Adeiladu diwylliant ar gyfer cyd-gynhyrchu - Pennod 6. Gofalu am ein hunain ac am eraill
Llawlyfr y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y pum llwybr llesiant
Cynllun tri phwynt
I gynnig arweiniad, gwneud polisïau da a chyflawni’n effeithiol, mae angen inni fod y gorau y gallwn. Mae edrych ar ôl ein llesiant ein hunain a llesiant pobl eraill yn gwneud hyn yn bosibl. Bod yn iach yw’r allwedd i lwyddiant.
Dyma’n cynllun tri phwynt…
- Gwnewch y pethau bychain...
bwytwch yn dda, byddwch yn egnïol, byddwch yn greadigol, ymlaciwch a chysgwch yn dda… - Defnyddiwch y pum llwybr llesiant yn eich bywyd personol…
- Defnyddiwch y 5 llwybr llesiant yn eich gwaith...
Yn ein bywyd personol
Ymgysylltwch…Gyda’r bobl o’ch cwmpas. Gyda theulu, ffrindiau, cydweithwyr a chymdogion. Yn y cartref, gwaith, ysgol neu yn eich cymuned leol. Meddyliwch am y rhain fel conglfeini eich bywyd a buddsoddwch amser yn eu datblygu. Bydd adeiladu’r cysylltiadau yma yn eich cefnogi a’ch cyfoethogi bob dydd.
Byddwch yn egnïol...Ewch am dro neu rhedwch. Ewch allan. Seiclwch. Chwaraewch gêm. Garddiwch. Dawnsiwch. Mae ymarfer corff yn gwneud i chi deimlo'n dda. Yn bwysicaf oll, darganfyddwch weithgaredd corfforol rydych yn ei fwynhau ac sy'n addas i'ch lefel o symudedd a ffitrwydd.
Cymerwch sylw... Byddwch yn chwilfrydig. Cymerwch gip ar yr hyn sy’n hardd. Sylwch ar yr anarferol. Sylwch ar y newid yn y tymhorau. Sefwch yn y foment, p'un ai ydych yn cerdded i'r gwaith, yn bwyta cinio neu'n siarad â ffrindiau. Byddwch yn ymwybodol o'r byd o'ch cwmpas a'r hyn rydych yn ei deimlo. Bydd myfyrio ar eich profiadau yn eich helpu i werthfawrogi'r hyn sy'n bwysig i chi.
Daliwch ati i ddysgu... Rhowch gynnig ar rywbeth newydd. Atgyfodwch hen hobi. Cofrestrwch ar gwrs. Ymgymerwch â chyfrifoldeb gwahanol yn y gwaith. Trwsiwch feic. Dysgwch chwarae offeryn neu sut i goginio eich hoff fwyd. Gosodwch her y byddwch yn mwynhau ei chyflawni. Bydd dysgu pethau newydd yn eich gwneud yn fwy hyderus a bydd yn hwyl hefyd.
Rhowch... Gwnewch rywbeth neis i ffrind, neu ddieithryn. Diolchwch i rywun. Gwenwch. Gwirfoddolwch eich amser. Ymunwch â grŵp cymunedol. Edrychwch allan, yn ogystal â mewn. Gall gweld eich hun, a'ch hapusrwydd, mewn cysylltiad â'r gymuned ehangach, fod yn werth chweil ac mae’n creu cysylltiadau â'r bobl o'ch cwmpas.
Yn ein gwaith
Ymgysylltwch... Sut mae eich gwaith yn ymwneud â phobl eraill? Sut gallwch chi feithrin a chryfhau perthynas? Sut gallwch chi wneud cysylltiadau sy'n helpu natur ac yn cefnogi ac yn cyfoethogi bywydau pobl? Trïwch ddefnyddio sgwrs gychwynnol.
Byddwch yn egnïol... Sut gallai eich gwaith chi elwa o symud? A allwch chi adeiladu cyfarfod cerdded i mewn i'ch diwrnod? Sut y gallech chi weithio i annog eraill i fod yn egnïol gyda'i gilydd?
Cymerwch sylw... Byddwch yn chwilfrydig. Beth sy'n hardd am eich gwaith? Beth sy'n digwydd yn y byd o'ch cwmpas a beth ydych chi'n ei deimlo? Bydd myfyrio ar eich profiadau yn eich helpu i wella'r hyn a wnewch.
