Llesiant Cymru 2025 - Cymru o gymunedau cydlynus
Crynodeb o'r cynnydd ar wella ein lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y nod i Gymru o gymunedau cydlynus
Awduron: Steven Macey a Ian Jones
Cymru o gymunedau cydlynus: Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.
Cynnydd tuag at y nod
Roedd y dangosyddion cydlyniant cymunedol wedi bod yn weddol sefydlog ers y flwyddyn ariannol 2016 i 2017 tan y cynnydd sylweddol yn 2020i 2021. Ers hynny mae canran yr oedolion sy'n cytuno â phob un o'r 3 mesur cydlyniant cymunedol wedi gostwng, gyda'r duedd hon hefyd yn cael ei gweld yn 2024 i 2025, gan symud yn nes at y lefelau cyn y pandemig.
Mae arwyddion o ddychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig yn arbennig o amlwg mewn boddhad pobl â'u hardal leol a phobl yn teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau lleol. Roedd y canrannau a nodwyd ar gyfer y dangosyddion hyn yn 2024 i 2025 naill ai'n hafal i neu o fewn pwynt canran i'r hyn a welwyd yn 2018i 2019.
Mae pobl sy’n teimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu wedi aros yn gymharol gyson ers iddynt gael eu holi am y tro cyntaf yn 2016 i 2017 ac roeddent yn 68% yn 2024 i 2025.
Roedd canran y bobl sy’n gwirfoddoli wedi bod yn gostwng ond mae’n ddangosydd sydd wedi gweld cynnydd yn ddiweddar. Cyrhaeddwyd y garreg filltir genedlaethol bod 30% o bobl yn gwirfoddoli yn 2022 i 2023, ac mae'n dal i gael ei chyrraedd, gyda 32% o bobl yn gwirfoddoli yn 2024 i 2025.
Mae unigrwydd, sy'n seiliedig ar gyfuniad o chwe mesur gwahanol, wedi aros yr un fath dros y blynyddoedd diwethaf, gyda 13% o bobl yng Nghymru yn unig yn 2022i 2023. O fewn y mesur cyffredinol, mae’r ganran sydd ‘wedi gweld colli cael pobl o gwmpas’ wedi dilyn patrwm gwahanol gyda chanran wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod pandemig COVID-19 yn 2020 i 2021 a 2021 i 2022 cyn gostwng yn ôl i lefelau blaenorol yn 2022 i 2023 (36%).
Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae canran yr aelwydydd y llwyddwyd i’w hatal rhag digartrefedd a’u rhyddhau o ddigartrefedd wedi gostwng ychydig, mae nifer yr unigolion mewn llety dros dro wedi gostwng, a’r amcangyfrif o nifer yr unigolion sy’n cysgu allan yn uwch.
Mae tua hanner y bobl yng Nghymru yn credu bod troseddu wedi codi’n sylweddol yn genedlaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r ffigur hwn wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig a welwyd yn 2018 i 2019 a 2019 i 2020ar ôl gostyngiad yn 2022 i 2023. Fodd bynnag, ers 2015 i 2016, bu tueddiadau cyffredinol ar i lawr yng nghyfran yr oedolion a oedd wedi dioddef trosedd (ac eithrio twyll), a dioddefwyr troseddau personol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (2024 i 2025), mae troseddau a gofnodir gan yr heddlu yng Nghymru (ac eithrio twyll) wedi gostwng 1% tra bo cyfran yr oedolion sy’n ddioddefwyr troseddau wedi aros yn gymharol sefydlog (6% o oedolion yn 2024 i 2025).
Cydlyniant cymunedol
Yn y flwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd bron i 6 o bob 10 oedolyn (58%) yn cytuno â phob un o’r 3 mesur o gydlyniant cymunedol (ymberthyn i’r ardal leol, pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda, ac yn trin ei gilydd â pharch ac ystyriaeth). Mae hyn yn gynnydd ers y blynyddoedd cyn y pandemig ond yn is na'r hyn a nodwyd yn 2021 i 2022.
