Ymgynghoriad ar rheoliadau arfaethedig ar gyfer taliadau uniongyrchol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
Rydym yn ceisio eich barn ar ein cynigion ynghylch rheoliadau ar gyfer taliadau uniongyrchol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio eich barn ar gynigion Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gweithredu taliadau uniongyrchol am ofal iechyd, yn benodol i'r rhai sy'n cael gofal iechyd parhaus (GIP) y GIG. Mae hefyd yn ceisio barn ar newidiadau i'r ffordd y caiff taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal cymdeithasol eu gweinyddu, er mwyn gallu gwneud taliadau uniongyrchol i rywun a enwebir gan dderbynnydd sydd â galluedd meddyliol.
Mae rhan 1 yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ar ddiwygiadau arfaethedig i:
- barn ar Reoliadau Bwrdd Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2009 a fydd yn dirprwyo swyddogaethau i fwrdd iechyd lleol i wneud taliadau uniongyrchol ar ran y Gweinidogion Cymru
Bydd yr ymatebion a geir i'r cwestiwn hwn yn llywio'r ffordd y caiff diwygiadau i'r rheoliadau sy'n ymwneud â swyddogaethau a gyfarwyddir eu drafftio mewn perthynas â'r cynnig hwn.
Mae rhan 2 yr ymgynghoriad yn gofyn am y canlynol:
- barn ar gynnwys arfaethedig rheoliadau ar gyfer taliadau uniongyrchol am ofal iechyd
- barn ar sut y gall canllawiau ategu ac ychwanegu at y rheoliadau i'r rhai sy'n gweithredu neu'n derbyn taliadau uniongyrchol am ofal iechyd
Bydd yr ymatebion a geir i'r cwestiynau hyn yn llywio'r ffordd y caiff rheoliadau eu drafftio, a fydd yn galluogi byrddau iechyd lleol i wneud taliadau uniongyrchol am ofal iechyd, yn benodol ar gyfer unigolion sy'n gymwys i gael GIP, gan ganolbwyntio'n benodol yn y lle cyntaf, ar oedolion sy'n cael GIP.
Mae taliad uniongyrchol am GIP yn golygu y byddai unigolion yn cael arian i drefnu a thalu am eu holl wasanaethau iechyd a gofal eu hunain, neu rai ohonynt, i ddiwallu eu hanghenion asesedig.
Mae rhan 3 yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ar:
- ddiwygiadau arfaethedig i'r rheoliadau (a chod ymarfer perthnasol, fel y bo angen) sy'n ymwneud â thaliadau uniongyrchol ym maes gofal cymdeithasol mewn perthynas â galluogi trydydd parti enwebedig i weinyddu'r taliadau ar ran derbynnydd
Bydd yr ymatebion a geir i'r cwestiwn hwn yn llywio'r ffordd y caiff diwygiadau i'r rheoliadau sy'n ymwneud â thaliadau uniongyrchol ym maes gofal cymdeithasol eu drafftio mewn perthynas â'r cynnig hwn, ac unrhyw ddiwygiadau y gallai fod angen eu gwneud i'r cod ymarfer perthnasol.
Y cefndir
Ar hyn o bryd yng Nghymru, caiff taliadau uniongyrchol eu talu i unigolion neu, mewn achosion priodol, i'w cynrychiolydd, er mwyn eu galluogi i sicrhau gwasanaethau o'u dewis i ddiwallu eu hanghenion cymwys o ran gofal. Hyd yma, dim ond y rhai sy'n cael gofal cymdeithasol drwy awdurdodau lleol sydd wedi gallu cael y taliadau hyn ac nid ydynt wedi bod ar gael i'r rhai sy'n cael GIP. Mae hyn yn wahanol i'r sefyllfa yn Lloegr.
Dros nifer o flynyddoedd, mae rhanddeiliaid wedi codi pryderon am y rhyngwyneb rhwng GIP a thaliadau uniongyrchol yng Nghymru, a'r perygl i lais a rheolaeth pobl pan fyddant yn trosglwyddo o wasanaethau gofal cymdeithasol y mae awdurdod lleol yn gyfrifol am eu trefnu neu'u darparu, gyda thaliadau uniongyrchol, i GIP, lle nad yw'r opsiwn hwnnw ar gael.
Fel cam cyntaf i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon, a hyd nes y cyflwynwyd deddfwriaeth i ganiatáu taliadau uniongyrchol am ofal iechyd yng Nghymru, mae dogfen ddiwygiedig "gofal iechyd parhaus y GIG: y fframwaith gweithredu cenedlaethol yng Nghymru" yn rhoi mwy o bwyslais ar gryfhau llais a rheolaeth unigolion sy'n cael pecyn gofal a ddarperir drwy GIP. Cyhoeddwyd y fframwaith GIP cenedlaethol ym mis Gorffennaf 2021 a daeth i rym ym mis Ebrill 2022.
Ar 24 Mawrth 2025, daeth Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (‘deddf 2025’) yn gyfraith gwlad yng Nghymru. Drwyddi, mae Deddf y GIG (Cymru) 2006 (‘deddf 2006’) bellach yn cynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn bosibl i gyflwyno taliadau uniongyrchol am ofal iechyd yng Nghymru. Yn benodol, mae'r Ddeddf yn diwygio Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i ganiatáu i Weinidogion Cymru wneud taliadau uniongyrchol i unigolion, gan eu galluogi i sicrhau gwasanaethau i ddiwallu eu hanghenion asesedig am ofal iechyd yn lle cael gwasanaethau a gaiff eu darparu neu'u comisiynu gan y GIG yng Nghymru.
Mae'r newid hwn yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi mwy o ddewis a rheolaeth i unigolion sy'n cael GIP dros eu gofal, ac yn enwedig ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ‘wella'r rhyngwyneb rhwng Gofal Iechyd Parhaus (GIP) y GIG a Thaliadau Uniongyrchol’.
Mae'r diwygiau i Ddeddf y GIG (Cymru) 2006 a wnaed gan ddeddf 2025 yn cynnwys:
- pŵer i Weinidogion Cymru wneud taliadau uniongyrchol i oedolion (neu eu cynrychiolydd) y byddai hawl ganddynt fel arall i gael gofal wedi'i gomisiynu neu darparu'n uniongyrchol gan y GIG
- pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch taliadau uniongyrchol
- pan fo Gweinidogion Cymru yn arfer eu pwerau i wneud taliadau uniongyrchol, caniateir iddynt wneud trefniadau gydag unrhyw berson neu gorff i roi cymorth mewn cysylltiad â thaliadau uniongyrchol
Bydd ein dull gweithredu o ran taliadau uniongyrchol am ofal iechyd yn canolbwyntio i ddechrau ar oedolion sy'n cael GIP yn eu cartrefi eu hunain, gan fod adborth gan randdeiliaid wedi dangos mai dyma lle mae'r galw mwyaf am fwy o lais a rheolaeth ar hyn o bryd.
Drwy gyflwyno taliadau uniongyrchol am ofal iechyd, y bwriad yw mynd i'r afael â'r materion a godwyd ynghylch colli annibyniaeth a llais a rheolaeth sy'n effeithio ar unigolion wrth iddynt drosglwyddo o ofal cymdeithasol i GIP. Rhagwelir y bydd hyn yn helpu i sicrhau mwy o degwch a chydraddoldeb i bobl anabl a phobl sy'n ddifrifol wael, p'un a ydynt yn cael gofal gan yr awdurdod lleol neu'r bwrdd iechyd, ac yn cefnogi egwyddorion gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae'r opsiwn i unigolion gael taliadau uniongyrchol am GIP yn golygu y byddant yn cael cymorth sy'n canolbwyntio mwy ar eu dealltwriaeth ohonynt eu hunain a'u hanghenion. Mae hyn yn cyd-fynd ag egwyddorion craidd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl.
Mae'n bwysig nodi nad yw egwyddorion a gwerthoedd craidd y GIG yng Nghymru wedi newid. P'un a yw unigolyn yn cael taliad uniongyrchol i ddiwallu ei anghenion gofal iechyd ai peidio, bydd gofal iechyd ar gael bob amser am ddim ar adeg darparu, yn seiliedig ar angen ac nid y gallu i dalu. Ni chaiff taliadau atodol eu caniatáu ym maes gofal iechyd.
Er mwyn galluogi taliadau uniongyrchol am GIP, mae angen i reoliadau o dan bwerau yn y ddarpariaeth newydd yn rhan 1 o ddeddf 2006 a chanllawiau fod ar waith. Byddwn yn datblygu rheoliadau a chanllawiau i amlinellu sut y bydd Byrddau Iechyd Lleol yn rheoli ac yn darparu taliadau uniongyrchol ar ran Gweinidogion Cymru (y cynigion a geir yn yr ymgynghoriad hwn), a byddwn hefyd yn diwygio Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) 2009 er mwyn gallu dirprwyo'r swyddogaethau hynny. Mae Rhan 1 o'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn ar y cynnig hwn.
