Canllawiau ar reoli gwersylloedd diawdurdod - Pennod 4: deddfwriaeth
Canllawiau’n egluro sut y dylai awdurdodau cyhoeddus ddelio â cherbydau sydd ar dir heb gydsyniad perchennog neu feddiannydd y tir.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae sawl deddfwriaeth yn berthnasol i wersylloedd diawdurdod. Darperir rhywfaint o fanylion isod. Mae’n bwysig cofio bod deddfwriaeth a gwarchodaeth dan y gyfraith yn berthnasol i’r tirfeddiannwr ac i gymunedau Sipsiwn a Theithwyr hefyd.
Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (“Deddf yr Heddlu”)
Mae adran 83 o Ddeddf yr Heddlu yn mewnosod adrannau 60C i 60E newydd yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (“Deddf 1994”).
Mae adran 60C newydd yn cyflwyno trosedd o breswylio neu fwriadu preswylio mewn cerbyd ar dir heb ganiatâd, cyn belled â bod un neu ragor o’r amodau canlynol yn cael eu bodloni:
- Bod difrod sylweddol neu darfu sylweddol wedi’i achosi neu’n debygol o gael ei achosi o ganlyniad i breswyliad y person.
- Bod difrod sylweddol neu darfu sylweddol wedi'i achosi neu'n debygol o gael ei achosi o ganlyniad i ymddygiad a gyflawnwyd, neu sy'n debygol o gael ei gyflawni, gan y person tra bydd ar y tir.
- Bod trallod sylweddol wedi'i achosi neu'n debygol o gael ei achosi o ganlyniad i ymddygiad tramgwyddus a gyflawnir neu sy'n debygol o gael ei gyflawni gan y person tra bydd ar y tir.
Cyflawnir trosedd os nad yw’r person, heb “esgus rhesymol”, yn cydymffurfio cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol â chais a wneir gan y tirfeddiannwr/deiliad y tir neu'r heddlu i adael y tir a symud yr eiddo i gyd. Mae hefyd yn drosedd i’r person, heb esgus rhesymol, symud yn ôl i’r tir o fewn 3 mis.
Mae’r amddiffyniad “esgus rhesymol” yn caniatáu i berson ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros fethu cydymffurfio cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol â chais i adael y tir, gyda’r bwriad o fyw yno heb ganiatâd. Mater i lys fydd penderfynu beth sy’n esgus rhesymol, ond un achos posibl fyddai cerbyd wedi torri i lawr ac yn aros i gael ei drwsio.
Mae adran 60C(7)(a) newydd yn darparu y dylai’r awdurdod gael ei drin fel “deiliad y tir” mewn perthynas â thir comin y mae gan y cyhoedd fynediad iddo a lle nad oes modd gwybod pwy yw deiliad y tir. Mae hyn yn golygu na chaiff person, yn yr achosion hyn, breswylio na bwriadu preswylio ar y tir heb ganiatâd yr awdurdod lleol a gall awdurdod lleol ofyn i berson adael y tir a symud ei eiddo.
Mae adran 60C(8) newydd yn nodi diffiniadau nad ydynt yn gynhwysfawr ar gyfer “difrod” a “tharfu”. Mae difrod yn cynnwys difrod ffisegol, sef “difrod i’r tir” a difrod nad yw’n ffisegol, sef “difrod i’r amgylchedd” sy’n cynnwys gormod o sŵn, arogleuon, sbwriel neu dyddodion gwastraff. Mae tarfu yn cynnwys y gallu sydd gan berson i gael mynediad at unrhyw gyfleusterau sydd wedi’u lleoli ar y tir neu fel arall wneud defnydd cyfreithlon o’r tir neu gyflenwad dŵr, ynni neu danwydd.
Y gosb uchaf am y trosedd yw tri mis o garchar, dirwy lefel 4 (£2,500 ar hyn o bryd), neu’r ddau.
