Neidio i'r prif gynnwy

Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Awdur: Stephanie Howarth

Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu: Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, chwaraeon a gweithgareddau hamdden.

Cynnydd tuag at y nod

Mae'r cynnydd tuag at y nod llesiant hwn yn anghyson. Mae rhai dangosyddion, fel y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth, a'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg, wedi aros yn sefydlog, tra bo'r cynnydd blaenorol mewn ymgysylltiad plant â’r celfyddydau a chwaraeon wedi’i wrthdroi. Er gwaethaf hyn, mae cyfranogiad oedolion mewn chwaraeon wedi gwella yn y tymor hir, yn ogystal ag achrediad amgueddfeydd ac archifau, ond mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng yn sylweddol. Mae gwahaniaethau ar draws grwpiau yn parhau ar gyfer llawer o fesurau.

Nid yw'r dangosydd cenedlaethol ar y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wedi newid llawer dros y tair blynedd y cafodd ei gasglu. Canfu'r data diweddaraf o flwyddyn ariannol 2022 i 2023 fod 72% o oedolion yn cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn o leiaf dair gwaith y flwyddyn. Mae gwahaniaethau eang o hyd yn dibynnu ar oedran, iechyd, amddifadedd a chymwysterau, ond nid ar gyfer rhyw na grwpiau ethnig. 

Wrth edrych yn ôl dros y degawd diwethaf, cafwyd cynnydd o ran presenoldeb a chyfranogiad plant yn y celfyddydau i ddechrau. Ond mae’r ddau bellach yn disgyn ac maent naill ai ar yr un lefel â deng mlynedd yn ôl neu’n is na’r lefel honno.

Mae mwy o amgueddfeydd a gwasanaethau archifau yn cyrraedd y safonau achrededig. Rhwng 2017 a 2025, bu cynnydd mwy yng nghanran y gwasanaethau archifau sy’n cyrraedd safonau achrededig (o 57% i 88%) nag amgueddfeydd (o 59% i 62%). 

Gostyngodd cyfranogiad rheolaidd mewn chwaraeon ymmlwyddyn ariannol 2024i 2025, gyda 35% o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu ragor. Ond dros y tymor hir mae canran yr oedolion sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd wedi bod yn cynyddu. Roedd nifer y disgyblion ysgol oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon wedi cynyddu ond erbyn hyn mae wedi gostwng i lefelau tebyg i’r hyn welwyd yn 2013. 

Gostyngodd nifer a chanran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021, gyda’r ganran bellach yr isaf i'w chofnodi erioed mewn cyfrifiad. Mae carreg filltir genedlaethol i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn ôl y cyfrifiad, roedd 538,000 o bobl yn gallu siarad Cymraeg yn 2021, i lawr o bron i filiwn yn 1911. 

Mae data arolwg yn awgrymu cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl yn yr hirdymor. Mae canran y siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio’r iaith bob dydd wedi bod yn weddol sefydlog, ac ar hyn o bryd mae’n 11%. 

Mae cyflwr adeiladau rhestredig yng Nghymru wedi gwella ychydig ers 2015, ac mae cyflwr henebion rhestredig wedi gwaethygu’n raddol.

Celfyddydau, diwylliant a threftadaeth

Mae'r data diweddaraf ar gyfer y dangosydd cenedlaethol ar y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth yn dangos presenoldeb a chyfranogiad cymharol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf. Ym mlwyddyn ariannol 2022 i 2023, roedd 72% o oedolion yn cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn o leiaf dair gwaith y flwyddyn, yn debyg i flynyddoedd blaenorol. Mae oedolion iau, pobl â chymwysterau uwch a phobl sy’n byw mewn ardaloedd llai difreintiedig yn fwy tebygol o fynychu neu gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn.

