Cyfyngu ar hyrwyddo bwydydd â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr: canllawiau gweithredu - Atodiad 1: y broses orfodi
Sut mae Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 yn cyfyngu ar gynhyrchion 'llai iach'.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Atodiad 1: y broses orfodi
Hysbysiadau gwella
Mae hysbysiadau gwella yn rhoi’r cyfle i fusnesau gymryd camau cywiro cyn i unrhyw gosb gael ei rhoi. Dylai hysbysiadau gwella ddarparu cynllun ar gyfer cydymffurfio. Mae’r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i’r hysbysiadau hyn nodi manylion fel:
- y materion sy’n gyfystyr â’r methiant i gydymffurfio
- y cyfnod amser y mae’n rhaid cymryd mesurau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth
Bydd y cyfnod a roddir i fusnes sicrhau cydymffurfiaeth o dan hysbysiad gwella yn fater i awdurdodau gorfodi ei ystyried fesul achos, wrth arfer eu swyddogaethau.
Bydd proses apêl ar gael os bydd hysbysiad gwella yn cael ei herio (bydd apeliadau’n cael eu gwneud i Lysoedd Ynadon), a fydd yn ‘stopio’r cloc’ i bob pwrpas o ran yr amser a ganiateir i gydymffurfio nes bod yr apêl wedi’i chlywed.
Gall unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella fod yn euog o drosedd.
Mae 2 opsiwn yn dilyn cyflawni trosedd:
- Mae’r busnes tramgwyddus yn cael ei erlyn yn droseddol, a all arwain at ddirwy ddiderfyn fesul trosedd.
- Gall swyddog gorfodi osod cosb ariannol benodedig (FMP) o £2,500 (cosb sifil). Yn unol â Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008, bydd awdurdodau gorfodi yn arfer eu pwerau i osod cosb ariannol benodedig mewn ffordd sy’n gymesur ac yn gyson gan dargedu dim ond yr achosion y mae angen gweithredu yn eu cylch.
Bydd camau gorfodi yn cael eu cymryd yn unol â pholisi gorfodi’r awdurdodau.
Proses ar gyfer cyflwyno cosbau ariannol penodedig
Pan fo swyddog gorfodi yn cynnig gosod cosb ariannol benodedig ar berson sydd wedi methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella, rhaid i’r swyddog gyflwyno hysbysiad o fwriad i’r derbynnydd. Bydd yr hysbysiad o fwriad yn gwneud y canlynol:
- nodi’r rhesymau dros y cynnig i osod cosb ariannol benodedig
- nodi y bydd y gosb ariannol benodedig arfaethedig yn £2,500
Mae gwybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad o fwriad wedi’i chynnwys yn y rheoliadau.
Gellir rhyddhau cosb ariannol benodedig arfaethedig pan fo person sy’n derbyn hysbysiad o fwriad yn talu 50% o swm y gosb o fewn 28 o ddiwrnodau (gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad).
Yn ogystal, caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau (gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad), gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r awdurdod gorfodi mewn perthynas â’r cynnig i osod y gosb ariannol benodedig, gan nodi pam y mae’n teimlo na fyddai cosb ariannol benodedig yn briodol. Bydd awdurdod gorfodi yn ystyried y sylwadau a’r gwrthwynebiadau hyn cyn dod i benderfyniad terfynol.
Hysbysiad terfynol
Os nad yw’r person sydd wedi cael hysbysiad o fwriad yn rhyddhau ei hun rhag atebolrwydd o fewn 28 o ddiwrnodau, caiff swyddog gorfodi gyflwyno hysbysiad terfynol sy’n gosod cosb ariannol benodedig.
Mae’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ar hysbysiad terfynol wedi’i chynnwys yn y rheoliadau, bydd hyn yn cynnwys:
- gwybodaeth am y rhesymau dros osod y gosb ariannol benodedig
- sut y mae rhaid talu
- canlyniadau methu â thalu
Ni chaiff y swyddog gorfodi gyflwyno hysbysiad terfynol i berson pan fo’r swyddog wedi’i fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi. Pan fo swyddog gorfodi yn cyflwyno hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig, ni chaiff gyflwyno unrhyw hysbysiad arall o dan y rheoliadau hyn mewn perthynas â’r drosedd.
Pan fo person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo yn cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ynglŷn â’r hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser, caiff y person hwnnw ryddhau’r hysbysiad terfynol drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 14 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad terfynol).
