Cyfyngu ar hyrwyddo bwydydd â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr: canllawiau gweithredu - Rhan 1: cyflwyniad
Sut mae Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 yn cyfyngu ar gynhyrchion 'llai iach'.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Ym mis Mehefin 2022, yn rhan o’i strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach i leihau lefelau gordewdra yng Nghymru, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar gyfres o fesurau amgylchedd bwyd iach, gan gynnwys cynigion i gyfyngu ar hyrwyddo a lleoli bwydydd sy’n cynnwys lefelau uchel o fraster, siwgr a halen (HFSS) mewn lleoliadau manwerthu a chyfyngu ar ail-lenwi diodydd llawn siwgr am ddim yn y sector y tu allan i’r cartref.
Ym mis Gorffennaf 2024, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y rheoliadau drafft a’r dull gorfodi ar gyfer cyfyngiadau ar hyrwyddo a chyflwyno sy’n adlewyrchu rheoliadau cyfatebol cyfredol yn Lloegr i raddau helaeth.
Bydd y Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 (y cyfeirir atynt fel ‘y rheoliadau’ yn y canllawiau hyn oni nodir yn wahanol) yn dod i rym ar 26 Mawrth 2026.
Mae’r canllawiau hyn yn helpu i ddangos sut y mae’r rheoliadau yn cyfyngu ar hyrwyddo HFSS neu gynhyrchion ‘llai iach’. Yn fras, mae’r rheoliadau yn cyfyngu ar hyrwyddo cynhyrchion HFSS drwy’r canlynol:
- pris ar sail swmp (er enghraifft, cynigion amleitem)
- lleoliadau allweddol mewn siopau (mynedfeydd siopau, pen draw eil a mannau talu) pan fo siopau manwerthu dros 185.8 metr sgwâr (m2) (neu 2,000 troedfedd sgwâr) a’r lleoliadau allweddol cyfatebol ar-lein
- ail-lenwi rhai diodydd
Mae’r cyfyngiadau hyn yn gymwys i fusnesau canolig a mawr (sydd â 50 neu ragor o weithwyr) sy’n ‘fusnes cymhwysol’ fel y’u disgrifir yn y rheoliadau.
Gall methu â chydymffurfio â’r rheoliadau arwain at gyflwyno hysbysiad gwella a dirwy droseddol neu gosb ariannol benodedig wedi hynny os nad yw’r busnes o dan sylw yn cydymffurfio fel sy’n ofynnol.
Statws cyfreithiol
Yn y pen draw, cyfrifoldeb busnesau unigol yw cydymffurfio â’r cyfyngiadau y mae’r rheoliadau yn darparu ar eu cyfer. Dylai busnesau ac awdurdodau gorfodi felly gyfeirio yn ôl at y rheoliadau eu hunain wrth asesu cydymffurfiaeth. Er mai bwriad y canllawiau hyn yw cynorthwyo â gweithredu’r rheoliadau drwy helpu i ddangos sut y maent yn gweithio, nid yw’n ddatganiad awdurdodol nac yn ddehongliad awdurdodol o’r gyfraith ac felly dim ond ar y cyd â’r rheoliadau eu hunain y dylid eu darllen.
Rhagor o adnoddau a chymorth
Un ffordd o leihau sgôr Model Proffilio Maethynnau cynhyrchion sydd o fewn cwmpas y cyfyngiadau fyddai eu hailfformiwleiddio. Os ydych yn gweithredu busnes yng Nghymru, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth gan Arloesi Bwyd Cymru. Mae eu gwasanaethau’n cynnwys cymorth technegol i ddatblygu ac ailfformiwleiddio cynhyrchion iachach.
Os yw’ch busnes yn gweithredu yn Lloegr hefyd, efallai yr hoffech gyfeirio at ganllawiau Llywodraeth y DU ar eu rheoliadau cyfatebol.
Mae’r disgrifiadau a’r enghreifftiau yn y canllawiau hyn wedi’u halinio lle bynnag y bo modd â chanllawiau Llywodraeth y DU i helpu busnesau sy’n gweithredu yn y ddwy wlad.
