Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg y Cadeirydd

Image
Ruth Glazzard, Cadeirydd Bwrdd Awdurdod Refeniw Cymru

 

Wrth i ni edrych yn ôl ar y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac edrych ymlaen tuag at ein cynllun corfforaethol tair mlynedd nesaf, rwy’n teimlo ein bod ar drothwy cyfnod allweddol yn esblygiad Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).

Rydym wedi parhau i wneud cynnydd da gyda’r cyfrifoldebau sydd gennym ar hyn o bryd. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio’n ddiwyd i baratoi ar gyfer cyflwyno gwasanaethau newydd ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at bennod nesaf ein hanes wrth i ni gyflawni mwy dros Gymru.

Un garreg filltir arwyddocaol ar ein taith yw ymadawiad ein Prif Weithredwr cyntaf, Dyfed Alsop. Gweithiodd Dyfed ar sefydlu ACC, ac ef oedd ein Prif Weithredwr a’n Swyddog Cyfrifyddu cyntaf. Bu’n ysbrydoliaeth i bob agwedd o’n sefydliad – ein pobl, ein partneriaethau, ac ‘Ein Dull’. Mae ein hymrwymiad parhaus i Ein Dull i’w weld yn amlwg yn angerdd ac yn ymroddiad ein pobl. Nhw yw ein cryfder pennaf.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i Dyfed am ei waith diflino ac am ei ymroddiad personol i ACC. Mae’n ein gadael yn hyderus o’n cyfeiriad ac yn barod ar gyfer y bennod nesaf. Rwy’n falch iawn fod Rebecca Godfrey (ein Prif Swyddog Gweithredu gynt) wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu Dros Dro; edrychaf ymlaen at weithio gyda hi yn y swydd honno, gyda chefnogaeth gweddill yr uwch dîm arwain.  

Ein Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu Dros Dro, Rebecca Godfrey (yn y swydd ers Mai 2025), sydd wedi llofnodi’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon hwn, gyda sicrwydd gan Dyfed o’i gyfnod fel Swyddog Cyfrifyddu yn ystod 2024 i 2025.

Ruth Glazzard
Cadeirydd ACC

Adroddiad ar Berfformiad: Trosolwg y Prif Weithredwr

Image
Dyfed Alsop, Prif Swyddog Gweithredol (Ebrill 2024 i Ebrill 2025) Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro (o Fai 2025)

 

Wrth i’n cynllun corfforaethol 2022 i 2025 ddirwyn i ben, gallwn edrych yn ôl â balchder ar gyfnod o gyflawniad a thwf i’n sefydliad. Fe gyrhaeddom garreg filltir arwyddocaol pan gasglom £2 biliwn mewn refeniw treth ers 2018; arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus hollbwysig, gan gynnwys ysgolion a’r GIG, a hynny mewn cymunedau ar draws Cymru benbaladr.

Yn y tair blynedd, fe lwyddom yn ein bwriad: sef i ehangu ein gallu, gan ganolbwyntio ar ei gwneud hi’n hawdd ac yn deg i dalu trethi. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r rhan fwyaf o'n mesurau perfformiad wedi gwella ac rydym wedi dangos pa mor ystwyth y gallwn fod trwy ddefnyddio ein hadnoddau’n hyblyg; roedd ein gwariant o fewn 1% o'n cyllideb.

Mae ein gwaith ar drethi newydd wedi arddangos ein gallu i gyflawni mewn meysydd newydd. Gan gydweithio â Llywodraeth Cymru yn ehangach, cawsom fewnbwn ar ddyluniad a chyflwyniad Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru). Ar yr un pryd, rydym yn parhau i arloesi gyda'r cyfrifoldebau Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi sydd gennym eisioes.

Mae Ein Dull, sy’n ysbrydoli popeth a wnawn ac sy’n cynrychioli ‘Ffordd Gymreig o drethu’, wedi cael ei gryfhau eto fyth gan ragor o fuddsoddi yn ein timau lliniaru risg treth sy’n gweithio ar y trethi presennol. Bydd hyn yn ein galluogi i archwilio meysydd newydd o risg treth ynghyd â darparu gwasanaethau effeithiol i'n cwsmeriaid.

Mae ein sefydliad wedi esblygu. Rydym wedi symud tuag at ymgorffori dull sy’n canolbwyntio ar wasanaethau ymhellach ar draws ein gweithrediadau. Rydym wedi bod yn adeiladu'r dull hwn trwy gydol y cyfnod, a hynny er mwyn sicrhau ein bod yn cadw ein cwsmeriaid wrth wraidd popeth a wnawn, a’n bod mewn sefyllfa dda i barhau i gyflawni mewn ffordd gynaliadwy wrth i ni dyfu.

Ym mis Ebrill, gwnaethom gyhoeddi ein cynllun corfforaethol ar gyfer 2025 i 2028. Fe ddywedom yn y cynllun hwnnw y byddwn yn parhau i weithredu gyda hyder ac yn parhau i fod yn uchelgeisiol ac yn ddewr yn y ffordd y byddwn yn gwasanaethu Cymru yn y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu gwasanaethau hirdymor a fydd o fudd i Gymru am flynyddoedd i ddod.

Dyfed Alsop – Prif Weithredwr (Ebrill 2024 hyd Ebrill 2025)
Rebecca Godfrey – Prif Weithredwr Dros Dro (ers mis Mai 2025)

Trosolwg o berfformiad

Mae'r adran hon yn rhoi trosolwg o'n sefydliad a'n gweithgareddau ac yn rhoi crynodeb o’n perfformiad yn erbyn ein hamcanion strategol. 

Amdanom ni

Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu ein bod ar wahân i weinidogion Cymru o ran y data sydd gennym a'r penderfyniadau gweithrediadol a wneir gennym.

Rydym yn sefydliad o dros 100 o bobl, gyda sgiliau a phrofiad sy’n cwmpasu 14 o broffesiynau gwahanol. Rydym yn rheoli Treth Trafodiadau Tir (TTT) a Threth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) ar ran Llywodraeth Cymru. Drwy reoli'r trethi datganoledig hyn, rydym yn casglu refeniw hanfodol i gefnogi gwasanaethau lleol, fel y GIG ac ysgolion, mewn cymunedau ledled Cymru.

Rydym hefyd yn cefnogi Llywodraeth Cymru ehangach ar Fil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru). Gan dybio bod deddfwriaeth newydd yn cael ei phasio yn haf 2025, byddwn yn gyfrifol am gasglu a rheoli ardoll ymwelwyr a'r gofrestr genedlaethol o lety i ymwelwyr yng Nghymru.   

Ein Dull 

Rydym wedi datblygu 'Ein Dull', sef y Ffordd Gymreig o drethu, a dyma sail y ffordd rydym yn casglu ac yn rheoli treth. Gan ddechrau o sefyllfa o ymddiriedaeth, rydym yn gweithio gyda threthdalwyr ac asiantau i'w helpu i dalu'r swm cywir o dreth ar y cynnig cyntaf. Mae'r dull hwn yn ein helpu i ddarparu system dreth deg i Gymru.

Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, y bydd adegau pan fydd pobl yn gwneud camgymeriadau. Rydym yn mynd ati i geisio nodi amgylchiadau lle mae trethdalwyr yn fwy tebygol o dalu’r swm anghywir o dreth. Gelwir y rhain yn ‘risgiau treth’. Rydym yn cymryd camau i sicrhau bod pobl yn talu'r swm cywir o dreth yn yr achosion hyn.

Ar brydiau, mae angen i ni ymyrryd i wneud yn siŵr bod trethdalwr neu asiant yn talu treth a fyddai, oni bai am ein hymyrraeth ni, wedi aros heb ei thalu. Rydym yn galw hyn yn ‘ddiogelu treth’ neu ‘adennill treth’. Rydym yn adrodd ar y gweithgaredd hwn yn yr adran Dadansoddiad o berfformiad

Ein diben a’n hamcanion strategol 

Rydym yn nodi ein diben a'n hamcanion strategol yn ein Cynllun Corfforaethol 2022 i 2025, ac mae gweinidogion Cymru wedi cydsynio â hwy. Mae’r adroddiad blynyddol a chyfrifon yn cynrychioli blwyddyn adrodd olaf y cynllun corfforaethol hwn.  Mae’r Cynllun Corfforaethol 2025 i 2028 wedi’i gyhoeddi’n ddiweddar. 

Yn ein cynllun corfforaethol ar gyfer 2022 i 2025, rydym wedi nodi ein diben i:  

  • lunio a darparu gwasanaethau cyllid
  • arwain gwell defnydd o ddata trethdalwyr Cymru ar gyfer Cymru

Dyma ein hamcanion strategol ar gyfer y cyfnod: 

  • hawdd: byddwn yn ei gwneud hi’n hawdd talu'r swm cywir o dreth
  • teg: byddwn yn deg ac yn gyson yn y ffordd rydym yn casglu ac yn rheoli treth, gan gymryd camau cymesur pan nad yw pobl yn cyflawni eu hymrwymiadau
  • medrus: byddwn yn datblygu ac yn manteisio i'r eithaf ar ein gallu unigol a chyfunol
  • effeithlon: byddwn yn cyflawni mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac yn gymesur, gan ddefnyddio'r adnoddau sydd gennym yn y ffordd orau 

Adroddiad arfarnu 

Pan fyddwn yn adrodd ar ein perfformiad, rydym yn adrodd ar fesurau’r cynllun corfforaethol a ddatblygwyd o amgylch ein hamcanion, fel y nodir uchod. Mae'r rhain yn amrywio o fesurau sy'n canolbwyntio ar dreth i fesurau sy'n canolbwyntio ar bobl a sgiliau.

Mae llawer o'n mesurau wedi gwella yn ystod y flwyddyn, ac yn gyffredinol mae’r lefelau perfformiad o fewn ein targedau penodol neu'n agos atynt. Mae crynodeb o’r data i’w gael isod, ac mae adroddiad manylach ar hyn yn yr adran dadansoddiad o berfformiad. Rydym hefyd yn cyhoeddi'r data manylach sydd y tu ôl i'n holl fesurau perfformiad yn ein hatodiad data

Barn pobl am y profiad o ddelio gyda ni  

  • Amcanion: hawdd, teg a medrus. 
  • Targed 2025: bod cymaint o bobl ag sy’n bosibl yn ei chael hi'n hawdd defnyddio ein gwasanaethau. 
  • Perfformiad 2024 i 2025: roedd bron i 90% o bobl yn ei chael hi’n hawdd defnyddio ein gwasanaethau, a oedd ychydig yn is na’r flwyddyn flaenorol. 

Cefnogi pobl i gael eu trethi'n gywir  

  • Amcanion: hawdd, teg ac effeithlon. 
  • Targed 2025: cefnogi pobl i gael eu trethi'n gywir.
  • Perfformiad 2024 i 2025: Rydym yn amcangyfrif bod 97.4% o drethdalwyr wedi datgan y dreth gywir, ffigur sydd ychydig yn is na'r llynedd ar ôl nodi rhai risgiau treth ychwanegol. 

Prydlondeb ffeilio

  • Amcanion: hawdd, teg ac effeithlon. 
  • Targed 2025: 98% wedi’u ffeilio ar amser
  • Perfformiad 2024 i 2025: cafodd bron i 99% o drafodiadau eu ffeilio ar amser, sy’n gynnydd bychan ar y flwyddyn flaenorol. Gostyngodd yr amser cyfartalog i ffeilio achosion drwy gydol y flwyddyn. 

Prydlondeb talu

  • Amcanion: hawdd, teg ac effeithlon. 
  • Targed 2025: 98% wedi’u talu ar amser.
  • Perfformiad 2024 i 2025: mewn bron i 97% o drafodiadau lle’r oedd treth yn ddyledus, cafwyd taliad llawn o fewn 30 diwrnod, sydd ychydig yn well na'r llynedd ond drwch blewyn yn is na'n targed. 

Prydlondeb ad-daliadau cyfradd uwch

  • Amcanion: hawdd, teg ac effeithlon. 
  • Targed 2025: 95% wedi'u prosesu mewn 30 diwrnod a 98% wedi’u prosesu mewn 60 diwrnod neu lai. 
  • Perfformiad 2024 i 2025: Gwnaed dros 95% o ad-daliadau cyfradd uwch o fewn 30 diwrnod, a thalwyd bron i 99% o fewn 60 diwrnod. 

Cesglir dyledion yn gyflym

  • Amcan: teg. 
  • Targed 2025: 90% o'r dyledion yn cael eu talu o fewn 30 diwrnod a 98% o fewn 90 diwrnod. 
  • Perfformiad 2024 i 2025: talwyd 87% o'r trafodiadau a oedd mewn dyled o fewn 30 diwrnod, a 95% o fewn 60 diwrnod, ychydig yn is na’n targedau. Fodd bynnag, mae'r mesur hwn yn amrywio gan mai nifer fechan o achosion sy’n mynd i ddyled bellach. 

Gwneud taliadau’n gywir y tro cyntaf

  • Amcan: hawdd. 
  • Targed 2025: cynyddu nifer y taliadau a wneir yn gywir y tro cyntaf. 
  • Perfformiad 2024 i 2025: Gwnaed 95% o'r taliadau yn gywir y tro cyntaf, sy’n uwch na’r flwyddyn flaenorol.  

Graddau awtomeiddiad

  • Amcan: effeithlon. 
  • Targed 2025: 98% o'r trafodiadau’n cael eu cwblhau heb fod angen ymyrraeth â llaw. 
  • Perfformiad 2024 i 2025: Nid oedd angen ymyrraeth ar 95% o'r trafodiadau, sy'n debyg i'r llynedd, ac wedi codi ychydig dros y 3 blynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae'r mesur yn dal i fod ychydig yn is na’n targed o 98%. 

Sut mae ein pobl yn teimlo

  • Amcan: medrus. 
  • Targed 2025: yn y 25% uchaf o sefydliadau'r Gwasanaeth Sifil o ran ymgysylltiad. 
  • Perfformiad 2024 i 2025: roeddem yn chweched yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil ar gyfer ymgysylltiad cyflogeion cyffredinol yn 2024.  

Ein cymysgedd o sgiliau

  • Amcan: medrus. 
  • Targed 2025: cynnal ehangder proffesiynau a datblygu ein sgiliau Cymraeg. 
  • Perfformiad 2024 i 2025: ar hyn o bryd rydym yn cyflogi pobl o 14 o wahanol broffesiynau ac mae 49% ohonynt yn gallu o leiaf rhywfaint o Gymraeg, gyda 13% yn rhugl neu’n agos at fod yn rhugl. Mae hyn fymryn yn is na'r flwyddyn flaenorol. 

Amrywiaeth

  • Amcan: medrus. 
  • Targed 2025: bod yn sefydliad cynhwysol sy'n gwerthfawrogi ac yn cynnwys pobl, waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau. 
  • Perfformiad 2024 i 2025: yn ôl canlyniadau ein Harolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil (2024) diweddaraf, roedd ein sgôr cyffredinol ar gyfer cynhwysiant a thriniaeth deg yn 90%. Mae hyn wedi cynyddu o'r flwyddyn flaenorol.

Mae ein hatodiad data yn cynnwys y data manwl, cyfredol a hanesyddol, ar gyfer y dangosyddion amrywiaeth mwy cymhleth.  

Ein prif risgiau

Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethom nodi a rheoli 5 prif risg gorfforaethol. Mae'r rhain yn ymwneud â: 

  • sicrhau'r adnoddau cywir
  • cynnal ein diwylliant cadarnhaol
  • rheoli gwybodaeth a diogelwch
  • ariannu ein swyddogaethau yn awr ac yn y dyfodol
  • sicrhau bod ein rhanddeiliaid yn parhau i fod yn gefnogol i 'Ein Dull'

Ymdrinnir â sut rydym yn rheoli risgiau sefydliadol yn yr adran datganiad llywodraethiant.  

Dadansoddiad o berfformiad

Yn ystod y flwyddyn adrodd fe wnaethom basio trothwy £2 biliwn ar gyfer cyfanswm y dreth a reolwyd ac a gasglwyd gennym ers i ni ddechrau gweithredu yn 2018.

Yn 2024 i 2025, fe wnaethom gofnodi ychydig dros 56,000 o drafodiadau TTT, cynnydd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn adlewyrchu’r adferiad yn y farchnad dai. O ran TGT, cofnodwyd bod dros 940,000 tunnell o wastraff wedi’i waredu mewn safleoedd tirlenwi heb eu hawdurdodi yng Nghymru. Roedd y ffigur hwn 10% yn is na'r flwyddyn flaenorol, a hynny oherwydd gostyngiadau mewn gwastraff cyfradd is a gwastraff sydd yn ddarostyngedig i ryddhad neu ostyngiadau, tra bu cynnydd bach yn y gwarediadau cyfradd safonol.

Fe wnaethom ganolbwyntio ein hadnoddau ar leihau’r risgiau treth hysbys ac ar archwilio’r meysydd risgiau posibl newydd. Rydym wedi casglu mwy o ddata a gwybodaeth er mwyn ehangu ein dealltwriaeth o risg a sut y gallwn sicrhau bod ein hymyriadau mor effeithiol ag sy’n bosibl.

Mae adran Ein Dull o’r trosolwg o berfformiad yn egluro ein bod yn canolbwyntio ein hadnoddau ar gefnogi pobl i dalu’r dreth gywir ar yr adeg gywir, a hynny ar gyfer TGT a TTT. Dyma ran ganolog o’n gwaith o liniaru risg treth.

Rydym yn amcangyfrif bod 97.4% o drafodiadau’r flwyddyn wedi datgan y dreth gywir, sy’n dangos bod Ein Dull yn parhau i fod yn llwyddiannus. Mae hyn fymryn yn is na’r flwyddyn flaenorol. Ond rydym wedi profi ffyrdd newydd o archwilio ystod ehangach o risgiau treth yn llwyddiannus (gweler yr adran Arloesi gyda’n cyfrifoldebau presennol).

Ynghyd â hyn, rydym hefyd wedi parhau i reoli’n risgiau mwy sefydledig trwy gysylltu ag asiantau a threthdalwyr pob tro y gwelir risgiau posibl yn eu ffurflenni treth. Gweler ein hatodiad data am ragor o wybodaeth.

Fel yr eglurir yn yr adran Ein Dull, mae adfer treth a diogelu treth yn rhannau pwysig o’n gwaith hefyd. Dyma pryd y mae angen i ni ymyrryd er mwyn sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei thalu.  

Yn ystod y flwyddyn, fe aeth swm y dreth a adenillwyd dros £2 filiwn am y tro cyntaf. Y rheswm dros hyn oedd ein bod wedi cywiro nifer fawr o achosion – tua 300 i gyd – a hynny ar draws ystod o risgiau treth sefydledig a newydd. Gwelwyd rhai achosion pan ad-dalwyd treth wedi i drethdalwr ordalu mewn camgymeriad (gweler y tabl isod am fanylion).

Siart 1: Nifer a gwerth yr achosion lle cafodd TTT ei hadennill neu ei ddychwelyd

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

 

Fe wnaethom hefyd ddiogelu bron i £400,000 o dreth yn ystod y flwyddyn. Mae'r ffigur hwn yn gyflawniad sylweddol o ran atal treth rhag cael ei cholli trwy hawliadau sy’n annilys. Mae'n is na'r flwyddyn flaenorol, ac mae hyn yn adlewyrchu ein llwyddiant parhaus o ran herio hawliadau pan fyddwn yn eu derbyn yn ogystal â stopio hawliadau annilys rhag ein cyrraedd. Mae ein llwyddiant o ganlyniad i weithgareddau ymgysylltu i gefnogi asiantau a threthdalwyr. 

Cyflawni mewn meysydd cyfrifoldeb newydd

Rydym wedi dangos tystiolaeth o sut allwn ni gyflawni mewn meysydd newydd, fel y gwelir yn ein gwaith ar y trethi newydd. Un o uchafbwyntiau arbennig y flwyddyn oedd rhannu dealltwriaeth weithrediadol â Thrysorlys Cymru er mwyn helpu i ddatblygu ardoll ymwelwyr a deddfwriaeth cofrestru genedlaethol. Mae'r dull partneriaeth hwn yn golygu y gallwn ddylanwadu ar ddeddfwriaeth ddrafft a pharatoi'n gynt ar gyfer gweithredu gwasanaethau newydd.

Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trysorlys Cymru:

Un o'r nodau a osodwyd gennym ar ddechrau proses Bil yr Ardoll Ymwelwyr oedd sicrhau ein bod yn ystyried polisi ochr yn ochr â chyflenwi. Buom yn gweithio mewn partneriaeth â thimau ar draws Awdurdod Cyllid Cymru i iteru cwestiynau dylunio, gan sicrhau y byddai’r polisi yn cael ei gyflawni yn yr ffordd a fwriadwyd. Rwyf yn sicr bod y ddeddfwriaeth ddrafft yn llawer gwell ac y bydd yr ardoll yn fwy effeithiol oherwydd hynny.

Arloesi gyda’n cyfrifoldebau presennol

Rydym wedi dangos sut rydym yn parhau i arloesi o fewn ein cyfrifoldebau presennol. Ar y cyfan, mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio ar gynyddu ein gweithgaredd lliniaru risg treth. Dyma rai enghreifftiau o’r flwyddyn:

Buddsoddi mwy mewn mynd i'r afael â risg dreth

  • Gan adeiladu ar lwyddiant ein gwaith adennill treth a'n dealltwriaeth ddyfnach o'r dirwedd risg treth, fe wnaethom ddatblygu cynigion i ehangu ein gweithgareddau lliniaru risg treth trwy gydol 2025 i 2026 a thu hwnt.
  • Fe wnaethom weithio gyda'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) i gytuno ar ragamcanion o ganlyniad i fuddsoddiad ychwanegol.
  • Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg Ein Dull mewn datganiad cyllideb ddrafft, ac fe addaswyd cyllid ACC ar gyfer 2025 i 2026 yn unol â hynny.

