Cod y gweinidogion - Rhan 2: Canllawiau gweithdrefnol ar gyfer y gweinidogion
Y safonau ymddygiad cyfansoddiadol a phersonol y disgwylir i weinidogion eu dilyn.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
6. Y Gweinidogion a'r llywodraeth
Cydgyfrifoldeb
6.1 Mae’r egwyddor cydgyfrifoldeb yn golygu y dylai’r Gweinidogion fedru mynegi eu safbwyntiau yn ddiflewyn-ar-dafod a disgwyl cael dadlau’n agored yn breifat gan sefyll ynghyd ar ôl i benderfyniadau gael eu gwneud. Mae hyn yn ei dro yn golygu ei bod yn ofynnol iddynt gadw safbwyntiau a fynegir, a chyngor a gynigir, o fewn Llywodraeth Cymru, gan y Gweinidogion a chan y gwasanaeth sifil, yn breifat. Ni ddylid datgelu’r prosesau mewnol a ddefnyddiwyd wrth wneud penderfyniad. Mae penderfyniadau a wneir gan y Cabinet yn rhwymo holl aelodau'r Llywodraeth. Er hynny, fel rheol, wrth gyhoeddi penderfyniadau o’r fath, esbonnir mai penderfyniadau’r Gweinidog o dan sylw ydynt. Yn achlysurol, mae’n bosibl y bydd yn ddymunol pwysleisio pwysigrwydd penderfyniad drwy ddatgan yn glir mai penderfyniad Llywodraeth Cymru ydyw. Mae rhwymedigaeth ar y Gweinidogion hefyd i sicrhau bod penderfyniadau y cytunir arnynt gan y Cabinet yn cael eu gweithredu.
6.2 Mae cydgyfrifoldeb yn gymwys hefyd i’r Dirprwy Weinidogion, ac mae'n gymwys i'r Cwnsler Cyffredinol, yn amodol ar annibyniaeth y Cwnsler Cyffredinol mewn rhai swyddogaethau, fel yr esbonnir isod (gweler paragraffau 6.17- 6.23).
Busnes y Cabinet
6.3 Yn bennaf, mae'r busnes y mae'r Cabinet yn ymdrin ag ef yn cynnwys materion sy’n ymwneud mewn ffordd arwyddocaol â chydgyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, naill ai am eu bod yn codi cwestiynau pwysig sy’n gysylltiedig â pholisi, trethiant, y cyfansoddiad neu am eu bod o hanfodol bwys i’r cyhoedd.
6.4 Os yw materion yn gyfrifoldeb llwyr i un Gweinidog ac os nad ydynt yn ymwneud mewn ffordd arwyddocaol â chydgyfrifoldeb, nid oes angen dod â hwy gerbron y Cabinet oni bai bod y Gweinidog yn dymuno rhoi gwybod i gydweithwyr neu am gael eu cyngor hwy. Ni ellir rhoi meini prawf pendant ar gyfer materion o'r fath sy'n ymwneud â chydgyfrifoldeb. Gall Swyddfa’r Cabinet gynghori, ond y Prif Weinidog piau'r penderfyniad terfynol.
6.5 Ni ddylid dod â materion gerbron y Cabinet onid ymgynghorwyd yn briodol â’r Gweinidogion y mae’r materion hynny’n uniongyrchol gysylltiedig â’u portffolios ac oni bai bod eu safbwyntiau’n cael eu hadlewyrchu’n llawn yn y papur. Dylai’r swyddogion perthnasol ystyried cwestiynau sy’n ymwneud â mwy nag un Gweinidog ac y mae angen i’r Cabinet eu hystyried ar y cyd cyn i’r cwestiynau hynny gael eu cyflwyno gerbron y Gweinidog arweiniol, a hynny er mwyn diffinio’n glir y penderfyniadau y mae angen eu gwneud. Os oes gwahaniaeth barn rhwng y Gweinidogion, ni ddylid cyfeirio’r mater i’r Cabinet hyd nes i’r holl ffyrdd eraill o'i ddatrys gael eu dihysbyddu, gan gynnwys trafodaethau rhwng y Gweinidogion o dan sylw. Bydd gan Swyddfa'r Cabinet rôl allweddol i’w chwarae yn y gwaith hwn.
6.6 Caiff holl bapurau’r Cabinet eu hanfon at holl aelodau’r Cabinet. Ond, cyn i hynny ddigwydd, mae’n hanfodol bod y Gweinidogion yr effeithir yn uniongyrchol ar eu portffolios yn cael gweld y papurau hynny, ac yn eu trafod ar eu ffurf ddrafft, os oes angen. Mae hyn yn cynnwys yn benodol y Gweinidog sy’n gyfrifol am Gyllid a'r Gweinidog sy'n gyfrifol am Fusnes Llywodraeth Cymru. Dylid eu seilio hefyd ar gyngor cyfreithiol llawn gan yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol ar y cyd â'r Cwnsler Cyffredinol, a dylent gynnwys arfarniad priodol o’r goblygiadau ariannol. Ni ddylai papurau'r Cabinet gynnwys unrhyw faterion ariannol sydd heb eu datrys. Bydd Ysgrifenyddiaeth y Cabinet, ar ôl cael cytundeb y Prif Weinidog, yn gwrthod dosbarthu papurau nad ydynt yn bodloni’r gofynion hyn ac, o’r herwydd, caiff y drafodaeth ar yr eitem honno ei gohirio. Dylai'r Gweinidogion gadw’r pwyntiau hyn mewn cof wrth glirio papurau y mae angen eu dosbarthu.
Gohebiaeth y Cabinet
6.7 Bydd angen i'r Prif Weinidog gymeradwyo pob darn o ohebiaeth y Cabinet cyn iddo gael ei ddosbarthu gan Swyddfa Breifat y Gweinidog arweiniol.
Cyfarfodydd y Cabinet
6.8 Mae cyfarfodydd y Cabinet yn cael blaenoriaeth dros bob busnes arall er y deellir bod amgylchiadau eithriadol yn gallu codi’n achlysurol (e.e. busnes y Senedd neu fusnes dramor) sy'n golygu y gall fod angen i Weinidog fod yn absennol. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol o’r fath y dylai’r Gweinidogion wneud cais i fod yn absennol o’r Cabinet, a dylent wneud hynny cyn gynted ag y bo modd yn ysgrifenedig i'r Prif Weinidog.
6.9 Mae arweiniad ar gynnal busnes y Cabinet i’w weld mewn canllawiau ar wahân. Mae agendâu’r Cabinet yn cael eu cynllunio cyn belled ymlaen llaw ag y bo modd er mwyn i ymrwymiadau polisi'r Gweinidogion gael eu datblygu mewn modd strategol. Er hynny, ar adegau, bydd angen dod â materion byrdymor a/neu faterion brys gerbron y Cabinet. Yn y naill achos a’r llall, dylai ysgrifenyddion preifat y Gweinidogion roi gwybod i Swyddfa’r Prif Weinidog a Swyddfa’r Cabinet cyn gynted ag y bo modd os yw’n debygol y bydd angen trafodaeth.
6.10 Ac eithrio materion y mae brys eithriadol yn eu cylch, dylai pob trafodaeth yng nghyfarfodydd y Cabinet fod yn seiliedig ar bapur a ddosbarthwyd i’r holl Weinidogion ymlaen llaw. Mae hyn yn caniatáu i bawb sy’n bresennol drafod y mater ar sail gwybodaeth ac mae’n fodd hefyd i sicrhau bod cofnod priodol yn cael ei wneud o’r materion o dan sylw. Caiff y papurau fod yn enw un o’r Gweinidogion neu (ar ôl cael caniatâd y Gweinidog) yn enw swyddogion, ond dim ond papurau technegol, nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â materion gwleidyddol ddylai fod yn enw swyddogion. Dylai holl bapurau’r Cabinet fod ar gael i Ysgrifenyddiaeth y Cabinet eu dosbarthu erbyn y prynhawn dydd Iau cyn pob cyfarfod fan hwyraf.
