Neidio i'r prif gynnwy

Y nod ar gyfer Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Awdur: Melanie Brown

Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang: Gwlad sydd, wrth wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud rhywbeth o’r fath wneud cyfraniad cadarnhaol at lesiant byd-eang. Mae’r nod hwn yn cydnabod, mewn byd rhyng-gysylltiedig, gall yr hyn rydym yn ei wneud i sicrhau bod Cymru’n genedl gynaliadwy gael effeithiau cadarnhaol y tu allan i Gymru.

Cynnydd tuag at y nod

Mae rhywfaint o gynnydd yn dal i gael ei wneud tuag at nod Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda data wedi'i ddiweddaru yn dangos gostyngiadau pellach mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae carreg filltir genedlaethol ar gyfer nwyon tŷ gwydr, sef y bydd Cymru yn cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050. Yn 2023, amcangyfrifwyd bod allyriadau nwyon tŷ gwydr a ryddhawyd i’r atmosffer yn uniongyrchol o Gymru yn dod i gyfanswm o 34.1 miliwn o dunelli o garbon deuocsid cyfatebol (MtCO2e), gostyngiad o 6% ers 2022, a gostyngiad o 38% ers y flwyddyn sylfaen. Y blynyddoedd sylfaen ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU yw 1990 ar gyfer carbon deuocsid, methan ac ocsid nitraidd, a 1995 ar gyfer nwyon wedi'u fflworeiddio. Amcangyfrifwyd bod yr allyriadau sy’n gysylltiedig â nwyddau a gwasanaethau a ddefnyddir gan aelwydydd yng Nghymru yn 25.0 MtCO2e yn 2020, 37% o ostyngiad o 2001.    

Mae yna hefyd garreg filltir genedlaethol sy'n ymwneud ag ôl troed byd-eang, sef mai dim ond cyfran deg o adnoddau’r ddaear y bydd Cymru yn ei defnyddio erbyn 2050. Mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn dangos, er bod yr ôl troed byd-eang y pen yng Nghymru wedi gostwng bron i draean rhwng 2004 a 2018, ei fod dal dros ddwywaith yr amcangyfrif o'r biogapasiti yng Nghymru. Pe bai holl boblogaeth y byd yn byw fel dinasyddion Cymru, byddai angen tir cyfwerth â 2.08 Daear ar ddynoliaeth.

Ym mlwyddyn academaidd  2024 i 25, roedd 20,248 o ymgeiswyr ar gyfer yr Her Dinasyddiaeth Fyd-eang yng Nghyfnod Allweddol 4. Cafwyd 13,550 o geisiadau ar gyfer y prosiect cymuned fyd-eang uwch newydd.

Cyd-destun Byd-eang, Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig

Ar 1 Ionawr 2016, dechreuodd y byd roi Agenda Datblygu Cynaliadwy 2030 ar waith, sef y cynllun gweithredu trawsnewidiol sy’n seiliedig ar 17 Nod Datblygu Cynaliadwy i fynd i’r afael â heriau mawr y byd dros y 15 mlynedd nesaf. Mae’r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn pwysleisio agenda gyffredinol sy’n mynnu bod holl aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig - y rhai cyfoethog a rhai tlawd fel ei gilydd – yn cymryd camau i gefnogi datblygu cynaliadwy.

Mae llawer o ffactorau sy’n pennu a yw Cymru’n dod yn wlad sy’n fwy cyfrifol ar lefel fyd-eang.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gyda’i nodau llesiant penodol i Gymru, yn darparu fframwaith ar gyfer cyfraniad Cymru at gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Ar y cyfan, mae’r 6 adroddiad naratif arall, drwy eu hasesiad o’n cynnydd tuag at y nodau llesiant cenedlaethol, yn dangos ein cyfraniad cyffredinol fel cenedl at yr agenda datblygu cynaliadwy ryngwladol. Er enghraifft, rydym yn adrodd mewn mannau eraill ar dueddiadau fel tlodi, anghydraddoldebau a gwaith teg. Felly, mae’r naratif hwn ar y nod Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang yn canolbwyntio ar feysydd sydd fwyaf perthnasol i’r agenda fyd-eang yn benodol.

