Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 adroddiad canlyniadau - Canlyniadau’r maes mynediad at wasanaethau
Diben MALlC yw nodi’r ardaloedd bach yng Nghymru sydd fwyaf difreintiedig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Diben y maes hwn yw cofnodi amddifadedd o ganlyniad i anallu aelwyd i gael mynediad at ystod o wasanaethau a ystyrir yn angenrheidiol ar gyfer byw o ddydd i ddydd, a hynny’n ffisegol ac ar-lein. Mae hyn yn cwmpasu amddifadedd materol (er enghraifft, methu â chael bwyd) ac agweddau cymdeithasol ar amddifadedd (er enghraifft, methu â mynd i weithgareddau ar ôl yr ysgol). Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 10% yn y mynegai cyffredinol.
Dangosyddion
Ffigur 6.1: dangosyddion y maes mynediad at wasanaethau, MALlC 2025
Disgrifiad o ffigur 6.1: diagram sy’n dangos bod gan y maes mynediad at wasanaethau 20 o ddangosyddion wedi’u grwpio’n 2 is-faes. Mae pob gwasanaeth yn yr is-faes mynediad ffisegol yn cynnwys dangosydd trafnidiaeth gyhoeddus (heb gynnwys gorsafoedd petrol) a dangosydd trafnidiaeth breifat.
Mae’r is-faes mynediad ffisegol yn cynnwys 19 o ddangosyddion sy’n mesur yr amser teithio cyfartalog i 1 o 10 o wasanaethau gan ddefnyddio dull trafnidiaeth (cyhoeddus neu breifat). Y gwasanaethau a gynhwyswyd oedd (yn nhrefn ddisgynnol pwysoliad y dangosydd):
- fferyllfa
- meddygfa
- siop fwyd
- darparwr gofal plant
- llyfrgell gyhoeddus
- swyddfa bost
- ysgol gynradd
- cyfleuster chwaraeon
- gorsaf betrol (trafnidiaeth breifat yn unig)
- ysgol uwchradd
Mae’r dangosyddion yn mesur amser teithio dwyffordd cyfartalog (mewn munudau) o anheddau preswyl i’r gwasanaeth agosaf yn ôl y dull trafnidiaeth dan sylw. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn cynnwys teithio ar fws cyhoeddus, trên cyhoeddus, ar droed a choets genedlaethol. Ystyr trafnidiaeth breifat yw teithio mewn car preifat.
Mae’r is-faes mynediad digidol yn mesur canran y cartrefi a busnesau bach na allant gael band eang llinell osodedig ar gyflymder lawrlwytho o 30MB/yr eiliad o leiaf (band eang cyflym iawn).
Mae dangosyddion amser teithio cyhoeddus a phreifat ar gyfer pob gwasanaeth wedi’u cyfuno’n symiau a bwysolwyd gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2021 ar berchnogaeth ceir a nifer yr oedolion 17 oed neu’n hŷn. Yna, caiff dadansoddiad o ffactorau ei gymhwyso at y sgoriau cyfun hyn i gyfrifo’r pwysoliadau a ddangosir yn ffigur 6.1, sy’n cyfrannu 90% o sgôr gyffredinol y maes. Mae’r is-faes mynediad digidol yn cyfrannu’r 10% arall o sgôr y maes.
Mae darparwr gofal plant wedi cael ei gyflwyno i’r rhestr o wasanaethau a gynhwyswyd yn yr is-faes mynediad ffisegol ar gyfer MALlC 2025, gyda dau ddangosydd newydd cyfatebol. Darparwyr gofal plant yw’r rhai sydd wedi’u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), gan gynnwys gofal dydd a gofal sesiynol, crèches a gwarchodwyr plant.
Mae'r rhan fwyaf o setiau data ar gyfer y dangosyddion hyn yn gysylltiedig â chyfnod amser 2025. Ceir manylion llawn am y dangosyddion a’r ffordd y lluniwyd y maes yn adroddiad technegol MALlC 2025. Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion am fethodoleg y dangosydd amser teithio, sydd wedi newid ers MALlC 2019.