6.11 Os yw maint y brys sy’n gysylltiedig ag unrhyw fater yn golygu nad oes modd dosbarthu papur, caniateir i’r Gweinidogion godi’r mater hwnnw ar lafar. Er hynny, mae trafodaethau am faterion o’r fath, o reidrwydd, yn fwy cyfyngedig na phe bai papur amdanynt, ac yn gyffredinol, nid yw’n briodol gwneud hyn os oes angen gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth. Dylai'r Ysgrifenyddion Preifat dynnu sylw swyddfa'r Prif Weinidog ac Ysgrifenyddiaeth y Cabinet at eitemau llafar y mae eu Gweinidog yn bwriadu eu codi cyn gynted â phosibl cyn y cyfarfod. Dim ond pan ofynnir fwy na 24 awr cyn cyfarfod y Cabinet y bydd y Prif Weinidog yn ystyried derbyn eitemau o dan ‘unrhyw fater arall’.
6.12 Dylai papurau’r Cabinet fod mor glir a chryno ag y bo modd. Fel rheol, ni ddylent fod yn fwy na phedair tudalen, ac mae’n bosibl na fydd Ysgrifenyddiaeth y Cabinet yn derbyn papur i'w ddosbarthu os yw’n rhy hir. Oni ellir ymdrin â’r materion o dan sylw mewn papur o’r fath, ni fydd modd, yn ôl pob tebyg, gwneud cyfiawnder â hwy yn yr amser cyfyngedig sydd ar gael yng nghyfarfodydd y Cabinet. Mae’n bosibl y bydd y Gweinidogion am ymdrin â’r mater mewn gohebiaeth yn lle hynny. Dylai’r Gweinidogion sicrhau bod yr egwyddorion hyn yn cael eu dilyn a, lle y bo angen, bod papurau a gyflwynir iddynt yn cael eu diwygio yn unol â hwy. Gall Ysgrifenyddiaeth y Cabinet roi cymorth manwl i swyddogion ym mhob achos.
Casgliadau a Chofnodion y Cabinet
6.13 Cyhoeddir agendâu, papurau a chofnodion y Cabinet chwe wythnos ar ôl y cyfarfod y maent yn ymwneud ag ef. Yn achlysurol, gellir dewis peidio â chyhoeddi papurau'r Cabinet, neu ddetholiadau ohonynt. Dylai'r Gweinidogion nodi wrth gyflwyno papur a ydynt yn ystyried ei fod wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi, neu fod rhan(nau) ohono wedi’i heithrio.
Cyfrinachedd Dogfennau, etc.
6.14 Dylai Gweinidogion sy'n rhoi'r gorau i'w swydd roi dogfennau'r Cabinet a/neu unrhyw bapurau swyddogol eraill sydd ganddynt yn ôl i Lywodraeth Cymru.
6.15 Pan fo’r weinyddiaeth yn newid, bydd y Prif Weinidog sy’n ymadael yn rhoi cyfarwyddiadau penodol ynghylch cael gwared ar bapurau’r Cabinet sy’n ymadael.
Hawl cyn-Weinidogion i weld papurau swyddogol
6.16 Mae’n arferiad i gyn-Weinidogion gael gweld, fel y bo’n rhesymol, ac yn ôl disgresiwn y Llywodraeth, bapurau a welwyd ganddynt pan oeddent yn eu swyddi. Ac eithrio cyn-Brif Weinidogion, cyfyngir yr hawl hwnnw i gyn-Weinidogion yn bersonol. Yn amodol ar gydymffurfio â Rheolau "Radcliffe" (paragraff 8.10), mae gan gyn-Weinidogion hawl i weld copïau o bapurau'r Cabinet a roddwyd iddynt pan oeddent yn eu swyddi, a hawl, yn yr adran berthnasol, i weld papurau swyddogol eraill y gwyddys eu bod wedi'u trin a’u trafod ar y pryd.
Y Cwnsler Cyffredinol
6.17 Nid yw’r Cwnsler Cyffredinol yn un o Weinidogion Cymru ond mae yn aelod o Lywodraeth Cymru. Caiff y Cwnsler Cyffredinol fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y Cabinet, a chymryd rhan ynddynt, drwy wahoddiad y Prif Weinidog. Y Cwnsler Cyffredinol yw cynghorydd cyfreithiol terfynol ac awdurdodol Llywodraeth Cymru ac mae’n gyfrifol am oruchwylio’r gynrychiolaeth a roddir i Lywodraeth Cymru yn y llysoedd. Os nad yw'r Cwnsler Cyffredinol yn Aelod o’r Senedd, caiff, er hynny, gymryd rhan yn nhrafodion y Senedd i’r graddau y mae’r Rheolau Sefydlog yn caniatáu hynny (ond ni chaiff bleidleisio) ac mae’n atebol i’r Senedd o ran arfer y swyddogaethau a roddir yn uniongyrchol i’r Cwnsler Cyffredinol. Ymhlith y swyddogaethau hynny y mae’r pŵer i gynnal achosion cyfreithiol er mwyn hyrwyddo neu ddiogelu budd y cyhoedd, i gyfeirio cwestiynau sy’n ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol y Senedd i’r llysoedd neu i gymryd rhan mewn achosion i benderfynu ar faterion sy’n ymwneud â datganoli. Y Cwnsler Cyffredinol hefyd fydd cynrychiolydd arferol Llywodraeth Cymru wrth iddi ymwneud â swyddogion cyfraith y DU a/neu swyddogion cyfraith y gweinyddiaethau datganoledig eraill.
6.18 Bydd yn briodol ceisio barn y Cwnsler Cyffredinol am gwestiynau cyfreithiol penodol, gan amlaf y rhai mwyaf cymhleth yn gyfreithiol, neu’r rhai sy’n ddadleuol neu’n sensitif yn wleidyddol, neu’r rhai y mae iddynt y goblygiadau mwyaf eang. Dylid ceisio barn y Cwnsler Cyffredinol drwy wneud cais i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol. Er y gallai fod yn angenrheidiol a phriodol i Weinidog geisio barn y Cwnsler Cyffredinol yn uniongyrchol o dan amgylchiadau eithriadol, rhaid cael cyfarwyddyd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol er mwyn ceisio cyngor ysgrifenedig ffurfiol y Cwnsler Cyffredinol. Rhaid ceisio barn y Cwnsler Cyffredinol, neu gyngor yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol mewn da bryd, a hynny cyn i Lywodraeth Cymru ymrwymo i benderfyniadau tra phwysig y mae iddynt ystyriaethau cyfreithiol.
6.19 Yn gyffredinol, mae barn ysgrifenedig y Cwnsler Cyffredinol, yn wahanol i bapurau eraill y Gweinidogion, ar gael i'r Gweinyddiaethau dilynol. Rhaid peidio â datgelu bod y Cwnsler Cyffredinol wedi rhoi cyngor (neu nad yw wedi rhoi cyngor), na datgelu cynnwys y cyngor hwnnw, heb awdurdod y Cwnsler Cyffredinol, y tu allan i Lywodraeth Cymru.
6.20 Os yw swyddogaeth erlyn wedi ei breinio yn y Cwnsler Cyffredinol, rhaid i’r Cwnsler arfer y swyddogaeth honno yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Rhaid i aelodau eraill Llywodraeth Cymru beidio ag ymyrryd, nac ymwneud mewn unrhyw fodd ag arfer swyddogaeth o'r fath.
6.21 Os yw swyddogaeth erlyn wedi ei breinio yn y Prif Weinidog, neu yng Ngweinidogion Cymru, bydd y swyddogaeth honno, fel rheol, yn cael ei harfer gan staff Llywodraeth Cymru, yn unol â threfniadau’r Ysgrifennydd Parhaol, gan gyd-drafod â'r Cwnsler Cyffredinol.