Daliwch ati i ddysgu... Rhowch gynnig ar rywbeth newydd. Ymgymrwch â chyfrifoldeb newydd neu edrychwch ar eich gwaith o berspectif newydd. Cymrwch risg wedi'i reoli. Arbrofwch.
Rhowch... Sut gallai eich gwaith chi ddefnyddio amser gwirfoddolwyr, bancio amser neu gydgynhyrchu? Beth allech chi ei gyfrannu a allai ysgogi pobl eraill i ymuno? Ydych chi wedi ceisio cynnig neu ofyn?
Sut alla i fod y cynghreiriad gorau posibl?
Mae pobl yn aml yn gofyn "sut alla i fod yn gynghreiriad i'r gymuned draws/du/teithwyr?" Mae bod yn gynghreiriad i unrhyw grŵp ymylol ar ei fwyaf effeithiol pan fydd eich gweithredoedd yn canolbwyntio ar egwyddorion allweddol sy'n cydnabod y cysylltiadau rhwng ymyleiddio a lle mae'r pŵer. Mae'r egwyddorion hyn ymhell o fod yn unigryw ac yn cael eu mynegi gan lawer o grwpiau a ymyleiddiwyd.
Egwyddorion cyffredinol
Peidiwch â cheisio bod yn berffaith. Anelwch at ddysgu neu ddeall rhywbeth newydd.
Siaradwch yn bwyllog a pharchus o'r galon, siaradwch â'r person a ymyleiddiwyd yn gyntaf (i gydnabod eu profiad) ac yna â'r person sydd â phŵer (i ddangos eich dealltwriaeth ac i ennyn dysgu).
Os nad oes unrhyw berson a ymyleiddiwyd yn bresennol, cymerwch yr awenau wrth ymateb i'r digwyddiad.
Os yw rhywun wedi derbyn sylw amhriodol yn uniongyrchol, cefnogwch nhw i arwain.
Eich gweithredoedd gyda'r gymuned rydych chi'n ei chefnogi
- Gwrandewch gyda’r bwriad o ddeall - mae her a dadl yn fwy priodol gyda'r rhai sydd â phŵer, nid gyda'r di-rym
- Dysgwch a gwnewch eich ymchwil eich hun - eich cyfrifoldeb chi yw eich addysg, nid y gymuned
- Ymgysylltwch â'r gymuned rydych chi’n ymgynghreirio â hi - dylai eich dealltwriaeth a'ch dysgu ganolbwyntio ar y gymuned ond byddwch hefyd yn darganfod pethau amdanoch chi'ch hun
- Gofynnwch sut i helpu - fel arall efallai y byddech yn eiriol dros eich anghenion chi, nid anghenion y gymuned
Eich gweithredoedd gyda'r rhai y tu allan i'r gymuned rydych chi'n ei chefnogi
- Byddwch yn gynghreiriad pan does neb yn gwylio a phan fydd yn anghyfleus - nid yw bod yn gynghreiriad yn ymwneud â gwobrau
- Deallwch ond peidiwch ag amddiffyn bwriadau pobl eraill - dylai'r rhai heb bŵer dderbyn cydnabyddiaeth o’u triniaeth wael yn gyntaf: dylid cydnabod yr effeithiau cyn archwilio’r achosion
- Defnyddiwch eich breintiau i eirioli dros y rhai sydd heb freintiau - pan fydd cymuned yn cael ei gwahanu oddi wrth y cyfan, yn cael ei dad-ddyneiddio a'i haralleiddio, gweithiwch i gysylltu pobl gyda'i gilydd
- Rhowch hwb i leisiau'r rhai sydd heb gynrychiolaeth a brwydrwch drostynt iddynt gael eu clywed - lle nad yw'r gymuned yn cael ei chynrychioli, siaradwch yn gyntaf am eu hawl i gynrychiolaeth a dim ond wedyn eirioli o'r hyn rydych wedi'i ofyn a'i ddysgu.
- Dylid creu pontydd o ddealltwriaeth rhwng pobl – gan arsylwi ar yr hyn sydd gan bobl yn gyffredin gan ddefnyddio hyn mewn ffordd ddiplomyddol
Rhywbeth i gnoi cul...
