Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Rhaglen Bwndeli Babi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Bwndeli Babi Cymru yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru gyda'r nod o helpu teuluoedd a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Bydd y rhaglen yn targedu pob teulu sy'n disgwyl plentyn ac sy'n byw yn un o ardaloedd craidd Dechrau'n Deg. Bydd bydwragedd hefyd yn gallu cynnig Bwndel Babi i rai teuluoedd sydd angen mwy o gymorth, ond nad ydynt yn byw mewn ardal Dechrau'n Deg, trwy waith maes. Mae'r Bwndeli Babi yn cynnwys amrywiaeth o eitemau i helpu babanod a theuluoedd ar gyfnod pwysig yn eu bywydau.

Mae Allied Publicity Services (APS) yn rheoli'r gwaith o gyflenwi a dosbarthu Bwndeli Babi, ar ran Llywodraeth Cymru.

Fel rhan o'r rhaglen hon bydd APS yn casglu gwybodaeth trwy ffurflenni cofrestru. Bydd APS a'i is-gontractwyr yn defnyddio'r wybodaeth hon i wirio eich cymhwystra ar gyfer y cynllun ac i ddarparu'r math cywir o fwndel i chi ar yr adeg iawn. Bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych hefyd yn cael ei defnyddio at ddibenion monitro a gwerthuso'r rhaglen. 

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer y rhaglen a bydd yn derbyn copi o'r data a gesglir gan APS at ddibenion gwerthuso ac ymchwil.

Mae cymryd rhan yn y rhaglen hon yn fater cwbl wirfoddol.

Y cyswllt ar gyfer y rhaglen hon yw Allied Publicity Services (APS)

Cyfeiriad e-bost: Baby.bundles@case-uk.co.uk

Rhif ffôn: 0800 2545324

Pa ddata personol a gedwir gennym, ac o ble rydym yn cael yr wybodaeth hon?

Byddwch yn cwblhau'r ffurflen gofrestru gyda'ch bydwraig yn eich apwyntiad cynenedigol 25-28 wythnos os byddwch yn dewis derbyn bwndel. 

Fel rhan o'r rhaglen hon, byddwn yn casglu'r wybodaeth bersonol ganlynol am y rhiant sy'n disgwyl:

  • Enw, cyfeiriad, rhif ffôn, e-bost a dyddiad geni
  • Dyddiad geni disgwyliedig y babi/babanod a nifer y babanod
  • Dyddiad geni y plentyn diwethaf
  • Dull cyswllt a ffefrir gan y cwsmer
  • Ethnigrwydd a statws anabledd (dewisol)
  • Ail enw cyswllt ar gyfer y cwsmer (os oes angen)
  • Cymhwystra – naill ai'n byw mewn ardal graidd Dechrau'n Deg neu wedi'u cyfeirio drwy drefniadau Allgymorth

Llofnod digidol (blwch ticio)

Beth yw’r sail gyfreithiol dros ddefnyddio’ch data?

Yn ein cylch gwaith fel y rheolydd data, y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn y casgliad data hwn yw erthygl 6(e) o GDPR y DU i gyflawni tasg er budd y cyhoedd; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Gelwir peth o'r data yr ydym yn ei gasglu yn 'ddata categori arbennig' (yn yr achos hwn Ethnigrwydd) a'r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw erthygl 9(j) at ddibenion archifo, ymchwil ac ystadegau i fonitro a thargedu cyllid ac i fonitro'r perfformiad yn effeithiol.

Mae cymryd rhan yn gyfan gwbl wirfoddol.

Gyda phwy yr ydym yn rhannu eich gwybodaeth?

Bydd y contractwr, APS, yn rhannu eich data gyda Llywodraeth Cymru at ddibenion monitro a gwerthuso'r rhaglen. Bydd y data categori arbennig yn ddienw. 

Bydd APS yn rhannu data gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru am gyfnod o chwe mis er mwyn caniatáu cysylltu data banc data SAIL. Bydd banc data SAIL yn anonymeiddio'r data ar weinyddion diogel ar gyfer ymchwil i wella iechyd, lles a gwasanaethau. 

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Caiff gwybodaeth bersonol a ddarperir i APS ei storio ar weinydd diogel ac mae mynediad wedi'i gyfyngu i staff awdurdodedig. Mae gan APS ardystiad Cyber Essentials Plus. Mae APS yn cynnal y feddalwedd Agility Cloud.

Mae unrhyw ddata a gedwir gan Lywodraeth Cymru neu Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cael ei storio ar weinyddion diogel ac mae mynediad wedi'i gyfyngu i staff awdurdodedig. 

Bydd unrhyw doriadau i ddiogelwch data yn cael eu hadrodd i Lywodraeth Cymru a'r awdurdodau perthnasol.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol? 

Bydd APS yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract am hyd at bedair blynedd ar ôl cyflwyno'r bwndel. Mae angen cadw'r data am bedair blynedd i sicrhau bod rhieni a allai gael plentyn arall yn bodloni'r meini prawf cymhwystra ac felly yn gymwys i gael bwndel arall. 

Bydd APS yn darparu ffeil Data Cwsmeriaid lawn i Lywodraeth Cymru (bydd y data categori arbennig wedi'i anonymeiddio) ddwywaith y flwyddyn at ddibenion gwerthuso ac ymchwil a bydd Llywodraeth Cymru yn cadw'r data hyn am bedair blynedd. 

Hawliau'r unigolyn

O dan GDPR y DU mae gennych hawl i'r canlynol:

  • Gweld copi o'ch data eich hun
  • Cywiro data anghywir
  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (o dan rai amgylchiadau)
  • Gofyn am ddileu data (mewn rhai achosion)
  • Cofrestru cwyn yn Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Rhif ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data a ddarperir fel rhan o'r Rhaglen Bwndeli Babi, neu os ydych am arfer eich hawliau drwy ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â'r isod:

Cyfeiriad e-bost: BwndelBabi@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru: 

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. 

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru