Neidio i'r prif gynnwy

Rhif: WG52101

Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2025

Camau i’w cymryd: Ymateb erbyn 10 Rhagfyr 2025

Trosolwg

Mae'r Safonau yn berthnasol i warchodwyr plant a darparwyr gofal dydd cofrestredig i blant hyd at 12 oed. Mae'n ofynnol i'r gwarchodwyr plant a'r darparwyr hyn gofrestru yn unol â darpariaethau Rhan 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ("y Mesur") (fel y'i diwygiwyd) a'r rheoliadau cysylltiedig. Nod y Safonau yw helpu lleoliadau gwarchod plant a gofal dydd ("lleoliadau cofrestredig") i fodloni'r gofynion yn Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 ("y Rheoliadau") sy'n berthnasol i'r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu. Rhaid i leoliadau cofrestredig roi sylw i'r Safonau sy'n berthnasol i'r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu.

Mae'r ymgynghoriad hwn hefyd o ddiddordeb i bartïon eraill, megis Gwaith Chwarae Mynediad Agored a Gofal Plant y Tu Allan i'r Ysgol, nad ydynt wedi'u cofrestru ar hyn o bryd, cyrff a sefydliadau cynrychioliadol sy'n gweithio gyda'r sector gwarchod plant, y sector gwaith chwarae a gofal dydd; awdurdodau lleol; a rhieni. 

Mae'r ymgynghoriad yn cynnig newidiadau sy'n ymateb i rai argymhellion allweddol gan Adolygiad o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir na chawsant eu gweithredu pan ailedrychwyd ar y Safonau yn 2023 am fod angen aros am ganfyddiadau dau adolygiad allweddol arall: yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae;a'r Adolygiad Annibynnol o Warchod Plant. 

Ers y diweddariad diwethaf i'r Safonau yn 2023, mae newidiadau eraill hefyd wedi'u gwneud i bolisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru sy'n cysylltu â'r Safonau neu sy'n gysylltiedig â nhw. Felly, mae angen adnewyddu'r Safonau i ymateb i'r newidiadau hyn. Ein bwriad yw parhau i adolygu a diwygio'r Safonau fel y bo'n briodol wrth i'r polisi a'r ddeddfwriaeth ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf. 

Ar ôl i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben, bydd yr ymatebion yn cael eu dadansoddi a bydd y Safonau a'r atodiadau perthnasol yn cael eu mireinio ar sail mewnbwn gan ein partneriaid (awdurdodau lleol, sefydliadau ambarél gofal plant a chwarae yng Nghymru). Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y Safonau yn cefnogi'r sector gofal plant a chwarae drwy ddarparu canllawiau clir i fodloni gofynion perthnasol y rheoliadau. 

Sut i ymateb

I'ch helpu i gwblhau'r ymgynghoriad hwn, rydym wedi nodi'r prif feysydd lle mae newidiadau i'r Safonau yn cael eu cynnig ynghyd â sut y gallent fod o fudd i wahanol grwpiau o bobl. Er hwylustod, rydym hefyd wedi nodi'r cwestiynau rydym yn gofyn ichi ymateb iddynt o dan bob adran. 

Cyflwynwch eich ymateb erbyn hanner nos, nos Fercher 10 Rhagfyr drwy unrhyw un o’r ffyrdd canlynol: 

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth:

Is-adran y Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: gofalplantachwarae@llyw.cymru

Mae’r ddogfen hon ar gael hefyd yn Saesneg: National Minimum Standards (NMS) for Regulated Childcare: proposed changes 2025 | GOV.WALES

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych yn eich ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw, neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud rhagor o waith dadansoddi ar ymatebion i ymgyngoriadau, mae'n bosibl y bydd trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwnnw. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn cynnwys gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, cyhoeddir enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech fod yn ymwybodol hefyd o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, yna caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata arall sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod am y data personol sy'n cael eu cadw amdanoch chi, a'u gweld
  • i'w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i ofyn am i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd y data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd y mae'n cael ei defnyddio, neu os hoffech chi arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

e-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu
0303 123 1113

Gwefan: https://cy.ico.org.uk/

Cefndir

Mae’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir (y Safonau) yn gymwys i warchodwyr plant a darparwyr gofal dydd cofrestredig i blant hyd at 12 oed. Maent yn ymdrin ag amrywiaeth eang o wahanol fathau o ddarpariaeth, gan gynnwys gwarchodwyr plant, gofal dydd, gofal plant y tu allan i’r ysgol a darpariaeth chwarae mynediad agored. Nod y Safonau yw helpu darparwyr i fodloni gofynion Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (2010) (fel y’u diwygiwyd). 

Mae'r Safonau yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i sicrhau bod plant yn cael gofal mewn amgylchedd diogel a phriodol, â darpariaeth o ansawdd yn ganolog iddo.

Yn dilyn yr Adolygiad o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir ('yr Adolygiad') yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad a oedd yn cynnwys 20 o argymhellion, a chyhoeddwyd fersiwn ddiwygiedig o'r Safonau yn 2023. Llywiodd rhai argymhellion waith ehangach gan Lywodraeth Cymru ar y pryd. Ni chynhwyswyd eraill am fod adolygiadau eraill yn cael eu cynnal (gweler yr atodiad).

Yn fersiwn ddiwygiedig y Safonau yn 2023, ni roddwyd sylw i argymhellion 14 ac 19 yr Adolygiad, gan fod yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae ar y gweill. 

Rhannwyd adroddiad ar ganfyddiadau yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae ym mis Tachwedd 2023 a oedd yn cynnwys argymhelliad allweddol 11 i adolygu rheoliadau gwarchod plant a gofal dydd a gorchmynion sy'n ymwneud â gwaith chwarae. Derbyniwyd argymhellion a oedd yn berthnasol i'r Safonau, sef 11.1 ac 11.3 yn benodol (gweler yr atodiad).

Roedd yr Adolygiad Annibynnol o Warchod Plant (2023) yn cynnwys, yn argymhelliad 15: y dylai Arolygiaeth Gofal Cymru ystyried cyflwyno mwy o hyblygrwydd o ran y ffordd y gall gwarchodwyr plant gyfrifo cymarebau staffio'r Safonau yn ystod cyfnodau byr o'r dydd er mwyn galluogi gwarchodwyr plant i ddiwallu'r galw am ofal plant y tu allan i oriau ysgol cyn ac ar ôl ysgol, yn ogystal â gofal cofleidiol sy'n gorgyffwrdd yn ystod amser cinio. 

Rydym wedi cydweithio â phartneriaid yn y sector gofal plant a gwaith chwarae i adolygu argymhellion allweddol yr adolygiad o'r Safonau, yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae, a'r Adolygiad Annibynnol o Warchod Plant. Fe wnaethom hefyd ystyried heriau eraill sy'n wynebu'r sector a gwerthuso'r ffordd orau o fynd i'r afael â nhw, gan roi sylw ar yr un pryd i effaith newidiadau hirdymor posibl i'r Safonau ar ddiogelwch ac ansawdd y gofal a ddarperir. Mae'r rhain yn cael eu cyflwyno ichi yn y ddogfen ymgynghori hon ynghyd â'r rhesymeg dros y newidiadau. 

Beth sydd dan sylw yn yr ymgynghoriad hwn?

Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw holi eich barn ynghylch newidiadau arfaethedig i'r Safonau o ganlyniad i argymhellion gan: yr Adolygiad o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir (2019); yr Adroddiad ar yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae (2023); a'r Adolygiad Annibynnol o Warchod Plant (2023), ynghyd â gwybodaeth a gasglwyd yn ystod digwyddiadau cyn ymgynghori gyda'r sector. 

Rydym hefyd wedi manteisio ar y cyfle i holi rhai cwestiynau i helpu i lywio gwaith polisi i'r dyfodol ac i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am feysydd gwaith sy'n cael eu datblygu.

Bydd yr ymgynghoriad hwn wedi'i strwythuro yn ôl meysydd pwnc a fydd yn cynnwys dau fath o gwestiynau: 

Cwestiynau ynghylch y Newidiadau Arfaethedig (wedi'u rhifo): Bydd y newidiadau hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Esboniad i roi trosolwg o'r newid arfaethedig
  • Y rhesymeg dros y newid arfaethedig i ddarparu cyd-destun
  • Lle bo'n berthnasol, tabl yn nodi'r geiriad cyfredol o fewn y Safonau a'r newidiadau arfaethedig
  • Amlinelliad o sut y gallai'r newidiadau arfaethedig fod o fudd i wahanol grwpiau o bobl lle y bo'n berthnasol iddynt
  • Cwestiynau yn holi eich barn ynghylch y newidiadau arfaethedig

Cwestiynau Ymgysylltu (yn nhrefn yr wyddor): Bydd y cwestiynau hyn yn holi eich barn a'ch ymateb, a fydd yn cyfrannu at ddatblygu polisi i'r dyfodol.

I'ch helpu i roi eich barn a'ch adborth ar y cwestiynau ymgynghori, bydd y dogfennau allweddol isod ar gael ichi drwy ddolen o fewn y maes pwnc perthnasol. Sylwch mai fersiynau drafft yw'r rhain, ac efallai y gwneir mân-newidiadau iddynt ar ôl ymgynghori.