Bydd yr ymatebion a ddaw i law fel rhan o'r ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu'r rheoliadau a'r canllawiau sy'n eu cefnogi. Bydd y rheoliadau yn rhan o becyn o is-ddeddfwriaeth a chanllawiau a fydd yn ei gwneud yn bosibl i wneud taliadau uniongyrchol am ofal iechyd. Er y caiff canllawiau cychwynnol eu llunio, cânt eu diweddaru a'u diwygio dros amser gan y bydd cryn dipyn i'w ddysgu am y broses o weithredu taliadau uniongyrchol wrth i'r system newydd ddatblygu.
Dull gweithredu arfaethedig Llywodraeth Cymru
Mae taliadau uniongyrchol wedi cael eu caniatáu am GIP, drwy Gyllidebau Iechyd Personol, ers 2014 yn Lloegr sy'n golygu y bu modd profi a gwreiddio'r dull gweithredu dros sawl blwyddyn. Am y rheswm hwn, ein bwriad yw y bydd ein dull gweithredu o ran y rheoliadau ar gyfer taliadau uniongyrchol am ofal iechyd yng Nghymru yr un fath i raddau helaeth â'r rhai sydd mewn grym yn Lloegr, lle bo hynny'n briodol.
Er mwyn adlewyrchu'r cyd-destun iechyd a gofal yng Nghymru, mae angen cysoni hefyd, lle bo hynny'n briodol, â'r rheoliadau ynghylch taliadau uniongyrchol am ofal cymdeithasol yng Nghymru. Byddai cysondeb â'r set hon o reoliadau yn helpu i sicrhau bod y broses bontio rhwng y systemau taliadau uniongyrchol am ofal iechyd a gofal cymdeithasol mor esmwyth â phosibl.
Rydym yn gwerthfawrogi'r cyfle i gael adborth ar b'un a fydd y dull arfaethedig a amlinellir uchod a chynnwys y Rheoliadau arfaethedig yn cyflawni'r nodau hyn, a sut y gall canllawiau gefnogi'r broses o weithredu taliadau uniongyrchol am ofal iechyd ymhellach.
Y ddogfen ymgynghori a chwestiynau’r ymgynghoriad
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio eich barn ar fwriad y polisi ar gyfer yr is-ddeddfwriaeth sydd ei hangen i nodi sut y dylai taliadau uniongyrchol am ofal iechyd weithredu. Mae'r ddogfen i raddau helaeth yn dilyn strwythur y Rheoliadau sy'n gymwys yn Lloegr, sef Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau Uniongyrchol) 2013, yn unol â'r dull gweithredu a amlinellwyd gennym. Mae'n nodi cynnwys arfaethedig y rheoliadau a fydd yn amlinellu sut y byddai taliadau uniongyrchol am ofal iechyd yn gweithredu.
Ar ddiwedd y ddogfen, mae set o gwestiynau yn gofyn eich barn.
Esboniad o gyfeiriadau at fyrddau iechyd lleol yn gweinyddu taliadau uniongyrchol
Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud taliadau uniongyrchol am ofal iechyd. Fodd bynnag, byddai'r pwerau hyn yn cael eu dirprwyo i fyrddau iechyd lleol (fel y disgrifir uchod). Mae'r disgrifiad o gynnwys arfaethedig y rheoliadau yn cyfeirio at daliadau uniongyrchol yn cael eu gweinyddu gan fyrddau iechyd lleol gan mai nhw fydd yn gyfrifol am arfer y swyddogaethau a ragnodir yn y rheoliadau. Dylid nodi y bydd y trefniadau a'r strwythurau sydd ar waith yn lleol yn effeithio ar y ffordd y caiff cyfrifoldebau eu rhannu ac felly ni nodwyd unrhyw fanylion ynghylch hyn yng nghynnwys arfaethedig y rheoliadau.
Rhan 1: diwygiad arfaethedig i Reoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) 2009
Fel y nodir uchod, er mwyn galluogi taliadau uniongyrchol am GIP, mae angen i reoliadau o dan bwerau yn y ddarpariaeth newydd yn rhan 1 o ddeddf 2006 a chanllawiau fod ar waith. Ynghyd â datblygu rheoliadau a chanllawiau i amlinellu sut y bydd byrddau iechyd lleol yn rheoli ac yn darparu taliadau uniongyrchol ar ran Gweinidogion Cymru (y cynigion a geir yn rhan 2 o'r ymgynghoriad hwn), mae angen gwneud diwygiadau i Reoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) 2009 er mwyn gallu dirprwyo'r swyddogaethau hynny.
Rydym yn gofyn eich barn am yr adran hon o’r ymgynghoriad yng nghwestiwn 1.
Rhan 2: cynnwys arfaethedig rheoliadau ar gyfer gofal iechyd
Personau y caniateir gwneud taliadau uniongyrchol iddynt
Cynigir y caiff bwrdd Iechyd lleol wneud taliad uniongyrchol i berson sy'n gymwys i gael gofal gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), neu mewn cysylltiad â pherson o'r fath. Rydym hefyd yn cynnig bod y rheoliadau'n pennu bod yn rhaid i'r person fod yn oedolyn a'i fod yn cydsynio i daliadau uniongyrchol, yn amodol ar unrhyw ddarpariaeth a wneir mewn perthynas â pherson nad oes ganddo alluedd neu sy'n blentyn. (Byddai'r darpariaethau sy'n ymwneud â phlant yn fesur paratoi at y dyfodol.
Materion y mae'n rhaid i fwrdd iechyd lleol roi sylw iddynt wrth wneud penderfyniad am daliadau uniongyrchol
Yn y rheoliadau rydym hefyd yn cynnig y bydd yn ofynnol fwrdd Iechyd lleol roi sylw i'r materion canlynol wrth benderfynu a ddylid gwneud taliad uniongyrchol:
- a fyddai taliadau o'r fath yn briodol i'r person o ystyried ei amgylchiadau ac a yw ei gyflwr neu gyflyrau iechyd yn addas i fod yn rhan o becyn i'w ariannu drwy daliadau uniongyrchol, (e.e. mae'r cyflwr yn sefydlog, gall gofal gael ei ddirprwyo ac ati)
- effaith y cyflwr hwnnw ar fywyd y person
- a yw taliad uniongyrchol yn cynnig gwerth am arian
- y graddau y byddai'r taliad uniongyrchol yn hyrwyddo llais, dewis a rheolaeth y person
- pwysigrwydd parhad a chynefindra mewn trefniadau gofal
Taliadau uniongyrchol mewn perthynas â phlant
Rydym yn cynnig cynnwys darpariaethau ynghylch gwneud taliadau uniongyrchol mewn perthynas â phlentyn. Nid oes bwriad yng Nghymru i ganolbwyntio i ddechrau ar blant o safbwynt taliadau uniongyrchol am GIP, ond gan nad yw'r ddeddf yn atal hyn; nod y rheoliadau fyddai ei gwneud yn bosibl i daliadau uniongyrchol gael eu gwneud mewn perthynas ag elfen iechyd Gofal Parhaus i Blant a Phobl Ifanc, lle bo'r person hwnnw yn gymwys i gael gofal y GIG, a bod ganddo gynrychiolydd sy'n cydsynio i dderbyn taliadau uniongyrchol ar ei ran, neu o dan amgylchiadau priodol, lle bo'r person ifanc yn gallu rhoi cydsyniad dilys ei hun.
Taliadau uniongyrchol mewn perthynas â phersonau nad oes ganddynt alluedd
Rydym yn cynnig y byddai'r rheoliadau'n nodi gofynion o ran gwneud taliadau uniongyrchol mewn perthynas â phersonau nad oes ganddynt alluedd, lle bo gan y person hwnnw gynrychiolydd sy'n cydsynio i weithredu fel ‘person addas’ a derbyn taliadau uniongyrchol ar ei ran.
Mewn achosion o'r fath, byddai hefyd yn ofynnol i fwrdd iechyd lleol roi sylw i'r materion cyffredinol a nodir uchod ynghylch addasrwydd i gael taliad uniongyrchol, wrth benderfynu a ddylai taliad uniongyrchol gael ei wneud ai peidio.
Personau nad oes cynrychiolydd ar gael ar eu cyfer
Mewn achosion lle nad oes cynrychiolydd ar gael ar gyfer person nad oes ganddo alluedd, rydym yn cynnig y caiff bwrdd Iechyd lleol benodi person sy'n briodol, yn ei farn ef, i dderbyn a rheoli'r taliad uniongyrchol ar ran y person.
