Neidio i'r prif gynnwy

Rydyn ni am ei gwneud hi'n haws i fwy o bobl ddefnyddio ein rhwydwaith trafnidiaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf: 18 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Gorffennaf 2025

Trosolwg

Cyflwyniad

Mae pobl ledled Cymru yn defnyddio ein system drafnidiaeth bob dydd i ymweld â ffrindiau a theulu, mynd i'r gwaith, cyrraedd cyfleusterau gofal iechyd ac addysg a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden.

I rai pobl, mae defnyddio trafnidiaeth yn broses syml, diddigwyddiad hyd yn oed. Ond i eraill gall fod yn anodd iawn.

Mae hyn yn effeithio ar hyder pobl, yn lleihau annibyniaeth ac yn ei gwneud yn anoddach cyrraedd swyddi, cyfleusterau addysg a gwasanaethau hanfodol eraill.

Mae a wnelo hygyrchedd â hawliau dynol, gwahaniaethu ac iechyd a diogelwch.

Ym mis Ebrill 2025, ymrwymodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i newid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru.

“Byddwn yn gwneud yn siŵr bod mynediad a chynhwysiant wrth wraidd popeth a wnawn i sicrhau bod pawb yn teimlo'n ddiogel a bod croeso iddynt wrth deithio yng Nghymru."

Ein nodau

Er mwyn gwneud ein system drafnidiaeth yn fwy hygyrch a chynhwysol rydym am wneud y canlynol:

  • dileu rhwystrau i hygyrchedd
  • ymgorffori cynwysoldeb wrth ddatblygu a chyflwyno ein polisi, gwasanaethau a seilwaith trafnidiaeth
  • denu pobl i ddefnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth yng Nghymru
  • gwella'r profiad teithio i bawb sy'n defnyddio ein rhwydweithiau

Ein hegwyddorion

Er mwyn ein helpu i gyflawni ein nodau, rydym wedi datblygu 5 egwyddor, sef:

  1. teimlo'n ddiogel
  2. teimlo bod croeso i chi
  3. hygyrchedd
  4. cynnwys
  5. ymgorffori newid

Bydd yr egwyddorion hyn yn sail i'r gwaith o gynllunio, datblygu a darparu gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru.

Dechrau arni

Ar y tudalennu canlynol, rydym yn esbonio pob egwyddor yn fanylach. Rydym hefyd yn rhestru'r camau cychwynnol rydym yn eu cymryd, er mwyn ein helpu i ddechrau arni ar unwaith.

Rydym yn disgrifio sut y byddwn yn gweithio gyda sefydliadau eraill er mwyn gwneud pethau yn well i'r rhai sy'n dibynnu ar ein rhwydwaith trafnidiaeth.

Drwy'r gwaith hwn, mae'n bosibl y daw syniadau a blaenoriaethau newydd i'r amlwg. Rydym am fod yn hyblyg er mwyn inni allu archwilio'r cyfleoedd hyn.

Byddwn yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar y cynnydd rydym yn ei wneud.

Sut rydym yn gweithio

Gweithio gyda'n gilydd

Er mwyn sicrhau bod egwyddorion ‘Teithio i Bawb’ yn dod yn rhan ymgorfforedig o rôl pawb, byddwn yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl gan gynnwys:

  • Trafnidiaeth Cymru
  • Cyd-bwyllgorau Corfforedig
  • awdurdodau lleol
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • sarparwyr trafnidiaeth gymunedol
  • sefydliadau sy'n cynrychioli defnyddwyr trafnidiaeth a'r rhai na allant ddefnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth ar hyn o bryd
  • sefydliadau'r trydydd sector
  • Undebau Llafur
  • pobl ag amrywiaeth eang o brofiadau bywyd, gan gynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig, o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a chymunedau ein lluoedd arfog

Cysoni â pholisïau presennol

Wrth ddatblygu'r egwyddorion gwnaethom ymgysylltu â meysydd polisi ehangach ac ystyried y canlynol:

  • Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021Mae'r strategaeth hon yn cynnwys ymrwymiad i sefydlu ‘llwybr cydraddoldeb’ er mwyn gwneud yn siŵr bod sylw yn cael ei roi i gydraddoldeb wrth gynllunio trafnidiaeth ac nad yw'n cael ei ystyried yn fater ar wahân.
  • Ein Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol 2025 i 2029 Mae'r cynllun hwn yn nodi'r hyn rydym yn ei wneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a sicrhau bod ein cymdeithas yn decach ac yn fwy cynhwysol.
  • Cynllun Hawliau Pobl Anabl 2025-2035. Mae'r strategaeth ddrafft hon yn cynnwys ymrwymiadau i ddileu rhwystrau a wynebir gan bobl anabl er mwyn creu cymdeithas gynhwysol a datblygu camau gweithredu i wneud teithio yn fwy hygyrch. Agorodd yr ymgynghoriad ar y strategaeth hon ar 13 Mai 2025 a bydd ar agor am 12 wythnos.
  • Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol 2024.  Mae'r cynllun hwn yn cynnwys ymrwymiad cadarn i greu cymdeithas gynhwysol a theg i'n holl bobl a chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru.
  • Cynllun Gweithredu LHDTC+ Diben y cynllun hwn yw sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+. 

Croestoriadedd

Roedd croestoriadedd yn ystyriaeth allweddol wrth ddatblygu'r egwyddorion hyn. Rydym yn diffinio croestoriadedd fel y ffordd y mae agweddau gwahanol ar hunaniaeth unigolyn yn llywio ei brofiadau a'r ffordd y mae gwahanol fathau o wahaniaethu wedi'u cysylltu â'i gilydd ac yn effeithio ar ei gilydd.

Amserlenni

Bydd gwaith yn parhau, gyda cherrig milltir allweddol i'n helpu i olrhain cynnydd.

Egwyddor 1: teimlo'n ddiogel

Yr hyn sydd ei eisiau arnom

Rydym am i bobl deimlo'n ddiogel wrth ddefnyddio unrhyw fath o ddull teithio. 

Rydym am symud y tu hwnt i ddiffiniad Iechyd a Diogelwch i ymdeimlad o ddiogelwch ‘a deimlir’ yn fwy.

Rydym am i bobl deimlo'n hyderus wrth gynllunio a gwneud siwrneiau ar unrhyw adeg.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

Byddwn yn:

  • gwneud yn siŵr bod gan unrhyw seilwaith trafnidiaeth newydd ddigon o oleuadau. Mae hyn yn cynnwys lleoedd fel gorsafoedd trenau a bysiau, safleoedd bysiau, safleoedd tacsis a llwybrau ar gyfer cerdded, olwyno a beicio
  • gwneud yn siŵr bod pobl yn teimlo'n ddiogel wrth ddefnyddio neu yrru tacsi neu gerbyd hurio cyhoeddus yng Nghymru
  • Gwneud teithio yn haws drwy helpu pobl i gynllunio siwrneiau sy'n diwallu eu hanghenion.

Sut y byddwn yn gwneud hyn?

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Datblygu canllawiau dylunio a chynllunio ymarferol er mwyn sicrhau goleuadau cyson ar gyfer pob  trafnidiaeth.

Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.

  • Gwneud yn siŵr bod darparwyr trafnidiaeth yn defnyddio ein canllawiau goleuo ar gyfer rhaglenni gwaith newydd a phresennol.

Amserlen: erbyn gwanwyn 2030.

  • Diweddaru canllawiau i awdurdodau lleol sy'n cynnwys gofynion o ran hyfforddiant i yrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat er mwyn helpu i gadw teithwyr a gyrwyr yn ddiogel

Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.

  • Datblygu cynlluniwr siwrnai digidol newydd Trafnidiaeth Cymru sy'n gweithio ar draws pob dull teithio er mwyn galluogi pobl i gynllunio teithiau sy'n diwallu eu hanghenion yn hyderus. Caiff opsiynau annigidol ar gyfer defnyddio'r gwasanaethau hyn eu datblygu ochr yn ochr ag adnoddau digidol newydd er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb wedi'u cynnwys

Amserlen: erbyn gwanwyn 2030.

Egwyddor 2: teimlo bod croeso i chi

Yr hyn sydd ei eisiau arnom

Rydym am i bobl deimlo bod croeso iddynt wrth ddefnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth.

Rydym am i bobl deimlo bod croeso iddynt a'u bod yn cael eu cefnogi drwy gydol eu siwrneiau.