Bydd yr ymatebion a gawn i'r cwestiynau ymgynghori yn helpu i lywio'r gwaith o ddiweddaru'r Safonau a'r canllawiau cysylltiedig. Bydd y rhain yn rhoi mwy o eglurder ac arweiniad i'r sector gofal plant a gwaith chwarae ar draws nifer o feysydd allweddol. Y meysydd pwnc a drafodir yn yr ymgynghoriad hwn yw: 

  • Strwythur
  • Darpariaeth o ansawdd uchel
  • Diffiniadau
  • Chwarae mynediad agored
  • Meddyginiaeth
  • Defnydd o staff mewn lleoliadau gofal dydd
  • Cynorthwywyr gwarchodwyr plant
  • Cymarebau gwarchod plant
  • Y Gymraeg
  • Safbwyntiau cyffredinol

Meysydd i ymgynghori yn eu cylch

Strwythur a fformat y Safonau Gofynnol Cenedlaethol

Roedd yr Adolygiad yn argymell archwilio ffyrdd o symleiddio'r Safonau cyfredol, na chafodd ei ystyried yn fersiwn 2023, ac a oedd i'w ystyried yn unol ag argymhellion yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae. 

Beth rydym yn ei wneud?

Bydd y Safonau yn cael eu datblygu ar fformat HTML (ar-lein) a fydd yn hwyluso'r broses o droi o un ddogfen i ddogfen gysylltiedig arall, ac yn ei gwneud yn haws i sectorau weld y safonau sy'n benodol iddyn nhw, ac i rieni weld y safonau sy'n berthnasol i'r gwasanaeth gofal plant a chwarae y maen nhw'n ei ddefnyddio. Byddant, felly, yn hawdd eu gweld ar ffôn symudol, gliniadur a chyfrifiadur llechen, gan fodloni'r gofynion hygyrchedd. Bydd opsiwn hefyd i argraffu'r ddogfen. 

Yn ogystal â'r uchod, rydym am glywed eich barn ynghylch p'un a fyddai o fudd pe baem yn cynnwys dolenni ar dudalennau'r Safonau i'r rheoliad(au) cysylltiedig a dolenni i ganllawiau pellach o ran sicrwydd ansawdd. Ar hyn o bryd mae'r rheoliadau cysylltiedig yn Atodiad D y Safonau a'r Rheoliadau cysylltiedig.

Rydym yn rhannu gyda chi enghraifft o Safon 12: Bwyd a Diod er mwyn ichi weld sut rydym yn bwriadu datblygu fformat safonau Mynediad Agored, Gofal Dydd a Gwarchod Plant o fewn y Safonau er mwyn eich helpu i ystyried y cynnig hwn. 

Sut byddai'r strwythur a'r fformat newydd o fudd i'r bobl ganlynol?

Plant 
  • Sicrhau bod lle hollbwysig i lais y plentyn wrth ystyried y safonau. 
Pob darparwr gofal plant 
  • Darparu cyswllt cliriach rhwng egwyddorion Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar a'r Safonau.
  • Bydd fformat HTML ar-lein yn hwyluso'r broses o droi yn ôl ac ymlaen rhwng y safonau a'r canllawiau pellach. Bydd hefyd yn caniatáu i ddarparwyr ddod o hyd yn hawdd i safon benodol.
  • Bydd arddangos y rheoliadau, y safonau a'r dolenni i ganllawiau pellach yn caniatáu i staff gynnig gofal o safon uchel a dod ar draws cyfleoedd datblygu.
Rhieni/gofalwyr
  • Galluogi rhieni a gofalwyr i ddeall yn well a dod o hyd i ddogfennau ar yr hyn i'w ddisgwyl gan leoliad o ran rheoliadau a safonau, a beth a olygir wrth ansawdd uchel, gan ei gwneud yn bosibl gwneud penderfyniadau gwybodus wrth ddewis gofal plant.

Cwestiynau ynghylch y Newidiadau Arfaethedig

Rydym am glywed eich barn ynghylch a ydych yn cytuno â fformat newydd arfaethedig y Safonau.

Cwestiwn 1: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno bod y cynllun yn enghraifft Safon 12: Bwyd a Diod a ddarperir yn glir?

Cwestiwn 2: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno bod cynnwys y rheoliadau cysylltiedig yn y safonau o gymorth?

Cwestiwn 3: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno ei bod o gymorth cynnwys dolenni i ddogfennau ym mhob safon sy'n helpu i wella ansawdd? 

Darpariaeth o ansawdd uchel

Mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn nodi yn y bennod "Sut i ddefnyddio'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol" mai 'Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer cofrestru yw'r rhain ac, er mwyn darparu gofal plant o ansawdd, y disgwyliad cyffredinol yw i bersonau cofrestredig weithio tuag at ragori ar y safonau sylfaenol hyn'.

Mae'r Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2024, yn nodi gweledigaeth ar gyfer sut y gall lleoliadau gofal plant, gwaith chwarae ac addysg feithrin cyn oed ysgol statudol (0-5 oed) helpu i feithrin sgiliau cymdeithasol, emosiynol, gwybyddol a chorfforol babanod a phlant bach. Er bod Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yn darparu fframwaith hanfodol ar gyfer y blynyddoedd cynnar, rydym yn llawn gydnabod bod yn rhaid i ddarpariaeth o ansawdd uchel a dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau barhau y tu hwnt i gyfnod plentyndod cynnar.

Mae'r sector Gofal Plant y Tu Allan i'r Ysgol a Gwaith Chwarae yn cefnogi datblygiad a lles plant ar draws yr ystod oedran 0–12, yn ogystal â'u mynediad at gyfleoedd chwarae. Mae fframwaith sicrhau ansawdd Chwarae Cymru, Chwarae o Safon, yn cydnabod rôl Egwyddorion Gwaith Chwarae wrth hwyluso profiadau chwarae i blant hŷn ym mhob lleoliad gwaith chwarae.

Mae ymrwymiad i alinio'r egwyddorion a'r uchelgeisiau a amlinellir gan Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar, lle bo hynny'n briodol, ag amcanion strategol ehangach ar gyfer plant o bob oedran. 

Rydym hefyd wedi ymrwymo i adolygu'r Safonau o bryd i'w gilydd i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'w diben ac yn adlewyrchu anghenion y sector ehangach. Fel rhan o'r gwaith hwn, ac yn unol â'n hymrwymiad i ymgorffori dull o lunio polisïau sy'n gwarchod hawliau plant, rydym yn bwriadu:

  • Datblygu deilliannau lles i fabanod a phlant ymhellach ym mhob safon;
  • Cynnwys llais y plentyn yn y Safonau.

Rydym hefyd yn cynnig diweddaru'r bennod ragarweiniol, "Beth rydym yn ei olygu wrth Ddarpariaeth o Ansawdd Uchel?" i gryfhau disgwyliadau ymhellach o ran ansawdd ac alinio'n well ag egwyddorion Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar, gan gydnabod ar yr un pryd amrywiaeth y ddarpariaeth ar draws ystodau oedran a lleoliadau.

Sut bydd y bennod "Beth rydym yn ei olygu wrth Ddarpariaeth o Ansawdd Uchel?" ddiwygiedig o fudd i'r bobl ganlynol? 

Plant 
  • Bydd plant yn derbyn darpariaeth o ansawdd uwch gydag ymarferwyr sy'n deall ac sydd â mynediad at adnoddau i'w galluogi i gynnig darpariaeth o ansawdd uchel.
Pob darparwr gofal plant 
  • Darparu cysylltiad cliriach rhwng egwyddorion Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar a'r Safonau.
  • Tynnu sylw at yr hyn a ddisgwylir er mwyn cyflawni arfer gorau a darpariaeth o ansawdd uchel.
Rhieni/gofalwyr
  • Galluogi rhieni a gofalwyr i ddeall yn well beth yw gofal plant a chwarae o ansawdd uchel, ac felly ei gwneud yn bosibl gwneud penderfyniadau gwybodus wrth ddewis gwasanaethau.

Cwestiynau ynghylch y Newidiadau Arfaethedig

Rydym am glywed eich barn ynghylch diweddariadau i'r bennod "Beth rydym yn ei olygu wrth Ddarpariaeth o Ansawdd Uchel" yn y Safonau.

Cwestiwn 4: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y dylem ddiweddaru pennod 'Beth rydym yn ei olygu wrth Ddarpariaeth o Ansawdd Uchel' yn y Safonau er mwyn cyd-fynd yn well ag egwyddorion Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar? 

Cwestiynau Ymgysylltu

Er mwyn helpu i lywio datblygiadau polisi i'r dyfodol a'n hymrwymiad parhaus i'r weledigaeth ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar, byddem yn gwerthfawrogi eich ymatebion i'r cwestiynau canlynol:

Cwestiwn Ymgysylltu A: Pa newidiadau pellach hoffech chi eu gweld o fewn canllawiau statudol y Safonau Gofynnol Cenedlaethol i gefnogi gweledigaeth Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar ?

Cwestiwn Ymgysylltu B: Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill ynglŷn â'r bennod 'Beth ydym yn ei olygu wrth Ddarpariaeth o Ansawdd Uchel?

Diffiniadau 

Gofynnodd Argymhelliad 11.3 yr Adroddiad ar yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae i Lywodraeth Cymru adolygu a diweddaru'r diffiniad o waith chwarae mynediad agored a'r lleoliadau lle mae'n digwydd, a gwneud diwygiadau perthnasol i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.

