Cyfyngu ar hyrwyddo bwydydd â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr: canllawiau gweithredu - Rhan 6: hyrwyddiadau lleoliad
Sut mae Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 yn cyfyngu ar gynhyrchion 'llai iach'.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyfyngiadau mewn siop ar hyrwyddiadau lleoliad
Mae’r rheoliadau’n disgrifio lle na ddylai busnesau cymhwysol gyflwyno bwyd penodedig y tu mewn i siop ffisegol. Maent yn darparu bod y cyfyngiadau lleoliad yn gymwys i siopau y mae arwynebedd perthnasol y llawr yn 185.8m2 (2,000 troedfedd sgwâr) neu fwy ac nad ydynt ond yn gwerthu bwyd o un categori yn atodlen 1 neu sy’n gwerthu bwyd o’r fath yn bennaf. Noder bod ystyr arwynebedd perthnasol y llawr a nodir yn y rheoliadau hyn yn wahanol i’r ystyr a nodir yn Neddf Masnachu ar y Sul 1994.
Rhannau o’r siop nad ydynt yn cyfrif tuag at arwynebedd perthnasol y siop:
- rhannau nas defnyddir ar gyfer arddangos nwyddau neu ar gyfer gwasanaethu cwsmeriaid mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau
- rhannau a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer paratoi neu werthu bwyd y bwriedir iddo gael ei fwyta ar unwaith, naill ai ar neu oddi ar y fangre (bydd angen i’r awdurdod gorfodi asesu a fwriedir iddo gael ei fwyta ar unwaith)
- ystafelloedd a ddefnyddir i ymgynghori â chwsmeriaid mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaethau meddygol a gynigir yn y siop
- rhan sydd wedi’i meddiannu gan fusnes (“consesiwn”) heblaw’r busnes sy’n bennaf gyfrifol am reoli a gweithredu’r siop, ond dim ond pan fo’r consesiwn yn gweithredu ei gyfleusterau talu ei hun (nid yw’r diffiniad o gonsesiwn yn dibynnu ar a yw staff sy’n gweithio i’r prif fusnesau yn rhedeg neu’n gweithio yn y consesiwn)
Enghreifftiau o leoedd y gellir eu hystyried fel y rhan hon o siop (nid yw hon yn rhestr gyflawn):
- mannau storio
- ystafelloedd stoc
- ardaloedd cymunedol staff fel:
- ystafelloedd egwyl
- ystafelloedd loceri
- ceginau staff
- ardaloedd paratoi bwyd, er enghraifft, ardaloedd a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer coginio a pharatoi eitemau y bwriedir eu bwyta ar unwaith
- cownteri deli os ydynt yn gwerthu bwyd y bwriedir ei fwyta ar unwaith
- cownteri brechdanau os ydynt y gwerthu bwyd y bwriedir ei fwyta ar unwaith
- siopau coffi
- ffreuturau
- fferyllfa
- gwasanaethau optegydd
- fferyllfa
- swyddfa bost
- peiriannau awtomatig, er enghraifft bwth ffotograffau a pheiriannau gwerthu sy’n cymryd eu taliadau eu hunain ac nad ydynt yn cael eu gweithredu gan y busnes sy’n bennaf gyfrifol am reoli a gweithredu’r siop
Gellir dod o hyd i ddiagramau o enghreifftiau o’r cyfyngiadau lleoliad yn atodiad 3.
Consesiynau
Diffinnir consesiynau yn y rheoliadau fel busnes heblaw’r busnes sy’n bennaf gyfrifol am reoli a gweithredu’r siop.
Nid yw consesiynau mewn siopau yn cyfrannu tuag at gyfrifo’r 185.8m2 (2,000 troedfedd sgwâr) sy’n angenrheidiol ar gyfer cymhwyso cyfyngiadau o ran lleoliadau hyrwyddo.
Gall consesiynau fod yn fusnesau y tu allan i’r cartref neu’n fusnesau manwerthu.
Enghraifft 1: caffis ar y safle
Os oes gan siop gyfanswm arwynebedd llawr o 2,500 troedfedd sgwâr, ond bod caffi ar y safle sy’n cael ei redeg gan fasnachfraint y tu allan i’r cartref ar wahân sy’n 550 troedfedd sgwâr, byddai hyn yn rhoi arwynebedd perthnasol y llawr o dan y trothwy 185.8m2 (2,000 troedfedd sgwâr) ac felly ni fyddai’r siop yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau lleoliad.
Nid yw maint troedfedd sgwâr unrhyw siop, fodd bynnag, yn pennu ei eithriad rhag hyrwyddiadau pris ar sail swmp. Bydd unrhyw fusnes o fewn cwmpas y polisi, ni waeth beth yw maint ffisegol y busnes hwnnw, yn cael ei gyfyngu rhag cynnig hyrwyddiadau pris ar sail swmp.
Enghraifft 2: cownteri consesiynau manwerthu
Os oes gan siop gyfleustra gownter consesiwn manwerthu (er enghraifft, cownter sy’n gwerthu bwyd wedi’i ragbecynnu neu gownter sy’n gwerthu dillad gyda chyfleusterau talu ar wahân), bydd y cownter consesiwn manwerthu hwn wedi’i eithrio o arwynebedd perthnasol y llawr ar gyfer y siop gyfleustra honno.
