Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

“Power and vulnerability are always two sides of the same coin. It is vulnerability, sensitivity that allows you to have a truly powerful experience. When you feel vulnerable, it is because you are both powerful enough to be able to feel it, and because power is speaking to you, telling you what you need in a given circumstance to take care of yourself and remain in your centre.

When you feel vulnerable, ask yourself: What is the message here that is telling me how to protect myself, how to care for myself in this situation? When you feel powerful, notice if you’re moving into edginess, untouchability or entitlement in that power. Soften into your power, melt the edges, and sit back into being nourished and upheld by power rather than using it to hold yourself apart, above, untouchable, or entitled.”

Jumana Sophia

Mae gwireddu’n potensial fel unigolion ac fel sefydliadau yn dibynnu’n rhannol ar ddeall ein lle ni yn y system ac ar ddeall yr effaith gadarnhaol iawn y gall pob yr un ohonom ei chael drwy newid ein meddylfryd o un rydwythol i un allddodol/holistig.

Mae angen inni nid yn unig ddygymod â chreulondeb y system ond deall ein bod yn rhan annatod o’r system honno. Nid dyletswydd yr unigolyn yn unig yw meithrin ymdeimlad o gryfder. Ni ddylid cymryd mai’r unigolyn ei hun sydd ar fai mewn rhyw ffordd am ei wendid ac am yr angen i fod yn fwy cadarn a gwella’i sgiliau ymdopi. Rydym i gyd yn gyfrifol am greu amgylchedd sy’n iachau ac yn galluogi. Dyma rai o’r camau cyntaf y gallem eu cymryd.

Wynebu ofn methu

Mae ofn methu ac ymdeimlad o gywilydd a gwarth yn emosiynau naturiol pwysig y dylem wrando arnynt bob amser, ond nid yw’r ffordd yr ymatebwn i’r teimladau hynny (ynom ni ein hunain ac mewn pobl eraill) yn ein helpu bob tro. Mae sut yr ydym yn deall ac yn rheoli’r emosiynau hyn yn llywio’r hyn a wnawn, a hynny mewn ffordd uniongyrchol neu anuniongyrchol, ac mae hefyd yn effeithio’n uniongyrchol ar y diwylliannu yr ydym yn gweithio ynddynt.

Mae cuddio camgymeriadau y tu ôl i wallau technegol a thrwy ‘wisgo masg’ er mwyn cuddio’n hymdeimlad o fregusrwydd yn gyffredin. Mae angen inni fynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd yr ymdeimlad hwnnw:

  • gwadu bod bregusrwydd yn bod – gan arwain at ddiwylliant annifyr o feio
  • meddwl bod dangos gwendid yn golygu mewn rhyw ffordd na allwn arwain

Rydym wedi dysgu bod y cyfle i gymryd risgiau ac i wneud camgymeriadau yn bwysig os yw unigolion a sefydliadau am ddysgu a bod yn effeithiol. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod amgylchedd lle nad yw pobl yn ‘perchenogi’ camgymeriadau a’r diffygion sydd ynom fel bodau dynol yn llesteirio creadigrwydd ac yn atal pobl rhag meddwl yn glir. Mae angen cryn dipyn o egni i ‘guddio’ camgymeriadau ac mae gwneud hynny’n arwain at batrwm o ‘ofn’ yn yr ymennydd, gan greu amgylchedd gweithio anghynhyrchiol sy’n troi’n weithle i’w osgoi, yn hytrach nac yn lle i fod yn greadigol ac yn flaengar.

Dod â phobl at ei gilydd

Mae angen amgylcheddau arnom sy’n rhai diogel yn seicolegol lle gall pobl ymlacio wrth weithio, gan wybod bod eu gwaith yn ystyrlon ac yn cael ei werthfawrogi, lle maent yn gallu siarad yn agored, cael sgyrsiau anodd, meithrin gwell dealltwriaeth o’u teimladau annifyr, arbrofi a chreu’r amrywiaeth o syniadau a all arwain at atebion gwell.

Mae angen rhywle i bobl weithio lle mae methu’n rhan hanfodol o ddysgu, lle mae arweinwyr yn cyfaddef eu bod wedi gwneud camgymeriadau ac yn dangos sut y maent wedi dysgu oddi wrthynt. Mae angen trefniadau lle gall pobl ofyn am gymorth oddi wrth unrhyw un yn y sefydliad ac mae angen dod â phobl at ei gilydd i rannu syniadau, i roi adborth clir a mynd i’r afael â’u teimladau anoddaf mewn ffordd dawel a thosturiol. Mae angen inni greu amgylcheddau sy’n galluogi pobl ac sy’n sicrhau eu bod yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl ar gyrraedd amcanion cyffredin.

Bod yma yn y cnawd ac yn gwbl bresennol

Dim ond drwy weithio ar ein hymdeimlad ein hunain o fregusrwydd a thrwy helpu pobl eraill i weithio ar eu bregusrwydd hwy y gallwn greu lleoedd o’r fath. Nid yw ‘gwisgo masg’ na ‘mabwysiadu persona’ yn ymarferol nac yn rhywbeth i’w chwennych gan fod gwneud hynny’n ein hatal rhag meithrin cysylltiadau â phobl eraill ac ymateb i realiti’r hyn sy’n digwydd. Er mwyn gwneud hynny, rhaid inni fod yn gwbl bresennol a dod â phob rhan ohonom i mewn i sefyllfaoedd sy’n anodd, yn heriol ac (ambell dro) yn rhai a allai fod yn beryglus.

