Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Gellir disgrifio gwersyll diawdurdod fel gwersyll carafannau a/neu gerbydau ar dir heb ganiatâd y tirfeddiannwr neu ddeiliad y tir. Mae'n cael ei ystyried yn fath o dresmasu.

Mae teitl y canllawiau hyn wedi cael ei ddiweddaru o reoli gwersylla diawdurdod i reoli gwersylloedd diawdurdod, a hynny er mwyn adlewyrchu'r ystod ehangach o sefyllfaoedd lle gallai hyn ddigwydd. Bwriad y newid hwn yw meithrin dull mwy cynhwysol o fynd i'r afael â'r anghenion a'r heriau sy'n wynebu cymunedau Sipsiwn a Theithwyr.

Gall gwersyll diawdurdod gynnwys unrhyw grŵp o unigolion neu gerbydau sy'n tresmasu ar dir. Fodd bynnag, bwriad y canllawiau hyn yw mynd i’r afael â materion penodol sy’n ymwneud â gwersylloedd diawdurdod Sipsiwn a Theithwyr.

Mae gwersyll diawdurdod yn wahanol i achosion lle mae’r tir wedi’i brynu a’i feddiannu gan Sipsiwn a Theithwyr heb i’r caniatâd cynllunio priodol fod yn ei le. Gelwir hynny'n safle preifat heb ganiatâd cynllunio, ac nid yw'r canllawiau hyn yn ymdrin â hynny.

Gall gwersylloedd diawdurdod fod yn destun tensiwn mewn cymunedau ac mae angen eu trin yn sensitif gan fod angen i awdurdodau lleol a chyhoeddus gydbwyso hawliau Sipsiwn a Theithwyr a hawliau trigolion lleol.

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu pwysigrwydd llety sy’n briodol yn ddiwylliannol i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Ei nod yw:

“Cydnabod bod angen llety diogel diwylliannol briodol er mwyn i unigolion  ffynnu mewn rhannau eraill o’u bywydau ac er mwyn ymdrin â’r prinder safleoedd a’r llety o ansawdd gwael sydd ar gael i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau cyfle cyfartal i bob rhan o’r gymuned a rhaid i Sipsiwn a Theithwyr gael yr un mynediad at lety diogel ac addas sy’n briodol yn ddiwylliannol â phob aelod arall o’r gymuned.

Ar ôl ymgysylltu â'r gymuned ynglŷn â’r canllawiau, roedd yr ymateb yn glir: Mae teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr yn chwilio am ddull parchus, un sy'n rhoi blaenoriaeth i wrando ar bob safbwynt ac sy'n ceisio deall pam mae gwersylloedd diawdurdod yn digwydd. Dylai pob parti ddangos ymwybyddiaeth ddiwylliannol a chydnabod bod Sipsiwn a Theithwyr yn dilyn ffordd nomadig o fyw.

Mae mynd ati mewn ffordd sy’n seiliedig ar hawliau dynol i ddatblygu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn hanfodol er mwyn sicrhau tegwch, cynhwysiant a dull gwirioneddol gydweithredol o sicrhau bod anghenion cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu diwallu. Mae'r dull hwn yn cyd-fynd â phwyslais y Canllawiau ar gydgynhyrchu, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, sydd i gyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu cynhwysol a chynrychioladol.

Mae'r elfennau hyn yn rhoi sylfaen gref i awdurdodau lleol ar gyfer ymateb i wersylloedd diawdurdod, lle cydnabyddir bod hawliau'n bethau y mae gan bob unigolyn hawl iddynt. 

Diffinnir 'Sipsiwn a Theithwyr' yn adran 108 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 fel a ganlyn:

  1. Personau sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys
    1. personau sydd, ar sail eu hanghenion addysg, eu hanghenion iechyd neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg, anghenion iechyd neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol, a
    2. aelodau o grŵp trefnedig o siewmyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio), ac
  2. Unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol.

Bwriad y diffiniad uchod yw sicrhau bod Sipsiwn Romani ethnig a Theithwyr Gwyddelig yn cael eu cynnwys, yn ogystal â phobl o unrhyw grŵp ethnig sy’n arfer ffordd nomadig o fyw. Mae’r diffiniad hefyd yn cynnwys Siewmyn Teithiol. Bydd Teithwyr Newydd yn cael eu cynnwys yn y diffiniad hefyd os ydynt yn dilyn traddodiad diwylliannol o nomadiaeth.