6.22 O safbwynt achosion sifil, rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol ddiogelu buddiannau Llywodraeth Cymru unrhyw dro y bydd yn gweithredu fel cynrychiolydd ar ran Gweinidogion Cymru, neu ar ran y Prif Weinidog.
6.23 Pan fo’r Cwnsler Cyffredinol yn gweithredu o dan adran 67 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (neu’n arfer unrhyw swyddogaeth arall a freiniwyd yn y Cwnsler Cyffredinol o ddiogelu neu o hyrwyddo budd y cyhoedd), mae’r Cwnsler Cyffredinol yn gweithredu’n annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn gymwys hefyd os yw'r Cwnsler Cyffredinol yn arfer swyddogaeth o dan adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (craffu ar Filiau). Er hynny, cyn cymryd unrhyw gamau o’r fath, dylai’r Cwnsler Cyffredinol hysbysu'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Cymru perthnasol a benodwyd o dan adran 48 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Achosion cyfreithiol y mae gan y Gweinidogion gysylltiad â hwy
6.24 O bryd i’w gilydd, bydd Gweinidogion yn gysylltiedig, mewn rhinwedd bersonol yn bennaf, ag achosion cyfreithiol ond o dan amgylchiadau a allai fod â goblygiadau iddynt yn eu sefyllfaoedd swyddogol. Mae difenwi yn enghraifft o faes lle y bydd achosion, yn ddieithriad, yn codi materion sy’n berthnasol i sefyllfa swyddogol Gweinidogion yn ogystal â’u sefyllfa breifat. Ym mhob achos o’r fath, dylai’r Gweinidogion ymgynghori â’r Cwnsler Cyffredinol cyn ymgynghori â’u cyfreithwyr eu hunain, er mwyn i’r Cwnsler Cyffredinol gael mynegi barn ynghylch sut y dylid ymdrin â'r achos o safbwynt budd y cyhoedd.
6.25 O ran pa bryd y dylid cysylltu â’r Cwnsler Cyffredinol, dylid gweithredu fel a ganlyn:
- dylai Gweinidogion ymgynghori â’r Cwnsler Cyffredinol cyn gynted ag y bônt yn bwriadu bygwth rhywun ag achos cyfreithiol neu ddwyn achos – er enghraifft, drwy ysgrifennu llythyr gelyniaethus – a allai roi’r argraff mai dyma’r cam cyntaf at fynd i gyfraith. Yn sicr, dylent ymgynghori â’r Cwnsler Cyffredinol cyn cyfarwyddo cyfreithwyr i gychwyn achos cyfreithiol, ac yn ddelfrydol cyn cysylltu â chyfreithwyr o gwbl
- yn yr un modd, os yw Gweinidogion yn ddiffynyddion mewn achos, dylent hysbysu’r Cwnsler Cyffredinol cyn gynted ag y bo modd. Os oes modd, dylent wneud hynny cyn iddynt gyfarwyddo eu cyfreithwyr eu hunain am y mater ond, pa un bynnag, dylai’r Gweinidogion hysbysu’r Cwnsler Cyffredinol cyn gynted ag y bônt yn gwybod bod bygythiad o achos cyfreithiol
- nid oes angen i Weinidogion ymgynghori â’r Cwnsler Cyffredinol cyn ceisio cyngor ar fater, ar yr amod nad oes gan y Gweinidogion, ar yr adeg honno, unrhyw fwriad i gychwyn achos ac nad oes unrhyw arwydd bod bwriad i gychwyn achos yn eu herbyn hwy
- gallai Gweinidogion fod yn gysylltiedig ag achos mewn modd heblaw am fod yn un o’r partïon i’r achos hwnnw – er enghraifft, os ydynt yn dyst mewn achos. Er enghraifft, gallai Gweinidogion sy’n cytuno i wneud datganiad o’u gwirfodd o blaid un ochr yn hytrach na’r llall mewn achos o’r fath roi’r argraff, drwy amryfusedd, fod y Goron yn cefnogi un ochr mewn achos preifat. Yn fwy difrifol na hynny, gallai bod yn dyst olygu bod perygl y gofynnir i’r Gweinidogion ddatgelu gwybodaeth neu ddogfennau sensitif y dylid hawlio imiwnedd budd y cyhoedd ar eu cyfer, ac o dan yr amgylchiadau hynny mae angen i’r Cwnsler Cyffredinol gael gwybod am y posibilrwydd hwnnw o’r cychwyn cyntaf. O dan amgylchiadau o’r fath, dylai’r Gweinidogion hysbysu’r Cwnsler Cyffredinol cyn gynted ag y bônt yn gwybod y gallent fod yn gysylltiedig ag achos.
Defnyddio Sianeli Cyfathrebu Corfforaethol
6.26 Dylai Gweinidogion ddefnyddio systemau'r Llywodraeth ar gyfer holl fusnes y Llywodraeth. Mae unrhyw gyfathrebu ynghylch busnes y Llywodraeth yn berthnasol i rwymedigaethau Gweinidogion i sicrhau bod cofnodion cyhoeddus cywir yn cael eu cadw.
Defnyddio Offer Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol
6.27 Dylai Gweinidogion ddilyn y canllawiau sefydliadol diweddaraf ar ddefnyddio offer Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer busnes y llywodraeth.
7. Y Gweinidogion a'r Senedd
Datganiadau gan Lywodraeth Cymru a Chyhoeddiadau eraill gan Lywodraeth Cymru
7.1 Mae dyletswydd ar y Gweinidogion i roi cyfrif i’r Senedd, ac i gael eu dal i gyfrif, am eu polisïau, eu penderfyniadau a’r hyn y maent yn ei wneud. Mae'n dilyn, felly, y dylai'r Gweinidogion, fel rheol, wneud datganiad i'r Senedd mewn perthynas â chyhoeddiadau pwysig.
7.2 Dylai cynigion y Gweinidogion ar gyfer busnes y Llywodraeth, gan gynnwys dadleuon a datganiadau llafar, gael eu cyflwyno i Ysgrifenyddiaeth y Cabinet er mwyn cael eu hamserlennu ac er mwyn i'r Gweinidog sy’n gyfrifol am Fusnes y Llywodraeth gael cytuno arnynt.
7.3 Ni ddylai’r Gweinidogion wneud ymrwymiadau, naill ai yn y Senedd neu y tu allan iddi, y bydd datganiad llafar yn cael ei wneud yn y Senedd am unrhyw bwnc ar adeg benodol neu o fewn cyfnod penodol nes bod y Prif Weinidog a’r Gweinidog sy’n gyfrifol am Fusnes y Llywodraeth wedi cytuno ar yr amseriad arfaethedig a’r Gweinidogion perthnasol wedi cytuno ar gynnwys y datganiad.
7.4 Dylid anfon copïau o fersiwn derfynol datganiadau o’r fath at Ysgrifenyddion Preifat y Prif Weinidog a’r Gweinidog sy’n gyfrifol am Fusnes y Llywodraeth ac i Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol, at Bennaeth Is-adran y Cabinet, Ysgrifennydd Preifat y Cynghorwyr Arbennig, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet ac i Swyddfa’r Wasg cyn gynted ag y byddant ar gael.
7.5 Fel rheol, yn unol â'r protocol y cytunwyd arno, dylid rhoi copi o destun unrhyw ddatganiad llafar i’r gwrthbleidiau awr cyn i’r datganiad gael ei wneud. At y diben hwn, rhaid i’r testun terfynol gyrraedd swyddfa'r Gweinidog sy’n gyfrifol am Fusnes y Llywodraeth o leiaf awr a hanner cyn yr adeg y bwriedir gwneud y datganiad.