Yr hyn sy’n allweddol er mwyn bod yn bresennol yw treulio amser yn ystyried yr ymdeimlad o fregusrwydd sydd ynom. I weld cyflwyniad rhagorol sy’n seiliedig ar dystiolaeth academaidd, fe’ch cyfeirir ar waith Brene Brown, sy’n dangos bod pobl lwyddiannus yn bobl fregus.

Bregusrwydd ar waith (1)

Mae tair prif agwedd ar ein bregusrwydd:

Ymlaen llaw – rydym yn teimlo’n nerfus ac nad ydym am fwrw ymlaen…

Yn ystod y digwyddiad – mae yna ennyd (sy’n un hir weithiau, neu efallai fod mwy nag un) pan mae’n ymddangos bod popeth allan o reolaeth ac nad ydym yn gwybod beth i’w wneud nesaf. Gall hynny deimlo’n rhyfedd a dyna’r adeg anoddaf i dderbyn cyngor ‒ a hynny am ein bod yn ei chanol hi. Efallai y bydd y teimlad hwn yn cael ei ystyried yn beth cadarnhaol neu negyddol, gan ddibynnu’n llwyr ar y diwylliant – pan fyddwn ar ein mwyaf creadigol, mae’n bosibl y byddwn o’r farn bod sefyllfa o’r fath yn un dda i fod ynddi.

Wedyn - fe’n trewir gan don sydyn o orbryder a chywilydd…

Mae’n bosibl bod pob un o’r tri hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer cyfarfod llwyddiannus:

Ymlaen llaw ‒ Mae’n corff yn dweud wrthym fod yna rywbeth nad yw’n ddiogel. Gall y bygythiad fod yn un real neu’n un yn ein dychymyg, ond mae’r teimlad yn un real iawn. Mae angen inni ddangos parch at ein hunain ac at y bobl eraill sydd yno; mae angen sicrhau bod y camau diogelwch priodol yn eu lle a chymryd amser i ystyried; “Sut mae fy mherthynas gyda’r bobl hyn, yn y cyd-destun hwn, yn gwneud imi deimlo nad ydw i’n ddiogel?” “Beth fyddai’n ymateb doeth oddi wrthyn nhw ac oddi wrthyf i a beth fyddai’n ymateb doeth i’r sefyllfa?” Mae’r rhain yn gwestiynau gwerthfawr oherwydd y gallent ddechrau newid pethau go iawn yn y tymor hwy.

A phan ddaw hi’n fater o weithredu; cofiwch barhau i anadlu’n ysgafn.

Yn ystod y digwyddiad ‒ Atgoffwch eich hun i anadlu ac i arafu. Dim ond drwy beidio â gwybod y daw doethineb; peidiwch ag yngan gair, bydd rhywbeth yn siŵr o ddigwydd. Y perygl yw bod rhywun bob amser yn dweud rhywbeth er mwyn tarfu ar y tawelwch neu i wneud iawn am y ffaith nad oes neb yn gwybod. Treuliwch ychydig o amser yn ystyried yr hyn sy’n digwydd o ran gwybod, o ran peidio â gwybod, a’r ymateb emosiynol. Dyna’r eiliad honno o bresenoldeb a allai arwain at rywbeth newydd, os yw cymhlethdod ac ansicrwydd yn cael caniatâd i fod yno.

Wedyn ‒ Mae’n corff yn ymadfer ar ôl yr ymateb i’r straen ac yn integreiddio/amgyffred y profiad. Mae’n bwysig rhoi amser iddo. Mae elfen o drawma yn gysylltiedig â’r ymdeimlad hwn o fregusrwydd ac fel mamaliaid/bodau dynol, mae angen amser arnom i ryddhau’r effeithiau y mae’n ei chael ar y corff. Gall yr hyn a ddysgwn wrth y cam hwn lywio’r hyn a wnawn nesaf ‒ beth allwn ni ei ddysgu o’r profiad hwn?

Breguswydd ar waith (2)

Dyma dri yn unig o’r ffyrdd posibl y gallwn ymateb i’n hunain ac i bobl eraill…

Ymwybyddiaeth ‒ cydnabod ein sylw heb unrhyw feirniadaeth, sylwi sut y mae’n symud o gwmpas, ble a phryd y mae’n digwydd neu nad yw’n digwydd a sut y mae’n cael ei dynnu gan yr hyn sy’n digwydd o’n hamgylch.

Empathi ‒ mae’n beth naturiol inni rannu ac adlewyrchu profiadau pobl eraill (drwy ein drych-niwrnoau) ond gall hynny sugno’n hegni neu ein llethu.

Tosturi – sef profi teimlad, emosiwn neu brofiad (sy’n digwydd i ni neu i bobl eraill) heb gael ein llethu ganddo. Mae hyn yn debycach i rannu’r teimlad neu’r profiad mewn gofod rhyngom, gan ganiatáu inni gydnabod pa mor ddynol yw’r teimlad, a chaniatáu iddo fod fel y mae yn yr eiliad hwnnw, a’n galluogi i ofyn beth sy’n mynd ymlaen a’i archwilio.

Gall empathi ar ei ben ei hun olygu bod mwy o obaith inni gerdded i ffwrdd ar ôl y sgwrs yn llawn teimladau anodd, ond drwy ychwanegu tosturi ac ymwybyddiaeth, mae mwy o obaith inni leihau’r beichiau yr ydym yn eu rhannu.

Mae tosturi ac ymwybyddiaeth yn sgiliau y gallwn eu meithrin. Mae amynedd, ymarfer, myfyrio, rhannu a goruchwyliaeth yn hanfodol er mwyn gwella’n sgiliau.

Er mwyn rhoi’r cyfle gorau inni ddeffro ac ymddwyn fel hyn, mae angen inni ofalu amdanom ein hunain yn ogystal ag am bobl eraill.