Rydym wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol wrth adolygu'r diffiniad o chwarae mynediad agored fel rhan o'n bwriad i adolygu'r Safonau yn rheolaidd ac mewn ymateb i argymhellion yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae. 

Isod cynigir diffiniad diwygiedig sy'n cefnogi'r ystod o leoliadau chwarae mynediad agored fel y'u hamlinellir yng nghanllawiau statudol Cymru - Gwlad Lle Mae Cyfle i Chwarae 

Y geiriad cyfredolY geiriad arfaethedig

Chwarae Mynediad Agored:

Darpariaeth chwarae mynediad 
agored gyda staff yn bresennol yn gweithredu am fwy na 2 awr y dydd ar gyfer plant hyd at 12 oed - gall fod yn ddarpariaeth barhaol neu dros dro, mewn amrywiaeth o leoliadau, gyda mangre neu beidio, a gall gynnwys cynlluniau chwarae yn ystod gwyliau ysgol. Mae’r ddarpariaeth hon fel arfer yn darparu ar gyfer ystod eang o blant, 5 oed a throsodd fel arfer. Y pwrpas yw darparu cyfleoedd chwarae gyda staff ar gyfer plant, fel arfer pan nad yw eu rhieni yno. Ni chyfyngir ar symudiadau’r plant, heblaw pan fydd materion diogelwch yn gofyn
hynny, ac ni chaiff y plant eu hatal rhag mynd a dod fel y mynnant. Ni fydd rhai o’r safonau gofynnol cenedlaethol, neu rannau ohonynt, yn berthnasol i ddarpariaeth Chwarae Mynediad Agored oherwydd natur y ddarpariaeth; lle nodir hyn, dylid dal i’w hystyried yn arferion da i'w hefelychu.

Chwarae Mynediad Agored:

Mae darpariaeth gwaith chwarae â staff yn briodol i blant o bob oedran. 

At ddibenion rheoleiddio, mae darpariaeth gwaith chwarae mynediad agored â staff ar gyfer plant rhwng 5 a 12 oed. Gall fod yn ddarpariaeth barhaol neu dros dro, mewn amrywiaeth o leoliadau, gyda mangre neu beidio, fel y'i diffinnir yng nghanllawiau statudol 'Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae' Cymru: gwlad lle mae cyfle i chwarae | LLYW. CYMRU. Ni wneir trefniant ymlaen llaw rhwng y rhiant/gofalwr a'r person cofrestredig i ddarparu gofal plant. Nid yw'n ofynnol i blant gael eu hebrwng gan riant neu berson cyfrifol arall i'r safle perthnasol ac oddi yno. Ni 
chyfyngir ar symudiadau’r plant, heblaw pan fydd materion diogelwch yn gofyn
hynny. 

Cwestiynau ynghylch y Newidiadau Arfaethedig

Rydym am glywed eich barn ynghylch a ydych chi'n cytuno â'r newid arfaethedig i'r diffiniad o chwarae mynediad agored.

Cwestiwn 5: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r diweddariad i'r diffiniad o Chwarae Mynediad Agored? 

Wrth ddiweddaru'r diffiniadau, ac fel rhan o'n hymrwymiad i sicrhau bod y Safonau yn addas i'w diben, rydym hefyd wedi ystyried datblygu rhai enghreifftiau o fathau o sectorau y gellid eu hychwanegu at y Safonau i gefnogi'r diffiniadau.

Cwestiynau Ymgysylltu

Rydym am glywed eich barn ynghylch a yw o gymorth datblygu enghreifftiau i helpu i ddiffinio darpariaeth gofal dydd. 

Cwestiwn Ymgysylltu C: Ydych chi'n meddwl y byddai ychwanegu enghreifftiau o fathau o ddarpariaeth o fewn diffiniadau pob un o is-gategorïau gofal dydd o gymorth?

Safonau Chwarae Mynediad Agored

Caiff chwarae mynediad agored ei gategoreiddio fel gofal dydd o fewn y Safonau ac mae'n seiliedig ar y gofynion rheoleiddiol o fewn Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd). Nid fydd rhai o'r Safonau, neu rannau ohonynt, yn berthnasol i ddarpariaeth Chwarae Mynediad Agored oherwydd natur y ddarpariaeth; lle nodir hyn, dylid dal i'w hystyried yn arferion da i'w hefelychu. 

Fel yr amlinellir yn Atodiad A, roedd yr Adolygiad yn cynnwys Argymhellion 14 ac 19 yn yr adroddiad. Rhoddwyd sylw i'r argymhellion hyn yn yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae, a arweiniodd at Argymhellion 11.1 ac 11.3 yn Adroddiad yr Adolygiad. 

Argymhellion yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae

Argymhelliad 11.1- Adolygu ymarfer a throsglwyddiad cyfundrefn arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru sy’n ymwneud â gwaith chwarae i wella ei addasrwydd i’r diben o fewn y rheoliadau cyfredol. Dylai hyn hysbysu newidiadau i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) a rheoleiddio ac archwilio’r holl leoliadau gwaith chwarae a dylai hefyd gynnwys datblygiad SGC unigol ar gyfer lleoliadau gwaith chwarae mynediad agored.

Argymhelliad 11.3- Adolygu a diweddaru’r diffiniad o waith chwarae mynediad agored a’r lleoliadau ble mae’n digwydd a gwneud adolygiadau perthnasol i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Darpariaeth Gofal Plant a Reoleiddir.

Hoffem ichi nodi'r newidiadau y byddwn yn eu gwneud i'r Safonau mewn ymateb i'r argymhellion hyn.

Beth rydym yn ei wneud:

  • Diffiniad diwygiedig o Chwarae Mynediad Agored
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag AGC a rhanddeiliaid i archwilio'r newidiadau sydd eu hangen i'r broses gofrestru er mwyn galluogi gwasanaethau chwarae mynediad agored i gofrestru unwaith, gan roi sylw i'r risgiau a'r buddiannau o ychwanegu lleoliadau ychwanegol.
  • Mae set gymesur o safonau annibynnol yn cael eu datblygu ar gyfer Chwarae Mynediad Agored. Bydd fformat y safonau hyn yn cynnwys:
    • Canlyniadau lles
    • Llais y plentyn
    • Safonau
    • Dolenni i reoliadau (i'w penderfynu yn dilyn ymatebion i C. 2 yn Strwythur)
    • Dolenni i ganllawiau pellach (i'w penderfynu yn dilyn ymatebion i C.3 yn Strwythur

Ymgynghorwyd ar gryfhau hyfforddiant Cymorth Cyntaf yn yr Adolygiad, a diweddarwyd y safonau gofal dydd fel rhan o fersiwn ddiwygiedig 2023. Nododd adborth o'r adolygiad diwethaf y dylai safonau cymorth cyntaf gyfeirio at asesiadau risg penodol mewn lleoliad er mwyn gallu nodi anghenion mewn ffordd fwy manwl. Roedd Chwarae Cymru, sef yr elusen genedlaethol ar gyfer chwarae plant, o'r farn bod y gymhareb yn anghymesur o ystyried lefel y risg dan sylw.

Ar ben hynny, nododd argymhellion yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae fod angen ailedrych ar y Safonau ar gyfer chwarae mynediad agored, gan alw am safonau mwy cymesur.

Mae adborth o'r sector gwaith chwarae wedi nodi, o ystyried mai dros dro y cynigir darpariaeth chwarae mynediad agored weithiau, yn enwedig darpariaeth yn ystod gwyliau yn unig, ei bod yn heriol i ddarparwyr sicrhau bod staff dros dro yn cael yr hyfforddiant gofynnol, a hwythau'n gweithredu am gyn lleied â phedair wythnos efallai. Mae'n bosibl bod yr her hon wedi cyfrannu at y gostyngiad yn nifer y gwasanaethau chwarae mynediad agored cofrestredig.

Rydym am glywed eich barn, felly, ynghylch a ellid gwneud y gofyniad o ran nifer y staff sy'n gymwysedig i roi cymorth cyntaf yn gymesur ar gyfer y sector hwn. Gan gydnabod manteision cael cymaint o swyddogion cymorth cyntaf â phosibl i gefnogi lles y plant sy'n mynychu, rydym yn cynnig mabwysiadu dull asesu risg i gyfrifo faint o staff sydd â hyfforddiant cymorth cyntaf sydd eu hangen. Dylid ystyried y math o wasanaeth a gweithgareddau sy'n cael eu darparu, lleoliad a maint y ddarpariaeth, ac anghenion penodol y plant sy'n mynychu, yn hytrach na rhagnodi gofyniad penodol.

Fel rheol, darperir chwarae mynediad agored gan gyfuniad o weithwyr chwarae, gweithwyr ieuenctid, a gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod â phrofiad o weithio gyda phlant ond nad ydynt o reidrwydd yn meddu ar gymwysterau Gwaith Chwarae ffurfiol. Gall y maes sector hwn hefyd gynnwys gweithwyr proffesiynol fel gweithwyr ieuenctid ac athrawon sydd â chymwysterau gwaith chwarae. Mae'r gwasanaethau hyn fel arfer yn rhai byrdymor ac ad hoc. Mae'r gofyniad am staff cymwysedig penodol yn y rolau dros dro hyn yn creu heriau, ac o bosibl yn cyfrannu at y ffaith bod yna lai o ddarpariaethau chwarae mynediad agored cofrestredig. Rydym am glywed eich barn, felly, ynghylch a ellid gwneud y cymwysterau gofynnol ar gyfer staff eraill yn fwy cymesur ar gyfer y sector hwn. Bydd y gofynion ar gyfer y person â chyfrifoldeb - sef, bod ganddynt o leiaf ddwy flynedd o brofiad a chymhwyster Lefel 3 perthnasol - yn aros fel y maent.

