Neidio i'r prif gynnwy

Pa fusnesau sy’n gorfod cydymffurfio â’r cyfyngiadau hyrwyddo?

Busnesau sydd o fewn cwmpas y cyfyngiadau

Cyfeirir at fusnesau yng nghwmpas y cyfyngiadau fel busnesau cymhwysol ac fe’u diffinnir yn rheoliad 4. Gallai busnesau cymhwysol gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, sefydliadau manwerthu sydd â 50 neu ragor o gyflogeion (yn y siop ac ar-lein) fel:

  • archfarchnadoedd
  • manwerthwyr bwyd ar-lein
  • manwerthwyr ar-lein sy’n gwerthu unrhyw fwyd wedi’i ragbecynnu (er enghraifft, gwefannau anrhegion)
  • siopau cyfleustra
  • siopau adrannol
  • siopau dillad
  • fferyllfeydd
  • blaengyrtiau petrol a gorsafoedd gwasanaeth
  • siopau blodau
  • siopau DIY
  • canolfannau garddio
  • safleoedd manwerthu mewn canolfannau trafnidiaeth (mae hyn yn cynnwys manwerthwyr ardal ochr yr awyr ac ardal ochr y tir, manwerthwyr di-doll mewn meysydd awyr a manwerthwyr mewn gorsafoedd trên neu borthladdoedd fferi)
  • safleoedd manwerthu mewn atyniadau ymwelwyr neu leoliadau adloniant (er enghraifft, siopau anrhegion sy’n gwerthu siocled wedi’i ragbecynnu)
  • manwerthwyr mewn ysbytai

Mae busnesau sy’n cynnig ar werth unrhyw ddiod y mae rheoliad 8(1) yn gymwys iddi ac sy’n cyflogi 50 neu ragor o gyflogeion yn fusnes cymhwysol at ddibenion y cyfyngiadau ail-lenwi am ddim, oni bai bod eithriad perthnasol yn gymwys iddynt.

Busnesau wedi’u heithrio o’r cyfyngiadau ar hyrwyddiad pris ar sail swmp a lleoliad

Mae'r busnesau canlynol wedi’u heithrio o’r cyfyngiadau ar hyrwyddiad pris ar sail swmp a lleoliad:

  • Busnesau micro neu fusnesau bach (busnesau sydd â llai na 50 o gyflogeion).
  • Ysgolion, colegau a sefydliadau addysgol eraill o’r fath sy’n darparu addysg yn unig a bod addysg yn cael ei darparu yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant dan 18 oed.
  • Bwytai, hyd yn oed os ydynt yn gwerthu bwyd HFSS wedi’i ragbecynnu. Fodd bynnag, mae bwytai yn ddarostyngedig i’r cyfyngiad ar ail-lenwi diodydd llawn siwgr am ddim. Gweler yr adran "bwyty" isod am ragor o wybodaeth.
  • Cartrefi gofal sy’n darparu gwasanaeth yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bobl 18 oed neu’n hŷn ac sy’n darparu bwyd i breswylwyr yn unig heb fod angen talu fesul eitem o fwyd. Gallai’r eithriad hwn gynnwys lleoliadau gofal cymdeithasol fel:
    • cartrefi preswyl
    • cartrefi gorffwys
    • cartrefi ymadfer
    • gofal seibiant
    • tai argyfwng iechyd meddwl
  • Sefydliadau milwrol ar gyfer personél gweithredol (môr, tir ac awyr), carchardai, sefydliadau troseddwyr ifanc ac ysbytai, a sefydliadau eraill nad ydynt yn gweithredu busnes wrth ddarparu bwyd i breswylwyr. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd bwyty sy’n cynnig unrhyw ddiod y mae rheoliad 8(1) yn gymwys iddi i’r cyhoedd yn gyfnewid am dâl fod yn fusnes cymhwysol at ddibenion rheoliad 8 yn ymwneud ag ail-lenwi diodydd am ddim.
  • Bwyd sy’n cael ei ddarparu gan elusen fel rhan o’i gweithgareddau elusennol (ni waeth a yw’r bwyd am ddim neu’n cael ei werthu am bris sy’n rhatach na’r gost o ddarparu’r bwyd), neu fwyd a gynigir i’w werthu gan neu ar ran elusen i godi arian at ei gweithgareddau elusennol mewn un digwyddiad. Fodd bynnag, mae bwyd penodedig sy’n cael ei werthu gan fanwerthwr nad yw’n elusen lle mae canran neu swm penodol o’r gost yn mynd at elusen (er enghraifft, "mae 20c o werthiant y cynnyrch hwn yn cael ei rhoi i elusen") o fewn cwmpas y cyfyngiadau hyrwyddo ac felly hefyd y cyfyngiadau lleoliad a hyrwyddiad pris ar sail swmp.
  • Gweithgynhyrchwyr oni bai eu bod yn gwerthu’n uniongyrchol i ddefnyddwyr.
  • Busnesau (er enghraifft, cyfanwerthwyr) sy’n gwerthu bwyd i fusnesau eraill yn unig ac nid yn uniongyrchol i ddefnyddwyr. Meddalwedd nad yw’n drafodiadol, fel gwefannau neu apiau lle na allwch brynu cynnyrch (er enghraifft, gwefan brand gweithgynhyrchwr, a allai gynnwys gwybodaeth am ei amrywiaeth o gynhyrchion ond ni all defnyddiwr brynu’r cynnyrch ar y wefan honno). Os yw gwefan nad yw’n drafodiadol yn cynnwys dolen i wefan drafodiadol, mae’r wefan ei hun nad yw’n drafodiadol yn parhau i beidio â bod o fewn cwmpas y cyfyngiadau ar hyrwyddo.