Mae’r 50 o ddangosyddion cenedlaethol ar gyfer Cymru hefyd wedi cael eu mapio at ddibenion dangosol yn erbyn y 17 Nod Datblygu Cynaliadwy i’ch helpu chi i lywio rhwng cynnydd yma yng Nghymru a’r berthynas â phob un o’r Nodau Datblygu Cynaliadwy.

Dangosyddion Cenedlaethol: mapio i’r Nodau Llesiant a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (offeryn rhyngweithiol)

Er bod rhywfaint o’r naratif yn seiliedig ar ddangosyddion cenedlaethol ac ystadegau swyddogol, mae rhywfaint o’r data a gyflwynir yn yr adran hon yn gyd-destunol ac yn defnyddio data neu ddatganiadau ffeithiol sy’n ymwneud â pholisïau neu raglenni, lle rydym wedi ystyried ei fod yn berthnasol i’r naratif cyffredinol. Nid yw’r data hyn yn cael eu casglu drwy ffynonellau ystadegau swyddogol, ac er eu bod yn cael eu cynnwys yma ar gyfer cyd-destun, ni allwn ddarparu sicrwydd llawn ynghylch ansawdd data. Fodd bynnag, lle bo’n bosibl, mae rhagor o wybodaeth am y data ar gael yn adroddiad ansawdd Llesiant Cymru.

Newid yn yr hinsawdd

Nod 13 o Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yw “gweithredu ar frys i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a’i effeithiau”.

Mae pobl yng Nghymru yn poeni am newid yn yr hinsawdd.

Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023 yn dangos bod y mwyafrif helaeth (97%) o bobl Cymru o'r farn bod hinsawdd y byd yn newid. Yn 2022 i 2023, roedd 74% o oedolion yn eithaf pryderus neu’n bryderus iawn am newid yn yr hinsawdd, sef canlyniad tebyg i 2021 i 2022 (76%) ac yn 2020 i 2021 (76%).

Yn 2022 i 2023, roedd 56% o bobl o’r farn bod newid yn yr hinsawdd yn ganlyniad i weithgarwch dynol yn bennaf neu’n gyfan gwbl. Mae 94% yn meddwl bod gweithgarwch dynol yn gysylltiedig i ryw raddau â newid hinsawdd y byd.

Nwyon tŷ gwydr

Mae carreg filltir genedlaethol ar gyfer nwyon tŷ gwydr, sef y bydd Cymru yn cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050. 

Yn 2023, amcangyfrifwyd bod cyfanswm yr allyriadau a ryddhawyd i’r atmosffer yn uniongyrchol o Gymru (a elwir yn allyriadau gwladol) yn cyfateb i 34.1 miliwn o dunelli o garbon deuocsid (MtCO2e). Mae hyn yn ostyngiad o 6% ers 2022. Mae'r gostyngiad rhwng 2022 a 2023 yn parhau â thuedd ddiweddar o ostyngiadau mwy sylweddol, gyda gostyngiad cyffredinol o 29% rhwng 2016 a 2023. 

Cyfrannodd tri phrif sector at ostyngiad y flwyddyn ddiwethaf.

  1. Cyflenwad ynni: Mae amrywiad o ran gweithgarwch mewn gorsafoedd ynni wedi cael effaith nodedig ar allyriadau yn y sector hwn. Gostyngodd allyriadau o orsafoedd ynni 29% rhwng 2022 a 2023, yn dilyn cynnydd o 42% rhwng 2020 a 2022.
  2. Trafnidiaeth ddomestig: Gostyngodd allyriadau o'r sector hwn 2% rhwng 2022 a 2023, er gwaethaf cynnydd cyffredinol ers codi cyfyngiadau teithio COVID-19 yn 2020.
  3. Adeiladau preswyl: Gostyngodd allyriadau 6% rhwng 2022 a 2023, gan barhau â gostyngiad a welwyd ers 2021.

Ffigur 7.1: amcangyfrif o allyriadau gwladol Cymru o nwyon tŷ gwydr (Mt CO2e), 1990 i 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 7.1: mae'r siart linell yn dangos cyfaint yr allyriadau nwyon tŷ gwydr (megatunnell) yng Nghymru rhwng 1990 a 2023. Mae allyriadau yng Nghymru wedi gostwng 38% ers y flwyddyn sylfaen. Gostyngodd allyriadau 6% rhwng 2022 a 2023.