Prif ganlyniadau
Ffigur 6.2: map o ACEHIau wedi’u lliwio yn ôl grŵp amddifadedd mynediad at wasanaethau, MALlC 2025
© Hawlfraint y Goron 2025. Cartograffeg. Llywodraeth Cymru.
Disgrifiad o ffigur 6.2: mae’r map yn dangos, ym maes mynediad at wasanaethau MALlC 2025, bod amddifadedd mawr yn gyffredin mewn ardaloedd gwledig.
- Yr awdurdod lleol â’r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig oedd Powys (49%), yna Ceredigion (44%) a Sir Benfro (35%).
- Nid oes unrhyw ardaloedd yng ngrŵp y 10% mwyaf difreintiedig ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr na Thorfaen.
- Mae patrymau cyffredinol amddifadedd mynediad at wasanaethau ym MALlC 2025 yn debyg i’r rhai ar gyfer MALlC 2019.
- Ar gyfer y maes mynediad at wasanaethau, yr ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Llanegwad 2, sy’n ardal wledig yn Sir Gaerfyrddin a oedd y bumed ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2019.
- O’r 10 ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru yn 2025, roedd 4 hefyd yn y 10 ardal fwyaf difreintiedig yn 2019.
Cymhariaeth rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025
Ceir un dangosydd newydd yn y maes hwn, ac mae rhywfaint o'r fethodoleg amser teithio a ffynonellau data wedi newid. Felly, nid yw'r maes mynediad at wasanaethau yn uniongyrchol gymharol i'r maes ar gyfer MALlC 2019. I gael gwybodaeth am sut mae’r maes wedi newid ers 2019, gweler yr adroddiad technegol.
| Grŵp amddifadedd MALlC | 10% mwyaf difreintiedig 2025 | 10% i 20% mwyaf difreintiedig 2025 | 20% i 30% mwyaf difreintiedig 2025 | 30% i 50% mwyaf difreintiedig 2025 | 50% lleiaf difreintiedig 2025 |
|---|---|---|---|---|---|
| 10% mwyaf difreintiedig 2019 | 87% | 12% | 1% | 1% | 0% |
| 10% i 20% mwyaf difreintiedig 2019 | 12% | 45% | 20% | 15% | 8% |
| 20% i 30% mwyaf difreintiedig 2019 | 1% | 20% | 24% | 37% | 19% |
| 30% i 50% mwyaf difreintiedig 2019 | 1% | 8% | 16% | 30% | 45% |
| 50% lleiaf difreintiedig 2019 | 0% | 1% | 4% | 17% | 77% |
Dengys y tabl ganran yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob grŵp amddifadedd ar gyfer MALlC 2019 sydd wedi aros neu wedi symud grŵp ym MALlC 2025. I gael esboniad ar sut rydym wedi trin y lleiafrif o ardaloedd sydd wedi newid ffin, a'r safleoedd a gyfrifwyd ym mhob categori ar gyfer MALlC 2019 a MALlC 2025, gweler yr adroddiad canllawiau.
Dengys y groeslinell (o’r ochr chwith uchaf i’r dde gwaelod) ganran yr ardaloedd sydd wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd. Uwchlaw’r groeslinell ceir canrannau’r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp mwy difreintiedig i grŵp llai difreintiedig. Islaw’r groeslinell ceir canrannau’r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp llai difreintiedig i grŵp mwy difreintiedig.
Mae’r tabl yn dangos y canlynol:
- arhosodd y rhan fwyaf o ACEHIau yn y grwpiau amddifadedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig yn yr un grŵp rhwng 2019 a 2025
- roedd 87% o’r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod yn y grŵp hwnnw yn 2025
- roedd 77% o’r 50% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod yn y grŵp hwnnw yn 2025
Ar gyfer mynediad at wasanaethau, symudwyd 30 ardal gan fwy na 2 grŵp amddifadedd. Isod rydym yn canolbwyntio ar y rhai sydd wedi symud i mewn neu allan o'r grŵp mwyaf difreintiedig.