Ymholiadau cyffredin
Yn yr adran hon, gellir dod o hyd i atebion i rai ymholiadau cyffredin. Os oes gennych gwestiwn na allwch ddod o hyd i’r ateb iddo yn y canllawiau hyn, anfonwch e-bost i pwysauIachcymruiach@llyw.cymru. Byddwn yn diweddaru’r adran hon o’r canllawiau o bryd i’w gilydd i adlewyrchu unrhyw ymholiadau newydd a ddaw i law.
Sut i benderfynu beth yw bwyd wedi’i ragbecynnu
Mae’r rheoliadau’n gymwys i fwyd wedi’i ragbecynnu, fel y’i diffinnir yn erthygl 2(2)(e) o reoliad (EU) rhif 1169/2011:
‘prepacked food’ means any single item for presentation as such to the final consumer and to mass caterers, consisting of a food and the packaging into which it was put before being offered for sale, whether such packaging encloses the food 5 completely or only partially, but in any event in such a way that the contents cannot be altered without opening or changing the packaging; ‘prepacked food’ does not cover foods packed on the sales premises at the consumer’s request or prepacked for direct sale.
Ble i gael cymorth i ddeall a yw cynnyrch o fewn cwmpas y rheoliadau
Mae gwybodaeth i gynorthwyo busnesau i ddeall a yw cynnyrch o fewn cwmpas y rheoliadau ar gael yn yr adran pa fwyd sydd o fewn cwmpas yn y canllawiau hyn. Os oes angen rhagor o gymorth neu wybodaeth arnoch, dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol.
Sut i gyfrifo’r arwynebedd perthnasol y llawr mewn siop
Dylai busnesau gyfrifo eu harwynebedd perthnasol y llawr er mwyn deall a yw eu siopau o fewn cwmpas y cyfyngiadau lleoliad yn y siop. Mae arwynebedd perthnasol y llawr mewn siop yn eithrio rhai ardaloedd mewn siop, fel ardaloedd storio. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gyfrifo arwynebedd perthnasol y llawr mewn siop ar gael yn rheoliad 6(3)(e) o’r rheoliadau ac yn yr adran hyrwyddiadau lleoliad yn y canllawiau hyn.
Sut i gyfrifo’r ardal gyfyngedig yn rhan flaen siop
Cyfeiriwch at reoliad 6 o’r rheoliadau, neu'r adran hyrwyddiadau lleoliad yn y canllawiau hyn, i gael gwybodaeth am sut i gyfrifo’r ardal gyfyngedig yn rhan flaen eich siop.
Sut i bennu’r gwahaniaeth rhwng eil a mathau eraill o unedau
Gall y modd y caiff unedau arddangos eu gosod (hynny yw, a ydynt yn ffurfio eil gyda phen draw eil) effeithio ar sut y mae’r rheoliadau yn gymwys iddynt. Mae rhagor o wybodaeth am eiliau ar gael yn yr adran "pennu’r hyn all ffurfio eil" yn y canllawiau hyn. Yn yr adran hyrwyddiadau lleoliad yn y canllawiau hyn, gellir gweld rhai enghreifftiau o sut y gall y rheoliadau fod yn gymwys i unedau rhewgell mewn ffurfiannau gwahanol, gyda darluniau graffig. Os nad ydych yn siŵr a fydd cyfyngiadau’n gymwys i unedau rhewgell yn eich siop chi, dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol i gael rhagor o arweiniad.
Eithrio ardaloedd gweini a chiwio, sy’n gysylltiedig â chonsesiynau bwyd, sy’n gwerthu bwyd y bwriedir ei fwyta ar unwaith, ar sail cyfrifiadau arwynebedd perthnasol y llawr
Gellir eithrio ardaloedd gweini a chiwio sy’n gysylltiedig â chonsesiynau bwyd, sy’n rhan o’r siop a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer gwerthu bwyd y bwriedir ei fwyta ar unwaith (naill ai ar neu oddi ar y fangre), at ddibenion pennu arwynebedd perthnasol y llawr.