Cynrychiolwyr ar gyfer plant a phersonau nad oes ganddynt alluedd i gydsynio i daliadau uniongyrchol
Cynigir y byddai'n rhaid i gynrychiolydd neu berson addas fodloni nifer o ofynion cyn bod taliad uniongyrchol yn cael ei wneud iddynt ar ran person arall. Yn ogystal â chytuno i weithredu ar ran y person, byddai angen iddynt wneud y canlynol:
- gweithredu er lles pennaf y person mewn perthynas â'r taliad uniongyrchol ac wrth sicrhau'r gwasanaethau y mae'r taliad uniongyrchol yn cael ei wneud mewn perthynas â nhw
- bod yn gyfrifol am yr holl drefniadau cytundebol yr ymrwymir iddynt er budd y person ac a gaiff eu sicrhau drwy'r taliad uniongyrchol
- defnyddio'r taliad uniongyrchol yn unol â'r cynllun gofal a chymorth
Colli galluedd neu newid mewn galluedd ar ôl cytuno i daliadau uniongyrchol
Rydym hefyd yn cynnig cynnwys gofynion y dylid eu bodloni pan na fydd gan berson sy'n derbyn taliadau uniongyrchol alluedd i gydsynio mwyach, neu pan fydd y bwrdd iechyd lleol yn credu nad oes ganddo alluedd i gydsynio mwyach.
Rydym yn cynnig y caiff bwrdd iechyd lleol barhau i wneud taliadau uniongyrchol:
- os bydd yn fodlon mai diffyg galluedd dros dro yw hyn yn ôl pob tebyg
- os bydd cynrychiolydd neu berson addas yn cytuno i dderbyn taliadau uniongyrchol ar ran y person
- os caiff y taliadau uniongyrchol eu gwneud ar yr amod bod yn rhaid caniatáu i'r person reoli'r taliad uniongyrchol am unrhyw gyfnod pan fo'r bwrdd iechyd lleol yn fodlon bod gan y person y galluedd i gydsynio i'r taliadau a'i fod hefyd yn gallu eu rheoli
Mewn achos pan fo person nad oes ganddo alluedd yn meithrin galluedd neu'n adennill galluedd, rydym yn cynnig y caiff bwrdd iechyd lleol barhau i wneud y taliadau i gynrychiolydd neu enwebai penodedig yn unol â'r cynllun gofal a chymorth os bydd y person a'i gynrychiolydd neu enwebai yn cydsynio i hynny.
Person enwebedig a all dderbyn taliad uniongyrchol ar ran derbynnydd taliad uniongyrchol sydd â galluedd
Rydym yn bwriadu y bydd y rheoliadau yn amlinellu'r darpariaethau a fydd yn golygu y caiff derbynnydd taliadau uniongyrchol sydd â galluedd enwebu person arall i dderbyn a rheoli taliadau uniongyrchol ar ei ran. Byddai'r rheoliadau yn amlinellu'r amodau i'w bodloni, gan gynnwys y gofyniad i gael cydsyniad yr enwebai a chymeradwyaeth y bwrdd iechyd lleol. Rydym yn cynnig y dylai'r rheoliadau hefyd fynd i'r afael ag enwebiadau a gaiff eu tynnu'n ôl a goblygiadau hynny o ran taliadau yn y dyfodol.
Rydym o'r farn y dylai'r rheoliadau gynnwys gofynion y mae'n rhaid i enwebai eu bodloni er mwyn i daliad uniongyrchol gael ei wneud iddo ar ran derbynnydd taliadau uniongyrchol. Mae'r gofynion arfaethedig yn cynnwys:
- rhaid i'r enwebai gytuno i dderbyn y taliad uniongyrchol a rhaid i'r bwrdd iechyd lleol gytuno i wneud y taliadau uniongyrchol i'r enwebai
- yr angen i fod yn gyfrifol am yr holl drefniadau cytundebol yr ymrwymir iddynt er budd y person ac a gaiff eu sicrhau drwy'r taliad uniongyrchol
- defnyddio'r taliad uniongyrchol yn unol â'r cynllun gofal a chymorth
- cydymffurfio â holl ddarpariaethau perthnasol y rheoliadau
Pan fydd y person sy'n enwebu yn hysbysu'r bwrdd iechyd lleol, yn ysgrifenedig, ei fod am dynnu ei enwebiad yn ôl neu ei newid, cynigir bod yn rhaid i'r bwrdd iechyd lleol ystyried a ddylid rhoi'r gorau i wneud y taliadau a, chyn gynted ag sy'n rhesymol bosibl, adolygu'r penderfyniad i wneud taliadau uniongyrchol.
Rydym yn gofyn eich barn am yr adran hon o’r ymgynghoriad yng nghwestiwn 2.
Penderfyniad i wneud taliad uniongyrchol
Rydym yn cynnig y bydd rheoliadau yn nodi'r gofynion a fydd yn gymwys pan fydd bwrdd iechyd lleol yn penderfynu a ddylid gwneud taliadau uniongyrchol i berson, ei gynrychiolydd neu enwebai. Prif nod y cynnig hwn yw sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn gwneud gwaith ymgynghori ac asesu priodol cyn penderfynu gwneud taliadau uniongyrchol, gan ystyried anghenion, dewisiadau ac amgylchiadau'r person.
Cyn penderfynu a ddylid gwneud taliad uniongyrchol ai peidio, rydym yn cynnig darparu y caiff bwrdd iechyd lleol ymgynghori â'r personau canlynol:
- derbynnydd y taliadau uniongyrchol ac unrhyw un arall a nodir ganddo
- os yw'r person yn blentyn, person sydd â chyfrifoldeb rhianta drosto
- darparwr gofal sylfaenol ac unrhyw berson arall sy'n rhoi gofal i'r person
- unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol, person proffesiynol arall neu eiriolwr sy'n rhoi gwasanaethau iechyd i'r person
- unrhyw dîm gofal cymdeithasol awdurdod lleol sydd wedi bod neu sy'n parhau i fod yn gyfrifol am sicrhau bod anghenion gofal cymdeithasol y person yn cael eu diwallu
- unrhyw berson arall a allai roi gwybodaeth berthnasol ym marn y bwrdd iechyd leol
Rydym yn cynnig y bydd rheoliadau hefyd yn nodi'r wybodaeth y gallai fod angen i berson ei rhoi i'r bwrdd iechyd lleol i'w helpu i wneud penderfyniad, gan gynnwys gwybodaeth am ei iechyd neu unrhyw gyflwr y mae'r taliad uniongyrchol yn cael ei ystyried ar ei gyfer ac unrhyw gyfrif banc y gallai taliad uniongyrchol gael ei drosglwyddo iddo.
Rydym o'r farn y dylai fod yn ofynnol i fwrdd iechyd lleol fodloni ei hun y byddai'r person yn gallu rheoli'r taliad uniongyrchol ei hun neu gyda chymorth priodol a roddir iddo.
Penderfyniad i wneud taliad uniongyrchol
Cyn penderfynu a gaiff taliad uniongyrchol ei wneud i gynrychiolydd person nad oes ganddo alluedd, rydym yn cynnig hefyd y caiff Bwrdd Iechyd Lleol ymgynghori â'r canlynol:
- unrhyw ddirprwy a benodwyd mewn perthynas â'r person gan y Llys Gwarchod o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 sy'n meddu ar yr awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniadau ar ran y person ynghylch materion y gallai'r taliadau uniongyrchol gael eu gwneud mewn perthynas â nhw
- atwrneiaeth arhosol o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 mewn perthynas â derbynnydd y taliadau uniongyrchol
- personau a enwyd gan y person, pan roedd ganddo alluedd, y dylid ymgynghori â nhw
Rydym hefyd yn cynnig bod y rheoliadau yn darparu y caiff bwrdd iechyd lleol ystyried y materion canlynol:
- a yw derbynnydd y taliadau uniongyrchol wedi mynegi dymuniad yn flaenorol am daliad uniongyrchol, pan roedd ganddo alluedd, yn ysgrifenedig neu mewn ffordd ddealladwy arall
- i'r graddau y gellir, yn rhesymol, ganfod beth ydynt: credoau, gwerthoedd, dymuniadau a theimladau'r person
Penderfyniad i wneud taliadau uniongyrchol i enwebai
O safbwynt y darpariaethau sy'n golygu y caiff derbynnydd taliadau uniongyrchol sydd â galluedd enwebu person arall i dderbyn a rheoli taliadau uniongyrchol ar ei ran, rydym yn cynnig nifer o ofynion y mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd lleol eu bodloni, gan gynnwys:
- pan fo enwebai yn berson, ei gwneud yn ofynnol iddo wneud cais am dystysgrif cofnod troseddol fanwl gan gynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion sy'n agored i niwed - oni bai bod yr enwebai yn byw ar yr un aelwyd â derbynnydd y taliadau uniongyrchol, yn aelod o'i deulu neu'n ffrind sy'n ymwneud â'i ofal
- pan fo’r enwebai yn gorff corfforedig neu'n gorff anghorfforedig o bersonau, ei gwneud yn ofynnol i'r person y mae'r corff yn ei enwebu i fod yn bennaf cyfrifol am reoli'r taliadau uniongyrchol o ddydd i ddydd wneud cais am dystysgrif cofnod troseddol fanwl gan gynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion sy'n agored i niwed
At ddibenion y rheoliadau, rydym yn cynnig y caiff aelodau o'r teulu eu nodi fel a ganlyn:
- priod neu bartner sifil derbynnydd y taliadau uniongyrchol
- person sy'n byw gyda derbynnydd y taliadau uniongyrchol fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil
- person sy'n perthyn fel a ganlyn i'r person:
- rhiant
- rhiant yng nghyfraith
- lys-riant
- rhiant, rhiant yng nghyfraith
- neu lys-riant ii. mab neu ferch
- mab yng nghyfraith neu ferch yng nghyfraith
- llys-fab neu lys-ferch
- brawd neu chwaer
- modryb neu ewythr
- tad-cu/taid neu fam-gu/nain
- priod neu bartner sifil unrhyw berson a nodir yn is-baragraff neu bersonau sy'n byw gyda nhw fel pe baent yn briod neu'n bartner sifil
Y gallu i reoli taliad uniongyrchol
Cynigir bod rheoliadau yn nodi, wrth benderfynu a yw’r gallu gan berson, cynrychiolydd neu enwebai i reoli taliad uniongyrchol, y caiff bwrdd iechyd lleol ystyried y canlynol yn benodol:
- a ydynt wedi methu â rheoli taliad uniongyrchol neu daliad uniongyrchol i sicrhau gwasanaethau perthnasol ar gyfer gofal cymdeithasol o dan Reoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2015
- a allant gymryd pob cam rhesymol i atal defnydd twyllodrus o'r taliad uniongyrchol
Hawliau i gael eu hysbysu
Rydym yn cynnig y bydd rheoliadau yn amlinellu ymhellach hawl y person, ei gynrychiolydd neu enwebai i gael eu hysbysu gan y bwrdd iechyd lleol, yn ysgrifenedig, am y penderfyniad ac os na phenderfynir cynnig taliad uniongyrchol, y rheswm dros hynny, lle bo hynny'n berthnasol.
Rydym yn gofyn eich barn am yr adran hon o’r ymgynghoriad yng nghwestiwn 3.
Cynllun gofal a chymorth a chydgysylltydd gofal
Yn y rheoliadau rydym yn cynnig cynnwys gofynion ynghylch paratoi cynllun gofal a chymorth a'r camau i'w cymryd gan fwrdd iechyd lleol cyn y caniateir gwneud taliad uniongyrchol i berson, ei gynrychiolydd neu enwebai.
Rydym hefyd yn cynnig y dylai'r rheoliadau amlinellu rôl a chyfrifoldebau cydgysylltydd gofal a'r gwasanaethau na ddylid eu sicrhau drwy daliad uniongyrchol. Y prif nod wrth wneud hynny fyddai amlinellu'r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch taliadau uniongyrchol, gan gynnwys y meini prawf a'r ystyriaethau y mae'n rhaid i fyrddau iechyd lleol roi sylw iddynt wrth wneud dyfarniad.
Paratoi cynllun gofal a chymorth
Rydym yn cynnig bod yn rhaid i fwrdd iechyd lleol baratoi cynllun gofal a chymorth mewn perthynas â'r gwasanaethau i'w sicrhau drwy daliadau uniongyrchol a gofynion cysylltiedig.
O dan y dull gweithredu arfaethedig, rhaid i fwrdd iechyd lleol nodi'r canlynol mewn cynllun gofal a chymorth:
- unrhyw anghenion iechyd i'w diwallu drwy daliadau uniongyrchol
- canlyniadau iechyd i'w cyflawni drwy ddarparu taliadau uniongyrchol
- gwasanaethau i'w sicrhau drwy'r taliadau uniongyrchol
- swm y taliad uniongyrchol a pha mor aml y caiff taliadau eu gwneud
- enw'r cydgysylltydd gofal
- pwy sy'n gyfrifol am fonitro pob cyflwr iechyd sydd gan y person y caiff taliadau uniongyrchol eu gwneud mewn perthynas â nhw
- dyddiad disgwyliedig yr adolygiad cyntaf yn unol â gofynion a bennir yn y set hon o reoliadau a sut y caiff yr adolygiad hwn ei gynnal
- y cyfnod hysbysu a fydd yn gymwys os bydd awdurdod iechyd lleol, yn dilyn adolygiad, yn penderfynu lleihau'r swm neu roi'r gorau i wneud taliadau uniongyrchol
Cydgysylltydd gofal
Rydym yn cynnig y byddai'r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i fwrdd iechyd lleol enwebu cydgysylltydd gofal, a byddai cyfrifoldebau arfaethedig rôl o'r fath yn cynnwys:
- rheoli'r asesiad o anghenion iechyd ar gyfer y cynllun gofal a chymorth
- sicrhau bod y person neu ei gynrychiolydd wedi cytuno ag unrhyw faterion y nodir bod angen iddynt roi cytundeb yn eu cylch
- monitro neu roi trefniadau ar waith i fonitro'r broses o wneud taliadau uniongyrchol a'r cyflyrau iechyd y caiff y taliadau uniongyrchol eu gwneud mewn perthynas â nhw
- trefnu adolygiadau o'r taliadau uniongyrchol
- bod yn ddolen gyswllt rhwng y person, ei gynrychiolydd neu enwebai a'r bwrdd iechyd lleol mewn perthynas â'r taliadau uniongyrchol
Ystyried risgiau a rheoli risgiau
Rydym yn cynnig y bydd rheoliadau hefyd yn amlinellu gofyniad i'r bwrdd iechyd lleol roi sylw i unrhyw risgiau sylweddol posibl y nodwyd y gallent godi mewn cysylltiad â gwneud taliadau uniongyrchol mewn perthynas â'r derbynnydd.
Rydym yn cynnig hefyd y dylid ystyried unrhyw oblygiadau sy'n perthyn i'r risgiau hynny ac unrhyw ffyrdd cymesur o'u lliniaru. Rhaid i dderbynnydd y taliadau uniongyrchol, ei gynrychiolydd neu enwebai gytuno ag unrhyw weithdrefnau rheoli risg a rhaid eu cynnwys wedyn yn y cynllun gofal a chymorth.
Amlinellir y meysydd canlynol o risg y gellid eu hystyried:
- risg i iechyd derbynnydd y taliadau uniongyrchol
- risg feddygol neu lawfeddygol sy'n deillio o gaffael gwasanaethau penodol
- risg yn sgil cydberthynas gyflogaeth pan gaiff taliadau uniongyrchol eu gwneud i sicrhau gwasanaethau gan gyflogai
- risg y bydd darparwr gwasanaethau yn gweithredu o dan weithdrefn neu bolisi annigonol, os o gwbl, i ymchwilio i gwynion, neu'n gweithredu o dan yswiriant neu indemnedd annigonol, os o gwbl, ar gyfer y gwasanaethau a ddarperir
- risg y bydd arian a delir drwy daliad uniongyrchol yn mynd ar goll, yn cael ei gamddefnyddio neu'n destun twyll
Rydym yn cynnig hefyd bod yn rhaid i'r bwrdd iechyd lleol, mewn ymgynghoriad â derbynnydd y taliadau uniongyrchol neu ei gynrychiolydd, fod yn fodlon y gall y gwasanaethau hynny a nodir yn y cynllun gofal a chymorth ddiwallu'r anghenion iechyd i'w diwallu gan daliadau uniongyrchol. At hynny, rhaid iddynt fod yn fodlon y byddai swm y taliad uniongyrchol yn ddigonol i dalu costau llawn y gwasanaethau a nodwyd.