- Y model cymdeithasol – Sut gallwn ni gymhwyso'r model cymdeithasol i bopeth rydyn ni'n ei wneud?
- Croestoriadedd – Sut gallwn ni ddatblygu llais ar y cyd ar draws pob gormes?
- Ymwybyddiaeth ofalgar – Sut gallwn ni sylwi, a gweithio'n weithredol gyda'n rhagfarnau?
Sut alla i fod yn garedig i’r rhai hynny sydd ddim yn garedig i mi?
Peidiwch ag ystyried eich dyddiau gwael fel arwydd o wendid.
Dyna’r dyddiau rydych yn ymladd galetaf.
Gyda charedigrwydd, gall dyddiau drwg ddod yn gyfle ichi ddysgu fwyaf…
Anon
Pwy sy’n garedig?
Mae angen i bobl deimlo’n ddiogel i fod yn garedig.
Pan fyddwn yn talu sylw, mae pob un ohonom yn garedig.
Pan fyddwn ar ein gorau rydyn ni’n ei chael yn haws i fod yn garedig i ystod ehangach o bobl.
Mae pob un ohonom yn ei chael yn anodd i fod yn garedig ar adegau.
Mae caredigrwydd yn gyfrifoldeb
Wedi holi ein hunain ar gyfer bwy mae caredigrwydd, daethom i’r casgliad ei fod
yn gyfrifoldeb sydd gennym i gyd, yn hytrach nag yn hawl sydd gennym
Nid yw caredigrwydd yn rhywbeth y gallwn neu y dylem ei ddisgwyl gan eraill.
Os ydym yn gwneud hynny, rydym yn ymddwyn mewn ffordd sy’n talu’n ôl am ymddygiad angharedig; ‘Doedd hi ddim yn garedig, felly fydda i ddim yn garedig’.
Mae caredigrwydd yn ddi-amod
Mae angen i garedigrwydd fod yn bolisi personol, ymddygiad arferol, heb ddibynnu ar sut y mae eraill yn ymddwyn, gan gynnwys ni ein hunain.
Gall garedigrwydd fod yn bolisi cyhoeddus hefyd.
Ni all bolisïau caredig fod yn amodol ar bobl yn ymddwyn mewn ffordd benodol.
Ar hyn o bryd mae nifer o’n polisïau yn amodol ar ymddygiad ‘da’.
Beth fyddai’n ei olygu i lunio polisïau gwirioneddol garedig?
Pwy sy’n angharedig?
Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn ceisio brifo eraill. Nid ydynt yn bwriadu bod yn angharedig.
Nid yw pobl sydd â barn wahanol o angenrheidrwydd yn bobl ofnadwy.
Efallai nad yw rhai pobl wedi ymddangos yn garedig am beth amser:
Pa brofiadau mae nhw’n eu cael sy’n gwneud iddynt deimlo mor angharedig?
Weithiau mae pobl oedd yn ymddangos yn garedig yn sydyn yn ymddwyn mewn ffordd angharedig.
Beth ddigwyddodd? Sut allwn ni helpu iddyn nhw ail-ddarganfod eu caredigrwydd?
Rydyn ni angen ffiniau i deimlo’n ddiogel: Sut allwn ni greu ffiniau caredig?
Pan fyddwn yn cyrraedd y gwaelod, weithiau rydyn ni’n gwneud y penderfyniad i fod yn garedig i ni ein hunain. Mae hwn yn benderfyniad da.
Byddwch yn garedig i chi eich hun er mwyn bod yn garedig i eraill
Os wna i edrych ar ôl fy hun yna (weithiau) dwi’n ddigon cryf i edrych ar dy ôl di hefyd.
Os wna i faddau i eraill, yna mi alla i anghofio am y peth – efallai na fyddwn yn cyfarfod fyth eto ond mae hynny yn iawn
Os gallwn faddau i’n gilydd a ni ein hunain, yna mae’n bosibl y gallwn oresgyn ein anhawsterau neu wahaniaethau ac mae’n bosibl y bydd ein perthynas yn gryfach.
Wrth inni ddatblygu y sgiliau i fod yn garedig i ni ein hunain, gallwn eu defnyddio i ymateb yn fwy caredig i eraill.
Wrth inni ddatblygu sgiliau o fod yn garedig i eraill, gallwn eu defnyddio i fod yn garedig i ni ein hunain.
