Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Digwyddiad Cyd-greu Penodiadau Cyhoeddus 2025.
Cynnwys
Cefndir
Mae'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru yn hwyluso digwyddiad cydweithredu a fydd yn cael ei gynnal ar 5 Tachwedd 2025. Fel rhan o'r paratoadau ar gyfer y digwyddiad hwn, mae'r tîm yn cyhoeddi ffurflen ar y we. Bydd y ffurflen hon yn gofyn am wybodaeth ynghylch anghenion dietegol a gofynion hygyrchedd, ynghyd â dewisiadau iaith a chaniatâd i dynnu a defnyddio lluniau. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod cynrychiolaeth deg o sectorau yn bresennol yn y digwyddiad.
Wrth ichi lenwi'r ffurflen, bydd Llywodraeth Cymru yn cael gwybodaeth bersonol (enw a chyfeiriad e-bost) sy'n gysylltiedig â'ch ymatebion.
Mae Llywodraeth Cymru yn cael yr wybodaeth bersonol hon (enw, cyfeiriadau e-bost ac ymatebion) am y mynychwyr pan fyddant yn cyflwyno eu hymatebion.
Beth rydyn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth?
Bydd yr wybodaeth bersonol a ddarperir gennych yn cael ei chadw er mwyn sicrhau bod yr addasiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud o ran gofynion hygyrchedd, ac i sicrhau bod opsiynau bwyd priodol yn cael eu darparu ar gyfer unrhyw anghenion dietegol, yn ogystal ag ystyried a oes gofynion cyfieithu'n codi, os bydd 10% neu fwy o'r mynychwyr yn nodi'r Gymraeg fel eu dewis iaith.
Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio i anfon rhagor o wybodaeth atoch cyn y gweithdy. Ni fydd yn bosibl i Lywodraeth Cymru na chynrychiolwyr eraill weld unrhyw wybodaeth bersonol fel rhan o'r gweithdy gan y bydd gohebiaeth yn cael ei hanfon gan ddefnyddio mesurau sy'n cadw cyfeiriadau e-bost a gwybodaeth bersonol yn ddiogel.
Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio’ch data?
Ni, sef Llywodraeth Cymru, fydd y rheolydd data ar gyfer y data personol y byddwch yn eu darparu. Mae hyn yn sicrhau bod yr holl fesurau'n cael eu defnyddio i ddiwallu eich gofynion hygyrchedd, eich anghenion dietegol, eich dewisiadau ynghylch ffotograffiaeth yn y digwyddiad, a'r defnydd o luniau yn y dyfodol. Yn ogystal â hyn, byddwn yn ystyried eich dewis o ran iaith. Byddwn yn defnyddio'r data hyn wrth gynllunio ar gyfer y diwrnod, ac i sicrhau bod eich anghenion yn cael eu diwallu.
Rydym yn gofyn am fanylion eich sefydliad er mwyn helpu i sicrhau bod cynrychiolaeth deg o sectorau yn bresennol yn y digwyddiad. Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw ein buddiant cyfreithlon mewn cynnal digwyddiad cynrychiadol ac amrywiol.
Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth?
Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw manylion cyswllt cyfranogwyr, ac unrhyw wybodaeth a anfonwyd atynt gan gyfranogwyr, nes bod y gweithdy wedi'i gwblhau.
Ni fydd yr wybodaeth yn cael ei rhannu y tu allan i Lywodraeth Cymru.
Eich hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- gweld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch;
- ei gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
- gofyn am i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
- cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif ffôn:
Gwefan: www.ico.gov.uk
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r defnydd ohoni, neu os ydych chi'n dymuno arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