Os yw’r cownter consesiwn yn fusnes cymhwysol ond yn llai na 185.8m2 (2,000 troedfedd sgwâr) byddai’n cael ei eithrio o’r cyfyngiadau lleoliad, ond nid y cyfyngiadau ar hyrwyddiadau pris ar sail swmp.
Os oes gan siop gonsesiwn sy’n fusnes cymhwysol ac yn fwy na 185.8m2 (2,000 troedfedd sgwâr), byddai’r consesiwn ei hun yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau pris a lleoliad fel busnes cymhwysol ynddo’i hun.
Ardaloedd cyfyngedig yn y siop
Rhaid i fusnesau o fewn y cwmpas beidio â chyflwyno bwyd penodedig yn y siop mewn unrhyw un o'r ardaloedd canlynol.
Unrhyw ardal o fewn 2 fetr i gyfleuster talu
Ystyr cyfleuster talu yw cyfleuster yn y siop y bwriedir i ddefnyddwyr ei ddefnyddio i dalu am gynhyrchion. Mae hyn yn cynnwys cownter lle y defnyddir til arian parod (gan gynnwys yr ardal y tu ôl i’r cownter) a therfynell hunanwasanaeth. Gall gynnwys mannau til eraill neu fannau gwerthu electronig hefyd. Fodd bynnag, gellir cyflwyno bwyd penodedig o fewn 2 fetr i gyfleuster talu os yw’n cael ei gyflwyno mewn eil (ond nid ar ei phen draw).
Unrhyw ardal o fewn 2 fetr i ardal giwio ddynodedig
Gellir diffinio hyn fel ardal wedi’i neilltuo a’i marcio at ddiben darparu lle i ddefnyddwyr aros i brynu. Er enghraifft, gellid ei neilltuo neu ei marcio gan arwyddion, marciau llawr, rhwystrau, unedau neu silffoedd wedi’u cynllunio i arwain cwsmeriaid mewn ciw i’r pwynt prynu. Fodd bynnag, gellir cyflwyno bwyd penodedig o fewn 2 fetr i ardal giwio ddynodedig os yw’n cael ei gyflwyno mewn eil (ond nid ar ei phen draw).
Arddangosfeydd pen draw eil
Mae’r rhain yn arddangosfeydd ar ben draw eil (ond nid yn yr eil), neu ar strwythur ar wahân (er enghraifft, bin ynys, uned annibynnol a allai fod yn oergell neu’n rhewgell, stac ochr neu stribedi arddangos) wedi’i gysylltu â phen draw eil, yn gyfagos â hi neu o fewn 50cm iddi. Gall arddangosfa pen draw eil gynnwys arddangosfeydd sy’n wynebu’r ddesg dalu, tuag at y siop neu berimedr y siop. Nid yw ‘arddangosfa pen draw eil’ mewn eil ond yn hytrach pen perpendicwlar yr eil, y bydd angen i’r awdurdod gorfodi ei asesu wrth asesu’r fangre.
Mynedfeydd siopau
Mae’r rheoliadau’n cyfyngu ar gyflwyno bwyd penodedig ar unrhyw bwynt o fewn y pellter gwaharddedig o ganolbwynt unrhyw fynedfa gyhoeddus i brif ardal siopa’r siop. Ni ddylid gosod bwyd penodedig ar unrhyw bwynt yn yr ardal hon, p'un a ellir ei weld o fynedfa’r siop ai peidio. Gellir dod o hyd i ddiagramau yn atodiad C.
Ardal allanol sydd wedi’i gorchuddio
Mae’r cyfyngiad hwn yn gymwys i ardaloedd o dan orchudd, sydd y tu allan ac wedi’i chysylltu â phrif ardal siopa siop, y mae’r cyhoedd yn pasio drwyddi er mwyn mynd i mewn i’r brif ardal siopa (er enghraifft, cyntedd, lobi neu festibwl). Wrth gwrs, bydd achosion unigol yn cael eu hystyried a’u hasesu’n unigol gan swyddog gorfodi i benderfynu a yw’r ardal o dan sylw o fewn cwmpas y cyfyngiadau.
Pen draw eil
Mae’r cyfyngiadau ‘pen draw eil’ yn y rheoliadau yn cynnwys hyrwyddo cynhyrchion a gyflwynir mewn arddangosfa ym mhen draw eil (ond nid yn yr eil) mewn siopau, neu ar strwythur ar wahân sy’n gysylltiedig â phen draw eil, yn gyfagos â hi neu o fewn 50cm iddi, er enghraifft, arddangosfeydd biniau ynys, staciau ochr neu stribedi arddangos. Nid arddangosfa pen draw eil yw’r adran olaf yn yr eil, ond yn hytrach pen perpendicwlar yr eil, y gall yr awdurdod gorfodi ei asesu wrth asesu’r fangre.
Dim ond arddangosfeydd o fwyd penodedig sy’n cael eu cyfyngu ar ben draw eil. Os yw offer ar wahân wedi’u gosod o fewn eil (o leiaf 50cm o ben draw’r eil) neu wedi’u cysylltu â’r eil ei hun, cyn belled nad ydynt wedi’u cysylltu â phen draw eil neu’n gyfagos â hi, nid yw o fewn cwmpas y cyfyngiadau hyrwyddo lleoliad ‘pen draw eil’.