Roedd y ffigurau hyn wedi bod yn weddol sefydlog ers iddynt gael eu casglu am y tro cyntaf yn 2012 tan y cynnydd sylweddol yn 2020 i 2021. Ni ddaw’n glir a oedd y cynnydd yn 2020 i 2021 a 2021 i 2022 yn effaith byrdymor o'r pandemig (gyda chymunedau’n dod at ei gilydd yn lleol) ac a fydd y gostyngiad a welwyd yn 2024 i 2025 yn cael ei gynnal, neu ei gynnal yn rhannol dros y tymor hirach nes y bydd data ar gael ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Mae tuedd glir tuag at fwy o gydlyniant cymunedol wrth i amddifadedd yn yr ardal ostwng. Roedd ychydig o dan hanner y bobl a oedd yn byw yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf yn cytuno â’r 3 datganiad, o’i gymharu â bron i ddwy ran o dair o bobl yn yr ardaloedd â’r amddifadedd lleiaf.
Mae pobl hŷn yn fwy tebygol o gytuno â phob un o’r 3 mesur o gydlyniant cymunedol. Roedd y gyfran a oedd yn cytuno â’r 3 datganiad yn 2024 i 2025 yn amrywio o 43% ar gyfer pobl 16 i 24 oed i 69% ar gyfer y rhai a oedd yn 75 oed a hŷn.
Gwelir mwy o gydlyniant cymunedol hefyd ymysg pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ac ymysg pobl sydd ddim yn anabl neu bobl heb salwch cyfyngus hirdymor.
Nid oes gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol rhwng dynion a menywod o ran cytuno â'r 3 datganiad.
Ffigur 5.1: canran y bobl sy’n cytuno â datganiadau am eu hardal leol, rhwng blynyddoedd ariannol 2012 i 2013 a 2024 i 2025 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 5.1: siart linell yn dangos canran y bobl sy’n cytuno â 3 datganiad am gydlyniant cymunedol yn eu hardal leol rhwng blwyddyn ariannol 2012 i 2013 a 2024 i 2025. Yn 2024 i 2025, roedd 80% yn cytuno bod pobl yn yr ardal o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda; roedd 80% yn cytuno bod pobl yn trin ei gilydd â pharch ac ystyriaeth; ac roedd 73% yn cytuno eu bod yn perthyn i’r ardal leol.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
[Nodyn 1] Nid oes gan y blynyddoedd 2015 i 2016, 2017 i 2018, 2019 i 2020, 2022 i 2023 a 2023 i 2024 ddata sy’n gysylltiedig â nhw.
Teimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu
Mae ychydig dros ddwy ran o dair o oedolion yn teimlo’n ddiogel mewn gwahanol sefyllfaoedd ar ôl iddi dywyllu.
Y dangosydd cenedlaethol yw canran y bobl a gytunodd â'r pedwar datganiad am deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu gartref, wrth gerdded yn eu hardal leol, teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus neu deithio mewn car. Yn y flwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd 68% o bobl yn teimlo’n ddiogel ym mhob un o’r pedair sefyllfa. Mae’r canlyniadau hyn wedi aros yn weddol gyson ar draws y blynyddoedd ers gofyn am y tro cyntaf yn 2016 i 2017.
Mae tuedd tuag at fwy o deimlad o ddiogelwch wrth i amddifadedd yn yr ardal ostwng, gyda 74% o bobl sy'n byw yn yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf yn teimlo'n ddiogel ym mhob sefyllfa o gymharu â 57% o bobl sy'n byw yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf.
Mae gwahaniaeth amlwg yn ôl rhyw, gyda dynion yn teimlo’n fwy diogel (82%) na menywod (56%).
Roedd pobl anabl neu bobl â salwch cyfyngus hirdymor hefyd yn llai tebygol o deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu, yn ogystal â phobl 75 oed neu’n hŷn o gymharu â phobl 25 i 44 oed a phobl 45 i 64.
Nid oes gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol yn ôl ethnigrwydd o ran teimlo'n ddiogel.
Ffigur 5.2: canran y bobl sy’n cytuno â datganiadau am deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu, blwyddyn ariannol 2024 i 2025
Disgrifiad o ffigur 5.2: siart far yn dangos canran y bobl sy’n cytuno â datganiadau am deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025. Roedd 97% yn teimlo’n ddiogel gartref, roedd 97% yn teimlo’n ddiogel wrth deithio mewn car, roedd 79% yn teimlo’n ddiogel wrth gerdded yn yr ardal leol ac roedd 77% yn teimlo’n ddiogel wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
[Nodyn 1] ‘Ddim yn gwybod’ oedd ateb 16% o’r bobl a holwyd i’r cwestiwn am drafnidiaeth gyhoeddus ac ni chawsant eu cynnwys yn y dadansoddiad.