7.6 Bydd swyddfa’r Gweinidog sy’n gyfrifol am Fusnes y Llywodraeth yn trefnu bod copi o destun terfynol datganiad llafar yn cael ei anfon ymlaen llaw at y Llywydd.
7.7 Dylid rhoi copïau o unrhyw ddatganiad y mae un o’r Gweinidogion yn bwriadu ei wneud gerbron y Senedd, (gan nodi "cadarnhaer mai dyna a draddodwyd" ar y datganiad hwnnw), ynghyd â chopïau o unrhyw ddogfen sy'n cael ei chyhoeddi drwy gyfrwng y datganiad hwnnw, i Ysgrifenyddiaeth y Cabinet a fydd yn trefnu eu bod yn cael eu hanfon at holl Aelodau’r Senedd wrth i'r Gweinidog godi i wneud y datganiad.
7.8 Dylid gwneud pob ymdrech i osgoi gwneud datganiadau pwysig ar y diwrnod olaf cyn Toriad. Fodd bynnag, mae'r Gweinidogion yn parhau i arfer eu swyddogaethau ac i wneud penderfyniadau yn ystod Toriadau ac mae'n briodol felly bod Datganiadau Ysgrifenedig yn cael eu cyhoeddi mewn cysylltiad â phenderfyniadau a chyhoeddiadau perthnasol fel y bo'r Aelodau Senedd yn cael eu hysbysu amdanynt.
Biliau Senedd Cymru a gyflwynir gan y Llywodraeth
7.9 Ni ddylai’r Gweinidogion wneud ymrwymiadau, naill ai yn y Senedd neu y tu allan iddi, i gyflwyno Bil Senedd am unrhyw fater heb gael cytundeb y Cabinet ymlaen llaw. Ni ddylai’r Gweinidogion wneud ymrwymiadau, naill ai yn y Senedd neu y tu allan iddi, y bydd Bil Senedd yn cael ei gyflwyno ar adeg benodol neu o fewn cyfnod penodol heb gytundeb y Prif Weinidog a'r Gweinidog sy’n gyfrifol am Fusnes y Llywodraeth.
7.10 Wrth gyflwyno Biliau Senedd yn y Senedd, dylai’r Gweinidogion sy’n gyfrifol amdanynt sicrhau eu bod hefyd yn cyflwyno Memorandwm Esboniadol clir, cynhwysfawr a llawn gwybodaeth, sy’n cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol yn ôl Rheolau Sefydlog y Senedd. Rhaid i'r Bil gael ei glirio gan y Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol, a rhaid i'r Memoranda Esboniadol cysylltiedig gael eu clirio gan y Prif Weinidog, cyn iddynt gael eu cyflwyno.
Darparu cyhoeddiadau
7.11 Yn unol â Rheol Sefydlog 7.21, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros Fusnes y Llywodraeth sy’n gyfrifol am gyflwyno eitemau o fusnes y Llywodraeth yn y Cyfarfodydd Llawn i’r Swyddfa Gyflwyno. Os yw cynnig yn cyfeirio at un neu fwy o ddogfennau, rhaid iddynt fod ar gael i’r Aelodau ymlaen llaw.
Penderfyniadau ariannol
7.12 Bydd pob cynnig sy’n ymdrin â Phenderfyniadau Ariannol o dan Reolau Sefydlog yn cael ei gyflwyno yn enw’r Gweinidogion sy’n gyfrifol am gyflwyno'r ddeddfwriaeth (h.y. yr Aelod Cyfrifol). Y Gweinidogion hynny fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y Senedd yn cymeradwyo’r Penderfyniad.
Cael gafael ar y Gweinidogion
7.13 Fel rheol, disgwylir y bydd ymrwymiadau’r Gweinidogion yn y Senedd yn cael blaenoriaeth dros ddigwyddiadau eraill, a chyfrifoldeb pob Gweinidog yw sicrhau bod ceisiadau i fod yn absennol o’r Senedd yn cael eu cyflwyno a’u cymeradwyo ymlaen llaw gan y Prif Weinidog a'r Gweinidog sy’n gyfrifol am Fusnes y Llywodraeth.
7.14 Rhaid i Weinidogion sy'n dymuno cymryd absenoldeb rhiant (o hyd at 6 mis), neu absenoldeb estynedig arall o’r Llywodraeth, ofyn am ganiatâd y Prif Weinidog. Pan fo'r Prif Weinidog yn cytuno i gais o'r fath, rhaid i'r Gweinidog beidio ag arfer ei swyddogaethau fel Gweinidog yn ystod y cyfnod hwnnw o absenoldeb oni bai bod y Prif Weinidog a'r Gweinidog sy'n ymdrin â chyfrifoldebau'r Gweinidog dros dro yn cytuno i hyn.
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
7.15 Er mwyn osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau, ni ddylai’r Gweinidogion fod yn aelodau o unrhyw Grwpiau Trawsbleidiol. Wrth ddechrau ar eu swyddi, dylent roi’r gorau i fod yn aelodau o unrhyw grwpiau o’r fath y maent, bryd hynny, yn aelodau ohonynt.
Ymddangos gerbron un o Bwyllgorau Dethol Senedd y DU
7.16 Caiff Pwyllgorau Dethol Senedd y DU wahodd un o Weinidogion Cymru i ddod i roi tystiolaeth ger eu bron. Gweinidogion Cymru fydd yn penderfynu a ddylid derbyn gwahoddiadau o’r fath ai peidio, ac os byddant yn cytuno i wneud hynny, cânt roi gwybodaeth berthnasol i’r Pwyllgorau hynny am bolisïau ac arferion Llywodraeth Cymru. Dylid hysbysu’r Prif Weinidog am amgylchiadau o’r fath.
8. Y Gweinidogion a chyflwyno polisi
Hysbysu am bolisi
8.1 Gall Gweinidogion gyfathrebu eu cyhoeddiadau, eu gweithgareddau a'u safbwyntiau polisi drwy holl sianeli Llywodraeth Cymru, megis datganiadau i'r wasg, ffrydiau cyfryngau cymdeithasol, deunyddiau ymgyrchu a gwefan LLYW.CYMRU. Fodd bynnag, ni ddylid defnyddio'r rhain i gario unrhyw gynnwys sydd, neu y gellid dehongli ei fod, o ran ei natur, yn ymwneud â gwleidyddiaeth plaid. Gall Gweinidogion wneud sylwadau ar weithredoedd gweinyddiaethau eraill yn y Deyrnas Unedig, ond ni ddylid gwneud hyn mewn ffordd sy’n mynd ar drywydd gwleidyddiaeth plaid pan ddefnyddir sianeli Llywodraeth Cymru. Mae'r confensiynau sy'n rheoli gwaith Gwasanaeth Cyfathrebu Llywodraeth Cymru wedi'u nodi yng nghanllawiau Gwasanaethau Cyfathrebu'r Llywodraeth 'Propriety Guidance - Guidance on Government Communications', a dylai Gweinidogion sicrhau y cedwir at y canllawiau hyn bob amser.
8.2 Er mwyn sicrhau bod busnes y Cabinet yn cael ei gydgysylltu'n effeithiol, dylai’r Prif Weinidog gael cymeradwyo amseriad a chopïau drafft o’r hyn y bwriedir ei gynnwys o ran polisi mewn pob cyhoeddiad pwysig, araith, datganiad i'r wasg a menter polisi newydd. Dylid ymgynghori â swyddfa'r Prif Weinidog cyn gwneud unrhyw benderfyniad i roi cyfweliadau pwysig ac ymddangos yn y cyfryngau, nail ai mewn print neu mewn darllediadau.
