Polisi a strategaeth
Cynllun cyflawni strategol datgarboneiddio GIG Cymru 2025 i 2030 - Rhan 11: Gwastraff
Ein cynllun i leihau effaith amgylcheddol GIG Cymru a chefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer sero net yn y sector cyhoeddus.
Tudalen bresennol (11 o 12)
Lawrlwytho'r tudalennau hyn fel PDF , maint ffeil 191 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
25: Lleihau effaith amgylcheddol cynhyrchu gwastraff ar draws GIG Cymru drwy gynyddu ailddefnyddio ac atgyweirio, meithrin dysgu dan arweiniad cyfoedion a chryfhau systemau gwahanu ac ailgylchu gwastraff
25a: Datblygu Strategaeth Gwastraff GIG Cymru sy'n adlewyrchu egwyddorion economi gylchol ac yn sefydlu targedau penodol i ffrydiau gwastraff (gan gynnwys ailddefnyddio ac atgyweirio, defnyddio bagiau teigr, newid o eitemau arlwyo untro i eitemau y gellir eu hailddefnyddio, a gwahanu blychau eitemau miniog)
Perchnogion arfaethedig: NWSSP (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru).
Gweithredu erbyn: Ionawr 2027.
25b: Datblygu cynllun rheoli gwastraff sefydliadol wedi'i deilwra sy'n ystyried hierarchaeth gwastraff ac egwyddorion yr economi gylchol. Yn ogystal â sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau Cyfoeth Naturiol Cymru, dylai'r cynllun hwn amlinellu:
- strategaeth gyfathrebu i hyrwyddo gwahanu gwastraff yn effeithiol yn y man cychwyn ar draws pob adran
- trefniadau cydweithio sy'n cynnwys rhanddeiliaid mewnol (er enghraifft rheolwyr caffael) a phartneriaid allanol (er enghraifft contractwyr rheoli gwastraff trwyddedig)
- rolau a chyfrifoldebau wedi'u diffinio o fewn sefydliad y GIG
Perchnogion arfaethedig: WHEF (Fforwm Amgylcheddol Iechyd Cymru); pob sefydliad GIG (rheolwr gwastraff neu gyfatebol).
Gweithredu erbyn: Medi 2026.
25c: Datblygu a gweithredu hyfforddiant Cymru gyfan ar gyfer rheolwyr gwastraff a rheolwyr caffael byrddau iechyd i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â rheoliadau gwastraff a strategaeth wastraff GIG Cymru sydd ar ddod
Perchnogion arfaethedig: NWSSP.
Gweithredu erbyn: Ionawr 2027.