Er bod pob un o'r grwpiau hyn yn gysylltiedig â'r ffordd deithiol a nomadig o fyw a’u bod o bosibl yn rhannu rhai credoau ac arferion cyffredin, mae gan bob grŵp ei ethnigrwydd, ei iaith a’i draddodiadau unigryw, ac mae’n debygol y byddai’r anghenion ar gyfer defnyddio gwersylloedd dros dro yn wahanol hefyd.

O dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP), mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i gynnal hawliau plant a phobl ifanc, gan gynnwys eu hawl i fynegi eu barn yn rhwydd ym mhob mater sy'n effeithio arnynt. Mae'r ddyletswydd hon yn arbennig o berthnasol wrth ymateb i wersylloedd diawdurdod, lle mae penderfyniadau'n debygol o gael effeithiau uniongyrchol ac arwyddocaol ar les ac ar amodau byw plant.

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a'r egwyddorion sydd wedi'u hymgorffori ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, mae'n hanfodol bod awdurdodau lleol yn gwreiddio dull gweithredu sy'n rhoi pwyslais ar hawliau’r plentyn ym mhob cam o'u prosesau ymgysylltu a gwneud penderfyniadau.  Mae Erthygl 27 CCUHP yn rhoi'r hawl i blant gael safon byw ddigonol, ac yn ôl Erthygl 19, mae gan blant yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag niwed.

Mae Erthygl 31, sy'n cynnal yr hawl i blant allu gorffwyso a chael cyfleoedd hamdden a chwarae, yn tynnu sylw at yr angen am fannau chwarae diogel a hygyrch.

Gall gwersylloedd anawdurdodedig, mewn rhai amgylchiadau, fod â mynediad cyfyngedig at wasanaethau hanfodol fel glanweithdra a rheoli gwastraff a gallant fod yn gysylltiedig â mwy o gysylltiad â pheryglon amgylcheddol a gwahaniaethu ac allgáu cymdeithasol. Gall y ffactorau hyn effeithio'n andwyol ar safon byw plant sy'n byw ar safleoedd o'r fath.

Gyda'i gilydd, mae'r darpariaethau hyn yn rhoi fframwaith ar gyfer sicrhau bod plant a phobl ifanc nid yn unig yn cael eu hystyried mewn perthynas ag anghenion tai yn y dyfodol, ond yn cael eu parchu fel unigolion sydd â hawliau, profiadau a safbwyntiau cyfredol sy'n gorfod siapio'r amgylcheddau y maent yn byw ynddynt.

Y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r egwyddor o drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (y “Mesur”) yn darparu ar gyfer pennu safonau ymddygiad sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Mae’r safonau presennol ar gyfer awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru yn cael eu pennu yn Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015.

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyflwyno hysbysiad cydymffurfio i Weinidogion Cymru yn nodi pa safonau sy’n berthnasol i unrhyw weithgaredd neu wasanaeth a ddarperir gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan ar hyn o bryd.

Mae gan bob awdurdod lleol ei Hysbysiad Cydymffurfio Iaith Gymraeg ei hun, a orfodir gan y Comisiynydd.

Y darlun yng Nghymru

Mae Sipsiwn a Theithwyr yn gynhenid i Gymru. Roedd y Cyfrifiad diweddaraf yn 2021 yn amcangyfrif bod tua 3,600 o boblogaeth breswyl arferol Cymru (0.1%) yn nodi eu bod yn Sipsiwn neu'n Deithwyr Gwyddelig ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn comisiynu pob awdurdod lleol yng Nghymru i gyfrif carafannau ddwywaith y flwyddyn. Defnyddir y comisiynau hyn i fonitro niferoedd carafannau fel rhan o waith monitro’r awdurdodau lleol ar anghenion llety, a ddefnyddir fel data wrth gynnal Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr.

Mae’n debygol bod y ffigur hwn yn is nag y dylai fod, gan ystyried ei fod yn mesur poblogaeth dros dro, a chan nad yw data ethnigrwydd yn cael ei gofnodi’n ddigonol yn aml. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod mwy o Sipsiwn a Theithwyr a charafannau yng Nghymru na lleiniau parhaol na mannau aros tramwy neu  dros dro/a negodwyd. Ar adeg cyhoeddi hyn, nid oes safleoedd tramwy na mannau aros dros dro/a negodwyd yng Nghymru.