Busnesau sydd wedi’u heithrio o’r cyfyngiadau lleoliad yn unig

Bydd y busnesau canlynol, os ydynt yn fusnesau cymhwysol, wedi’u heithrio o’r cyfyngiadau lleoliad ond byddant yn parhau i fod yn destun cyfyngiadau ar hyrwyddiadau pris ar sail swmp:

  • Busnes a fyddai fel arall o fewn y cwmpas ond sydd ag arwynebedd llawr perthnasol o lai na 185.8m2 (2,000 troedfedd sgwâr) gan ei roi y tu allan i gwmpas y cyfyngiadau ar leoliad.
  • Busnes a fyddai fel arall o fewn y cwmpas ond sy’n fanwerthwr arbenigol sy’n gwerthu bwyd o un categori yn atodlen 1 yn unig neu’n bennaf (wedi’u cynnwys isod o dan pa fwyd sydd o fewn y cwmpas). Gall enghreifftiau o fanwerthwyr arbenigol gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
    • siocledydd sy’n gwerthu siocledi yn bennaf, ond rhai cynhyrchion bisgedi a chacennau hefyd
    • siop losin sy’n gwerthu melysion yn bennaf, ond rhai cynhyrchion bisgedi a hufen iâ hefyd
    • siocledydd sy’n gwerthu siocledi yn unig
    • siop losin sy’n gwerthu melysion yn unig
    • siop ar-lein sy’n gwerthu cacennau a chacennau cwpan yn unig
    • siop ar-lein sy’n gwerthu cacennau yn bennaf
    • siocledydd ar-lein sy’n gwerthu siocledi yn bennaf

Bydd angen i siopau sy’n honni eu bod yn siop arbenigol gael eu hasesu fesul achos gan yr awdurdod gorfodi.

Cyfrif cyflogeion

I fod yn fusnes cymhwysol, rhaid i fusnes fod â 50 neu ragor o gyflogeion ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn ariannol pan ddigwyddodd unrhyw gynnig i werthu o’r fath.

Nid yw nifer y cyflogeion wedi’i gyfyngu i Gymru, cyfanswm nifer y cyflogeion sydd gan fusnes yn ei gyfanrwydd ydyw.

Bydd pa un a yw unigolion sydd wedi’u cymryd ymlaen ar gontract dim oriau yn cael eu hystyried yn gyflogeion at y dibenion hyn yn dibynnu ar yr achos unigol a’r contract o dan sylw a byddai’n fater o gyfraith cyflogaeth yn y pen draw.

Masnachfreintiau

Bydd y cyfyngiadau yn gymwys i fusnesau canolig a mawr (rydym yn eu diffinio fel 50 neu ragor o gyflogeion) sy’n gwerthu bwyd neu ddiod yng Nghymru.

Ar gyfer masnachfreintiau neu drefniadau (fel grwpiau symbolau) lle mae busnesau lluosog yn gweithredu o dan yr un enw, mae busnes a gynhelir yn unol â chytundeb masnachfraint i’w drin fel rhan o fusnes y breiniwr ac nid fel busnes ar wahân a gynhelir gan y deiliad braint at ddibenion penderfynu faint o gyflogeion sydd gan fusnes, ac felly a ydynt o fewn cwmpas y rheoliadau.