Ymgysylltu, cefnogi a lliniaru

  • Mae ymgysylltu, cefnogi a lliniaru yn ddull sydd wedi parhau i fod yn rhan ganolog o’n gwaith o reoli risg treth.
  • Fe wnaethom ail-lansio fforymau treth wyneb yn wyneb yng ngogledd a de Cymru, a daeth mwy na 40 o asiantau i'r rhain er mwyn dysgu’n uniongyrchol gan ein harbenigwyr.
  • Fe gynhaliom gyfres o weminarau ar sawl gwahanol destun, o weinyddu trethi i gyfraddau uwch, a daeth cyfanswm o dros 800 o asiantau iddynt.

Dywedodd un o fynychwyr y weminarau: "Roedd y sesiwn yn ddefnyddiol ac addysgiadol iawn. Rwy’n edrych ymlaen at y ddwy weminar nesaf."

Sicrhau ansawdd ar gyfer y tîm TTT

  • Cafodd ein tîm TTT archwiliad gan Wasanaeth Archwilio Mewnol (IAS) Llywodraeth Cymru ar ymholiadau treth a chosbau am anghywirdeb. Roedd y sicrwydd sylweddol a gawsom o'r archwiliad yn dangos bod ein prosesau rheoli a rheoli risg wedi'u cynllunio’n briodol a'u cymhwyso'n effeithiol. Mae hwn yn ganlyniad arwyddocaol i ni, ac mae’n cefnogi ein dull o gefnogi a helpu trethdalwyr i gael eu treth yn iawn ar y cynnig cyntaf.
  • Dywed adroddiad terfynol y Gwasanaethau Archwilio Mewnol: “Ar gyfer pob achos a adolygom mae yna drywydd archwilio manwl yn ei le i gefnogi’r penderfyniad a wnaed.”

Gweithgaredd risg TGT

  • Fe wnaethom barhau i weithio gyda gweithredwyr safle tirlenwi i'w helpu i gael eu treth yn gywir. Pan nodwyd risg, byddem yn dechrau ymchwiliadau i wirio'r sefyllfa dreth.
  • Fe wnaethom adeiladu ar ein cytundeb dirprwyo gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a chawsom fwy o atgyfeiriadau yn ystod y flwyddyn. Arweiniodd hyn at gyfleoedd pellach i gasglu ac i godi’r gyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi TGT.
  • Fe wnaethom barhau i weithio gyda Cyllid a Thollau EF (CThEF) a Revenue Scotland i wella ein gwybodaeth am fentrau sector gwastraff busnes ledled y DU.
  • Fe wnaethom rannu arferion gorau a gwersi a ddysgwyd gyda'n holl bartneriaid. Mae hyn yn cefnogi ein dull o nodi a rheoli risg treth.

Gareth O’Shea, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau, CNC:

“Mae ein partneriaeth ag Awdurdod Cyllid Cymru yn hanfodol wrth helpu i adnabod unrhyw anghydymffurfio o ran treth a chyfrannu tuag at fynd i’r afael â throsedd gwastraff yng Nghymru. Trwy weithio gyda’n gilydd, nid yn unig ydym ni’n cryfhau’r ffordd y maen gwastraff yn cael ei reoleiddio, ond rydym yn cyflawni buddion amgylcheddol go iawn i’n cymunedau a’n hamgylchedd naturiol. Mae’r cydweithredu hyn yn parhau i ddangos pa mor grymus yw cael pwrpas cyffredin a gweithio ar y cyd, ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar y berthynas gref hon dros y blynyddoedd sydd i ddod.”

Adeiladu ein dull o ganolbwyntio ar wasanaethau

Fe wnaethom barhau i ddatblygu ein dull o ymdrin â gwasanaethau er mwyn sicrhau ein bod mewn sefyllfa dda i barhau i ddarparu'r rhain yn effeithiol wrth i ni dyfu. Dyma rai uchafbwyntiau.

  • Fe wnaethom adeiladu partneriaethau gyda sefydliadau sy'n seiliedig ar wasanaethau, yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) a Thŷ'r Cwmnïau, a hynny er mwyn dysgu, rhannu arferion gorau, a llunio ein dull ni o ymdrin â gwasanaethau.
  • Fe wnaethom fuddsoddi yn ein pobl trwy weithio gyda'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) i roi hyfforddiant ystwyth ac arweinyddiaeth iddynt.
  • Dechreuom ni symud tuag at strwythur sy'n canolbwyntio ar wasanaethau, gan ffurfio timau gwasanaeth amlddisgyblaethol am y tro cyntaf, gan gynnwys cofrestru cenedlaethol.
  • Fe wnaethom feithrin ein sgiliau a'n galluoedd yn y proffesiwn digidol, data a thechnoleg (DDaTh) er mwyn lleihau ein dibyniaeth ar adnoddau allanol a rhoi hwb i sgiliau yng Ngwasanaeth Sifil Cymru.

Harriet Green, Prif Swyddog Gweithredol ar y Cyd, CDPS:

Rydym yn falch iawn o fod wedi adeiladu perthynas mor gynhyrchiol gydag Awdurdod Cyllid Cymru, y mae eu hymrwymiad i fuddsoddi yn eu pobl trwy ein rhaglenni hyfforddiant ystwyth ac arweinyddiaeth yn dangos gweledigaeth wirioneddol wrth iddynt esblygu i fod yn sefydliad a arweinir gan wasanaethau. Bydd y buddsoddiad hwn yn rhoi’r hyder a’r galluogrwydd i’w timau i gymell newid ystyrlon sy’n cadw dinasyddion wrth wraidd eu gwasanaethau.

Fel rhan o ystad weinyddol Llywodraeth Cymru, rydym hefyd yn rhan o'i hadrodd ar gynaliadwyedd. Mae’r manylion i'w gweld yng Nghyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2023–2024 (tudalennau 74 a 75). Yn ogystal, rydym yn annog gweithio hybrid, cynlluniau beicio i'r gwaith, a chynllun 'car gwyrdd'.

Perfformiad 'Ein siarter'

Rydym yn awyddus i weithio gyda'n gilydd i ddarparu system dreth deg i Gymru. Rydym wedi datblygu ein siarter er mwyn ein helpu i wneud hyn.

Mae ein siarter yn cynnwys y gwerthoedd, yr ymddygiadau a’r safonau a rennir a ddatblygwyd gyda threthdalwyr, asiantau, sefydliadau eraill a'r cyhoedd. Mae 8 ohonynt i gyd.

Yma rydym yn egluro rhai o'r pethau a wnaethom ar gyfer pob un o’r gwerthoedd yn 2024 i 2025.

Gwerth 1: Diogel – gwarchod gwybodaeth a pharchu cyfrinachedd

Gwerth 2: Cefnogol – darparu cymorth pan fyddwch yn gofyn am help. Creu gwasanaethau digidol effeithiol sy’n hawdd eu defnyddio

  • Rydym wedi parhau i wella ein canllawiau, ein ffurflenni a’n gwasanaethau digidol trwy ddefnyddio sgiliau dylunio cynnwys i’w gwneud hyd yn oed yn fwy hygyrch.
  • Cynhaliwyd 6 gweminar yn cynnig hyfforddiant i asiantau ar amrywiaeth o bynciau.
  • Fe wnaethom gynnal 2 fforwm treth, a mynychodd nifer dda o asiantau y ddau. 

Gwerth 3: Teg – bod yn onest wrth ddelio â'n gilydd. Mynd i'r afael ag efadu ac osgoi trethi, defnyddio pwerau’n gyson ac yn gymesur

  • Rydym wedi parhau i reoli risg treth a datblygu proffiliau risg, gan sicrhau tegwch a chysondeb ar draws y system dreth. Rydym wedi canolbwyntio ar ddatblygu proffiliau risg treth newydd. Pan welsom fod pobl wedi talu gormod o dreth, fe wnaethom ddweud wrthynt.
  • Rydym wedi cefnogi pobl i unioni pethau pan fo camgymeriadau wedi’u gwneud. Pan welsom bod pobl wedi ceisio efadu talu neu osgoi talu’r swm llawn, cymerwyd camau i sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei thalu er mwyn diogelu refeniw.
  • Fe wnaethom gynnydd sylweddol gyda'n gwaith ar godi TGT ar warediadau gwastraff heb eu hawdurdodi.

Gwerth 4: Ymgysylltiol – cefnogi pobl i ddeall trethiant datganoledig a gweithio gyda'n gilydd i'w ddatblygu er budd Cymru

  • Rydym wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws y llywodraeth mewn cynadleddau a digwyddiadau eraill, i sicrhau bod pobl yn deall ein safbwynt a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil datganoli trethi.
  • Rydym wedi cyfathrebu â nifer o'n defnyddwyr gwasanaeth er mwyn gwella'r hyn a gynigwn.
  • Rydym wedi ymgysylltu â nifer o ddarpar ddefnyddwyr gwasanaeth ynghylch yr ardoll ymwelwyr yn ystod ein gwaith darganfod, gan gynnal ymchwil er mwyn deall sut y byddwn yn llunio’r gwasanaeth.

Gwerth 5: Ymatebol – gwrando ar ein gilydd a bod yn agored yn ein sgyrsiau, gweithredu ar yr adborth a'r cyngor a roddir. Trin ein gilydd â pharch

Gwerth 6: Dwyieithog – bod â’r hyder i gynnal ein busnes yn y Gymraeg a'r Saesneg

  • Rydym wedi parhau i ddarparu ein gwasanaethau i gwsmeriaid yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Rydym wedi annog ein pobl i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg a chynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn hyfforddiant iaith Gymraeg wedi’i ariannu yn y gwaith.
  • Croesawom y diwygiadau a wnaed i Reoliadau Safonau'r Gymraeg ym mis Chwefror, sy’n golygu bydd y safonau yn berthnasol i ACC o 2026 ymlaen.

Gwerth 7: Manwl Gywir – cydweithio i wneud pethau'n iawn a'u cywiro os oes angen, rhannu data a gwybodaeth gywir, gan gymryd gofal rhesymol i osgoi camgymeriadau. Cadw cofnodion manwl gywir

  • Mae’n hadran dadansoddiad o berfformiad yn egluro mwy am gywirdeb yn ein gwaith. Er enghraifft, rydym wedi parhau i reoli risg treth a helpu pobl i wneud llai o gamgymeriadau sy’n ymwneud â rhyddhad anheddau lluosog (MDR) a chynnig gwasanaethau desg gymorth ac opiniwn treth parhaus. Roedd dros 97% o'r trafodiadau TTT yn gywir ar y cynnig cyntaf.

Gwerth 8: Effeithlon – ymateb i'n gilydd yn gyflym, cyflwyno ffurflenni treth a phrosesu ceisiadau’n brydlon. Canfod ffyrdd y gallwn ni wella'r gwasanaeth

  • Mae ein hadran dadansoddiad o berfformiad yn rhoi mwy o wybodaeth am y gwelliant i’n heffeithlonrwydd yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft, telir dros 95% o ad-daliadau cyfraddau uwch o fewn 30 diwrnod erbyn hyn, ac rydym wedi gwneud gwelliannau mewn meysydd fel awtomeiddio.

Rheolwyr Awdurdod Cyllid Cymru

Ein Bwrdd

  • Ruth Glazzard, Cadeirydd Anweithredol
  • Jocelyn Davies, Dirprwy Gadeirydd Anweithredol
  • Mary Champion, Aelod Anweithredol
  • Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
  • Jim Scopes, Aelod Anweithredol
  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
  • Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredu/Cyfarwyddwr Gwasanaethau
  • David Matthews, Cyfarwyddwr Strategaeth a Gallu (ers Medi 2024)
  • Zoe Curry, Aelod Staff Etholedig (hyd fis Mawrth 2025)

Ein Tîm Arwain (Pwyllgor Gwaith)

  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
  • Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredu/Cyfarwyddwr Gwasanaethau
  • David Matthews, Cyfarwyddwr Strategaeth a Gallu
  • Carl Alexis, Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu
  • Alex Mason, Prif Swyddog Cyllid (ers Ionawr 2025)
  • Nicola Greenwood, Pennaeth Cyllid/Dirprwy Brif Swyddog Cyllid (hyd fis Ionawr 2025)

Adroddiad ariannol

Cyfrifon adnoddau

Rydym yn derbyn dyraniad cyllid blynyddol gan Lywodraeth Cymru i ariannu ein gwariant. Rydym yn gosod cyllideb gwariant bob blwyddyn yn seiliedig ar y gweithgareddau rydym yn bwriadu ymgymryd â nhw er mwyn gweithredu ein cynllun corfforaethol. Mae'r gyllideb wedi'i rhannu'n swyddogaethol i’r meysydd eang canlynol:

  • costau staff, gan gynnwys dysgu a datblygu
  • costau gweithredol casglu'r trethi, camau gorfodi a chudd-wybodaeth am ddata
  • costau rhedeg corfforaethol, megis adnoddau dynol (AD), technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), cyfleusterau, llywodraethiant, a chyngor cyfreithiol
  • newid busnes er mwyn sicrhau gwelliant parhaus i systemau digidol a phrosesau gweithredol i gefnogi prosesau newydd a newid deddfwriaeth trethi

Caiff y cyllid a ddyrennir i’n sefydliad ac a dynnwyd i lawr gan Lywodraeth Cymru ei nodi yn y tabl isod.

Cyllid a ddyrannwyd ac a dynnwyd i lawr gan Lywodraeth Cymru
Ffrwd cyllid

Dyraniad 
cyllid 
2024-25

£000

Cyllid a dynnwyd 2024-25

£000

Dyraniad cyllid 2023-24

£000

Cyllid a dynnwyd 2023-24

£000

Refeniw8,6128,6128,1177,867
Cyfalaf120106350350
Cyfanswm y dyraniad cyllid8,7328,7188,4678,217
Gwariant ar gyfer 2024 i 2025
 

2024-25

£000

2023-24

£000

Costau staff 6,555 [2]5,528
Costau eraill sy'n gysylltiedig â staff201163
Costau gweithredu eraill1,7842,049
Dibrisiant7459
Amorteiddiad6655
Gwariant gweithredu net8,6807,854

Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi casglu’r trethi a reolwn ar ran Llywodraeth Cymru fel y nodir yn y tabl isod.

Trethi datganoledig
 

2024-25

£000

2023-24

£000

2022-23

£000

Treth Trafodiadau Tir340,612269,893372,106
Treth Gwarediadau Tirlenwi34,13829,71842,014
Cyfanswm y trethi a'r refeniw374,750299,611414,120

Cyfrifon blynyddol ACC 2024 i 2025

Rydym wedi prosesu dros 56,000 o ffurflenni TTT (2023 i 2024: 49,900).

O'r ffurflenni hyn:

  • arweiniodd 52% at rwymedigaeth treth a oedd angen ei dalu (2023 i 2024%: 50%)
  • cynhyrchodd hyn incwm refeniw net o £338.10 miliwn mewn TTT ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru (2023 i 2024: £269.89 miliwn).
Symiau o arian parod net a reolwyd
 

2024-25

      £000

2023-24

      £000

Arian net a gasglwyd372,964300,270
Arian parod a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru374,000298,000

Adroddiad Atebolrwydd

Datganiad o gyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu

Fel Swyddog Cyfrifyddu ACC, mae'r Prif Weithredwr Dros Dro, Rebecca Godfrey, yn gyfrifol yn bersonol  am:

  • warchod arian cyhoeddus yn briodol
  • gweithrediadau a rheolaeth yr Awdurdod o ddydd i ddydd
  • sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru

O dan Adrannau 29 (1) (b) a 30 (1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) (DCRhT) 2016, mae gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo ACC i baratoi ein cyfrifon adnoddau a'n datganiad treth ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Dylai'r rhain fod ar y ffurf ac ar y sail a nodir yn y 'cyfarwyddyd cyfrifon' a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.

Paratoir y cyfrifon ar sail croniadau ac mae'n rhaid iddynt roi darlun cywir a theg o sefyllfa ACC a'i alldro adnoddau net, ei ddefnydd o adnoddau, newidiadau yn ecwiti trethdalwyr a llifau arian parod am y flwyddyn ariannol.

Wrth baratoi'r cyfrifon, mae'n ofynnol i'r Swyddog Cyfrifyddu gydymffurfio â gofynion ‘Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth’ (FReM), a rhaid iddynt yn enwedig:

  • ufuddhau i'r cyfarwyddyd cyfrifon a gyhoeddwyd gan weinidogion Cymru, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a defnyddio polisïau cyfrifyddu addas yn gyson
  • gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol
  • nodi os dilynwyd safonau cyfrifyddu perthnasol fel y'u nodwyd yn y Llawlyfr Adroddiadau Ariannol neu beidio, gan ddatgelu ac egluro unrhyw wyriadau perthnasol o’r cyfrifon hyn
  • paratoi'r cyfrifon ar sail busnes gweithredol
  • cadarnhau bod yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon, yn eu cyfanrwydd, yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, a chymryd cyfrifoldeb personol am yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon a'r dyfarniadau sy'n ofynnol ar gyfer pennu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy.

Yn ogystal, rhaid i'r Swyddog Cyfrifyddu sicrhau bod y datganiad treth yn cael ei baratoi yn unol ag adran 25 o'r DCRhT er mwyn:

  • dangos y symiau sy'n dderbyniadwy o gasglu trethi, cosbau ac incwm arall, unrhyw ddidyniadau a ganiateir a'r symiau a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru
  • datgelu gwybodaeth am unrhyw wariant neu incwm o bwys na chafodd ei ddefnyddio i'r dibenion y'u bwriadwyd gan Lywodraeth Cymru neu drafodiadau materol nad ydynt wedi cydymffurfio â safonau’r awdurdodau sy'n eu rheoli.

Mae dyletswyddau Swyddog Cyfrifyddu yn cynnwys cyfrifoldeb dros briodoldeb a pha mor rheolaidd yw’r cyllid cyhoeddus y maent yn atebol amdano, cadw cofnodion priodol a diogelu asedau ACC. Mae'r dyletswyddau hyn wedi'u nodi ym Memorandwm y Swyddog Cyfrifyddu, mewn dogfennau fframwaith, ac yn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru

Fel Swyddog Cyfrifyddu ACC, rwy'n cadarnhau:

  • fod y Cyfrifon Blynyddol ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2024 hyd 31 Mawrth 2025 yn deg, yn gytbwys, ac yn ddealladwy
  • fy mod yn cymryd cyfrifoldeb personol am y Cyfrifon Blynyddol a’r dyfarniadau sy’n ofynnol ar gyfer penderfynu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn rhesymol
  • wrth gynhyrchu'r cyfrifon hyn, rwyf wedi ymgynghori'n eang, gan geisio adborth, sylwadau a sicrwydd gan Fwrdd Rheoli ACC, gan y Pwyllgor Sicrwydd a Rheoli Risg (ARAC), gan yr archwilwyr mewnol ac aelodau o'r tîm staff ehangach
  • fy mod wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau fy mod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol a chadarnhau bod ein harchwilwyr yn ymwybodol o'r wybodaeth honno

Rebecca Godfrey 
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu Dros Dro
22 Gorffennaf 2025

Datganiad llywodraethiant

Mae DCRhT 2016 yn fy nynodi'n Swyddog Cyfrifyddu, ac mae manylion fy nghyfrifoldebau wedi'u hatodi yn y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru.

Ein fframwaith llywodraethiant

Dyma ddelwedd o’n fframwaith llywodraethiant. Mae'r cylch gwaith a'r cyfrifoldebau wedi'u nodi isod.

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Gweinidogion Cymru

Yn gosod ein hamcanion a'n blaenoriaethau.

Swyddog Cyfrifyddu

Yn cymryd amcanion a blaenoriaethau gweinidogion Cymru ac yn rhoi sicrwydd ynglŷn â:

  • safonau llywodraethiant
  • rheolaeth ariannol
  • risgiau corfforaethol

Caiff y Swyddog Cyfrifyddu ei gefnogi gan y Bwrdd.

Ein Bwrdd

Yn rhoi arweiniad, cefnogaeth a her.

Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC)

Yn darparu sicrwydd ac yn craffu ar:

  • reoli risg
  • rheoli
  • rheolaeth ariannol a llywodraethiant

Yn atebol i i’r Bwrdd 

Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol

Yn rhoi cefnogaeth a her o ran penodi uwch swyddogion ac olyniaeth. Mae'r Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol yn atebol i'r Bwrdd. 

Tîm Arwain (Pwyllgor Gwaith)

Yn gosod cyfeiriad strategol yn unol â'r cynllun corfforaethol ac yn goruchwylio newidiadau.

Yn atebol i’r Swyddog Cyfrifyddu. 

Grŵp Arwain Cyflenwi Gwasanaethau

Yn darparu’r gwasanaethau cyfredol ac yn darparu sicrwydd ar:

  • berfformiad gweithrediadol
  • rheoli a risg

Yn atebol i Tîm Arwain. 