Ffigur 6.1: oedolion sy’n mynychu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â'r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth dair gwaith y flwyddyn neu fwy, blynyddoedd ariannol rhwng 2017 i 2018 a 2022 i 2023

Image

Disgrifiad o ffigur 6.1: siart far yn dangos tair blynedd o ddata ar gyfer y dangosydd cenedlaethol ar fynychu neu gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth yn rheolaidd. Nid oes unrhyw wahaniaethau sylweddol rhwng blwyddyn ariannol 2022i 2023 a’r blynyddoedd blaenorol y cafodd y dangosydd hwn ei fesur.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Gan edrych ar y celfyddydau'n benodol, cynyddodd presenoldeb yn y celfyddydau yn 2024 i 2025, gyda 69% o oedolion yn mynychu digwyddiad celfyddydol yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae hyn bellach yn nes at y sefyllfa cyn y pandemig, yn dilyn gostyngiad yn 2022 i 2023. Mae'n ymddangos bod cyfranogiad yn y celfyddydau wedi cynyddu'n sylweddol o 18% yn 2022 i 2023 i 26% yn 2024 i 2025, ond casglwyd gwybodaeth am amrywiaeth ehangach o weithgareddau celfyddydol eleni sy'n debygol o fod wedi cyfrannu at y cynnydd hwn. Cyn hyn, roedd cyfranogiad yn y celfyddydau wedi bod yn gostwng yn raddol ers 2017 i 2018.

O ran plant, wrth edrych yn ôl dros y degawd diwethaf, cafwyd cynnydd o ran presenoldeb a chyfranogiad plant i ddechrau. Ond mae cyfranogiad ymysg plant wedi bod yn gostwng yn raddol ers 2015 ac mae bellach yn 84%, lefelau tebyg i’r hyn a welwyd ddegawd yn ôl. Mae’r gostyngiad mewn presenoldeb wedi digwydd yn fwy diweddar, i lawr o uchafbwynt o 89% yn 2018 i 82% yn 2023.

Mae presenoldeb a chyfranogiad yn y celfyddydau yn parhau i fod yn uwch ymysg merched, plant iau (7 i 10 oed) a phlant o raddau cymdeithasol uwch.

Ffigur 6.2: plant sy’n mynychu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau o leiaf unwaith y flwyddyn, 2013 i 2023

Image

Disgrifiad o ffigur 6.2: siart linell yn dangos gwerth deng mlynedd o ddata am bresenoldeb a chyfranogiad plant yn y celfyddydau. Mae presenoldeb a chyfranogiad wedi bod yn gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Cyngor Celfyddydau Cymru

Amgueddfeydd ac archifau

Yn ôl y data diweddaraf, roedd 99 o amgueddfeydd yn cyrraedd safonau achredu yn 2025. Mae cyfanswm a chyfran yr amgueddfeydd achrededig wedi aros yn gymharol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf, gyda 62% bellach wedi'u hachredu o'i gymharu â 59% yn 2017.

Yn 2025, roedd 15 o wasanaethau archifau yn cyrraedd y safon achredu, sy’n cyfateb i 88% o’r holl wasanaethau archifau cymwys. Mae hyn yn gynnydd nodedig o'i gymharu â 57% yn 2017.

Cymryd rhan mewn chwaraeon

Dros y tymor hir, mae mwy o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd, er bod gostyngiad yn y gyfradd ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf. Mae cyfradd yr oedolion sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu ragor wedi cynyddu o 29% ym mlwyddyn ariannol 2016 i 2017 i 35% yn 2024 i 2025.

Mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd yn gostwng gydag oedran. Amcangyfrifir bod 52% o bobl ifanc 16 i 24 oed yn cymryd rhan mewn chwaraeon rheolaidd, sy’n gostwng i 12% o bobl 75 oed a hŷn. Ceir hefyd lefelau uwch o gyfranogiad rheolaidd mewn chwaraeon ymysg dynion, pobl mewn iechyd da, a phobl sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. 

Nid yw 41% o bobl yn cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon, ffigur sydd wedi aros fwy neu lai’r un fath dros flynyddoedd lawer. Dywedodd 35% o bobl eu bod eisiau gwneud mwy o chwaraeon neu weithgarwch corfforol, cynnydd o 27% yn 2022 i 2023.