Mae Tabl 1: Y geiriad arfaethedig ynghylch Hyfforddiant Cymorth Cyntaf yn dangos y newidiadau arfaethedig i eiriad cyfredol y Safonau ynghylch hyfforddiant Cymorth Cyntaf ynghyd â gofynion o ran cymwysterau staff eraill ar gyfer Chwarae Mynediad Agored. Y golofn chwith yw'r geiriad cyfredol a'r golofn dde yw'r geiriad arfaethedig yr hoffem glywed eich barn yn ei gylch.

Tabl 1: Y geiriad arfaethedig ynghylch Hyfforddiant Cymorth Cyntaf 
Y geiriad cyfredolY geiriad arfaethedig

Hyfforddiant Cymorth Cyntaf – Chwarae Mynediad Agored 

10.28 Mewn lleoliadau Chwarae Mynediad Agored sy'n derbyn plant o dan 8 oed, bod o leiaf un oedolyn wedi cael hyfforddiant ar gyfer pob 13 plentyn, hynny yw bod ganddynt dystysgrif gyfredol o gwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig Llawn 12 awr. 

10.29 Mewn lleoliadau Chwarae Mynediad Agored sy’n derbyn plant dros 8 oed, bod gan o leiaf un unigolyn dystysgrif gyfredol o gwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig Llawn 12 awr, a’u bod yn bresennol bob amser.

10.30 Bod hyfforddiant Cymorth Cyntaf a roddir i’r holl staff eraill yn adlewyrchu amgylchiadau’r lleoliad ac yn seiliedig ar asesiad risg.

Hyfforddiant Cymorth Cyntaf – Chwarae Mynediad Agored 

Mewn lleoliadau Chwarae Mynediad Agored, bod o leiaf un unigolyn sydd â chymhwyster cymorth cyntaf (cymorth cyntaf pediatrig llawn) yn bresennol bob amser, a bod trefniadau wrth gefn i sicrhau mwy o staff sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf, i'w defnyddio yn ôl y risg o ran amgylchiadau'r lleoliad a'r mathau o weithgareddau yr ymgymerir â nhw. 

 

13.4(GD) Yn achos y person â chyfrifoldeb (rheolwr):

Bod y canlynol yn wir amdano cyn ei benodi: 
a. O leiaf 2 flynedd o brofiad o weithio mewn lleoliad gofal dydd AC 
b. O leiaf cymhwyster lefel 3 a gydnabyddir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru neu Restr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n eu disodli), sy’n briodol i’r swydd.

Staff Eraill (Cymwysterau)

13.9 (GD) Mewn darpariaeth Chwarae Mynediad Agored

a) bod gan o leiaf 40% o’r holl “staff eraill” gymhwyster gwaith chwarae lefel 2, a gydnabyddir ar Restr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n ei disodli), sy’n briodol i’r swydd A bod gan o leiaf hanner o’r rhain gymhwyster ar lefel 3

b) rhaid i o leiaf 10% yn rhagor o’r holl “staff eraill” fod yn “gweithio tuag at” gymhwyster lefel 2 neu 3

c) ni chaiff mwy na 50% o’r holl staff fod heb gymwysterau neu’n wirfoddolwyr. Mewn lleoliadau chwarae mynediad agored, rhaid i o leiaf 50% o’r holl “staff eraill” fod wedi cymhwyso neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster.

  • Mae’r Person Cofrestredig yn fodlon bod yr unigolyn yn gymwys ac yn gyfrifol.
  • Mae tystiolaeth bendant bod yr unigolyn yn gweithio tuag at gymhwyster lefel 2 neu 3 (e.e. tystiolaeth o gofrestru ar gwrs perthnasol), a bod amserlen wedi’i chytuno ar gyfer ennill y cymhwyster 
    gofynnol (hyd at 3 blynedd);
  • Mae’r unigolyn wedi cwblhau hyfforddiant sefydlu sy’n berthnasol i’w rôl, gan gynnwys Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol Cymru neu mae’n ymgymryd â hyfforddiant o’r fath;
  • Mae’r unigolyn yn gweithio ochr yn ochr â staff sy’n gymwysedig i’r lefel 
    ofynnol.

13.4(GD) Yn achos y person â chyfrifoldeb (rheolwr):

Bod y canlynol yn wir amdano cyn ei benodi: 
a. O leiaf 2 flynedd o brofiad o weithio mewn lleoliad gofal dydd AC 
b. O leiaf cymhwyster lefel 3 a gydnabyddir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru neu Restr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n eu disodli), sy’n briodol i’r swydd.


 

Staff Eraill (Cymwysterau)

 (GD) Mewn darpariaeth Chwarae Mynediad Agored

a) bod gan o leiaf 50% o’r holl “staff eraill” gymhwyster gwaith chwarae lefel 2, a gydnabyddir ar Restr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n ei 
disodli), sy’n briodol i’r swydd

b) ni chaiff mwy na 50% o’r holl staff fod heb gymwysterau neu’n
wirfoddolwyr. 

  • Mae’r Person Cofrestredig yn fodlon ynghylch y canlynol:
  • Mae'r unigolyn wedi cwblhau hyfforddiant sefydlu sy'n berthnasol i'w rôl.
  • Mae'r unigolyn yn gweithio ochr yn ochr â staff sydd â chymwysterau i'r lefel ofynnol.

 

Sut byddai'r newidiadau uchod i Chwarae Mynediad Agored o fudd i'r bobl ganlynol? 

 

Plant 
  • Bydd gwasanaethau chwarae mynediad agored ar gael i blant yn ystod y gwyliau, gan ddarparu cymorth dibynadwy lle gallant chwilota a chwarae.
Darparwyr chwarae mynediad agored 
  • Cymhwyso'r safonau yn gymesur, gan gydnabod mai gwasanaethau dros dro yw rhai o'r gwasanaethau hyn.
  • Cefnogi cynaliadwyedd y sector er mwyn cynnig cyfleoedd chwarae mynediad agored cofrestredig i fwy o blant.
Rhieni/gofalwyr
  • Bydd mwy o wasanaethau chwarae mynediad agored cofrestredig ar gael i'w plant.
  • Bydd y staff sy'n rhedeg y gwasanaeth yn cynnal asesiadau risg mewn perthynas â chymwysterau cymorth cyntaf a sicrhau staff cymwys a chyfrifol.

Cwestiynau ynghylch y Newidiadau Arfaethedig

Rydym am glywed eich barn ynghylch a ydych yn cytuno â’r newidiadau arfaethedig.

Cwestiwn 6: O ran Hyfforddiant Cymorth Cyntaf - Chwarae Mynediad Agored (Safon 10), rydym yn cynnig y byddai'n fwy cymesur ei gwneud yn ofynnol i o leiaf un person sydd â chymhwyster cymorth cyntaf llawn fod ar y safle bob amser, a bod trefniadau wrth gefn ar gyfer cymwysterau cymorth cyntaf staff ychwanegol, gan weithredu yn ôl risg y mathau o weithgareddau yr ymgymerir â nhw. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â’r cynnig hwn?

Cwestiwn 7: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r newidiadau a gynigir ar gyfer dull gweithredu cymesur o ran Safon 13: Person addas Staff Eraill (Cymwysterau) ar gyfer Chwarae Mynediad Agored?

Meddyginiaeth

Cododd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) bryderon am iechyd a lles plant o fewn lleoliadau gwarchod plant a gofal dydd cofrestredig ("lleoliadau cofrestredig"). Roedd hyn yn ymwneud yn arbennig â darparu meddyginiaeth hylifol parasetamol heb bresgripsiwn ("Parasetamol Hylifol"). 

Yn sgil y pryderon a amlygwyd, galwyd am eglurder ynghylch yr hyn y gall lleoliadau cofrestredig ei wneud mewn perthynas â gweinyddu Parasetamol Hylifol yn unol â Safon 11: Meddyginiaeth, a'r hyn na all lleoliadau cofrestredig ei wneud. Ar hyn o bryd nid yw'r safon yn mynd i'r afael yn llawn â pha drefniadau y gellir eu gwneud ynghylch meddyginiaeth heb bresgripsiwn. 

Roedd angen darparu eglurder i ddarparwyr gofal plant ar frys er mwyn diogelu iechyd a lles plant fel blaenoriaeth, gan alluogi staff lleoliad cofrestredig i ddarparu triniaeth brydlon i leddfu poen neu dymheredd uchel mewn plant pan ânt yn sâl yn y lleoliad. 

Cyngor swyddogion iechyd Llywodraeth Cymru oedd ei bod yn dderbyniol darparu canllawiau i ddarparwyr i'w galluogi i gael gafael ar Barasetamol Hylifol, ei storio a'i weinyddu i blant mewn rhai amgylchiadau.

Yn dilyn hyn, cyhoeddwyd cylchlythyr Llywodraeth Cymru 011/2024 fel mater o flaenoriaeth i bob darparwr gofal plant a chwarae ac i randdeiliaid.