Gwasanaethau sydd wedi'u heithrio
Rydym hefyd yn cynnig na chaniateir sicrhau'r gwasanaethau canlynol drwy daliad uniongyrchol ac na allant, felly, gael eu cynnwys mewn cynllun gofal a chymorth:
- gwasanaethau meddygol sylfaenol a gwasanaethau meddygon teulu fel y'u diffinnir yn neddf 2006
- ffioedd a godir gan y GIG gan gynnwys gwasanaethau deintyddol neu brofion golwg
- llawdriniaethau a gynlluniwyd
- brechu, imiwneiddio neu sgrinio, gan gynnwys rhaglenni imiwneiddio ar gyfer y boblogaeth gyfan
- gofal iechyd a ddarperir o dan y Rhaglen Mesur Plant Genedlaethol
- gofal a ddarperir fel rhan o Archwiliad Iechyd y GIG
- taliad ar gyfer gamblo, alcohol, tybaco neu ad-dalu dyledion ac eithrio mewn perthynas â gwasanaeth a nodir yn y cynllun gofal a chymorth
O ganlyniad, rydym hefyd yn cynnig y gall derbynnydd y taliadau uniongyrchol, neu ei gynrychiolydd neu enwebai, wneud cais i'r bwrdd iechyd lleol eu hysbysu o'r rhesymau dros benderfyniad i beidio â chynnwys gwasanaeth penodol i'w sicrhau drwy daliadau uniongyrchol yn y cynllun gofal a chymorth. Os daw cais o'r fath i law, rydym yn cynnig bod y rheoliadau yn nodi bod yn rhaid i'r bwrdd iechyd lleol gydymffurfio â'r cais hwnnw.
Taliadau uniongyrchol un-tro
Rydym yn cynnig y gallai “taliad uniongyrchol un-tro” fod yn bosibl os caiff ei gynnwys yn y cynllun gofal a chymorth, ac y byddai'r taliad hwn yn cael ei ddiffinio fel taliad a wneir:
- am un eitem neu wasanaeth
- fel un taliad am hyd at bum eitem neu wasanaeth, lle mai'r taliad hwnnw fydd yr unig daliad y bydd person yn ei gael gan y bwrdd iechyd lleol yn ystod un flwyddyn ariannol
Rydym yn gofyn eich barn am yr adran hon o’r ymgynghoriad yng nghwestiwn 4.
Gwybodaeth, cyngor a chymorth arall
Rydym yn cynnig cynnwys mewn rheoliadau ofyniad bod yn rhaid i fwrdd iechyd lleol sicrhau bod gwybodaeth, cyngor neu gymorth arall yn cael eu darparu i dderbynnydd taliadau uniongyrchol, ei gynrychiolydd neu enwebai mewn perthynas â'r taliadau uniongyrchol a wneir. Byddai darpariaeth o'r fath yn nodi beth y gallai trefniant gan fwrdd iechyd lleol i ddarparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth arall, ei gynnwys.
Rydym yn cynnig y gellid cynnwys yr wybodaeth, y cyngor neu'r cymorth canlynol:
- nodi swm y taliad uniongyrchol a sut y caiff ei gyfrifo
- gwybodaeth am faterion gan gynnwys:
- argaeledd taliadau uniongyrchol fel opsiwn i'r rhai sy'n cael GIP
- y broses o wneud cais am daliad uniongyrchol
- y broses o ddatblygu'r cynllun gofal a chymorth a chytuno arno, gan gynnwys nodi risgiau a chynlluniau lliniaru
- y gyllideb neu gyllideb ddangosol ac unrhyw gyfyngiadau ar wariant
- y broses o reoli'r taliad uniongyrchol
- sut i wneud cais am adolygiad o'r taliad uniongyrchol a'r cynllun gofal a chymorth
- o dan ba amgylchiadau na fydd person yn gymwys mwyach i gael taliad uniongyrchol
- darpariaeth ar gyfer gwasanaethau cysylltiedig â chyflogaeth i gynorthwyo pan fo derbynnydd taliadau uniongyrchol yn cyflogi cynorthwyydd personol
- darparu cymorth i hyfforddi cynorthwywyr personol ac, fel y bo'n berthnasol, wrth gomisiynu gwasanaethau
- pan fo person yn trosglwyddo o daliadau uniongyrchol am ofal cymdeithasol i daliadau uniongyrchol am ofal iechyd, trefniadau rhwng bwrdd iechyd lleol ac awdurdod lleol i gydweithio a chydweithredu
- cymorth i'r rhai sy'n darparu neu'n derbyn taliadau uniongyrchol rwydweithio a chyfnewid gwybodaeth
Yn ychwanegol at yr uchod, os bydd cynllun gofal a chymorth yn pennu gofyniad am wybodaeth, cyngor neu gymorth arall, ein bwriad yw y gallai hwn fod yn wasanaeth y gellid gwneud y taliad uniongyrchol mewn perthynas ag ef.
Rydym yn gofyn eich barn am yr adran hon o’r ymgynghoriad yng nghwestiwn 5.
Amodau y dylai'r rhai sy'n derbyn taliadau uniongyrchol gydymffurfio â nhw
Rydym yn cynnig y dylai'r rheoliadau nodi'r amodau y mae'n rhaid i dderbynnydd taliadau uniongyrchol, ei gynrychiolydd neu enwebai eu bodloni mewn perthynas â'r defnydd a wneir o daliadau uniongyrchol, er mwyn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio'n briodol, yn dryloyw ac yn unol â'r cynllun gofal a chymorth, gan ddiogelu ansawdd a diogelwch y gwasanaethau a gafaelir
Defnyddio taliadau uniongyrchol
O dan y cynigion, rhaid i dderbynnydd taliadau uniongyrchol, ei gynrychiolydd neu enwebai wneud y canlynol:
- defnyddio'r taliadau uniongyrchol at y diben o sicrhau'r gwasanaethau a nodir yn y cynllun gofal a chymorth yn unig
- sicrhau bod y taliadau uniongyrchol yn cael eu defnyddio yn unol â'r cynllun gofal a chymorth, yn benodol i sicrhau y caiff yr ystod lawn o wasanaethau a nodir yn y cynllun eu darparu
Rydym yn cynnig hefyd y caiff bwrdd iechyd lleol osod amodau ychwanegol ar dderbynnydd taliadau uniongyrchol, ei gynrychiolydd neu enwebai, gan gynnwys cyfyngiad ar sicrhau gwasanaethau gan ddarparwr penodedig.
Monitro, goruchwylio a darparu gwybodaeth
Rydym yn cynnig bod yn rhaid i dderbynnydd taliad uniongyrchol, ei gynrychiolydd neu enwebai, ar gais neu ar ôl cyfnod a bennir gan fwrdd iechyd lleol, ddarparu gwybodaeth neu dystiolaeth mewn perthynas â'r canlynol:
- y cyflwr neu'r cyflyrau iechyd neu'r sefyllfa iechyd gyffredinol y caiff y taliad uniongyrchol ei wneud mewn perthynas â nhw
- y canlyniadau iechyd y disgwylir eu sicrhau drwy'r gwasanaethau a ddarperir
- wybodaeth arall sydd ei hangen ym marn y bwrdd iechyd lleol
Os bydd iechyd neu amgylchiadau perthnasol eraill y person yn newid yn sylweddol, rhaid i'r person, ei gynrychiolydd neu enwebai hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol am newidiadau o'r fath.
Diwydrwydd dyladwy wrth sicrhau gwasanaethau
Rydym yn cynnig, os caiff unrhyw wasanaethau eu sicrhau gan ddarparwr heblaw cynorthwyydd personol, bod yn rhaid i dderbynnydd taliadau uniongyrchol, ei gynrychiolydd neu enwebai wneud ymholiadau rhesymol i gadarnhau bod y darparwr wedi bodloni unrhyw ofynion cofrestru proffesiynol a bod ganddo yswiriant neu indemnedd sy'n gymesur â'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r gwasanaethau a ddarperir i dderbynnydd y taliadau uniongyrchol.
Os bydd derbynnydd taliadau uniongyrchol, ei gynrychiolydd neu enwebai yn gofyn i fwrdd iechyd lleol helpu gyda'r ymholiadau a amlinellir uchod, rhaid i'r bwrdd iechyd lleol wneud hynny mewn perthynas â'r darparwr penodedig.
Amodau sy'n ymwneud â chyfrifon banc
Pan fydd bwrdd iechyd lleol wedi penderfynu gwneud taliadau uniongyrchol i berson neu mewn cysylltiad ag unigolyn, rydym yn cynnig mai dim ond i gyfrif a gymeradwyir gan y bwrdd iechyd lleol y dylid gwneud y taliadau hyn, ar yr amod bod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni:
- rhaid iddo allu dal arian at y diben o sicrhau gwasanaethau drwy'r taliad uniongyrchol yn unig
- rhaid bod modd iddo gael ei archwilio gan y bwrdd iechyd lleol neu unrhyw berson a awdurdodir gan y bwrdd drwy gyfeirio at gyfriflenni sy'n nodi ffynhonnell yr holl arian a adneuir a chyrchfan yr holl arian a godir, fel y gellir monitro ac adolygu'r defnydd a wneir o daliadau uniongyrchol yn effeithiol
- dim ond personau a enwir ac a gymeradwyir gan y bwrdd iechyd lleol a gaiff ddefnyddio'r cyfrif; a dim ond i ddal arian a delir drwy'r taliadau uniongyrchol y dylid defnyddio'r cyfrif, ac eithrio yn achos taliad un-tro, fel y nodir uchod
Rydym yn cynnig hefyd y bydd rheoliadau yn amlinellu ymhellach y caiff bwrdd iechyd lleol wneud cais ar gyfnodau penodedig, am wybodaeth neu dystiolaeth sy'n ymwneud â'r cyfrif cymeradwy y telir taliadau uniongyrchol iddo, neu'r gwasanaethau a gaiff eu sicrhau drwy ddefnyddio taliadau uniongyrchol, er mwyn sicrhau mai dim ond i ddarparu'r gwasanaethau a nodir yng nghynllun gofal a chymorth y person y caiff y taliadau eu defnyddio.
