Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Yn dilyn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 15 Mai, lle roeddwn yn falch o dderbyn yn brydlon yr argymhellion a syrthiodd i'm portffolio. Gallaf nawr gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion y Tasglu.
Mae'r Prif Weinidog wedi pwysleisio bod darparu mwy o gartrefi cymdeithasol i'w rhentu yn un o brif flaenoriaethau'r llywodraeth hon.
Sefydlais y Tasglu i nodi ffyrdd pragmatig i gefnogi cyflwyno mwy o gartrefi fforddiadwy. Mae derbyn yr argymhellion yma gan gydweithwyr ledled y Cabinet yn dangos ymrwymiad llawn Llywodraeth Cymru i ddarparu’r cartrefi y mae’r cenedl eu hangen.
Rwy'n bwriadu cadeirio y Grŵp Gweithredu, y bydd yn cynnwys uwch swyddogion a chyfarwyddwyr o ledled y sector, gan gydnabod ein bod ni i gyd yn rhannu'r cyfrifoldeb am wella a newid. Mae'n fy mwriad y bydd y cyfarfod cyntaf cyn diwedd y tymor yr haf.
Gwahoddwyd y canlynol i enwebu aelod o'r Grŵp:
- Cartrefi Cymunedol Cymru
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Y Sefydliad Tai Siartredig
- Medr - Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
- Cynrychiolydd enwebedig ar gyfer Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol
- Dŵr Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Banc Datblygu Cymru
- Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru
- Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol
- Comisiwn Dylunio Cymru
- Y Fforwm Contractwyr Tai Fforddiadwy
- Y Ffederasiwn Adeiladwyr Tai
- Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr
- Archwilio Cymru
