Trosolwg o ddata sy'n ymwneud â Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Data monitro ar gyfer Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020
Cafodd Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) (y Ddeddf) Gydsyniad Brenhinol ym mis Mawrth 2020 ac ar ôl cyfnod gweithredu o ddwy flynedd, daeth i rym ar 21 Mawrth 2022.
Mae adran 3 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi dau adroddiad ar effaith y Ddeddf, a’u gosod gerbron y Senedd. Rhaid cynhyrchu’r rhain cyn gynted ag y bo’n ymarferol dair a phum mlynedd ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym (2025 a 2027).
I gefnogi'r adroddiadau hyn, mae Llywodraeth Cymru yn casglu data gan awdurdodau lleol, yr heddlu, a Gwasanaeth Erlyn y Goron i fesur yr effaith y mae'r Ddeddf yn ei chael ar wasanaethau cyhoeddus. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi data a gasglwyd am yr ail gyfnod o 12 mis ar ôl gweithredu'r Ddeddf, sy'n cynnwys y cyfnod rhwng 01 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024.
Prif ganfyddiadau
- Cafodd 125 o unigolion eu hatgyfeirio am gymorth rhianta y tu allan i'r llys yn y flwyddyn adrodd hon.
- Manteisiodd 115 o unigolion newydd ar y cynnig o gymorth rhianta a pharhaodd 20 o unigolion i ddefnyddio’r cymorth o'r flwyddyn adrodd flaenorol.
- O'r 135 unigolion hyn, cwblhaodd 110 o unigolion y sesiynau yn llawn. Mae 20 o unigolion wedi cwblhau'r sesiynau yn rhannol a byddant yn parhau i ddefnyddio'r cymorth yn y flwyddyn adrodd ganlynol.
- Adroddodd 90 o'r unigolion a gwblhaodd y sesiynau ganlyniad cadarnhaol mewn holiadur a ddosbarthwyd ôl iddynt gwblhau’r sesiynau. Nid oes ffigurau ar gael ynghylch cyfanswm yr holiaduron a lenwyd.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Data monitro cymorth rhianta y tu allan i'r llys, Ebrill 2023 i Fawrth 2024 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 47 KB
Cyswllt
Dan Boon
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