Roedd y cylchlythyr yn nodi y dylai polisi meddyginiaeth lleoliadau ategu trefniadau gweinyddu Parasetamol Hylifol ac y dylid sicrhau cydsyniad rhiant/gofalwr ymlaen llaw ynghylch gweinyddu Parasetamol Hylifol (a'r dos perthnasol).

Mae Tabl 2: Y geiriad arfaethedig ar gyfer Safon 11: Meddyginiaeth yn dangos y newidiadau arfaethedig i eiriad cyfredol Safon 11: Meddyginiaeth. Y golofn chwith yw'r geiriad cyfredol, a'r golofn dde yw geiriad arfaethedig. Mae Atodiad - Canllawiau ar gyfer gweinyddu parasetamol hylifol pan fydd plant yn mynd yn sâl mewn lleoliad wedi'i ddrafftio i ddarparu cymorth mewn achosion pan fydd plant yn mynd yn sâl yng ngofal lleoliad. Rydym am glywed eich barn ynghylch y safon a'r Atodiad.

Tabl 2: Y geiriad arfaethedig ar gyfer Safon 11: Meddyginiaeth
Y geiriad cyfredolY geiriad arfaethedig
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
 Newydd 11.1 Bod y safonau hyn yn cael eu darllen ar y cyd â Safon 10: Gofal iechyd a'r gweithdrefnau ar gyfer atal a rheoli heintiau.
11.1 Bod polisi clir, a ddeëllir ac a weithredir gan bawb o'r staff ac a drafodwyd gyda'r rhieni ynghylch storio a gweinyddu meddyginiaeth. Bod y polisi yn cydymffurfio â thelerau yswiriant y person cofrestredig.11.2 Bod polisi meddyginiaeth clir, a ddeëllir ac a weithredir gan bawb o'r staff, ynghylch storio a gweinyddu unrhyw feddyginiaeth (ar bresgripsiwn neu heb bresgripsiwn). Bod y polisi yn cydymffurfio â thelerau yswiriant y person cofrestredig.
 Newydd 11.3 Bod y polisi meddyginiaeth yn cael ei rannu â rhieni ac yn nodi'r gweithdrefnau sydd ar waith i gefnogi gweinyddu meddyginiaeth ar bresgripsiwn a heb bresgripsiwn yn ddiogel. Bod y polisi yn cynnwys y weithdrefn ar gyfer delio ag argyfyngau meddygol a phan fydd plant yn mynd yn sâl yn y lleoliad.
11.2 Bod y rhiant yn rhoi caniatâd ysgrifenedig cyn i unrhyw feddyginiaeth gael ei rhoi.11.4 Bod y rhiant yn rhoi caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw cyn i unrhyw feddyginiaeth (ar bresgripsiwn/heb bresgripsiwn) gael ei rhoi. 
11.3 Os rhoddir meddyginiaeth i blentyn, bod yna ddealltwriaeth o sgil-effeithiau posibl y feddyginiaeth. Os yw’r plentyn yn cymryd ei feddyginiaeth ei hun, bod hyn yn digwydd yn unol â chanllawiau ysgrifenedig gan y rhiant a chyda dealltwriaeth o sgil-effeithiau posibl y feddyginiaeth.11.5 fydd y testun hwn.
11.4 Yr holir y person sy'n dod â'r plentyn i'r lleoliad pryd yn union y 
gweinyddwyd y feddyginiaeth ddiwethaf.
11.6 fydd y testun hwn.
11.5 Na weinyddir meddyginiaethau presgripsiwn oni bai bod meddyg wedi'u rhagnodi ar gyfer y plentyn hwnnw.11.7 Na weinyddir meddyginiaethau presgripsiwn oni bai bod meddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall wedi'u rhagnodi ar gyfer y plentyn hwnnw.
11.6 Os yw gweinyddu meddyginiaethau presgripsiwn yn galw am wybodaeth dechnegol neu feddygol, bod hyfforddiant unigol yn cael ei roi gan weithiwr iechyd proffesiynol cymwys. Bod yr hyfforddiant yn benodol i'r plentyn unigol dan sylw. 11.8 fydd y testun hwn.
11.7 Nad yw unrhyw feddyginiaeth a dderbynnir yn y lleoliad yn hen.11.9 Nad yw unrhyw feddyginiaeth a dderbynnir yn y lleoliad, y ceir gafael arni gan y lleoliad ac a weinyddir gan y lleoliad yn hen. 
11.8 Bod meddyginiaeth yn cael ei storio yn y cynhwysydd gwreiddiol, wedi'i labelu'n glir gydag enw'r plentyn, ac na all plant ei chyrraedd.

11.10 Bod pob meddyginiaeth yn cael eu storio yn eu cynhwysydd gwreiddiol. 

Bod meddyginiaeth ar bresgripsiwn wedi'i labelu'n glir gydag enw'r plentyn.

 11.11 Bod pob meddyginiaeth yn cael eu storio'n ddiogel mewn cynhwysydd sydd wedi'i gloi, y tu hwnt i gyrraedd plant, ac yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr. 
11.9 Bod cofnodion ysgrifenedig yn cael eu cadw o bob meddyginiaeth a 
weinyddir i blant, a bod rhieni yn llofnodi'r llyfr cofnod i'w chydnabod.
11.12 fydd y testun hwn.
 11.13 Y gallwch gael gafael ar barasetamol hylifol, ei storio a'i weinyddu pan fydd plentyn yn mynd yn sâl yn eich lleoliad. Dilynwch y canllawiau yn Atodiad [i'w gadarnhau] - Canllawiau ar gyfer gweinyddu parasetamol hylifol pan fydd plant yn mynd yn sâl mewn lleoliad.

 

Sut byddai'r newidiadau i'r safonau meddyginiaeth a'r canllawiau sy'n ymwneud â gweinyddu parasetamol hylifol o fudd i'r bobl ganlynol?

 

Plant
  • Helpu i ddiogelu'r plentyn a'i anghenion iechyd a lles 
Rhieni/gofalwyr
  • Cynnig sicrwydd i rieni, pe bai eu plentyn yn mynd yn sâl, ac nad ydynt yn gallu casglu'r plentyn ar unwaith neu nad oes modd cysylltu â nhw, y gall y darparwr gofal plant weinyddu parasetamol hylifol i warchod iechyd y plentyn yn y tymor byr.
Darparwyr gofal dydd, gan gynnwys gwarchodwyr plant a darparwyr chwarae mynediad agored
  • Helpu i ddiogelu'r darparwr cofrestredig sydd â dyletswydd i hyrwyddo a diogelu iechyd y plant yn eu gofal o dan Reoliad 24 - Anghenion iechyd plant
  • Darparu gwybodaeth ychwanegol am weinyddu meddyginiaeth
  • Helpu i sicrhau cydymffurfiaeth â’r Safonau a’r rheoliadau 

Mae'r newidiadau i Safon 11: Meddyginiaeth yn cael eu cynnig oherwydd diffyg gwahaniaethu clir rhwng meddyginiaeth ar bresgripsiwn a heb bresgripsiwn yn y Safonau presennol. Galwodd y sector gofal plant am arweiniad pellach ynghylch sefyllfa pan fydd plant yn mynd yn sâl yn annisgwyl mewn lleoliad, e.e. ffit wres; tymheredd uchel. 

Cwestiynau ynghylch y Newidiadau Arfaethedig: 

Rydym am glywed eich barn ynghylch a ydych yn cytuno â’r newidiadau arfaethedig i Safon 11.

Cwestiwn 8: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r newidiadau i Safon 11: Meddyginiaeth i nodi'r gwahaniaeth rhwng meddyginiaeth ar bresgripsiwn a meddyginiaeth heb bresgripsiwn? 

Cwestiwn Ymgysylltu

Rydym am glywed eich barn ynghylch a yw o gymorth datblygu Atodiad ychwanegol i'r Safonau i ddarparu arweiniad a chymorth pellach pan fydd plant yn mynd yn sâl yng ngofal lleoliad. 

Cwestiwn Ymgysylltu D – Ydych chi'n meddwl bod yr Atodiad yn y Safonau - Canllawiau ar gyfer gweinyddu parasetamol hylifol pan fydd plant yn mynd yn sâl mewn lleoliad - yn helpu i esbonio beth y gall y lleoliad ei wneud ac na all ei wneud mewn perthynas â gweinyddu parasetamol hylifol yn y sefyllfaoedd a ddisgrifir?

Defnydd o staff 

Mae Llywodraeth Cymru, yn sgil tystiolaeth gan y sector a phartneriaid CWLWM, wedi nodi bod angen eglurder ynghylch sut mae canrannau'r staff cymwysedig, y staff heb gymhwyso a'r gwirfoddolwyr i'w dosrannu'n effeithiol ar draws lleoliad, ac a yw'r isafswm canrannau a amlinellir yn y safonau i'w cyfrifo fesul ystafell neu ar draws y lleoliad cyfan. 

Cafwyd ceisiadau hefyd am eglurder ynghylch pryd mae lleoliadau wedi cyflogi staff neu wirfoddolwyr ychwanegol i helpu i ddiwallu anghenion unigol plant. Ymddengys bod hyn, mewn rhai achosion, wedi creu dryswch ynghylch y ffordd y cyfrifir canrannau o staff cymwysedig, staff heb gymhwyso a gwirfoddolwyr yn ymarferol. 