Bydd sicrhau bod pobl yn cael eu trin â pharch a chael digon o seddi, arwyddion clir a chyfleusterau hawdd eu defnyddio yn helpu i greu rhwydwaith lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel, yn hyderus ac yn gyfforddus wrth deithio.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

Byddwn yn:

  • gwneud yn siŵr bod staff sy'n delio â chwsmeriaid ar gyfer pob dull teithio yn cwblhau hyfforddiant rheolaidd ar bynciau sy'n ymwneud â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant gan gynnwys y model cymdeithasol o anabledd, gwrth-hiliaeth a ffyrdd o sicrhau bod cymuned y Lluoedd Arfog yn teimlo bod croeso iddynt ar ein rhwydweithiau
  • gwneud yn siŵr bod system glir a hygyrch ar waith er mwyn rhoi gwybod am ymddygiad annerbyniol staff neu deithwyr ac i’r camau hynny gael eu cymryd pan fo angen.

Sut y byddwn yn gwneud hyn?

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i adolygu, datblygu a chyflwyno hyfforddiant gorfodol i staff rheng flaen y rheilffyrdd.

Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.

  • Gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ymgorffori rhaglen hyfforddi mewn contractau bysiau a sicrhau y caiff ei gwblhau yn rheolaidd gan staff rheng flaen.

Amserlen: erbyn gwanwyn 2030

  • Diweddaru canllawiau ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat i gynnwys gwell gwasanaeth cwsmeriaid a gwell prosesau ar gyfer ymdrin â chwynion ac adborth

Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.

  • Helpu Trafnidiaeth Cymru i adolygu ei wasanaethau cwyno ac uwchgyfeirio a'u hatgyfnerthu lle y bo angen ar draws rhwydweithiau rheilffyrdd a bysiau.

Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.

Egwyddor 3: hygyrchedd

Yr hyn sydd ei eisiau arnom

Rydyn ni eisiau i bobl deimlo'n hyderus ynglŷn â chael mynediad i'n trafnidiaeth.

Rydyn ni eisiau cael gwared ar rwystrau, i wneud teithio yn haws.

Gall rhwystrau gynnwys pethau fel:

  • grisiau ac arwynebau anwastad
  • diffyg cyfleusterau, fel toiledau neu seddi
  • goleuadau gwael
  • dim digon o gefnogaeth bersonol
  • arwyddion a chyfarwyddiadau cymhleth
  • bod gwybodaeth ar gael ar-lein yn unig, neu dim ond rhai ieithoedd
  • costau uchel

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

Byddwn yn:

  • asesu ein seilwaith trafnidiaeth er mwyn deall y gwelliannau sydd eu hangen i sicrhau bod ein rhwydweithiau yn hygyrch
  • gwneud yn siŵr bod hygyrchedd yn ofyniad craidd ar gyfer bysiau newydd
  • nodi a deall amrywiaeth o ddata y gellir eu defnyddio i helpu i ddileu rhwystrau i hygyrchedd ym mhob un o'n rhwydweithiau trafnidiaeth.

Sut y byddwn yn gwneud hyn?

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Dadansoddi data hygyrchedd drwy archwiliad o orsafoedd trenau yng Nghymru er mwyn deall y materion

Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.

  • Gan weithio gyda Llywodraeth y DU i gynllunio gwelliannau hygyrchedd ym mhob un o'n gorsafoedd trenau

Amserlen: o gwanwyn 2026 ymlaen.

  • Adolygu ein safleoedd bysiau, ein gorsafoedd a'n cyfnewidfeydd er mwyn deall ble mae angen gwelliannau.

Amserlen: erbyn gwanwyn 2030.

  • Gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu canllawiau newydd ar hygyrchedd ar gyfer seilwaith bysiau. Bydd hyn yn helpu darparwyr trafnidiaeth wrth gynnal gwaith uwchraddio, a bydd yn creu dyluniadau hygyrch cyson sy'n diwallu anghenion teithwyr bysiau.

Amserlen: erbyn gwanwyn 2030.

  • Gweithio gyda phobl sydd wedi wynebu problemau o ran hygyrchedd bysiau er mwyn llunio gofynion clir ar gyfer prynu bysiau newydd.

