Beth rydym yn ei wneud
Mae Bwrdd Cynghori ar Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân yn cynghori ar gynlluniau pensiwn diffoddwyr tân.
Mae'n cynnwys:
Cynrychiolwyr cyflogeion
- Cymdeithas y Swyddogion Tân
- Cymdeithas yr Arweinwyr Tân
- Cymdeithas y Gwasanaethau Tân ac Achub
- Undeb y Brigadau Tân
Cynrychiolwyr cyflogwyr
- Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Awdurdod Tân ac Achub De Cymru
- Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru
Mae mynychwyr rheolaidd hefyd yn cynnwys
- Llywodraeth Cymru (sydd hefyd yn gweithredu fel Ysgrifenyddiaeth)
- Cynghorwyr Pensiwn Cymdeithas Llywodraeth Leol
- Adran Actiwari'r Llywodraeth (drwy wahoddiad pan fo angen)
Y Bwrdd a'i aelodau yw'r personau y byddai Gweinidogion Cymru fel arfer yn disgwyl ymgynghori â hwy cyn gwneud rheoliadau cynlluniau pensiwn o dan adran 21(1) o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013. Mae ymgynghoriadau ffurfiol ar faterion pensiwn hefyd ar gael i’r cyhoedd yn aml, ac yn agored i unrhyw un sydd am ymateb.