Os yw eil yn gorffen mewn wal, drwy ddiffiniad nid oes pen draw eil ar y pwynt hwnnw y gellir arddangos bwyd arno.
Darperir diagramau yn atodiad 3 sy’n dangos enghreifftiau o ben draw eil sydd o fewn y cwmpas.
Pennu’r hyn all ffurfio eil
Wrth gynnal archwiliad, bydd angen i swyddogion gorfodi, ar sail bob achos yn unigol, asesu a yw uned arddangos yn cael ei hystyried yn eil, yn uned annibynnol arall neu’n uned math ynys. Dylai busnesau sy’n ansicr a yw unedau arddangos yn eu siop o fewn cwmpas cyfyngiadau pen draw eil gysylltu â’u Hawdurdod Lleol am gymorth. Gall uned arddangos nad yw’n eil sydd â phen draw eil fod yn strwythur ar wahân sy’n gysylltiedig â phen draw eil, yn gyfagos â hi neu o fewn 50cm iddi. Er mwyn cynorthwyo busnesau i gydymffurfio â’r agwedd hon ar y rheoliadau, mae’r adran hon o’r canllawiau yn ceisio egluro’r hyn y gall swyddogion gorfodi ei ystyried wrth asesu cydymffurfiaeth busnes.
Er mwyn pennu’r hyn sy’n gyfystyr ag eil, mae hyn yn debygol o ddibynnu ar y modd y caiff y strwythurau perthnasol eu harddangos. Mae i ‘eil’ ei ystyr naturiol lle y ceir gofod hir a chul neu dramwyfa rhwng rhesi.
Enghraifft 1: unedau rhewgell sydd wedi’u harddangos ochr yn ochr
Os caiff unedau rhewgell lluosog eu harddangos ochr yn ochr ag uned rhewgell arall fel yn y ddelwedd isod, gall yr unedau ffurfio eil gyda phen draw eil.
Enghraifft 2: unedau rhewgell sydd wedi’u harddangos mewn ffurfiant sgwâr/hirsgwar
Os caiff uned rhewgell unigol ei harddangos ar ei phen ei hun neu os bydd sawl uned yn cael eu harddangos cefn wrth gefn mewn ffurfiant sgwâr neu hirsgwar annibynnol, nad ydynt yn creu unrhyw ofod hir neu dramwyfa rhwng rhesi, gellir ystyried yr unedau fel arfer yn strwythur ar wahân i eil, fel ynys er enghraifft.
Enghraifft 3: unedau rhewgell lluosog sydd wedi’u harddangos gyda’i gilydd mewn ffurfiant hirach
Pe bai rhewgell ychwanegol yn cael ei hychwanegu at ffurfiant sgwâr unedau’r rhewgell uchod, ac y byddai’r ffurfiant yn cael ei osod yn gyfagos ag eil arall gan greu gofod hir neu dramwyfa, gall yr unedau ddod yn eil gyda phen draw eil.
Mynedfeydd siopau
Ni chaniateir arddangos unrhyw fwyd penodedig o fewn 15 metr, neu’r pellter a ddisgrifir gan y fformiwla isod, i ganolbwynt unrhyw fynedfa gyhoeddus i brif ardal siopa’r siop, pa un bynnag yw’r lleiaf. Y canolbwynt yw’r pwynt hanner ffordd o ochr chwith mynedfa’r siop i’r ochr dde.
Fformiwla: pellter gwaharddedig o fynedfa’r siop
Yn yr hafaliad uchod, α yw ‘arwynebedd perthnasol y llawr’ y siop. Mae pellter yn cael ei bennu gan ddefnyddio’r hafaliad hwn drwy luosi ‘arwynebedd perthnasol y llawr’ â 0.03 a dod o hyd i ail isradd y ffigur hwnnw. Er enghraifft, byddai siop 185.8m2 yn cael ei gwahardd rhag arddangos cynnyrch cyfyngedig o fewn 2.4 metr, neu ychydig dros 7.7 troedfedd, i’r fynedfa. Gellir gweld hyn yn yr hafaliad isod:
Yn yr hafaliad uchod, caiff arwynebedd perthnasol y llawr y siop o 185.8m2 ei luosi â 0.03. Mae hyn yn hafal i 5.574. Cyfrifir yr arwynebedd llawr gwaharddedig felly drwy ddod o hyd i ail isradd 5.574. Yr ail isradd wedi’i dalgrynnu gan un lle degol yw 2.4 metr.
Mae’r tabl isod yn dangos yr ardaloedd mynediad gwaharddedig, fel mesur o ‘arwynebedd perthnasol y llawr’.
| Arwynebedd perthnasol y llawr | Pellter gwaharddedig |
|---|---|
| 185.8m2 (2,000 tr sgwâr) | 2.4m |
| 278.7m2 (3,000 tr sgwâr) | 2.9m |
| 371.6m2 (4,000 tr sgwâr) | 3.3m |
| 464.5m2 (5,000 tr sgwâr) | 3.7m |
| 557.4m2 (6,000 tr sgwâr) | 4.1m |
| 650.3m2 (7,000 tr sgwâr) | 4.4m |
| 743.2m2 (8,000 tr sgwâr) | 4.7m |
| 836.1m2 (9,000 tr sgwâr) | 5.0m |
| 929.0m2 (10,000 tr sgwâr) | 5.3m |
Byddai’r pellter gwaharddedig hwn yn ffurfio hanner cylch y tu mewn i’r siop o amgylch y fynedfa gyhoeddus berthnasol. Gellir dod o hyd i ddarlun o gyfyngiad mynedfa siop yn atodiad 3.
