Teithio i bawb: gwella mynediad a chynhwysiant ar draws trafnidiaeth yng Nghymru - Trosolwg
Rydyn ni am ei gwneud hi'n haws i fwy o bobl ddefnyddio ein rhwydwaith trafnidiaeth.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae pobl ledled Cymru yn defnyddio ein system drafnidiaeth bob dydd i ymweld â ffrindiau a theulu, mynd i'r gwaith, cyrraedd cyfleusterau gofal iechyd ac addysg a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden.
I rai pobl, mae defnyddio trafnidiaeth yn broses syml, diddigwyddiad hyd yn oed. Ond i eraill gall fod yn anodd iawn.
Mae hyn yn effeithio ar hyder pobl, yn lleihau annibyniaeth ac yn ei gwneud yn anoddach cyrraedd swyddi, cyfleusterau addysg a gwasanaethau hanfodol eraill.
Mae a wnelo hygyrchedd â hawliau dynol, gwahaniaethu ac iechyd a diogelwch.
Ym mis Ebrill 2025, ymrwymodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i newid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru.
“Byddwn yn gwneud yn siŵr bod mynediad a chynhwysiant wrth wraidd popeth a wnawn i sicrhau bod pawb yn teimlo'n ddiogel a bod croeso iddynt wrth deithio yng Nghymru."
Ein nodau
Er mwyn gwneud ein system drafnidiaeth yn fwy hygyrch a chynhwysol rydym am wneud y canlynol:
- dileu rhwystrau i hygyrchedd
- ymgorffori cynwysoldeb wrth ddatblygu a chyflwyno ein polisi, gwasanaethau a seilwaith trafnidiaeth
- denu pobl i ddefnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth yng Nghymru
- gwella'r profiad teithio i bawb sy'n defnyddio ein rhwydweithiau
Ein hegwyddorion
Er mwyn ein helpu i gyflawni ein nodau, rydym wedi datblygu 5 egwyddor, sef:
- teimlo'n ddiogel
- teimlo bod croeso i chi
- hygyrchedd
- cynnwys
- ymgorffori newid
Bydd yr egwyddorion hyn yn sail i'r gwaith o gynllunio, datblygu a darparu gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru.
Dechrau arni
Ar y tudalennu canlynol, rydym yn esbonio pob egwyddor yn fanylach. Rydym hefyd yn rhestru'r camau cychwynnol rydym yn eu cymryd, er mwyn ein helpu i ddechrau arni ar unwaith.
Rydym yn disgrifio sut y byddwn yn gweithio gyda sefydliadau eraill er mwyn gwneud pethau yn well i'r rhai sy'n dibynnu ar ein rhwydwaith trafnidiaeth.
Drwy'r gwaith hwn, mae'n bosibl y daw syniadau a blaenoriaethau newydd i'r amlwg. Rydym am fod yn hyblyg er mwyn inni allu archwilio'r cyfleoedd hyn.
Byddwn yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar y cynnydd rydym yn ei wneud.