Rydym am glywed eich barn ynghylch y geiriad ychwanegol isod sydd i'w ychwanegu at Safon 13 (GD): Person addas, i gynnig eglurder ar y defnydd o staff ar draws lleoliad, gan ddarparu gwybodaeth, ar yr un pryd, am amgylchiadau pan all lleoliadau gynnwys staff neu wirfoddolwyr cymwysedig ychwanegol, uwchlaw'r cymarebau oedolion: plant gofynnol, i helpu i ddiwallu anghenion unigol. Ni ddylid ystyried bod cael staff neu wirfoddolwyr cymwysedig ychwanegol am y rhesymau hyn yn gwanhau'r cymarebau os yw'r canlyniad a'r effaith o ran anghenion y plant yn fanteisiol.

Safon newydd arfaethedig: 

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

Bod canrannau staff cymwysedig a staff heb gymhwyso yn cael eu cyfrifo ar sail y lleoliad cyfan, yn hytrach nag ar sail ystafell. Yr ystyrir yn ofalus sut caiff staff eu dosrannu ar draws y lleoliad ac ym mhob ystafell i sicrhau diogelwch, lles a datblygiad y plant bob amser, gan gynnwys y rhai ag anghenion ychwanegol a'r rhai sy'n anabl.

Safon newydd arfaethedig:

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

Efallai, yn dibynnu ar lefelau staffio unigol pob lleoliad, bod mwy o staff yn cael eu lleoli lle nodir yr angen am gymorth penodol i helpu i ddiwallu anghenion unigol plant. Bod cymarebau oedolion: plant gofynnol yn cael eu gwarchod o hyd. Nad yw unrhyw aelod o staff a gyflogir i weithio gyda phlant penodol i ddarparu cymorth ychwanegol yn cael ei gyfrif o fewn y cymarebau staffio safonol. 

Sut byddai'r newidiadau ynghylch defnydd o staff o dan Safon 13 (GD) o fudd i mi? 

Plant
  • Wrth ofalu am blant, caiff staff eu dosrannu'n effeithiol i ddiwallu eu hanghenion unigol.
Rhieni/gofalwyr 
  • Sicrwydd y gall lleoliad eu plentyn addasu lefelau staffio i ddiwallu anghenion y plentyn.
Darparwyr
  • Eglurder i ddarparwyr bod canrannau i'w cyfrifo ar sail y lleoliad cyfan.

Cwestiynau ynghylch y Newidiadau Arfaethedig

Rydym am glywed eich barn ynghylch a ydych yn cytuno â’r newidiadau arfaethedig i Safon 13.

Cwestiwn 9: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno ag ychwanegu'r canlynol at Safon 13 (GD): Person addas (Gofal Dydd)?

Safon newydd: Bod canrannau staff cymwysedig a staff heb gymhwyso yn cael eu cyfrifo ar sail y lleoliad cyfan, yn hytrach nag ar sail ystafell. Yr ystyrir yn ofalus sut caiff staff eu dosrannu ar draws y lleoliad ac ym mhob ystafell i sicrhau diogelwch, lles a datblygiad y plant bob amser, gan gynnwys y rhai ag anghenion ychwanegol a'r rhai sy'n anabl.

Cwestiwn 10: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno ag ychwanegu'r canlynol at Safon 13 (GD): Person addas (Gofal Dydd):

Safon newydd: Efallai, yn dibynnu ar lefelau staffio unigol pob lleoliad, bod mwy o staff yn cael eu lleoli lle nodir yr angen am gymorth penodol i helpu i ddiwallu anghenion unigol plant. Bod cymarebau oedolion: plant gofynnol yn cael eu gwarchod o hyd. Nad yw unrhyw aelod o staff a gyflogir i weithio gyda phlant penodol i ddarparu cymorth ychwanegol yn cael ei gyfrif o fewn y cymarebau staffio safonol. 

Cynorthwywyr gwarchodwyr plant

Yn fersiwn ddiwygiedig 2023 o'r Safonau, sefydlwyd gofyniad i gynorthwywyr gwarchod plant gwblhau eu cymhwyster erbyn mis Tachwedd 2024. Gan fod y dyddiad hwn wedi pasio erbyn hyn, mae Coram PACEY Cymru (PACEY Cymru gynt), gan gynrychioli eu haelodau, wedi tynnu sylw at heriau sy'n parhau o ran recriwtio cynorthwywyr gwarchod plant cymwysedig newydd pan fydd cynorthwy-ydd yn gadael neu pan fydd angen darparu lleoedd ychwanegol mewn lleoliad. Gallai darparu hyblygrwydd o fewn amserlen benodol helpu i gynnal parhad o fewn y sector gwarchod plant.

Bydd hyn yn golygu y gallai cynorthwywyr gwarchod plant gael eu cyflogi heb gymhwyster ffurfiol, ar yr amod eu bod yn gweithio tuag at ennill cymhwyster o'r fath, a'u bod yn ei ennill o fewn yr amserlen ofynnol. Gellid cefnogi hyn drwy ddiwygio Safon 13.4 (GP) i nodi na fydd cynorthwywyr gwarchod plant yn cael eu gadael heb eu goruchwylio nes bod y cymhwyster hwn yn cael ei gyflawni. 

Yn fersiwn ddiwygiedig 2023, darparwyd canllawiau hefyd yn Atodiad A ynghylch cyfrifoldebau a rôl gwarchodwyr plant cofrestredig sy'n gweithio gyda chynorthwy-ydd gwarchod plant. 

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru a Coram Pacey Cymru yn nodi bod gwarchodwyr plant wedi mynegi'r angen am ganllawiau cliriach ynghylch pa mor hir y gellir gadael cynorthwywyr gwarchod plant ar eu pen eu hunain gyda phlant. Mae'r ffaith nad oes cyfnod penodol wedi'i nodi ar hyn o bryd yn arwain at ddryswch a chamreoli o bosibl wrth ddarparu gofal i blant, neu anghysondeb cyffredinol o ran gadael cynorthwywyr ar eu pen eu hunain gyda phlant. Rydym am glywed eich barn, felly, ynghylch pa mor hir y dylid gadael cynorthwywyr gwarchod plant (y rhai sy'n meddu ar y cymhwyster cynorthwy-ydd gwarchod plant gofynnol) ar eu pen eu hunain gyda phlant. Mewn gweithgorau proffesiynol, a hwyluswyd gan Coram Pacey Cymru, cynigiwyd terfyn o ddwy awr. Byddai hyn yn darparu canllawiau clir i gynorthwywyr ac yn cynnig eglurder ar rôl cynorthwy-ydd. Ystyrir hyn yn uchafswm amser dyddiol rhesymol i helpu, os oes angen, wrth gasglu plant o'r ysgol, pan ellid gadael cynorthwywyr gwarchod plant ar eu pen eu hunain gyda phlant. Byddai pennu terfyn amser o ddwy awr yn darparu arweiniad cliriach ac yn helpu gwarchodwyr plant wrth reoli eu gwasanaeth.

Mae Tabl 3: Y geiriad arfaethedig ar gyfer Safon 13.4 (CM) yn dangos y newid arfaethedig i eiriad cyfredol y Safonau ynghylch cynorthwywyr gwarchod plant. Y golofn chwith yw'r geiriad cyfredol, a'r golofn dde yw'r geiriad newydd arfaethedig yr hoffem glywed eich barn yn ei gylch.

Mae Tabl 3: Y geiriad arfaethedig ar gyfer Safon 13.4 (CM) 
Y geiriad cyfredolY geiriad arfaethedig
13.4 (GP) Rhaid i unrhyw gynorthwy-ydd a gyflogir gan warchodwr plant fod wedi 
cwblhau’n llwyddiannus gwrs priodol a gydnabyddir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae gofyn i gynorthwywyr fod wedi ennill y cymhwyster gofynnol erbyn diwedd Tachwedd 2024.
13.4 (GP) Rhaid i unrhyw gynorthwy-ydd a gyflogir gan warchodwr plant fod wedi 
cwblhau’n llwyddiannus gwrs priodol a gydnabyddir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae gofyn i gynorthwywyr fod wedi ennill y cymhwyster gofynnol o fewn 6 mis i ddechrau eu cyflogaeth bresennol. Yn ystod y cyfnod hwn, cyn iddynt ennill y cymhwyster dan sylw, ni ddylid eu gadael gyda phlant heb eu goruchwylio.
Atodiad A - Canllawiau'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Cynorthwywyr Gwarchodwyr PlantTestun newydd i'w ychwanegu at Atodiad A Gellir gadael cynorthwy-ydd ar eu pen eu hunain gyda phlant, yn unol â'r cymarebau oedolion: plant ar gyfer gwarchodwyr plant, am hyd at ddwy awr y dydd i gyd os cydymffurfir â'r holl ofynion o fewn y canllawiau hyn a'r safonau.

 

Sut byddai'r newidiadau hyn i gymwysterau cynorthwywyr gwarchod plant o fudd i mi? 

