Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Diben y maes hwn yw mesur cyfran y bobl sy'n cael profiad o amddifadedd yn ymwneud ag incwm isel. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 22% yn y mynegai cyffredinol.

Dangosyddion

Ffigur 2.1: dangosydd maes incwm, MALlC 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 2.1: diagram sy'n dangos pa fudd-daliadau sy'n cael eu defnyddio fel sail i'r maes incwm. Mae gan y maes un dangosydd, yn cynnwys sawl cydran, sy’n rhoi ciplun o bobl sy'n derbyn budd-daliadau cysylltiedig ag incwm a chredydau treth a cheiswyr lloches a gefnogir.

Mae'n cynnwys cyfrifon nad ydynt yn gorgyffwrdd o hawlwyr prawf modd, ac yn cymhwyso trothwy incwm i aelwydydd sy'n gweithio. Yna mae'r symiau a gyfrifwyd yn cael eu mynegi fel canran o gyfanswm y boblogaeth amcangyfrifol ar gyfer yr Ardal gynnyrch ehangach haen is (AGEHI).

Mae rhifiadur y maes yn nodi'r categorïau canlynol o hawlwyr, eu partneriaid a phlant dibynnol, fel ar ddiwedd mis Mawrth 2024:

  • Budd-daliadau prawf modd allan o waith ‘etifeddol’:
    • cymhorthdal incwm
    • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
    • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cysylltiedig ag incwm
  • Credyd Pensiwn (Gwarant)
  • Grwpiau amodoldeb ‘di-waith’ Credyd Cynhwysol, gan gynnwys:
    • dim gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith
    • cynllunio ar gyfer gwaith
    • paratoi ar gyfer gwaith
    • chwilio am waith
  • Grwpiau amodoldeb Credyd Cynhwysol ‘yn y gwaith’ (gydag incwm ar ôl costau tai islaw trothwy canolrifol o 70%) gan gynnwys:
    • gweithio gyda gofynion
    • gweithio, dim gofynion
  • Budd-dal Tai, gydag incwm ar ôl costau tai islaw trothwy canolrifol o 70%
  • Credyd Treth, gydag incwm ar ôl costau tai islaw trothwy canolrifol o 70%
  • ceiswyr lloches mewn llety gwasgaru sy'n derbyn cymorth

Mae manylion llawn y dangosydd ac adeiladwaith y maes ar gael yn adroddiad technegol MALlC 2025.

Canlyniadau allweddol

Ffigur 2.2: map o ACEHIau wedi'u lliwio yn ôl grŵp amddifadedd incwm, MALlC 2025

Image

© Hawlfraint y Goron 2025. Cartograffeg. Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o ffigur 2.2: mae'r map yn dangos ym maes incwm MALlC 2025, roedd pocedi o amddifadedd incwm uchel yng nghymoedd y de a'r dinasoedd mawr, ac mewn rhai trefi ar yr arfordir yn y gogledd.

  • Roedd gan bob awdurdod lleol, ac eithrio Sir Fynwy, o leiaf rai ardaloedd gyda thros 46% o bobl mewn amddifadedd incwm, sy'n gyfwerth â bod yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig.
  • Yr awdurdodau lleol gyda'r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig oedd Blaenau Gwent (ar 22%) gyda Chaerdydd a Chasnewydd i ddilyn (y ddau ar 18%).
  • Mae patrymau cyffredinol amddifadedd incwm ym MALlC 2025 yn weddol debyg i'r rhai ar gyfer MALlC 2019.
  • O ran y maes incwm, yr ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Gorllewin y Rhyl 2, Sir Ddinbych (o gwmpas Stryd Fawr y Rhyl), a oedd yr un peth ar gyfer MALlC 2019 a MALlC 2014.
  • Roedd chwech o'r 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2025 hefyd ymhlith y 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2019.
  • Mae 22% o'r bobl fwyaf difreintiedig o ran incwm yn byw yn y 10% mwyaf difreintiedig o ardaloedd bach ar gyfer y maes incwm (yr ardaloedd sydd wedi'u graddio o 1 i 191).
  • Mae hanner y bobl sy'n ddifreintiedig o ran incwm yn byw yn y 29% o ardaloedd mwyaf difreintiedig ar gyfer y maes incwm.
  • Ledled Cymru, mae 25% o bobl mewn amddifadedd incwm.
  • Mae canran y bobl sy'n ddifreintiedig o ran incwm o fewn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn amrywio llawer, o 88% yng Ngorllewin y Rhyl 2, i 46% ar gyfer De Castell-nedd 1, sef yr ardal yn safle 191. 