Os yw manwerthwyr grŵp symbol yn gweithredu yn rhan o drefniant masnachfraint lle mae cyfanswm y cyflogeion sy’n gweithredu o dan y fasnachfraint yn o leiaf 50, gallant fod o fewn cwmpas y rheoliadau. Mae grwpiau symbol fel arfer yn fath o fasnachfraint o siopau cyfleuster. At ddibenion penderfynu faint o gyflogeion sydd gan fusnes ac felly a yw’r cyfyngiadau yn gymwys, bydd busnes y manwerthwyr grŵp symbol yn cael ei drin yn rhan o fusnes breiniwr y mae ganddo gytundeb masnachfraint ag ef.

O dan y rheoliadau hyn, gwelir bod cytundeb masnachfraint yn bodoli pan fo un ymgymeriad (y deiliad braint) ac ymgymeriad arall (y breiniwr) yn cytuno bod y deiliad braint yn cynnal gweithgaredd busnes sy’n cynnwys gwerthu neu ddosbarthu bwyd (y busnes masnachfraint).

Rhaid i’r breiniwr gytuno ar y tri mater a ganlyn er mwyn i gytundeb masnachfraint fodoli a bod yn debyg i’r ymgymeriadau eraill yr ymrwymwyd iddynt gan y breiniwr o dan drefniadau contractiol cymaradwy:

  • y bwyd a ddarperir yn y busnes masnachfraint
  • golwg mewnol neu allanol y fangre y mae’r busnes masnachfraint yn cael ei gynnal ynddi
  • y model busnes a ddefnyddir ar gyfer gweithredu’r busnes masnachfraint

Os yw’r breiniwr yn cytuno ar y nodweddion hyn o’r busnes ac yn debyg i faterion ymgymeriadau eraill y mae’r breiniwr wedi ymrwymo i drefniadau contractiol cymaradwy mewn cysylltiad â hwy, yna at ddibenion y rheoliadau gall masnachfraint fod yn fusnes cymhwysol. Gall trefniadau contractiol amrywio o fusnes i fusnes.

Bwytai

Nid oes angen i fwytai gydymffurfio â chyfyngiadau pris ar sail swmp a lleoliad ond rhaid iddynt gydymffurfio â’r cyfyngiadau ar hyrwyddo ail-lenwi diodydd penodol am ddim.

Yn y rheoliadau, diffinnir ‘bwyty’ fel busnes y mae ei fangre yn cael ei defnyddio yn bennaf ar gyfer paratoi neu werthu bwyd y bwriedir ei fwyta ar unwaith, naill ai ar neu oddi ar y fangre (gan gynnwys caffi, siop goffi, busnes bwyd cyflym neu fusnes cludfwyd).

Gellir ystyried bod bwyd sy’n cael ei werthu mewn bwytai wedi’i fwriadu i’w fwyta ar unwaith os yw naill ai:

  • yn cael ei gynnig i’w werthu i’w fwyta ar unwaith yn y fangre y caiff ei werthu ynddi
  • yn cael ei gynnig i’w werthu i’w fwyta oddi ar y fangre ac nad oes angen unrhyw baratoi gan y defnyddiwr cyn iddo gael ei fwyta (gall paratoi gynnwys plicio, tynnu plisgyn neu olchi, coginio, dadmer, a chynhesu neu ailgynhesu bwyd wedi’i goginio ymlaen llaw)

Mae enghreifftiau o fusnesau y tu allan i’r cartref (bwytai) lle efallai na fydd y cyfyngiadau hyrwyddo (ar wahân i ail-lenwi am ddim) yn gymwys yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • siopau coffi neu gaffis (gan gynnwys caffis mewn siopau adrannol, archfarchnadoedd, siopau cyfleustra a gorsafoedd petrol)
  • bariau neu siopau brechdanau
  • siopau neu dai pwdin
  • siopau becws
  • bwytai mewn canolfannau teithio
  • bwytai gwesty
  • bwytai tafarn
  • bwytai cadwyn neu fwytai bwyd anffurfiol wedi’u brandio
  • bwytai gwasanaeth cyflym
  • atyniadau ymwelwyr neu leoliadau adloniant (fel sinemâu a bwytai mewn parciau thema)
  • arlwyo contract gan gynnwys y canlynol:
    • ffreuturiau gweithle (gan gynnwys ffreuturiau staff mewn ysbytai)
    • ffreuturiau prifysgol neu addysg bellach
    • arlwyo digwyddiadau mewn lleoliadau fel arenâu neu stadia ac ati
    • ffreuturiau ymwelwyr ysbyty