Pwyllgor Rheoli Achosion

Yn darparu sicrwydd ac yn cefnogi:

  • gwneud penderfyniadau gweithrediadol
  • datblygu polisi

Atebol i Tîm Arwain. 

Ein Bwrdd

Mae ein Bwrdd yn cynnwys mwy o aelodau anweithredol nac aelodau gweithredol, ac mae'n cynnwys y Prif Weithredwr, y Prif Swyddog Gweithredu, Cyfarwyddwr Strategaeth a Gallu, ac aelod staff etholedig.

Mae'r Bwrdd (sy’n cynnwys y Prif Weithredwr) yn atebol ar y cyd am ACC ac yn darparu arweinyddiaeth er mwyn sicrhau safon effeithiol o lywodraethiant:

  • Mae'r swyddogaethau ar gyfer y trethi datganoledig a reolir gennym yn cael eu dirprwyo i'r Prif Weithredwr.
  • Mae'r Prif Weithredwr yn dirprwyo trwy strwythur pwyllgor gweithredol, gan wneud penderfyniadau yn unol â'r cynllun corfforaethol.
  • Mae'r Bwrdd yn darparu her a chyngor ar ein strategaeth, ein gallu a'n perfformiad ac mae, ynghyd â’r Swyddog Cyfrifyddu, yn cael ei gefnogi gan:
    • ARAC
    • Y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol

Mae'r Bwrdd hefyd yn cynnwys swydd cydymaith bwrdd. Roedd dau gydymaith yn rhan o gynllun peilot a gynhaliwyd yn 2023, ac mae'n unol ag ymrwymiad ein cynllun corfforaethol presennol i: "... greu amgylchedd iach, teg a chynhwysol gan sicrhau bod ein sefydliad yn gynhwysol o bawb, gan ganiatáu i bawb deimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn gallu llwyddo".

Mae'r cynllun hwn wedi: 

  • rhoi cyfle i bobl a allai fel arall gael eu diystyru ar gyfer rôl ar fyrddau rheoli i feithrin profiad
  • treialu gwahanol feini prawf a phrosesau ymgeisio y gellid eu datblygu a’u hailddefnyddio, o bosibl wrth i Lywodraeth Cymru benodi gweinidogion yn y dyfodol
  • darparu gofod cefnogol ar gyfer cyflwyno unigolion i amgylchedd bwrdd rheoli, gan ganiatáu iddynt wneud cyfraniad llawn a sicrhau ymdeimlad o berthyn
  • sicrhau mwy o amrywiaeth syniadau ar ein Bwrdd ac ar gyfer dyfodol ein sefydliad yn unol ag ymrwymiad ein cynllun corfforaethol mewn perthynas â chynhwysiant

Noder nad yw cymdeithion y bwrdd yn aelodau ffurfiol o'r Bwrdd mewn statud ac nid oes ganddynt unrhyw hawliau pleidleisio cysylltiedig.

ARAC

Mae ARAC yn craffu ar lywodraethiant, gwaith rheoli risg, yr amgylchedd rheoli ac uniondeb yr Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon.

Nifer y cyfarfodydd yn 2024 i 2025:

Cadeirydd: Mary Champion

Aelodau: 3 aelod anweithredol, gan gynnwys y Cadeirydd. Mae gan Gadeirydd ein Bwrdd wahoddiad agored i fynychu cyfarfodydd hefyd.

Ymgynghorwyr i ARAC: 

  • Prif Weithredwr
  • Prif Swyddog Gweithredu
  • Prif Swyddog Cyllid
  • Pennaeth Cyllid
  • Cynrychiolydd o’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol (IAS)
  • Pennaeth y Staff
  • Ysgrifenyddiaeth Archwilio a Risg

Mae cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru ac Archwilio Cymru hefyd yn mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd.

Mae ARAC yn cwrdd bob chwarter, tua wythnos cyn pob cyfarfod y Bwrdd. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ARAC wedi craffu a rhoi sicrwydd ar ystod o faterion.

Mae'r rhain yn cynnwys prosesau strategol ar gyfer rheoli risg, y fframwaith archwaeth risg, cymhwyso rheolaethau mewnol yn effeithiol, trefniadau seiberddiogelwch a sawl polisi ACC. Mae effeithiolrwydd ARAC yn cael ei fonitro, ac fe adroddir arno bob 2 flynedd.

Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol

Sefydlwyd y pwyllgor hwn (y Pwyllgor Pobl gynt) i roi sicrwydd ac i graffu ar effeithiolrwydd cynllunio olyniaeth, recriwtio a chydnabyddiaeth ariannol.

Nifer y cyfarfodydd yn 2024 i 2025: 3

Cadeirydd: Ruth Glazzard 

Aelodau: 3 aelod anweithredol (gan gynnwys y Cadeirydd) a’r:

  • Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu
  • Prif Weithredwr
  • Pennaeth Adnoddau Dynol

Presenoldeb yng nghyfarfodydd y Bwrdd a'r pwyllgor

Presenoldeb 2024 i 2025

 AelodauBwrdd [troednodyn 1]ARACPwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol 
Nifer y cyfarfodydd a gynhaliwyd453
Aelodau anweithredol:  
Ruth Glazzard 
Jocelyn Davies 
Mary Champion  
Rheon Tomos  
Jim Scopes 
Aelodau gweithredol: 
Dyfed Alsop  
Rebecca Godfrey 
David Matthews (ers Medi 2024) 
Aelod staff etholedig: 
Zoe Curry (tan fis Mawrth 2025) 

[troednodyn 1] Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd yn chwarterol. Mae'r Bwrdd hefyd yn cwrdd i gael sgyrsiau diweddaru bob mis ac yn cael dyddiau cynllunio strategol ddwywaith y flwyddyn.

Risg strategol: rolau

  • Mae'r Swyddog Cyfrifyddu yn ymdrin â rheoli risg ac adrodd.
  • Mae'r Bwrdd yn sicrhau bod systemau rheoli risg yn gadarn a bod modd eu hamddiffyn, a’u bod yn rhoi arweiniad clir ar yr archwaeth risg a ddymunir.
  • Mae ARAC yn edrych ar reoli risg ac yn rhoi cyngor. Mae hefyd yn cynorthwyo ac yn craffu ar y Tîm Arwain.

Sut rydym yn adolygu risgiau corfforaethol

Mae Tîm Arwain yn monitro ac adolygu risgiau corfforaethol yn rheolaidd yn unol â’n polisi rheoli risg a’n datganiad archwaeth risg. Rydym yn dilyn egwyddorion y 'The Orange Book Management of Risk – Principles and Concepts’ o ran ei ddull o adnabod risgiau corfforaethol, arfarnu ac adrodd. 

Trosolwg o'r broses

  • Mae gan Tîm Arwain a'r Grŵp Arwain Cyflenwi Gwasanaethau gofrestrau risg ar wahân.
  • Mae risgiau corfforaethol newydd yn cael eu nodi gan Tîm Arwain fel rhan o adolygiadau strategol cyson.
  • Mae'r Bwrdd yn nodi unrhyw risgiau posibl y sylwyd arnynt ar ddiwedd pob cyfarfod chwarterol, ac maent hefyd yn nodi risgiau newydd ar eu dyddiau cwrdd i ffwrdd strategaeth a gynhelir ddwywaith y flwyddyn.
  • Caiff risgau eu huwchgyfeirio a’u dad-uwchgyfeirio rhwng y Grŵp Arwain Cyflenwi Gwasanaethau a Tîm Arwain
  • Mae Tîm Arwain yn adolygu’r gofrestr risg gorfforaethol bob chwarter ac yn cyflwyno adroddiad i ARAC a’n Bwrdd gael craffu arno.

Rheolaeth fewnol

Bob blwyddyn, mae’r uwch-reolwyr yn rhoi hunanasesiadau i'r Swyddog Cyfrifyddu ynghylch y trefniadau rheoli mewnol, llywodraethiant a rheoli risg. Rydym yn defnyddio holiadur rheolaeth fewnol (HRhF) i archwilio hyn bob blwyddyn.

Rydym yn parhau i fod â sicrwydd o ran llywodraethiant ein pwerau dirprwyedig. Byddwn yn parhau i feithrin cysylltiadau agosach â Llywodraeth Cymru yn ehangach a sefydliadau partner i gefnogi ffocws y Rhaglen Lywodraethu ar drethi datganoledig. Nodwyd ambell i faes bychan yn HRhF 2024 i 2025, ac maent bellach yn cael sylw.

Archwiliad mewnol 

Yn ystod y flwyddyn, cyhoeddodd Gwasanaeth Archwilio Mewnol (IAS) Llywodraeth Cymru 3 adroddiad.

Rhoddodd 2 adroddiad sicrwydd rhesymol ynghylch ein parhad busnes a rheoli risg. Yn ei archwiliad o barhad busnes yn Chw3, derbyniodd ACC:

“Sicrwydd Rhesymol bod prosesau llywodraethu, rheoli risg a rheoli wedi'u llunio'n briodol a'u bod yn cael eu gweithredu'n effeithiol. Mae angen rhoi sylw i rai materion ag amlygiad cymedrol i risg nes iddynt gael eu datrys.”

Rhoddodd un adroddiad sicrwydd sylweddol ar drefniadau rheoli risg, rheoli a llywodraethiant ACC mewn perthynas ag ymholiadau ac anghywirdebau cosbau.  Dyma ddetholiad o'r adroddiad: “[Mae] Sicrwydd sylweddol bod prosesau llywodraethu, rheoli risg a rheoli wedi'u llunio'n addas a'u bod yn cael eu gweithredu'n effeithiol. Nid oes unrhyw faterion ag amlygiad i risg neu mae materion bach iawn ag amlygiad isel i risg y mae'n bosibl na fydd angen eu datrys.”

Roedd cynrychiolydd o IAS yn bresennol yn holl gyfarfodydd ARAC. Roedd y farn archwiliad mewnol blynyddol cyffredinol yn rhesymol. 

Archwilio allanol

Rydym yn cael ein harchwilio gan Archwilio Cymru, sy'n gyfrifol am adolygu ac archwilio rheolaethau ariannol a dibynadwyedd ein cyfrifon ariannol.

Mae Archwilio Cymru yn cyhoeddi adroddiad archwilio ac yn cyflwyno ei ganfyddiadau i ARAC a'r Bwrdd. Mae eu hadroddiad am y flwyddyn i'w weld yn adrannau'r Cyfrifon Adnoddau a’r Datganiad Treth.

Sut rydym yn rheoli gwybodaeth a llywodraethiant

Fe wnaethom barhau i fod yn weithredol wrth hyrwyddo diwylliant o arfer gorau mewn rheoli data a gwybodaeth er mwyn cynnal ein safonau uchel o reoli gwybodaeth. Rydym yn gweithredu model hybrid o weithio felly roedd yn bwysig sicrhau bod ein pobl yn ymwybodol o ddiogelwch data a gwybodaeth trwy’r adeg.

Cyflawnwyd hyn drwy: 

  • hyfforddiant ymsefydlu gorfodol
  • sesiynau gloywi bob dwy flynedd
  • cyflwyno diweddariadau i ddiogelwch gwybodaeth ac adolygiadau prosesau
  • cyfathrebu mewnol i sicrhau bod ein pobl yn codi cwestiynau am rheoli gwybodaeth gyda’u perchnogion asedau gwybodaeth a’u cydweithwyr rheoli gwybodaeth

Fe wnaethom barhau i adeiladu ar ein perthynas waith gadarnhaol â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), gan ddefnyddio ei hadnoddau a'i phecynnau cymorth i sicrhau ein bod yn parhau i gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data.

Ni chafodd ein Swyddog Diogelu Data na'r Comisiynydd Gwybodaeth unrhyw gwynion am ein defnydd o ddata personol.

Dyma’r 3 prif risg rheoli gwybodaeth a reolwyd yn weithredol: 

  • seibergadernid
  • negeseuon e-bost gwe-rwydo
  • risg seiber cyflenwyr

Fe wnaethom gofnodi 11 'achos a fu bron a digwydd' – gwelliant o gymharu â’r llynedd. Achosion a fu bron a digwydd yw pan fo digwyddiadau diogelwch gwybodaeth bychain lle na ddatgelwyd unrhyw wybodaeth bersonol, ac felly nad ydynt yn cael eu cyfrif fel mynediad anghyfreithlon at ddata. Rydym yn eu cofnodi a'u hymchwilio'n weithredol er mwyn dod o hyd i ffyrdd posibl o atal mynediad anghyfreithlon at ddata yn y dyfodol.

Bu 15 achos o fynediad anghyfreithlon at ddata – gwelliant bychan o gymharu â’r llynedd (16). Rhai bychain oedd y rhain i gyd, gyda risg isel i destunau’r data. Nid fu unrhyw achosion o fynediad anghyfreithlon at ddata y bu'n rhaid eu cyfeirio at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Gwall dynol oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r achosion o fynediad anghyfreithlon at ddata. Fe barhaom i weithio gyda’n staff i'w haddysgu a'u hatgoffa o'u cyfrifoldebau o ran diogelwch gwybodaeth.

Mae gennym ddiwylliant cefnogol sy'n annog ein pobl i adrodd am ddigwyddiadau diogelwch gwybodaeth. Ein nod yw dysgu o ddigwyddiadau o'r fath a’u hatal rhag digwydd eto pan fo’n bosibl.

Seibergadernid

Seiberddiogelwch yw un o’n prif flaenoriaethau, gan ein bod ni’n sefydliad sy’n gweithio ‘yn y cwmwl’ yn llwyr ac sy’n cadw data am drethdalwyr. Rydym yn gwella ein seibergadernid trwy’r adeg er mwyn diogelu ein defnyddwyr gwasanaethau digidol allanol, megis trethdalwyr ac asiantau, yn ogystal â’n pobl.

Mae gennym strategaeth seibergadernid i gefnogi'r gwaith hwn. Mae hyn yn cynnwys ein gallu i wrthsefyll digwyddiadau seiber a sut y gallwn adfer ar eu holau cyn gynted â phosibl. Mae ein dull o weithredu’n cael ei arwain gan ganllawiau’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) ar seilwaith, dyfeisiau, data a chymwysiadau TG.

Er mwyn cryfhau ein seibergadernid ymhellach eleni, gwnaethom: 

  • brofi diogelwch ein seilwaith digidol gan ddefnyddio trydydd parti annibynnol sydd wedi’i achredu gan NCSC
  • rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth seiberddiogelwch i’n holl bobl newydd a phresennol
  • adnewyddu ein hardystiad Cyber Essentials Plus
  • parhau i holi rhai cwestiynau diogelwch i gyflenwyr a gafodd gontractau newydd gennym, er mwyn cael gwell sicrwydd yn seiliedig ar y math o gontract
  • gweithio gyda’n darparwr trydydd parti sy’n ymateb i ddigwyddiadau er mwyn cynnal archwiliad llawn o’n rheolaethau seiber technegol a’u gwella.
  • gweithredu datrysiad wrth gefn llawn ar gyfer ein data corfforaethol
  • cynnal ymarfer ymateb i ddigwyddiad llawn, a oedd yn cwmpasu agweddau busnes a thechnegol ar sut y byddem yn delio â digwyddiad diogelwch difrifol
  • cynnal adolygiad llawn o'n strategaeth seiber gyda'n Bwrdd, cyn drafftio strategaeth newydd ar gyfer 2024 i 2026
  • gwella diogelwch cyfrifon defnyddwyr allanol trwy orfodi dilysu aml-ffactor (MFA) ar gyfer pob asiant sy’n mewngofnodi i'n system dreth
  • parhau i brofi ein pobl trwy ymarferion rheolaidd i adnabod gwe-rwydo yn ogystal â hyrwyddo ymwybyddiaeth seiber yn fwy cyffredinol

Rhyddid gwybodaeth

Cawsom 15 cais rhyddid gwybodaeth. Fe wnaethom ymateb i bob un o fewn terfynau amser y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Ni chawsom unrhyw gwynion ynglŷn â'n triniaeth o geisiadau rhyddid gwybodaeth ac ni wnaeth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth gynnal unrhyw ymchwiliadau i'r ffordd yr oeddem yn eu rheoli. 

Chwythu'r chwiban 

Mae ein polisi a'n canllawiau chwythu'r chwiban yn rhoi cyngor clir i staff ar sut y dylent fynegi unrhyw bryderon. Mae gennym swyddog enwebedig sy'n delio â phryderon y mae pobl yn eu datgelu. Rydym hefyd yn gorff rhagnodedig ar gyfer trethi datganoledig Cymru. Mae hyn yn golygu y gall person wneud 'datgeliad gwarchodedig' i ni os oes ganddynt bryder am drethi datganoledig Cymru, waeth pa sefydliad y maen nhw’n rhan ohono, ac ni fydd modd i’w cyflogwr eu cosbi am fynegi eu pryderon.

Mae gwybodaeth ynghylch sut i gysylltu â ni i’w gael ar ein gwefan. Mae eglurhad o sut y byddwn yn ymateb i unrhyw ddatgeliadau a wneir gan chwythwyr chwiban allanol hefyd. Ni wnaed unrhyw ddatgeliadau yn ystod y flwyddyn. 

Safonau’r Gymraeg 

Nid ydym yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg ar hyn o bryd, ond rydym yn cydymffurfio'n wirfoddol â safonau gweinidogion Cymru os ydynt yn briodol ac yn gymesur. Fe wnaethom barhau â’n paratoadau ar gyfer safonau'r Gymraeg, a fydd yn berthnasol i ACC o fis Mai 2026, yn dilyn newidiadau deddfwriaethol ym mis Chwefror 2025.

Yn ystod y flwyddyn rydym wedi parhau i gyflawni ein strategaeth Gymraeg gyntaf, a ddatblygwyd yn 2020. Rydym wedi canolbwyntio ein hadnoddau ar:

  • ddatblygu ein diwylliant dwyieithog
  • cynyddu'r  dysgu a'r datblygiad rydym yn eu cynnig
  • annog ein pobl a'n cwsmeriaid i ddefnyddio'r Gymraeg fel eu dewis iaith

Fe wnaethom adeiladu ar ein partneriaeth gyda thîm dysgu a datblygu canolog Llywodraeth Cymru er mwyn parhau i adeiladu ar ein cynnig dysgu Cymraeg. O ganlyniad, cafodd 14% o'n pobl hyfforddiant Cymraeg ffurfiol yn ystod y flwyddyn. Dyma’r lefel uchaf ers i ni ddechrau gweithredu yn 2018. Yn ein harolwg sgiliau Cymraeg diweddaraf, dywedodd 56% o'n pobl eu bod yn gallu cynnal sgwrs sylfaenol o leiaf yn y Gymraeg.

Llesiant cenedlaethau'r dyfodol 

Eleni fe wnaethom ddatblygu ein set gyntaf o amcanion llesiant, felly rydym yn barod i ddod o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 o fis Ebrill 2025 ymlaen.

Er mwyn sicrhau bod llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn rhan o bopeth a wneir gennym, amcanion strategol y cynllun corfforaethol diweddaraf ar gyfer 2025 i 28, a gyhoeddwyd ar 1 Ebrill (2025), yw ein hamcanion llesiant hefyd. Yn gryno, rydym am ei gwneud hi’n:

  • hawdd: byddwn yn ei gwneud yn hawdd gwneud y peth iawn
  • teg: byddwn yn deg ac yn gyson yn y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau
  • cynaliadwy: byddwn yn sefydliad cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar y dyfodol

Yn unol â'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol, o dan y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), buom yn gweithio gyda'n partneriaid undebau llafur i greu ein hamcanion, gan ystyried eu hadborth i fireinio ein dull.

Byddwn yn adolygu'r amcanion hyn fel rhan o'n cylch cynllunio corfforaethol ac yn rhannu manylion ein cynnydd mewn adroddiadau blynyddol yn y dyfodol.

Casgliad

Fel y Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer ACC, rwy’n cadarnhau fod y datganiadau a wneir yn yr adroddiad hwn yn gywir ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025.

Ni chodwyd unrhyw faterion sylweddol o ran rheolaeth fewnol na llywodraethiant.

Gallaf hefyd gadarnhau bod systemau cadarn o reolaeth fewnol ar waith i helpu i gyflawni nodau ac amcanion polisi y sefydliad.

Rebecca Godfrey
Prif Weithredwr a Swyddog CyfrifydduDros Dro
22 Gorffennaf 2025

Adroddiadau cydnabyddiaeth ariannol a phobl

Adroddiad cydnabyddiaeth ariannol

Contractau gwasanaeth

Mae ein gweithwyr yn weision sifil, ac o dan Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 rhaid i benodiadau Gwasanaeth Sifil gael eu gwneud ar sail teilyngdod a chystadleuaeth deg ac agored. Mae egwyddorion recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil yn nodi rhai 'eithriadau', sydd fel arfer yn benodiadau dros dro.

Mae'r uwch swyddogion sy'n ymddangos yn yr adroddiad hwn ar benodiadau penagored, naill ai gyda ni neu â’u hadran Gwasanaeth Sifil cartref os cânt eu secondio i ACC. Os byddwn ni neu'r adran gartref yn terfynu penodiad rhywun yn gynnar, cânt iawndal trwy'r Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil oni bai ei fod oherwydd camymddygiad. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am waith y comisiwn ar wefan Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Polisi cydnabyddiaeth ariannol

Nid yw cydnabyddiaeth ariannol aelodau’r Uwch Wasanaeth Sifil (SCS) wedi'i ddirprwyo, yn wahanol i gydnabyddiaeth ariannol staff sydd islaw lefel yr SCS. Mae hyn yn golygu bod ACC yn gweithredu tâl yr SCS yn unol â'r rheolau a nodir ym Mhennod 7.1, Atodiad A o God Rheoli’r Gwasanaeth Sifil a chanllawiau blynyddol a gynhyrchir gan lywodraeth y DU, yn dilyn argymhellion gan y Corff Adolygu Cyflogau Uwch-swyddogion (SSRB).

Wrth lunio eu hargymhellion, mae'r SSRB yn ystyried:

  • yr angen i recriwtio, cadw, cymell a dyrchafu pobl abl, a chymwys i gyflawni cyfrifoldebau penodol.
  • yr amrywiaethau rhanbarthol/lleol mewn marchnadoedd llafur a'u heffeithiau ar recriwtio, cyfnod cadw, a dyrchafu staff
  • polisïau'r Llywodraeth ar gyfer gwella gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y gofyniad i gyrraedd y targedau allbwn o ran darparu gwasanaethau adrannol
  • yr arian sydd ar gael i adrannau fel y’i nodir yn nherfynau gwariant adrannol a tharged chwyddiant y llywodraeth
  • y dystiolaeth y mae’r SSRB yn ei dderbyn ynglŷn ag ystyriaethau economaidd ehangach a fforddiadwyedd eu hargymhellion

Gallwch ddysgu mwy am yr SSRB trwy fynd i wefan SSRB.

Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol

Caiff ein Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol ei gadeirio gan aelod anweithredol. 

Mae'r Pwyllgor wedi dewis alinio ei ddull gydag un Llywodraeth Cymru yn fras, sydd â’r hyblygrwydd i weithredu o fewn y canllawiau a bennwyd gan Swyddfa Cabinet y DU. Er enghraifft, ni wnaethom unrhyw daliadau bonws yn gysylltiedig â pherfformiad i aelodau'r SCS yn ystod 2024 i 2025.

Mae cydnabyddiaeth ariannol ein gweithwyr nad ydynt yn rhai SCS yr un fath â dull Llywodraeth Cymru. Am fwy o wybodaeth, gweler polisi cyflog Llywodraeth Cymru.

Mae aelodau anweithredol ein Bwrdd yn cael ffioedd am ddyletswyddau a gyflawnir ar ran ACC, megis mynychu cyfarfodydd y Bwrdd a phwyllgorau. Telir y ffioedd ar gyfradd ddyddiol fel y nodir yn eu llythyrau penodi, ac maent fel a ganlyn:

Cyfraddau dyddiol ffioedd aelodau anweithredol
 Cyfradd ddyddiol (£)
Cadeirydd Anweithredol400
Is-gadeirydd Anweithredol350
Aelodau anweithredol300

Mae’r costau angenrheidiol a ysgwyddir wrth gyflawni'r dyletswyddau hyn yn cael eu had-dalu hefyd.

Fe wnaethom gynnig 2 swydd cydymaith bwrdd. Mae cymdeithion y bwrdd yn cael eu talu £200 y dydd pro rata.

Datgeliad cydnabyddiaeth ariannol

Mae'r datgeliad canlynol yn darparu gwybodaeth am gydnabyddiaeth ariannol a buddiannau pensiwn aelodau Bwrdd ACC. Mae hyn yn cynnwys aelodau anweithredol ac uwch swyddogion, ond nid yw'n cynnwys aelod staff etholedig y Bwrdd. 

Mae'r cyflog yn cynnwys y symiau pensiynadwy ac amhensiynadwy ac mae'n cwmpasu cyflogau gros, goramser, lwfansau recriwtio a chadw, neu lwfansau neu daliadau eraill os ydynt yn ddarostyngedig i drethiant y DU, ac unrhyw daliadau diswyddo neu daliadau yn ôl disgresiwn. Nid yw ad-daliadau ar gyfer treuliau dilys yn cael eu cynnwys yn y cyflog. Mae'r adroddiad hwn yn seiliedig ar daliadau cronedig a wnaed gennym ni.

Mae gwerth ariannol ‘buddion mewn nwyddau’ yn cynnwys unrhyw fuddion a ddarperir gennym ac y mae CThEF yn eu trin fel enillion trethadwy. 

Er mwyn cydbwyso gofynion adrodd yn erbyn preifatrwydd unigol, rydym yn adrodd ffigurau cydnabyddiaeth ariannol mewn bandiau o £5,000 yn bennaf (er enghraifft £65,000 i £70,000).

Cydnabyddiaeth ariannol anweithredol

Ffioedd a dalwyd i aelodau anweithredol
Aelod AnweithredolFfioedd
 

2024-25

£000

2023-24

£000

Ruth Glazzard
Cadeirydd Anweithredol
15-2015-20
Jocelyn Davies
Is-gadeirydd
5-105-10
Mary Champion
Aelod Anweithredol
5-105-10
Jim Scopes
Aelod Anweithredol
5-105-10
Rheon Tomos
Aelod Anweithredol
5-105-10
Laura Kent (o fis Medi 2023 tan fis Medi 2024)
Cydymaith Bwrdd 
0-50-5
Neil Mukerji (ers mis Medi 2023)
Cydymaith Bwrdd 
0-50-5

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Yn ogystal â'u ffioedd, mae aelodau anweithredol yn cael eu had-dalu am gostau teithio a threuliau eraill yn unol â’n polisi teithio a chynhaliaeth. Rydym yn talu rhwymedigaeth treth yr ad-daliad hwn.

Nid yw aelodau anweithredol yn cael eu cyflogi gan ACC ac nid ydynt yn derbyn buddion pensiwn.

Cydnabyddiaeth ariannol a buddion pensiwn uwch swyddogion

Ffigurau cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer uwch swyddogion
Uwch swyddogionCyflog
 mewn bandiau
o £5,000
Buddion
pension
i'r £1000
agosaf
Buddion mewn nwyddau i'r £100 agosafCyfanswm
mewn bandiau
o £5,000
2024-252023-242024-252023-242024-252023-242024-252023-24
Dyfed Alsop
Prif Weithredwr
110,000-114,999105,000-109,99965,00035,000500500175,000- 179,999140,000-144,999
Rebecca Godfrey
Prif Swyddog Gweithredu
90,000-94,99985,000-89,99951,00039,00000140,000-144,999125,000-129,999

David Matthews 

Cyfarwyddwr Strategaeth a Gallu 

(ers mis Medi 2024)

50,000-54,999-37,000-0-

90,000-94,999

 

-

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Nodiadau
  • Ni thalwyd unrhyw fonysau yn 2024 i 2025 nac yn 2023 i 2024.
  • Mae buddion mewn nwyddau yn ymwneud â gwerth trethadwy car drwy aberthu cyflog.

Byddai cyflog David Matthews cyfwerth ag amser llawn wedi’i fandio yn 2024 i 2025 wedi bod £125,000-£129,999 (2023-2024 £120,000-£124,999).

Buddion pensiwn uwch swyddogion
Uwch swyddogion

Pensiwn cronedig ar oedran pensiwn ar 31 Mawrth 2025 a chyfandaliad cysylltiedig

£000

Cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn a chyfandaliad cysylltiedig ar oedran pensiwn

£000

CETV* ar
31 Mawrth 2025

£000

CETV* ar
31 Mawrth 2024

£000

Cynnydd gwirioneddol mewn CETV*

£000

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr
35-40 a chyfandaliad o 80-852.5-5 a chyfandaliad o 2.5-572164047
Rebecca Godfrey
Prif Swyddog Gweithredu
30-352.5-550645132

David Matthews

Cyfarwyddwr Strategaeth a Gallu 

(1 Medi 2024 hyd heddiw)

        25-30    0-2.5476       43525

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad. 

* CETV = gwerth trosglwyddo sy’n gyfwerth ag arian parod.

Staff eraill 

Pensiynau'r Gwasanaeth Sifil

Darperir buddion pensiwn drwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Cyn 1 Ebrill 2015, yr unig gynllun oedd ar gael oedd Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS), sydd wedi’i rannu’n adrannau gwahanol – mae clasurol, premiwm, a clasurol plws yn darparu buddion ar sail cyflog terfynol, tra bod nuvos yn darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa. O 1 Ebrill 2015 cyflwynwyd cynllun pensiwn newydd ar gyfer gweision sifil – Cynllun Pensiwn y Gweision Sifil ac Eraill neu alpha, sy'n darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa. Ymunodd pob gwas sifil newydd, a'r rhan fwyaf o'r rhai a oedd eisoes mewn gwasanaeth, â’r cynllun newydd.

Mae PCSPS ac alpha yn gynlluniau statudol nas ariennir. Mae cyflogeion a chyflogwyr yn cyfrannu (mae cyfraniadau cyflogeion yn amrywio rhwng 4.6% ac 8.05%, yn dibynnu ar eu cyflog). Caiff costau’r buddiannau eu talu gan arian a bleidleisir gan y Senedd bob blwyddyn. Mae pensiynau taladwy yn cynyddu'n flynyddol yn unol â deddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Gall cyflogeion ddewis pensiwn cyfraniad diffiniedig gyda chyfraniad cyflogwr, sef y cyfrif pensiwn partneriaeth, yn hytrach na’r trefniant buddion diffiniedig.

Yng nghynllun alpha, mae’r pensiwn yn cronni ar gyfradd o 2.32% o enillion pensiynadwy bob blwyddyn, ac mae'r cyfanswm a gronnwyd yn cael ei addasu bob blwyddyn yn unol â chyfradd a bennir gan Drysorlys EF. Gall Aelodau ddewis ildio (cymudo) pensiwn am gyfandaliad hyd at y terfynau a bennir gan Ddeddf Cyllid 2004. Bydd buddion PCSPS pob Aelod sy'n newid o PCSPS i alpha yn cael eu 'bancio', a'r rhai sydd â buddion cynharach yn un o adrannau cyflog olaf y PCSPS yn cael y buddion hynny ar sail eu cyflog terfynol pan fyddant yn gadael alpha.

Y pensiwn cronedig a ddangosir yn yr adroddiad hwn yw'r pensiwn y mae gan yr aelod hawl i'w gael pan fydd yn cyrraedd oedran pensiwn arferol, neu cyn gynted ag y bydd wedi peidio â bod yn aelod gweithredol o'r cynllun os yw eisoes wedi cyrraedd yr oedran pensiwn arferol neu'n hŷn na hynny. 60 yw’r oedran pensiwn arferol ar gyfer aelodau clasurol, premiwm a clasurol plws, 65 ar gyfer aelodau o nuvos, ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu 65, pa un bynnag yw’r uchaf, ar gyfer aelodau o alpha. Mae'r ffigurau pensiwn yn yr adroddiad hwn yn dangos pensiwn a enillwyd yn PCSPS neu alpha – fel sy'n briodol. Pan fo gan aelod fuddiannau yn y PCSPS ac alpha, mae’r ffigur yn dangos gwerth cyfunol eu buddion yn y 2 gynllun, ond noder y gall rhannau o’r pensiwn hwnnw fod yn daladwy o wahanol oedrannau.

Pan gyflwynodd y Llywodraeth gynlluniau newydd ar gyfer pensiynau’r gwasanaeth cyhoeddus yn 2015, roedd trefniadau trosiannol yn eu lle a oedd yn trin aelodau presennol y cynllun yn wahanol ar sail eu hoedran. Arhosodd aelodau hŷn y PCSPS yn rhan o’r cynllun hwnnw, yn hytrach na symud i alpha. Yn 2018, penderfynodd y Llys Apêl fod y trefniadau trosiannol ar gyfer cynlluniau pensiwn y gwasanaeth cyhoeddus yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn aelodau iau (“dyfarniad McCloud”).

O ganlyniad, mae camau’n cael eu cymryd i unioni’r diwygiadau hynny a wnaed yn 2015, gan wneud darpariaethau’r cynllun pensiwn yn deg i bob aelod. Mae dwy ran i’r Rhwymedi[troednodyn1]Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus. Roedd y rhan gyntaf yn golygu cau PCSPS ar 31 Mawrth 2022, gyda phob aelod gweithredol yn dod yn aelodau o alpha o 1 Ebrill 2022. Mae’r ail ran yn dileu’r gwahaniaethu ar sail oedran ar gyfer y cyfnod rhwymedi, rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022, drwy symud aelodaeth aelodau cymwys yn ystod y cyfnod hwn yn ôl i’r PCSPS ar 1 Hydref 2023.

Mae'r buddion pensiwn cronedig, y Gwerth Trosglwyddo sy’n Cyfateb i Arian Parod, a ffigur cyfanswm unigol y gydnabyddiaeth ariannol a adroddwyd ar gyfer unrhyw unigolyn yr effeithir arno gan y Rhwymedi Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus wedi'u cyfrifo yn seiliedig ar eu cynnwys yn y PCSPS ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022, yn dilyn dyfarniad McCloud. Mae'r Rhwymedi Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus yn berthnasol i unigolion a oedd yn aelodau, neu a oedd yn gymwys i fod yn aelodau, o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus ar 31 Mawrth 2012 ac a oedd yn aelodau o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022. Mae'r sail ar gyfer y cyfrifiad yn adlewyrchu'r sefyllfa gyfreithiol bod aelodau yr effeithir arnynt wedi'u rholio yn ôl i'r Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar gyfer cyfnod y rhwymedi, ac y bydd hyn yn berthnasol oni fydd yr aelod yn arfer eu hawl ar ôl ymddeol i benderfynu i dderbyn buddion a gyfrifwyd o dan delerau'r cynllun alffa ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022 yn lle hynny.

Mae’r cyfrif pensiwn partneriaeth yn drefniant pensiwn cyfraniadau diffiniedig galwedigaethol sy'n rhan o Legal & General Mastertrust. Mae'r cyflogwr yn gwneud cyfraniad sylfaenol o rhwng 8% a 14.75% (yn dibynnu ar oedran yr aelod). Nid oes rhaid i'r cyflogai gyfrannu, ond os bydd yn cyfrannu, bydd y cyflogwr yn rhoi cyfraniad cyfatebol hyd at derfyn o 3% o gyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Mae cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.5% ychwanegol o gyflog pensiynadwy i dalu cost yswiriant buddion risg a ddarperir yn ganolog (marwolaeth mewn swydd ac ymddeoliad oherwydd salwch).

Gellir cael rhagor o wybodaeth am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar wefan www.civilservicepensionscheme.org.uk.

 [Troednodyn 3] http://www.gov.uk/government/collections/how-the-public-service-pension-remedy-affects-your-pension

Gwerth Trosglwyddo sy’n Cyfateb i Arian Parod

Gwerth Trosglwyddo sy’n Cyfateb i Arian Parod (CETV) yw gwerth cyfalaf, wedi’i asesu gan actwari, buddion y cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol. Y buddion a gaiff eu prisio yw buddion cronedig yr aelod ac unrhyw bensiwn amodol i briod sy'n daladwy o'r cynllun. Mae CETV yn daliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn er mwyn diogelu buddion pensiwn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo'r buddiannau a gronnwyd yn eu hen gynllun. Mae'r ffigurau pensiwn a ddangosir yn ymwneud â'r buddiannau a gronnwyd gan yr unigolyn o ganlyniad i'w aelodaeth lawn o'r cynllun pensiwn, nid yn unig ei wasanaeth mewn swydd ar lefel uwch sydd â datgeliad yn berthnasol iddo.

Mae'r ffigurau’n cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae'r aelod wedi'u trosglwyddo i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd gan yr aelod o ganlyniad i brynu buddion pensiwn ychwanegol ar eu cost eu hunain.

Cyfrifir CETV yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygiad) 2008 ac nid ydynt yn ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol neu bosibl i fuddion o ganlyniad i dreth lwfans oes a allai fod yn ddyledus pan gymerir buddion pensiwn.

Cynnydd gwirioneddol mewn CETV

Mae hwn yn adlewyrchu'r cynnydd mewn CETV a gyllidir gan y cyflogwr. Nid yw'n cynnwys y cynnydd yn y pensiwn cronedig o ganlyniad i chwyddiant, cyfraniadau a dalwyd gan y cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall) ac mae'n defnyddio ffactorau prisio'r farchnad gyffredin ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.

Datgeliad cyflog teg

Mae'r adran hon yn amodol ar archwiliad.

Mae'n rhaid i gyrff adrodd ddatgelu'r berthynas rhwng cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr sy'n ennill y cyflog mwyaf yn eu sefydliad a chwartel isaf, canolrif, a chwartel uchaf chydnabyddiaeth ariannol gweithlu'r sefydliad.

Mae cyfanswm y gydnabyddiaeth ariannol yn cynnwys cyflog, tâl ar sail perfformiad heb ei gydgrynhoi, a buddion mewn nwyddau. Nid yw'n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn y cyflogwr a gwerth trosglwyddo sy’n cyfateb i arian parod ar gyfer pensiynau. Ni thalodd ACC unrhyw dâl neu fonysau a oedd yn gysylltiedig â pherfformiad yn 2024 i 2025 na 2023 i 2024.

Band cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr a enillodd y cyflog uchaf yn ACC yn y flwyddyn ariannol 2024 i 2025 oedd £110,000 i £115,000 (2023 i 2024: £105,000 i £110,000). Roedd hyn 2.5 gwaith yn uwch na chydnabyddiaeth ariannol canolrifol y gweithlu, sef £44,866 (2023 i 2024: 2.5 gwaith, £43,785) gan ddefnyddio pwynt canol yr ystod gyflog wedi’i fandio ar gyfer y cyfarwyddwr sydd ar y cyflog uchaf. 

Yn 2024 i 2025, daeth y codiad cyflog canranol ar gyfer staff SCS yn gyfartal â staff eraill. Mae hyn yn esbonio'r newid yn y gyfradd o ddim yn y gydnabyddiaeth canolrifol. Yn 2024 i 2025, roedd newid o 4.7% o'r flwyddyn ariannol flaenorol yn nhermau'r cyfarwyddwr a enillodd y cyflog uchaf (4.9% oedd y ganran yn 2023 i 2024). Cynyddodd cyflog cyfartalog y sefydliad gan 1.9% (4.4% oedd y ganran yn 2023 i 2024).

Rhwng 2024 a 2025 a 2023 i 2024, ni dderbyniodd unrhyw staff gydnabyddiaeth ariannol uwch na'r cyfarwyddwr â'r cyflog uchaf. Roedd tâl yn amrywio o £24,420 i £112,500 (pwynt canol y band) (2023 i 2024: £23,258 i £107,500 (pwynt canol y band).

Cydnabyddiaeth ariannol staff chwartel isaf, canolrifol, a chwartel uchaf
BlwyddynCyflog 25ain canradd Cymhareb gyflog 25ain canraddCyflog canolrifol Cymhareb gyflog canolrifolCyflog 75ain canradd Cymhareb gyflog 75ain canradd 
2024 i 2025£33,7483.3:1£44,8662.5:1£64,7421.7:1
2023 i 2024£32,1413.3:1£43,7852.5:1£63,6141.7:1

Adroddiad pobl

Costau pobl
 Staff a gyflogir
yn barhaol
Staff contract
ac asiantaeth
CyfanswmCyfanswm
 

2024-25

£000

2024-25

£000

2024-25

£000

2023-24

£000

Cyflogau4,4293634,7924,012
Costau nawdd cymdeithasol4863489444
Costau pensiwn eraill1,27131,2741,072
Cyfanswm6,1863696,5555,528

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Mae’r staff a gyflogir yn barhaol yn y tabl hwn yn cynnwys pobl sydd ar fenthyg i ni gan gyflogwyr eraill y Gwasanaeth Sifil, ond sy'n dal i gael eu cyflogi'n barhaol gan eu cyflogwyr Gwasanaeth Sifil.

Mae'r cyflog yn cynnwys cyflogau gros, goramser, lwfansau recriwtio a chyfnodau chadw, a lwfansau neu daliadau eraill i'r graddau eu bod yn ddarostyngedig i drethiant y DU.

Cyfraniadau i’r cynllun pensiwn

Mae PCSPS yn gynllun buddion diffiniedig amlgyflogwr nas ariennir, ac felly ni all ACC nodi’r gyfran o’r asedau a’r rhwymedigaethau sylfaenol a berthyn iddo. Cynhaliwyd prisiad actiwaraidd llawn ar 31 Mawrth 2020. Gellir dod o hyd i fanylion yng nghyfrifon adnoddau Cynllun Pensiynau’r Gwasanaeth Sifil Cabinet Office: Civil Superannuation.

Ar gyfer 2024 i 2025, roedd cyfraniadau cyflogwyr o £1,270,904 yn daladwy i'r PCSPS yn seiliedig ar 28.97% (2023 i 2024: £1,064,471 o fewn yr ystod 26.6% i 30.3%, yn seiliedig ar fandiau cyflog). Mae actwari'r cynllun yn adolygu cyfraniadau'r cyflogwr bob 4 blynedd yn dilyn prisiad llawn o'r cynllun. Mae'r cyfraddau cyfrannu yn adlewyrchu buddion wrth iddynt gronni, yn hytrach na phan fydd costau’n digwydd mewn gwirionedd, sy’n adlewyrchu profiad o’r cynllun.

Gall cyflogeion ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, sef pensiwn cyfranddeiliaid gyda chyfraniad gan y cyflogwr. Talwyd cyfraniadau cyflogwyr o £2,528 (2023 i 2024: £7,461) i 1 neu fwy o'r panel o 3 darparwr pensiwn cyfranddeiliaid penodedig. Yn ogystal, mae 0.5% o dâl pensiynadwy yn daladwy i'r PCSPS i dalu cost buddion cyfandaliad yn y dyfodol os bydd y cyflogeion hyn yn marw yn y swydd neu'n ymddeol oherwydd salwch. Mae cyflogwyr hefyd yn cyfateb cyfraniadau gan gyflogeion hyd at 3% o’u tâl pensiynadwy.