Rydym yn gofyn eich barn am yr adran hon o’r ymgynghoriad yng nghwestiwn 6.
Swm y taliad uniongyrchol a monitro ac adolygu'r taliad uniongyrchol
Rydym yn cynnig y bydd rheoliadau yn nodi'r gofynion o ran pennu ac addasu swm y taliadau uniongyrchol a wneir gan fwrdd iechyd lleol i dderbynnydd taliadau uniongyrchol neu mewn cysylltiad ag ef, gan sicrhau bod taliadau o'r fath yn ddigonol o hyd i dalu am gost y gwasanaethau a nodir yn y cynllun gofal a chymorth. Y prif nod yw sicrhau bod y cymorth ariannol a ddarperir drwy daliadau uniongyrchol yn ddigonol, yn ymateb i newidiadau mewn anghenion, ac yn cyd-fynd â'r gwasanaethau a amlinellir yn y cynllun gofal a chymorth
Pennu'r swm
Rydym yn cynnig bod yn rhaid i fwrdd iechyd lleol sicrhau bod swm unrhyw daliad uniongyrchol a wneir i dderbynnydd taliadau uniongyrchol neu mewn cysylltiad ag ef yn ddigonol i dalu cost lawn pob gwasanaeth a nodir yn y cynllun gofal a chymorth.
Newidiadau i gyflwr iechyd
Os caiff bwrdd iechyd lleol ei hysbysu, neu os daw i wybod drwy ffordd arall, fod sefyllfa iechyd derbynnydd y taliadau uniongyrchol wedi newid yn sylweddol, ond ei fod yn teimlo nad oes angen cynnal adolygiad ffurfiol, rydym yn cynnig bod yn rhaid i fwrdd iechyd lleol fod yn fodlon, serch hynny, fod swm y taliadau uniongyrchol yn ddigonol o hyd.
Gwrthbwyso arian nas defnyddir
Yn ogystal, rydym yn cynnig y caiff bwrdd iechyd lleol leihau swm y taliadau uniongyrchol sy'n ddyledus mewn perthynas â chyfnod penodol o swm nad yw'n fwy na gwerth taliadau nas defnyddiwyd a wnaed yn flaenorol, o dan yr amgylchiadau canlynol:
- pan fo taliadau uniongyrchol wedi cronni ac yn parhau heb eu defnyddio
- pan fo’r bwrdd iechyd lleol o'r farn ei bod yn rhesymol gwrthbwyso'r arian a gronnwyd yn erbyn y swm sy'n ddyledus ar gyfer y cyfnod hwnnw
Addasu swm y taliad a hysbysiad o leihad
Rydym yn cynnig gwneud darpariaeth yn y rheoliadau i bennu y caiff bwrdd iechyd lleol, ar unrhyw adeg, gynyddu neu leihau swm y taliadau uniongyrchol, ar yr amod ei fod yn fodlon bod y swm diwygiedig yn ddigonol o hyd i dalu cost lawn y gwasanaethau a nodir yn y cynllun gofal a chymorth. Os bydd bwrdd iechyd lleol yn penderfynu lleihau swm y taliadau uniongyrchol, rydym yn cynnig hefyd y dylai fod yn ofynnol i'r bwrdd iechyd lleol roi hysbysiad ysgrifenedig rhesymol i dderbynnydd y taliadau uniongyrchol, ei gynrychiolydd neu enwebai, gan nodi'r rhesymau dros y penderfyniad.
Monitro ac adolygu taliadau uniongyrchol
Rydym yn cynnig y dylai rheoliadau nodi dyletswyddau bwrdd iechyd lleol mewn perthynas â monitro'n barhaus y taliadau uniongyrchol y mae wedi'u gwneud a'u hadolygu'n rheolaidd, gan gynnwys o dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid cynnal adolygiad neu y ceir gwneud hynny, a'r camau a gaiff ddilyn adolygiad o'r fath. Y prif nod yw sicrhau bod taliadau uniongyrchol yn parhau i ddiwallu anghenion iechyd derbynnydd y taliadau uniongyrchol yn effeithiol, eu bod yn cael eu defnyddio'n briodol, a'u bod yn cyd-fynd o hyd â'r cynllun gofal a chymorth drwy oruchwyliaeth reolaidd ac ymyriadau amserol.
Rydym yn cynnig bod yn rhaid i fwrdd iechyd lleol fonitro'r canlynol:
- y broses o wneud taliadau uniongyrchol i dderbynnydd taliadau uniongyrchol neu mewn cysylltiad ag ef
- y cyflyrau iechyd y caiff y taliadau uniongyrchol eu gwneud mewn perthynas â nhw
Rydym hefyd yn cynnig bod yn rhaid i fwrdd iechyd lleol adolygu'r broses o wneud taliadau uniongyrchol:
- ar gyfnodau amser priodol
- o leiaf unwaith o fewn y 3 mis cyntaf ar ôl dechrau gwneud taliadau uniongyrchol
- ar ôl hynny, bob 12 mis o leiaf
Os caiff bwrdd iechyd lleol ei hysbysu, neu os daw i wybod drwy ffordd arall, fod sefyllfa iechyd derbynnydd y taliadau uniongyrchol wedi newid yn sylweddol, neu os daw i'r amlwg nad yw'r taliadau uniongyrchol wedi bod yn ddigonol i sicrhau'r gwasanaethau a nodir yn y cynllun gofal a chymorth, rydym yn cynnig bod yn rhaid i'r bwrdd iechyd lleol gynnal adolygiad.
Wrth gynnal adolygiad, rydym yn cynnig y bydd yn ofynnol i fwrdd iechyd lleol wneud y canlynol o dan y rheoliadau:
- adolygu'r cynllun gofal a chymorth i bennu a yw'n diwallu anghenion iechyd y person o hyd
- asesu a yw'r taliadau uniongyrchol wedi cael eu defnyddio'n effeithiol
- ystyried a yw swm y taliadau uniongyrchol yn ddigonol o hyd i dalu cost lawn y gwasanaethau a nodir yn y cynllun gofal a chymorth
- pennu a yw derbynnydd y taliadau uniongyrchol, ei gynrychiolydd neu enwebai wedi cydymffurfio â'u rhwymedigaethau fel y nodir uchod
Rydym hefyd yn cynnig y caiff Bwrdd Iechyd Lleol wneud y canlynol yn ystod adolygiad:
- ailasesu anghenion iechyd derbynnydd y taliadau uniongyrchol mewn perthynas â'r gwasanaethau a gaiff eu sicrhau drwy daliadau uniongyrchol
- ymgynghori ag unrhyw rai o'r personau y cyfeiriwyd atynt yn flaenorol
- asesu a yw'r taliadau uniongyrchol wedi cael eu rheoli'n effeithiol, gan gynnwys, lle bo angen, edrych ar dderbynebau, cyfriflenni banc, neu gofnodion ariannol perthnasol eraill
Adolygiad ar gais y person, cynrychiolydd neu enwebai
Pan fydd derbynnydd taliadau uniongyrchol, ei gynrychiolydd neu enwebai yn gwneud cais am adolygiad, rydym yn cynnig bod rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r bwrdd iechyd lleol benderfynu a ddylid cynnal adolygiad, gan ystyried arferion ac amgylchiadau lleol; a chynnal yr adolygiad yn unol ag unrhyw reoliadau a chanllawiau perthnasol.
Camau gweithredu yn dilyn adolygiad
Yn dilyn adolygiad, rydym yn cynnig bod y rheoliadau yn darparu y caiff bwrdd iechyd lleol, gan roi sylw i'r cynllun gofal a chymorth ac unrhyw ymgyngoriadau neu ymholiadau, wneud y canlynol:
- diwygio'r cynllun gofal a chymorth
- pennu bod cynrychiolydd neu enwebai yn derbyn y taliadau uniongyrchol
- cynyddu, cadw neu leihau swm y taliadau uniongyrchol
- gosod amodau ar dderbynnydd y taliadau uniongyrchol, ei gynrychiolydd neu enwebai, gan gynnwys:
- cyfyngiad ar sicrhau gwasanaethau gan ddarparwr penodedig
- ofyniad i ddarparu gwybodaeth ychwanegol nad oedd yn ofynnol yn flaenorol
- gymryd unrhyw gamau eraill sy'n briodol yn ei farn ef
Hysbysiad o leihad neu fwriad i ddod â'r taliadau i ben
Os bydd bwrdd iechyd lleol yn penderfynu lleihau swm y taliadau uniongyrchol neu roi'r gorau i wneud taliadau uniongyrchol yn dilyn adolygiad, rydym yn cynnig hefyd fod yn rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig rhesymol i dderbynnydd y taliadau uniongyrchol ac unrhyw gynrychiolydd neu enwebai, gan nodi'r rhesymau dros y penderfyniad.