Pan fo cwnstabl yn amau’n rhesymol fod trosedd wedi’i gyflawni o dan adran 60C newydd, mae adran 60D newydd yn rhoi’r pŵer i’r cwnstabl symud neu ymafael yn unrhyw eiddo perthnasol (a ddiffinnir yn adran 60D(2) newydd) y mae’n ymddangos ei fod yn perthyn i’r person y mae’r cwnstabl yn amau ei fod wedi cyflawni’r drosedd, sydd yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth. Mae’r eiddo hwn yn cynnwys cerbyd, os yw’r cwnstabl yn amau bod gan y person gerbyd gydag ef neu ei fod wedi bwriadu ei gael gydag ef wrth gyflawni trosedd o dan adran 60C newydd. Caiff yr heddlu gadw eiddo yr ymafaelir ynddo o dan adran 60D newydd am hyd at 3 mis o’r dyddiad ymafael neu, os cychwynnir achos troseddol, nes daw'r achos hwnnw i ben.
Dan adran 60E newydd, gellir fforffedu eiddo yr ymafaelwyd ynddo a delio ag ef fel y pennir mewn gorchymyn llys. Cyn gwneud gorchymyn i fforffedu’r eiddo, rhaid i’r llys ganiatáu i unrhyw un sy’n honni mai ef yw’r perchennog neu sydd â buddiant ynddo wneud sylwadau. Rhaid i’r llys hefyd ystyried gwerth yr eiddo a chanlyniadau tebygol fforffedu.
Mae adran 84 o Ddeddf yr Heddlu yn diwygio’r pwerau presennol yn Neddf 1994. Mae is-adran (3) yn diwygio adran 61(1)(a) (pŵer i symud tresmaswyr ar dir) o Ddeddf 1994, i’r graddau y mae’n gymwys i Gymru a Lloegr, er mwyn ehangu’r mathau o niwed a ddelir gan bŵer uwch swyddog i gyfarwyddo tresmaswyr gyda phwrpas cyffredin o breswylio ar dir i adael y tir a symud eu heiddo. Mae’r rhain bellach yn cynnwys difrod, aflonyddwch neu drallod ac, yn wahanol i’r trosedd newydd, nid oes angen i’r rhain fod yn “sylweddol” i gael eu dal gan y pŵer. Rhoddir yr un diffiniadau i “difrod” a “tharfu” ag yn adran 60C newydd.
Yn unol â’r ddarpariaeth bresennol o dan adran 61 o Ddeddf 1994, caiff uwch swyddog gyfarwyddo pob tresmaswr sydd â phwrpas cyffredin o breswylio ar y tir, lle mae’n credu’n rhesymol bod unrhyw un ohonynt wedi achosi’r difrod, y tarfu neu’r trallod a bod camau rhesymol wedi’u cymryd gan ddeiliad y tir neu ar ei ran, i ofyn iddynt adael; nid oes gofyniad i gredu’n rhesymol mai un tresmaswr penodol a achosodd y difrod, y tarfu neu’r trallod.
Mae adran 61(4) o Ddeddf 1994 wedi ei diwygio i ddarparu bod person y rhoddwyd cyfarwyddyd iddo i adael gan uwch swyddog yng Nghymru a Lloegr o dan adran 61(1) yn cyflawni tramgwydd os ydant, heb esgus rhesymol, yn mynd i mewn i'r tir eto fel tresmaswr o fewn cyfnod o dri mis sy'n dechrau â'r diwrnod y rhoddwyd y cyfarwyddyd.
Mae adran 61(9) wedi'i diwygio i alluogi'r heddlu i gyfarwyddo tresmaswyr i adael tir sy'n rhan o briffordd yng Nghymru a Lloegr. Mae adran 62(1)(b) o Ddeddf 1994 yn cyflwyno pwerau i alluogi i gerbyd person gael ei atafaelu os byddant, heb esgus rhesymol, yn mynd i mewn i'r tir eto fel tresmaswr o fewn cyfnod o dri mis sy'n dechrau â'r diwrnod y rhoddwyd y cyfarwyddyd o dan adran 61(1).
O dan adran 62B(2) o Ddeddf 1994, mae person yn cyflawni tramgwydd pan fyddant yn mynd i mewn i unrhyw dir yn ardal yr awdurdod lleol perthnasol fel tresmaswr gyda'r bwriad o breswylio yno o fewn cyfnod o dri mis sy'n dechrau â'r diwrnod y rhoddwyd y cyfarwyddyd o dan adran 62A.