Sut y mae’r rheoliadau’n gymwys i fusnesau ar-lein yn unig
Gall y rheoliadau fod yn gymwys i fusnesau ar-lein yn unig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran busnesau o fewn y cwmpas yn y canllawiau hyn neu yn rheoliad 4.
Y gwahaniaethau rhwng categorïau cynnyrch ar gyfer y rheoliadau hyn a’r rhai a restrir ar gyfer rheoliadau cyfatebol yn Lloegr (Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Lloegr) 2021)
Yn gyffredinol, y bwriad yw bod y categorïau cynnyrch cyffredinol yn y rheoliadau hyn yn cyd-fynd â’i gilydd. Fodd bynnag, dylai busnesau gydymffurfio â’r rheoliadau sy’n gymwys yn y wlad benodol honno o’r DU wrth ystyried a yw eitem yn dod o fewn categori cynnyrch.
Y gwahaniaethau rhwng cyfyngiadau hyrwyddo yn y rheoliadau hyn ac yn rheoliadau cyfatebol Lloegr (Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Lloegr) 2021)
Bwriedir i gyfyngiadau hyrwyddo yn rheoliadau Cymru gyfateb i reoliadau yn Lloegr i raddau helaeth. Fodd bynnag, ceir rhai gwahaniaethau y bydd busnesau yn dymuno eu nodi. Er enghraifft, o ran hyrwyddiadau ar becynnau a chyfyngiadau pen draw eil:
Hyrwyddiadau ar becynnau
Mae canllawiau Llywodraeth y DU ar ei rheoliadau yn egluro bod cyfnod pontio yn Lloegr tan 30 Medi 2026 sy’n caniatáu i fanwerthwyr werthu stoc sydd ganddynt eisoes a gynhyrchwyd cyn mis Hydref 2025 sydd â hyrwyddiadau pris ar sail swmp ar y pecynwaith na allant eu tynnu. Ar ôl 30 Medi 2026, os yw hyrwyddiad pris ar sail swmp wedi’i farcio ar y pecynwaith ar 7 gyfer gwerthu mewn rhannau eraill o’r DU lle caniateir hyrwyddiadau o’r fath, rhaid i’r pecynwaith nodi’n glir ac yn amlwg nad yw’r hyrwyddiad yn gymwys i Loegr.
Yng Nghymru, nid yw’r rheoliadau yn cyfyngu ar gynnig ar gyfer eu gwerthu gynhyrchion mewn cwmpas sydd â hyrwyddiadau pris ar sail swmp ar eu pecynwaith. Caiff manwerthwyr ddewis parhau i werthu cynhyrchion sydd â hyrwyddiadau pris ar eu pecynwaith, fodd bynnag, ni ddylid cynnig y cynhyrchion hynny i’w gwerthu yn rhan o’r hyrwyddiad pris ar sail swmp hwnnw. Nid oes unrhyw gyfnod pontio ar gyfer y cyfyngiad hwn. Dylid cyfleu’n glir wrth ddefnyddwyr nad yw’r cynnyrch yn cael ei gynnig i’w werthu yn rhan o’r hyrwyddiad hwnnw. Mae rhagor o ganllawiau ar hyrwyddiadau ar y pecynwaith ar gael yn yr adran hyrwyddiadau ar becynnau yn y canllawiau hyn.
Cyfyngiadau pen draw eil
Mae rheoliad 7(1)(c)(i) o Reoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Lloegr) 2021 yn darparu na chaiff person cymhwysol roi bwyd penodedig y tu mewn i siop ar arddangosfa ar ben draw eil (ond nid yn yr eil), pan fo pen draw eil yn gyfagos â phrif lwybr cwsmeriaid drwy’r siop, neu ar strwythur ar wahân sy’n gysylltiedig â phen draw eil, yn gyfagos â hi neu o fewn 50cm iddi.
Yng Nghymru, mae cyfyngiadau pen draw eil yn gymwys, ni waeth a yw pen draw eil yn gyfagos â phrif lwybr cwsmeriaid drwy siop ai peidio, fel yr adlewyrchir yn Rheoliad 6(1)(c) o reoliadau Cymru. Mae rhagor o ganllawiau ar gyfyngiadau pen draw eil ar gael yn yr adran pen draw eil yn y canllawiau hyn.
