Ymchwil ar wireddu’r Cwricwlwm i Gymru mewn addysg heblaw yn yr ysgol: ymateb y llywodraeth
Ein hymateb i astudiaeth y gwerthusiad ar y Cwricwlwm i Gymru mewn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Ar 17 Gorffennaf 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth, a ddatblygwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Bangor, a chwmni ymchwil Arad, Gwireddu’r Cwricwlwm Cymru mewn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion: astudiaeth ansoddol. Mae'r adroddiad hwn yn rhan o werthusiad ffurfiannol y Cwricwlwm i Gymru, astudiaeth aml-flwyddyn a fydd yn rhoi darlun ansoddol a meintiol eang i ni o sut mae'r diwygiadau'n gweithio, sut mae arfer yn newid a sut mae'r newidiadau hyn yn cael eu profi gan uwch arweinwyr, ymarferwyr, dysgwyr a'u teuluoedd.
Mae crynodeb o ganfyddiadau'r adroddiad wedi'i gyhoeddi. Ceisiodd yr astudiaeth ddeall sut mae’r Cwricwlwm i Gymru yn cael ei wireddu'n ymarferol wrth ddarparu addysg heblaw yn yr ysgol, yn ogystal â sut mae lleoliadau ac ymarferwyr yn cael eu cefnogi.
Er bod cyfyngiadau i'r astudiaeth (gan gynnwys bod y sampl dan sylw yn fach ac yn hunan-ddewisol ac felly nid oes modd cyffredinoli ar sail y canfyddiadau), mae'r adroddiad yn cynnig mewnwelediadau helaeth i helpu Llywodraeth Cymru ddatblygu a blaenoriaethu cefnogaeth i ymarferwyr a dysgwyr i barhau i wireddu’r Cwricwlwm i Gymru.
Gwireddu'r cwricwlwm
Rydym yn falch bod llawer o’r cyfranogwyr wedi nodi bod ethos y Cwricwlwm i Gymru, sy'n canolbwyntio ar y dysgwyr, wedi cael effaith gadarnhaol ar agwedd tuag at ddysgu, ac ymgysylltu â dysgu plant sy'n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol, gan eu harwain at ymdeimlad o gyflawniad a mwy o hunanwerth. Rydym hefyd yn falch o weld y rhan fwyaf o gyfranogwyr yn yr astudiaeth yn meithrin dealltwriaeth holistaidd o gynnydd dysgwyr.
Mae fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yn pwysleisio barn broffesiynol, gan ganiatáu i ymarferwyr gynllunio profiadau dysgu pwrpasol a diddorol ar gyfer pob dysgwr, gan gynnwys plant sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol sydd wedi wynebu heriau sylweddol. Rydym yn falch bod ymarferwyr a chynrychiolwyr awdurdodau lleol oedd yn rhan o'r astudiaeth hon yn gwerthfawrogi hyblygrwydd y cwricwlwm, a'i fod yn galluogi dull sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, wedi'i deilwra i anghenion unigol.
Mae’n galonogol bod dulliau sy'n cyd-fynd â phedwar diben y cwricwlwm yn cefnogi dysgwyr sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol, yn enwedig wrth feithrin unigolion iach, hyderus. Dylid annog dulliau creadigol, gan gynnwys strategaethau llythrennedd a rhifedd, dysgu yn yr awyr agored, a phrosiectau cymunedol sy'n diwallu anghenion dysgwyr yn effeithiol.
Nodir yn y canllawiau statudol bod cydweithio systematig yn nodwedd allweddol o ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol, ac mae canfyddiadau'r astudiaeth yn tynnu sylw at bartneriaethau ar draws gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol, yn ogystal â gyda Gyrfa Cymru a chyflogwyr lleol, gan helpu dysgwyr i gysylltu eu haddysg â’u llwybrau yn y dyfodol.
Mae pwyslais ar lais y dysgwyr a chyd-ddatblygu a adroddwyd gan rai cyfranogwyr yn yr astudiaeth hefyd i'w groesawu, gyda chyfranogiad gweithredol gan ddysgwyr a mewnbwn gwerthfawr gan rieni a gofalwyr yn sicrhau profiadau dysgu ystyrlon.
Heriau
Rydym yn cydnabod yr heriau wrth newid arferion sefydledig, er enghraifft wrth annog dulliau trawsgwricwlaidd sy'n gofyn am ddysgu proffesiynol a chefnogaeth.
Rydym yn cydnabod y byddai rhai ymarferwyr oedd yn rhan o'r astudiaeth yn gwerthfawrogi mwy o gefnogaeth gyda monitro cynnydd dysgwyr mewn meysydd anacademaidd, fel lles.
Rydym hefyd yn deall pryderon ymarferwyr ynglŷn â chyflwyno cymwysterau newydd, yn enwedig mewn darpariaeth gyda llai o staff. Wrth i'r cwricwlwm gael ei gyflwyno i ddysgwyr 14 i 16 oed a chyflwyno cymwysterau newydd, bydd cyfathrebu a chydweithio, yn enwedig gydag awdurdodau lleol, yn hanfodol i sicrhau gweithredu effeithiol.
Mae'r nifer cynyddol o blant sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol yn gosod mwy o ofynion ar awdurdodau lleol a darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol. Bydd angen ystyried y pwysau cynyddol hwn, gan sicrhau bod cefnogaeth ac adnoddau priodol ar gael i ddiwallu anghenion pob dysgwr.