Ffynhonnell: Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol

[Nodyn 1]: mae’r ffigurau a gyhoeddwyd yn flaenorol wedi cael eu diwygio a’u marcio â (r)

Bu gostyngiad o 38% ers allyriadau’r flwyddyn sylfaen. Mae’r duedd hirdymor i leihau allyriadau ers y flwyddyn sylfaen yn bennaf oherwydd arbedion effeithlonrwydd cynhyrchu ynni a gwresogi’r sector busnes (adeiladau ac ar gyfer prosesau), defnyddio nwy naturiol yn lle glo a rhai tanwyddau eraill yn ogystal â lleihad mewn rhai diwydiannau cemegol, gostyngiadau mewn allyriadau o reoli gwastraff anerobig ac amrywiadau mewn allbwn gweithgynhyrchu (er enghraifft mewn haearn a dur, cynhyrchu cemegion). 

Y sector a oedd yn gyfrifol am yr allyriadau mwyaf oedd diwydiant, a oedd yn cynhyrchu 31% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru. Mae hylosgi tanwydd yn y broses cynhyrchu haearn a dur yn cael lle blaenllaw yn y sector hwn, fel ffwrneisiau chwyth, cynhyrchu golosg, ffaglu a chynhyrchu sinter. 

Y sector trafnidiaeth ddomestig yw’r ail sector mwyaf sy’n cyfrif am bron i 17% o allyriadau Cymru. Dilynir hyn gan y sector amaethyddiaeth (15%), y sector cyflenwi trydan (15%), y sector adeiladau a defnyddio cynnyrch (11%), y sector cyflenwi tanwydd (10%), gyda sectorau eraill yn gwneud cyfraniadau llai o 3% neu lai. 

Mae’r ffigurau hyn ar allyriadau nwyon tŷ gwydr gwladol yn ystyried allyriadau yng Nghymru yn unig. Nid yw hyn yn cynnwys allyriadau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu nwyddau a gwasanaethau y tu allan i Gymru hyd yn oed os yw’r rhain yn cael eu mewnforio i Gymru. Yn yr un modd, mae allyriadau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu nwyddau a gwasanaethau yng Nghymru yn cael eu cyfrif fel allyriadau Cymru hyd yn oed os yw’r rhain yn cael eu hallforio i’w defnyddio mewn mannau eraill.

Allyriadau nwyon tŷ gwydr a briodolir i ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau byd-eang yng Nghymru

Amcangyfrifir allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â nwyddau a gwasanaethau a ddefnyddir gan aelwydydd yng Nghymru (a elwir yn allyriadau sy’n seiliedig ar ddefnydd neu ôl troed carbon). 

Cafodd yr amcangyfrifon hyn eu cynhyrchu ddiwethaf yn 2023, ac maent yn cynnwys data hyd at 2020. Mae esboniad llawnach ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru y llynedd

Y llynedd, fe wnaethom adrodd bod allyriadau sy'n gysylltiedig â nwyddau a gwasanaethau a ddefnyddir gan aelwydydd yng Nghymru, a elwir yn allyriadau defnydd, wedi gostwng o 40.0 MtCO₂e yn 2001 i 25.0 MtCO₂e yn 2020. Daeth y rhan fwyaf o'r allyriadau hyn o nwyddau a gwasanaethau wedi'u mewnforio. Mae'r amcangyfrifon hyn yn ansicr, yn enwedig ar gyfer mewnforion, felly mae tueddiadau hirdymor yn fwy dibynadwy na newidiadau o flwyddyn i flwyddyn.

Ffigur 7.2: amcangyfrif o ôl troed allyriadau defnydd Cymru (Mt CO2e), 2001 i 2020

Image

Disgrifiad o ffigur 7.2: mae’r siart linell yn dangos bod cyfaint yr allyriadau defnydd amcangyfrifedig (megatunelli) yng Nghymru yn dangos tuedd gyffredinol ar i lawr ers 2001. Rhwng 2001 a 2020, mae ôl troed allyriadau defnydd amcangyfrifedig Cymru wedi gostwng 37%, o 40 Mt CO2e i 25 Mt CO2e.

Ffynhonnell: Ôl Troed Allyriadau Defnydd, Cymru, 2001 i 2020 (Mt CO2e), amcangyfrif o allyriadau ar sail defnydd, Prifysgol Leeds.