Amserlen: erbyn gwanwyn 2030.

  • Gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar ffyrdd o helpu teithwyr i ystyried nodweddion hygyrchedd yn ein rhwydweithiau trafnidiaeth.  Bydd hyn yn helpu teithwyr gynllunio eu siwrneiau yn hyderus.

Amserlen: erbyn gwanwyn 2030.

Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.

Egwyddor 4: cynnwys

Yr hyn sydd ei eisiau arnom

Rydym am i'r bobl sy'n defnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth gael eu cynnwys yn y gwaith o'u cynllunio a'u cyflwyno.

Drwy ddeall profiadau bywyd pobl sy'n defnyddio ein rhwydweithiau, gallwn eu cynllunio i fod yn ddiogel, yn groesawgar ac yn hygyrch o'r dechrau.

Rydym am greu cyfleoedd i bobl gael eu cynnwys yn ein polisïau, seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

Byddwn yn:

  • dod ag amrywiaeth ehangach o bobl i mewn i'n gwaith, er mwyn iddynt allu llywio'r ffordd rydym yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth.

Sut y byddwn yn gwneud hyn?

Byddwn yn:

  • sefydlu Bwrdd Teithio Cynhwysol i roi cyngor a sicrwydd i Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru.  Bydd y bwrdd yn gwneud yn siŵr bod darparwyr trafnidiaeth yn ystyried yr egwyddorion ‘teithio i bawb’. Darllenwch fwy am y Bwrdd Teithio Cynhwysol.

Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.

  • sefydlu Panel Teithio Pobl Anabl. Bydd y grwp hwn, o dan arweiniad pobl anabl, yn adeiladu ar gylch gwaith Panel Hygyrchedd a Chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru i gynnwys pob rhwydwaith trafnidiaeth. Bydd yn rhoi cyngor a sicrwydd i Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â sut i wneud ein rhwydweithiau yn fwy hygyrch a chynhwysol. Darllenwch fwy am y Panel Teithio Pobl Anabl.

Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.

  • sefydlu tîm Teithio i Bawb penodol o fewn Trafnidiaeth Cymru a fydd yn gwneud y canlynol:
    • cynnig cyngor a chymorth proffesiynol i lunio a chyflwyno cynlluniau hygyrch,
    • ceisio arferion gorau o bob cwr o'r byd a'u rhannu
    • rhoi cyngor a chymorth ynglŷn â sut i gynnwys pobl ag amrywiaeth eang brofiadau bywyd yn fwy yn ein gwaith. 

Bydd y tîm yn dod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer trafnidiaeth ledled Cymru, gan gefnogi awdurdodau lleol a chyd-bwyllgorau corfforedig

Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.

Egwyddor 5: ymgorffori newid

Yr hyn sydd ei eisiau arnom

Rydym am i egwyddorion Teithio i Bawb gael eu hystyried ar bob cam o'r broses o gynllunio, datblygu a chyflwyno ein rhwydweithiau trafnidiaeth.

Drwy arweinyddiaeth gref a mwy o gynrychiolaeth, byddwn yn gwneud yn siŵr bod ein hegwyddorion wrth wraidd trafnidiaeth yng Nghymru a bydd ein camau gweithredu yn cael effaith barhaol.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

Byddwn yn:

  • Defnyddio ein strwythurau llywodraethu a'n grwpiau rhanddeiliaid i gynnwys pobl ag amrywiaeth eang o brofiadau bywyd yn y broses o gynllunio, datblygu a chyflwyno ein rhwydweithiau trafnidiaeth.
  • Parhau i feithrin ein dealltwriaeth o'r canlynol:
    • y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth ddefnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth,
    • yr effeithiau y mae'r rhwystrau hyn yn eu cael ar bobl a chymdeithas
    • ffyrdd effeithiol o fonitro ein gwaith a deall a yw'n cael effaith gadarnhaol.

Sut y byddwn yn gwneud hyn

Byddwn yn gwneud y canlynol: 

  • cynnwys pobl ag amrywiaeth eang o brofiadau bywyd yn y gwaith o ddiweddaru Canllawiau'r Ddeddf Teithio Llesol er mwyn annog mwy o bobl i gerdded, olwynio a beicio yng Nghymru

Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.

