Neidio i'r prif gynnwy

Grant i annog a chefnogi pobl i sefyll mewn etholiad yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pa gyllid sydd ar gael?

Mae £200,000 ar gael y flwyddyn i gefnogi ymgeiswyr sy’n sefyll mewn etholiad yng Nghymru. Ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ddylai gael budd o'r cyllid.

Gwybodaeth am y grant

Mae ein 'Rhaglen Lywodraethu' yn cynnwys y nod o “ddathlu amrywiaeth a cheisio cael gwared ar anghydraddoldeb o bob math”. 

Mae'r grant hwn yn cefnogi ein nod o ddileu’r rhwystrau sy’n atal dinasyddion rhag sefyll mewn etholiad. 

Ein nod yw cyllido amrywiaeth o sefydliadau er mwyn sicrhau bod modd cyrraedd pob grŵp. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau lledaeniad daearyddol. Bydd y panel grantiau yn ystyried gwerth am arian wrth wneud penderfyniadau.

Pwy all ymgeisio am y grant?

  • Sefydliadau o Gymru sydd wedi eu cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau
  • Sefydliadau 'dielw'

Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynnig gweithio mewn partneriaeth a gweithio ar y cyd. Dylai fod un ymgeisydd arweiniol a fydd yn gweithredu fel deiliad y grant a'r rheolwr data.

Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan unrhyw sefydliad sydd â chysylltiadau gwleidyddol. Ni fydd y cynllun yn darparu cyllid yn uniongyrchol i unigolion sy’n ceisio cael eu hethol.

Meini prawf angenrheidiol

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â fforwm trafod Llywodraeth Cymru. Bydd y fforwm yn cyfarfod yn rheolaidd.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cynnig gwerthusiad ar ddiwedd cyfnod y grant.

Sut i ymgeisio

Ymgeisiwch drwy lenwi’r ffurflen gais.

Gallwch gyflwyno gwybodaeth ychwanegol rydych chi'n ei hystyried yn ddefnyddiol i gefnogi eich cais. Gall hyn fod yn gynlluniau prosiect, cynlluniau cyfathrebu, diagramau sefydliadau a pherthnasau.

E-bostiwch eich cais cyflawn at: Etholiadau.Elections@llyw.cymru

Byddwn yn ysgrifennu at Ymgeisydd Arweiniol pob cais i roi gwybod iddynt beth yw’r canlyniad.

Llinell amser a gwybodaeth bellach

Bydd y cyfnod ymgeisio am grant ar agor am bedair wythnos. Rhaid derbyn ceisiadau am gyllid yn ystod y cyfnod ymgeisio. 

Ar ôl cau'r cyfnod ymgeisio, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cwrdd i asesu ceisiadau. Yna bydd sefydliadau'n cael gwybod am y penderfyniad yn ogystal â'r camau nesaf.

Dyddiadau a gwybodaeth allweddol i'w hystyried:

  • 26/09/2025: Agor y cyfnod ymgeisio am grant
  • 24/10/2025: Cau'r cyfnod ymgeisio am grant
  • 10/11/2025: Ceisiadau’n cael eu hasesu gan swyddogion