Adolygiad arall ar gais
Ar ôl cael hysbysiad o'r fath, rydym yn cynnig y caiff derbynnydd y taliadau uniongyrchol, ei gynrychiolydd neu enwebai wneud cais am adolygiad arall a chyflwyno tystiolaeth neu wybodaeth ychwanegol i'w hystyried.
Rhaid i fwrdd iechyd lleol roi hysbysiad ysgrifenedig o ganlyniad unrhyw adolygiad pellach, gan gynnwys y rhesymau dros ei benderfyniad.
Yn olaf, rydym yn cynnig y dylai rheoliadau amlinellu nad yw'n ofynnol i fwrdd iechyd lleol gynnal mwy nag un adolygiad pellach yn dilyn penderfyniad i leihau taliadau uniongyrchol neu roi'r gorau iddynt.
Atal dros dro
Rydym yn cynnig y bydd rheoliadau yn nodi o dan ba amgylchiadau y caiff bwrdd iechyd lleol atal taliadau uniongyrchol dros dro, tra bod adolygiad neu ymchwiliad yn mynd rhagddo. Y prif nod yw cynnig ffordd o atal taliadau dros dro os ceir ansicrwydd ynghylch cymhwystra, camddefnyddio arian neu os bydd angen ailasesu cynllun gofal a chymorth neu alluedd derbynnydd y taliadau uniongyrchol, heb ddod â'r trefniant i ben ar unwaith.
Rydym hefyd yn cynnig bod yn rhaid i unrhyw wybodaeth a ddarperir i fwrdd iechyd lleol fodloni'r amodau canlynol:
- bod yn ddarllenadwy
- cynnwys yr awdurdodiad perthnasol i wneud copïau neu lunio detholiadau lle bo hynny'n briodol
- os gofynnir am hynny, cynnwys esboniad gan y sawl sy'n darparu'r wybodaeth o unrhyw beth sydd wedi cael ei ddarparu, neu ddatganiad hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred gan gynnwys ynghylch ble y caiff gwybodaeth neu dystiolaeth nas darparwyd gan y person ei chadw
Rydym yn gofyn eich barn am yr adran hon o’r ymgynghoriad yng nghwestiwn 7.
Ad-dalu ac adennill taliadau uniongyrchol a rhoi'r gorau i wneud taliadau uniongyrchol
Rydym yn cynnig y bydd y rheoliadau yn ymdrin â'r amgylchiadau pan gaiff bwrdd iechyd lleol ei gwneud yn ofynnol i daliadau uniongyrchol gael eu had-dalu neu roi'r gorau i wneud taliadau uniongyrchol, y broses ar gyfer hysbysu'r unigolion dan sylw, a hawliau'r unigolion hynny i wneud cais i'r penderfyniad gael ei ailystyried.
Yn benodol, rydym yn cynnig y caiff bwrdd iechyd lleol ei gwneud yn ofynnol i daliad uniongyrchol gael ei ad-dalu'n rhannol neu'n llawn os bydd yn fodlon bod ad-daliad o'r fath yn briodol, gan roi sylw penodol i'r canlynol:
- a yw'r cynllun gofal a chymorth wedi newid yn sylweddol
- a yw amgylchiadau derbynnydd y taliadau uniongyrchol wedi newid yn sylweddol
- a oes cyfran sylweddol o'r taliadau uniongyrchol heb gael ei defnyddio i sicrhau'r gwasanaethau a nodir yn y cynllun gofal a chymorth ac wedi cronni
- a yw'r taliadau uniongyrchol wedi cael eu defnyddio at ddibenion eraill heblaw am y rhai a nodir yn y cynllun gofal a chymorth
- a oes achos o ddwyn, twyll neu drosedd arall wedi digwydd o bosibl mewn cysylltiad â'r taliadau uniongyrchol
- a yw'r person sy'n cael y taliadau wedi marw
Os bydd bwrdd iechyd lleol yn penderfynu bod angen ad-daliad, rydym yn cynnig bod yn rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig rhesymol i'r unigolyn ac unrhyw gynrychiolydd neu enwebai, gan nodi'r rhesymau dros y penderfyniad, y swm i'w ad-dalu, ac erbyn pryd y mae'n rhaid gwneud yr ad-daliad.
Os bydd derbynnydd y taliadau uniongyrchol wedi marw, rydym yn cynnig bod yn rhaid cyflwyno'r hysbysiad i'w gynrychiolwyr personol.
Ailystyried
Ar ôl cael hysbysiad sy'n gofyn am ad-daliad, rydym yn cynnig y caiff derbynnydd y taliadau uniongyrchol, cynrychiolydd personol, cynrychiolydd neu enwebai wneud cais i'r bwrdd iechyd lleol ailystyried ei benderfyniad. Cânt hefyd gyflwyno tystiolaeth neu wybodaeth berthnasol i'r bwrdd iechyd lleol roi sylw iddi wrth iddo ailystyried ei benderfyniad.
Ar ôl cael cais i ailystyried, ein cynnig yw bod yn rhaid i'r bwrdd iechyd lleol hysbysu'r unigolyn ac unrhyw gynrychiolydd personol, cynrychiolydd neu enwebai yn ysgrifenedig o'i benderfyniad.
Rydym yn cynnig nad yw'n ofynnol i fwrdd iechyd lleol ailystyried yr achos fwy nag unwaith yn dilyn penderfyniad i ofyn am ad-daliad.
Rydym yn cynnig hefyd y caiff bwrdd iechyd lleol hepgor unrhyw ad-daliad yn rhannol neu'n llawn, boed ar ôl y penderfyniad cychwynnol, neu ar ôl ailystyried.
Adennill mewn achosion lle ceir amheuaeth o drosedd
Os bydd bwrdd iechyd lleol wedi penderfynu bod yn rhaid i swm gael ei ad-dalu a bod y penderfyniad hwnnw wedi cael ei wneud am fod achos o ddwyn, twyll neu drosedd arall wedi digwydd o bosibl mewn cysylltiad â'r taliad uniongyrchol, rydym yn cynnig hefyd y caiff y swm dan sylw gael ei adennill fel dyled sifil.
Rydym yn cynnig y bydd rheoliadau yn amlinellu hefyd nad yw'r ddarpariaeth ar gyfer adennill swm fel dyled sifil yn effeithio nac yn cyfyngu ar unrhyw ddull adennill arall sydd ar gael i'r bwrdd iechyd lleol.
Rhoi'r gorau i wneud taliadau uniongyrchol
Rydym yn cynnig cynnwys mewn rheoliadau o dan ba amgylchiadau y caiff bwrdd iechyd lleol roi'r gorau i wneud taliadau uniongyrchol os bydd yn fodlon ei bod yn briodol gwneud hynny, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig, i'r amgylchiadau canlynol:
- pan fydd person, nad yw'n blentyn, sydd â galluedd i gydsynio, yn gwrthod cydsynio neu'n tynnu cydsyniad i daliadau uniongyrchol yn ôl
- pan na fydd gan blentyn, neu berson nad oes ganddo alluedd i gydsynio, gynrychiolydd mwyach sy'n cydsynio i daliadau uniongyrchol
- pan na fydd y person y caiff y taliadau uniongyrchol eu gwneud mewn perthynas ag ef yn cael gwasanaethau iechyd mwyach
- pan nad ystyrir bod y cynrychiolydd neu'r enwebai yn berson addas i dderbyn taliadau uniongyrchol mwyach, neu nad yw'n cytuno i dderbyn y taliadau uniongyrchol neu fod ei enwebiad wedi cael ei dynnu yn ôl;
- pan fydd y taliadau uniongyrchol wedi cael eu defnyddio at ddibenion nas nodir yn y cynllun gofal a chymorth
- pan fydd y bwrdd iechyd lleol o'r farn bod achos o ddwyn, twyll neu drosedd arall wedi digwydd o bosibl mewn cysylltiad â'r taliadau uniongyrchol
- pan na ellir diwallu anghenion iechyd y person, neu pan nad yw anghenion iechyd y person y cael eu diwallu, drwy wasanaethau a gaiff eu sicrhau drwy daliadau uniongyrchol
- pan fydd y person wedi marw
Os bydd bwrdd iechyd lleol yn penderfynu rhoi'r gorau i wneud taliadau uniongyrchol, rydym yn cynnig hefyd fod yn rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig rhesymol i dderbynnydd y taliadau uniongyrchol ac unrhyw gynrychiolydd neu enwebai, gan nodi'r rhesymau dros y penderfyniad.