  • rhoi cyngor ac arweiniad i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ac Awdurdodau Lleol ar ymgorffori egwyddorion Teithio i Bawb yn eu gwaith, gan gynnwys y gwaith o gyflwyno Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol

Amserlen: erbyn gwanwyn 2030.

  • adolygu ac atgyfnerthu prosesau recriwtio presennol Trafnidiaeth Cymru i ddenu a chadw staff ag amrywiaeth eang o brofiadau bywyd

Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.

  • atgyfnerthu'r data rydym yn eu defnyddio i fesur y cynnydd rydym wedi'i wneud drwy ddefnyddio'r ffynonellau mwyaf perthnasol ac amrywiol o dystiolaeth. Byddwn yn gweithio gyda phobl â phrofiad bywyd er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn mesur yr hyn sy'n wirioneddol bwysig

Amserlen: erbyn gwanwyn 2030.

Llywodraethu

Bwrdd Teithio Cynhwysol

Bydd aelodau'r Bwrdd Teithio Cynhwysol yn cynnwys: 

  • cynrychiolwyr pobl â nodweddion gwarchodedig a meysydd croestoriadedd pwysig (er enghraifft pobl ifanc anabl)
  • cynrychiolwyr pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is
  • aelodau o gymunedau'r lluoedd arfog
  • partneriaid cymdeithasol gan gynnwys cynrychiolwyr Undebau Llafur
  • cynrychiolwyr o bob dull teithio
  • arbenigwyr ym maes cynllunio a chyflwyno hygyrch a chynhwysol
  • unrhyw brofiad bywyd neu faes arbenigedd perthnasol arall yr hoffai'r Bwrdd ei weld yn cael ei gynrychioli.

Bydd y Bwrdd yn:

  • rhoi cyngor a sicrwydd i Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â'r cynnydd sy'n cael ei wneud i gyflawni holl gamau gweithredu Teithio i Bawb.
  • gwneud yn siŵr bod yr effaith ar bobl â nodweddion gwarchodedig yn cael ei hystyried wrth ddatblygu polisi, gwasanaethau a seilwaith.
  • edrych ar y ffordd y mae pobl yn defnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth o ddrws i ddrws, a lle y gallai rhwystrau effeithio ar sawl math o ddull teithio (er enghraifft cerdded ac olwyno i ddal bws). 

Panel Teithio Pobl Anabl

Caiff y Panel Teithio Pobl Anabl ei arwain gan bobl anabl a bydd ei aelodau yn cynnwys:

  • pobl anabl ag amrywiaeth eang o brofiadau bywyd ac amhariadau
  • aelodau o Banel Hygyrchedd a Chynhwysiant presennol Trafnidiaeth Cymru
  • unrhyw brofiad bywyd neu faes arbenigedd perthnasol arall yr hoffai'r Panel ei weld yn cael ei gynrychioli.

Bydd y Panel Arbenigwyr yn:

  • cyflawni cylch gwaith ehangach i roi cyngor a sicrwydd ynglŷn â phob dull teithio
  • gwneud yn siŵr bod rhaglenni a phrosiectau sy'n cael eu cyflawni gan Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn cyd-fynd ag egwyddorion Teithio i Bawb.
  • gwneud yn siŵr bod yr effaith ar bobl anabl yn cael ei hystyried wrth ddatblygu polisi, gwasanaethau a seilwaith.
  • edrych ar y ffordd y mae pobl anabl yn defnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth o ddrws i ddrws, a lle y gallai rhwystrau effeithio ar sawl math o ddull teithio (er enghraifft cerdded ac olwyno i ddal bws).

Trefniadau llywodraethu

  • Mae'r Bwrdd Teithio Cynhwysol yn rhoi cyngor a sicrwydd i Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru.
  • Bydd y Panel Teithio Pobl Anabl yn adrodd yn uniongyrchol i'r Bwrdd Teithio Cynhwysol.
  • Bydd Is-grŵp Teithio Cynhwysol presennol y Bwrdd Teithio Llesol hefyd yn cyfrannu at waith y Bwrdd Teithio Cynhwysol.
  • Caiff cymorth ar gyfer y Bwrdd Teithio Cynhwysol a'r Panel Teithio Pobl Anabl ei ddarparu gan Trafnidiaeth Cymru.