Deddf Priffyrdd 1980
O dan adran 137 o Ddeddf Priffyrdd 1980, mae’n drosedd i berson, heb esgus neu awdurdod cyfreithlon, rwystro’n fwriadol y llwybr rhydd ar hyd priffordd mewn unrhyw fodd. Mae adran 143 o'r Ddeddf honno yn rhoi pŵer i awdurdod priffyrdd i symud, gydag un mis o rybudd, unrhyw strwythurau a sefydlwyd ar briffordd. Mae’r diffiniad o strwythur yn cynnwys gwrthrych sy’n gallu achosi rhwystr, boed ar olwynion ai peidio, ac felly mae’n cynnwys carafán neu gartref symudol.
Rheolau Trefniadaeth Sifil 1998
Gellir cael gorchymyn adennill meddiant yn y llysoedd sifil, sy’n mynnu bod unrhyw dresmaswyr yn cael eu symud o eiddo o dan Ran 55 o’r Rheolau Trefniadaeth Sifil. Mae’r rhwymedi hwn ar gael i dirfeddianwyr cyhoeddus a phreifat.
Deddf Hawliau Dynol 1998
Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn rhoi’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (“ECHR” neu'r “Confensiwn”) ar waith yn y DU. Rhaid i benderfyniadau a wneir gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru gydymffurfio â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Mae Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn bwysig iawn mewn cysylltiad â chartref Sipsiwn neu Deithwyr. Mae Erthygl 8 yn datgan:
1. Mae gan bawb yr hawl i barch at ei fywyd preifat a theuluol, ei gartref a’i ohebiaeth.
2. Ni chaiff unrhyw awdurdod cyhoeddus ymyrryd â’r hawl hon oni bai fod hynny’n digwydd yn unol â’r gyfraith a’i fod yn angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd diogelwch gwladol, diogelwch y cyhoedd neu les economaidd y wlad, er mwyn atal anhrefn neu drosedd, er mwyn diogelu iechyd neu foesau, neu er mwyn diogelu hawliau neu ryddid pobl eraill.
Gall ‘cartref’ gynnwys carafán hyd yn oed os yw wedi’i barcio’n anghyfreithlon. Felly, gall Erthygl 8 fod yn berthnasol i’r unigolion hynny sydd mewn gwersylloedd diawdurdod yn ogystal â thenantiaid safleoedd.
Mae Erthygl 14 yn ymwneud â gwahardd gwahaniaethu a dylid ei darllen ar y cyd ag Erthygl 8:
“Sicrheir mwynhad o’r hawliau a’r rhyddid a nodir yn y Confensiwn hwn heb wahaniaethu ar unrhyw sail megis rhyw, hil, lliw, iaith, crefydd, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, cysylltiad â lleiafrif cenedlaethol, eiddo, genedigaeth neu statws arall. ”
Mae troi Sipsiwn neu Deithwyr allan o wersylloedd anghyfreithlon gan awdurdod lleol yn debygol o ennyn Erthygl 8, gan ei bod yn debygol o fod yn ymyrraeth â chartref y Sipsiwn neu’r Teithwyr (Chapman v Y Deyrnas Unedig (2001) 33 EHRR 18). Fodd bynnag, mae hawliau erthygl 8 yn gymwys a bydd rhaid i awdurdod lleol benderfynu a fyddai troi allan yn gyfystyr ag ymyrraeth anghyfreithlon, ynteu a ellid cyfiawnhau hynny’n wrthrychol yn holl amgylchiadau unrhyw achos penodol.
Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990
Mae gan awdurdodau lleol amrywiol bwerau o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â gwastraff, niwsans statudol a sbwriel yn eu hardal.
Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
Pan fo Sipsiwn neu Deithwyr (neu unrhyw un arall) yn prynu tir ac yn ei ddatblygu fel maes carafannau heb ganiatâd cynllunio, bydd camau gorfodi yn cael eu cymryd drwy’r system gynllunio. Mater o ddisgresiwn i'r awdurdod cynllunio lleol yw gorfodi. Mae canllawiau ar ddefnyddio pwerau gorfodi cynllunio ar gael yn y Llawlyfr Rheoli Datblygu ac yng Nghylchlythyr 24/97 y Swyddfa Gymreig.