Cymorth ar gyfer darparu addysg heblaw yn yr ysgol
Dylai pob dysgwr sy'n cael ei addysgu heblaw yn yr ysgol, waeth beth fo'r ddarpariaeth, gael mynediad at gwricwlwm sy'n bodloni gofynion gorfodol y Cwricwlwm i Gymru. Mae canllawiau statudol y Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys adran benodol ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol.
Mae rhaglen cymorth genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllunio cwricwlwm ac asesu ar gael i ymarferwyr addysg heblaw yn yr ysgol gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion. Mae hyn yn adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi'i wneud, ac ar gefnogaeth effeithiol bresennol yn y system. Mae hyn wedi cynnwys dod â chanllawiau a deunyddiau ategol ynghyd mewn un lle hawdd ei gyrraedd, gyda chefnogaeth cyflwynwyr arbenigol a hyfforddiant un i un i un ar gyfer arweinwyr ysgolion. Maes o law bydd hyn yn cael ei drosglwyddo i'r corff dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth newydd a fydd yn darparu dysgu proffesiynol cenedlaethol cyson i gefnogi ymarferwyr ar hyd llwybrau eu gyrfaoedd.
Rydym wedi cyhoeddi offer a thempledi i fodelu prosesau ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm i ysgolion a lleoliadau, gan gynnwys manylion ychwanegol ar gynnydd ac asesu a sut mae hyn yn edrych ar lawr y dosbarth. Yn unol â'r meysydd i'w hystyried a nodir yn yr adroddiad, rydym yn parhau i annog cyfranogiad darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol a barnau plant yn ein gwaith, a byddwn yn archwilio sut y gall y cyfranogiad hwnnw lywio datblygu enghreifftiau o gynllunio, cynnydd ac asesu’n benodol ar gyfer y cyd-destunau hyn.
Yn ddiweddar, fe wnaethom ymgynghori ar gynigion sy'n ymwneud â'n dull o ddefnyddio data a gwybodaeth i gefnogi dysgu a gwella, ac fe fyddwn yn cadarnhau canlyniadau yn fuan a gosod allan ein camau nesaf yn y maes hwn.
Rydym yn ddiweddar wedi ymgynghori ar gynnig ynghylch ein dull o ddefnyddio data a gwybodaeth i gefnogi dysgu a gwelliant ac fe fyddwn yn cadarnhau canlyniadau yn fuan a phennu ein camau nesaf yn y maes hwn.
Mae hyn yn cynnwys nodi anghenion ac opsiynau ar gyfer datblygu offer a systemau digidol i:
- galluogi llif amserol o ddata fel rhan o ddull sy'n canolbwyntio ar ddysgwr sy'n cefnogi defnydd deallus a chymesur o ddata ar gyfer gwerthuso
- hwyluso cydweithio i gefnogi gwelliant
- darparu cyfathrebu allanol hygyrch o'r hyn sy'n digwydd yn y system addysg
Bydd y gwaith hwn yn ystyried anghenion sy'n ymwneud â darpariaeth a chefnogi dysgwyr sy’n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol.
Rydym yn cydnabod bod mwy o waith i'w wneud ar bob lefel o'r system i sicrhau ein bod yn cefnogi pob dysgwr yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys cael cyfathrebu, rhwydweithiau a strwythurau cymorth cryfach ar gyfer y proffesiwn. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n rhanddeiliaid i wella rhwydweithiau cydweithredol rhwng unedau cyfeirio disgyblion, ysgolion ac awdurdodau lleol. Y nod yw hwyluso dysgu proffesiynol a datblygiad parhaus, a thrwy hynny gefnogi gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru yn effeithiol ar gyfer dysgwyr sy’n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol. Yn ogystal, bydd yn sefydlu dull cydlynol o fonitro cynnydd dysgwyr, gan sicrhau profiadau addysgol cyson ac ystyrlon ar draws pob lleoliad.
Fel rhan o'n hymrwymiad i gefnogi unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol eraill, rydym ar hyn o bryd yn datblygu canllawiau atgyfeirio a chomisiynu mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol yng Nghymru. Bydd y canllawiau hyn yn amlinellu cyfrifoldebau cyfreithiol ysgolion ac awdurdodau lleol wrth gefnogi plant sy'n wynebu heriau mewn addysg brif ffrwd. Bydd yn mynd i'r afael â themâu allweddol a nodwyd trwy ymchwil, llawer ohonynt sy’n adleisio canfyddiadau'r adroddiad hwn, gan gynnwys datblygu dysgu proffesiynol ynghyd â threfniadau pontio gwell i gefnogi cynnydd dysgwyr.
Trwy waith parhaus, rydym wedi adnabod rhanddeiliaid allweddol ar gyfer cyflawni'r newidiadau hyn. Er bod cydweithio â'r rhanddeiliaid hyn yn parhau i fod yn ganolog i'r broses, mae'r canllawiau wedi'u cynllunio i gefnogi a chryfhau'r dull ymhellach. Trwy annog diwylliant o dryloywder a chydweithrediad, rydym yn anelu at adeiladu system addysg fwy integredig sy'n galluogi pob dysgwr i gyrraedd eu potensial llawn.
Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod gan unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol eraill fynediad at gymorth cwricwlwm ac asesu addas, fel y cymorth cenedlaethol a nodir uchod, ac i hwyluso cydweithio rhwng ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol eraill, fel yr awgrymwyd yn y meysydd i'w hystyried yn yr adroddiad.