Yn achos person a fu farw, rydym yn cynnig bod yn rhaid cyflwyno'r hysbysiad i'w gynrychiolwyr personol.
Ar ôl cael hysbysiad o'r fath, rydym yn cynnig y caiff derbynnydd y taliadau uniongyrchol, cynrychiolydd personol, cynrychiolydd neu enwebai wneud cais i'r bwrdd iechyd lleol ailystyried ei benderfyniad. Cânt hefyd gyflwyno tystiolaeth neu wybodaeth berthnasol i'r bwrdd iechyd lleol ei hystyried.
O dan amgylchiadau o'r fath, rydym yn cynnig y bydd y rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i fwrdd iechyd lleol hysbysu derbynnydd y taliadau uniongyrchol ac unrhyw gynrychiolydd personol, cynrychiolydd neu enwebai yn ysgrifenedig o ganlyniad y broses ailystyried, gan gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad.
Rydym yn cynnig na ddylai fod yn ofynnol i fwrdd iechyd lleol ailystyried yr achos fwy nag unwaith yn dilyn penderfyniad i roi'r gorau i wneud taliadau uniongyrchol.
Rydym yn gofyn eich barn am yr adran hon o’r ymgynghoriad yng nghwestiwn 8.
Rhan 3: diwygiad arfaethedig i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Gwneud darpariaeth ar gyfer taliad uniongyrchol mewn perthynas â gofal cymdeithasol i'w wneud i drydydd parti, hynny yw unigolyn enwebedig neu sefydliad
Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 yn cynnwys darpariaethau sy'n ailddatgan, gyda rhai newidiadau, ddarpariaethau yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf 2014) sy'n ymwneud â gwneud taliadau uniongyrchol mewn perthynas â gofal cymdeithasol. Mae deddf 2025 hefyd yn gwneud diwygiad i ran 4 o ddeddf 2014 i ganiatáu i awdurdodau lleol wneud taliadau uniongyrchol i berson (naill ai unigolyn enwebedig neu sefydliad) pan fod gan y person y gallai'r taliad fod wedi cael ei wneud iddo fel arall y galluedd i gydsynio i'r taliad uniongyrchol (neu, yn achos plentyn, pan fo'r awdurdod lleol yn tybio bod ganddo ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus am gydsynio i daliadau uniongyrchol). Gwnaed y diwygiad hwn i gyd-fynd ag arferion presennol a sicrhau hawliau cyfatebol i'r rhai a arferir ar hyn o bryd gan oedolion sy'n derbyn taliad uniongyrchol nad oes ganddynt alluedd, pan gaiff “person addas” dderbyn a rheoli'r taliad ar ei ran.
Rydym yn bwriadu y caiff y rheoliadau presennol a wnaed o dan ddeddf 2014, sy'n ymwneud â'r broses o wneud taliadau uniongyrchol am ofal cymdeithasol, eu hail-wneud o ganlyniad i'r darpariaethau newydd yn rhan 4 o ddeddf 2014. Rydym yn cynnig y bydd y rheoliadau hyn yn cynnwys diwygiadau mewn perthynas â gallu person sy'n cael taliad uniongyrchol am ofal cymdeithasol sydd â galluedd meddyliol i enwebu person i dderbyn a rheoli ei daliad uniongyrchol. Byddwn hefyd yn gwneud diwygiadau cyfatebol i'r cod ymarfer ar ddiwallu anghenion o dan ran 4 o ddeddf 2014, os bydd angen gwneud hynny.
Caiff y cynnig hwn ei gynnwys yn yr ymgynghoriad hwn am ei fod hefyd yn ymwneud â thaliadau uniongyrchol. Byddem yn croesawu eich barn ar y newid hwn i'r ddeddfwriaeth, sy'n cael ei wneud er mwyn cysoni arferion presennol a'r ddeddfwriaeth, a pharhau i gefnogi bwriad y polisi i sicrhau mwy o ddewis a threfniadau gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Rydym yn gofyn eich barn am yr adran hon o’r ymgynghoriad yng nghwestiwn 9.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
Beth yw eich barn ar y cynnig i ddiwygio Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) 2009 fel bod y swyddogaeth o wneud taliadau uniongyrchol yn cael ei dirprwyo i fyrddau iechyd lleol?
Cwestiwn 2
Beth yw eich barn ar yr amgylchiadau pan ganiateir gwneud taliadau uniongyrchol, a'r personau y caniateir gwneud taliadau uniongyrchol iddynt? Rhannwch unrhyw awgrymiadau ynghylch unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau yr hoffech eu gweld.
Cwestiwn 3
Beth yw eich barn ar y gwaith ymgynghori ac asesu y dylai bwrdd iechyd lleol ei gyflawni cyn penderfynu a ddylid gwneud taliadau uniongyrchol? Rhannwch unrhyw awgrymiadau ynghylch unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau yr hoffech eu gweld.
Cwestiwn 4
Beth yw eich barn ar y cynllun gofal a chymorth, y cydgysylltydd gofal a thaliadau uniongyrchol un-tro? Rhannwch unrhyw awgrymiadau ynghylch unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau yr hoffech eu gweld.
Cwestiwn 5
Beth yw eich barn ar ein cynigion ynghylch gwybodaeth, cyngor a chymorth? Rhannwch unrhyw awgrymiadau ynghylch unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau yr hoffech eu gweld.
Cwestiwn 6
Beth yw eich barn ar amodau y dylai'r rhai sy'n derbyn taliadau uniongyrchol gydymffurfio â nhw? Rhannwch unrhyw awgrymiadau ynghylch unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau yr hoffech eu gweld.
Cwestiwn 7
Beth yw eich barn ar swm y taliadau uniongyrchol a monitro ac adolygu'r taliadau uniongyrchol? Rhannwch unrhyw awgrymiadau ynghylch unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau yr hoffech eu gweld.
Cwestiwn 8
Beth yw eich barn ar ad-dalu ac adennill taliadau uniongyrchol a rhoi'r gorau i wneud taliadau uniongyrchol? Rhannwch unrhyw awgrymiadau ynghylch unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau yr hoffech eu gweld.
Cwestiwn 9
Beth yw eich barn ar wneud darpariaeth mewn rheoliadau (a, lle bo angen, mewn cod ymarfer) ar gyfer gwneud taliad uniongyrchol mewn perthynas â gofal cymdeithasol i drydydd parti enwebedig? Rhannwch unrhyw awgrymiadau ynghylch unrhyw bwyntiau penodol y byddai angen mynd i'r afael â nhw.
Cwestiwn 10
Byddwn yn gweithio i sicrhau y caiff y rheoliadau a gynigir yn y ddogfen ymgynghori hon eu hategu gan ganllawiau i helpu'r rhai sy'n derbyn taliadau uniongyrchol ac ymarferwyr i ddeall sut y dylai'r system weithredu. Pa bynciau neu faterion penodol y dylid eu cynnwys yn y canllawiau i ategu'r rheoliadau arfaethedig ymhellach?
Cwestiwn 11
Beth yw eich barn ar effaith debygol cynnwys arfaethedig y rheoliadau ar grwpiau penodol o bobl, yn enwedig y rhai â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010? Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi?
Cwestiwn 12
Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol cynnwys arfaethedig y rheoliadau ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Cwestiwn 13
Yn eich barn chi, a allai'r cynigion gael eu llunio neu eu newid er mwyn:
- cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
- liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?
Cwestiwn 14
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi eu trafod yn benodol ond yr hoffech rannu eich barn arnynt, gan gynnwys effeithiau eraill i’r cynigion hyn, megis cost, defnyddiwch y lle hwn i roi gwybod inni.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 8 Hydref 2025, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
- cwblhau ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho, cwblhau ein ffurflen ymateb a chyfuno: IGC.YmgynghoriadTaliadauUniongyrchol@llyw.cymru
- lawrlwytho, cwblhau ein ffurflen ymateb a'i phostio i:
Y Tîm Polisi Taliadau Uniongyrchol
Yr Is-adran Cynhwysiant a Busnes Corfforaethol
Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Cynnwyswch y gyfeirnod WG52343.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.
Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Manylion cyswllt
I gyfer gwybodaeth bellach am y ymgynghoriad hwn cysylltwch â:
Tîm Polisi Dileu Elw
Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: removingprofit@gov.wales
Mwy o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Rhif: WG52343.
Mae fersiynau print mawr, Braille a iaith amgen o'r ddogfen hon ar gael ar gais.
Os ydych yn ei hangen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.
