fully consistent with conservation outcomes, recognising and respecting the rights of indigenous peoples and local communities, including over their traditional territories.

Ardaloedd sy'n cyfrannu at y targed 30x30

Ardaloedd Gwarchodedig

Mae'r IUCN yn diffinio ardal warchodedig fel gofod daearyddol wedi'i ddiffinio'n glir, sy'n cael ei gydnabod, ei neilltuo a'i reoli, drwy ddulliau cyfreithiol neu ddulliau effeithiol eraill, er mwyn sicrhau bod natur yn cael ei warchod yn yr hirdymor gyda gwasanaethau ecosystem a gwerthoedd diwylliannol cysylltiedig.

At ddibenion 30x30 yng Nghymru, bydd gan ardaloedd gwarchodedig sy'n cyrraedd y targed 30x30 o leiaf un o'r dynodiadau canlynol ar draws yr ardal yn ei chyfanrwydd: 

  • Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
  • Parthau Cadwraeth Morol (MCZs)
  • Safleoedd Ramsar
  • Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA)
  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA)
  • Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (GNG), lle maent yn cael eu hategu gan SoDdGA

Gan gynnwys dynodiadau sy'n gorgyffwrdd, mae'r ardaloedd hyn yn cwmpasu ~11% o dir Cymru (0.2 miliwn ha) a ~69% o arwynebedd morol Cymru (1 miliwn ha) yn 2025.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn defnyddio cyfres o "safonau cyffredin" ar gyfer monitro bioamrywiaeth o fewn SoDdGA, ACA ac AGA yn unol â chyrff cadwraeth natur statudol eraill y DU. Mae asesiadau yng Nghymru yn adlewyrchu cyflwr rhywogaethau a chynefinoedd allweddol ('nodweddion diddordeb’).

Er mwyn i SoDdGA, ACA ac AGA gyfrif tuag at y targed 30x30 yng Nghymru, dim ond y rhai sydd â thystiolaeth sy'n cefnogi asesiad cyflwr adferiad 'ffafriol' neu 'anffafriol' a fydd yn cael eu cynnwys. Gan weithredu'r argymhellion gan y Grŵp Arbenigol Monitro a Thystiolaeth 30x30, bydd asesiadau sy'n seiliedig ar nodweddion, synhwyro o bell a barn arbenigol cadarn yn darparu sail ar gyfer amcangyfrifon cyflwr sy'n seiliedig ar raddau.

Bydd rheolwyr tir sy’n gyfrifol am ardaloedd gwarchodedig 30x30 yn cael cymorth i wella eu cyflwr. Er enghraifft, bydd gan ffermwyr sy’n gyfrifol am SoDdGA fyndediad i amrywiaeth o weithredoedd cyffredinol, opsiynol, a chydweithredol yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd wedi’u dylunio i wella cyflwr nodweddion amlwg y safle. 

Rôl adfer natur ehangach ar gyfer Tirweddau Dynodedig

Gyda'i gilydd, gelwir Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol yn 'Dirweddau Dynodedig' yng Nghymru. Mae'r dynodiadau hyn yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol fel ardaloedd gwarchodedig Categori V yr IUCN am eu priodweddau ecolegol, biolegol, diwylliannol a golygfaol unigryw. Fodd bynnag, nid yw pob ardal o fewn y tirweddau hyn yn cael ei rheoli'n benodol ar gyfer natur. Felly, o’u hanfod, ni all yr holl Dirweddau Dynodedig gyfrannu at y targed o 30%.

Gan gwmpasu 25% o Gymru a chyfran sylweddol o gynefinoedd â blaenoriaeth, rhaid i Dirweddau Dynodedig fod yn ffocws hanfodol ar gyfer cyflawni 30x30. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu cynyddu cyfran y tirweddau arbennig hyn sy'n sbarduno adferiad natur (h.y. ardaloedd sy'n bodloni'r meini prawf a fydd yn adrodd i'r targed o 30%), er enghraifft, drwy harneisio partneriaethau adfer tirwedd. Mae ymgysylltu a stiwardiaeth gyfunol y bobl sy'n byw yn y tirweddau hyn, sy’n gweithio ynddynt, ac yn eu mwynhau yn allweddol i'r ymdrech hon. Mae hyn yn cynnwys yr awdurdodau perthnasol a'r tirfeddianwyr sy'n gyfrifol am eu rheoli, y mae llawer ohonynt yn dibynnu ar y tir am eu bywoliaethau.