(Gallwch ddechrau naill ben i’r broses wych hon!)
Pa mor garedig ydyn ni?
Y prif gwestiynau i holi eich hunan:
- Ble ydych chi wedi sylwi ar garedigrwydd gan eraill?
- Sut ydych chi wedi bod yn dangos caredigrwydd i eraill?
- Sut ydych chi’n bod yn garedig i chi eich hun?
- Sut mae eich maes polisi (neu faes arall o gyfrifoldeb) yn adlewrychu caredigrwydd?
Gair i gall / medr yw caredigrwydd
Gweler: Fframwaith cymhwysedd sylfaenol ar gyfer arweinyddiaeth
"Dwi wedi dysgu y bydd pobl yn anghofio yr hyn ddywedwyd gennych, anghofio beth wnaethoch, ond fydd pobl fyth yn anghofio sut wnaethoch iddyn nhw deimlo.”
Maya Angelou
“Dewrder yw’r rhinwedd pwysicaf, heb ddewrder, allwch chi ddim ymarfer unrhyw un o’r rhinweddau eraill yn gyson.”
Maya Angelou
Dychmygwch bod yn esgidiau person angharedig a gweld o’u safbwynt hwy eu bod yn garedig, ac mai chi sy’n bod yn angharedig. Efallai edrych ar Byron Katie – “The Work”.
Teimlo'n bryderus?
Mae AnxietyUK yn awgrymu ymarfer y dechneg "Apple" i ddelio â phryder a gofid (yn Saesneg, Acknowledge, Pause, Pullback, Let go, Explore).
- Cydnabod: sylwi a chydnabod yr ansicrwydd wrth iddo ddod i'r meddwl.
- Saib: Peidiwch ag ymateb fel y gwnewch fel arfer. Peidiwch ymateb o gwbl. Arhoswch ac anadlwch.
- Tynnu’n ôl: dywedwch wrthych eich hun mai dim ond y pryder yw hyn, ac nid yw'r angen amlwg hwn am sicrwydd yn ddefnyddiol nac yn angenrheidiol. Dim ond syniad neu'n deimlad ydyw. Peidiwch â chredu popeth a feddyliwch. Nid datganiadau na ffeithiau yw meddyliau.
- Gadewch fynd: Gadewch i'r meddyliau neu'r teimlad fynd. Byddant yn pasio. Does dim rhaid i chi ymateb iddyn nhw. Efallai y byddwch yn dychmygu eu bod yn arnofio i ffwrdd mewn swigen neu gwmwl.
- Archwiliwch: Archwiliwch y foment bresennol, oherwydd ar hyn o bryd, yn y foment hon, mae popeth yn iawn. Sylwch ar eich anadlu a theimlad eich anadlu. Sylwch ar y ddaear sydd oddi tano. Edrychwch o gwmpas a sylwch ar beth rydych chi'n ei weld, beth rydych chi'n ei glywed, beth allwch chi ei gyffwrdd, beth allwch chi ei arogli. Yn yr eiliad honno. Yna symudwch eich ffocws o sylwi at rywbeth arall - ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud, ar yr hyn yr oeddech yn ei wneud cyn i chi sylwi ar y pryder, neu wneud rhywbeth arall – gan roi’ch sylw yn llawn.
Manylion pellach
Yn cyffredin
Am wybodaeth benodol yn ymwneud â'r firws COVID-19
Mind: Coronavirus and your wellbeing
Am wybodaeth benodol am yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth
Beth yw cywilydd a beth allwn ni ei wneud amdano?
Mae y fath beth â chywilydd iach
Mae cywilydd iach yn ein galw i fod yn effro i'r ffyrdd rydyn ni’n byw o safleoedd ffug o fod uwchlaw rhai neu ryw ddatgysylltiad peryglus.
Fel cwmpawd moesol, gall y math hwn o gywilydd ein harwain a chefnogi newidiadau yn ein hymddygiad i fod yn fwy agored ein calonnau, yn llai rhagfarnllyd ac i herio gwahaniaethu neu orthrwm yn fwy.
Os ydym yn anwybyddu neu'n gwadu cywilydd iach, rydym mewn perygl o aros ar wahân, yn gaeedig ac wedi’n datgysylltu.
