Rydym am glywed eich barn ynghylch y newidiadau arfaethedig diweddaraf i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ynghylch:
- strwythur a fformat y Safonau
- y bennod ar ddarpariaeth o ansawdd uchel
- Safonau Chwarae Mynediad Agored
- gweinyddu parasetamol hylifol yn unol â Safon 11: meddyginiaeth
- y defnydd o staff mewn lleoliadau gofal dydd
- cynorthwywyr gwarchodwyr plant a chymarebau gwarchod plant
- yr effaith ar y Gymraeg
Dogfennau ymgynghori
Newid y safonau ar gyfer darparwyr gofal plant cofrestredig: hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Ffurflen ymateb: hawdd ei deall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Sut rydyn ni’n defnyddio eich gwybodaeth: hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 223 KB
Asesiad effaith integredig , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 701 KB
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 10 Rhagfyr 2025, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
E-bost
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Llenwch y ffurflen a’i dychwelyd i: gofalplantachwarae@llyw.cymru
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Llenwch y ffurflen a’i dychwelyd i:
Is-adran y Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
