Neidio i'r prif gynnwy

Sut i reoli rhedyn yn effeithiol gan ddefnyddio arferion gorau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw rhedyn?

Mae rhedyn (Pteridium aquilinum) yn frodorol i Brydain ac mae i'w ganfod mewn coetiroedd, ar lethrau bryniau, ac ar rostiroedd a gweundiroedd. Gall fod o fudd i fywyd gwyllt, lleihau erydiad pridd, storio carbon a helpu i adfywio coetiroedd. Fodd bynnag, gall ardaloedd o redyn trwchus hefyd leihau bioamrywiaeth a rhwystro coetiroedd rhag sefydlu. Mae hyn yn golygu bod rheoli rhedyn yn angenrheidiol mewn rhai ardaloedd. 

Sut gellir rheoli rhedyn?

Er mwyn rheoli rhedyn, rhaid i reolwyr tir asesu'r risgiau y mae'n eu hachosi, a phenderfynu a oes angen ei reoli. Os oes angen ei reoli, mae opsiynau'n cynnwys dulliau mecanyddol fel: 

  • aredig
  • torri
  • malurio, neu
  • rholio

Pan nad yw'r dulliau hyn yn addas, gellir defnyddio chwynladdwyr sydd wedi'u cymeradwyo ar gyfer y defnydd hwnnw. Tan 2023 y prif chwynladdwr a ddefnyddiwyd ar gyfer rheoli rhedyn yng Nghymru oedd Asulox, ond ni chaniateir hyn mwyach.

Canllawiau arferion gorau rhedyn 2024

Yn 2022, sefydlwyd Gweithgor Rhedyn y DU gan y Sefydliadau Cadwraeth Natur Statudol.  Y nod oedd lleihau gor-ddibyniaeth ar chwynladdwyr wrth reoli rhedyn, a hyrwyddo dulliau mwy cynaliadwy. Rhyddhaodd y grŵp hwn ganllawiau arferion  gorau y DU yn 2024 fel rhan o'u hymdrechion i ddatblygu fframwaith rheoli rhedyn strategol ledled y DU.

Adroddiad rheoli rhedyn 2025

Rydym yn gweithio ar y cyd â NatureScot a Natural England i ddatblygu'r gwaith hwn ymhellach. Cynhaliwyd cyfres o weithdai ledled Prydain Fawr yng Ngwanwyn 2025. Fe wnaethant gasglu gwybodaeth am arferion rheoli rhedyn cyfredol a cheisio nodi pa gyngor pellach y byddai rheolwyr tir yn hoffi cael mynediad iddo. Bydd canfyddiadau'r gwaith hwn yn helpu i lywio camau nesaf y prosiect hwn. Maent ar gael yn Fframwaith Rhedyn Strategol - Ymchwil Rhanddeiliaid (RDE747) - Adroddiad Terfynol ar Zenodo.Com.