Enghreifftiau o gymhwyso’r pellter gwaharddedig o fynedfa gyhoeddus y siop:
- os yw mynedfa’r siop yn lifft, canolbwynt y fynedfa honno fyddai canolbwynt drws y lifft a ddefnyddir i adael y lifft a mynd i mewn i’r siop
- os yw mynedfa’r siop yn risiau symudol neu’n risiau, canolbwynt y fynedfa honno fyddai rhan uchaf y gris olaf i mewn i’r siop
Eiliau o fewn ardal gyfyngedig o fynedfa siop
Mewn achosion pan fo eil o fewn ardal gyfyngedig o fynedfa siop, ni ellir gosod bwyd penodedig yn yr ardal hon, hyd yn oed os yw yn yr eil ac nid ym mhen draw eil. Mewn rhai achosion, gall dwy ochr yr eil fod o fewn ardal gyfyngedig o fynedfa siop. Yn yr achosion hyn, ni ellir gosod cynhyrchion HFSS cymhwysol yn ardaloedd cyfyngedig yr eil ar y naill ochr a’r llall i’r eil, fel y dangosir yn yr enghraifft a ddarperir yn atodiad 3.
Rhaid i’r ardal gyfyngedig o fynedfa siop fod yn rhydd o’r holl fwyd penodedig, pa bynnag ffordd y caiff ei arddangos.
Ardaloedd allanol sydd wedi’u gorchuddio
Ni ddylid gosod bwyd penodedig mewn ‘ardal allanol sydd wedi’i gorchuddio’, sy’n golygu ardal o dan orchudd, sydd y tu allan ac wedi’i chysylltu â phrif ardal siopa’r siop, y mae’r cyhoedd yn pasio drwyddi er mwyn mynd i mewn i’r brif ardal siopa (fel cyntedd, lobi neu festibwl).
Mae hon yn ardal gyfyngedig ar wahân i’r ardal waharddedig o fynedfa siop.
Mae rhagor o enghreifftiau o ardaloedd y gellid eu hasesu gan awdurdodau gorfodi fel ‘ardal allanol sydd wedi’i gorchuddio’ yn cynnwys blaengyrtiau petrol ac adlenni siop.
Mynedfeydd mewnol i neuaddau bwyd mewn siop adrannol (neu debyg)
Ni all ardaloedd mynedfa i wahanol ardaloedd neu adrannau o fewn yr un siop a feddiannir gan yr un busnes cymhwysol fod yn fynedfa gyhoeddus at ddibenion y cyfyngiad ar ardaloedd mynedfa siop. Er enghraifft, gall neuadd fwyd mewn siop adrannol fod yn hygyrch yn fewnol yn unig o’r tu mewn i adeilad y siop. Mae’r ardal waharddedig o fynedfa siop yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fynedfa gyhoeddus i brif ardal siopa’r siop adrannol, ac nid y pwynt lle mae’r neuadd fwyd yn dechrau.
Fodd bynnag, os yw consesiwn o fewn siop fwy yn fusnes cymhwysol a’i arwynebedd o fewn y siop yn fwy na 185.8m2 (2,000 troedfedd sgwâr), gall y fynedfa i ardal y consesiwn fod y fynedfa gyhoeddus i brif ardal siopa’r consesiwn.
Mynedfeydd lluosog siopau
Mae’r cyfyngiad ar ardaloedd mynedfeydd siopau yn gymwys i unrhyw fynedfa gyhoeddus i brif ardal siopa’r siop. Gall pellteroedd gwaharddedig orgyffwrdd ar gyfer mynedfeydd siopau sy’n agos at ei gilydd.
Cyfyngiadau ar-lein ar gyfer hyrwyddiadau lleoliad
Rhaid i fusnesau o fewn cwmpas y rheoliadau beidio â pheri i fwyd penodedig ar-lein (gan gynnwys mewn apiau) i gael ei gynnig ar werth mewn lleoliadau penodedig yr ystyrir eu bod yn cyfateb i leoliadau allweddol mewn siopau. Er enghraifft, ystyrir bod cynnig bwyd penodedig ar werth ar dudalen hafan gwefan yn cyfateb i osod bwyd penodedig wrth fynedfa siop ffisegol.
Nid yw’r cyfyngiadau hyn yn gymwys i fusnes cymhwysol sy’n gwerthu bwyd o un categori yn atodlen 1 yn unig neu’n bennaf, er enghraifft, siop gacennau ar-lein neu siopau arbenigol ar gyfer siocled neu felysion.
Mae’r cyfyngiadau yn gymwys i fusnesau cymhwysol sy’n gwerthu bwyd ar-lein yng Nghymru.
Yn ogystal â sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheoliadau hyn, dylai busnesau gadarnhau a ydynt o fewn cwmpas rheoliadau hysbysebion darlledu ac ar-lein Llywodraeth y DU. Mae adran yn y canllawiau hyn (‘rheoliadau hysbysebion darlledu ac ar-lein’) sy’n rhoi cymorth ichi ddeall y prif feysydd sy’n debyg ac yn wahanol rhwng y ddwy set o reoliadau hyn.