Cyhoeddi papurau ymgynghori
8.3 Cyn i Weinidog gyhoeddi Papur Ymgynghori, dylai ystyried a yw’r papur hwnnw’n codi materion y mae angen iddynt gael eu hystyried yn llawn ar y cyd, ac y mae angen iddynt, o’r herwydd, gael eu cymeradwyo gan y Cabinet (gweler Pennod 6). Os oes datganiad pwysig am bolisi mewn unrhyw bapur ymgynghori, dylid ei anfon at aelodau’r Cabinet cyn iddo gael ei gyhoeddi.
8.4 Ac eithrio pan fo papurau ymgynghori o’r fath yn ymdrin â materion cyffredin neu â rhai sydd heb fod yn bwysig iawn, mae pryd i’w cyhoeddi yn ddibynnol ar ystyriaethau tebyg i’r rheini sy’n gymwys yn achos cyhoeddiadau a wneir gerbron y Senedd.
Areithiau
8.5 Ym mhob achos ac eithrio’r rheini a ddisgrifir ym mharagraffau 4.7 a 4.8, mae’r egwyddor cydgyfrifoldeb yn gymwys. Dylai'r Gweinidogion sicrhau bod eu datganiadau yn gyson â pholisi Llywodraeth Cymru ar y cyd. Dylai’r Gweinidogion fod yn ofalus iawn wrth gyfeirio at bynciau y mae Gweinidogion eraill yn gyfrifol amdanynt.
8.6 Dim ond er mwyn dosbarthu testunau neu areithiau sy'n ymwneud â busnes y Llywodraeth y dylai'r Gweinidogion ddefnyddio sianeli’r Llywodraeth, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol. Ni ddylid defnyddio sianeli’r Llywodraeth i ddosbarthu areithiau a wneir mewn cyd-destun sy’n gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid.
8.7 Ni ddylai’r Gweinidogion dderbyn tâl am areithiau neu erthyglau yn y cyfryngau sy'n rhai swyddogol eu natur nac am areithiau neu erthyglau yn y cyfryngau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’u cyfrifoldebau neu eu profiad fel Gweinidogion, naill ai ar eu rhan eu hunain neu gyda golwg ar roi’r ffi i elusen. Os yw’r sefydliad o dan sylw yn mynnu cyfrannu at elusen, y sefydliad hwnnw ddylai ddewis yr elusen. Mae hyn yn fodd i osgoi unrhyw feirniadaeth bod Gweinidog yn defnyddio ei swydd swyddogol i ddylanwadu ar roddion i elusennau neu i gael y clod am wneud hynny.
Darllediadau gan y Gweinidogion ar y radio, ar y teledu neu ar-lein
8.8 Dylai Gweinidogion sy’n cael eu gwahodd i ddarlledu ar y radio, ar y teledu neu mewn gweddarllediadau, naill ai mewn cyd-destun gwleidyddol neu fel unigolion preifat, ystyried a oes cysylltiad rhwng y darllediad a chyfrifoldebau un o’r Gweinidogion eraill, ac os oes, dylent gael cymeradwyaeth y Prif Weinidog cyn derbyn y gwahoddiad.
Erthyglau yn y wasg
8.9 Caiff y Gweinidogion gyfrannu at lyfr, cyfnodolyn neu bapur newydd, gan gynnwys papur newydd lleol yn eu hetholaeth, ar yr amod na fydd cyhoeddi'r cyfraniad hwnnw'n anghydnaws â'r rhwymedigaethau sydd arnynt i'r Senedd a'r ddyletswydd sydd arnynt i barchu egwyddor cydgyfrifoldeb y Gweinidogion. Ni ddylid derbyn unrhyw dâl am erthyglau o'r fath. Rhaid i unrhyw un o'r Gweinidogion sydd am wneud gwaith rheolaidd yn ymwneud â newyddiaduraeth neu’r cyfryngau o unrhyw fath gael cymeradwyaeth y Prif Weinidog ymlaen llaw.
Llyfrau a hunangofiannau
8.10 Ni chaniateir i’r Gweinidogion, tra byddant yn eu swyddi, ysgrifennu a chyhoeddi llyfr neu gofnod arall am eu profiadau fel Gweinidogion. Ni chaniateir iddynt ychwaith, tra byddant yn Weinidogion, wneud cytundeb i gyhoeddi eu hunangofiant ar unrhyw ffurf ar ôl gadael eu swyddi fel Gweinidogion. Mae'n ofynnol i gyn-Weinidogion sy'n bwriadu cyhoeddi eu hunangofiant, neu fel arall gofnodi eu profiadau fel Gweinidogion drwy gyfrwng ysgrifenedig neu gyfrwng arall, gyflwyno’r llawysgrif neu’r sgript ddrafft i'r Ysgrifennydd Parhaol mewn digon o bryd cyn i'r hunangofiant gael ei gyhoeddi neu ei ryddhau, ac mae'n ofynnol iddynt hefyd gydymffurfio â'r egwyddorion a nodir yn Adroddiad Radcliffe, a gyhoeddwyd yn 1976 (Cmnd 6386). Yn benodol, rhaid i gyn-Weinidogion ymatal rhag cyhoeddi gwybodaeth sy'n ddinistriol o berthynas gyfrinachol Gweinidogion â'i gilydd, neu rhwng Gweinidogion a swyddogion.
Cyfweliadau ymchwil
8.11 Ar brydiau, gofynnir i'r Gweinidogion gymryd rhan mewn cyfweliadau sy’n ymwneud ag ymchwil academaidd. Dylai’r Gweinidogion gadw mewn cof fod posibilrwydd y gallai eu safbwyntiau gael eu mynegi mewn ffordd sy’n anghydnaws â’u cyfrifoldebau a’u dyletswyddau fel aelodau o Lywodraeth Cymru ac fel rheol, dylid gwrthod rhoi cyfweliadau o'r fath, ond caiff Gweinidogion gyfeirio'r unigolion hyn drwy eu Swyddfa Breifat at swyddogion, a all ymgysylltu â hwy fel y bo'n briodol.
Cwynion
8.12 Rhaid i Weinidogion sydd am wneud cwyn am newyddiadurwr neu am adran benodol o’r cyfryngau i’r rheoleiddiwr priodol gael cymeradwyaeth y Prif Weinidog.
Ystadegau
8.13 Mae angen i'r Gweinidogion fod yn ymwybodol o God Ymarfer Awdurdod Ystadegau'r DU, sy'n diffinio arferion da o ran ystadegau swyddogol, ac y mae'n statudol ofynnol i bob sefydliad sy'n paratoi Ystadegau Gwladol ei ddilyn, yn unol â darpariaethau Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007.
8.14 Mae angen hefyd i'r Gweinidogion roi sylw i Orchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009 sy'n gosod amodau mewn perthynas â gweld ystadegau swyddogol ar eu ffurf derfynol, gan gynnwys cyfyngu ar bwy sy'n cael eu gweld cyn iddynt gael eu cyhoeddi. Mae’r Gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Gweinidogion sicrhau bod cyn lleied o bobl â phosibl yn cael gweld yr ystadegau cyn iddynt gael eu cyhoeddi ac mae’n gwahardd gwneud unrhyw ddatganiad neu sylw i'r wasg cyn i'r ystadegau gael eu rhyddhau.
Y Cyfryngau cymdeithasol
8.15 Sianeli swyddogol y Llywodraeth, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol ddylai fod y prif ddull cyfathrebu ar gyfer polisïau’r Llywodraeth. Fodd bynnag, os bydd Gweinidogion yn dymuno ymgysylltu ag eraill sy'n defnyddio eu cyfryngau cymdeithasol personol, anllywodraethol i amddiffyn neu hyrwyddo polisïau’r Llywodraeth, dylent fod yn ofalus iawn wrth wneud hynny. Dylai’r Gweinidogion fod yn ymwybodol bob amser o'r rhwymedigaeth sydd arnynt i gynnal cydgyfrifoldeb y Cabinet ac ni ddylent wyro oddi wrth y polisi presennol ar unrhyw adeg. Wrth ddefnyddio unrhyw gyfryngau cymdeithasol, boed yn rhinwedd eu gwaith etholaethol neu yn rhinwedd eu swyddi fel Gweinidogion, rhaid iddynt fynegi eu barn ac ymateb i ddefnyddwyr eraill yn ofalus bob amser ac ystyried enw da a statws Llywodraeth Cymru.