Y gwahaniaethau rhwng cyfyngiadau lleoliad yn y rheoliadau hyn ac yn rheoliadau cyfatebol Lloegr (Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Lloegr) 2021)
Bwriedir i gyfyngiadau lleoliad yn rheoliadau Cymru gyfateb i’r rheoliadau yn Lloegr i raddau helaeth. Fodd bynnag, mae’r cyfyngiadau yn y siop yn y rheoliadau hyn yn gymwys i arddangos ar ben draw eil (ond nid yn yr eil), ni waeth a yw pen draw eil yn gyfagos â phrif lwybr cwsmeriaid drwy’r siop ai peidio (gweler rheoliad 6(1)(c) o’r rheoliadau hyn).
Cyfrifo sgôr NPM cynhyrchion pan restrir gwybodaeth pecynwaith y cynnyrch ‘fel y’i bwyteir’, yn hytrach na ‘fel y’i gwerthir’
Gweler atodiad 4 o’r canllawiau hyn i gael gwybodaeth am gyfrifo sgoriau NPM ar gyfer cynhyrchion gwahanol. Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael yng nghanllawiau technegol NPM 2011.
Sut y mae’r rheoliadau yn effeithio ar ail-lenwi diodydd heb siwgr am ddim
Gall busnes cymhwysol at ddibenion y cyfyngiadau ail-lenwi am ddim barhau i gynnig ail-lenwi diodydd am ddim nad ydynt yn bodloni’r meini prawf a bennir yn rheoliad 8(1) o’r rheoliadau. Ni fydd diodydd nad ydynt yn ddiodydd meddal wedi’u paratoi sy’n cynnwys cynhwysion siwgr ychwanegol, fel y’u disgrifir yn atodlen 2 i’r rheoliadau, yn bodloni’r meini prawf hyn. Gweler rheoliad 8 neu’r adran ail-lenwi am ddim yn y canllawiau hyn i gael rhagor o wybodaeth am sut y mae cyfyngiadau ail-lenwi am ddim yn gymwys.
Sut y mae’r categorïau bwyd y mae’r rheoliadau hyn yn gymwys iddynt yn wahanol i’r rhai a nodir yn rheoliadau hysbysebion darlledu ac ar-lein Llywodraeth y DU
Yn gyffredinol, bwriedir i’r categorïau cynnyrch cyffredinol yn y rheoliadau hyn gyfateb i’r rhai yng nghategorïau 1 i 12 o reoliadau hysbysebion darlledu ac ar-lein Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau yn y cynhyrchion yng nghategori 13. Mae rhagor o wybodaeth am y rhyngweithio rhwng y ddwy set o reoliadau ar gael yn yr adran cyfyngiadau hysbysebion darlledu ac ar-lein yn y canllawiau hyn.
Sut y mae’r cyfyngiadau hyrwyddo a chyflwyno a nodir yn y rheoliadau yn gymwys i fusnesau y tu allan i’r cartref
Mae busnes y tu allan i’r cartref a fyddai fel arall yn fusnes cymhwysol, ond sy’n bodloni’r diffiniad o fwyty yn y rheoliadau, wedi’i eithrio o’r cyfyngiadau hyrwyddo a chyflwyno. Mae’r eithriad hwn wedi’i nodi yn rheoliad 4(1)(c)(iii). Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd y cyfyngiad ail-lenwi am ddim yn gymwys iddynt. Mae rhagor o wybodaeth am y math o fusnesau sydd o fewn cwmpas y cyfyngiadau ar gael yn yr adran pa fusnesau sy’n gorfod cydymffurfio â’r cyfyngiadau hyrwyddo yn y canllawiau hyn.
Sut y mae’r rheoliadau’n gymwys i fargeinion bwyd a gostyngiadau dros dro mewn prisiau (TPR)
Nid yw hyrwyddiadau bargeinion bwyd a gostyngiad dros dro mewn prisiau (TPR) o fewn cwmpas y rheoliadau hyn. Mae rhagor o wybodaeth am ba gynigion hyrwyddo sydd o fewn cwmpas y rheoliadau ar gael yn yr adran cyfyngiadau hyrwyddo yn y canllawiau hyn neu yn rheoliad 5(2).