Lleoliadau cyfyngedig ar-lein
Ni chaiff person cymhwysol beri i fwyd penodedig gael ei gynnig ar werth ar farchnadle ar-lein yn y ‘lleoliadau’ ar-lein a ganlyn:
- Y dudalen hafan (pa un a yw’r defnyddiwr yn mynd i mewn i’r farchnadle ar-lein drwy’r hafan ai peidio). Er enghraifft, ni chaniateir delwedd o fwyd penodedig y gallai defnyddiwr ei ychwanegu at ei fasged siopa o’r pwynt hwnnw ar dudalen hafan (fel drwy eicon ‘ychwanegu at y fasged’). Fodd bynnag, gellir caniatáu delwedd o fwyd penodedig sy’n cyfeirio at dudalen tacsonomeg a allai fod â bwyd penodedig arni neu beidio (gan gynnwys tudalennau categori sy’n dudalennau ‘cynigion’) ar dudalen hafan, yn amodol ar gydymffurfiaeth â rheoliadau hysbysebu ar-lein Llywodraeth y DU.
- Pan fo defnyddiwr yn chwilio am gynhyrchion heblaw bwyd atodlen 1 neu’n pori drwy gynhyrchion o’r fath, oni bai bod rhai amgylchiadau’n gymwys (gweler rheoliadau 7(4) a (5) yn y rheoliadau a’r enghreifftiau isod, sy’n dangos rhai sefyllfaoedd cyffredin y gall busnesau eu hwynebu).
- Pan fo defnyddiwr yn chwilio am fwyd atodlen 1 neu’n pori drwy fwyd o’r fath, oni bai bod y bwyd penodedig yn dod o fewn yr un categori yn atodlen 1 neu fod rhai amgylchiadau’n gymwys (gweler hefyd rheoliadau 7(4) a (5) o’r rheoliadau a’r enghreifftiau isod nad yw’n rhestr gynhwysfawr).
- Ar dudalen nas agorir yn fwriadol gan y defnyddiwr, fel tudalen naid neu hyrddiad brandio. Er enghraifft, pan fo cwsmeriaid yn mynd ymlaen i dalu, rhaid peidio â chael hyrwyddiad (ffenestr naid neu fel arall) o HFSS neu fwyd ‘llai iach’, hyd yn oed os yw’r cwsmer wedi prynu’r eitem hon wrth siopa’r tro diwethaf neu os yw ymhlith ei ffefrynnau. Mae’r cyfyngiad hwn yn cwmpasu tudalennau naid hefyd a all agor pan fydd defnyddiwr yn pori tudalen categori atodlen 1, hyd yn oed os yw’r dudalen naid yn hyrwyddo’r un bwyd atodlen 1, er enghraifft, ni all tudalen naid sy’n hyrwyddo bisged agor tra bod defnyddiwr yn pori’r dudalen ‘bisgedi’ y mae wedi’i hagor yn fwriadol.
- Ar dudalen ‘ffefrynnau’. Mae’r cyfyngiad hwn yn gymwys oni bai bod y defnyddiwr wedi prynu’r bwyd penodedig o’r blaen (naill ai mewn siop neu ar-lein) neu wedi’i nodi’n fwriadol fel ffefryn. Fodd bynnag, ni chaniateir rhoi mwy o amlygrwydd i fwyd penodedig, mewn unrhyw achos, nag i gynhyrchion eraill ar dudalen ‘ffefrynnau’. Er enghraifft, o fewn y rhestr neu’r grid o ffefrynnau, bwyd penodedig sy’n cael ei wneud yn fwy, yn ‘amlycach’ neu sy’n cael amlygrwydd arbennig mewn ffyrdd eraill ar draul cynhyrchion eraill. Ni chaniateir hyrwyddo amrywiolion blas bwyd penodedig, meintiau pecynnau gwahanol, cynhyrchion eraill yn yr un categori, neu unrhyw gynhyrchion eraill nad ydynt wedi’u prynu neu eu nodi o’r blaen gan y defnyddiwr yn y dudalen ‘ffefrynnau’ gan nad ydynt wedi’u prynu neu eu nodi’n fwriadol o’r blaen fel ffefrynnau. Pan fo ffefryn sydd wedi’i brynu’n flaenorol neu wedi’i nodi’n fwriadol allan o stoc, ni ellir disodli’r cynnyrch oni bai bod y cynnyrch sy’n cael ei awgrymu fel dewis amgen yn unffurf ac nid yn amrywiant. Mae cynnyrch unffurf yn gynnyrch na ellir gwahaniaethu rhyngddo a chynnyrch cystadleuol gan gyflenwyr gwahanol. Mae gan y cynnyrch yr un nodweddion ffisegol ac mae’r ansawdd yr un fath â chynhyrchion tebyg gan gyflenwyr eraill ar dudalen dalu.
- Ar dudalen dalu. Mae’r cyfyngiad hwn yn gymwys i’r holl dudalennau a ddangosir i ddefnyddiwr yn rhan o’r broses dalu, fel basged y defnyddiwr neu unrhyw dudalennau sy’n ymwneud â thalu, casglu neu ddosbarthu. Pan fo tudalen ‘ffefrynnau’ a agorir gan y defnyddiwr yn rhan o’r llif dalu, mae’r cyfyngiad o ran y dudalen ‘ffefrynnau’ yn gymwys i’r dudalen hon.