Bodlonrwydd ar yr ardal leol
Ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd 84% o bobl yn dweud eu bod yn fodlon ar eu hardal leol fel lle i fyw, sydd yn is na'r canlyniadau yn y blynyddoedd blaenorol ac yn debyg i’r hyn oedd yn cael ei nod cyn y pandemig.
Roedd pobl sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn fodlon ar eu hardal leol na phobl sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig, ac roedd hyn hefyd yn wir am bobl sydd ddim yn anabl / pobl heb salwch cyfyngus hirdymor.
Yn 2024 i 2025 roedd oedolion 16 i 24 oed yn llai tebygol nag oedolion o oedrannau eraill o fod yn fodlon ar eu hardal leol fel lle i fyw.
Ni chanfuwyd unrhyw gysylltiadau rhwng bodlonrwydd â'r ardal leol a rhyw nac ethnigrwydd.
Mynediad at wasanaethau a chyfleusterau da
Ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd 78% o bobl yn fodlon eu bod yn gallu cyrraedd neu ddefnyddio’r gwasanaethau a’r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt, o fewn 15 i 20 munud ar droed o’u cartref, sy’n is na’r cyfrannau a welwyd yn y blynyddoedd blaenorol.
Roedd hyn yn amrywio yn ôl y math o ardal gyda chanran ystadegol arwyddocaol is o bobl o ardaloedd gwledig yn cael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau da o’i gymharu â’r rhai o ardaloedd trefol (74% o’i gymharu ag 81%). Nid yw’n syndod mai preswylwyr pentrefannau ac anheddau ynysig oedd y lleiaf bodlon â’u mynediad at wasanaethau a chyfleusterau da, gyda dim ond 67% yn dangos eu bod yn fodlon ar y dangosydd hwn.
Mae oedolion 16 i 24 oed yn fwy tebygol o fod yn fodlon ar eu gallu i gael gafael ar wasanaethau a chyfleusterau da nag oedolion 75 oed neu’n hŷn. Yn yr un modd, mae hyn hefyd yn wir am bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol o gymharu â phobl Wyn (Cymreig, Seisnig, Prydeinig ac ati). Mae gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol hefyd o ran bod yn fodlon ar y gallu i gael gafael ar wasanaethau a chyfleusterau da yn ôl a yw rhywun yn anabl / â salwch cyfyngus hirdymor (72% yn fodlon) neu beidio (82% yn fodlon).
Ni welir unrhyw wahaniaeth ystadegol arwyddocaol yn ôl rhyw neu amddifadedd ardal.
Ffigur 5.3: mynediad at wasanaethau a chyfleusterau da yn ôl ardal, blwyddyn ariannol 2024 i 2025
Disgrifiad o ffigur 5.3: siart far yn dangos canran y bobl sy’n fodlon â’u mynediad at wasanaethau a chyfleusterau da. Mae 81% o bobl mewn ardaloedd trefol yn fodlon o’i gymharu â 67% o bobl sy’n byw mewn pentrefannau ac anheddau ynysig.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Dylanwadu ar benderfyniadau lleol
Mae canlyniadau blwyddyn ariannol 2024 i 2025 yn dangos bod cyfran y bobl sy'n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau lleol wedi gostwng, gan ddychwelyd i'r hyn a welwyd cyn y pandemig.
Yn 2024 i 2025, roedd 19% o bobl yn teimlo y gallent ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol o’i gymharu â 30% yn 2021 i 2022, 26% yn 2020 i 2021 a 19% yn 2018 i 2019. Bydd angen monitro mewn blynyddoedd arolwg yn y dyfodol i weld a oedd y ffigurau uwch a welwyd yn 2020 i 2021 a 2021 i 2022 o ganlyniad i'r pandemig, gyda'r cyfrannau'n dychwelyd i lefelau cyn y pandemig o 2024 i 2025 ymlaen.
O ran rheoli ffactorau eraill, ni chafwyd unrhyw wahaniaethau ystadegol arwyddocaol o ran oedran, rhyw, p’un a oedd gan rywun anabledd / salwch cyfyngus hirdymor, ethnigrwydd nac o ran amddifadedd ardal.
