Cyfyngu ar hyrwyddo bwydydd â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr: canllawiau gweithredu - Rhan 4: hyrwyddiadau pris ar sail swmp
Sut mae Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 yn cyfyngu ar gynhyrchion 'llai iach'.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Hyrwyddiadau pris ar sail swmp
Ni chaiff busnesau cymhwysol gynnig bwyd o fewn cwmpas y rheoliadau, hynny yw bwyd penodedig, ar werth fel rhan o hyrwyddiad pris ar sail swmp (naill ai mewn siop neu ar farchnadle ar-lein).
Ystyr hyrwyddiad pris ar sail swmp yw:
- hyrwyddiad amleitem, sef cynnig datganedig sy’n rhoi cymhelliad ariannol dros brynu eitemau lluosog o gymharu â phrynu pob eitem ar wahân (gan gynnwys ‘3 am bris 2’, ‘3 am £10’ neu ‘prynu 6 ac arbed 25%’)
- hyrwyddiad sy’n dangos bod eitem, neu unrhyw ran o eitem, yn rhad ac am ddim (gan gynnwys ‘50% yn ychwanegol am ddim’ neu ‘prynu un eitem a chael un arall am ddim’)
Gall cymhellion ariannol gynnwys cymhellion hefyd fel pwyntiau teyrngarwch, lle gellir defnyddio’r rhain i wneud pryniannau pellach. Er enghraifft, ‘prynu 3 cynnyrch a chael 1,000 o bwyntiau teyrngarwch’.
Nid yw cynnyrch amlbecyn a werthir fel eitem unigol o reidrwydd yr un fath â hyrwyddiad amleitem. Fodd bynnag, gall cynnyrch amlbecyn sy’n cael ei werthu fel pecyn allanol unigol sy’n cynnwys 6 pecyn ar wahân o greision fod o fewn cwmpas y cyfyngiadau ar hyrwyddiad pris ar sail swmp pe bai ei becynnu yn hyrwyddo ei bris o un amlbecyn o gymharu â phecynnau unigol ar wahân fel ‘6 am bris 4’ neu ‘50% yn ychwanegol am ddim’. Efallai y bydd hyrwyddiad pris ar sail swmp hefyd lle mae busnes yn cynnig pryniannau lluosog o’r cynhyrchion amlbecyn eu hunain, er enghraifft, ‘prynu 2 amlbecyn a chael un amlbecyn am ddim’ neu ‘20% yn ychwanegol am yr un pris’.
Mae’r rheoliadau yn egluro na ddylid cynnig bwyd penodedig ar werth yn rhan o hyrwyddiad pris ar sail swmp. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddiad lle mae eitemau bwyd amhenodedig neu eitemau nad ydynt yn fwyd hefyd wedi’u cynnwys.
Er enghraifft, ni chaniateir cynnig hyrwyddo ar bapur newydd a siocled fel ‘prynu papur newydd a chael bar siocled am ddim’ oherwydd ei fod yn nodi bod bwyd penodedig yn cael ei gynnig am ddim. Un o’r diffiniadau o hyrwyddiad pris ar sail swmp yn y rheoliadau yw hyrwyddiad sy’n nodi bod eitem, neu unrhyw ran o eitem, am ddim.
Nid yw cynigion nad ydynt yn hyrwyddiadau pris ar sail swmp yn perthyn i gwmpas y cyfyngiadau.
Enghreifftiau o hyrwyddiadau pris ar sail swmp a ganiateir o gymharu â rhai cyfyngedig
Enghraifft 1: 2 am bris 1 ar boteli dŵr plaen
Caniateir. Nid yw’r cynnig hwn yn cynnwys cynhyrchion bwyd penodedig.
Enghraifft 2: 2 am bris 1 ar ddetholiad o ddŵr plaen a diodydd ysgafn llawn siwgr sydd â sgôr NPM o ≥1
Ni chaniateir. Mae’r cynnig hwn yn cynnwys cynhyrchion bwyd penodedig. Dylid cyfrifo’r sgôr NPM fesul cynnyrch, os yw o leiaf un cynnyrch yn y cynnig yn cael ei ystyried yn HFSS neu’n llai iach, yna ni chaniateir y cynnig.
Enghraifft 3: cynnig 2 am bris 1 ar ddiodydd ysgafn llawn siwgr yn unig sydd â sgôr NPM o ≥1
Ni chaniateir.
Eithriad cynnig arbennig perthnasol
Mae cynigion y cyfeirir atynt yn gyffredin fel ‘bargeinion bwyd’ neu ‘bargen bwyta i mewn i ddau’, lle cynigir pris gostyngol am eitemau lluosog a hyrwyddir fel rhai y bwriedir iddynt gael eu bwyta gyda’i gilydd fel, neu fel rhan o, un pryd bwyd gan un person neu gan ddau berson neu fwy gyda’i gilydd, y tu allan i gwmpas cyfyngiadau hyrwyddiadau pris ar sail swmp.
Nod bargeinion bwyd (sy’n cael eu targedu yn gyffredinol fel opsiynau cinio i oedolion eu bwyta wrth fynd y diwrnod hwnnw) neu gynigion ‘bargen bwyta i mewn i ddau’ (sy’n lleihau cost prydau ‘cyflawn’ i sawl person, yn hytrach na chael eu stocio gartref) yw lleihau cost pryd o fwyd unigol.
Fodd bynnag, ni ellir gosod yr holl fwyd penodedig, pa un a yw’n rhan o fargen bwyd ai peidio, mewn lleoliadau cyfyngedig.