Dulliau teithio

Mae rhai mathau o deithio, gan gynnwys traffig ffyrdd, yn cyfrannu’n sylweddol at allyriadau carbon. Nid oes tystiolaeth o symud oddi wrth geir fel y prif ddull o deithio yng Nghymru.

Cafodd dangosydd cenedlaethol ar ganran y siwrneiau sy'n cael eu gwneud ar droed, ar gefn beic neu drafnidiaeth gyhoeddus ei ychwanegu at y set o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2021. Daw’r data o Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru ac mae disgwyl y canlyniadau yn 2026.

Yn y tymor byr, mae modd ystyried data o'r Arolwg o'r Llafurlu ar y dull arferol o deithio i'r gwaith a data o Arolwg Cenedlaethol Cymru ar y dull o deithio i'r ysgol.

Fel yn y rhan fwyaf o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig y tu allan i Lundain, trafnidiaeth ffyrdd breifat yw’r brif ffordd o deithio o hyd, ac mae’n cyfrif am y mwyafrif llethol o deithiau cymudo yng Nghymru. 

Yn 2023, defnyddiodd 81% o gymudwyr yng Nghymru gar fel eu dull arferol o deithio i’r gwaith. Ychydig o newid a fu i’r cyfrannau o drigolion Cymru sy’n defnyddio pob dull o deithio fel arfer i gyrraedd y gwaith dros y degawd diwethaf.

Ffigur 7.3: dull arferol trigolion Cymru o deithio i’r gwaith, 2023 [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3]

Image

Disgrifiad o ffigur 7.3: siart gylch yn dangos bod y rhan fwyaf (81%) o drigolion Cymru wedi teithio i’r gwaith mewn car yn 2023. Roedd 10% o drigolion wedi cerdded, gyda 4% yn defnyddio bws neu fws moethus, a 3% yn defnyddio gwasanaethau rheilffyrdd.

Ffynhonnell: Ystadegau Trafnidiaeth Prydain Fawr: Dull arferol o deithio i'r gwaith yn ôl rhanbarth preswylio

[Nodyn 1] Gofynnwyd i’r ymatebwyr beth oedd eu dull teithio arferol

[Nodyn 2] Mae’r categorïau sydd wedi cael eu hatal oherwydd ansawdd isel wedi cael eu cynnwys yn y categori “Arall”.

[Nodyn 3] Efallai na fydd y ffigurau'n gwneud cyfanswm o 100% oherwydd talgrynnu.

Ôl Troed Byd-eang

Ein hôl troed byd-eang yw cyfanswm y baich amgylcheddol y mae cymdeithas yn ei roi ar y blaned. Yn fyd-eang, rydym yn defnyddio mwy o adnoddau naturiol nag y gall y byd eu disodli. 

Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer y dangosydd hwn yw y bydd Cymru ond yn defnyddio ei chyfran deg o adnoddau’r byd erbyn 2050. Cyfrifwyd ôl troed byd-eang i Gymru gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur gan ddefnyddio'r fethodoleg ôl troed ecolegol, sy'n cael ei hegluro ymhellach yn Llesiant Cymru: Adroddiad 2024. Mae hyn yn rhan o brosiect ehangach i wella dealltwriaeth o ôl troed amgylcheddol byd-eang ac effeithiau nwyddau sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru, ond a allai gael eu cynhyrchu yn unrhyw le yn y byd. 

Gan ddefnyddio’r fethodoleg Ôl Troed Ecolegol, mae ôl troed byd-eang Cymru wedi gostwng yn gyffredinol o tua 17.0 miliwn hectar global (gha) yn 2004 i 12.3 miliwn gha yn 2018. Mae’r ôl troed byd-eang fesul unigolyn wedi gostwng bron i draean dros y cyfnod amser hwn, ac roedd yn 3.9 gha y pen yn 2018. Fodd bynnag, mae hyn yn parhau i fod dros ddwywaith yr amcangyfrif o’r biogapasiti yng Nghymru. Mewn geiriau eraill, pe bai holl boblogaeth y byd yn byw fel dinasyddion Cymru, byddai angen tir cyfwerth â 2.08 Daear ar ddynoliaeth.