Ffigur 5.4: canran y bobl sy’n teimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar yr ardal leol, rhwng blynyddoedd ariannol 2012 i 2013 a 2024 i 2025
Disgrifiad o ffigur 5.4: siart linell yn dangos canran y bobl sy’n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol. Ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd 19% o bobl yn teimlo y gallent ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol, gan ddychwelyd i’r lefelau a welwyd ddiwethaf yn 2018 i 2019. Mae hyn yn cymharu â chanrannau o 30% a 26% yn 2021 i 2022 a 2020 i 2021, yn y drefn honno.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Gwirfoddoli
Roedd canlyniadau data ar-lein a gasglwyd fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2024 i 2025 yn dangos bod 32% o bobl wedi dweud eu bod yn gwirfoddoli i glybiau neu sefydliadau. Mae hyn yn cymharu â 26% yn 2019 i 2020 (pan gynhaliwyd yr arolwg wyneb yn wyneb), 29% yn 2021 i 2022 (pan ofynnwyd y cwestiynau gwirfoddoli fel rhan o’r modiwl ar-lein am y tro cyntaf) a 30% yn 2022 i 2023 (gan gasglu data ar-lein yn unig unwaith eto). Ym mhob blwyddyn, roedd y bobl fwyaf cyffredin yn gwirfoddoli ar gyfer elusennau a chlybiau chwaraeon.
Yn 2024 i 2025, gwirfoddolodd cyfran uwch o oedolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (45%) nag oedolion Gwyn (Cymreig, Seisnig, Prydeinig ac ati) (32%), fel y gwnaeth cyfran uwch o bobl heb anabledd a phobl heb salwch cyfyngus hirdymor (35%) o’i gymharu â phobl anabl a phobl â salwch cyfyngus hirdymor (27%).
Mae gwirfoddoli’n tueddu i gynyddu gydag oedran, gan gyrraedd uchafbwynt ymysg pobl 65 i 74 oed (39%) cyn disgyn ychydig ymysg pobl 75 oed a hŷn (37%). Y rhai 16 i 24 oed yw’r lleiaf tebygol o wirfoddoli (25%). Mae gwirfoddoli hefyd yn cynyddu wrth i amddifadedd ardal leihau, gyda phobl o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig (21%) yn llai tebygol o wirfoddoli na phobl o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig (39%)
Nid oes gwahaniaethau sy’n arwyddocaol yn ystadegol yn ôl rhyw.
Ffigur 5.5: canran y bobl sy’n gwirfoddoli yn ôl math o sefydliad, blwyddyn ariannol 2024 i 2025
Disgrifiad o ffigur 5.5: siart far yn dangos canran y bobl sy’n gwirfoddoli, yn ôl math o sefydliad, ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025. Mae pobl yn fwy tebygol o wirfoddoli ar gyfer mudiadau elusennol (12%) neu glybiau chwaraeon (9%).
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer y dangosydd gwirfoddoli yw “cynyddu canran y bobl sy’n gwirfoddoli 10% erbyn 2050, gan ddangos statws Cymru fel cenedl sy'n gwirfoddoli”. Mae hyn yn golygu cyrraedd ffigur o 30% erbyn 2050. Cyrhaeddwyd y garreg filltir hon yn 2022 i 2023 ac mae'n parhau i gael ei chyrraedd ar sail canlyniadau 2024 i 2025.
Unigrwydd
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn casglu data gan ddefnyddio graddfa unigrwydd De Jong Gierveld sy’n mynd i'r afael â chwe mesur o unigrwydd emosiynol a chymdeithasol.
Ni chafodd cwestiwn ar unigrwydd ei gynnwys yn Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 i 2025. Yn 2022 i 2023, yn seiliedig ar y chwe mesur, canfuwyd bod 13% o bobl yng Nghymru yn unig, sef yr un ganran ag yn 2021 i 2022 a 2020 i 2021 ac yn is nag yn 2019 i 2020. Fodd bynnag, roedd amrywiadau amlwg yng nghanran y bobl oedd yn dweud eu bod yn teimlo’n unig ar draws y mesurau unigol:
- yn 2019 i 2020, dywedodd 36% o bobl eu bod yn gweld eisiau cael pobl o gwmpas. Cynyddodd hyn yn sylweddol yn ystod pandemig COVID-19 (71% yn 2020 i 2021 a 53% yn 2021 i 2022), cyn gostwng i 36% eto yn 2022 i 2023.