Bydd pob achos wrth gwrs yn cael ei asesu ar ei ffeithiau unigol gan swyddog gorfodi i benderfynu a yw’r fargen o dan sylw o fewn cwmpas y cyfyngiadau.
Nid yw’n hysbys a yw’r canlynol i gael eu hyrwyddo fel arfer yn rhai y bwriedir iddynt gael eu defnyddio fel un pryd o fwyd neu yn rhan o un pryd o fwyd:
- plateidiau
- bwyd parti (nad yw wedi’i fwriadu i’w fwyta fel prif bryd)
- hyrwyddiad amleitem ar becyn o greision, bar o siocled a diod ysgafn
- pecyn o greision a diod ysgafn
- hyrwyddiad ar fag rhannu o greision, bag o felysfwyd a diod ysgafn 2 litr, hyd yn oed os oedd yn cael ei farchnata fel ‘noson fawr i mewn’ i’w fwyta gyda’i gilydd gan ddau neu ragor o bobl (er enghraifft, teuluoedd fel achlysur rhannu gartref)
Mae’n arfer da i hyrwyddiadau pris ar sail swmp gael eu cymhwyso i gynigion ‘bargen fwyd’ dilys yn unig.
Bargeinion bwyd ar-lein
Enghreifftiau o fargeinion bwyd y gallai busnesau eu hyrwyddo ar-lein:
- Gallai busnesau cymhwysol hyrwyddo bar siocled pan fydd defnyddiwr yn chwilio am frechdan os yw’r bar siocled yn rhan o gynnig arbennig perthnasol.
- Gallai busnesau cymhwysol hyrwyddo pwdin hefyd pan fydd defnyddiwr yn chwilio am bryd parod pan fydd y pwdin yn rhan o gynnig ‘bargen bwyta i mewn i ddau’ (neu gynnig arbennig perthnasol tebyg). Mewn geiriau eraill, os yw cwsmer yn rhan-brynu bargen fwyd (er enghraifft, brechdan), caniateir annog cwsmer gydag eitemau eraill a werthir gyda’r frechdan fel rhan o gynnig arbennig perthnasol (er enghraifft, byrbryd neu ddiod).
Fodd bynnag, ni chaniateir i fusnes cymhwysol hyrwyddo bwyd penodedig sy’n rhan o gynnig arbennig perthnasol ar dudalen hafan, tudalen ffefrynnau neu dudalen dalu er mwyn sicrhau dull cyson rhwng hyrwyddiadau lleoliadau mewn siopau cymhwysol ac ar-lein.
Hyrwyddiadau ar becynnau
Dylai busnesau cymhwysol sy’n dewis gwerthu cynhyrchion gyda chynigion hyrwyddiadau pris ar sail swmp ar eu pecynwaith sicrhau eu bod yn cyfathrebu’n glir â defnyddwyr nad yw’r cynnyrch yn cael ei gynnig ar werth fel rhan o’r hyrwyddiad hwnnw. Dylai unrhyw ddull a gymerir i sicrhau hyn:
- egluro’n glir nad yw’r hyrwyddiad ar becynwaith yn gymwys
- cadarnhau’n glir pris diwygiedig y cynhyrchion
Dylai busnesau sicrhau bod eu dull dewisol ar gyfer cyfathrebu hyn yn ddigon clir fel nad yw’n camarwain defnyddwyr. Dylent asesu sut i fynd i’r afael â chynigion hyrwyddo ar becynwaith fesul cynnyrch, er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol i ddiogelu defnyddwyr.
Hyrwyddiadau pris nad ydynt wedi’u cynnwys
Nid yw hyrwyddiadau disgownt er enghraifft ‘50% i ffwrdd’, ‘hanner i ffwrdd’ neu ‘arbedwch £1’ wedi’u cynnwys yn y polisi hwn. Nid yw talebau ar gyfer y bargeinion hyn yn dod o dan gwmpas y rheoliadau ychwaith.
Yn ogystal, nid yw samplau am ddim neu dalebau ar gyfer cynhyrchion am ddim wedi’u cynnwys yng nghwmpas y cyfyngiadau ar hyrwyddiadau pris ar sail swmp.
Caiff amlbecyn ei ystyried yn un eitem at ddibenion cyfyngiadau ar hyrwyddiadau pris ar sail swmp. Os nad yw’r pecynwaith yn hyrwyddo’r eitem o gymharu â phecynnau unigol (er enghraifft, ‘6 am bris 4’ neu ‘50% yn ychwanegol am ddim’), nid yw’n dod o dan gwmpas y rheoliadau. Yn yr un modd, byddai amlbecynnau lluosog yn dod o dan y cwmpas, pe bai, er enghraifft, hyrwyddiad ‘2 am 1’ yn cael ei gynnig ar amlbecynnau lluosog.
Samplau yn y siop
Nid yw talebau o reidrwydd yn dod o dan y diffiniad o hyrwyddiad pris ar sail swmp os nad ydynt yn cynnwys cynnig y bwyd ar werth. Yn yr un modd, gall samplau am ddim fod y tu allan i’r cwmpas:
- os nad ydynt mewn eitem wedi’i ragbecynnu
- os nad ydynt yn cynnwys cynnig y bwyd ar werth
Fodd bynnag, os yw bwyd penodedig sy’n gysylltiedig â thalebau neu samplau am ddim o’r fath wedi’i ragbecynnu ac yn cael ei gynnig yn y siop fel rhan o hyrwyddiad pris ar sail swmp neu’n cael ei roi o fewn ardaloedd cyfyngedig, mae hyn wedi’i wahardd o dan y rheoliadau.