Ffigur 6.3: canran yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy, blynyddoedd ariannol rhwng 2016 i 2017 a 2024 i 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 6.3: siart linell yn dangos canran yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy, sydd wedi cynyddu yn yr hirdymor.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Mae cyfranogiad plant mewn chwaraeon wedi'u trefnu y tu allan i'r cwricwlwm wedi gostwng, gyda dim ond 39% o ddisgyblion yn cymryd rhan dair gwaith yr wythnos neu fwy yn 2022, i lawr o 48% yn 2018. Dyma'r ffigur isaf a gofnodwyd erioed gan yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol. Er gwaethaf y gostyngiad hwn, mynegodd 93% o ddisgyblion awydd i wneud mwy o chwaraeon. Yn gyffredinol, roedd bechgyn yn fwy egnïol na merched, ac roedd plant ysgolion cynradd yn cymryd rhan ychydig yn llai aml na disgyblion ysgolion uwchradd. Ymysg gwahanol grwpiau ethnig, plant o grwpiau cymysg neu aml-ethnig oedd â'r cyfraddau cyfranogiad uchaf, sef 43%.

Ffigur 6.4: canran y plant sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy, 2013 i 2022

Image

Disgrifiad o ffigur 6.4: siart llinell yn dangos canran y plant sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd. Mae cyfranogiad wedi gostwng i lefel debyg a welwyd yn 2013.

Ffynhonnell: Arolwg Chwaraeon Ysgolion

Siaradwyr Cymraeg

Rydym yn ystyried mai’r cyfrifiad yw’r brif ffynhonnell o wybodaeth am nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru. Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae 17.8% o bobl tair oed neu hŷn yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg. Mae hyn wedi gostwng o 19.0% yn 2011 a dyma’r ganran isaf erioed a gofnodwyd mewn cyfrifiad.

Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer y Gymraeg yw miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dros yr hirdymor, mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi bod yn gostwng o bron i filiwn o bobl yn 1911 i 538,000 erbyn hyn. Roedd y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn 2021 yn bennaf oherwydd bod llai o blant a phobl ifanc yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Roedd Cyfrifiad 2021, a gynhaliwyd yn ystod y pandemig Covid-19, yn dilyn cyfnodau clo a dysgu o bell a allai fod wedi dylanwadu ar allu pobl yn y Gymraeg.

Ffigur 6.5: pobl tair oed a hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg, 1911 i 2021 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 6.5: siart linell yn dangos nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ers 1911. Gostyngodd y niferoedd yn sylweddol yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, gyda newidiadau llai ers hynny.

[Nodyn 1] Ni chynhaliwyd cyfrifiad yn 1941.

Ffynhonnell: Cyfrifiad poblogaeth

Ers 2011, mae amcangyfrifon Arolwg Cenedlaethol Cymru o bobl sydd â mwy na rhywfaint o allu i siarad Cymraeg wedi aros yn sefydlog ar tua 19%, ond mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy'n dweud bod ganddynt rywfaint o allu i siarad Cymraeg.

Defnydd o’r Gymraeg

Mae’r arolwg diweddaraf o ddefnydd o’r Gymraeg yn dangos mai ychydig o newid a fu o ran pa mor aml mae pobl yn siarad Cymraeg. 

Yng Ngorffennaf 2019 i Fawrth 2020, roedd 10% o bobl tair oed neu hŷn yn siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy na dim ond ychydig o eiriau Cymraeg. Nid yw hyn wedi newid ers yr arolwg blaenorol yn Ebrill 2013 i Fawrth 2015. Mae data mwy diweddar o Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer pobl 16 oed neu hŷn hefyd yn awgrymu mai prin fu’r newid cyffredinol yng nghyfradd y bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd. 

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, nid yw canran y bobl 16 oed neu hŷn sy’n rhugl yn y Gymraeg wedi newid rhyw lawer dros y 10 mlynedd diwethaf, mae wedi aros ar tua 10 i 11%. Fodd bynnag, yn yr hirdymor, bu cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl. Mae siaradwyr Cymraeg rhugl yn siarad yr iaith yn amlach na’r rhai nad ydynt yn rhugl.