Ni ddylid cynnig bwyd penodedig ar werth fel rhan o hyrwyddiad pris ar sail swmp unrhyw le ar farchnadle ar-lein busnes o fewn y cwmpas.
Mae’r rheoliadau yn atal bwyd penodedig rhag cael ei gynnig ar werth ar-lein pan fo defnyddiwr yn chwilio neu’n pori cynhyrchion bwyd. Mae’r enghreifftiau isod yn amlinellu rhai eithriadau i’r cyfyngiad hwn.
Enghreifftiau o gyfyngiadau chwilio
Enghraifft 1: chwilio am fwyd atodlen 1
Os yw defnyddiwr yn chwilio’n fwriadol am fwyd atodlen 1, er enghraifft, ‘siocled’, mewn unrhyw ran o’i chwiliad, gall canlyniadau chwilio fod yn unrhyw gynnyrch yn yr un categori atodlen 1, bwyd sy’n cael ei gynnig i’w werthu gyda ‘siocled’ fel rhan o gynnig arbennig perthnasol, bwyd sy’n cael ei farchnata o dan enw sy’n cyfateb i ‘siocled’ yn gyfan gwbl neu’n rhannol, neu fwyd sydd â chynhwysyn a restrir ar y pecynwaith sy’n cyfateb i ‘siocled’ yn gyfan gwbl neu’n rhannol. Er enghraifft, melysfwyd siocled, bisgedi siocled, melysfwyd â blas siocled neu hufen iâ siocled.
Enghraifft 2: chwilio am fwyd heblaw bwyd atodlen 1
Os yw defnyddiwr yn chwilio’n fwriadol am gynnyrch bwyd nad yw wedi’i restru yn atodlen 1, ni ddylai bwyd penodedig ymddangos yn y rhestr eitemau chwilio, ond fe all hynny ddigwydd yn yr achosion canlynol:
- Mae enw marchnata’r bwyd penodedig yn cyfateb, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r term chwilio. Er enghraifft, efallai byddai ‘creision coctel corgimwch’ yn cael ei ganiatáu ar y rhestrau chwilio (ym mha bynnag ffurf, er enghraifft baneri neu gynhyrchion o dan sylw ac ati) os mai ‘corgimwch’ oedd y term chwilio, gan eu bod yn rhannu rhan o’r enw y mae’r bwyd penodedig yn cael ei farchnata oddi tano.
- Mae cynhwysyn a restrir ar becynwaith y bwyd penodedig yn cyfateb, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, â’r term chwilio. Er enghraifft, gellir dangos pryd parod wedi’i seilio ar gorgimychiaid yn y rhestr chwilio gan eu bod yn cynnwys yr un cynhwysyn â’r term chwilio ‘corgimwch’.
- Mae’r bwyd penodedig ar werth gyda’r cynnyrch bwyd y chwiliwyd amdano fel rhan o gynnig arbennig perthnasol. Er enghraifft, gall manwerthwr hyrwyddo cynnyrch pwdin pan fydd defnyddiwr yn chwilio am bryd parod os yw’r pwdin yn rhan o gynnig ‘bwyta i mewn i 2’.
Enghraifft 3: categorïau cyffredinol
Gall bwyd penodedig ymddangos yn y rhestr eitemau chwilio os oes cynnyrch categori cyffredinol yn cael ei ddefnyddio fel term chwilio gan y defnyddiwr a’i fod yn cynnwys y bwyd penodedig. Efallai y bydd unrhyw fwyd penodedig sy’n dod o dan y categori cyffredinol hwnnw wedyn yn cael ei ganiatáu ar y dudalen rhestrau chwilio. Er enghraifft, os yw cwsmer yn chwilio am ‘fwyd figan’, gall cacennau figan a pizzas figan ymddangos yn y canlyniadau chwilio. Gall categori cyffredinol o gynnyrch gynnwys categorïau sy’n ymwneud â thymor fel y ‘Nadolig’ (lle gellir dangos melysfwyd Nadolig, cacen Nadolig a chynhyrchion eraill sy’n gysylltiedig â’r Nadolig) a chategorïau pori sy’n ymwneud nodweddion maethol neu ddeietegol, fel ‘prydau calorïau isel’, ‘barbeciw’ ac ati.
Enghraifft 4: hamperi
Os yw defnyddiwr yn chwilio am ‘siocled’ a bod cynnyrch siocled yn rhan o hamper neu becyn sy’n cynnwys cynhyrchion eraill a oedd yn cynnwys eitemau bwyd penodedig o wahanol gategorïau atodlen 1, efallai y bydd modd dangos y cynnyrch hamper ei hun ar y rhestrau chwilio.
Gallai enghreifftiau posibl o hyn gynnwys achosion pan fo’r hamper:
- yn cael ei farchnata o dan enw sy’n cyfateb, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, â’r term chwilio, er enghraifft, hamper sy’n cael ei farchnata o dan yr enw ‘brownis siocled moethus’ pan mai ‘siocled’ oedd y term chwilio
- yn cynnwys bwyd penodedig gyda chynhwysyn a restrir ar ei becynwaith sy’n cyfateb, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, â’r term y chwilir amdano, er enghraifft, hamper sy’n cynnwys cacen sgwâr/petryal siocled a charamel hallt pan mai ‘siocled’ yw’r term chwilio
Enghreifftiau o gyfyngiadau pori
Enghraifft 1: pori am fwyd atodlen 1
Os yw defnyddiwr yn pori tudalen tab tacsonomeg ‘siocled’, yn gyffredinol ni ddylid dangos unrhyw fwyd penodedig arall ar y dudalen honno.