Ffigur 7.4: ôl troed byd-eang, hectarau global (gha) y pen, 2004 i 2018

Image

Disgrifiad o ffigur 7.4: siart linell yn dangos yr ôl troed byd-eang (gha) y pen yng Nghymru, bob tair/pedair blynedd rhwng 2004 a 2018. Mae’r ôl troed byd-eang fesul unigolyn wedi gostwng yn raddol dros y cyfnod. 

Ffynhonnell: Deall Ôl Troed Amgylcheddol Byd-eang ac Effeithiau Defnydd Cymru, JNCC

Mae mesur arall o Ôl Troed Ecolegol Cymru yn defnyddio data mewnbwn o ansawdd ychydig yn uwch, ond nid yw’n galluogi cymharu dros amser. Roedd yr ôl troed hwn tua 10.7 miliwn gha yn 2019, sy’n cyfateb i tua 3.4 ha fesul unigolyn.

Dinasyddiaeth fyd-eang weithredol

Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn gofyn i bobl pa weithgareddau maent wedi eu gwneud i helpu gyda materion rhyngwladol fel tlodi, hawliau dynol, rhyfel, ffoaduriaid, neu newid yn yr hinsawdd. Mae'r ymatebion ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025 yn cyd-fynd yn fras â'r rhai o'r tro diwethaf y cafodd y cwestiynau hyn eu cynnwys yn 2021 i 2022.

Roedd 13% o’r rhai a arolygwyd wedi gwneud 3 neu ragor o’r 4 cam gweithredu a ganlyn i helpu gyda materion byd-eang: rhoi neu godi arian, ymgyrchu, gwirfoddoli, neu newid yr hyn maen nhw’n ei brynu.

Mae 33% o bobl yn dweud eu bod nhw wedi rhoi arian neu helpu i godi arian yn ystod y 3 mis blaenorol i helpu gyda materion byd-eang. Y materion mwyaf cyffredin y gwnaeth pobl roi arian neu godi arian tuag atynt oedd tlodi rhyngwladol (19%) a chynorthwyo ffoaduriaid (16%). Roedd 40% o fenywod yn dweud eu bod nhw wedi rhoi arian, o’i gymharu â 27% o ddynion.

Dywed 16% o bobl eu bod nhw wedi ymgyrchu dros faterion rhyngwladol yn y 12 mis diwethaf i helpu gyda materion byd-eang, a dywed 8% eu bod nhw wedi gwirfoddoli. Ymgyrchodd 8% o bobl dros sifiliaid yr effeithiwyd arnynt gan ryfela, tra gwirfoddolodd 3% i gefnogi ffoaduriaid, a gwirfoddolodd 3% i gefnogi materion tlodi.

Dywed 50% eu bod wedi newid yr hyn maent yn ei brynu oherwydd materion byd-eang. Pobl rhwng 65 a 74 oed oedd y grŵp mwyaf tebygol o fod wedi gwneud newidiadau i’r hyn maent yn ei brynu (58%).

Caethwasiaeth fodern

Mae atgyfeiriadau dioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern yng Nghymru wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae'r cynnydd hwn wedi arafu dros y ddwy flynedd diwethaf.

Mae Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn cynnwys targed ar gyfer ‘Rhoi terfyn ar gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl’. Caethwasiaeth fodern yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi ei ddiffinio yn Neddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Mae’r ddeddf yn categoreiddio troseddau o gaethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur gorfodol neu drwy rym a masnachu pobl.

Yn ôl yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, mae nifer yr achosion o ddioddefwyr posibl caethwasiaeth sy’n cael eu hadrodd i’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol neu drwy broses y Ddyletswydd i Hysbysu yn parhau i gynyddu bob blwyddyn yng Nghymru.

Yn 2024, cafodd 563 o bobl eu cyfeirio fel dioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern i heddluoedd yng Nghymru. Mae hyn yn debyg i’r nifer o atgyfeiriadau yn 2023 (559 o atgyfeiriadau).  Mae’n debyg bod rhywfaint o'r cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf yn deillio o brosesau adrodd gwell a newidiadau yn y ffordd y cofnodir y data.

Ffigur 7.5: atgyfeiriadau NRM a anfonwyd at heddluoedd yng Nghymru ar gyfer ymchwiliad, 2018 i 2024

Image

Disgrifiad o ffigur 7.5: siart linell yn dangos nifer yr atgyfeiriadau i’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer heddluoedd yng Nghymru rhwng 2018 a 2024. Mae nifer yr atgyfeiriadau wedi cynyddu dros y cyfnod.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol, y Swyddfa Gartref

Yn 2024 roedd 139 o’r atgyfeiriadau ar gyfer menywod (25%) ac roedd 424 ar gyfer dynion (75%).