Ni wnaeth unrhyw un (naill ai yn 2024 i 2025 nac yn 2023 i 2024) ymddeol yn gynnar oherwydd salwch. Felly, roedd cyfanswm y rhwymedigaethau pensiwn cronedig ychwanegol yn ystod y flwyddyn yn ddim.

SCS yn ôl band cyflog
Nifer yr aelodau o’r SCS yn ôl band cyflog
Band Cyflog31 Mawrth 202531 Mawrth 2024
SCS 211
SCS 122

Nid oes gan ein sefydliad unrhyw swyddi ym mandiau 3 neu 4 yr SCS.

Nifer y bobl a gyflogir

Personau a gyflogir (gan gynnwys SCS) – cyfwerth ag amser llawn (CALl) ar gyfartaledd
 2024-252023-24
Staff parhaol8978
Staff ar fenthyg00
Staff cyfnod penodol13
Cyfanswm9081

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Roedd staff cyfnod penodol yn cynnwys rolau fel cyflenwi ar gyfer pobl bresennol oherwydd absenoldeb rhiant neu amser arall o’u rôl, neu pan mai dim ond dros dro yr oedd angen y rôl. 

Yn ogystal â phobl gyflogedig fel yr uchod, y CALl ar gyfer pobl asiantaeth oedd:

Staff asiantaeth – cyfwerth ag amser llawn ar gyfartaledd (CALl)
 2024-252023-24
Staff asiantaeth50

Cyfansoddiad pobl

Rydym wedi ymrwymo i gynnig lle gwych i weithio ar gyfer ein holl staff. Fel rhan o'n hymrwymiad, rydym wedi gwneud y canlynol:

  • cadw ac adolygu gwybodaeth cydraddoldeb am ein pobl er mwyn llywio ein penderfyniadau
  • meddu ar bolisïau i sicrhau triniaeth gyfartal ac ystyried yr effaith ar unigolion a grwpiau sydd â nodweddion wedi'u diogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (er enghraifft, anabledd, oedran, a rhyw)
  • sicrhau bod ein Bwrdd a'n Tîm Arwain yn goruchwylio cydraddoldeb
  • cyhoeddi ein hadroddiad ar gydraddoldeb ym mis Mawrth 2025, yn ymdrin â'r cyfnod 2023 i 2024
Personau a gyflogir yn ôl rhywedd
 Ar 31 Mawrth 2025Ar 31 Mawrth 2024
 MenywodDynionMenywodDynion
SCS1212
Pobl eraill52474238
Gweithgareddau ehangach 

Cynhaliwyd amrywiaeth o weithgareddau i hyrwyddo triniaeth gyfartal. Roedd hyn yn cynnwys:

  • cynnal ein hachrediad Cyflogwr Cyflog Byw
  • hyrwyddo ein hymrwymiad 'Hapus i Siarad am Weithio Hyblyg' ar ein tudalennau recriwtio, gan hysbysebu pob rôl fel rhai sydd ar gael yn hyblyg yn ddiofyn
  • hyrwyddo ein statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd
  • cynnig cynllun gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni gofynion hanfodol ar gyfer rôl
  • ystyried rhagfarn o ran rhywedd yn yr iaith yr ydym yn ei defnyddio ar gyfer ein hymgyrchoedd recriwtio
  • defnyddio dull ‘cuddio enwau’ ar gyfer ceisiadau recriwtio er mwyn dileu cyfeiriadau at fanylion personol ac enwau sefydliadau addysgol, sy’n lleihau’r rhagfarn bosibl
  • gofyn i bob ymgeisydd a oedd angen addasiadau arnynt yn ystod y broses recriwtio
  • cynnig sesiynau gwybodaeth i ymgeiswyr ar gyfer pob ymgyrch recriwtio
  • cynnig sgyrsiau hygyrchedd cyn cyfweliad i ymgeiswyr anabl
  • sicrhau bod paneli recriwtio cymysg o ran rhywedd yn cael eu hyfforddi i ymgymryd â recriwtio diduedd
  • cynnig hyfforddiant gwrth-wahaniaethu i’n holl bobl, gan gynnwys deall ymddygiad gwahaniaethol, ymddygiad microymosodol, a sgyrsiau gofod diogel
  • llofnodi'r Addewid Gweithle Menopos a chynnig hyfforddiant ar hyn i'r holl staff
  • darparu gwasanaethau iechyd galwedigaethol a rhaglen cymorth i weithwyr ar gyfer ein holl bobl
  • cynnig ystod eang o ddigwyddiadau llesiant i’n pobl drwy’r Grŵp Llesiant sy’n cyd-fynd â’n strategaeth lesiant
  • cynnig asesiadau offer sgrin arddangos i’n pobl er mwyn nodi unrhyw addasiadau ac offer sydd eu hangen i weithio’n ddiogel gartref ac yn y swyddfa

Absenoldeb oherwydd salwch

Caiff ffigurau absenoldeb oherwydd salwch eu mynegi fel arfer fel dyddiau gwaith a gollwyd yn flynyddol (AWDL).

Mae AWDL fesul blwyddyn staff yn hafal i gyfanswm nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd yn ystod y flwyddyn wedi’i rannu â chyfanswm nifer y blynyddoedd staff posibl.

Rydym yn credu fod y fformiwla hon yn well cynrychiolaeth o'r diwrnodau a gollir yn wirioneddol o gymharu â ffyrdd eraill o gyfrifo AWDL, am nad yw'n cynnwys penwythnosau, gwyliau cyhoeddus, a gwyliau braint. Mae defnyddio cyfanswm blynyddoedd hefyd yn rhoi ystyriaeth gywir i bobl ran-amser, ymgeiswyr newydd, a'r rhai sy'n gadael. Er enghraifft, byddai gan rywun sy'n gweithio hanner yr oriau llawn amser mewn wythnos flwyddyn o 0.5.

Ein lefel absenoldeb oherwydd salwch oedd 2.87 AWDL ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025. Mae hyn yn llawer is na’r ffigwr diweddaraf sydd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth Sifil, sef 7.8 AWDL ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben fis Mawrth 2024. 

Trosiant

Cyfrifir ffigurau trosiant yn y Gwasanaeth Sifil mewn 2 ffordd:

  • trosiant, sy’n golygu staff sy’n gadael y Gwasanaeth Sifil yn gyfan gwbl
  • trosiant adrannol, sy’n golygu staff sy'n gadael ACC ond yn trosglwyddo i adran neu gyflogwr arall y Gwasanaeth Sifil

Cyfrifir y ffigur trosiant trwy rannu nifer y rhai sy'n gadael â nifer cyfartalog y bobl sydd mewn swydd.

Yn 2024 i 2025, gadawodd 14.3% o staff ACC. O'r rheini, gadawodd 2.2% ohonynt y Gwasanaeth Sifil yn gyfan gwbl, a symudodd 12.1% i adrannau eraill y llywodraeth, naill ai trwy ddyrchafiad neu mewn symudiad ochrol.

Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil

Arolwg trawslywodraethol o ymgysylltiad cyflogeion yw Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil. Mae tua 300,000 o weision sifil o dros 100 o sefydliadau yn cymryd rhan bob blwyddyn.

Mae'n defnyddio mynegai ymgysylltiad sy'n gyfartaledd o'r ymatebion i'r 5 datganiad hyn sy'n ddangosyddion cryf o ymgysylltiad cyflogeion: 

  • rwy’n falch o ddweud wrth bobl fy mod yn rhan o ACC.
  • byddwn yn argymell ACC fel lle gwych i weithio.
  • mae gen i ymlyniad personol cryf i ACC.
  • mae ACC yn fy ysbrydoli i wneud fy ngorau yn fy swydd.
  • mae ACC yn fy ysbrydoli i'w helpu i gyflawni ei amcanion. 

Gall y canlyniadau amrywio o 0% i 100%. Mae sgôr o 0% yn golygu fod yr holl ymatebwyr wedi rhoi sgôr o ‘anghytuno'n gryf’ i bob un o'r 5 datganiad. Mae sgôr o 100% yn golygu fod yr holl ymatebwyr wedi rhoi sgôr o ‘cytuno'n gryf’ i bob un o'r 5 datganiad.

Canlyniadau Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil ACC
 20242023
Mynegai ymgysylltiad76%76%

Mae ein sgôr gyffredinol o 76% yn dangos lefel uchel o ymgysylltiad cyflogeion ac mae'n sylweddol uwch na chyfartaledd y Gwasanaeth Sifil sef 64% yn 2024 a 64% yn 2023.

Roeddem yn chweched yn 2024 ar gyfer ymgysylltu â gweithwyr. Mae ein canlyniadau llawn ar gyfer arolygon pob blwyddyn i'w gweld ar ein gwefan: Arolwg Pobl ACC.

Costau ymgynghori

Costau ymgynghori yn ystod y cyfnod
 

2024-25

£000

2023-24

£000

Costau ymgynghori333612

Pan fo angen sgiliau arbenigol ar ACC, gwneir y gwaith hwn naill ai gan unigolion arbenigol neu gan sefydliadau ymgynghori.

Yn 2024 i 2025, roedd y rhan fwyaf o'r costau hyn o ganlyniad i waith darganfod ar yr ardoll ymwelwyr a chofrestru cenedlaethol ar gyfer Cymru. Roedd y costau ymgynghori eraill ar gyfer sgiliau arbenigol mewn gwasanaethau rhwydwaith, seiberddiogelwch ac adolygiad o’r system gyllid.

Datgeliadau oddi ar y gyflogres

Mae trefniadau oddi ar y gyflogres yn berthnasol i unigolion (contractwyr) sydd naill ai'n hunangyflogedig neu’n gweithredu trwy gyfryngwr neu gwmni gwasanaeth, yn hytrach na chael eu cyflogi'n uniongyrchol gennym ni. O 6 Ebrill 2017, arweiniodd diwygiadau i’r ddeddfwriaeth (a elwir yn IR35) at newid y rheolau ar gyfer pobl oddi ar y gyflogres sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus. Symudodd y rhwymedigaeth i benderfynu ar eu statws treth o’r contractwr i'r cyflogwr. 

Mae pob ymgysylltiad oddi ar y gyflogres wedi bod yn destun asesiad IR35 er mwyn pennu natur y trefniadau gweithio a sicrhau tryloywder a chydymffurfedd â rheoliadau treth.

Swyddi gweithwyr cyflog uchel oddi ar y gyflogres ar 31 Mawrth 2025, a oedd yn ennill £245 neu fwy y dydd
Nifer y swyddi presennol7
O'r rhain: 
Llai na blwyddyn 5
Rhwng 1 a 2 flynedd 0
Rhwng 2 a 3 blynedd 0
Rhwng 3 a 4 blynedd 2
4 blynedd neu fwy  
Pob gweithiwr cyflog uchel oddi ar y gyflogres a gyflogwyd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2025, a oedd yn ennill £245 neu fwy y dydd
Nifer y gweithwyr dros dro oddi ar y gyflogres a gyflogwyd yn ystod y flwyddyn
O'r rhain:
Ddim yn ddarostyngedig i deddfwriaeth oddi ar y gyflogres9
Yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth oddi ar y gyflogres ac a benderfynwyd eu bod o fewn cwmpas IR355
Yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth oddi ar y gyflogres ac a benderfynwyd eu bod y tu allan i gwmpas IR354
Nifer y swyddi a ailaseswyd at ddibenion cydymffurfio neu sicrwydd yn ystod y flwyddyn0
O'r rhain: Nifer y swyddi a welodd newid i statws IR35 yn sgil adolygiad0
Unrhyw aelodau Bwrdd ac/neu uwch swyddogion oddi ar y gyflogres sydd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol
Unrhyw aelodau Bwrdd ac/neu uwch swyddogion oddi ar y gyflogres sydd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol 0
Nifer yr aelodau Bwrdd ac/neu uwch swyddogion sydd ar, ac oddi ar, y gyflogres ac sydd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol 11

Cynllun y Gwasanaeth Sifil a chynlluniau iawndal eraill – pecynnau ymadael

Roedd nifer y diswyddiadau a'r ymadawiadau cytunedig eraill yn ystod 2024 i 2025 a 2023 i 2024 yn ddim. Ni chytunwyd ar unrhyw becynnau ymadael yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2025.

Rydym yn talu costau diswyddo a chostau ymadael eraill yn unol â Chynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil (CSCS) o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972. Os ydym yn cytuno i ymddeoliadau cynnar, ni fydd yn talu’r costau ychwanegol yn hytrach na Phrif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Caiff costau ymddeol oherwydd afiechyd eu talu gan y cynllun pensiwn. 

Llesiant

Rydym yn gwerthfawrogi llesiant ein pobl ac yn sylweddoli, trwy wneud hynny, y gallwn gynnig amgylchedd cadarnhaol a chynhyrchiol yn y gweithle. Rydym wedi cefnogi ein pobl mewn sawl ffordd yn ystod y flwyddyn. Roedd hyn yn cynnwys:

  • annog ein pobl i ddefnyddio awr lesiant â thâl bob wythnos
  • cefnogaeth drwy ein Grŵp Llesiant, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o’n sefydliad
  • creu cyfleoedd llesiant trwy gydol y flwyddyn sy’n cyd-fynd â’n 5 prif faes llesiant: ymgysylltu â’n gilydd, bod yn gorfforol egnïol, dysgu sgiliau newydd, byw yn y foment a rhoi i eraill
  • hyrwyddo ac annog ein pobl i ymuno â rhwydweithiau staff a grwpiau cymorth
  • cynnig gwiriadau iechyd wedi'u teilwra i'r holl staff
  • cynnig rhaglen cymorth i weithwyr yn ogystal â phlatfform rheoli gofal iechyd

Rebecca Godfrey
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu Dros Dro 
22 Gorffennaf 2025

Adroddiad archwilio: cyfrifon adnoddau

Tystysgrif ac adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru i’r Senedd

Barn ar y datganiadau ariannol

Rwy’n tystio fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025 dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethu (Cymru) 2016. 

Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, Datganiad o Sefyllfa Ariannol, Datganiad o Lif Arian, Datganiad o Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr a’r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys y polisïau cyfrifyddu perthnasedd arwyddocaol. Y fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yw'r gyfraith berthnasol a’r safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU fel y’u dehonglwyd ac y’u haddaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF.

Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r datganiadau ariannol: 

  • yn rhoi darlun gwir a theg o sefyllfa materion Awdurdod Cyllid Cymru ar 31 Mawrth 2025 ac o’i gwariant net, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar y dyddiad hwnnw;
  • wedi'u paratoi'n briodol yn unol â’r safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU fel y’u dehonglwyd ac y’u haddaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF.
  • wedi’u paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethu (Cymru) 2016.

Barn ar reoleidd-dra 

Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r gwariant a’r incwm yn y datganiadau ariannol wedi cael eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Sail y barnau

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r gyfraith berthnasol a’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU (ISAs (Y DU)) a Nodyn Ymarfer 10 ‘Archwilio datganiadau ariannol a rheoleidd-dra cyrff y sector cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig’. Caiff fy nghyfrifoldebau dan y safonau hynny eu disgrifio ymhellach yn yr adran o’m tystysgrif sy’n nodi cyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol. 

Mae fy staff a minnau’n annibynnol o’r corff yn unol â'r gofynion moesegol sy'n berthnasol i'm harchwiliad o'r datganiadau ariannol yn y DU, gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â'r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio yr wyf wedi'i chael yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i'm barnau.

Casgliadau sy’n ymwneud â busnes gweithredol

Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i’r casgliad bod defnyddio’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol i baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.

Yn seiliedig ar y gwaith yr wyf wedi’i gyflawni, nid wyf wedi adnabod unrhyw ansicrwydd perthnasol mewn perthynas â digwyddiadau neu amodau a all, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu’r corff i barhau i fabwysiadu’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o'r dyddiad pan awdurdodir cyhoeddi'r datganiadau ariannol.

Caiff fy nghyfrifoldebau i a chyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â busnes gweithredol eu disgrifio yn yr adrannau perthnasol o’r dystysgrif hon.

Caiff y sail gyfrifyddu busnes gweithredol ar gyfer Awdurdod Cyllid Cymru ei mabwysiadu gan ystyried y gofynion yn Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF, sy’n ei gwneud yn ofynnol i endidau fabwysiadu’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol lle disgwylir y bydd y gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn parhau i’r dyfodol.

Gwybodaeth arall

Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth yn yr adroddiad blynyddol, heblaw am y datganiadau ariannol a rhannau eraill o’r adroddiad a archwilir a'm hadroddiad i fel archwilydd ar y rhain. Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall yn yr adroddiad blynyddol. Nid yw fy marn am y datganiadau ariannol yn cwmpasu'r wybodaeth arall a, heblaw i'r graddau a nodir yn benodol fel arall yn fy adroddiad, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar yr wybodaeth arall honno. Fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw’r wybodaeth arall yn berthnasol anghyson â’r datganiadau ariannol neu wybodaeth a gafwyd wrth gyflawni'r archwiliad, neu'n ymddangos fel arall fel pe bai wedi cael ei chamddatgan yn berthnasol. Os wyf yn canfod anghysonderau perthnasol o’r fath neu wybodaeth berthnasol o’r fath sy’n ymddangos fel pe bai wedi cael ei chamddatgan, mae’n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn achosi camddatganiad perthnasol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Yn seiliedig ar y gwaith yr wyf wedi’i wneud, os wyf yn dod i’r casgliad bod yr wybodaeth arall hon wedi’i chamddatgan yn berthnasol, mae’n ofynnol i mi nodi’r ffaith honno.

Nid oes unrhyw beth gennyf i’w nodi yn hyn o beth.

Barn ar faterion eraill 

Yn fy marn i, mae’r rhan o’r Adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Phobl sydd i’w harchwilio wedi cael ei pharatoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethu (Cymru) 2016.

Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad:

  • mae’r rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd a gaiff eu harchwilio wedi cael eu paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethu (Cymru) 2016. ac
  • mae’r wybodaeth a roddir yn y Trosolwg Perfformiad, Adroddiad Atebolrwydd a Datganiad Llywodraethu ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â’r datganiadau ariannol ac yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol.

Materion y cyflwynaf adroddiad arnynt drwy eithriad

Yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth am y corff a'i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi unrhyw gamddatganiadau perthnasol yn y Trosolwg Perfformiad, Adroddiad Atebolrwydd a Datganiad Llywodraethu.

Nid oes gennyf unrhyw beth i'w nodi o ran y materion canlynol, y cyflwynaf adroddiad i chi arnynt os bydd yr amgylchiadau canlynol yn berthnasol, yn fy marn i:

  • nid wyf wedi cael yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad.
  • ni chadwyd cofnodion cyfrifyddu priodol neu ni chafwyd ffurflenni sy’n ddigonol ar gyfer fy archwiliad o ganghennau nad ymwelodd fy nhîm â hwy;
  • nid yw’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Atebolrwydd a gaiff ei harchwilio yn gyson â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu;
  • nid yw gwybodaeth a nodir gan Weinidogion Cymru ynghylch cydnabyddiaeth ariannol a thrafodion eraill wedi cael ei datgelu;
  • nid yw datgeliadau penodol ynghylch cydnabyddiaeth ariannol a nodir gan Lawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF wedi cael eu gwneud neu nid yw rhannau o’r Adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Phobl sydd i’w harchwilio yn gyson â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu; neu
  • nid yw’r Datganiad Llywodraethu’n adlewyrchu cydymffurfiaeth â chanllawiau Trysorlys EF.

Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu am y datganiadau ariannol

Fel a esbonnir yn fanylach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am: 

  • gadw cofnodion cyfrifyddu priodol;
  • paratoi datganiadau ariannol ac Adroddiad Blynyddol yn unol â’r fframwaith adrodd ariannol perthnasol ac am fod wedi’i argyhoeddi eu bod yn rhoi darlun gwir a theg;
  • sicrhau bod yr Adroddiad Blynyddol a’r datganiadau ariannol yn ei cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy;
  • sicrhau rheoleidd-dra trafodion ariannol;
  • pa bynnag reolaethau mewnol sy'n angenrheidiol ym marn y Swyddog Cyfrifyddu i allu paratoi datganiadau ariannol heb unrhyw gamddatganiadau perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall;
  • asesu gallu’r corff i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu fel y bo'n gymwys, faterion sy'n ymwneud â'r busnes gweithredol a defnyddio sail gyfrifyddu busnes gweithredol oni bai bod y Swyddog Cyfrifyddu yn rhagweld na fydd y gwasanaethau a ddarperir gan y corff yn parhau i gael eu darparu yn y dyfodol.

Cyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol

Fy nghyfrifoldeb yw archwilio’r datganiadau ariannol, eu hardystio ac adrodd arnynt yn unol â Ddeddf Casglu a Rheoli Trethu (Cymru) 2016.

Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch p'un a yw'r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhai heb unrhyw gamddatganiad perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall, a chyhoeddi tystysgrif sy'n cynnwys fy marn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw'n gwarantu y bydd archwiliad a gynhelir yn unol â’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU wastad yn canfod camddatganiad perthnasol pan fo'n bodoli. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wall ac fe'u hystyrir yn berthnasol os, yn unigol neu gyda'i gilydd, gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Mae afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll, yn golygu achosion o ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau. Rwy’n dylunio gweithdrefnau yn unol â’m cyfrifoldebau, a nodir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol mewn perthynas ag afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll. 