- roedd canran y bobl a ddywedodd bod ganddynt bobl y maent yn gallu ymddiried yn llwyr ynddynt wedi cynyddu o 59% yn 2019 i 2020 i 67% yn 2020 i 2021. Cafodd hyn ei gynnal yn 2021 i 2022 a 2022 i 2023.
- rhwng 2019 i 2020 a 2021 2022, roedd cynnydd yng nghanran y bobl a ddywedodd fod ganddynt ddigon o bobl roeddent yn teimlo’n agos atynt, a digon o bobl y gallent ddibynnu arnynt. Roedd y ffigurau ar gyfer 2022 i 2023 ychydig yn is ond nid yn newid arwyddocaol yn ystadegol o 2020 i 2021.
Roedd canlyniadau diweddaraf (2022 i 2023) Arolwg Cenedlaethol Cymru yn awgrymu bod oedolion iau (16 i 44 oed) yn fwy tebygol o deimlo’n unig na phobl 65 oed a hŷn.
Roedd pobl sy’n byw mewn amddifadedd materol, ac unigolion oedd â chyflwr iechyd meddwl neu sydd ag iechyd cyffredinol gwaeth, yn fwy tebygol o fod yn unig.
Roedd gwahaniaethau hefyd yn ôl ethnigrwydd, gyda phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn fwy tebygol o fod yn unig.
Gall effaith yr anghydraddoldebau hyn waethygu pan fyddant yn croestorri.
Ffigur 5.6: canran y bobl sy’n teimlo’n unig yn ôl rheswm rhwng blynyddoedd ariannol 2019 i 2020 a 2022 i 2023
Disgrifiad o ffigur 5.6: siart far yn dangos y canlyniadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2019 i 2020 i flwyddyn ariannol 2022 i 2023 a’r chwe chwestiwn a ofynnwyd i greu’r mesur o unigrwydd. Yn gyffredinol, roedd yr ymatebion i’r datganiadau yn dangos bod pobl yn llai unig yn 2022 i 2023 o’i gymharu â 2019 i 2020.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Allgáu digidol
Cafodd dangosydd cenedlaethol newydd ei osod yn 2021 a fydd yn mesur statws cynhwysiant digidol. Mae profion gwybyddol yn cael eu cynnal ar set newydd o gwestiynau sy’n cyd-fynd ag egwyddorion y safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol i’w cynnwys mewn camau o Arolwg Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol. Mae’r cwestiynau yn seiliedig ar ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gynhaliwyd gan Brifysgol Lerpwl. Pan fydd y cwestiynau wedi’u cwblhau’n derfynol, byddant yn darparu data i fesur allgáu digidol ledled Cymru ac yn cyfrannu at y dangosydd cenedlaethol.
Yn y cyfamser, mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025 yn dangos bod 96% o oedolion yn defnyddio’r rhyngrwyd at ddibenion personol yn y cartref, yn y gwaith neu yn rhywle arall, cynnydd o’r 93% a welwyd yn 2020 i 2021, 2021 i 2022 a 2022 i 2023.
Mae data Arolwg Cenedlaethol Cymru hefyd yn dangos, er bod bron pob person 16 i 64 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd, bod hyn yn gostwng i 96% o bobl 65 i 74 oed a 82% o’r rheini sy’n 75 oed a hŷn. Yn ddiddorol, mae'r lefelau ar gyfer y grwpiau oedran hŷn hyn yn uwch yn 2024 i 2025 o'i gymharu â 2022 i 2023 pan oeddent yn 89% a 68%, yn y drefn honno.
Mae defnydd personol uwch ystadegol arwyddocaol o'r rhyngrwyd hefyd yn amlwg yn 2024 i 2025 ymysg pobl sydd ddim yn anabl / pobl heb salwch cyfyngus hirdymor, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (o'i gymharu â phobl Wyn (Cymreig, Seisnig, Prydeinig ac ati) a phobl sy'n byw yn ardaloedd lleiaf difreintiedig Cymru.
Nid oes gwahaniaethau sy’n arwyddocaol yn ystadegol yn ôl rhyw.
Digartrefedd
Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae canran yr aelwydydd y llwyddwyd i’w hatal rhag digartrefedd a’u rhyddhau o ddigartrefedd wedi gostwng ychydig, ac mae nifer yr unigolion mewn llety dros dro wedi gostwng. Mae’r amcangyfrif o nifer yr unigolion sy’n cysgu allan yn uwch.