9. Trefniadau teithio’r Gweinidogion
9.1 Wrth drefnu i deithio o fewn y DU neu’r tu allan iddi, dylai Gweinidogion a gweision sifil gadw mewn cof egwyddorion cynaliadwyedd a'r nod o leihau ôl troed carbon lle bynnag y bo modd, yn enwedig ar ôl i’r datganiad ar argyfwng hinsawdd gael ei wneud. Dylid ystyried y dull mwyaf priodol o deithio ar gyfer pob ymweliad, gydag ystyriaethau amgylcheddol bob amser yn flaenaf.
Ymweliadau dramor gan y Gweinidogion
9.2 Fel rheol, ni ddylid mynd ar ymweliadau dramor pan fo’r Senedd yn cyfarfod. Dylai’r Gweinidogion drefnu ymweliadau o’r fath yn ystod y Toriad neu, os yw hynny’n briodol, ar y diwrnodau hynny lle nad oes busnes wedi ei drefnu yn y Senedd, ac eithrio pan fo rhesymau anorfod sy’n gysylltiedig â busnes Llywodraeth Cymru. Yn benodol, dim ond yn ystod Toriad y Senedd y dylid mynd ar ymweliadau dramor sydd, yn bennaf, yn rhai ymchwiliol. At hynny, wrth gynllunio ymweliadau dramor, dylai’r Gweinidogion gofio bod cyfarfodydd y Cabinet yn cael blaenoriaeth dros unrhyw fusnes arall. Rhaid i ddigon o Weinidogion fod ar gael yn ystod y Toriadau i sicrhau bod busnes Llywodraeth Cymru yn cael ei gynnal yn effeithiol, ac o’r herwydd, mae’n bosibl y bydd angen cyfyngu ar y niferoedd sy’n absennol dramor neu ailfeddwl am ymweliadau dramor.
9.3 Dylai’r Gweinidogion hysbysu’r Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach cyn gynted ag y byddant yn ystyried mynd ar unrhyw ymweliad dramor (er enghraifft, pan ddaw gwahoddiad i law). Yr Adran fydd yn gyfrifol am ymgynghori â staff y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu lle bo hynny'n briodol, ac am hysbysu’r Gweinidog o dan sylw am ei safbwyntiau. Ar ôl hynny, dylid rhoi rhan lawn i’r Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach wrth wneud y trefniadau ar gyfer yr ymweliad.
9.4 Rhaid i unrhyw Weinidog sydd am fod yn absennol o’r DU am unrhyw reswm geisio cymeradwyaeth ysgrifenedig y Prif Weinidog. Rhaid gwneud hynny cyn ymrwymo i unrhyw beth. Yn achos ymweliadau swyddogol, dylai’r achos busnes yn ceisio cymeradwyaeth ar eu cyfer gynnwys y rhesymau dros yr ymweliad a rhestr o’r gwledydd y bwriedir ymweld â hwy, y gost a rhestr o’r swyddogion a fydd yn mynd gyda’r Gweinidog. Dylai’r Gweinidogion nodi hefyd pa fudd fyddai i’r ymweliad. Dylid anfon copïau o’r achos busnes at y Gweinidog sy’n gyfrifol am Fusnes Llywodraeth Cymru ac at y Cyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach.
9.5 Dylai Gweinidogion sy’n bwriadu mynd ar ymweliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig ar fusnes fel Aelod o’r Senedd neu ar fusnes arall nad yw’n ymwneud â swydd Gweinidog, neu ar wyliau, ystyried hysbysu'r Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach ymlaen llaw. Bydd hysbysu'r Adran yn ei galluogi i roi unrhyw wybodaeth neu gyngor (e.e. mewn perthynas â sensitifrwydd gwleidyddol neu o ran diogelwch) y mae'n teimlo a allai fod yn fuddiol i'r Gweinidog ac i hysbysu cynrychiolwyr y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu bod un o Weinidogion y Llywodraeth yn eu hardal hwy, er nad yw yno yn rhinwedd ei swydd fel Gweinidog.
9.6 Mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth ysgrifenedig y Prif Weinidog ymlaen llaw cyn i gynghorydd arbennig fynd ar ymweliad dramor neu os yw Gweinidogion yn bwriadu mynd â’u priod neu eu partner neu swyddog nad yw’n cael tâl gyda hwy.
9.7 Ni ddylid gwneud unrhyw baratoadau, boed yn rhai dros dro ai peidio, ar gyfer ymweliadau dramor cyn ymgynghori â’r Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach. Wrth drefnu ymweliadau swyddogol gan y Gweinidogion, dylid, bob amser, ymgynghori’n agos â deiliad y swydd lysgenhadol berthnasol.
9.8 Dylai’r Gweinidogion ofalu mai hwy, yn bersonol, sy’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros gymeradwyo maint a chyfansoddiad unrhyw ddirprwyaeth y byddant yn gyfrifol amdano, gan wneud hynny cyn ceisio cymeradwyaeth y Prif Weinidog. Bydd Is-adran y Cabinet yn cadw cofnod cynhwysfawr a chanolog o deithiau’r Gweinidogion dramor. Bydd rhestr yn cael ei chyhoeddi bob blwyddyn o bob un o'r teithiau dramor gan Weinidogion sy'n costio mwy na £500, ynghyd â chyfanswm cost holl ymweliadau'r Gweinidogion dramor. Dylai’r Gweinidogion fod yn esiampl i eraill o safbwynt maint grwpiau o ymwelwyr, drwy sicrhau bod eu grwpiau eu hunain cyn lleied â phosibl.
9.9 Ar ôl pob ymweliad swyddogol dramor, dylai'r Gweinidogion ystyried gwneud datganiad ysgrifenedig i'r Senedd.
9.10 Os bydd Gweinidogion yn cwrdd â sefydliad neu unigolyn allanol ac yn canfod eu hunain yn trafod busnes swyddogol heb fod swyddog yn bresennol – er enghraifft mewn achlysur cymdeithasol neu ar wyliau – dylai unrhyw gynnwys o bwys gael ei drosglwyddo i’r adran cyn gynted â phosibl ar ôl y digwyddiad.
Cysylltiadau â llywodraethau eraill
9.11 Dylai’r Gweinidogion gofio ei bod yn bwysig anfon nodyn at y Prif Weinidog o brif bwyntiau unrhyw drafodaethau y byddant, o bosibl, yn eu cynnal gyda chynrychiolwyr gwledydd neu ranbarthau tramor neu’r Gymanwlad. Mae hyn yn gymwys yn achos trafodaethau anffurfiol yn ogystal â’r rheini sy’n gysylltiedig â busnes swyddogol. Dylid anfon copi o’r nodyn i’r Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach, a bydd y staff yno yn sicrhau bod y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu yn cael ei briffio yn ôl y gofyn. Dylai’r Gweinidogion nodi bod hyn yr un mor gymwys os yw cysylltiadau o’r fath yn cael eu gwneud tra byddant ar eu gwyliau yn y wlad o dan sylw (ac os yw’r Gweinidogion yn bwriadu gwneud cysylltiadau o’r fath, rhaid iddynt geisio barn y Prif Weinidog cyn teithio).