Mae’r cyfrif carafannau hefyd yn debygol o danamcangyfrif gwir nifer y carafannau ar wersylloedd diawdurdod yng Nghymru. Mae’r cyfrif yn dibynnu ar swyddogion awdurdodau lleol yn diweddaru ac yn cysoni data ar y dyddiadau cyfrif a ddewiswyd neu'n fuan wedyn, ac efallai na fydd nifer fach o awdurdodau lleol yn gallu cwblhau’r camau hyn ar gyfer unrhyw gyfrif. Ar ben hynny, efallai na fydd awdurdodau lleol yn sylwi ar wersylloedd diawdurdod, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig mwy o faint a byddant yn cael eu hepgor o’r cyfrif.

Mae’r cyfrif carafannau yn rhoi cipolwg ar nifer y carafannau a’r safleoedd ar tua 2 ddiwrnod ym mis Ionawr a mis Gorffennaf. Oherwydd y ffordd y mae wedi'i gynllunio, dim ond y carafannau a welir ar y dyddiau hynny sy'n cael eu cyfrif, felly ni fydd y ffigurau hyn yn adlewyrchu natur nomadig Sipsiwn a Theithwyr na pha mor aml y mae angen llety dros dro arnynt. Nid yw’r cyfrif carafannau ychwaith yn rhoi unrhyw dystiolaeth o batrymau mudo.

Yng Nghymru, mae gwersylloedd diawdurdod yn tueddu i ymddangos ar hyd y prif lwybrau trafnidiaeth a oedd, yn draddodiadol, yn darparu cyfleoedd gwaith, yn ogystal â mynediad at y prif borthladdoedd ar gyfer Iwerddon. Mae’r prif lwybrau ar hyd coridor yr M4 fel y prif lwybr o’r dwyrain i’r gorllewin yn ne Cymru, yr A470 fel y prif lwybr o’r gogledd i’r de, ac ar hyd yr A55 fel y cyswllt o’r dwyrain i’r gorllewin yng ngogledd Cymru. Fodd bynnag, ceir gwersylloedd ledled Cymru, ac yn aml nid ydynt yn agos at y llwybrau prysur hyn.

Yn ogystal, mae’n bosibl y bydd Sipsiwn a Theithwyr yn ailymweld â’r un llefydd os ydynt yn gwybod bod mynediad ar gael at y cyfleusterau sydd eu hangen arnynt neu eu bod wedi cael profiadau da gyda'r awdurdodau lleol.

Gall diffyg darpariaeth mannau aros tramwy a thros dro/a negodwyd arwain at wersylloedd diawdurdod. Mae Sipsiwn a Theithwyr sy'n nomadig fel arfer yn defnyddio gwersylloedd diawdurdod am gyfnodau byr – diwrnodau neu wythnosau, cyn symud ymlaen eto.

Efallai y bydd gan rai awdurdodau lleol yng Nghymru fwy o wersylloedd diawdurdod nag eraill. Fodd bynnag, mae pob awdurdod lleol yn debygol o gael profiad o wersylloedd diawdurdod, a dylai fod ganddynt bolisïau a gweithdrefnau i sicrhau yr ymdrinnir â nhw mewn ffordd sy’n effeithiol, yn ddiogel ac yn sensitif i bawb dan sylw. Er mwyn hwyluso hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r canllawiau hyn i helpu awdurdodau lleol i ddatblygu eu polisïau eu hunain ac, wrth wneud hynny, i gefnogi ffordd o fyw Sipsiwn a Theithwyr.

Ar gyfer pwy mae’r canllawiau hyn?

Mae'r canllawiau hyn wedi'u hanelu at unrhyw un sy'n ymdrin â gwersylloedd diawdurdod Sipsiwn a Theithwyr, ond mae'n arbennig o bwysig i awdurdodau lleol Cymru, sydd â nifer o ddyletswyddau cyfreithiol i sicrhau llesiant y cymunedau hyn.

Fodd bynnag, gall y canllawiau hefyd fod yn ddefnyddiol i dirfeddianwyr eraill, gan gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill, fel Awdurdodau Parciau Cenedlaethol neu Fyrddau Iechyd, yn ogystal â'r rheini sy'n mynd i safleoedd diawdurdod ac yn helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau statudol, fel ymwelwyr iechyd, Gwasanaethau Addysg i Deithwyr, a heddluoedd er enghraifft.

Er nad yw'r canllawiau hyn wedi'u hanelu'n bennaf at Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio dros dro mewn gwersyll diawdurdod, efallai y bydd rhai aelodau o'r gymuned yn gweld eu bod yn gyflwyniad defnyddiol i'w hawliau a'u cyfrifoldebau mewn sefyllfa o'r fath. Yn yr un modd, bydd ‘Protocolau’r Heddluoedd ar Reoli Gwersylloedd Diawdurdod’ yn helpu aelodau'r gymuned i ddeall cyfraniad yr heddlu wrth ymdrin â gwersylloedd diawdurdod.