Atal digartrefedd
Ymysg aelwydydd yng Nghymru a oedd dan fygythiad o ddigartrefedd rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025, cafodd digartrefedd ei atal am o leiaf 6 mis mewn 57% o’r achosion. Mae hyn yn debyg i’r gyfran o 58% ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024 a 29% ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023, ond mae’n gostwng ychydig ers 2017 i 2018 i 2021 i 2022 lle roedd atal yn llwyddiannus mewn tua dwy ran o dair o achosion.
Rhyddhad o ddigartrefedd
Roedd cyfran yr aelwydydd a ryddhawyd o ddigartrefedd wedi aros yn gymharol sefydlog o 2016 i 2017 i 2019 i 2020. Fodd bynnag, mae wedi bod yn gostwng ers hynny, o 41% yn 2019 i 2020 i 25% yn 2024 i 2025.
Ffigur 5.7: canran yr aelwydydd y llwyddwyd i’w hatal rhag digartrefedd a’u rhyddhau o ddigartrefedd, rhwng blynyddoedd ariannol 2015 i 2016 a 2024 i 2025
Disgrifiad o ffigur 5.7: siart linell yn dangos canrannau’r aelwydydd a gafodd eu hatal rhag digartrefedd a’u rhyddhau o ddigartrefedd yng Nghymru rhwng blwyddyn ariannol 2015 i 2016 a2024 i 2025. Mae’r siart yn dangos bod canrannau’r aelwydydd sy’n cael eu hatal rhag bod yn ddigartref yng Nghymru wedi aros yn gymharol gyson rhwng 2015 i 2016 a 2021 i 2022 cyn disgyn yn 2022 i 2023 ac aros ar lefel debyg ar gyfer 2023 i 2024 a 2024 i 2025. Yn yr un modd, roedd canrannau'r aelwydydd a ryddhawyd o ddigartrefedd yng Nghymru hefyd yn sefydlog rhwng 2016 i 2017 a 2020 i 2021, ac ar ôl hynny bu gostyngiad yn 2021 i 2022, 2022 i 2023 a 2023 i 2024, gydag hyn hefyd yn wir yn 2024 i 2025
Ffynhonnell: Digartrefedd statudol (dangosyddion allweddol)
Llety dros dro
Mae gwybodaeth fisol yn dangos bod 10,933 o unigolion mewn llety dros dro ar 30 Mehefin 2025, a oedd yn ostyngiad o 3% ar y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn groes i’r cynnydd a welwyd yn nifer yr unigolion mewn llety dros dro dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd tua chwarter y rhain (2,604) yn blant dibynnol o dan 16 oed, gostyngiad o 10% ers y flwyddyn flaenorol.
Y math mwyaf cyffredin o lety dros dro oedd gwely a brecwast a gwestai, a oedd yn darparu llety i 2,909 o unigolion.
Cysgu allan
Ar 30 Mehefin 2025, amcangyfrifwyd bod 166 o unigolion yn cysgu allan ledled Cymru. Mae hyn 13 yn fwy na'r 153 o unigolion oedd yn cysgu allan ar 30 Mehefin 2024 a 7 yn llai na'r 173 o unigolion oedd yn cysgu allan ar 30 Mehefin 2023.
Sir Benfro (31), Caerdydd (28), Ceredigion (21), Abertawe (16) a Chasnewydd (11) oedd yr awdurdodau lleol a nododd y niferoedd uchaf o unigolion yn cysgu allan. Nododd pob awdurdod lleol arall fod 9 neu lai o unigolion yn cysgu allan, gyda 3 awdurdod lleol yn adrodd sero.
Troseddu a chyfiawnder
Hyder yn y system gyfiawnder
Gosodwyd dangosydd cenedlaethol newydd yn 2021 i fesur canran y bobl sydd â hyder yn y system gyfiawnder. Mae'r system gyfiawnder yn eang ac yn gymhleth, gydag agweddau troseddol ac anhroseddol y mae angen eu cofnodi yn y dangosydd hwn. Dewiswyd 3 metrig i fesur y dangosydd hwn: effeithiolrwydd canfyddedig y system cyfiawnder troseddol, tegwch canfyddedig y system cyfiawnder troseddol, a hygyrchedd y system cyfiawnder anhroseddol.