Roedd fy ngweithdrefnau’n cynnwys y canlynol:

  • Holi’r rheolwyr, pennaeth archwilio mewnol a’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennaeth ategol mewn perthynas â pholisïau a gweithdrefnau Awdurdod Cyllid Cymru sy’n ymwneud ag:
    • adnabod, gwerthuso a chydymffurfio â deddfau a rheoliadau a pha un a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio;
    • canfod ac ymateb i’r risgiau o dwyll a pha un a oes ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, tybiedig neu honedig; a hefyd
    • y rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy’n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau.
  • Ystyried fel tîm archwilio sut a ble allai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion posibl o dwyll. Fel rhan o’r drafodaeth hon, canfûm botensial ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: cofnodi dyddlyfrau anarferol
  • Cael dealltwriaeth am y fframwaith awdurdod sydd gan Awdurdod Cyllid Cymru, yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill y mae Awdurdod Cyllid Cymru yn gweithredu oddi mewn iddynt, gan ganolbwyntio ar y deddfau a’r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Awdurdod Cyllid Cymru
  • Cael dealltwriaeth am berthnasoedd partïon cysylltiedig.

Yn ychwanegol at yr uchod, roedd fy ngweithdrefnau i ymateb i risgiau a ganfuwyd yn cynnwys y canlynol:

  • adolygu’r datgeliadau yn y datganiadau ariannol a phrofi yn erbyn dogfennaeth ategol i asesu cydymffurfiaeth â deddfau a rheoliadau perthnasol a drafodir uchod;
  • holi’r rheolwyr, a’r Pwyllgor Archwilio a Risg ynghylch ymgyfreithiad a hawliadau gwirioneddol a phosibl;
  • darllen cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Risg a’r Bwrdd;
  • wrth fynd i’r afael â’r risg o dwyll trwy wrthwneud rheolaethau gan reolwyr, profi priodoldeb cofnodion dyddlyfr ac addasiadau eraill;
  • asesu a yw’r dyfarniadau a wnaed wrth lunio amcangyfrifon cyfrifyddu’n rhoi arwydd o wyrduedd bosibl; a gwerthuso’r rhesymeg fusnes dros unrhyw drafodion arwyddocaol sy’n anarferol neu y tu allan i gwrs arferol busnes; a

Fe wnes i hefyd gyfleu deddfau a rheoliadau dynodedig perthnasol a risgiau posibl o dwyll i holl aelodau’r tîm archwilio ac aros yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau trwy gydol yr archwiliad.

Effeithir ar y graddau y mae fy ngweithdrefnau’n gallu canfod afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll, gan yr anhawster cynhenid o ran canfod afreolaidd-dra, effeithiolrwydd rheolaethau Awdurdod Cyllid Cymru, a natur, amseriad a hyd a lled y gweithdrefnau archwilio a gyflawnwyd. 

Ceir disgrifiad pellach o gyfrifoldebau'r archwilydd am archwilio'r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol yn www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae'r disgrifiad hwn yn rhan o'm hadroddiad archwilio.

Cyfrifoldebau eraill yr archwilydd

Rwy’n gorfod ateb gofynion o ran cael tystiolaeth sy’n ddigon i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a’r incwm a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol wedi cael eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Rwy’n cyfathrebu gyda’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu ynghylch, ymhlith pethau eraill, cwmpas ac amseriad arfaethedig yr archwiliad a chanfyddiadau archwilio arwyddocaol, gan gynnwys unrhyw ddiffygion arwyddocaol mewn rheolaeth fewnol yr wyf yn eu hadnabod yn ystod fy archwiliad.

Adroddiad

Nid oes unrhyw sylwadau gennyf i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.

Adrian Crompton
Archwilydd Cyffredinol Cymru

1 Cwr y Ddinas
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ

22 Gorffennaf 2025

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio ac adrodd ar y cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio’n wreiddiol. Cyfieithiad o’r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw’r fersiwn hwn. Awdurdod Cyllid Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.

Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw hygrededd gwefan Awdurdod Cyllid Cymru a’r gwaith o gynnal y wefan honno; nid yw’r gwaith a gyflawnir gan archwilwyr yn cynnwys ystyriaeth o’r materion hyn ac, yn unol â hynny, nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldebau am unrhyw newidiadau a allai fod wedi cael eu cyflwyno i’r datganiadau ariannol ers eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan. 

Cyfrifon adnoddau

Datganiad o wariant net cynhwysfawr
 Nodyn

2024-25

£000

2023-24

£000

Costau staff26,5555,528
Costau eraill sy'n gysylltiedig â staff2201163
Costau gweithredu eraill21,7842,049
Dibrisiant3.17459
Amorteiddiad3.26655
Gwariant gweithredu net 8,6807,854
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr am y flwyddyn 8,6807,854
Datganiad o sefyllfa ariannol
 Nodyn

2024-25

£000

2023-24

£000

Asedau anghyfredol   
Peiriannau ac offer3.1207201
Asedau anniriaethol3.2170210
Cyfanswm asedau anghyfredol 377411
Asedau cyfredol   
Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall4113148
Arian parod a chyfwerth ag arian parod51,313 1,118
Cyfanswm asedau cyfredol 1,4261,266
Rhwymedigaethau cyfredol   
Symiau masnach a symiau taladwy eraill6(1,021)(947)
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol (1,021)(947)
Cyfanswm yr asedau ar ôl tynnu’r rhwymedigaethau cyfredol 782730 
Ecwiti trethdalwyr   
Cronfa gyffredinol        782730 

Rebecca Godfrey
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu Dros Dro
22 Gorffennaf 2025

Datganiad o lifau arian parod
 Nodyn

2024-25

£000

2023-24

£000

Llifau arian parod o weithgareddau gweithredol   
Gwariant gweithredu net (8,680)(7,854)
Addasiadau ar gyfer trafodiadau nad ydynt yn rhai arian parod
Gostyngiad/(cynnydd) mewn symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill 35(44)
(Gostyngiad)/cynydd mewn symiau masnach a symiau taladwy eraill 7453
Dibrisiant ac amorteiddiad3.1, 3.2140114
Arian parod net (all-lif) sy'n deillio o weithgareddau gweithredu(8,431)(7,731)
Llifau arian parod o weithgareddau buddsoddi
Ychwanegiadau peiriannau ac offer3.1(80)(96)
Ychwanegu asedau anniriaethol3.2(26)(238)
Arian parod net (all-lif) sy’n deillio o weithgareddau buddsoddi(106)(334)
Llifau arian parod o weithgareddau cyllido
Cyllid gan Lywodraeth Cymru 8,7328,217
Cynnydd/(lleihad) net mewn arian parod a chyfwerth ag arian parod5195152
Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar ddechrau'r cyfnod51,118966
Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar ddiwedd y cyfnod51,3131,118
Datganiad o newidiadau yn ecwiti trethdalwyr
 Cronfa gyffredinol
£000
Balans ar 31 Mawrth 2023

 
367
Newidiadau yn ecwiti trethdalwyr 2023 hyd 2024
Cyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru7,867
Cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru350
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr am y flwyddyn(7,854)
Balans ar 31 Mawrth 2024730
Newidiadau yn ecwiti trethdalwyr 2024 i 2025
Cyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru8,612
Cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru120
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr am y flwyddyn(8,680)
Balans ar 31 Mawrth 2025782

Nodiadau i'r cyfrifon adnoddau

1. Datganiad o bolisïau cyfrifyddu

1.1 Sail y cyfrifyddu

Paratoir y cyfrifon hyn yn unol â:

  • chyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan weinidogion Cymru, yn unol ag Adran 29(1)(b) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
  • Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FReM) a gyhoeddir gan Drysorlys EF
  • y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y maent wedi'u haddasu neu eu dehongli ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus
  • y polisïau cyfrifyddu y manylir arnynt yn y nodiadau dilynol

Mae ACC wedi ystyried effaith safonau a dehongliadau sydd wedi'u cyhoeddi ond nad ydynt eto wedi dod i rym. Ni ddisgwylir y bydd y rhain yn cael effaith faterol ar y datganiadau ariannol.

Mae'r wybodaeth ariannol a gynhwysir yn y datganiadau ac yn y nodiadau wedi'i thalgrynnu i'r £1,000 agosaf.

1.2 Confensiwn cyfrifyddu

Paratowyd y cyfrifon hyn o dan y confensiwn cost hanesyddol, wedi'u haddasu yn ôl gofynion y safonau cyfrifyddu perthnasol ac yn amodol ar ddehongliadau ac addasiadau safonau Llawlyfr Adroddiadau Ariannol. Cyfrifyddwyd gwariant ar sail groniadol. Mae’r cyfrifyddu ar gyfer cyllid wedi'i nodi yn y polisi cyfrifyddu 1.7.

1.3 Busnes gweithredol

Paratowyd y cyfrifon hyn ar sail ‘busnes gweithredol’ gan fod ACC yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru ac yn derbyn ei harian refeniw gan y llywodraeth i fodloni ei rwymedigaethau. Mae ACC yn disgwyl y bydd yn parhau i fodoli hyd y gellir ei ragweld.

1.4 Defnyddio dyfarniadau

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn, mae'r rheolwyr wedi gwneud dyfarniadau sy'n effeithio ar gymhwysiad y polisïau cyfrifyddu a'r symiau o asedau, atebolrwydd a threuliau a adroddir arnynt. Gall y canlyniadau gwirioneddol fod yn wahanol i'r amcangyfrifon hyn a chânt eu cydnabod yn y dyfodol.

Mae gwybodaeth am y dyfarniadau a wnaed wrth gymhwyso polisïau cyfrifyddu sy'n cael yr effeithiau mwyaf sylweddol ar y symiau a gydnabyddir yn y datganiadau ariannol wedi'u cynnwys yn y canlynol:

Nid oes unrhyw asedau ‘hawl i ddefnyddio’ yn bodoli o fewn ACC. Mae'r gofod swyddfa a ddyrannwyd i ACC i'w ddefnyddio yn cael ei gyfarwyddo gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, yn unig.

1.5 Croniad gwyliau blynyddol

Cyfrifir am groniad gwyliau blynyddol staff o fewn costau staff eraill. Dim ond y symudiad yn ystod y flwyddyn a godir amdano. Mae'r croniad yn gyfrifiad sy’n adlewyrchu'r gwyliau blynyddol sy'n ddyledus neu sy'n ddyledus i staff ar ddiwedd y flwyddyn.

1.6 Treth ar werth (TAW)

Mae ACC wedi'i gofrestru ar gyfer TAW ac mae'n adennill rhai elfennau o TAW ar gyfer gwasanaethau busnes a gwasanaethau sy'n cael eu contractio allan. Caiff gwariant ar nwyddau a gwasanaethau eraill ei gofnodi yn cynnwys TAW yn unol â llawlyfr TAW llywodraeth fewnol Cyllid a Thollau EF (CThEF).

1.7 Cyllid

Mae ACC yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru (a elwir yn ‘ddyraniad grant’) i ariannu ei wariant refeniw a chyfalaf. Yn unol â'r FReM, cofnodir y symiau hyn fel cyllid yn hytrach nag incwm ac fe'u credydir i'r gronfa gyffredinol. Mae FReM hefyd yn cadarnhau y dylid cyfrif am y cyllid hwn ar sail arian parod ac rydym wedi cydymffurfio â hyn.

1.8 Arian parod a chyfwerth ag arian parod

Mae arian parod a chyfwerth ag arian parod yn cynnwys y balansau sydd gan ACC gyda sefydliadau ariannol yn unig.

1.9 Adrodd ar segmentau

Mae Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) 8 yn ei gwneud yn ofynnol i endidau ddatgelu gwybodaeth am eu segmentau gweithredu a'u hardaloedd daearyddol. Mae ACC yn gweithredu mewn un segment ac yng Nghymru yn unig. Felly, ni ystyrir bod angen unrhyw adrodd ychwanegol.

1.10 Lesau

Ar gyfer 2024 i 2025, nid yw ACC yn rhan o unrhyw drefniadau les (naill ai fel y lesydd na’r lesddeiliad) o dan Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) 16.

1.11 Offerynnau ariannol

Mae offeryn ariannol yn gontract sy'n arwain at greu ased ariannol mewn un endid a rhwymedigaeth ariannol neu offeryn ecwiti mewn endid arall. Mae IFRS 7 yn ei gwneud yn ofynnol i ddatgelu rôl offerynnau ariannol yn ystod y cyfnod o ran creu neu newid y risgiau y mae endid yn eu hwynebu wrth ymgymryd â’i weithgareddau. Gan fod ACC yn cael ei ariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, yr unig offerynnau ariannol yn y cyfrifon yw asedau ariannol, ar ffurf symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill, a rhwymedigaethau ariannol, ar ffurf symiau masnach a symiau taladwy eraill. Ni ystyrir bod ACC yn agored i unrhyw lefel sylweddol o risg o ran credyd, hylifedd na chyfradd llog. 

1.12 Asedau anghyfredol

Offer

Caiff cyfarpar ei ddal ar werth teg. Defnyddir cost hanesyddol wedi'i dibrisio fel procsi ar gyfer gwerth teg yr asedau hyn.

Mae’r holl gyfarpar a brynwyd yn uniongyrchol gan ACC ac a oedd yn costio £5,000 neu fwy wedi’i gyfalafu.

Darperir ar gyfer dibrisiant yn y mis ar ôl caffael ac fe'i cyfrifir er mwyn dileu’r gwerth ar ôl tynnu’r gwerth gweddilliol amcangyfrifedig, mewn rhannau cyfartal dros ei oes ddefnyddiol ddisgwyliedig, fel y dangosir isod.

Oes ddefnyddiol disgwyliedig yr offer
Categori cyfarparOes ddefnyddiol ddisgwyliedig
Gosodiadau a ffitiadau10 mlynedd
Cyfarpar TGCh3 i 5 blynedd
Cyfarpar arall5 mlynedd
Asedau anniriaethol

Gan nad oes marchnad weithredol yn bodoli oherwydd natur benodol asedau anniriaethol, cânt eu datgan ar gostau hanesyddol a'u hamorteiddio ar sail llinell syth dros yr oes ddefnyddiol amcangyfrifedig neu dymor y drwydded. Darperir ar gyfer amorteiddiad yn y mis ar ôl caffael yr ased.

Mae asedau anniriaethol sy'n cael eu datblygu yn ymwneud â datblygiadau system ar gyfer diogelwch cyfrifon defnyddwyr. Mae'r costau ar gyfer y rhain yn cael eu hadrodd ar wahân yn nodyn 3.2. Mae costau'n cael eu cronni nes bod yr ased ar gael i'w ddefnyddio, ac wedi hynny caiff ei drosglwyddo i'r categori asedau perthnasol a bydd tâl amorteiddio yn cael ei godi.

Oes ddefnyddiol disgwyliedig asedau anniriaethol
Categori’r ased AnniriaetholAmcangyfrif o’i oes ddefnyddiol
Trwyddedau a meddalwedd3 blynedd i 5 mlynedd
1.13   Safonau cyfrifyddu sydd wedi'u cyhoeddi ond heb eu mabwysiadu eto

Mae'r safonau cyfrifyddu canlynol wedi'u cyhoeddi a/neu eu diwygio gan Fwrdd Safonau Cyfrifyddu Rhyngwladol (IASB) a Phwyllgor Dehongli IFRS (IFRIC) yr IFRS, ond nid ydynt wedi'u mabwysiadu oherwydd nad yw'r Llawlyfr Adroddiadau Ariannol wedi gwneud hynny’n ofynnol eto.

IFRS 14 Regulatory Deferral Accounts: Yn berthnasol i’r rhai sy’n mabwysiadu’r Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol am y tro cyntaf ar ôl 1 Ionawr 2016. Felly, nid yw'n berthnasol i'r ACC.

IFRS 17 Insurance Contracts: Angen ei chymhwyso ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2023. Mae'r safon wedi’i gymeradwyo yn y DU a'i fabwysiadu gan y FReM. Dyddiad y cymhwysiad cychwynnol yw dechrau'r cyfnod adrodd blynyddol pan gymhwysir IFRS 17 am y tro cyntaf. Yn y llywodraeth ganolog, dyddiad y cymhwysiad cychwynnol yw 1 Ebrill 2025.

IFRS 18 Presentation and Disclosure in Financial Statements: Angen ei chymhwyso ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2027. Nid yw'r safon wedi'i chymeradwyo gan y DU eto ac nid yw wedi'i mabwysiadu gan y FReM. Ni chaniateir mabwysiadu cynnar.

IFRS 19 Subsidiaries without Public Accountability: Disclosures: Angen ei chymhwyso ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2027. Nid yw'r safon wedi'i chymeradwyo gan y DU eto ac nid yw wedi'i mabwysiadu gan y FReM. Ni chaniateir mabwysiadu cynnar.

2. Gwariant

Gwariant yn ystod y cyfnod
 

2024-25

£000

2023-24

£000

Staff a chostau cysylltiedig  
Cyflogau     4,459 4,012
Costau pensiynau     1,274 1,072
Costau nawdd cymdeithasol        489 444
Costau asiantaeth        333 0
     6,5555,528
Costau eraill sy'n gysylltiedig â staff  
Hyfforddi a datblygu          82 111
Teithio a chynhaliaeth          42 27
Treuliau eraill sy'n gysylltiedig â chyflogeion          77 25
        201163
Costau gweithredu eraill  
Gweinyddu a chostau swyddfa eraill          85 90
Costau'r Bwrdd a chostau cysylltiedig          73 81
Ffi archwilio allanol          33 36
Costau sy'n gysylltiedig â TGCh     1,244 1,523
Ffi archwilio mewnol          13 13
Costau proffesiynol eraill       336306
     1,7842,049
Amorteiddiad a dibrisiant        140114
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr am y flwyddyn    8,6807,854

Mae dadansoddiad pellach o gostau staff a chostau cysylltiedig i'w cael yn yr ‘Adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a phobl’.

3. Asedau anghyfredol

3.1 Cyfarpar
 

Cyfarpar TGCh

£000

Peiriannau ac offer

£000

Cyfanswm

£000

Cost neu brisiad
Cost ar 1 Ebrill 2024366             60                426
Ychwanegiadau             80 080
Gwarediadau000
Ar 31 Mawrth 202544660506
Dibrisiant
Dibrisiant ar 1 Ebrill 2024           220                5                225 
Tâl am y flwyddyn             67                7                  74
Gwarediadau000
Ar 31 Mawrth 202528712299
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 202414655201
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2025           159              48                207
Cost neu brisiad
Cost ar 1 Ebrill 202327071341
Ychwanegiadau96096
Gwarediadau0(11)(11)
Ar 31 Mawrth 202436660426
Dibrisiant 
Ar 1 Ebrill 202316710177
Tâl am y flwyddyn53659
Gwarediadau0(11)(11)
Ar 31 Mawrth 20242205225
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2023103 61 164
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 202414655201
3.2 Asedau anniriaethol
 Trwyddedau
£000
Meddalwedd
£000
Ased sy’n cael ei ddatblygu
£000
Cyfanswm
£000
Cost neu brisiad 
Cost ar 1 Ebrill 20241372,5401012,778
Ychwanegiadau026026
Trosglwyddo0101(101)0
Gwarediadau0000
Ar 31 Mawrth 20251372,66702,804
Amorteiddiad  
Amorteiddiad ar 1 Ebrill 2024302,53802,568
Tâl am y flwyddyn46            20 066
Gwarediadau0000
Ar 31 Mawrth 2025762,55802,634
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 20241072101210
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2025611090170
Cost neu brisiad 
Cost ar 1 Ebrill 2023642,54002,604
Ychwanegiadau1370101238
Gwarediadau(64)00(64)
Ar 31 Mawrth 20241372,5401012,778
Amorteiddiad 
Amorteiddiad ar 1 Ebrill 2023572,52002,577
Tâl am y flwyddyn3817055
Gwarediadau(64)00(64)
Ar 31 Mawrth 2024312,53702,568
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2023720027
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 20241063101210

4. Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall

Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall ar ddiwedd y cyfnod
 2024-25
£000
2023-24
£000
Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall      113148
Balans ar 31 Mawrth113148

5. Arian parod a chyfwerth ag arian parod

Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar ddiwedd y cyfnod
 2024-25
£000
2023-24
£000
Balans ar ddechrau'r cyfnod    1,118 966
Newid net mewn balansau arian parod a chyfwerth ag arian parod195 

 

152

Balans ar 31 Mawrth    1,3131,118

6. Symiau masnach a symiau taladwy eraill

Symiau masnach a symiau taladwy eraill ar ddiwedd y cyfnod
 2024-25
£000
2023-24
£000
Symiau masnach taladwy (848) (792)
Symiau taladwy eraill(173) (155)
Balans ar 31 Mawrth(1,021)(947)

Mae'r rhan fwyaf o'r symiau o fewn symiau taladwy eraill yn ymwneud â’r croniadau gwyliau blynyddol.