Ymweliadau gan Weinidogion y Gymanwlad neu Weinidogion tramor
9.12 Dylai’r Gweinidogion ymgynghori â’r Prif Weinidog cyn gwahodd Gweinidogion llywodraethau cenedlaethol neu ranbarthol eraill i ymweld yn swyddogol â Chymru. Dylai’r swyddogion perthnasol hefyd hysbysu’r Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach am ymweliadau personol neu swyddogol y gwyddant amdanynt gan Weinidogion llywodraethau eraill neu gan unrhyw un arall o’r un statws. Mater i’r Prif Weinidog fydd penderfynu a ddylid ymgynghori â’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu cyn gwahodd Gweinidogion o wledydd tramor a gwledydd y Gymanwlad i Gymru.
Lletygarwch dramor
9.13 Pa un a ydynt yn gwneud hynny gartref neu dramor, ni ddylai’r Gweinidogion anghofio’r goblygiadau posibl i bolisi tramor a allai ddeillio o faterion beunyddiol megis cynnig lletygarwch i wleidyddion tramor sy’n ymweld â’r wlad hon, o dderbyn gwahoddiadau i ddigwyddiadau cymdeithasol tebyg, neu o roi cefnogaeth gyhoeddus i ddeisebau, llythyrau agored, etc. Mae’n bosibl y gallai sylwedyddion tramor ystyried bod arwyddocâd penodol i hynny, hyd yn oed os yw’r cysylltiad yn un anffurfiol. Os oes ganddynt unrhyw amheuon yn hyn o beth, dylai’r Gweinidogion ofyn i’r Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach ymgynghori â’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu cyn ymrwymo i unrhyw beth. Dylid hefyd ymgynghori â’r Swyddfa honno pryd bynnag y bo Gweinidog, yn rhinwedd ei swydd fel Gweinidog, yn bwriadu traddodi araith sy’n ymdrin â materion sy’n effeithio ar faterion tramor ac ar faterion y Gymanwlad.
9.14 Os bernir y bydd angen i Weinidog gynnig lletygarwch tra bydd dramor, dylid ceisio cyngor yr Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach, a bydd staff yr Is-adran honno yn ystyried a ddylid ymgynghori â’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu ai peidio ynghylch a fyddai hynny’n ddymunol ac ynghylch y math o adloniant i’w gynnig.
Galw’r Gweinidogion yn ôl o dramor
9.15 Os yw Gweinidogion dramor ar ôl cael caniatâd ac os cânt eu galw’n ôl am resymau sy’n gysylltiedig â Llywodraeth Cymru neu â’r Senedd ‒ gan gynnwys pleidleisio ‒ ceir talu am y daith ychwanegol yn ôl ac ymlaen ag arian cyhoeddus.
Ymweliadau gan y Gweinidogion yn y Deyrnas Unedig
9.16 Os yw’r Gweinidogion yn bwriadu mynd ar ymweliad swyddogol â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, ac os disgwylir iddynt fynd i ddigwyddiad cyhoeddus yn ystod yr ymweliad hwnnw, dylent hysbysu’r Prif Weinidog. Yn achos ymweliadau â Lloegr, dylid hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol; ac yn yr un modd, wrth ymweld â’r Alban, dylid hysbysu Prif Weinidog yr Alban, ac wrth ymweld â Gogledd Iwerddon, dylid hysbysu Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon. Dylai’r Gweinidogion hefyd hysbysu’r Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder am unrhyw ymweliadau y maent yn bwriadu mynd arnynt i Ynysoedd y Sianel neu i Ynys Manaw. Hefyd, os yw’r Gweinidogion am ymweld ag un o sefydliadau Llywodraeth y DU yng Nghymru neu yn unrhyw le arall nad yw’n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru (e.e. barics uned o’r Lluoedd Arfog), dylent hysbysu’r adran sy’n ei noddi ymlaen llaw.
9.17 Wrth i Weinidogion baratoi i fynd ar ymweliad cyhoeddus yng Nghymru, mae’n arferiad iddynt hysbysu’r Aelodau rhanbarthol o’r Senedd, yr Aelod etholaethol o’r Senedd a’r Aelod Seneddol ar gyfer yr ardal. Dylent ofalu peidio ag anghofio gwneud hyn, er y dylent ddefnyddio eu crebwyll mewn perthynas â risgiau diogelwch posibl. Ni chaniateir i’r Gweinidogion wahodd Aelodau o’r Senedd neu Aelodau Seneddol i fynd gyda hwy i ddigwyddiadau a drefnwyd gan drydydd parti, ond os ydynt yn rhoi digon o rybudd i’r Aelodau perthnasol, byddant yn gallu sicrhau eu bod yn cael cyfle i ofyn i’r trefnwyr lleol roi gwahoddiadau iddynt i ddigwyddiadau swyddogol y maent am fynd iddynt. Dylid darparu gwybodaeth debyg pan fo’r Gweinidogion yn ymweld â rhannau eraill o’r DU, gan gynnwys Aelodau perthnasol Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon.
Treuliau teithio a chynhaliaeth
9.18 Wrth wneud eu trefniadau teithio a chynhaliaeth swyddogol, dylai’r Gweinidogion gadw at yr egwyddorion arweiniol isod:
- Priodoldeb: Ni ddylid defnyddio trafnidiaeth swyddogol, na hawlio treuliau, ar gyfer trefniadau teithio neu letygarwch sy’n gysylltiedig â busnes plaid, busnes preifat neu fusnes arall nad yw’n gysylltiedig â swydd Gweinidog, ac eithrio lle y gellir cyfiawnhau hynny am resymau sy’n ymwneud â diogelwch.
- Defnyddio adnoddau'n effeithlon: Mae’n rhaid cyfyngu ar rai gwasanaethau megis ceir swyddogol, a dylai’r Gweinidogion gofio bod angen eu defnyddio mewn ffordd effeithlon.
- Bod yn ymwybodol o gostau: Dylid ystyried faint fyddai trefniadau eraill yn eu costio cyn gwneud penderfyniadau a fyddai’n arwain at gostau sylweddol. Bydd hyn yn ystyriaeth benodol os yw teithiau awyr arbennig yn cael eu hystyried yn lle defnyddio gwasanaethau rheolaidd. Dylid cadw’r egwyddor hon mewn cof hefyd wrth ystyried trefniadau llety.
- Diogelwch: Dylai’r Gweinidogion gadw diogelwch mewn cof bob amser, yn enwedig wrth deithio mewn ceir.
- Bod yn atebol i'r cyhoedd: Mae’r Gweinidogion yn gyfrifol yn unigol am gyfiawnhau, gerbron y Senedd, yr hyn y maent yn ei wneud ac yn ei benderfynu. Byddant am eu bodloni eu hunain y byddai modd amddiffyn eu trefniadau yn gyhoeddus.
9.19 Wrth ddefnyddio ceir swyddogol ac wrth deithio ar y trên neu mewn awyrennau, rhaid i drefniadau teithio’r Gweinidogion fod yn effeithlon ac yn gosteffeithiol bob amser. Pan fo’r Gweinidogion yn teithio ar fusnes swyddogol, Is-adran y Cabinet, fel rheol, ddylai dalu eu treuliau teithio. Mewn achosion lle nad oes unrhyw dreuliau yn cael eu talu yn y modd hwn, bydd y Gweinidogion am sicrhau nad oes unrhyw rwymedigaeth amhriodol arnynt, nac ychwaith unrhyw ganfyddiad ohono.
Defnyddio ceir swyddogol
9.20 Bydd ceir swyddogol ar gael i’r Gweinidogion ac i’r Cwnsler Cyffredinol. Byddant ar gael hefyd i’r Ysgrifennydd Parhaol. Dylai’r Gweinidogion ddefnyddio car swyddogol at unrhyw ddiben (ac eithrio dibenion sy’n gysylltiedig â phlaid, busnes preifat neu fusnes nad yw’n gysylltiedig â swydd Gweinidog) a fydd yn arbed amser.