Mesurau cadwraeth effeithiol eraill (OECMs) ar sail ardal

Rydym am gydnabod a grymuso stiwardiaeth eithriadol ar gyfer natur y tu allan i ardaloedd gwarchodedig. Mae cyflawni'r targed 30x30 yn dibynnu ar weithio ochr yn ochr â'r cymunedau, yr unigolion a'r sefydliadau sydd eisoes yn rheoli ardaloedd sy'n gyfoethog mewn bioamrywiaeth ond nad ydynt yn cael eu hystyried yn ardaloedd gwarchodedig traddodiadol.

Gellir cydnabod yr ardaloedd hyn fel 'OECMs’. Mae'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) yn diffinio OECM fel "a geographically defined area other than a Protected Area, which is governed and managed in ways that achieve positive and sustained long-term outcomes for the in situ conservation of biodiversity, with associated ecosystem functions and services and, where applicable, cultural, spiritual, socioeconomic, and other locally relevant values”. 

Mae OECMs yn gyfle i geidwaid ein tir a'n morluniau arddangos a chefnogi dull cyflawni cadarnhaol er lles natur a phobl. Bydd cydnabyddiaeth yn wirfoddol, yn seiliedig ar gydsyniad rhydd, ymlaen llaw a gwybodus yr unigolion hynny sy’n rheoli ardal.

Yn bwysig, mae statws OECM yn gydnabyddiaeth, nid yn rheoliad. Nid yw'n gorfodi gofynion rheoli ychwanegol ar gyfer tirfeddianwyr. Yn hytrach, mae'n cydnabod - drwy ddulliau cyfreithiol neu sydd wedi'u diffinio'n dda - lle mae canlyniadau cadwraeth eisoes yn cael eu cyflawni drwy ddulliau llywodraethu a rheoli presennol.

Mae ein dull yn seiliedig ar ganllawiau'r IUCN, byddwn yn defnyddio pecyn cymorth a gyd-ddyluniwyd gyda rhanddeiliaid i nodi a gwella ardaloedd presennol sy'n cyd-fynd â'n meini prawf 30x30. Bydd y dull hwn yn integreiddio ac ategu mecanweithiau cyhoeddus a phreifat, megis y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Bydd yr ardaloedd hyn yn cael eu cydnabod yn gyhoeddus fel OECMs. Mae cydnabyddiaeth fel OECM yn darparu sylfaen ar gyfer denu buddsoddiad o ffynonellau cyhoeddus a phreifat, gan sicrhau cymhellion hirdymor, teg ar gyfer adfer natur. 

Bydd ardaloedd ar lwybr adferiad yn cael eu cydnabod am eu cyfraniad at y gwaith o adfer ecosystemau, gan dderbyn statws OECM llawn unwaith y bydd hynny'n amlwg, gyda’r disgwyl y bydd canlyniadau sylweddol ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth yn y fan a'r lle yn parhau i’r hirdymor. 

Mae cyflawni 30x30 yn dibynnu ar weithio ochr yn ochr â'r cymunedau a'r sefydliadau sy'n rheoli ardaloedd addas ar gyfer natur. 