 

Plant
  • Caniatáu i'r gwarchodwr plant benodi cynorthwy-ydd i wella'r ddarpariaeth
  • Sicrhau bod plant yn derbyn gofal gan warchodwyr plant cymwysedig, a bod cyfyngiadau ar y cyfnod y gall cynorthwy-ydd eu goruchwylio
Rhieni/gofalwyr
  • Bydd y newidiadau yn rhoi mwy o eglurder i rieni a gofalwyr am y rôl y bydd cynorthwywyr gwarchodwyr plant yn ei chwarae wrth ofalu am eu plentyn/plant
Gwarchodwyr plant sy’n gweithio gyda chynorthwy-ydd
  • Darparu canllawiau clir ar gyfer pa mor hir y gellir gadael cynorthwywyr ar eu pen eu hunain gyda phlant a gwneud i ffwrdd â'r ansicrwydd
  • Cefnogi trefniadau rheoli risg mewnol
  • Galluogi mwy o hyblygrwydd wrth ddiwallu anghenion plant
  • Cefnogi cyfleoedd i warchodwyr plant ddatblygu a chynnal eu gwasanaeth.
Cynorthwywyr gwarchodwyr plant 
  • Egluro rôl a chyfrifoldebau a hyfforddiant cynorthwy-ydd gwarchodwr plant 

Cwestiynau ynghylch y Newidiadau Arfaethedig

Rydym am glywed eich barn ynghylch a ydych yn cytuno â'r newidiadau arfaethedig i Safon 13: Person addas (GP).

Cwestiwn 11: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y gellid cyflogi cynorthwywyr gwarchod plant os ydynt yn gweithio tuag at y cymhwyster cynorthwyydd, ond peidio â chael eu gadael heb oruchwyliaeth gyda phlant yn ystod y cyfnod hwn, a rhaid iddynt gwblhau'r cymhwyster o fewn 6 mis?

Cwestiwn 12: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y gellid gadael cynorthwywyr gwarchodwyr plant ar eu pen eu hunain gyda phlant, yn unol â'r cymarebau staffio oedolion: plant, am hyd at ddwy awr y dydd i gyd os cydymffurfir â holl ofynion y canllawiau yn Atodiad A a Safon 13?

Cymarebau ar gyfer gwarchod plant

Nododd argymhelliad 15 adroddiad yr adolygiad annibynnol o warchod plant y dylai Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ystyried cyflwyno mwy o hyblygrwydd yn y ffordd y gall gwarchodwyr plant gyfrifo cymarebau staffio'r Safonau yn ystod cyfnodau byr o'r dydd. Byddai hyn yn galluogi gwarchodwyr plant i ddiwallu'r galw am ofal plant y tu allan i oriau ysgol cyn ac ar ôl ysgol, yn ogystal â gofal cofleidiol sy'n gorgyffwrdd yn ystod amser cinio. Roedd yr ymatebion i'r Adolygiad yn nodi'r angen am fwy o hyblygrwydd yn y cymarebau ar gyfer gwarchodwyr plant er mwyn galluogi gwarchodwr plant i ofalu am fwy na 3 phlentyn o dan 5 oed.

Gan gydnabod y gostyngiad yn nifer y gwarchodwyr plant, a'r ffaith ein bod am barhau i gynnig dewis i rieni o ddarpariaeth gofal plant, rydym am glywed eich barn ynghylch diwygio'r cymarebau gwarchod plant. Nododd adroddiad yr adolygiad annibynnol o warchod plant fod diffyg lleoedd ar gael i frodyr a chwiorydd yn aml oherwydd y cymarebau, sy'n effeithio ar barhad gofal i'r teuluoedd. Bydd y newid arfaethedig hwn hefyd yn cefnogi cynaliadwyedd y sector gwarchod plant a pharhad gofal i deuluoedd a phlant.

Mae'r cymarebau a bennir yn y Safonau yn nodi uchafswm nifer y plant y ceir gofalu amdanynt yn unol â'u hoedran. Bydd AGC, drwy arolygiadau, yn gwerthuso'r canlyniadau i blant, ac a yw eu hanghenion yn cael eu diwallu. Rydym am glywed eich barn ynghylch caniatáu i warchodwyr plant ofalu am un plentyn ychwanegol o dan 5 oed. Ar hyn o bryd nid yw'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn mynd i'r afael yn benodol â'r cymarebau ar gyfer plant 2 oed mewn lleoliadau gwarchod plant. Nodir hyn er mwyn sicrhau bod plant iau yn derbyn gofal priodol.

Tabl 4: Y geiriad arfaethedig ar gyfer Safon 15 (GP) ac Atodiad A - Canllawiau Safonau ar gyfer Cynorthwywyr Gwarchodwyr Plant. Y golofn chwith yw'r geiriad cyfredol, a'r golofn dde yw'r geiriad newydd arfaethedig yr hoffem glywed eich barn yn ei gylch.

Tabl 4: Y geiriad arfaethedig ar gyfer Safon 15 (GP) ac Atodiad A - Canllawiau Safonau ar gyfer Cynorthwywyr Gwarchodwyr Plant.
Y geiriad cyfredolY geiriad arfaethedig

15.1(GP) Y nifer fwyaf o blant y caiff gwarchodwr plant ofalu amdanynt yw: 

• 10 o blant hyd at 12 oed; 

• O'r 10 plentyn hynny, ni all mwy na chwech fod o dan wyth oed. 

• O'r chwe phlentyn hynny, ni all mwy na thri fod o dan 5 oed. 

• O’r tri phlentyn hynny, ni chaiff mwy na dau fod o dan 18 mis oed fel 
arfer, er bod eithriadau'n bosibl yn achos brodyr a chwiorydd.

Y nifer fwyaf o blant y caiff gwarchodwr plant ofalu amdanynt yw: 

  • 10 o blant hyd at 12 oed;
  • O'r 10 plentyn hynny, ni all mwy na chwech fod o dan wyth oed.
  • O'r chwe phlentyn hynny, ni all mwy na phedwar fod o dan 5 oed.
  • O’r pedwar plentyn hynny, ni chaiff mwy na thri fod o dan 2 oed.
  • O’r tri phlentyn hynny, ni chaiff mwy na dau fod o dan 18 mis oed fel 
    arfer, er bod eithriadau'n bosibl yn achos brodyr a chwiorydd.
Bydd hon yn safon ychwanegol.Newydd: Caiff plant sydd i fod i ddechrau addysg statudol amser llawn (blwyddyn dderbyn) ym mis Medi gael eu categoreiddio fel plant dros bump oed yn ystod gwyliau'r haf yn union cyn iddynt ddechrau eu blwyddyn dderbyn at ddibenion y cymarebau sy'n berthnasol i warchodwyr plant.
15.2(GP) Gellir categoreiddio plant rhwng tair a phump oed, sy’n mynychu
darpariaeth addysg amser llawn, fel plant dros bump oed at ddibenion y 
cymarebau sy’n berthnasol i warchodwyr plant.
Gellir categoreiddio plant rhwng tair a phump oed, sy'n mynychu darpariaeth addysg neu gyfuniad o ddarpariaeth addysg a gofal plant cofleidiol o fewn oriau ysgol mewn lleoliad arall am bum awr neu fwy y dydd, fel plant dros bump oed at ddibenion y cymarebau sy'n berthnasol i warchodwyr plant.

 

Sut byddai’r newidiadau ynghylch cymarebau gwarchod plant o fudd i mi? 

 

Plant
  • Cynnig hyblygrwydd i warchodwyr plant fel bod plant yn cael gofal gan oedolyn y maent yn ei adnabod
Rhieni/gofalwyr
  • Cefnogi dewis rhieni o ran gofal plant
  • Caniatáu parhad gofal i blant na fyddent fel arall wedi gallu cael eu cymryd gan y gwarchodwr plant, efallai, oherwydd y cymarebau ar gyfer plant o dan 5 oed.
Gwarchodwyr plant
  • Helpu o ran cynaliadwyedd gwarchodwyr plant a'u cynlluniau busnes
  • Cefnogi gwarchodwyr plant i ddarparu parhad gofal
  • Cefnogi gwarchodwyr plant i reoli cyfnodau pontio
  • Cefnogi gwarchodwyr plant i reoli risg a gwneud penderfyniadau priodol

Cwestiynau ynghylch y Newidiadau Arfaethedig

Rydym am glywed eich barn ynghylch a ydych yn cytuno â’r newidiadau arfaethedig i Safon 15.

Cwestiwn 13: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r canlynol:

Y nifer fwyaf o blant y caiff gwarchodwr plant ofalu amdanynt yw: 

  • 10 o blant hyd at 12 oed;
  • O'r 10 plentyn hynny, ni all mwy na chwech fod o dan wyth oed.
  • O'r chwe phlentyn hynny, ni all mwy na phedwar fod o dan 5 oed.
  • O'r pedwar plentyn hynny, ni chaiff mwy na thri fod o dan 2 oed*.
  • O’r tri phlentyn hynny, ni chaiff mwy na dau fod o dan 18 mis oed fel 
    arfer, er bod eithriadau'n bosibl yn achos brodyr a chwiorydd.

Cwestiwn 14: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y gallai plant sydd i fod i ddechrau addysg statudol amser llawn (blwyddyn dderbyn) ym mis Medi gael eu categoreiddio fel plant dros bump oed yn ystod gwyliau'r haf yn union cyn hyn at ddibenion y cymarebau sy'n berthnasol i warchodwyr plant?

Cwestiwn 15: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y gallai plant rhwng tair a phump oed, sy'n mynychu darpariaeth addysg neu gyfuniad o ddarpariaeth addysg a gofal plant cofleidiol o fewn oriau ysgol mewn lleoliad arall am bum awr neu fwy y dydd, gael eu categoreiddio fel plant dros bump oed at ddibenion y cymarebau sy'n berthnasol i warchodwyr plant?