Gellir lawrlwytho'r set lawn o safleoedd y meysydd o MALlC 2025 a'r dangosyddion sylfaenol o dudalennau gwe StatsCymru.

Gellir canfod mwy o wybodaeth am ddosbarthiad y boblogaeth sy'n deillio o incwm ym MALlC 2025 yn adroddiad canllawiau MALlC

Cymhariaeth rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025

Mae cyflwyno UC wedi cael dylanwad sylweddol ar y ffordd y caiff amddifadedd incwm ei fesur ym MALlC, gan arwain at fabwysiadu dangosyddion newydd a ddatblygwyd gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) a DWP sy'n adlewyrchu newidiadau i bolisïau a data. Mae'r dull wedi'i ddiweddaru hwn yn cynnwys trothwy o 70% incwm canolrifol ar ôl costau tai. Nid oes modd cymharu'r dangosydd amddifadedd incwm yn uniongyrchol â'r un ar gyfer MALlC 2019. I gael gwybodaeth am sut mae'r maes wedi newid ers 2019, gweler Adroddiad Technegol MALlC 2025 ac adroddiad technegol mynegeion amddifadedd Lloegr (MHCLG).

Tabl 2.1: Symudiadau rhwng grwpiau amddifadedd incwm rhwng MALlC 2019 a 2025
Grŵp 
amddifadedd 
MALlC
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
50% 
lleiaf 
difreintiedig
2025
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
82%16%2%1%0%
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
17%60%20%3%0%
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
1%21%51%26%2%
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
0%1%13%65%20%
50% lleiaf 
difreintiedig 
2019
0%0%0%8%92%

Dengys y tabl ganran yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob grŵp amddifadedd ar gyfer MALlC 2019 sydd wedi aros neu wedi symud grŵp ym MALlC 2025. 

I gael esboniad ar sut rydym wedi trin y lleiafrif o ardaloedd sydd wedi newid ffin, a'r safleoedd a gyfrifwyd ym mhob categori ar gyfer MALlC 2019 a MALlC 2025, gweler yr adroddiad canllawiau. 

Dengys y groeslinell (o'r ochr chwith uchaf i'r dde gwaelod) ganran yr ardaloedd sydd wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd. Uwchlaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp mwy difreintiedig i grŵp llai difreintiedig. Islaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp llai difreintiedig i grŵp mwy difreintiedig.

Mae'r tabl yn dangos bod: 

  • y rhan fwyaf o ACEHIau wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd rhwng 2019 a 2025
  • roedd 82% o'r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025
  • roedd 92% o'r 50% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025 

Dim ond 3 ACEHIau a symudodd fwy na 2 grŵp amddifadedd. Isod rydym yn canolbwyntio ar y 2 sydd wedi symud i mewn neu allan o'r 10% mwyaf difreintiedig.

Yn gymharol fwy difreintiedig

Symudodd un ardal o'r 30% i'r 50% o grwpiau mwyaf difreintiedig ym MALlC 2019 i'r 10% o grŵp mwyaf difreintiedig ym MALlC 2025 (Parc Tredegar 4 yng Nghasnewydd). Mae’r AGEHI hwn wedi newid ffin ers MALlC 2019, pan gafodd ei grwpio gyda'r hyn sydd bellach yn cael ei alw'n Barc Tredegar 3 (yn yr hanner lleiaf difreintiedig ar gyfer amddifadedd incwm).

Cymharol lai difreintiedig

Mae un ardal wedi symud o'r 10% o'r grŵp mwyaf difreintiedig ym MALlC 2019 i'r 30% i 50% o'r grwpiau mwyaf difreintiedig ym MALlC 2025. Plasnewydd 7 yng Nghaerdydd oedd hon, ardal sy'n agos at ganol y ddinas gan gynnwys cyffordd Heol y Ddinas a Heol Casnewydd.

Dadansoddiad awdurdodau lleol

Ffigur 2.3: plot blychau o safleoedd maes incwm MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol

Image

Disgrifiad o ffigur 2.3: dengys y siart isod ddosbarthiad safleoedd y maes incwm ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae'r blychau glas yn cynnwys hanner cyfanswm yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob awdurdod lleol, wedi'i ganoli ar y safle canolrifol (canol) ar gyfer pob awdurdod lleol a dengys y ‘wisgers’ yr ystod lawn o safleoedd yn yr awdurdod lleol. Mae amddifadedd yn cynyddu wrth i'r safle ostwng (hynny yw, tua ochr chwith gwaelod y plot). 