Cymharol fwy difreintiedig
Symudodd dwy ardal o grŵp y 30% i’r 50% mwyaf difreintiedig yn 2019 i grŵp y 10% mwyaf difreintiedig yn 2025, sef Resolfen 1 yng Nghastell-nedd Port Talbot a’r Borth yng Ngheredigion.
Cymharol lai difreintiedig
Symudodd un ardal o grŵp y 10% mwyaf difreintiedig yn 2019 i grŵp y 30% i’r 50% mwyaf difreintiedig yn 2025, sef De Llandrindod ym Mhowys.
Symudodd 16 ardal arall o grŵp y 10% i’r 20% mwyaf difreintiedig i grŵp y 50% lleiaf difreintiedig; yr ardaloedd a symudodd fwyaf yn y grŵp hwn oedd Gorllewin y Rhyl 2 yn Sir Ddinbych a Choety Uchaf 3 ym Mhen-y-bont ar Ogwr (AGEHI y mae ei ffin wedi newid).
Dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol
Ffigur 6.3: plot blychau o safleoedd maes mynediad at wasanaethau MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol
Disgrifiad o ffigur 6.3: dengys y siart ddosbarthiad safleoedd y maes mynediad at wasanaethau ar gyfer pob awdurdod lleol. Mae’r blychau glas yn cynnwys hanner cyfanswm yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob awdurdod lleol, wedi’i ganoli ar y safle canolrifol (canol) ar gyfer pob awdurdod lleol a dengys y ‘wisgers’ yr ystod lawn o safleoedd yn yr awdurdod lleol. Mae amddifadedd yn cynyddu wrth i’r safle ostwng (hynny yw, tuag ochr chwith gwaelod y plot).
Yn Sir Ddinbych, Bro Morgannwg a Sir Fynwy y gwelir y dosbarthiad mwyaf o ran safleoedd y maes mynediad at wasanaethau ac yng Ngheredigion y gwelir y dosbarthiad culaf, yna Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen. Caerdydd sydd â’r safle canolrifol uchaf (lleiaf difreintiedig) a Phowys a Cheredigion sydd â’r safle canolrifol isaf (mwyaf difreintiedig).
Crynodiadau o ardaloedd sy’n wynebu amddifadedd mynediad at wasanaethau, yn ôl awdurdod lleol
Un ffordd o ystyried data MALlC ar lefel awdurdod lleol yw edrych ar gyfran yr ardaloedd yn yr awdurdod lleol sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig (neu’r 20% ac ati) o’r holl ardaloedd. Mae modd ystyried y dull hwn fel nodi crynodiad o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig mewn awdurdod lleol, yn hytrach na’r lefel amddifadedd cyfartalog.
Mae canlyniadau maes mynediad at wasanaethau MALlC 2025 yn dangos y canlynol:
- yr awdurdod lleol â’r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig oedd Powys (49% neu 39 o ardaloedd) yna Ceredigion (44% neu 20 o ardaloedd)
- Nid oes unrhyw ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr na Thorfaen
- Ceredigion a Phowys a oedd â’r ganran uchaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig, ar 84% ac 82% yn y drefn honno
- Caerdydd a oedd â’r ganran isaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig (22%)
Ffynonellau perthnasol eraill
Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cynnwys cwestiynau ynghylch a yw pobl yn fodlon ar eu gallu i gael mynediad at y gwasanaethau a’r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt.
Ofcom
Ochr yn ochr â data ar gwmpas darparwyr gosodedig, mae Ofcom yn cyhoeddi data ar berfformiad darparwyr gosodedig a chwmpas symudol ar amrywiaeth o ddaearyddiaethau yn ei hadroddiad Cysylltu’r Gwledydd.
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)
Mae’r SYG yn cyhoeddi dadansoddiadau rhyngweithiol o fynediad at amwynderau lleol yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys swyddfeydd post, mannau codi arian a pharciau, yn ogystal ag amcangyfrifon o’r amser teithio i orsafoedd trenau a llyfrgelloedd.