9.21 Caniateir i’r Gweinidogion ddefnyddio car swyddogol ar gyfer teithiau rhwng eu cartrefi a’r swyddfa yn ystod yr wythnos neu dros y penwythnos ar yr amod eu bod yn gweithio ar fusnes Llywodraeth Cymru ac yn cludo papurau sy’n gysylltiedig â gwaith Gweinidog yn ystod y daith. O ran teithiau hirach, bydd angen i Weinidogion fod yn ymwybodol o les gyrwyr a staff eraill sy'n teithio yn y car a chaniatáu iddynt gymryd gorffwys digonol a seibiannau bwyd.
9.22 Wrth deithio ar fusnes swyddogol, caniateir i Weinidog ddefnyddio car preifat yn lle car swyddogol a hawlio lwfans milltiroedd o dan yr un amgylchiadau ac ar yr un telerau â gweision sifil Llywodraeth Cymru.
9.23 Yn amodol ar y rheolau cyffredinol sydd i’w gweld yn y Cod hwn, caniateir i briod neu i bartner Gweinidog ddefnyddio’r car pan fônt yn mynd gyda’r Gweinidog i ddigwyddiadau swyddogol. Fel rheol, ni chaniateir i geir swyddogol gael eu defnyddio gan briod na phartner nac aelodau eraill o deulu’r Gweinidog mewn cysylltiad â digwyddiadau neu alwadau preifat neu wleidyddol.
9.24 Mae car a gyrrwr wedi eu neilltuo ar gyfer y Prif Weinidog. Bydd y ceir swyddogol sy'n weddill ar gael yn gyntaf i'r Gweinidogion eraill, yna'r Cwnsler Cyffredinol a'r Ysgrifennydd Parhaol.
Teithio ar drên
9.25 Caniateir i’r Gweinidogion deithio yn y dosbarth cyntaf.
Teithiau awyr
9.26 Caiff y Gweinidogion arfer eu disgresiwn a theithio mewn awyrennau sifil rheolaidd yn y wlad hon a thramor os ydynt o’r farn y byddai gwneud hynny’n arbed amser. Wrth archebu teithiau awyr o’r fath, dylent gadw’r gost, a diogelwch, mewn cof.
9.27 Dylai unrhyw deithiau awyr gan y Gweinidogion adlewyrchu cost allyriadau carbon, a hynny ar gyfradd briodol, gyda'r enillion yn cael eu cyfeirio at brosiectau datblygu rhyngwladol sy'n gyson ag amcanion y Gweinidogion ar gyfer datblygu cynaliadwy. Dylid nodi sut y bwriedir gwneud hyn yn yr achos busnes a gyflwynir i’r Prif Weinidog ar gyfer y siwrnai.
9.28 Caiff y Gweinidogion deithio yn y Dosbarth Busnes os yw ar gael ar yr awyren.
9.29 Dim ond at ddibenion swyddogol y dylid defnyddio buddiannau a geir drwy gynlluniau Hedfan yn Aml neu fuddiannau eraill a geir drwy deithiau y telir amdanynt ag arian cyhoeddus. Fel arall, dylid eu hildio, ac eithrio pan fônt yn de minimis (er enghraifft, cael mynd i lolfeydd ymadael arbennig neu fanteisio ar drefniadau archebu arbennig sy’n gysylltiedig â bod yn aelodau o glybiau ar gyfer y rheini sy’n hedfan yn rheolaidd). Er hynny, os nad yw’n ymarferol defnyddio’r buddiannau wrth deithio ar ran Llywodraeth Cymru, nid oes unrhyw wrthwynebiad i’r Gweinidogion eu rhoi i elusen os caniateir hynny o dan delerau cynllun y cwmni awyrennau ac os dewisir yr elusen gan y cwmni awyrennau.
Teithio mewn awyrennau sy’n cael eu siartro’n breifat
9.30 Mae’n bosibl yr awdurdodir teithiau mewn awyrennau sy’n cael eu siartro’n breifat os nad oes gwasanaeth rheolaidd ar gael, os oes yn rhaid hedfan ond bod gofynion busnes Llywodraeth Cymru, ystyriaethau diogelwch, neu frys yn golygu na ellir defnyddio gwasanaeth rheolaidd. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol lle y gellir dangos nad oes unrhyw ddewis arall y dylid cymeradwyo teithiau awyr o’r fath. Dylid ceisio’r gymeradwyaeth honno oddi wrth y Prif Weinidog.
Costau teithio gwŷr/gwragedd/partneriaid
9.31 Pan fydd priod neu bartner Gweinidogion yn mynd gyda hwy wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau swyddogol, caniateir defnyddio arian cyhoeddus i dalu eu treuliau weithiau, ar yr amod ei bod o fudd amlwg i'r cyhoedd i’r priod neu’r partner fynd gyda'r Gweinidog. Mae angen cael cymeradwyaeth y Prif Weinidog ymlaen llaw ym mhob achos.
Costau teithio Cynghorwyr Arbennig
9.32 Os oes angen, ac os yw hynny o fudd amlwg i’r cyhoedd, caniateir i Weinidogion fynd â Chynghorydd Arbennig ar ymweliad dramor ar draul y cyhoedd. Dylid ceisio cymeradwyaeth y Prif Weinidog cyn i Gynghorydd Arbennig fynd ar ymweliad dramor gydag un o’r Gweinidogion.
Lletygarwch, rhoddion, etc.
9.33 Mae rheolau manwl ynghylch derbyn rhoddion, gwasanaethau a lletygarwch i’w gweld ym mhennod 5. Yn gyffredinol, ni ddylai’r Gweinidogion gynnig rhoddion na chyfnewid rhoddion. Er bod y bennod honno’n datgan yn glir na ddylai’r Gweinidogion nac aelodau o’u teuluoedd dderbyn rhodd oddi wrth unrhyw un a allai eu rhoi o dan rwymedigaeth, neu roi’r argraff eu bod o dan rwymedigaeth, mae’n bosibl y byddai’n anodd iddynt wrthod rhodd oddi wrth lywodraeth (neu sefydliad) arall heb roi’r argraff eu bod yn anghwrtais. Ar y llaw arall, gall dderbyn rhodd neu wybod y caiff rhodd ei chynnig mewn rhai gwledydd ac o dan rai amgylchiadau olygu y gellid rhoi rhodd yn gyfnewid amdani. Wrth i’r Gweinidogion benderfynu a ddylent dderbyn rhoddion oddi wrth aelodau o lywodraethau (neu sefydliadau) eraill ai peidio, neu roi rhoddion iddynt, dylent, pryd bynnag y bo modd, ymgynghori â’r Cyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach os oes ganddynt unrhyw amheuon yn hynny o beth.
9.34 Gallai derbyn cynigion i deithio’n ddi-dâl gael ei gamddehongli. Er hynny, mae’n bosibl y byddai’n dderbyniol derbyn cynnig a roddir i Weinidog sydd ar fusnes swyddogol fynd gyda chynrychiolydd llywodraeth dramor y wlad y mae’n ymweld â hi, ar yr amod nad yw’n arwain at rwymedigaeth amhriodol, ac os yw’n fodd i arbed amser swyddogol neu’n gyfle i gynnal busnes swyddogol. Fel rheol, ni ddylid derbyn cynigon i deithio oddi wrth sefydliadau eraill, ac eithrio pan fônt yn rhan annatod o daith archwilio. O dan amgylchiadau eithriadol, caniateir i Weinidogion dderbyn cynnig o’r fath os yw’n fodd i arbed amser swyddogol ac os nad oes unrhyw berygl y bydd yn arwain at rwymedigaeth amhriodol. Mewn achosion o’r fath, os yw’r siwrnai yn un hir, dylid ad-dalu’r sefydliad o dan sylw ag arian cyhoeddus, gan roi swm sy’n cyfateb i docyn dosbarth busnes ar wasanaeth rheolaidd. Os oes gan Weinidog unrhyw amheuon yn hyn o beth, dylai ymgynghori â’r Prif Weinidog.