Gall person sy’n derbyn yr hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn. Bydd gan bersonau gyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl i hysbysiad terfynol gael ei gyflwyno i apelio yn erbyn yr hysbysiad. Bydd hawliau apelio yn cael eu datgan yn glir mewn unrhyw hysbysiad terfynol a gyflwynir a bydd Tribiwnlys Haen Gyntaf yn ymdrin ag apeliadau yn y Siambr Reoleiddio Gyffredinol.
Y seiliau dros apelio yw:
- bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol
- bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith
- bod y penderfyniad yn afresymol
- bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall
Caiff awdurdodau gorfodi, ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig, dynnu’n ôl hysbysiad sy’n rhoi cosb ariannol benodedig (gweler paragraff 13 o atodlen 2 i’r rheoliadau).
Methu â thalu ar ôl 28 o ddiwrnodau
Rhaid i’r gosb ariannol benodedig gael ei thalu o fewn 28 o ddiwrnodau i gael yr hysbysiad terfynol. Os na thelir y gosb ariannol benodedig o fewn 28 o ddiwrnodau i’r hysbysiad terfynol, cynyddir y swm sy’n daladwy 50%.
Yn achos apêl, mae’r gosb yn daladwy o fewn 14 o ddiwrnodau i benderfynu’r apêl (os yw’r apêl yn aflwyddiannus), ac os nad yw wedi’i thalu o fewn 14 o ddiwrnodau, cynyddir swm y gosb ariannol benodedig 50%.
Achosion troseddol
Os cyflwynir hysbysiad o fwriad ar gyfer cosb ariannol benodedig i unrhyw berson:
- Ni chaniateir dechrau achos troseddol am y drosedd yn erbyn y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau ddod i ben (gan ddechrau o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad o fwriad).
- Pan fo’r person hwnnw yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd.
Pan osodir cosb ariannol benodedig ar berson, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb.
Fel y soniwyd yn flaenorol, mae cosbau ariannol penodedig yn darparu modd i ymateb i ddiffyg cydymffurfiaeth â’r rheoliadau â sancsiwn sifil fel dewis arall i erlyniad.
Fodd bynnag, mae yn ôl disgresiwn swyddog gorfodi i erlyn yn droseddol trosedd a gyflawnwyd ar ôl methu â bodloni telerau hysbysiad gwella. Bydd pob achos yn cael ei asesu ar ei rinweddau ei hun. Er enghraifft, gall swyddog gorfodi ystyried bod erlyniad yn fwy priodol os yw o’r farn bod y busnes wedi torri’r rheoliadau yn ddifrifol, yn fwriadol neu’n barhaus.
Canllawiau
Bydd yn ofynnol i awdurdodau gorfodi lunio canllawiau ynghylch eu defnydd o’r pŵer i orfodi cosbau ariannol penodedig a sut y byddant yn cael eu defnyddio i orfodi trosedd. Bydd y canllawiau yn cynnwys y canlynol:
- gwybodaeth am yr amgylchiadau pan fo cosb yn debygol o gael ei gosod ai peidio
- sut y gellir rhyddhau atebolrwydd am y gosb
- hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau neu i apelio
Gellid gwneud hyn yn rhan o’r broses arferol o ymgynghori, datblygu a chyhoeddi polisi awdurdod gorfodi. Rhaid i awdurdodau gorfodi ymgynghori â phersonau o’r fath y maent yn eu hystyried yn briodol cyn cyhoeddi neu adolygu canllawiau.
Er enghraifft, mae hyn yn debygol o gynnwys busnesau sy’n dod o fewn cwmpas y rheoliadau, ac efallai y byddant yn dymuno ymgynghori â busnesau llai (gyda llai na 50 o gyflogeion) a phartneriaid lleol hefyd.
Cyhoeddi camau gorfodi
Rhaid i bob awdurdod gorfodi gyhoeddi adroddiadau o bryd i’w gilydd am y camau gorfodi y mae wedi’u cymryd o dan y rheoliadau. Rhaid i’r adroddiadau hyn bennu:
- yr achosion y gosodwyd cosb ariannol benodedig arnynt, ac eithrio lle y mae wedi’i gwyrdroi ar apêl
- yr achosion y cafwyd rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ariannol benodedig ynddynt drwy dalu’r gosb yn dilyn yr hysbysiad o fwriad a heb fod camau pellach yn cael eu cymryd
Yn unol â’r rheoliadau, bydd awdurdodau gorfodi yn ystyried sensitifrwydd achosion ac yn ymatal rhag cyhoeddi gwybodaeth y maent o’r farn y byddai hynny’n mynd yn groes i ddeddfwriaeth diogelu data.