Mae yna hefyd rywbeth o'r enw cywilydd gwenwynig
Mae cywilydd gwenwynig yn cyfeirio at syniadau a theimladau dirdynnol o fod yn ddiwerth, credoau o fod yn ddiffygiol yn gynhenid, ac mae'n cael ei drosglwyddo rhwng pobl yn ymwybodol ac yn anymwybodol fel ffordd o atgyfnerthu dynameg pŵer mewn teuluoedd, cymunedau, diwylliannau a systemau.
Gall beri i ni roi rhannau o’n hunain mewn bocsys, gan gadw rhannau ohonom ein hunain yn breifat, yn gudd ac yn unig, neu i'r gwrthwyneb gall ein gyrru i orwneud pethau, gan brofi ein bod yn wir 'mwy na digon'.
I grynhoi
Yn baradocsaidd, fyddwn ni ddim yn gallu gwrando ar alwad ein cywilydd iach, oni bai ein bod yn barod i wynebu gwenwyn y negeseuon cywilydd gwenwynig yr ydym wedi'u llyncu. Oni bai ein bod yn gwrando ac yn ymateb i'n cywilydd iach, byddwn yn parhau gyda’r ddeinameg pŵer anymwybodol, yn cam-ddefnyddio ein braint ac yn parhau'n anwybodus ynghylch sut i ymateb i'r hyn sy'n wirioneddol bwysig. Dyma'r cwestiwn felly;
Sut gallwn ni groesawu cywilydd iach yn ofalus a gofyn: Beth yw eich neges?
Casgliadau
Gall aduno â rhannau ohonom sydd wedi'u cuddio’n ddiogel oherwydd cywilydd fod yn debyg i ddod o hyd i gariadon coll gan mai ein rhannau mwyaf gwerthfawr sydd wedi’u cuddio fel ein sensitifrwydd neu ein pŵer.
I lawer ohonom bydd adegau pan fydd y stormydd cywilydd yn rhy llethol i'w prosesu ar ein pennau ein hunain. Nid yw hyn yn arwydd o wendid, mae'n fwy o arwydd o raddfa'r hyn y gofynnwyd i chi ei gario yng ngwraidd eich bod. Gall cael therapydd neu ffrind da iawn i gerdded ochr yn ochr â chi wrth i chi wneud y gwaith hwn fod yn hynod gefnogol i'r broses o ddatgymalu eich hun o grafangau cywilydd.
Gofalwch amdanoch eich hun ac eraill trwy wneud y pethau bychain.
Mae Tara Brach yn disgrifio proses pedwar cam ar gyfer ymateb i gywilydd, gweler RAIN gan Tara Brach.
Beth yw 'eistedd gyda' a sut alla i ei wneud?
Cyd-destun pwysig
Mae eistedd gyda'n profiadau yn ddull sydd wedi'i wreiddio mewn caredigrwydd, chwilfrydedd ac amynedd ar gyfer ymdrin â'n meddyliau, ein teimladau a'n synhwyrau.
Nid 'eistedd gyda' yw'r peth iawn i'w wneud bob amser. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis yr amser a'r lle iawn, eich bod yn teimlo'n barod ac yn gallu bod yn ofalgar tuag at eich hunan. Os nad yw'n teimlo'n iawn, rhowch gynnig ar rywbeth arall. (I gael syniadau, gwyliwch y clipiau fideo isod.)
Mae 'eistedd gyda' yn canolbwyntio ar fod yn bresennol yn ein proses yn hytrach nag ar geisio newid neu drwsio rhywbeth. Mae'n gofyn inni ddod yn agosach atom ein hunain, rhoi pethau sy'n tynnu sylw o'r neilltu ac annog y gallu i oddef mwy o anghysur ac ansicrwydd.
Mae rhai yn teimlo bod canolbwyntio ar eu hanadl yn ddefnyddiol. Mae Joanna Macy yn siarad am 'anadlu drwy' er mwyn helpu i fod yn bresennol gydag emosiynau neu sefyllfaoedd anodd.
Mae rhai yn teimlo bod cysylltu eu traed ar y ddaear yn ddefnyddiol, gan synhwyro'r coesau, y breichiau neu'r bol.
Beth sy'n eich helpu chi i ddal eich emosiynau anodd neu eistedd gyda nhw?
Bydd yr amser y mae'n ei gymryd i feithrin y gallu hwn yn dibynnu ar ein lefelau straen a'r modd y mae profiadau bywyd rydyn ni wedi'u hwynebu eisoes wedi effeithio arnom ni.
Mae meithrin y gallu i 'Eistedd Gyda' yn arfer bywyd parhaus. Cymerwch eich amser. Byddwch yn garedig.
Ymarfer 'eistedd gyda'
Ymrwymwch i roi cynnig arni dros gyfnod o amser.
I ddechrau, byddwch yn sylwi ar yr holl ffyrdd y byddwch chi'n gwneud unrhyw beth heblaw am 'eistedd gyda'. Efallai y bydd hyn yn gwneud ichi deimlo'n rhwystredig ond mae datblygu'r ymwybyddiaeth hon yn gam pwysig iawn.
Dewiswch rywbeth penodol i eistedd gyda ~ teimlad corfforol, emosiwn, ffordd o feddwl, naratif y meddwl.
Chwaraewch gyda'r cwestiwn ~ 'sut beth yw hyn?' a gweld a yw'n bosibl profi'r profiad yn onest ~ gan wybod, yn y pen draw, er eich bod efallai eisiau teimlo'n wahanol, na all yr arbrawf hwn fynd o'i le.
Rhowch gynnig ar reol 5 neu 10 munud ~ arhoswch yn bresennol ac yn chwilfrydig i'r hyn rydych chi wedi dewis canolbwyntio arno am 5 neu 10 munud. Os ydych chi'n gallu aros am gyfnod hirach ar ôl y cyfnod hwn, estynnwch eich amser 'eistedd gyda'. Os na, yna mae'n bryd ichi wneud rhywbeth gwahanol.
Gall cofnodi eich profiad fod yn ddefnyddiol, neu ei rannu â chyfaill dibynadwy.
Canllawiau
Peidiwch â dawnsio gydag emosiynau anodd ar eich pen eich hun; gofynnwch am gymorth natur, tasgau bach, creadigrwydd neu ffrind dibynadwy.
Bod yn garedig tuag at eich hunan ym mha bynnag ffordd y gallwch chi. Rydych chi'n cael eich cefnogi ac rydych chi'n ddigon.
Cymryd seibiannau i wneud tasgau bach, symud eich corff (er enghraifft tynnu lluniau neu gerdded) a bod ym myd natur.
Mynegi - disgrifiwch i wrandäwr da neu gyfaill diogel yr hyn rydych chi'n sylwi arno neu'n ei deimlo. (Gofynnwch i'ch cyfaill wrando heb ymyrryd a'i wahodd i wneud yr un fath).
Rhagor o wybodaeth
Setlo yn ôl i fod yn chi eich hun
Cyfres o 5 recordiad byr o dan arweiniad yw Settling Back into Yourself er mwyn eich helpu i ddod yn agosach at eich profiad. Os ydych chi'n newydd i'r arfer o Eistedd Gyda, gallai'r recordiadau hyn fod yn ddefnyddiol i adeiladu sylfaen i ymarfer oddi arni. Mae'r recordiadau yn eich tywys chi drwy'r camau a ganlyn:
- Oedi
- Sylwi
- Profi
- Setlo
- Dyfnhau
Gallwch gael gafael arnyn nhw yn rhad ac am ddim gan Jenny Rose Smith.
Bod y fersiwn orau ohonoch chi eich hun
Pan fo straen da yn troi'n ofid
Pam mae amser adfer mor bwysig
Gosod nodau mewn amgylcheddau heriol
Gweithio drwy ofn
Beth sy'n digwydd i'ch corff a'ch meddwl pan fyddwch chi'n ofnus...a sut i ymdopi
Gweithio gyda'n hymateb i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol
Beth sy'n ein helpu ni i ffynnu yn ystod y cyfnod heriol hwn?
Wrth i chi ddarllen, gofynnwch i'ch hun: Pa un o'r rhain sy'n gweithio i chi? Pa un ydych chi'n teimlo fel canolbwyntio arno nesaf? Pa un ydych chi erioed wedi rhoi cynnig arno (eto)?
Beth sy'n ein helpu ni i ffynnu?
- Adeiladu cyfanrwydd i’n cynefin, bod mewn natur
- Sylwi ar ein safle breintiedig – rydym yn hynod wybodus ac wedi'n grymuso i wneud rhywbeth am y peth
- Defnyddio pum llwybr llesiant i atgoffa ein hunain o'r hyn sydd ei angen arnom
- Cymryd rhan mewn arweinyddiaeth naratif a gwrando (gweler mwy isod)
- Bod yn chwilfrydig, ymddiddori yn y system rydyn ni ynddi
- Sylwi a chydnabod sut mae pethau mewn gwirionedd
- Mynd ati i geisio deall profiadau pobl eraill
- Dysgu pethau newydd a deall pethau o safbwyntiau newydd
- Deall pam mae ein sefyllfa mor anodd, pam nad yw bodau dynol yn syml, yn gwneud pethau’n iawn
- Bod ag ymreolaeth, yn unigol ac ar y cyd
- Integreiddio agweddau o'n bod, ac nid eu cadw ar wahân
- Pŵer cysylltiad – casglu tystiolaeth oddi wrth ein gilydd, gyda'n gilydd
- Defnyddio hiwmor i archwilio pethau anodd
- Gwaith tîm – defnyddio ein cryfderau i gynnal ein gilydd
- Profi'r egni rhyngom, gan sbarduno chwilfrydedd yn ein gilydd
- Meithrin ein hyder i fod yn bresennol i'r bobl yn yr ystafell
- Bod yn chwareus a chreadigol yn lle tocenistaidd a thrafodaethol
- Dylunio prosesau syml, rhyngweithiol sy'n ymgorffori'r pum ffordd o weithio
- Ymddiried yn y prosesau hyn a chaniatáu i'r hyn sy'n dod i'r amlwg a’r hyn sy’n annisgwyl ddod i'r wyneb
- Ceisio ac ailgeisio newid yn seiliedig ar ymarfer
Beth yw arweinyddiaeth naratif?
Yn seiliedig ar destun o Telling the story: the heart and soul of successful leadership gan Geoff Mead.
Mae ein hymdeimlad o hunaniaeth – pwy ydyn ni – yn newid pan fyddwn ni’n newid y straeon rydyn ni'n eu hadrodd amdanom ein hunain
Mae sefydliadau, grwpiau a chymunedau yn newid pan fydd y straeon a'r ddeinameg adrodd straeon (h.y. y prosesau y mae straeon yn cael eu hadrodd a sut mae pobl yn gwneud synnwyr ohonynt) rhwng pobl yn newid.
Mae ein barn a'n profiad o'r byd yn newid wrth i ni gwestiynu'r meta-naratifau cyffredinol a dychmygu posibiliadau newydd.
Mae tair elfen i arweinyddiaeth naratif:
- Adnabod eich hun: Mae adnabod straeon eich bywyd eich hun heb fod yn gaeth iddynt - gan adael fynd ar straeon negyddol sy’n gwneud cam, a dod o hyd i rai cadarnhaol.
- Sefyll dros Rywbeth: Datblygu ac adrodd straeon arweinyddiaeth dilys, cymhellol sy'n seiliedig ar realiti ac sy'n helpu pobl i gysylltu â phwrpas gwerth chweil.
- Dim ond Cysylltu: Meithrin cysylltiadau a chymunedau drwy greu a chynnal llif iach o straeon rhwng pobl a grwpiau amrywiol.
Ymarfer i roi cynnig arno ...
- Eisteddwch o dan goeden neu mewn llecyn awyr agored arall rydych yn hoff ohono.
- Tynnwch lun goeden, unrhyw goeden, digon mawr i ysgrifennu arni ac o’i chwmpas.
Sylwch sut mae gwreiddiau coed yn rhannu maeth gyda gweddill y ddaear. Sylwch ar gryfder a hyblygrwydd y boncyff. Sylwch sut mae'r canopi yn amsugno golau, yn creu ac yn ymateb i egni.
Mae trosiad y goeden yn mynegi'r berthynas rhwng tair elfen arweinyddiaeth naratif:
Gwreiddiau = Adnabod eich Hun
Boncyff = Sefyll dros Rywbeth
Canopi canghennau a dail = Dim ond Cysylltu
- Ychwanegwch ychydig eiriau, dim ond i chi, am y tair elfen hon o'ch stori eich hun.
Does dim angen i chi rannu oni bai eich bod yn dymuno gwneud hynny...
