Storiau pobl go iawn band eang yng Nghymru: Julie o Sir Gaerfyrddin
Cysylltiad rhyngrwyd symudol i fod yn falch ohono i chwaraewr gwyddbwyll lefel cynghrair a chwaraewr gemau brwdfrydig yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin.
Mae Julie yn byw mewn ffermdy yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin gyda'i gŵr a thri labrador du. Oherwydd lleoliad anghysbell ei ffermdy roedd hi wedi bod yn cael trafferth gyda chysylltiad rhyngrwyd araf iawn o tua 2mbps a fyddai weithiau'n diffodd yn llwyr.
Dywedodd Julie ei bod hi'n teimlo'n hynod rwystredig am y sefyllfa, yn enwedig oherwydd ei bod hi'n dibynnu gymaint ar y rhyngrwyd ar gyfer tasgau bob dydd. Mae Julie'n cyfaddef ei bod hi'n frwdfrydig iawn am chwarae gemau ac roedd hi'n gweld chwarae ar-lein yn hynod araf a rhwystredig. Fel chwaraewr gwyddbwyll lefel cynghrair, bu'n rhaid iddi roi'r gorau i gêm hanner ffordd drwyddi oherwydd bod ei chysylltiad rhyngrwyd wedi methu.
Wrth siarad â chymydog gwnaeth Julie ddarganfod opsiynau eraill sydd ar gael ar gyfer cael cyflymder rhyngrwyd cyflymach. Defnyddiodd gynllun grant Allwedd Band Eang Cymru (ABC) gan Lywodraeth Cymru i ariannu costau offer a gosod ar gyfer cysylltiad band eang symudol newydd. Mae'r cynllun yn darparu cyllid grant i gefnogi'r gwaith o osod atebion band eang i gartrefi a busnesau yng Nghymru nad ydynt yn gallu sicrhau cysylltiad cyflym dros 30Mbps drwy unrhyw ffordd arall.
Gosodwyd band eang symudol yng nghartref Julie. Cafodd antena allanol ei osod y tu allan i'w thŷ sy'n darparu cysylltiad band eang symudol i lwybrydd y tu mewn i'w chartref.
Dywedodd Julie:
"Mae gwybod bod y rhyngrwyd yno bob amser yn gwneud gwahaniaeth mawr. Hyd yn hyn nid yw erioed wedi diffodd. Rydw i nawr yn cystadlu mewn llawer o gemau ar-lein gan wybod y byddaf yn gallu cwblhau'r gystadleuaeth heb fod y rhyngrwyd datgysylltu. Rwyf hefyd yn prynu llawer o gemau ar-lein. Roedd yn arfer cymryd diwrnod cyfan i lawrlwytho gêm gyffredin ond nawr mae'n cymryd munudau.
“Mae ffrydio bellach yn anhygoel! Roeddwn i'n arfer cael y "cylch bach diflas yn troelli" pan oedden ni'n ceisio gwylio unrhyw beth ond nawr mae'n hynod sefydlog a gallwn wylio ffilm o unrhyw hyd bellach. Mae gennym dŷ mawr ond mae'r rhyngrwyd yn cyrraedd pob ystafell felly rydyn ni hyd yn oed wedi gosod teledu clyfar i fyny'r grisiau, a fyddai wedi bod yn amhosibl o'r blaen.
"Pan mae pobl yn dod draw ac maen nhw eisiau defnyddio'r rhyngrwyd roedd yn arfer achosi embaras, ond nawr rydyn ni'n falch o'n cyflymderau a'n sefydlogrwydd.
“Byddwn yn bendant yn argymell cynllun Allwedd Band Eang Cymru Llywodraeth Cymru gan ei fod wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i'n bywyd bob dydd.”
Cael band eang cyflymach
Mae band eang yn ffordd o gysylltu â’r rhyngrwyd. Ni waeth pa gyflymderau sydd eu hangen arnoch chi, mae opsiynau a chymorth ar gael ichi.