7. Trafodiadau partïon cysylltiedig

Mae ACC yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn barti cysylltiedig. Roedd trafodiadau materol yn ystod y flwyddyn gyda Llywodraeth Cymru fel a ganlyn:

  • derbyniwyd cyllid refeniw o £8.61 miliwn yn ystod y flwyddyn (2023 i 2024: £7.87 miliwn).
  • derbyniwyd cyllid cyfalaf o £120,000 yn ystod y flwyddyn (2023 i 2024: £350,000).
  • gwnaed taliadau o £6.27 miliwn i Lywodraeth Cymru yn ystod 2024 i 2025, yn bennaf mewn perthynas â chostau cyflogres (2023 i 2024: £5.60 miliwn).

Ni ymgymerodd unrhyw aelodau o'r Bwrdd, uwch swyddogion na phartïon cysylltiedig, ag unrhyw drafodiadau materol gydag ACC.

8. Ymrwymiadau cyfalaf

Nid oedd unrhyw ymrwymiadau cyfalaf ar 31 Mawrth 2025.

9. Asedau a rhwymedigaethau digwyddiadol

Nid oedd unrhyw asedau a rhwymedigaethau digwyddiadol ar 31 Mawrth 2025.

10. Colledion a thaliadau arbennig (mae’r wybodaeth hon yn destun archwilio)

Cafodd ACC un golled yn 2024 i 2025, ac mae gwerth hyn islaw’r trothwy adrodd (dim yn 2023 i 2024). Ni gwnaed unrhyw daliadau arbennig yn 2024 i 2025 nac yn 2023 i 2024.

11. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau adroddadwy ar ôl y cyfnod adrodd.

Adroddiad archwilio: datganiad treth

Tystysgrif ac adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru i’r Senedd

Barn ar y datganiadau ariannol

Rwy’n ardystio fy mod wedi archwilio Datganiad Treth Awdurdod Refeniw Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025 dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethu (Cymru) 2016. 

Mae’r Datganiad Treth yn cynnwys y Datganiad o refeniw, incwm arall a gwariant a’r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys y polisïau cyfrifyddu perthnasedd arwyddocaol. 

Y fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yw'r gyfraith berthnasol a’r safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU fel y’u dehonglwyd ac y’u haddaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF.

Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r datganiadau ariannol: 

  • yn rhoi darlun gwir a theg o sefyllfa materion Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru ar 31 Mawrth 2025 ac o’r refeniw net ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar y dyddiad hwnnw;
  • wedi'u paratoi'n briodol yn unol â’r safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU fel y’u dehonglwyd ac y’u haddaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF; ac
  • wedi’u paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a gyhoeddwyd dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Barn ar reoleidd-dra 

Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r gwariant a’r incwm a gofnodwyd yn y Datganiad Treth wedi cael eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodwyd yn y Datganiad Treth yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Sail y barnau

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r gyfraith berthnasol a’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU (ISAs (Y DU)) a Nodyn Ymarfer 10 ‘Archwilio datganiadau ariannol a rheoleidd-dra cyrff y sector cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig’. Caiff fy nghyfrifoldebau dan y safonau hynny eu disgrifio ymhellach yn yr adran o’m tystysgrif sy’n nodi cyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol. 

Mae fy staff a minnau’n annibynnol o Awdurdod Cyllid Cymru yn unol â'r gofynion moesegol sy'n berthnasol i'm harchwiliad o'r datganiadau ariannol yn y DU, gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â'r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio yr wyf wedi'i chael yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i'm barnau.

Casgliadau sy’n ymwneud â busnes gweithredol

Wrth archwilio’r Datganiad Treth, rwyf wedi dod i’r casgliad bod defnyddio’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol i baratoi’r Datganiad Treth yn briodol.

Yn seiliedig ar y gwaith yr wyf wedi’i gyflawni, nid wyf wedi adnabod unrhyw ansicrwydd perthnasol mewn perthynas â digwyddiadau neu amodau a all, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu’r corff i barhau i fabwysiadu’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o'r dyddiad pan awdurdodir cyhoeddi'r datganiadau ariannol.

Caiff fy nghyfrifoldebau i a chyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â busnes gweithredol eu disgrifio yn yr adrannau perthnasol o’r dystysgrif hon.

Caiff y sail gyfrifyddu busnes gweithredol ar gyfer Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru ei mabwysiadu gan ystyried y gofynion yn Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF, sy’n ei gwneud yn ofynnol i endidau fabwysiadu’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol lle disgwylir y bydd y gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn parhau i’r dyfodol.

Gwybodaeth arall

Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth yn yr adroddiad blynyddol, heblaw am y Datganiad Treth a'm hadroddiad i fel archwilydd arno. Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall. Nid yw fy marn am y Datganiad Treth yn cwmpasu'r wybodaeth arall a, heblaw i'r graddau a nodir yn benodol fel arall yn fy adroddiad, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar yr wybodaeth arall honno. Fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw’r wybodaeth arall yn berthnasol anghyson â’r Datganiad Treth neu wybodaeth a gafwyd wrth gyflawni'r archwiliad, neu'n ymddangos fel arall fel pe bai wedi cael ei chamddatgan yn berthnasol. Os wyf yn canfod anghysonderau perthnasol o’r fath neu wybodaeth berthnasol o’r fath sy’n ymddangos fel pe bai wedi cael ei chamddatgan, mae’n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn achosi camddatganiad perthnasol yn y Datganiad Treth ei hun. Yn seiliedig ar y gwaith yr wyf wedi’i wneud, os wyf yn dod i’r casgliad bod yr wybodaeth arall hon wedi’i chamddatgan yn berthnasol, mae’n ofynnol i mi nodi’r ffaith honno.

Nid oes unrhyw beth gennyf i’w nodi yn hyn o beth.

Barn ar faterion eraill 

Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad, mae’r wybodaeth a roddir yn y Trosolwg Perfformiad, Adroddiad Atebolrwydd a Datganiad Llywodraethu ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y Datganiad Treth ar ei chyfer yn gyson â’r Datganiad Treth ac mae’r Trosolwg Perfformiad, Adroddiad Atebolrwydd a Datganiad Llywodraethu yn unol â chanllawiau Gweinidogion Cymru.

Materion y cyflwynaf adroddiad arnynt drwy eithriad

Yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth Ddatganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru a'i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi unrhyw gamddatganiadau perthnasol yn Trosolwg Perfformiad, Adroddiad Atebolrwydd neu’r Datganiad Llywodraethu.

Nid oes gennyf unrhyw beth i'w nodi o ran y materion canlynol, y cyflwynaf adroddiad i chi arnynt os bydd yr amgylchiadau canlynol yn berthnasol, yn fy marn i:

  • nid wyf wedi cael yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad.
  • ni chadwyd cofnodion cyfrifyddu digonol neu ni chafwyd ffurflenni sy’n ddigonol ar gyfer fy archwiliad o ganghennau nad ymwelodd fy nhîm â hwy;
  • nid yw’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Atebolrwydd a gaiff ei harchwilio yn gyson â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu;
  • nid yw gwybodaeth a nodir gan Weinidogion Cymru ynghylch cydnabyddiaeth ariannol a thrafodion eraill wedi cael ei datgelu;
  • nid yw datgeliadau penodol ynghylch cydnabyddiaeth ariannol a nodir gan Lawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF wedi cael eu gwneud neu nid yw rhannau o’r Adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Phobl sydd i’w harchwilio yn gyson â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu; neu
  • nid yw’r Datganiad Llywodraethu’n adlewyrchu cydymffurfiaeth â chanllawiau Trysorlys EF.

Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu am y datganiadau ariannol

Fel a esbonnir yn fanylach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am:

  • gadw cofnodion cyfrifyddu priodol;
  • paratoi Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru a’i Adroddiad Blynyddol yn unol â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 a chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed dan y Ddeddf honno, ac am fod wedi’i argyhoeddi eu bod yn rhoi darlun gwir a theg;
  • sicrhau bod yr Adroddiad Blynyddol a Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy;
  • sicrhau rheoleidd-dra trafodion ariannol;
  • pa bynnag reolaethau mewnol sy'n angenrheidiol ym marn y Swyddog Cyfrifyddu i allu paratoi datganiadau ariannol heb unrhyw gamddatganiadau perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall;
  • asesu gallu Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru i barhau fel busnes gweithredol gan ddatgelu fel y bo'n gymwys, faterion sy'n ymwneud â'r busnes gweithredol a defnyddio sail gyfrifyddu busnes gweithredol oni bai bod y Swyddog Cyfrifyddu yn rhagweld na fydd y gwasanaethau a ddarperir gan Ddatganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru yn parhau i gael eu darparu yn y dyfodol.

Cyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol

Fy nghyfrifoldeb yw archwilio Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru, ei ardystio ac adrodd arno yn unol â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch p'un a yw'r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhai heb unrhyw gamddatganiad perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall, a chyhoeddi tystysgrif sy'n cynnwys fy marn. 

Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw'n gwarantu y bydd archwiliad a gynhelir yn unol â’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU wastad yn canfod camddatganiad perthnasol pan fo'n bodoli. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wall ac fe'u hystyrir yn berthnasol os, yn unigol neu gyda'i gilydd, gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Mae afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll, yn golygu achosion o ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau. Rwy’n dylunio gweithdrefnau yn unol â’m cyfrifoldebau, a nodir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol mewn perthynas ag afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll. 

Roedd fy ngweithdrefnau’n cynnwys y canlynol:

  • Holi’r rheolwyr, pennaeth archwilio mewnol a’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennaeth ategol mewn perthynas â pholisïau a gweithdrefnau Awdurdod Cyllid Cymru sy’n ymwneud ag:
    • adnabod, gwerthuso a chydymffurfio â deddfau a rheoliadau a pha un a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio;
    • canfod ac ymateb i’r risgiau o dwyll a pha un a oes ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, tybiedig neu honedig; a hefyd
    • y rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy’n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau.
  • Ystyried fel tîm archwilio sut a ble allai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion posibl o dwyll. Fel rhan o’r drafodaeth hon, canfûm botensial ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: cofnodi dyddlyfrau anarferol
  • Cael dealltwriaeth am y fframwaith awdurdod sydd gan Awdurdod Cyllid Cymru, yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill y mae Awdurdod Cyllid Cymru yn gweithredu oddi mewn iddynt, gan ganolbwyntio ar y deddfau a’r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Awdurdod Cyllid Cymru;
  • Cael dealltwriaeth am berthnasoedd partïon cysylltiedig.

Yn ychwanegol at yr uchod, roedd fy ngweithdrefnau i ymateb i risgiau a ganfuwyd yn cynnwys y canlynol:

  • adolygu’r datgeliadau yn y datganiadau ariannol a phrofi yn erbyn dogfennaeth ategol i asesu cydymffurfiaeth â deddfau a rheoliadau perthnasol a drafodir uchod;
  • holi’r rheolwyr a’r Pwyllgor Archwilio a Risg ynghylch ymgyfreithiad a hawliadau gwirioneddol a phosibl;
  • darllen cofnodion cyfarfodydd y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu a’r Bwrdd diwygier fel y bo’n briodol;
  • wrth fynd i’r afael â’r risg o dwyll trwy wrthwneud rheolaethau gan reolwyr, profi priodoldeb cofnodion dyddlyfr ac addasiadau eraill; asesu a yw’r dyfarniadau a wnaed wrth lunio amcangyfrifon cyfrifyddu’n rhoi arwydd o wyrduedd bosibl; a gwerthuso’r rhesymeg fusnes dros unrhyw drafodion arwyddocaol sy’n anarferol neu y tu allan i gwrs arferol busnes

Fe wnes i hefyd gyfleu deddfau a rheoliadau dynodedig perthnasol a risgiau posibl o dwyll i holl aelodau’r tîm archwilio ac aros yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau trwy gydol yr archwiliad.

Effeithir ar y graddau y mae fy ngweithdrefnau’n gallu canfod afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll, gan yr anhawster cynhenid o ran canfod afreolaidd-dra, effeithiolrwydd rheolaethau Awdurdod Cyllid Cymru, a natur, amseriad a hyd a lled y gweithdrefnau archwilio a gyflawnwyd. 

Ceir disgrifiad pellach o gyfrifoldebau'r archwilydd am archwilio'r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol yn www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae'r disgrifiad hwn yn rhan o'm hadroddiad archwilio.

Cyfrifoldebau eraill yr archwilydd

Mae hefyd yn ofynnol i mi gael digon o dystiolaeth i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a’r incwm a gofnodwyd yn Natganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru wedi cael eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodion ariannol a gofnodwyd yn Natganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru’n cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Rwy’n cyfathrebu gyda’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu ynghylch, ymhlith pethau eraill, cwmpas ac amseriad arfaethedig yr archwiliad a chanfyddiadau archwilio arwyddocaol, gan gynnwys unrhyw ddiffygion arwyddocaol mewn rheolaeth fewnol yr wyf yn eu hadnabod yn ystod fy archwiliad.

Nid oes unrhyw sylwadau gennyf i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.

Adrian Crompton
Archwilydd Cyffredinol Cymru

1 Cwr y Ddinas
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ

22 Gorffennaf 2025

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio ac adrodd ar y cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio’n wreiddiol. Cyfieithiad o’r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw’r fersiwn hwn. Awdurdod Cyllid Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.

Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw hygrededd gwefan Awdurdod Cyllid Cymru a’r gwaith o gynnal y wefan honno; nid yw’r gwaith a gyflawnir gan archwilwyr yn cynnwys ystyriaeth o’r materion hyn ac, yn unol â hynny, nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldebau am unrhyw newidiadau a allai fod wedi cael eu cyflwyno i’r datganiadau ariannol ers eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan. 

Datganiad treth

Datganiad o refeniw, incwm arall, a gwariant
 Nodyn

2024-25

£000

2023-24

£000

Refeniw
Trethi a thollau
Treth Trafodiadau Tir (TTT)2.1340,612269,893
Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT)2.234,13829,718
Cyfanswm trethi a thollau 374,750299,611
Incwm arall   
Cosbau2.3658417
Llog2.31,161263
Cyfanswm cosbau a llog 1,819680
Cyfanswm y refeniw 374,052300,291
Gwariant
Llog a dalwyd 3.1(1,063)(719)
Colledion refeniw3.2(517)119
Cyfanswm y gwariant (1,580)(600)
Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru 374,989299,691

Ni chafwyd unrhyw enillion na cholledion cydnabyddedig a gyfrifwyd amdanynt y tu hwnt i’r datganiad refeniw, incwm arall a gwariant.

Datganiad o sefyllfa ariannol
 Nodyn2024-25
£000
2023-24
£000
Asedau cyfredol
Symiau derbyniadwy4.15,5752,874
Trethi cronedig derbyniadwy4.116,68515,405
Arian parod510,76911,805
Cyfanswm asedau cyfredol 33,02930,084
 
Symiau taladwy a balansau ar gyfrif6(1,899)(304)
Darpariaeth ar gyfer treth mewn tribiwnlys7(2,150)(1,789)
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol (4,049)(2,093)
Cyfanswm yr asedau net 28,98027,991
Cynrychiolir gan   
Balans sy'n ddyledus i Gronfa Gyfunol Cymru928,98027,991

Rebecca Godfrey
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu Dros Dro
22 Gorffennaf 2025

Datganiad o lifau arian parod
 Nodyn2024-25
£000
2023-24
£000
Llif arian net o weithgareddau gweithredolA372,964300,270
Arian parod a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru (374,000)(298,000)
Cynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod yn y cyfnod hwnB(1,036)2,270

A: Cysoniad llif arian newydd â symudiad mewn cronfeydd net

A: Cysoniad llif arian newydd â symudiad mewn cronfeydd net 
 2024-25
£000
2023-24
£000
Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru374,989299,691
Gostyngiad/(cynnydd) mewn asedau nad ydynt yn arian parod(3,981)573
(Gostyngiad)/cynnydd mewn rhwymedigaethau1,595(232)
(Gostyngiad)/cynnydd mewn darpariaeth ar gyfer rhwymedigaethau361238
Llif arian net o weithgareddau gweithredol372,964300,270
B: Dadansoddiad o'r newidiadau yn y gronfa arian net
 2024-25
£000
2023-24
£000
Cynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod yn y cyfnod hwn(1,036)2,270
Arian net ar 1 Ebrill (balans agoriadol y banc)11,8059,535
Arian net ar 31 Mawrth (balans banc terfynol)10,76911,805

Nodiadau i'r datganiad treth

1. Datganiad o bolisïau cyfrifyddu

1.1 Sail y cyfrifyddu

Paratoir y cyfrifon hyn yn unol â:

  • y cyfarwyddyd cyfrifon a gyhoeddwyd gan weinidogion Cymru, yn unol ag adran 30 (1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
  • Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FReM) a gyhoeddir gan Drysorlys EF
  • y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y maent wedi'u haddasu neu eu dehongli ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus
  • y polisïau cyfrifo y manylir arnynt yn y nodiadau diweddarach

Mae ACC wedi ystyried effaith safonau a dehongliadau sydd wedi'u cyhoeddi ond nad ydynt eto wedi dod i rym. Ni ddisgwylir y bydd y rhain yn cael effaith faterol ar y datganiadau ariannol.

Yr incwm ac unrhyw wariant cysylltiedig a gynhwysir yn y datganiadau hyn yw'r llif arian hwnnw y mae ACC yn ei drin ar ran Cronfa Gyfunol Cymru, a phan fo’n gweithredu fel asiant yn hytrach na fel pennaeth.

Mae'r wybodaeth ariannol a gynhwysir yn y datganiadau ac yn y nodiadau wedi'i thalgrynnu i'r £1,000 agosaf.

1.2 Confensiwn cyfrifyddu

Paratowyd y datganiad treth yn unol â'r confensiwn cost hanesyddol. Cyfrifir am drethi, gan gynnwys ad-daliadau, ar sail croniad.

1.3 Cydnabod refeniw

Trethiant

Mae trethi’n cael eu mesur yn unol â 'IFRS 15 Revenue from Contracts with Customers’. Cânt eu mesur ar werth teg y symiau a dderbynnir neu sy'n dderbyniadwy, net o ad-daliadau. Cydnabyddir refeniw pan:

  • mae digwyddiad trethadwy wedi digwydd, y gellir mesur y refeniw yn ddibynadwy, a’i bod yn debygol y bydd y buddion economaidd o'r digwyddiad trethadwy yn llifo i Gronfa Gyfunol Cymru.
  • mae digwyddiad trethadwy yn digwydd pan fydd atebolrwydd i dalu treth

Caiff unrhyw ddiwygiadau, gan gynnwys ad-daliadau cyfradd uwch, eu cydnabod hyd at 30 Ebrill yn y flwyddyn ariannol ddilynol os ydynt yn berthnasol i flwyddyn ariannol flaenorol.

Cosbau a llog

Caiff cosbau a llog eu mesur yn unol ag IFRS 15. Cânt eu mesur ar werth teg symiau a dderbynnir neu sy'n dderbyniadwy.

Cydnabyddir refeniw pan:

  • gaiff y gosb neu dâl llog ei osod yn ddilys a daw’n dderbyniadwy gan ACC

Mae refeniw cosbau cydnabyddedig yn cael ei wrthdroi yn y cyfrifiad:

  • pan fo cosb yn cael ei chanslo yn sgil cywiro mân wall gan y trethdalwr neu'r asiant ar y ffurflen dreth
  • pan fo cosb yn cael ei chanslo yn dilyn adolygiad gan ACC
  • pan fo apêl, neu resymau cyfreithiol eraill, yn diddymu’r gosb

Lle ystyrir yn ddiweddarach bod refeniw cosb neu log a gydnabyddwyd mewn blwyddyn ariannol flaenorol yn anghasgladwy am resymau heblaw'r hyn a nodir yma, cofnodir hyn fel traul ar y dyddiad yr ystyrir ei fod yn anghasgladwy.

Nid yw ACC yn cydnabod y bwlch treth yn y datganiad treth. Dyma'r gwahaniaeth rhwng swm y dreth a ddylai, mewn theori, gael ei chasglu gan ACC (yr ‘atebolrwydd damcaniaethol’), a’r hyn a gesglir. Y rhwymedigaeth treth a fyddai'n cael ei thalu pe byddai pob trethdalwr yn cydymffurfio â llythyren y ddeddf a dehongliad ACC o fwriad Senedd Cymru wrth ddeddfu (y cyfeirir ati fel ‘ysbryd y gyfraith’) yw’r rhwymedigaeth dreth ddamcaniaethol hon.

Gohiriadau

Mae gohiriad yn digwydd pan fydd gan drafodiad tir sawl cam o bennu pris prynu a phan fo un neu fwy o'r camau hyn yn ddyledus yn y dyfodol ac yn amodol ar ddigwyddiad. Nid yw ACC yn cydnabod y refeniw treth ar y taliadau hyn yn y dyfodol hyd nes bod y digwyddiad hwnnw'n digwydd a bod y pris prynu ychwanegol yn daladwy. Enghraifft o ohirio yw pan fo tir yn cael ei brynu a bod swm ychwanegol yn daladwy ar ôl cael caniatâd cynllunio. Yn yr achos hwn, cydnabyddir refeniw treth ar y taliad ychwanegol ar yr adeg pan roddir y caniatâd cynllunio.

Ymholiadau a thribiwnlysoedd

Yn unol â’r Llawlyfr Adroddiadau Ariannol, nid yw refeniw treth ynghyd ag ad-daliadau treth neu gosb sy'n deillio o ymholiadau neu achosion tribiwnlys yn cael eu cydnabod yn y cyfrifon nes bydd y penderfyniad neu'r dyfarniad yn cael ei gyhoeddi. Dim ond os ydynt yn arwain at effaith ariannol faterol y gwneir datgeliadau yn y cyfrifon sy'n ymwneud ag ymchwiliadau neu dribiwnlysoedd.