Dyma’r eithriadau i hyn:
- Os yw’r bwyd penodedig yn yr un categori atodlen 1 â’r bwyd y mae defnyddiwr yn ei bori.
- Os yw bwyd penodedig yn cael ei gynnig ar werth ynghyd â’r bwyd y mae’r defnyddiwr yn ei bori fel rhan o ‘gynnig arbennig perthnasol’. Er enghraifft, os yw defnyddiwr yn pori tudalen dacsonomeg ‘siocled’ a bod siocled mewn bargen fwyd gyda chreision, brechdan a diod ysgafn, mae’n bosibl y gellir dangos yr eitemau hyn ar dudalen tab tacsonomeg.
- Os yw’r bwyd penodedig wedi’i gynnwys yn ddichonadwy o fewn categori cyffredinol y cynnyrch roedd y defnyddiwr wedi chwilio amdano. Er enghraifft, os yw defnyddiwr yn pori tudalen dacsonomeg fel ‘siocled’, gall unrhyw fwyd penodedig sy’n perthyn i’r categori cyffredinol hwn ymddangos ar y dudalen dacsonomeg hon, megis cacennau siocled a hufen iâ siocled. Gall categori cynnyrch cyffredinol gynnwys categorïau sy’n ymwneud â’r ‘Nadolig’ (lle gellir dangos melysfwyd Nadolig, cacen Nadolig a chynhyrchion eraill sy’n gysylltiedig â’r Nadolig ar y dudalen dacsonomeg) a chategorïau pori sy’n ymwneud â nodweddion maethol neu ddeietegol, fel ‘prydau calorïau isel’, ‘Barbeciw’ ac ati.
Enghraifft 2: pori am gynhyrchion ac eithrio bwyd atodlen 1
Os yw defnyddiwr yn pori tudalen categori tacsonomeg yn fwriadol, er enghraifft, ‘bwyd figan’, ni ddylai bwyd penodedig ymddangos ar y dudalen tacsonomeg oni bai:
- Bod y bwyd penodedig wedi’i gynnwys yn ddichonadwy yn y categori cyffredinol o gynnyrch y chwiliodd y defnyddiwr amdano. Er enghraifft, os yw defnyddiwr yn pori tudalen tacsonomeg fel ‘bwyd figan’, gallai unrhyw fwyd penodedig sy’n dod o dan y categori cyffredinol hwn ymddangos ar y dudalen tacsonomeg hon, fel cacennau figan a pizzas figan.
- Bod bwyd penodedig yn cael ei gynnig ar werth ynghyd â’r bwyd y mae’r defnyddiwr yn ei bori fel rhan o ‘gynnig arbennig perthnasol’. Er enghraifft, gallai manwerthwr hyrwyddo cynnyrch pwdin sy’n fwyd penodedig pan fydd defnyddiwr yn pori prydau figan, os yw’r pwdin yn rhan o gynnig ‘bargen bwyta i mewn i 2’.
Enghraifft 3: hamperi
Os yw defnyddiwr yn pori tudalen tacsonomeg ‘siocled’ a bod cynnyrch siocled yn rhan o hamper sy’n cynnwys cynhyrchion eraill sy’n cynnwys eitemau bwyd penodedig o’r un categori atodlen 1 yn unig, byddai modd dangos y cynnyrch hamper ei hun ar y dudalen bori.
Fodd bynnag, ni chaniateir dangos hamperi eraill o’r fath sy’n cynnwys eitemau bwyd penodedig o wahanol gategorïau atodlen 1 ar y dudalen bori tacsonomeg ‘siocled’, oni bai bod yr eitemau bwyd penodedig eraill yn yr hamper wedi’u cynnwys yng nghategori cyffredinol cynhyrchion siocled, er enghraifft, gellir dangos hamper sy’n cynnwys siocled a bisgedi siocled ar y dudalen tacsonomeg ‘siocled’.
Nid oes eithriad ar gyfer marchnadleoedd ar-lein manwerthu sy’n gwerthu eitemau nad ydynt yn fwyd yn bennaf ond sy’n cynnig bwyd mewn lleoliadau cyfyngedig. Mae’r busnesau hyn o fewn cwmpas y rheoliadau.
Tudalennau cynigion arbennig
Nid yw rhai tabiau tacsonomeg ar wefan manwerthwr sy’n dudalennau pwrpasol ar gyfer cynigion arbennig, er enghraifft, tudalen a agorir yn fwriadol gan ddefnyddiwr at ddibenion pori ‘cynigion arbennig’, yn cael eu gwahardd rhag cynnig bwyd penodedig. Felly, gallai cynhyrchion o dan dab tacsonomeg o’r fath gynnwys cymysgedd o fwyd penodedig a bwyd amhenodol sy’n perthyn i wahanol gategorïau. Gall cynigion arbennig gynnwys ‘bargeinion yr wythnos’ ac ati.
Fodd bynnag, mae’r cyfyngiad ar gynnig bwyd penodedig ar werth yn rhan o hyrwyddiad pris ar sail swmp yn parhau i fod yn gymwys.