Consesiynau

Mae consesiynau yn cael eu hystyried yn gyffredin yn fusnesau ar wahân sy’n meddiannu ardal mewn mangre siop busnes arall sy’n bennaf gyfrifol am reoli a gweithredu’r siop (“y prif fusnes”). Gellir eithrio consesiynau wrth gyfrifo arwynebedd perthnasol y llawr yn siop y prif fusnes, os ydynt yn gweithredu eu cyfleusterau talu eu hunain.

Fodd bynnag, mae consesiwn sydd wedi’i leoli mewn siop prif fusnes, ond nad yw’n rhan o’i fusnes, yn cael ei drin fel busnes ar wahân y mae’n rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau sy’n gymwys iddo, os yw’n bodloni’r meini prawf i gael ei ystyried yn fusnes cymhwysol ynddo’i hun.

Enghreifftiau i bennu consesiwn posibl

Enghraifft 1: consesiynau manwerthu

Gall consesiwn manwerthu sydd wedi’i leoli y tu mewn i archfarchnad fod yn fusnes cymhwysol ynddo’i hun, os yw’n bodloni’r meini prawf fel y’u nodir yn y rheoliadau.

Os yw consesiwn manwerthu hwn yn fusnes cymhwysol ynddo’i hun, bydd unrhyw fwyd wedi’i ragbecynnu sydd o fewn cwmpas y rheoliadau sy’n cael ei werthu yn y busnes hwn yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau hyrwyddo pris ar sail swmp a’r cyfyngiadau lleoliad. Fodd bynnag, bydd y consesiwn yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau lleoliad yn y siop dim ond os yw ei arwynebedd perthnasol y llawr dros 185.8m2 (2,000 troedfedd sgwâr). Os nad yw’r consesiwn manwerthu yn fusnes cymhwysol ynddo’i hun, ni fydd yn ddarostyngedig i unrhyw un o’r cyfyngiadau.

Enghraifft 2: consensiynau bwytai

Nid yw consesiynau bwytai wedi’u lleoli o fewn manwerthwr (er enghraifft, caffi sy’n fusnes ar wahân a weithredir mewn archfarchnad), yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau ar hyrwyddiad pris ar sail swmp neu leoliad oherwydd bod bwytai wedi’u heithrio o’r cyfyngiadau hynny. Fodd bynnag, gall consesiwn bwyty fod yn fusnes cymhwysol yn ei hawl ei hun at ddibenion y cyfyngiad ail-lenwi diodydd am ddim.

Enghraifft 3: peiriannau gwerthu

Gellir ystyried peiriannau gwerthu sydd â chyfleusterau talu a weithredir gan fusnes heblaw’r prif fusnes yn gonsesiwn, ac felly nid ydynt yn rhan o gyfrifiad arwynebedd llawr perthnasol siop y prif fusnes.

Ni chaiff peiriannau gwerthu sy’n gonsesiwn fod yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau lleoliad os oes ganddynt arwynebedd perthnasol y llawr o lai na 185.8m2 . Ni chânt fod yn ddarostyngedig ychwaith i’r cyfyngiadau lleoliad sy’n gymwys i’r prif fusnes y maent wedi’u gosod ynddo, pan fo’r prif fusnes hwnnw’n fusnes cymhwysol. Fodd bynnag, mewn unrhyw achos byddem yn annog busnesau cymhwysol i beidio â chaniatáu i gonsesiynau peiriannau gwerthu sy’n gwerthu bwyd penodedig gael eu gosod mewn ardaloedd cyfyngedig o’u siopau. Gall peiriannau gwerthu fod yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau ar hyrwyddiad pris ar sail swmp os ydynt yn cael eu gweithredu gan fusnes cymhwysol.

Enghraifft 4: ardaloedd o fewn siopau manwerthu

Nid yw ardaloedd o fewn siopau manwerthu, er enghraifft, yr adran fecws neu’r deli mewn archfarchnad sy’n eiddo i’r archfarchnad honno ac sy’n cael ei gweithredu ganddi, yn gonsesiynau gan eu bod yn rhan o’r un busnes.