Sut i ddangos cydymffurfiaeth â’r rheoliadau i swyddog gorfodi yn ystod archwiliad
Gweler yr wybodaeth yn yr adran sut i ddangos cydymffurfiaeth i swyddogion gorfodi archwilio yn y canllawiau hyn.
Diffiniadau
Bwyd
At ddibenion y rheoliadau hyn, mae i bwyd yr un ystyr ag sydd i 'food' yn adran 1(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (“deddf 1990”), sy’n cyfeirio at reoliad (EC) rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a’r Cyngor yn gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd. Yn rheoliad (EC) rhif 178/2002, mae bwyd yn cynnwys diod (ymhlith pethau eraill).
Oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at fwyd yn y canllawiau hyn yn cynnwys bwyd a diod.
Defnyddwyr
Mae’r rheoliadau’n defnyddio’r diffiniad o ddefnyddiwr fel y’i rhoddir gan y diffiniad o ‘consumer’ yn adran 2(3) o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015. Mae’n diffinio defnyddiwr fel unigolyn sy’n gweithredu at ddibenion sydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf y tu allan i fasnach, busnes, crefft neu broffesiwn yr unigolyn hwnnw.
Marchnad ar-lein
At ddibenion y rheoliadau, ystyr marchnad ar-lein yw unrhyw feddalwedd (gan gynnwys gwefan, rhan o wefan neu raglen) a ddefnyddir i gynnig cynhyrchion y busnes cymhwysol i’w gwerthu i ddefnyddwyr. Gallai cynhyrchion busnes cymhwysol gynnwys unrhyw gynnyrch a werthir gan fusnes cymhwysol, gan gynnwys brand y busnes ei hun a chynhyrchion brand eraill.
Bwyd wedi’i ragbecynnu
Diffinnir bwyd wedi’i ragbecynnu fel y diffinnir ‘prepacked food’ yn erthygl 2(2)(e) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 o Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 25 Hydref 2011 ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr:
prepacked food means any single item for presentation as such to the final consumer and to mass caterers, consisting of a food and the packaging into which it was put before being offered for sale, whether such packaging encloses the food completely or only partially, but in any event in such a way that the contents cannot be altered without opening or changing the packaging
At ddibenion Rheoliad (UE) rhif 1169/2011 a gymathwyd ar wybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr a Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025, nid yw bwyd wedi’i ragbecynnu yn cynnwys bwydydd sydd wedi’u pecynnu yn y fangre gwerthu ar gais y defnyddiwr neu wedi’u rhagbecynnu i’w gwerthu’n uniongyrchol.
Bwyd atodlen 1
Ystyr bwyd atodlen 1 yw bwyd neu ddiod sy’n dod o fewn categori yn atodlen 1 i’r rheoliadau.
Bwyd penodedig
Ystyr bwyd penodedig yw bwyd sydd wedi’i gynnwys mewn eitem fwyd wedi’i rhagbecynnu sy’n perthyn i gategori atodlen 1 ac sy’n cael ei sgorio fel ‘llai iach’ yn unol â’r canllawiau technegol ar gyfer proffilio maethynnau 2011. Nid yw’n fwyd:
- a ddarperir gan elusen wrth gynnal ei gweithgareddau elusennol (boed am ddim neu am bris sy’n llai na chost darparu’r bwyd hwnnw)
- a gynigir ar werth gan neu ar ran elusen, mewn digwyddiad unigol, er mwyn codi arian ar gyfer ei gweithgareddau elusennol
Busnes cymhwysol
Busnesau sy’n ddarostyngedig i’r rheoliadau.
Bwyty
Busnes y mae ei fangre yn cael ei ddefnyddio yn bennaf ar gyfer paratoi neu werthu bwyd y bwriedir ei fwyta ar unwaith, naill ai ar neu oddi ar y fangre. Gan gynnwys:
- caffi
- siop goffi
- busnes bwyd cyflym
- busnes cludfwyd