Er mwyn asesu canfyddiadau o'r system cyfiawnder troseddol, mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (CSEW) yn gofyn i bobl 16 oed a hŷn:
- a ydyn nhw’n hyderus bod y system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd yn effeithiol
- a ydyn nhw’n cytuno bod y system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd yn deg.
Roedd ychydig o dan hanner (48%) yr holl ymatebwyr yng Nghymru yn hyderus bod y system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd yn effeithiol yn flwyddyn ariannol 2024 i 2025 yr arolwg. Mae hyn wedi gostwng o'i gymharu ag arolwg 2019 i 2020 (54%).
Roedd 65% o'r ymatebwyr yng Nghymru yn cytuno bod y system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd yn deg yn arolwg 2024 i 2025. Mae hyn wedi cynyddu ers 2019 i 2020 (59%).
Er mwyn asesu canfyddiadau o'r system gyfiawnder y tu hwnt i gyfiawnder troseddol, defnyddiwyd sgôr hygyrchedd cyfiawnder yr Arolwg Anghenion Cyfreithiol (a gynhaliwyd gan Gymdeithas y Gyfraith a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol). Mae'r sgôr yn mesur i ba raddau y mae rhywun yn meddwl bod y system gyfiawnder (ac eithrio cyfiawnder troseddol) yn hygyrch, gan ystyried materion fel mynediad hawdd, tegwch ac effeithlonrwydd.
Yn Arolwg Anghenion Cyfreithiol 2023, roedd gan tua 1 o bob 4 o bobl yng Nghymru (24%) sgôr isel, oedd yn dangos eu bod yn meddwl nad oedd cyfiawnder yn hygyrch. Mae hyn yn gynydd o'r 19% yn arolwg 2019. Gostyngodd cyfran y bobl â sgoriau uchel, oedd yn nodi eu bod yn credu bod cyfiawnder yn hygyrch iawn, i 17% (o 24% yn 2019), tra bod cyfran y bobl â sgoriau canolig yn debyg (59% yn 2023 o'i gymharu â 58% yn 2019).
Dioddefwyr troseddau a chanfyddiadau o droseddau
Ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd 6% o oedolion yng Nghymru wedi dioddef trosedd (tebyg i 7% yn y flwyddyn flaenorol) ac roedd 2% wedi dioddef trosedd bersonol (yr un peth a’r flwyddyn flaenorol). Rydym wedi gweld tuedd ar i lawr yn y gyfres amser sydd ar gael o 2015 i 2016, pan oedd y canrannau’n 15% a 4%.
Mae’r data diweddaraf ar ganfyddiadau o droseddu yn 2024 i 2025 yn dangos bod tua hanner y bobl yng Nghymru (51%) yn credu bod troseddu wedi codi’n sylweddol yn genedlaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn wedi cynyddu o 41% yn 2022 i 2023, ac yn debyg i’r lefelau cyn y pandemig o 53% yn 2018 i 2019 a 2019 i 2020 (nid oes data ar gael ar gyfer 2020 i 2021 na 2021 i 2022).
Mae canran y rhai sy’n credu bod troseddu wedi cynyddu’n sylweddol yn eu hardal leol yn llawer iawn llai (18%). Mae’r ffigur hwn wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig ar ôl gostwng i 11% yn 2022 i 2023.
Troseddau a gofnodir gan yr heddlu
Roedd troseddau a gofnodir gan yr heddlu yng Nghymru (ac eithrio twyll) wedi gostwng 1% ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Gostyngodd trais yn erbyn y person 3%, er bod y gyfradd fesul 1,000 o’r boblogaeth yn dal yn sylweddol uwch na degawd yn ôl (Ffigur 5.8).
Gwelwyd cynnydd mewn pump o’r naw prif gategori o droseddau yn 2024 i 2025 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gan gynnwys troseddau yn ymwneud â chyffuriau (cynnydd o 28%), troseddau amrywiol yn erbyn cymdeithas (cynydd o 22%) a throseddau rhywiol (cynnydd o 11%).
Ymysg y prif gategorïau eraill o droseddau, bu gostyngiad mewn difrod troseddol a llosgi bwriadol (gostyngiad o 7%) a throseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus (gostyngiad o 4%).
Mae troseddau yn ymwneud â thwyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron wedi gostwng 4% yng Nghymru rhwng 2023 i 2024 a 2024 i 2025 er bod y gyfradd wedi aros yr un fath ar bum trosedd am bob 1,000 o'r boblogaeth yng Nghymru.