Nododd dadansoddiad diweddar Arolwg Cenedlaethol Cymru yn defnyddio’r data ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023 nifer o ffactorau sy'n gysylltiedig yn annibynnol â siarad Cymraeg neu ei defnyddio bob dydd. Roedd y rhain yn cynnwys bod yn fenyw, bod yn 16 i 44 oed, bod yn sengl, byw mewn ardaloedd gwledig (yn enwedig gogledd orllewin Cymru), bod mewn gwaith, bod ag addysg lefel uwch, gwirfoddoli, a byw y tu allan i'r ardaloedd mwyaf neu leiaf difreintiedig.

Adeiladau hanesyddol a henebion

Bob blwyddyn, mae Cadw yn asesu cyflwr sampl o adeiladau rhestredig a henebion rhestredig yng Nghymru. Adeiladau rhestredig yw’r rhai o ddiddordeb arbennig neu bensaernïol yng Nghymru, ond mae henebion rhestredig yn safleoedd archeolegol o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae cyflwr adeiladau rhestredig yng Nghymru wedi gwella ychydig ers 2015, ac mae cyflwr henebion rhestredig wedi gwaethygu’n raddol. 

Mae ychydig dros 30,000 o adeiladau rhestredig yng Nghymru, mae 76% mewn cyflwr sefydlog neu’n gwella yn 2025, i fyny ychydig o 74% yn 2015. Mae 9% o adeiladau rhestredig yn cael eu dosbarthu mewn perygl. 

Mae sampl o henebion cofrestredig yn cael ei asesu bob blwyddyn fel rhan o raglen dreigl deng mlynedd. Mae’n ymddangos bod cyflwr y 4,200 o henebion yng Nghymru wedi bod yn dirywio dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd 66% mewn cyflwr sefydlog neu'n gwella ym mlwyddyn ariannol 2016 i 2017, ond gostyngodd hyn i 58% yn 2024 i 2025. Ystyrir bod bron i 15% mewn perygl, yn bennaf oherwydd hindreuliad, llystyfiant , ymyriad ac erydiad.

Ffigur 6.6: canran yr henebion cofrestredig sydd mewn cyflwr sefydlog neu sy’n gwella, blynyddoedd ariannol rhwng 2011 i 2012 a 2024 i 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 6.6: siart linell yn dangos cyfran yr henebion cofrestredig sydd mewn cyflwr sefydlog neu sy’n gwella. Mae’r ganran wedi gostwng yn raddol dros y deng mlynedd diwethaf.

Ffynhonnell: Cadw

Darllen pellach

Roedd fersiynau blaenorol o adroddiad Llesiant Cymru yn cynnwys dadansoddiad pellach o’r canlynol:

  • gwirfoddoli neu gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol neu chwaraeon
  • rhwystrau o ran cymryd rhan yn y celfyddydau a gwahaniaethau rhwng grwpiau economaidd-gymdeithasol a phoblogaeth o ran cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a chwaraeon
  • y mathau o weithgareddau celfyddydol y mae pobl wedi cymryd rhan ynddynt
  • defnydd o'r Gymraeg ymysg plant a phobl ifanc, a’r defnydd o'r Gymraeg mewn cyd-destunau cymdeithasol a gwaith
  • cysylltiadau rhwng y Gymraeg a digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol
  • ethnigrwydd a’r celfyddydau, diwylliant, chwaraeon a’r iaith Gymraeg
  • ymweliadau ag amgueddfeydd ac archifau

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru yn cynhyrchu adroddiadau manwl rheolaidd ar y celfyddydau a chwaraeon. Mae hyn yn cynnwys Arolwg Omnibws y Plant ac Arolwg Chwaraeon Ysgolion. 

Mae amrywiaeth o ddadansoddiadau o’r Gymraeg ar gael hefyd o Gyfrifiad 2021 ac yn adroddiadau’r Arolwg ar y Defnydd o’r Gymraeg ar gyfer blwyddyn ariannol 2019 i 2020.