Mae'r lledaeniad o safleoedd maes incwm ar ei fwyaf yng Nghaerdydd ac Abertawe ac ar ei fwyaf cul yn Ynys Môn a Phowys. Sir Fynwy sydd â'r safle canolrifol uchaf (llai difreintiedig) a Blaenau Gwent sydd â'r un isaf (mwy difreintiedig).

Crynodiadau o ardaloedd sy'n wynebu amddifadedd incwm, yn ôl awdurdod lleol

Un ffordd o ystyried data MALlC ar lefel awdurdod lleol yw edrych ar gyfran yr ardaloedd yn yr awdurdod lleol sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig (neu'r 20% ac ati) o'r holl ardaloedd. Mae modd ystyried y dull hwn fel nodi crynodiad o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig mewn awdurdod lleol, yn hytrach na'r lefel amddifadedd gyfartalog.

Mae canlyniadau maes incwm MALlC 2025 yn dangos y canlynol: 

  • yr awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Blaenau Gwent (22% neu 10 ardal) wedi'u dilyn gan Gaerdydd a Chasnewydd (y ddau yn 18%).
  • Nid oedd gan Sir Fynwy unrhyw ardaloedd bach yn y 10% mwyaf difreintiedig, wedi'u dilyn gan Bowys a Cheredigion gyda dim ond un yr un o'u hardaloedd
  • Sir Fynwy a Phowys hefyd oedd yr awdurdodau lleol gyda'r crynodiadau isaf o ardaloedd yn hanner mwyaf difreintiedig Cymru, ar 25% a 28% yn y drefn honno
  • Blaenau Gwent a Merthyr Tudful oedd â'r ganran uchaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig, ar 74% a 72% yn y drefn honno

Crynodiadau o ardaloedd sy'n wynebu amddifadedd incwm ym MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol ar StatsCymru.

Ffynonellau perthnasol eraill

Amddifadedd incwm i blant a phobl hŷn

Crëwyd dau ddangosydd ychwanegol ar gyfer MALlC 2025, sy'n is-setiau o'r dangosydd amddifadedd incwm. Mae'r rhain yn amddifadedd incwm i blant (0 i 15 oed) ac amddifadedd incwm i bobl hŷn (60 oed neu'n hŷn). Mae'r ddau yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru.

Data ar gyfer Cymru a Lloegr

Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a llywodraethau datganoledig eraill i archwilio cyfleoedd i gynhyrchu allbynnau wedi'u cysoni. Bydd cynlluniau rhyddhau'n cael eu cyhoeddi ar GOV.UK maes o law.

Ystadegau budd-daliadau

Mae arf lledaenu Stat-Xplore yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn caniatáu i chi i lawrlwytho ac addasu ystadegau ar fudd-daliadau, gan gynnwys data ardal leol a chyfres amser.

Amcangyfrifon incwm wedi'u modelu

Dim ond i lawr at lefel Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (ACEHGau) y mae amcangyfrifon incwm seiliedig ar fodelau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)  ar gyfer ardaloedd bach, a fodelwyd ar sail data arolygon ar gael.

Aelwydydd islaw'r data incwm cyfartalog

Mae DWP yn cyhoeddi set ddata ar aelwydydd islaw'r incwm cyfartalog (DWP). Yn seiliedig ar y data hynny, rydym ni’n cyhoeddi dadansoddiad o dlodi yng Nghymru gyda chrynodebau amrywiol. Ni ellir rhannu'r data islaw lefel Cymru oherwydd y cyfyngiadau ym maint y sampl.

Ystadegau incwm seiliedig ar weinyddiaeth

Byddwn yn parhau i adolygu cynnydd i ddatblygu ystadegau incwm seiliedig ar ddata gweinyddol arbrofol y SYG i Gymru a Lloegr i'w defnyddio o bosibl mewn mynegeion yn y dyfodol. Mae papur ymchwil diweddar yn rhoi gwybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau'r ABIS presennol, a'r ffordd y maent yn debygol o gael eu datblygu yn y dyfodol (SYG).

Amcangyfrifon o enillion cyflogeion

Mae'r SYG yn cyhoeddi amcangyfrifon o enillion cyflogeion yn seiliedig ar ddata o'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (SYG). Hon yw'r ffynhonnell fwyaf cadarn a chynhwysfawr o ddata enillion ar gyfer y DU; fodd bynnag, nid oes amcangyfrifon ar gael islaw lefel awdurdod lleol, is-set o'r holl ffynonellau incwm yn unig yw'r data, ac nid ydynt yn cynnwys yr hunangyflogedig.