At ddibenion y canllawiau hyn, yr awdurdod lleol fydd y tirfeddiannwr fel arfer. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad ar dir sy'n eiddo i awdurdodau lleol yn unig y ceir gwersylloedd diawdurdod. Fodd bynnag, mae gweithdrefnau a gofynion gwahanol yn berthnasol i dirfeddianwyr preifat, nad oes arnynt unrhyw ddyletswyddau statudol i’r gymuned yn yr un ffordd ag awdurdodau lleol ac awdurdodau cyhoeddus eraill. Ymdrinnir yn gryno â gweithdrefnau sy'n ymwneud â rheolau tirfeddianwyr preifat yn nes ymlaen yn y ddogfen.

Os yw tir yn eiddo i Lywodraeth Cymru neu unrhyw awdurdod cyhoeddus arall, yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am gyflawni pob un o’i ddyletswyddau statudol ar gyfer y rhai sydd mewn gwersylloedd diawdurdod yn ei ardal.

Deddfwriaeth bwysig

Mae gan awdurdodau lleol amrywiaeth o ddyletswyddau statudol tuag at Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio ac yn ymgynnull yn eu hardal. Rhestrir isod rai o'r prif ddyletswyddau, a fydd fel arfer yn berthnasol os yw unigolion ar safle awdurdod lleol neu wersyll diawdurdod.

Mae gan Sipsiwn a Theithwyr hawl i warchodaeth o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae Sipsiwn Romani a Theithwyr Gwyddelig wedi cael eu cydnabod fel grwpiau hiliol penodol at ddibenion y Ddeddf honno. Mae'r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ar sail hil unigolyn ac yn amddiffyn Sipsiwn a Theithwyr rhag cael eu trin yn annheg neu rhag gwahaniaethu mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys wrth arfer swyddogaethau cyhoeddus a darparu gwasanaethau.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 hefyd yn mynnu bod pob awdurdod lleol a chyhoeddus, pryd bynnag y maent yn arfer eu swyddogaethau, yn rhoi sylw dyledus i'r angen i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi'i wahardd o dan y Ddeddf honno. Rhaid i awdurdodau lleol hefyd hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl o wahanol gefndiroedd hiliol. Mae hyn yn cynnwys rhoi sylw priodol, yn benodol, i’r angen i wneud y canlynol:

  • dileu neu leihau'r anfanteision y mae pobl yn eu hwynebu am resymau sy'n gysylltiedig â'u hil
  • cymryd camau i ddiwallu anghenion pobl o hil benodol sy’n wahanol i anghenion pobl o gefndiroedd hiliol eraill
  • mynd i’r afael â rhagfarn a hyrwyddo dealltwriaeth

Mae gan awdurdodau lleol dyletswyddau statudol tuag at bobl ddigartref neu bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Mae Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw mewn carafannau heb unman i’w gosod yn gyfreithlon yn debygol o fod yn ddigartref yn gyfreithiol o dan y Ddeddf honno.

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 hefyd yn gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol i gynnal asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio neu’n ymgynnull yn eu hardal ac i ddarparu safleoedd lle gellir gosod cartrefi symudol i’r graddau y mae hynny’n angenrheidiol er mwyn diwallu’r anghenion hynny. Felly, mae'n amlwg ei bod yn rhaid i awdurdodau lleol ddiwallu anghenion llety tramwy'r rheini sy'n ymweld â'u hardaloedd.

Mae Rhan 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion plant pan ystyrir ei bod yn angenrheidiol i'w hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod, neu fathau eraill o niwed. Mae'r ddyletswydd hon yn drech ac yn gymwys ni waeth beth yw canlyniad unrhyw benderfyniad ar gymhwystra. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu, os yw awdurdod lleol yn nodi bod plentyn mewn perygl, rhaid iddo gymryd camau priodol i ddiogelu a hyrwyddo lles y plentyn, ni waeth a fyddai'r plentyn fel arall yn gymwys i gael cymorth o dan feini prawf cymhwystra safonol. Mae'r ddarpariaeth yn sicrhau bod lles a diogelwch plant yn parhau i fod yn hollbwysig ym mhob ymyrraeth gan awdurdod lleol.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd gyffredinol ar awdurdodau cyhoeddus i hyrwyddo llesiant oedolion a phlant sydd angen gofal a chymorth. Gall y ddyletswydd gyffredinol hon fod yn arbennig o berthnasol wrth ddelio â theuluoedd ar ochr y ffordd a allai fod angen help i gael gafael ar wasanaethau cymorth.

Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn (fel y'u mabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 16 Rhagfyr 1991). Yn ogystal â hyn, mae’n rhaid i awdurdodau lleol sy’n cyflawni swyddogaethau o dan y Ddeddf mewn perthynas â phlant sydd ag anghenion gofal a chymorth, plant sy’n ofalwyr ac angen cymorth, a phlant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n cael eu lletya, roi sylw dyledus i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (gweler penderfyniad 44/25 y Cynulliad Cyffredinol, mis Tachwedd 1989).

O dan adran 13 o Ddeddf Addysg 1996, rhaid i awdurdod lleol gyfrannu at ddatblygiad ysbrydol, moesol, meddyliol a chorfforol y gymuned drwy sicrhau bod addysg gynradd ac uwchradd effeithlon ar gael i ddiwallu anghenion poblogaeth eu hardal.

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell bod awdurdodau lleol yn cynnal asesiad lles ar bob preswylydd sy’n byw mewn gwersyll diawdurdod ar dir sy’n eiddo cyhoeddus, er mwyn sicrhau bod yr awdurdod yn cyflawni pob un o’r dyletswyddau statudol a restrir uchod. Mae hyn yn wir hyd yn oed pan nad yw’r tir y mae gwersyll diawdurdod wedi’i sefydlu arno yn eiddo i’r awdurdod lleol, ond yn hytrach yn eiddo i Lywodraeth Cymru neu awdurdod cyhoeddus arall. Bydd hyn yn galluogi’r awdurdod lleol i ddangos yn glir ei fod wedi ystyried ei gyfrifoldebau tuag at y rhai sy’n byw ar safleoedd diawdurdod yn ei ardal.

Asesiadau lles

Dylai awdurdodau lleol gynnal asesiad lles ar bawb mewn gwersylloedd diawdurdod er mwyn deall eu hanghenion a sicrhau bod yr anghenion hynny'n cael sylw fel sy'n ofynnol o dan ddyletswyddau statudol yr awdurdod lleol. Dylai’r awdurdod lleol hefyd gysylltu â gwasanaethau eraill a allai fod â chyfrifoldebau tuag atynt. Dylid gwneud y gwiriadau hyn cyn gynted â phosibl, yn ddelfrydol o fewn 24 awr i'r awdurdod lleol ddod yn ymwybodol o'r gwersyll (cyn belled ag y bo hyn yn rhesymol ymarferol). Mae ffurflen asesu lles ar gael yn Atodiad 3.

Bydd cynnal asesiad lles yn helpu awdurdodau lleol i ddeall anghenion llety teuluoedd ac i weld a oes angen llain arnynt ar safle tramwy neu fan aros dros dro/a negodwyd. Mae hefyd yn cefnogi ymdrechion i hyrwyddo diogelwch a lles, yn enwedig i blant a phobl ifanc, drwy ganfod risgiau posibl yn gynnar a’u rheoli. 

Gall awdurdodau lleol wynebu costau glanhau sylweddol ar ôl i wersyll diawdurdod adael, boed hynny’n wirfoddol neu o ganlyniad i achos llys. Fodd bynnag, gall darparu cyfleusterau casglu sbwriel, toiledau a dŵr i feddianwyr leihau’r costau glanhau hyn yn sylweddol. Gall asesiadau lles helpu awdurdodau lleol i ganfod pa rai o’r gwasanaethau hyn y gallai fod eu hangen ar y meddianwyr.

Nodau'r canllawiau

Nod y canllawiau yw:

  • rhoi arweiniad clir i bawb sy'n ymwneud â gwersylloedd diawdurdod ar eu rolau, eu cyfrifoldebau a'u hawliau
  • sicrhau dull teg, cyson a chyfreithlon o ymdrin â gwersylloedd diawdurdod, sy'n ystyried buddiannau a hawliau pawb sy'n gysylltiedig
  • nodi’r camau gweithredu sy’n cael eu hargymell, h.y. canllaw cam wrth gam ar beth i’w wneud wrth ymdrin â gwersyll diawdurdod
  • rhannu enghreifftiau o arferion da cyfredol
  • darparu templedi ar gyfer awdurdodau lleol wrth ymgymryd ag asesiadau lles
  • crynhoi'r pwerau gorfodi yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, fel y'u mewnosodwyd gan Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd 2022