Nododd ein grŵp arbenigol ar OECMs ardaloedd y tu allan i ardaloedd gwarchodedig y gellid eu cydnabod fel OECMs, ar yr amod bod meini prawf 30x30 yn cael eu bodloni. Mae'r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Ardaloedd a reolir yn effeithiol ar gyfer bioamrywiaeth o fewn ystad Llywodraeth Cymru.
  • Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur a Gwarchodfeydd Natur Lleol, gan gynnwys y rhai sy'n eiddo i awdurdodau lleol.
  • Ardaloedd sy'n eiddo i sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol.
  • Ardaloedd a reolir fel cynefin sy’n llawn natur gan ffermwyr o fewn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
  • Ardaloedd sy'n eiddo i awdurdodau cyhoeddus sy'n cael eu rheoli ar gyfer bioamrywiaeth o dan Ddyletswydd Adran 6.
  • Ardaloedd a warchodir ar gyfer gwerthoedd hanesyddol neu ddiwylliannol sy'n cyflawni cadwraeth bioamrywiaeth yn y fan a'r lle.
  • Ardaloedd sy'n eiddo i unigolion preifat, ffermwyr, grwpiau cymunedol a/neu a reolir ganddynt, neu a reolir fel tir comin.
  • Ardaloedd a reolir fel pyllau glo a safleoedd tir llwyd.
  • Ardaloedd sy'n darparu cadwraeth bioamrywiaeth ategol neu eilaidd fwy effeithiol, megis dalgylchoedd dŵr a systemau rheoli tir traddodiadol sy'n cynnal lefelau uchel o fioamrywiaeth.
  • Ardaloedd sy'n darparu cysylltiad rhwng ardaloedd gwarchodedig h.y. clustogfeydd a pharthau cysylltedd.
  • Ardaloedd a reolir ar gyfer bioamrywiaeth gan Bartneriaethau Tirwedd, megis o fewn haen gydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Mae ardaloedd a reolir yn gynaliadwy, sy'n cefnogi gwydnwch ecosystemau, ond sy'n annhebygol o fod yn gymwys fel OECMs yn cynnwys:

  • Tirweddau a reolir yn ddwys gyda gwerth bioamrywiaeth cyfyngedig.
  • Coedwigoedd a reolir yn fasnachol ar gyfer cyflenwad pren.
  • Trefniadau cau pysgodfeydd neu offer rheoli pysgodfeydd eraill, a allai fod yn destun camfanteisio cyfnodol.
  • Tiroedd amaethyddol a reolir mewn modd sy'n cyfyngu ar gadwraeth yn y fan a'r lle.
  • Mesurau bioamrywiaeth neu gadwraeth sy'n berthnasol i un rhywogaeth dros ardal ddaearyddol eang.

Creu Rhwydweithiau Ecolegol Gwydn (RENs)

Mae RENs yn gysyniad a fathwyd yng Nghymru i ddisgrifio rhwydweithiau o gynefinoedd sydd mewn cyflwr ecolegol da sy'n cysylltu safleoedd gwarchodedig a llecynnau cyfoethog o ran bioamrywiaeth eraill ar draws y dirwedd ehangach, gan ddarparu'r budd mwyaf posibl i fioamrywiaeth a llesiant. Mae gan rwydweithiau natur o'r fath ecosystemau gwydn iach sy'n darparu ystod o wasanaethau ecosystemau pwysig yn ogystal â chaniatáu i rywogaethau symud ar draws tirweddau mewn ymateb i'r newid yn yr hinsawdd. Mae'r dull RENs wedi'i integreiddio i ddeddfwriaeth bresennol Cymru, strategaethau thematig a gofodol a fframweithiau polisi, gan ddarparu cymorth hirdymor i 30x30 a dyheadau ehangach y GBF.

Image
Ffigur 1 Rhwydwaith ecolegol gwydn cysyniadol, sy'n ymgorffori camau gweithredu credadwy i gynyddu gwydnwch rhwydwaith, megis cynyddu cysylltedd drwy goridorau cynefin a cherrig camu. Yn seiliedig ar y Practitioners’ guide to Resilient Ecological Networks a Defining and delivering resilient ecological networks: Nature conservation in England - Isaac - 2018 - Journal of Applied Ecology - Wiley Online Library

Ffigur 1 Rhwydwaith ecolegol gwydn cysyniadol, sy'n ymgorffori camau gweithredu credadwy i gynyddu gwydnwch rhwydwaith, megis cynyddu cysylltedd drwy goridorau cynefin a cherrig camu. Yn seiliedig ar y Practitioners’ guide to Resilient Ecological NetworksDefining and delivering resilient ecological networks: Nature conservation in England - Isaac - 2018 - Journal of Applied Ecology - Wiley Online Library

Mae'r cysyniad o RENs yn cydnabod bod prosesau ecosystemau yn digwydd ar raddfa tirwedd ac yn aml y tu hwnt i ffiniau safleoedd unigol. Mae gwydnwch ecosystemau yn dibynnu ar y sicrwydd bod y prosesau hyn, megis peillio a gwasgaru hadau, yn gysylltiedig yn swyddogaethol ac yn strwythurol.

