Neidio i'r prif gynnwy

Atebolrwydd

Bydd busnesau sydd o fewn cwmpas y rheoliadau sy’n hyrwyddo bwyd o fewn y cwmpas mewn ffordd nad yw’n bodloni gofynion y ddeddfwriaeth yn agored i gamau gorfodi, oni bai bod eithriad yn gymwys.

Disgwylir y bydd angen i fusnesau cymhwysol asesu a yw’r cynhyrchion y maent yn eu gwerthu yn dod o fewn categorïau atodlen 1 yn y rheoliadau. Os ydynt yn gwneud hynny, bydd angen i fusnesau asesu a yw’r cynhyrchion hyn yn llai iach drwy gyfrifo eu sgôr NPM. Os ystyrir bod cynnyrch yn ‘fwyd penodedig’, cyfrifoldeb y busnes fydd sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau ar hyrwyddiadau fel y’u nodir yn y rheoliadau.

Mae busnesau cymhwysol yn gyfrifol am sicrhau bod y cynhyrchion y maent yn eu hyrwyddo yn cydymffurfio. Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth angenrheidiol i gyfrifo sgoriau NPM (er enghraifft, faint o egni, cilojouleau (kJ), siwgrau, braster dirlawn ac ati mewn 100g o’r bwyd neu’r ddiod) eisoes wedi’i darparu ar becynwaith.

Os oes angen rhagor o wybodaeth ar fusnesau (er enghraifft cynnwys ffibr, ffrwythau, llysiau a chnau), yna efallai y byddant yn dewis ceisio’r manylion hyn gan weithgynhyrchwyr (os nad ydynt eisoes wedi’u rhannu’n gyhoeddus). Gall gweithgynhyrchwyr ddewis darparu sgoriau NPM i fusnesau os ydynt yn dymuno iddynt hyrwyddo cynnyrch sydd yng nghategori cynnyrch atodlen 1 ond nad yw’n HFSS neu’n ‘llai iach’ oherwydd ei sgôr NPM.

Dylai gwybodaeth am faeth neu gynhwysion a ddarperir gan weithgynhyrchwr fod yn gywir ac nid yn gamarweiniol. Os ystyrir bod gwybodaeth a ddarperir gan weithgynhyrchwr yn gamarweiniol, gall awdurdod gorfodi gymryd camau gorfodi yn erbyn y gweithgynhyrchwr o dan ddeddfwriaeth ar wahân. Mae gan weithgynhyrchwyr rwymedigaethau penodedig eisoes ynghylch gwybodaeth am faeth y mae angen iddynt gydymffurfio â nhw ac mae’n drosedd rhoi gwybodaeth gamarweiniol am faeth ar y pecynwaith.

Apiau ar-lein a phlatfformau cyflenwi

Os yw busnes cymhwysol yn cynnig bwyd o fewn y cwmpas ar wefan neu blatfform ar-lein trydydd parti, bydd yn rhaid iddynt gydymffurfio â chyfyngiadau hyrwyddiadau pris ar sail swmp a lleoliad mewn perthynas â’r cynhyrchion y maent yn eu gwerthu. Mae bwytai y tu allan i gwmpas cyfyngiadau hyrwyddo (ac eithrio ail-lenwi diodydd am ddim), ond mae manwerthwyr o fewn y cwmpas ac yn atebol i gamau gorfodi.

Felly, ni chaiff manwerthwyr beri i fwyd penodedig gael ei gynnig ar werth ar rannau o safleoedd neu apiau ar-lein cyd-gasglydd (hynny yw, y farchnadle ar-lein) a allai gael eu dal gan gyfyngiadau hyrwyddo, fel tudalennau talu neu dudalennau naid ar adrannau manwerthwyr yr ap neu’r wefan.

Mae manwerthwyr yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw gontractau sydd ar waith gyda’r platfform dosbarthu ar-lein yn ei gwneud yn glir bod rhaid dilyn y gyfraith. Rhaid iddynt sicrhau bod y cynhyrchion y maent yn eu gwerthu yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau ar hyrwyddiadau pris ar sail swmp a lleoliad ar y mathau hyn o blatfformau, lle maent yn parhau i fod yn gyfrifol am y bwyd hwn yn cael ei gynnig ar werth.

Er bod manwerthwyr yn gyfrifol am werthu eu cynhyrchion ar-lein, gall cyd-gasglyddion ar-lein fod â chyfrifoldeb o’r fath hefyd. Gallai hyn godi, er enghraifft, pan fo cyd-gasglyddion yn hysbysebu, yn hyrwyddo neu’n hwyluso gwerthu cynhyrchion ar ran masnachwr.

Bydd llys yn ystyried ffeithiau pob achos wrth benderfynu a yw gweithredoedd platfformau dosbarthu ar-lein a chyd-gasglyddion wedi arwain neu gyfrannu at achos o dorri’r rheoliadau. Gall swyddogion gorfodi gysylltu â’r holl bartïon perthnasol wrth ystyried cydymffurfiaeth a gallant ystyried mecanweithiau eraill ar gyfer gorfodi.