Y Gymraeg

Un o nodau Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod y sector gofal plant yng Nghymru yn cael ei gryfhau a'i gefnogi ac yn rhoi pwyslais arbennig ar gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Cwestiynau Ymgysylltu

Rydym am glywed eich barn ynghylch unrhyw effaith debygol ar y Gymraeg.

Cwestiwn Ymgysylltu E: Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y newidiadau arfaethedig i'r Safonau ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?

Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?

Cwestiwn Ymgysylltu F: Yn eich barn chi, a ellid llunio neu addasu'r newidiadau arfaethedig i'r Safonau er mwyn:

  • sicrhau effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu
  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Cwestiwn Ymgysylltu G: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol ar y Gymraeg. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw yn benodol, gallwch eu nodi yma:

Safbwyntiau cyffredinol ynghylch y Safonau

Fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Safonau yn parhau i fod yn addas i'w diben, fel rhan o'r adolygiad hwn, byddwn hefyd yn diweddaru:

  • Diffiniadau yn ymwneud â gofal dydd gan wneud rhai mân ddiwygiadau
  • Atodiad C – Canllawiau Diogelu’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol: Rolau a Chyfrifoldebau, gan ychwanegu testun yn argymell adnewyddu hyfforddiant ar ôl 3 blynedd o dan grŵp B a C

Rhoddir ystyriaeth i'r angen i ddiweddaru a sicrhau bod y Safonau yn adlewyrchu ac yn cynnwys cyfeiriadau at feysydd polisi deddfwriaethol, meysydd polisi ehangach Llywodraeth Cymru, a chanllawiau sy'n benodol i'r sector megis:

Sylwer: Gallai'r uchod newid yn dilyn yr ymgynghoriad hwn ac wrth i feysydd polisi ehangach eraill ddatblygu. 

Cwestiwn Ymgysylltu

Rydym am glywed eich barn ynghylch p'un a ddylai Llywodraeth Cymru wneud diwygiadau eraill i’r safonau. 

Yn yr Adolygiad, nodwyd bod recriwtio a chadw staff yn broblem ar draws y sector. Yn y fersiwn ddiwethaf o'r Safonau yn 2023, felly, diweddarwyd y gofynion o ran cymwysterau gofal plant ar gyfer darparwyr gofal dydd o dan Safon 13: Person addas (GD)) – i ganiatáu i 20% o staff lleoliadau gofal dydd llawn a 10% o staff lleoliadau sesiynol neu leoliadau chwarae mynediad agored sy'n gweithio tuag at gymhwyster gael eu cynnwys yng nghymarebau cymwysterau staff (gydag amodau).

Cwestiwn Ymgysylltu H: Oes gennych chi unrhyw sylwadau ynghylch gweithio tuag at y gofynion?

Mae penodau Asesiad Effaith Integredig wedi'u cyhoeddi fel rhan o'r ymgynghoriad hwn; Adrannau 1 ac 8, Asesiadau o'r Effaith ar y Gymraeg ac ar Hawliau Plant.

Cwestiwn Ymgysylltu I: Pa sylwadau, os o gwbl, sydd gennych ynghylch yr asesiadau effaith drafft, yn enwedig yr effeithiau ar blant, teuluoedd a'r rheini sy'n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol (gan gynnwys tystiolaeth y dylid ei hystyried yn eich barn chi)?

Cwestiwn Ymgysylltu J: Mae Asesiad drafft o'r Effaith ar Gydraddoldeb hefyd wedi'i ddatblygu fel rhan o'r ymarfer hwn. I'n helpu ymhellach, a fyddech cystal ag ychwanegu unrhyw sylwadau ar unrhyw effeithiau rydych chi'n teimlo y gallai'r newidiadau eu cael ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig (gan gynnwys tystiolaeth y dylid ei hystyried yn eich barn chi)?

Cwestiwn Ymgysylltu K: Oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau eraill ynghylch y Safonau?

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os yw'n well gennych bod eich ymateb yn ddienw, ticiwch yma:

Atodiad 1: Argymhellion o'r Adolygiad o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir; yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae; a'r Adolygiad Annibynnol o Warchod Plant

Mae'r tabl isod yn dangos yr argymhellion o adolygiad 2019 a oedd yn parhau yn fersiwn ddiwygiedig 2023. Y golofn chwith yw'r argymhelliad ac mae'r golofn dde yn dangos y canlyniadau. 

Argymhellion o adolygiad 2019 a oedd yn parhau yn fersiwn ddiwygiedig 2023
ArgymhelliadCanlyniadau
Argymhelliad 5- Ystyried cynnwys arolygu a rheoleiddio lleoliadau chwarae yn yr Adolygiad Chwarae ehangach. Yn cysylltu ag argymhelliad 11.1 yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae ac wedi'i ddisodli gan yr argymhelliad hwnnw.
Argymhelliad 13- Datblygu canllawiau cliriach ar rôl cynorthwywyr gwarchod plant, yn arbennig o ran y ffordd y cânt eu goruchwylio er mwyn sicrhau gofal diogel o ansawdd i blant. Y diwygiadau arfaethedig diweddaraf wedi'u cynnwys mewn ymgynghoriad
Argymhelliad 14- Ystyried datblygu dull mwy cymesur o reoleiddio mewn perthynas â darpariaeth o fathau penodol, er enghraifft chwarae mynediad agored neu ddarpariaeth dymhorol o bosibl. Rheoleiddio i adlewyrchu natur ac amgylchiadau penodol y lleoliad, gan gynnwys staffio, cyd-destun cymunedol, natur yr amgylchedd ac oedran a gallu'r plant.

Yn cysylltu ag argymhellion 11.1 ac 11.3 yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae ac wedi'i ddisodli gan yr argymhellion hynny.

Y camau arfaethedig wedi'u nodi mewn ymgynghoriad.

Argymhelliad 16- Ystyried gofynion cofrestru ar gyfer darpariaeth y lleoliadau gwaith chwarae fel rhan o'r Adolygiad Chwarae ehangach.Yn cysylltu ag argymhelliad 11.1 yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae ac wedi'i ddisodli gan yr argymhelliad hwnnw.
Argymhelliad 19- Ystyried gwneud gwaith pellach i edrych ar rai o fanteision ac anfanteision ymagwedd fwy cymesur at y safonau, neu ymagwedd fwy penodol i fath. 

Yn cysylltu ag argymhellion 11.1 ac 11.3 yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae ac wedi'i ddisodli gan yr argymhellion hynny.

Y diwygiadau arfaethedig diweddaraf wedi'u cynnwys mewn ymgynghoriad

Argymhelliad 20- Ystyried ffyrdd o symleiddio'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol presennol.Y diwygiadau arfaethedig diweddaraf wedi'u cynnwys mewn ymgynghoriad

 

Mae'r tabl isod yn dangos argymhellion yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae a lywiodd y newidiadau arfaethedig i'r Safonau. Y golofn chwith yw'r argymhelliad o'r adolygiad hwn ac mae'r golofn dde yn dangos y canlyniadau. 

Argymhellion yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae a lywiodd y newidiadau arfaethedig i'r Safonau.
RhifArgymhelliadCanlyniadau
11.1 Adolygu ymarfer a throsglwyddiad cyfundrefn arolygu Arolygiaeth Gofal 
Cymru sy’n ymwneud â gwaith chwarae i wella ei addasrwydd i’r diben o fewn 
y rheoliadau cyfredol. Dylai hyn hysbysu newidiadau i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) a rheoleiddio ac archwilio’r holl leoliadau gwaith chwarae a dylai hefyd gynnwys datblygiad SGC unigol ar gyfer lleoliadau gwaith chwarae mynediad agored.
Bydd AGC yn ystyried sut y gellid cymhwyso'r fframwaith arolygu yn gymesur ar gyfer lleoliadau chwarae mynediad agored. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag AGC a rhanddeiliaid allweddol i ddiweddaru'r safonau chwarae mynediad agored i ddatblygu set annibynnol.
11.3 Adolygu a diweddaru’r diffiniad o waith chwarae mynediad agored a’r lleoliadau ble mae’n digwydd a gwneud adolygiadau perthnasol i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Darpariaeth Gofal Plant a Reoleiddir.Y diwygiadau arfaethedig diweddaraf wedi'u cynnwys mewn ymgynghoriad

 

Mae'r tabl isod yn dangos argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o Warchod Plant a lywiodd y newidiadau arfaethedig i'r Safonau. Y golofn chwith yw'r argymhelliad o'r adolygiad hwn ac mae'r golofn dde yn dangos yr ymateb. 

Adolygiad Annibynnol o Warchod Plant a lywiodd y newidiadau arfaethedig i'r Safonau.
RhifArgymhelliadYmateb
15Dylai AGC ystyried cyflwyno mwy o hyblygrwydd o ran y ffordd y gall gwarchodwyr plant ddefnyddio cymarebau staffio’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn ystod cyfnodau byr o’r dydd er mwyn galluogi gwarchodwyr plant i ddiwallu'r galw am ofal plant y tu allan i oriau ysgol cyn ac ar ôl ysgol yn ogystal â gofal cofleidiol sy’n gorgyffwrdd yn ystod amser cinio.Y diwygiadau arfaethedig diweddaraf wedi'u cynnwys mewn ymgynghoriad