Rydym wedi datblygu set o fapiau "Rhwydweithiau Natur" (dolen amgen) sy'n nodi ardaloedd o dir sy'n darparu cysylltedd swyddogaethol rhwng ardaloedd gwarchodedig. Bydd y rhain yn llywio datblygiad strategol a chydweithredol RENs – gan integreiddio ardaloedd gwarchodedig ac OECMs. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi canllawiau fel y gall ymarferwyr ddatblygu RENs ar y cyd â rhanddeiliaid, gan gynnwys partneriaid tirwedd, er mwyn cyflawni ar gyfer adferiad natur a'r gwasanaethau ecosystemau a ddarperir ganddynt. Bydd Datganiadau Ardal CNC hefyd yn darparu tystiolaeth mawr ei hangen ar gyfer cynllunio a darparu RENs.

Monitro 30x30

Mae ein Grŵp Arbenigol Monitro a Thystiolaeth wedi datblygu fframwaith monitro 30x30 lefel uchel. Mae'n cwmpasu ystod o fetrigau posibl a fydd yn gwerthuso cyflawniad ac yn dwyn cynnydd i gyfrif, gan adrodd tuag at gyfres o ddangosyddion y GBF, gan gynnwys Prif Ddangosydd 3.1

Bydd angen i dystiolaeth sy'n cefnogi ein gwerthusiad o 30x30 ddangos cynnydd clir o ran cyflawniad ar draws y meini prawf 30x30 a'r effeithiau angenrheidiol sy'n cael eu gwneud. Bydd yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn fecanwaith allweddol ar gyfer adrodd.

Yng Nghymru, byddwn yn defnyddio'r offeryn Effeithiolrwydd Rheoli Ardaloedd Gwarchodedig a Chadwraeth (MEPCA) fel elfen o'n fframwaith monitro. Mae'r dangosydd MEPCA wedi'i ddatblygu gan JNCC i asesu effeithiolrwydd rheoli ardaloedd gwarchodedig a chadwraeth (gan gynnwys OECMs), gyda'i ffocws ar gyflawni canlyniadau cadwraeth. Fe'i rhestrir fel dangosydd cyflenwol ar gyfer Targed 3 yn fframwaith monitro'r GBF.

Gweledigaeth ar gyfer 30x30 yng Nghymru

Ein gweledigaeth ar gyfer 30x30 yng Nghymru yw rhwydwaith ffyniannus, cysylltiedig, cynhwysfawr a gwydn, a lywodraethir yn deg o ardaloedd gwarchodedig a mesurau cadwraeth effeithiol eraill ar sail ardal sy'n cwmpasu tir, dŵr croyw a môr – sy’n cyfrannu at wydnwch ecosystemau ac yn arwain at atal a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth yng Nghymru.

Bydd gweithredu 30x30 yn her sylweddol oni bai bod ysgogwyr colli bioamrywiaeth yn cael eu lleihau. Mae'n hanfodol bod 30x30 yn rhan o ddull trawsnewidiol ehangach i gefnogi adferiad natur ledled Cymru, gan gynnwys adfer ecosystemau diraddiedig, mynd i'r afael ag ysgogwyr allweddol colli bioamrywiaeth megis llygreddrhywogaethau goresgynnol, a sicrhau coedwigaeth, amaethyddiaeth a physgodfeydd cynaliadwy.

Bydd ein dull strategol yn cael ei arwain gan ddyletswydd Adran 6 i 'gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau'y 7 nod llesiant a'r 5 ffordd o weithio, a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac wedi'i integreiddio i'n hamcanion ehangach, gan gynnwys gwrthsefyll effeithiau'r hinsawdd a diogeledd bwyd.

Mae cyflawni'r weledigaeth hon yn gofyn am ymdrech ar y cyd ar draws y Llywodraeth, sefydliadau cyflawni allweddol a phobl Cymru. Gyda'n gilydd, gallwn greu dyfodol lle mae natur a phobl yn byw mewn cytgord. Daw eto haul ar fryn.