1.4 Defnyddio dyfarniadau

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn, mae'r rheolwyr wedi gwneud dyfarniadau sy'n effeithio ar gymhwysiad polisïau cyfrifyddu a'r symiau o refeniw, asedau, atebolrwydd, a threuliau a adroddir arnynt. Gall y canlyniadau gwirioneddol fod yn wahanol i'r amcangyfrifon hyn a chânt eu cydnabod yn y dyfodol.

Mae gwybodaeth am y dyfarniadau a wnaed wrth gymhwyso polisïau cyfrifyddu sy'n cael yr effeithiau mwyaf sylweddol ar y symiau a gydnabyddir yn y datganiadau ariannol wedi'u cynnwys yn y canlynol:

  • Mae datgeliad atebolrwydd dibynnol ar gyfer ad-dalu’r gyfradd uwch o TTT o fewn y cyfrifon yn cael ei fodelu gan ACC. Mae rhan o’r cyfrifiad hwn yn defnyddio amcangyfrif o’r ganran o’r TTT ychwanegol ar y gyfradd uwch a ddisgwylir i gael ei hadfer. Trysorlys Cymru sy’n darparu’r mewnbwn hwn, ac mae’n cael ei ddilysu gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.

1.5 Offerynnau ariannol

Mae offeryn ariannol yn gontract sy'n arwain at greu ased ariannol mewn un endid a rhwymedigaeth ariannol neu offeryn ecwiti mewn endid arall. Mae ‘IFRS 7 Financial Instruments: Disclosures’ yn ei gwneud yn ofynnol i ddatgelu rôl offerynnau ariannol yn ystod y cyfnod o ran creu neu newid y risgiau y mae endid yn eu hwynebu wrth ymgymryd â’i weithgareddau. Yr unig offerynnau ariannol yn y cyfrifon yw asedau ariannol ar ffurf symiau derbyniadwy a rhwymedigaethau ariannol ar ffurf symiau taladwy. O ganlyniad, nid oes unrhyw amlygiad i hylifedd sylweddol, risg cyfradd llog, nac ychwaith risg arian cyfred tramor.

1.6 Cyfrinachedd Trethdalwyr

Mae ACC yn cymryd cyfrinachedd trethdalwyr o ddifrif ac ni fydd yn dangos unrhyw fanylion cyfrinachol trethdalwyr yn y datganiadau ariannol a waherddir o dan Adran 17 DCRhT 2016 oni bai bod gofyniad cyfreithiol sy’n ei gwneud yn hanfodol i wneud hynny. 

1.7 Symiau Derbyniadwy

Nid yw FReM yn ei gwneud yn ofynnol i ACC benderfynu ar amhariadau yn unol ag ‘IFRS 9 Financial Instruments’, gan fod y safon yn ymwneud ag offerynnau ariannol. Daw trethi o statud yn hytrach na chontract, ond, mae amhariadau wedi'u mesur gan ddefnyddio'r model colli credyd a nodir yn IFRS 9. Mae'r model amhariad yn IFRS 9 yn seiliedig ar y cynsail o ddarparu ar gyfer colledion disgwyliedig gan ddefnyddio'r wybodaeth sydd ar gael a chan ystyried y tebygolrwydd o’u casglu.

Caiff gwerth symiau derbyniadwy ACC eu hadolygu'n unigol ar ddyddiad pob cyfnod adrodd er mwyn penderfynu a oes unrhyw arwydd o amhariad. Os oes arwydd o'r fath, adroddir ar y gwerthoedd yn y datganiad o sefyllfa ariannol ar ôl yr amhariad er mwyn adlewyrchu'r swm sy'n debygol o gael ei gasglu.

Mae colledion refeniw yn digwydd pan fydd ACC yn rhoi'r gorau’n ffurfiol i weithgarwch casglu. Mae mwyafrif llethol yr achosion hyn yn cael eu hachosi gan ansolfedd unigolion a busnesau. Daw colledion refeniw o ollwng a dileu dyledion. Mae gollyngdodau’n ddyledion y gellir eu hadennil ond fod ACC wedi penderfynu peidio â mynd ar drywydd y ddyled ar sail gwerth am arian. Bydd ACC ond yn dileu dyledion y mae'n eu hystyried yn rhai na ellir eu hadennil pan nad oes modd ymarferol mynd ar drywydd y ddyled.

Caiff polisïau cyfrifyddu pellach eu hegluro yn y nodiadau perthnasol.

1.8 Trafodiadau Partïon Cysylltiedig

Oherwydd natur busnes ACC, mae gennym drafodiadau, sy'n ymwneud ag incwm trethiant, gydag adrannau eraill y llywodraeth a chyrff eraill y llywodraeth ganolog.

Ni wnaeth aelodau'r Bwrdd, nac unrhyw un o'u partïon cysylltiedig, ymgymryd ag unrhyw drafodiadau materol gydag ACC (h.y. trafodiadau o £0.1 miliwn neu fwy). Mae angen ffurflenni gwrthdaro buddiannau ar gyfer unrhyw drafodiad o'r fath waeth beth fo'i werth.

1.9 Safonau cyfrifyddu sydd wedi'u cyhoeddi ond heb eu mabwysiadu eto

Mae'r safonau cyfrifyddu canlynol wedi'u cyhoeddi a/neu eu diwygio gan Fwrdd Safonau Cyfrifyddu Rhyngwladol (IASB) a Phwyllgor Dehongli IFRS (IFRIC) yr IFRS, ond nid ydynt wedi'u mabwysiadu oherwydd nad yw'r Llawlyfr Adroddiadau Ariannol wedi gwneud hynny’n ofynnol eto.

IFRS 14 Regulatory Deferral Accounts: Yn berthnasol i’r rhai sy’n mabwysiadu’r Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol am y tro cyntaf ar ôl 1 Ionawr 2016. Felly, nid yw'n berthnasol i ACC.

IFRS 17 Insurance Contracts: Angen ei chymhwyso ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2023. Mae'r safon wedi’i chymeradwyo yn y DU a'i mabwysiadu gan y Llawlyfr Adroddiadau Ariannol. Dyddiad y cymhwysiad cychwynnol yw dechrau'r cyfnod adrodd blynyddol pan gymhwysir IFRS 17 am y tro cyntaf. Yn y llywodraeth ganolog, dyddiad y cymhwysiad cychwynnol yw 1 Ebrill 2025.

IFRS 18 Presentation and Disclosure in Financial Statements:Angen ei chymhwyso ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2027. Nid yw'r safon wedi'i chymeradwyo gan y DU eto ac nid yw wedi'i mabwysiadu gan y FReM. Ni chaniateir mabwysiadu cynnar.

IFRS 19 Subsidiaries without Public Accountability: Disclosures: Angen ei chymhwyso ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2027. Nid yw'r safon wedi'i chymeradwyo gan y DU eto ac nid yw wedi'i mabwysiadu gan y FReM. Ni chaniateir mabwysiadu cynnar.

2. Refeniw ac incwm arall 

2.1 Treth Trafodiadau Tir 
 2024-25
£000
2023-24
£000
Preswyl251,849202,595
Amhreswyl [troednodyn 1]88,76367,298
Cyfanswm Treth Trafodiadau Tir340,612269,893

[troednodyn1] Mae hyn yn cynnwys trafodiadau defnydd cymysg o £19.57 miliwn yn 2024 i 2025 a £10.61 miliwn yn 2023 i 2024. 

Mae'r ffigur hwn wedi'i ostwng er mwyn cyfrif am ad-daliadau cyfradd uwch o £22.40 miliwn (2023 i 2024: £18.80 miliwn) sydd bellach yn cael eu trin fel prif gyfraddau preswyl lle mae trethdalwyr wedi gwneud cais llwyddiannus am ad-daliad.

Y digwyddiad trethadwy ar gyfer TTT yw prynu tir neu eiddo. Mae cyfraddau preswyl uwch TTT yn daladwy ar brynu eiddo ychwanegol yng Nghymru. Mae'r gyfradd uwch yn ad-daladwy i'r trethdalwr pan werthir prif breswylfa'r trethdalwr o fewn 3 blynedd i brynu'r eiddo ychwanegol. Efallai y bydd cyfnod hirach yn berthasol ar gyfer gwerthiant prif breswylfa flaenorol y trethdalwr mewn sefyllfaoedd penodol. Cydnabyddir hyn pan fydd hawliad y trethdalwr neu’r asiant yn cael ei ddiwygio ar y System Rheoli Trethi, sy’n creu’r digwyddiad rhwymedigaethol.

2.2 Treth Gwarediadau Tirlenwi
 2024-25
£000
2023-24
£000
Treth Gwarediadau Tirlenwi34,13829,718
Cyfanswm Treth Gwarediadau Tirlenwi34,13829,718

Telir TGT pan waredir gwastraff i safleoedd tirlenwi a chaiff ei gyfrifo yn ôl y pwysau a’r math o wastraff. 

2.3 Cosbau a llog 

 

 

2024-252023-24
Cosb
£000
Llog
£000
Cosb
£000
Llog
£000
Treth Trafodiadau Tir657298415197
Treth Gwarediadau Tirlenwi1863266
Cyfanswm cosbau a llog6581,161417263

Codir cosbau pan fydd ffurflenni treth yn cael eu derbyn yn hwyr, os bydd taliadau’n hwyr, neu am resymau eraill a ganiateir o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Codir llog ar daliadau treth hwyr neu gosbau.

Oherwydd natur y taliadau cosb / llog, bydd amrywiadau o flwyddyn i flwyddyn, ac nid ydynt yn rhagweladwy o ran eu nifer na’u swm.

3. Gwariant

3.1 Llog a dalwyd 
 2024-25
£000
2023-24
£000
Treth Trafodiadau Tir(1,063)(719)
Treth Gwarediadau Tirlenwi00
Cyfanswm y llog a dalwyd(1,063)(719)

Mae llog yn daladwy gan ACC ar ad-daliad unrhyw rwymedigaethau treth neu gosbau.

3.2 Colledion refeniw 

 

 

2024-252023-24
 (Cynnydd)/ gostyngiad mewn amhariadau treth
£000
Dyled wedi'i dileu
£000
(Cynnydd)/ gostyngiad mewn amhariadau treth 
£000
Dyled wedi'i dileu
£000
Treth Trafodiadau Tir(517)0159(40)
Treth Gwarediadau Tirlenwi0000
Cyfanswm y colledion refeniw(517)0159(40)

Mae colledion refeniw yn cynnwys dileu dyledion a'r symudiad yn y ddarpariaeth ar gyfer amhariad ar dreth (gweler nodyn 4.2). 

Dilëir dyledion pan fydd pob cam rhesymol wedi’i gymryd ac ar ôl ystyriaeth yn ofalus, na ellir adennill y symiau hyn. 

4. Symiau derbyniadwy a refeniw cronedig derbyniadwy  

4.1 Symiau derbyniadwy sy'n ddyledus 

 

 

2024-252023-24
 Symiau derbyniadwy

£000

Refeniw cronedig derbyniadwy

£000

Symiau derbyniadwy

£000

Refeniw cronedig derbyniadwy

£000

Treth Trafodiadau Tir6,79810,7593,57910,232
Treth Gwarediadau Tirlenwi05,92605,173
Cyfansymiau cyn amhariad6,79816,6853,57915,405
Tynnu amhariad 
(nodyn 4.2)
(1,223)0(705)0
Cyfanswm 5,57516,6852,87415,405

Rhwymedigaethau trethdalwyr yw’r symiau derbyniadwy, lle mae’r symiau sy'n ddyledus gan y trethdalwr, gan gynnwys cosbau ariannol a llog wedi eu hysgwyddo yn ystod y cyfnod adrodd, ond na dderbyniwyd y symiau erbyn dyddiad y fantolen.

Symiau sy'n ddyledus mewn perthynas â ffurflenni treth yw refeniw cronedig derbyniadwy, lle mae'r rhwymedigaeth treth wedi'i phrofi ar ddyddiad y fantolen ond heb ei dychwelyd ar ddyddiad y fantolen.

4.2 Darpariaeth amhariad 

 

 

2024-252023-24
 

Treth Trafodiadau Tir

£000

Treth Gwarediadau Tirlenwi

£000

Treth Trafodiadau Tir

£000

Treth Gwarediadau Tirlenwi

£000

Ar 1 Ebrill70508930
Cynnydd/(gostyngiad) mewn amhariad5180(160)0
Defnydd o amhariad00(28)0
Balans ar 31 Mawrth1,22307050

Gwneir darpariaeth ar gyfer amhariad pan fo'n debygol na dderbynnir y dreth neu’r cosbau sy'n ddyledus yn llawn. Amhariad yw gwerth dyled sydd, yn ein barn ni, yn debygol o fod yn anadenilladwy yn y tymor hwy. Adroddir ar symiau derbyniadwy yn y datganiad o sefyllfa ariannol ar ôl didynnu gwerth amcangyfrifedig amhariadau. Mae'r ddarpariaeth ar gyfer amhariad yn seiliedig ar lawer o ffactorau, megis sefyllfaoedd pan, yn anffodus, mae trethdalwr ar fin mynd i ddwylo'r gweinyddwyr neu pan fydd camau cyfreithiol wedi'u cymryd. 

5. Arian parod

Balans arian parod ar ddiwedd y cyfnod
 2024-25
£000
2023-24
£000
Gwasanaeth Bancio'r Llywodraeth10,76911,805
Balans ar 31 Mawrth 10,76911,805

Mae ACC yn talu arian i Gronfa Gyfunol Cymru yn ôl cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Mae'r balans uchod yn cynrychioli cyllid a gafwyd o drethi na ofynnwyd amdanynt cyn 31 Mawrth.

6. Symiau taladwy a balansau ar gyfrif

Symiau taladwy a balansau ar gyfrif ar ddiwedd y cyfnod
 2024-25
£000
2023-24
£000
Treth Trafodiadau Tir1,899304
Treth Gwarediadau Tirlenwi00
Cyfanswm1,899304

Mae symiau taladwy a balansau ar gyfrif yn symiau sydd wedi’u cofnodi fel rhai sy’n ddyledus gan ACC a lle nad yw'r taliad wedi'i wneud hyd yn hyn. Gellir diwygio ffurflenni treth hyd at ddeuddeg mis o’r dyddiad ffeilio. Mewn rhai amgylchiadau bydd hyn yn arwain at ad-daliad. Mae'r balansau hyn yn cynnwys ad-daliadau treth, cosbau neu log sydd heb eu talu, gan gynnwys hawliadau ad-daliad cyfradd uwch. 

7. Darpariaeth ar gyfer treth mewn tribiwnlys

Darpariaeth ar gyfer treth mewn tribiwnlys ar ddiwedd y cyfnod
 

2024-25 

£000

2023-24
£000
Treth Trafodiadau Tir229119
Treth Gwarediadau Tirlenwi1,9211,670
Cyfanswm2,1501,789

Fel y nodwyd ym mholisi cyfrifyddu 1.3, nid yw refeniw sy'n ymwneud ag achosion tribiwnlys yn cael ei gydnabod yn y cyfrifon hyd nes y cyhoeddir y penderfyniad neu'r dyfarniad. Sefydlwyd y ddarpariaeth i gydnabod bod ACC wedi derbyn taliadau pan fo'r trethdalwr wedi apelio i dribiwnlys mewn perthynas â'r dreth sy'n ddyledus. 

8. Asedau a rhwymedigaethau digwyddiadol

8.1 Asedau digwyddiadol

Mae gennym y pŵer i agor ymholiad i unrhyw beth sydd wedi'i gynnwys, neu y mae'n ofynnol ei gynnwys, mewn ffurflen dreth, sy'n ymwneud ag:  

  • a yw'r trethdalwr yn atebol am dalu treth
  • faint o dreth sy'n daladwy
  • a oes gan y person a wnaeth y ffurflen dreth hawl i gredyd treth a hawlir yn y ffurflen dreth

Ar ddiwedd yr ymholiad bydd ACC yn hysbysu'r trethdalwr o'r canlyniad ac a yw’r ffurflen dreth a/neu'r dreth sy'n ddyledus yn cael ei diwygio. Pan fydd yr ymholiad wedi'i gwblhau a hysbysiad cau yn cael ei gyflwyno, dangosir unrhyw dreth ychwanegol neu ostyngiad mewn treth yn y datganiadau ariannol ar y dyddiad cau.

Mae gennym nifer o ymholiadau agored i TTT a TGT ond ein barn ni yw:

  • mae rhai o'r rhain yn eu cyfnod cynnar ac nid yw'n bosibl eto asesu gyda sicrwydd faint o dreth sy'n destun ymholiad
  • gall datgelu unrhyw wybodaeth am eu natur a’u gwerth arwain at ddatgelu gwybodaeth am drethdalwyr gwarchodedig

Am y rhesymau hyn, ni ddatgelir gwerth asedau digwyddiadol sy'n ymwneud ag ymholiadau yn y datganiadau ariannol hyn.

8.2 Rhwymedigaethau digwyddiadol

Mae gan drethdalwyr sydd wedi talu cyfraddau uwch ar eu trafodiad preswyl yr hawl i hawlio prif gyfraddau preswyl ar eu prif breswylfa newydd os byddant wedi gwaredu eu prif breswylfa flaenorol o fewn 3 blynedd i ddyddiad prynu’r eiddo newydd. Mae'n rhaid i'r trethdalwr anfon cais er mwyn derbyn yr ad-daliad.

Dangosir yr ad-daliad posibl hwn o gyfraddau uwch y dreth fel rhwymedigaeth ddigwyddiadol ar gyfer y datganiad treth oherwydd ansicrwydd yr adhawliadau a'u hamseriadau. Ar gyfer 2024 i 2025, y swm a amcangyfrifir yw £17.2 miliwn (2023 i 2024: £20.0 miliwn) a gyfrifiwyd ar sail canllawiau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.

9. Balans sy'n ddyledus i Gyfrif Cronfa Gyfunol Cymru

 2024-25
£000
2023-24
£000
Balans ar Gronfa Gyfunol Cymru ar 1 Ebrill27,99126,300
Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru374,989299,691
Ar ôl tynnu’r swm a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru(374,000)(298,000)
Balans sy'n ddyledus i Gronfa Gyfunol Cymru28,98027,991

10. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau adroddadwy ar ôl y cyfnod adrodd.

Geirfa

Adennill treth

Y broses o adennill y diffyg pan fo swm treth a hunanaseswyd (ar ffurflen dreth er enghraifft) yn cael ei brofi'n anghywir ac mae mwy o dreth yn ddyledus. 

Asiant 

Rydym yn cyfeirio at gyfreithwyr a/neu drawsgludwyr fel asiantau pan fyddwn yn trafod materion TTT. 

Amorteiddiad

Dosraniad cost ased anniriaethol dros ei oes ddefnyddiol.

Asedau anghyfredol (a elwir yn asedau sefydlog hefyd)

Ased sydd ym meddiant y sefydliad. Gall y rhain fod yn asedau diriaethol ag iddynt sylwedd ffisegol neu’n asedau anniriaethol – ased adnabyddadwy nad yw'n ariannol ac sydd heb sylwedd ffisegol iddo, er enghraifft trwyddedau a meddalwedd.

Cronfa Gyfunol Cymru

Y gronfa a ddefnyddir gan y Senedd i ddal symiau y pleidleisiwyd arnynt gan Senedd Cymru ac a ddyrennir wedyn drwy gynnig cyllideb. Cynnig a phenderfyniad ar y gyllideb yw’r dull a geir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i sicrhau cysondeb yn y gwariant o Gronfa Gyfunol Cymru. Rhaid cael o leiaf un cynnig cyllideb blynyddol bob blwyddyn, a gellir ategu’r cynnig hwn gyda chynigion cyllideb atodol.

Defnydd cymysg 

Mae gan eiddo 'cymysg' (a elwir hefyd yn eiddo defnydd cymysg) elfennau preswyl ac amhreswyl.

Dibrisiant

Dosraniad cost ased anghyfredol ddiriaethol.

Diogelu treth

Pan ganfyddir nad yw hawliad i gael ad-dalu am dreth a ordalwyd yn ddilys a’i bod yn cael ei gwrthod gan ACC, gelwir swm y dreth a fyddai wedi’i ddychwelyd i'r trethdalwr fel arall yn 'dreth wedi'i diogelu'.

Ecwiti trethdalwyr

Asedion net y sefydliad.

Gwarediadau heb eu hawdurdodi

Gwaredu deunydd y tu allan i safle tirlenwi sydd wedi’i awdurdodi.

Llawlyfr Adroddiadau Ariannol (FReM) y Llywodraeth

Canllawiau cyfrifyddu technegol Trysorlys EF ar baratoi’r datganiadau ariannol.

Proffil risg 

Casgliad o ffurflenni treth sydd â set o nodweddion cyffredin sydd o bosibl yn dangos bod gwall yn y dreth sy'n ddyledus. 

Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS)

Cyhoeddir y rhain gan y Bwrdd Safonau Cyfrifo Rhyngwladol ac mae datganiadau ariannol y llywodraeth yn defnyddio'r rhain fel sail eu paratoadau ar gyfer eu cyfrifon.

Symiau derbyniadwy

Symiau sy'n ddyledus i ACC ar ddiwedd y cyfnod adrodd.

Symiau taladwy

Symiau sydd angen eu talu i gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau ar ddiwedd y cyfnod adrodd.