Cafodd 198 (35%) o unigolion eu cyfeirio ar gyfer categorïau camfanteisio ar oedolion ac fe gafodd 341 (61%) eu cyfeirio ar gyfer camfanteisio yn unigolyn ifanc dan oed. Roedd 24 (4%) heb eu nodi neu’n anhysbys.

Y math mwyaf cyffredin o gamfanteisio ar gyfer oedolion a phlant dan oed oedd ‘camfanteisio troseddol’. Fodd bynnag, ar gyfer merched (yn oedolion a phlant) y camfanteisio mwyaf cyffredin oedd ‘camfanteisio rhywiol’.

Priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod

Mae priodas dan orfod neu anffurfio organau cenhedlu benywod posibl wedi cael eu nodi yng Nghymru. Mae nod 5 y Cenhedloedd Unedig yn cynnwys targed i ‘gael gwared ar yr holl arferion niweidiol, fel gorfodi plentyn i briodi neu briodi’n gynnar ac anffurfio organau cenhedlu benywod’.

Yn ôl y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, mae nifer yr achosion y rhoddodd yr Uned Priodasau Dan Orfod gyngor neu gymorth arnynt yng Nghymru wedi gostwng bob blwyddyn ers 2019. Rhoddodd y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu gyngor neu gymorth ar lai na 5 achos yn 2024, gyda nifer tebyg yn 2023. Mae hyn dilyn uchafbwynt o 37 o achosion yn 2019.

Oherwydd y niferoedd isel o’i gymharu â rhai rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, mae’r duedd ar gyfer Cymru wedi bod yn anwadal ers 2015. Ar ôl cyflwyno'r cyfyngiadau symud COVID-19 cyntaf, gostyngodd nifer yr atgyfeiriadau i'r Uned Priodasau dan Orfod ac nid ydynt wedi cynyddu eto i'r lefelau a welwyd cyn y pandemig. Mae’n bosibl bod y pandemig yn gyfrifol am hyn, fel cyfyngiadau ar briodasau a theithio. Mae newid i’r drefn o ran a ddylid cofnodi achos newydd fel atgyfeiriad neu ymholiad cyffredinol hefyd yn debygol o fod wedi cael effaith fach ar nifer cyffredinol yr achosion o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol ac felly dylid bod yn ofalus wrth gymharu’n uniongyrchol.

Ffigur 7.6: nifer yr achosion a gafodd gyngor neu gymorth gan yr Uned Priodasau dan Orfod yng Nghymru, 2015 i 2024 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Ffigur 7.6: Nifer yr achosion a gafodd gyngor neu gymorth gan yr Uned Priodasau dan Orfod yng Nghymru, 2015 i 2024 [Nodyn 1] [Nodyn 2]
BlwyddynAchosion
201525
201614
201717
201828
201937
202015
20218
20226
2023[c]
2024[c]

Disgrifiad o ffigur 7.6: tabl o nifer yr achosion lle mae’r Uned Priodasau Dan Orfod (FMU) wedi rhoi cyngor neu gymorth yng Nghymru mewn perthynas â phriodas bosibl dan orfod a/neu achos bosibl o anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) yng Nghymru. Oherwydd y niferoedd isel o’i gymharu â rhai rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, mae’r duedd ar gyfer Cymru wedi bod yn anwadal ers 2015.

Ffynhonnell: Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, Ystadegau’r Uned Priodasau dan Orfod 2024

[Nodyn 1] Oherwydd y newidiadau mewn arferion cofnodi, nid oes modd cymharu’r data o 2020 yn uniongyrchol â data’r blynyddoedd blaenorol.

[Nodyn 2] Defnyddir llaw-fer yn y tabl hwn, [c]= llai na 5.

Addysg dinasyddiaeth fyd-eang

Mae Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, sef ‘Addysg o Safon’, yn cydnabod pwysigrwydd cael addysg o ansawdd a bod yr holl ddysgwyr yn meddu ar yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i hyrwyddo datblygiad cynaliadwy, gan gynnwys ffyrdd cynaliadwy o fyw, hawliau dynol, cydraddoldeb rhywiol a dinasyddiaeth fyd-eang.