Ffigur 5.8: troseddau a gofnodir gan yr Heddlu am bob 1,000 o'r boblogaeth, rhwng blynyddoedd ariannol 2002 i 2003 a 2024 i 2025
Disgrifiad o ffigur 5.8: siart linell yn dangos cyfraddau troseddau a gofnodir gan yr heddlu am bob 1,000 o’r boblogaeth yng Nghymru rhwng blwyddyn ariannol 2002 i 2003 a 2024 i 2025. Mae’r siart yn dangos mai cyfraddau troseddau dwyn sydd wedi newid fwyaf, gan ddisgyn o dros 50 am bob 1,000 o’r boblogaeth yn 2002 i 2003 i tua 20 am bob 1,000 o’r boblogaeth yn y blynyddoedd diweddaraf. Roedd troseddau trais yn erbyn y person wedi bod yn cynyddu ers 2013 i 2014 ac ers 2018 i 2019 roedd y gyfradd yn uwch nag erioed, er ei bod wedi gostwng yn 2023 i 2024 a 2024 i 2025. Gwelodd difrod troseddol a llosgi bwriadol ostyngiad mewn cyfraddau tan 2016 i 2017 ond ers hynny maent wedi bod yn sefydlog hyd at yr ychydig flynyddoedd diwethaf lle gwelwyd gostyngiadau bach mewn cyfraddau. Cyfradd troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus oedd yr isaf am bob 1,000 o'r boblogaeth tan 2020 i 2021, pan ddechreuodd y gyfradd godi yn uwch na chyfradd difrod troseddol a thanau bwriadol.
Ffynhonnell: Troseddau a gofnodir gan yr Heddlu (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Troseddau casineb
Roedd gostyngiad o 2% mewn troseddau casineb a gofnodwyd ledled Cymru ym mlwyddyn ariannol 2023 i 2024 o’i gymharu â 2022 i 2023. Cofnodwyd 5,929 o droseddau casineb ar draws pedair ardal heddlu Cymru, ac o’r rhain roedd:
- 61% yn droseddau casineb ar sail hil
- 19% yn droseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol
- 13% yn droseddau casineb ar sail anabledd
- 6% yn droseddau casineb ar sail crefydd
- 5% yn droseddau casineb ar sail trawsrywedd
O’i gymharu â 2022 i 2023, roedd cynnydd yn nifer y troseddau casineb â statws crefydd neu drawsryweddol fel ffactorau cymell a gofnodwyd, ac roedd gostyngiadau mewn troseddau casineb gydag anabledd, hil a chyfeiriadedd rhywiol fel ffactorau cymell a gofnodwyd:
- cynnydd o 21% mewn troseddau casineb ar sail crefydd
- cynnydd o 1% mewn troseddau casineb ar sail trawsrywedd
- gostyngiad o 11% mewn troseddau casineb ar sail anabledd
- gostyngiad o 7% mewn troseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol
- gostyngiad o 3% mewn troseddau casineb ar sail hil
Er bod hyn yn ffordd dda o fesur y galw sy’n gysylltiedig â throseddau casineb ar yr heddlu, oherwydd bod heddluoedd yn gwneud gwelliannau sylweddol o ran sut maent yn cofnodi troseddau ers 2014, yn ogystal â gwelliannau o ran nodi beth yw trosedd casineb, nid yw ffigurau troseddau a gofnodir gan yr heddlu yn darparu gwybodaeth ddibynadwy am dueddiadau mewn troseddau casineb ar hyn o bryd. Hefyd, ni ddylid gweld ffigurau gan yr heddlu fel mesur o ba mor gyffredin yw troseddau casineb.
Darllen pellach
Pa ffactorau sy’n gysylltiedig â phobl yn teimlo’n ddiogel yn eu hardal leol?
Pa ffactorau sy’n gysylltiedig â phobl yn teimlo’n fodlon ar yr ardal lle maent yn byw?
Pa ffactorau sy’n gysylltiedig â phobl yn cytuno bod ymdeimlad o gymuned yn eu hardal leol?
Unigrwydd (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2022 i Fawrth 2023
Adolygiad o Dystiolaeth Anghydraddoldebau Unigrwydd (Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru)
Tuag at y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol: safbwyntiau dinasyddion a rhanddeiliaid
