Cynllun cyflawni strategol datgarboneiddio GIG Cymru 2025 i 2030 - Rhan 2: Rolau ac ymrwymiadau
Ein cynllun i leihau effaith amgylcheddol GIG Cymru a chefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer sero net yn y sector cyhoeddus.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Bydd GIG Cymru yn dangos arweinyddiaeth ac ymrwymiad i gyflawni'r Cynllun Cyflawni Strategol (CCS) hwn, gan ymgorffori camau gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd wrth wneud penderfyniadau a chynlluniau.
Bydd sefydliadau GIG Cymru yn creu neu adolygu ac yn diweddaru eu cynlluniau gweithredu hinsawdd yn unol â’r CCS hwn ac yn sicrhau atebolrwydd clir ar gyfer cyflawni mentrau o fewn eu sefydliadau.
Bydd GIG Cymru yn sicrhau dull cydgysylltiedig rhwng lliniaru ac addasu, gan gynnwys drwy asesu gofynion addasu wrth weithredu mentrau CCS yn lleol.
Mae GIG Cymru yn gyfrifol am ystyried asesiad effaith a gofynion cyfreithiol, gan gynnwys y rhai a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2025, wrth weithredu eu cynlluniau gweithredu ar newid hinsawdd.
Bydd sefydliadau GIG Cymru yn darparu data a gwybodaeth amserol o ansawdd uchel i gefnogi gofynion adrodd hinsawdd Llywodraeth Cymru.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal sylfaen dystiolaeth gadarn ar allyriadau carbon ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn nodi cyfleoedd ariannu, gan flaenoriaethu cymorth i’r mentrau datgarboneiddio sydd â’r effaith fwyaf.