Ym mlwyddyn academaidd 2024 i 2025, roedd 20,248 o ymgeiswyr ar gyfer yr her dinasyddiaeth fyd-eang yng Nghyfnod Allweddol 4. Cafwyd 13,550 o geisiadau ar gyfer y prosiect cymuned fyd-eang uwch newydd. Ar gyfer Cyfnod Allweddol 4, mae data dros dro yn dangos bod 99% o'r ceisiadau wedi pasio lefel 1 neu uwch. Ar gyfer y prosiect cymuned fyd-eang bagloriaeth sgiliau uwch newydd, mae data dros dro yn dangos bod 73.2% wedi cael gradd C neu uwch, a bod 97.3% wedi cael gradd E neu uwch.

Tlodi bwyd

Mae rhai oedolion yng Nghymru yn wynebu tlodi bwyd ac yn poeni am fforddio bwyd.

Un o nodau’r Cenhedloedd Unedig, sef ‘Dim Newyn’ yw rhoi diwedd ar newyn, sicrhau diogelwch bwyd a gwella maeth.

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd 4% o aelwydydd wedi cael bwyd gan fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf gyda 2% arall yn dweud nad oeddent wedi cael bwyd ond eu bod wedi dymuno cael hynny.

Ceiswyr lloches

Mae nifer y ceiswyr lloches sy’n derbyn cymorth wedi aros yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf ond mae wedi cynyddu ers dechrau’r degawd.

Nod Datblygu Cynaliadwy rhif 16 y Cenhedloedd Unedig yw ‘hyrwyddo cymdeithasau heddychlon a chynhwysol ar gyfer datblygu cynaliadwy, darparu mynediad at gyfiawnder i bawb a chreu sefydliadau effeithiol, atebol a chynhwysol ar bob lefel’.

Nid yw ffigurau cyflawn ar gyfer nifer y ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n cael eu hadsefydlu yng Nghymru ar gael. Fodd bynnag, cyhoeddir ffigurau sy’n ymwneud â nifer y ffoaduriaid sy’n adsefydlu o dan Gynllun Adsefydlu’r Deyrnas Unedig (a’r Cynllun Adsefydlu pobl agored i niwed gynt), a nifer y rhai sy’n derbyn cymorth lloches ar hyn o bryd.

Ar ddiwedd mis Mawrth 2024, roedd cyfanswm o 1,533 o ffoaduriaid wedi cael eu hadsefydlu yng Nghymru o dan y Cynllun Adsefydlu Pobl Agored i Niwed a’r Cynllun Adsefydlu Plant Agored i Niwed (2016 i 2022) a Chynllun Adsefydlu’r Deyrnas Unedig (2021 ymlaen).

Mae Adran 95 yn darparu cymorth i geiswyr lloches sydd â chais am loches neu apêl heb ei ddatrys a cheiswyr lloches aflwyddiannus a oedd â phlant yn eu cartref pan ddefnyddiwyd yr holl hawliau apelio a oedd yn bosibl, ac mae’n cynnwys y rhai sy’n derbyn:

  • llety gwasgaru: y rhai sy’n derbyn llety yn unig, neu lety a chynhaliaeth.
  • cynhaliaeth yn unig: lle mae’r ymgeisydd yn derbyn arian i gynnal ei hun ond wedi dod o hyd i’w lety ei hun.

Ar ddiwedd mis Mawrth 2025, roedd dros 3,100 o geiswyr lloches yn cael cymorth yng Nghymru, nifer tebyg i’r flwyddyn flaenorol. Cynyddodd y nifer yn sylweddol rhwng 2012 a 2016, ond mae wedi aros yn fwy sefydlog ar y cyfan ers hynny, gyda gostyngiad yn 2022 a 2023.

Ffigur 7.7: nifer y ceiswyr lloches sy’n derbyn cymorth Adran 95, blynyddoedd ariannol rhwng 2004 i 2005 a 2024 i 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 7.7: mae’r siart linell yn dangos bod nifer y ceiswyr lloches sy’n cael cymorth wedi aros yn gyson yn ystod blwyddyn ariannol 2015 i 2016 i flwyddyn ariannol 2019 i 2020, yna wedi gostwng tan 2021 i 2022, a chynyddu eto yn 2022 i 2023 a 2023 i 2024 gan barhau’n debyg yn 2024 i 2025. 

