Cynlluniau addysg personol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal: canllawiau drafft i ymarferwyr
Rydym yn ceisio barn ar ganllawiau anstatudol drafft newydd i awdurdodau lleol ac ysgolion ar lunio, datblygu ac adolygu cynlluniau addysg personol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Rydym yn ceisio barn ar ganllawiau anstatudol newydd drafft i awdurdodau lleol ac ysgolion ar lunio, datblygu ac adolygu cynlluniau addysg personol (CAPau). Bwriedir i'r canllawiau roi cyngor i awdurdodau lleol ar gyflawni eu dyletswydd statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i sicrhau bod gan bob plentyn sy'n derbyn gofal CAP o ansawdd uchel nes y bydd wedi gorffen addysg statudol.
Cyflwyniad
Drwy Cenhadaeth ein cenedl: safonau a dyheadau uchel i bawb, mae Llywodraeth Cymru am i bob plentyn fwynhau dysgu a chael yr addysg orau posibl er mwyn datblygu ac ehangu ei wybodaeth, ei sgiliau a'i brofiad. Bydd hyn yn helpu plant i fod:
- yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau
- yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
- yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy'n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd
- yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo cyflawniad addysgol plant sy'n derbyn gofal.
Mae Cod Ymarfer Rhan 6 (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n Cael eu Lletya) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi cyngor ar ddyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas â chynlluniau gofal a chymorth, gan gynnwys iechyd ac addysg.
Cynllun i blant sy'n derbyn gofal yw cynllun gofal a chymorth Rhan 6. Mae'n dwyn ynghyd wybodaeth allweddol o'r asesiad o anghenion datblygiadol y plentyn ac unrhyw asesiadau eraill o'r plentyn a'i deulu. Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i baratoi cynllun iechyd, Cynllun Addysg Personol (CAP), a chynllun lleoli ar gyfer y plentyn. Dylai'r rhain gael eu cynnwys yng nghynllun gofal a chymorth Rhan 6 cyffredinol y plentyn.
Mae'r CAP yn galluogi plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n eu cefnogi i nodi'r strategaethau gorau i'w helpu i wneud cynnydd o ran eu haddysg, a'u rhoi ar waith. Gan weithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau anstatudol drafft y bwriedir iddynt gefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion i sicrhau bod CAPau yn fwy ystyriol ac effeithiol i blant sy'n derbyn gofal.
Datblygu'r canllawiau ar CAPau
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio ag amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol i lywio'r gwaith o ddatblygu'r canllawiau ar CPAau. Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cynlluniau Addysg Personol o blith unigolion o awdurdodau lleol sydd â rôl strategol i hyrwyddo addysg dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal. Cyfarfu'r grŵp bum gwaith. Rhannodd aelodau'r grŵp eu harbenigedd mewn perthynas â phroses CAP a'r ffordd orau y gall gefnogi'r plentyn i wneud cynnydd wrth ddysgu, ffynnu yn ei leoliad addysg a chyflawni'r deilliannau gorau. Roedd y grŵp gorchwyl a gorffen yn un o is-grwpiau'r Grŵp Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer addysg dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal. Mae'r Grŵp Cyflawni Cenedlaethol yn cynnwys rhanddeiliaid allanol o Estyn, Consortia, awdurdodau lleol a'r trydydd sector sy'n gweithio i hyrwyddo a chefnogi deilliannau addysgol plant â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru. Rhannwyd fersiynau drafft o'r canllawiau â'r Grŵp Cyflawni Cenedlaethol a'r Grŵp Swyddogion Adolygu Annibynnol Cymru gyfan.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymgysylltu â dysgwyr er mwyn canfod yr hyn sy'n bwysig iddynt a'r hyn y dylid ei gynnwys yn y canllawiau hyn. Adlewyrchir eu safbwyntiau drwy'r canllawiau cyfan.
Diben yr ymgynghoriad
Mae'r ymgynghoriad hwn yn croesawu eich barn ar ganllawiau anstatudol newydd drafft i awdurdodau lleol ac ysgolion ar lunio, datblygu ac adolygu cynlluniau addysg personol (CAPau). Nod y canllawiau yw cefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion/lleoliadau i sicrhau bod y broses CAP yn fwy ystyrlon ac effeithiol i blant sy'n derbyn gofal. Maent yn nodi'r cyd-destun i awdurdodau lleol ar gyfer cyflawni eu dyletswydd statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i sicrhau bod gan bob plentyn sy'n derbyn gofal CAP o ansawdd uchel nes y bydd yn gorffen addysg statudol.
Daw'r cyfnod adborth i ben ar 01 Rhagfyr 2025, ac wedi hynny, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr holl ymatebion. Yna, caiff y canllawiau drafft eu mireinio ac, yn unol â chytundeb Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
At bwy mae'r ymgynghoriad hwn wedi'i anelu
Anelir yr ymgynghoriad hwn at bawb sy'n gyfrifol am y CAP yn eu hysgol neu awdurdod lleol neu sy'n cefnogi plant sy'n derbyn gofal neu'n eirioli drostynt.
Mae hyn yn cynnwys y canlynol, ymhlith eraill; y person dynodedig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal mewn ysgolion, penaethiaid, llywodraethwyr; swyddogion awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am blant sy'n derbyn gofal (gan gynnwys Cydgysylltwyr Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal a Phenaethiaid Ysgolion Rhithwir), staff gwasanaethau cymdeithasol, Swyddogion Adolygu Annibynnol, unedau cyfeirio disgyblion, sefydliadau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch; staff mewn sefydliadau y mae eu gwaith yn helpu i gefnogi plant sy'n derbyn gofal.
Rydym hefyd yn awyddus i glywed barn safbwyntiau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac mae fersiwn hawdd ei deall o'r canllawiau wedi'i llunio at y diben hwn.
Cyfnod yr ymgynghoriad
Rydym yn agor yr ymgynghoriad hwn am gyfnod o wyth wythnos. Credwn fod y cyfnod hwn yn ddigonol i ymatebwyr ystyried y canllawiau drafft yn llawn a chyflwyno eu hymatebion.
Ar beth rydym yn ymgynghori
Mae'r canllawiau anstatudol newydd drafft i awdurdodau lleol ac ysgolion yn rhoi cyngor ar y canlynol:
- diben y CAP
- cynnwys y CAP
- nodi llais y dysgwr
- y broses CAP ac amserlenni
- llunio, datblygu ac adolygu CAPau
- pontio i addysg ôl-16
- trefniadau trawsffiniol
- rolau a chyfrifoldebau a ffynonellau cymorth pellach.
Hoffem glywed eich barn am y cynnwys drafft ym mhob adran.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
Ydych chi'n cytuno y bydd y cyngor a roddir yn y canllawiau ar gynlluniau addysg personol (CAPau) yn cefnogi awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau i sicrhau bod y broses gynllun addysg personol (CAP) yn fwy ystyrlon ac effeithiol i blant sy'n derbyn gofal?
Cwestiwn 2
Ydych chi'n cytuno bod y canllawiau yn ymdrin yn ddigonol â phopeth sydd ei angen i gefnogi awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau i sicrhau bod CAPau yn fwy ystyrlon ac effeithiol i blant sy'n derbyn gofal.
Cwestiwn 3
Os ydych yn anghytuno â'r datganiad yng Nghwestiwn 2, beth arall y dylid ei gynnwys yn y canllawiau?
Cwestiwn 4
Ydych chi'n cytuno bod y canllawiau yn rhoi digon o gyngor i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau ar sicrhau bod y broses CAP yn canolbwyntio ar y plentyn?
Cwestiwn 5
A oes unrhyw ffynonellau cymorth neu adnoddau eraill y gallai fod yn ddefnyddiol tynnu sylw atynt yn y canllawiau?
Cwestiwn 6
Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y canllawiau ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Ydych chi'n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
Ydych chi'n meddwl bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?
Cwestiwn 7
Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y canllawiau er mwyn:
- sicrhau effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu
- lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar y defnydd o'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
Defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad i ymateb i'r cwestiynau uchod.
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru a thros unrhyw ddata personol rydych yn eu darparu fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am sut i arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus, hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â hwy neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau yn y dyfodol. Mewn ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o ymatebion i ymgyngoriadau, gall trydydd parti achrededig (er enghraifft sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.
I ddangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu hepgor cyn cyhoeddi.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a'i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw ddata sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch fel arall yn cael eu cadw am ddim mwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl:
- i gael gwybod am y data personol sy’n cael eu cadw amdanoch, ac i gael gweld y data hynny
- i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (mewn amgylchiadau penodol)
- i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn amgylchiadau penodol)
- i gludadwyedd data (mewn amgylchiadau penodol)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: ICO gwefan