Baneri neu benawdau
Gall baneri neu benawdau ar farchnadle ar-lein fod o fewn cwmpas y cyfyngiadau ar-lein hefyd. Mae’r ffactorau i’w hystyried yn cynnwys a ydynt yn eiddo i’r busnes cymhwysol ac yn cael eu rheoli ganddo (hynny yw, nid ydynt yn hysbysebion sydd â dolenni i wefannau trydydd parti) ac a ydynt yn cynnig bwyd penodedig ar werth mewn lleoliad na chaniateir.
Cyfyngiadau hysbysebion darlledu ac ar-lein
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithredu’r cyfyngiadau hysbysebu bwyd neu ddiod llai iach ar y teledu ac ar-lein. Mae’r cyfyngiadau wedi’u hamlinellu yn Neddf Cyfathrebu 2003 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd a Gofal 2022) a disgwylir iddynt ddod i rym ledled y DU ar 5 Ionawr 2026. Mewn cytundeb â’r Llywodraeth, mae darlledwyr a hysbysebwyr, gyda chefnogaeth platfformau a chyhoeddwyr ar-lein, wedi gwneud ymrwymiad cyhoeddus i gydymffurfio’n wirfoddol â’r cyfyngiadau o 1 Hydref 2025 ymlaen. Mae Rheoliadau Hysbysebu (Diffiniadau ac Eithriadau Bwyd Llai Iach) 2024 yn darparu ar gyfer cynhyrchion, busnesau a gwasanaethau sydd o fewn cwmpas y cyfyngiadau hysbysebu hyn, yn ogystal ag eithriadau. Bwriedir i’r cyfyngiadau hysbysebu weithredu law yn llaw ag ymyriadau rheoleiddiol eraill ar ordewdra, fel y rheoliadau hyn.
Mae’r isod yn dangos y meysydd sy’n alinio rhwng Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 a Rheoliadau Hysbysebu (Diffiniadau ac Eithriadau Bwyd Llai Iach) 2024.
Categorïau cynhyrchion o fewn y cwmpas
Bwriedir i gategori 1 i 12 yn y ddwy set o reoliadau gyfateb cymaint â phosibl. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau clir yng nghategori 13 y dylai busnesau eu nodi. Mae’r gwahaniaethau hyn yn adlewyrchu bod y cyfyngiadau hysbysebu ledled y DU ar fwyd neu ddiod llai iach hefyd yn gymwys i gynhyrchion sy’n cael eu gwerthu yn y sector y tu allan i’r cartref, yn ogystal â manwerthwyr a gweithgynhyrchwyr, tra bod y rheoliadau hyn dim ond yn gymwys i gynhyrchion sy’n cael eu gwerthu gan fanwerthwyr a gweithgynhyrchwyr (gan eithrio diodydd siwgr yn y sector y tu allan i’r cartref).
Busnesau o fewn y cwmpas
Mae cyfyngiadau hysbysebu Llywodraeth y DU yn gymwys i fusnesau sydd â 250 neu ragor o gyflogeion sy’n talu i hysbysebu cynhyrchion bwyd a diod llai iach. Ar y llaw arall, mae Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 yn gymwys i fusnesau sydd â 50 neu ragor o gyflogeion sy’n cynnig bwyd wedi’i ragbecynnu i’w werthu ar-lein ac mewn siop. Nid yw rheoliadau Cymru yn gymwys i’r sector y tu allan i’r cartref, ac eithrio pan fo busnesau’n cynnig ail-lenwi am ddim ddiodydd llawn siwgr heb eu pecynnu ymlaen llaw.
Atebolrwydd
O dan Reoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025, mae manwerthwyr yn atebol am achosion o dor rheoliadau yn y siop, a gall manwerthwyr a/neu gyd-gasglwyr ar-lein fod yn gyfrifol am werthiannau ar-lein.
Yn unol â chyfyngiadau hysbysebu Llywodraeth y DU, mae hysbysebwyr yn atebol am unrhyw achos o dorri’r gwaharddiad ar hysbysebion y telir amdanynt ar y rhyngrwyd. Mae darparwyr gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau rhaglenni ar alw o dan awdurdodaeth y DU yn atebol am unrhyw achos o dorri’r cyfyngiadau darlledu.
Mewn meysydd sy’n gorgyffwrdd, er enghraifft os yw cwmni wedi talu am hysbysebu cynnyrch HFSS y gellir ei adnabod sy’n cael ei arddangos mewn ardal sydd wedi’i chyfyngu o dan y rheoliadau hyrwyddo (er enghraifft, ar dudalen hafan manwerthu, tudalen dalu neu dudalen nad yw’n cael ei agor yn fwriadol gan y defnyddiwr), gall y manwerthwr neu’r cydgasglydd fod yn atebol am achosion o dor rheoliadau hyrwyddo.
Mae’n bosibl y gallai’r rheoleiddiwr rheng flaen y cyfyngiadau hysbysebu (yr Awdurdod Safonau Hysbysebu) hefyd ganfod bod y manwerthwr yn agored i achos o dor rheoliadau hysbysebu, os ydyw, yn rhinwedd ei waith fel hysbysebwr, wedi talu am osod hysbyseb ar gyfer cynnyrch llai iach y gellir ei adnabod ar-lein.