Ffynhonnell: Ystadegau Mewnfudo’r Swyddfa Gartref, blwyddyn ariannol 2024 i 2025

Darpariaeth brechu

Mae nifer y plant ifanc sy’n cael brechiadau yn parhau i fod yn uchel ond mae wedi gostwng ychydig ers ei lefelau uchaf ym mlwyddyn ariannol2013 i 2014, ar gyfer y brechlyn ‘6 mewn 1’ DTaP/IPV/Hib/HepB1 ar gyfer y rheini sy’n nesáu at flwydd oed, a’r nifer sy’n cymryd 1 dos cyntaf o MMR erbyn iddynt fod yn 2 oed.

Mae Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, sef ‘Iechyd a llesiant da’, yn nodi pwysigrwydd darparu mynediad at feddyginiaethau a brechlynnau fforddiadwy a hanfodol. Mae gan Sefydliad Iechyd y Byd weledigaeth ar gyfer byd heb y frech goch, rwbela a syndrom rwbela cynhenid.

Roedd y nifer a oedd yn cael y brechlyn ‘6 mewn 1’ DTaP/IPV/Hib/HepB1 (y 3 dos) ymysg plant sy’n cyrraedd eu pen-blwydd cyntaf wedi gostwng ychydig bach i 94.1 %, o’i gymharu â 94.2% yn y flwyddyn flaenorol.

Roedd y nifer a oedd wedi cael un dos MMR erbyn eu bod yn 2 oed wedi cynyddu ychydig iawn o 92.9% i 93%. Mae hyn yn is na’r cyfartaledd ar gyfer atal achosion o’r frech goch (y targed yw 95%).

Ffigur 7.8: canran y plant sy’n cael eu himiwneiddiadau yng Nghymru, rhwng blynyddoedd ariannol 2008 i 2009 a 2024 i2025 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 7.8: mae’r siart linell yn dangos canran y bobl a gafodd y brechlyn MMR a’r brechlyn 6 mewn 1 rhwng blwyddyn ariannol 2008 i 2009 a blwyddyn ariannol 2024-25.  Mae’r nifer sy’n cymryd y brechlyn ‘6 mewn 1’ a’r MMR wedi gostwng ers iddynt gyrraedd eu lefelau uchaf yn 2013 i 2014. Roedd 93.0% wedi cael MMR yn 2024 i 2025 a 94.1% wedi cael y ‘6 mewn 1’.

Ffynhonnell: Data cenedlaethol ar y nifer sy’n manteisio ar imiwneiddio, Iechyd Cyhoeddus Cymru

[Nodyn 1] Nid yw echelin y siart yn cychwyn ar sero.

[Nodyn 2] Mae’r brechlyn ‘6 mewn 1’ yn amddiffyn yn erbyn difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), polio, hib a haint hepatitis B. Byddai’r rhan fwyaf o’r plant blwydd oed y cyfeirir atynt yn yr adroddiad hwn yn gymwys ar gyfer y brechlyn ‘6 mewn 1’, gan ddisodli’r brechlyn ‘5 mewn 1’ sydd i fod i gael ei roi i fabanod pan fyddant yn 4, 8 a 12 mis oed.

[Nodyn 3] Mae MMR yn amddiffyn rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela. Mae’r data’n dangos y nifer sy’n cymryd y dos cyntaf yn 2 oed.

Further reading

Mae adroddiadau Llesiant blaenorol Cymru wedi cynnwys dadansoddiad pellach ar y canlynol:

  • Eco-Ysgolion
  • Cosbi plant yn gorfforol
  • Safleoedd treftadaeth y byd

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, ac felly dim ond mesurau cynnydd lefel uchel y mae modd eu hystyried yn yr adroddiad hwn. Mae rhagor o ddeunydd darllen ar gael isod:

Ystadegau ar bobl o Wcráin yn y Deyrnas Unedig (Y Swyddfa Gartref)

Rhestr Treftadaeth y Byd UNESCO (UNESCO)

Eco-Ysgolion (Eco-Ysgolion)

Cadwch Gymru’n Daclus (Eco-Ysgolion)

Rhoi diwedd ar gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru