Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil: Cymraeg 2050
Mae'r ddogfen hon yn nodi cwestiynau ymchwil cyfredol Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â Cymraeg 2050.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r ddogfen hon, Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil Cymraeg 2050, yn nodi cwestiynau ymchwil cyfredol Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â’n strategaeth ar gyfer y Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr. Diben y ddogfen yw cyfleu i’r gymuned ymchwil[1] y mathau o dystiolaeth fydd fwyaf gwerthfawr o ran cefnogi ein penderfyniadau.
Mae gennym nodau uchelgeisiol ar gyfer y Gymraeg, ac mae’r ddogfen hon yn un o’r ffyrdd ry’n ni’n ceisio sicrhau bod yr uchelgeisiau hynny’n cael eu seilio ar dystiolaeth gadarn. Ry’n ni am gydweithio â’r gymuned ymchwil i archwilio cwestiynau pwysig neu gymhleth sy’n ymwneud â’n hiaith ni. Mae hyn yn cynnwys tynnu ar ystod eang o wybodaeth a thystiolaeth o Gymru a thu hwnt. Er mwyn datblygu dealltwriaeth newydd ac atebion mwy cyflawn i gwestiynau allweddol, ry’n ni am annog ymchwilwyr o wahanol ddisgyblaethau a safbwyntiau i archwilio’r pynciau hyn. Ry’n ni hefyd am annog defnydd o ddulliau ymchwil amrywiol ac arloesol.
Nodau Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil Cymraeg 2050 yw:
- hwyluso cyfnewid gwybodaeth, gan ein helpu i nodi ymchwil sydd eisoes wedi digwydd, sy’n digwydd ar hyn o bryd, neu sydd yn yr arfaeth a allai gyfrannu at ein dealltwriaeth o’r pynciau hyn
- hyrwyddo perthnasedd polisi ac effaith ymchwil sy’n ymwneud â’r Gymraeg
- cefnogi ceisiadau am gyllid drwy alluogi ymchwilwyr i ddangos bod eu cynigion yn cyd-fynd â blaenoriaethau tystiolaeth Cymraeg 2050, gan gryfhau’r achos dros effaith ar bolisi.
Mae’n blaenoriaethau tystiolaeth ni yn eang eu cwmpas, yn drawsbynciol, ac yn esblygu’n barhaus. Mae’r meysydd a amlinellir yn y ddogfen hon yn rhai ry’n ni wedi'u nodi fel rhai pwysig ar gyfer dyfnhau ein dealltwriaeth a lle byddai cydweithio â'r gymuned ymchwil yn arbennig o werthfawr. Er bod gennym dystiolaeth eisoes ar lawer o’r meysydd hyn, mae ei dyfnder a’i chryfder yn amrywio, ac mae angen cryfhau’r sail dystiolaeth yn barhaus.
Mae’r ddogfen hon wedi’i strwythuro o amgylch tair thema strategaeth Cymraeg 2050. Mae hefyd yn cynnwys adrannau ar ystyriaethau trawsbynciol a dulliau ymchwil. Fe welwch fod ffocws mawr ar gwestiynau sy’n ymwneud ag addysg, gan adlewyrchu’r pwysigrwydd presennol o sicrhau sail dystiolaeth gadarn i lywio penderfyniadau ynghylch gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025.
Nid yw’r ddogfen hon yn cynnwys popeth nac yn derfynol. Yn hytrach, y bwriad yw ysgogi sgyrsiau gyda’r gymuned ymchwil. Mae’n ganllaw ar y meysydd lle mae ymchwil bellach fwyaf tebygol o gael effaith bositif ar Cymraeg 2050 a chynlluniau cysylltiedig, megis Mwy na Geiriau—ein cynllun ar gyfer y Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
Nid yw’r ddogfen hon yn alwad am dendrau nac yn gyhoeddiad cyllid. Ei phwrpas yw cefnogi’r gwaith o ddylunio ymchwil—gennym ni ac eraill—a all gael effaith ystyrlon ar bolisi.
Byddwn yn adolygu’r ddogfen yn barhaus ac yn ei diweddaru o bryd i’w gilydd er mwyn adlewyrchu blaenoriaethau a datblygiadau sy’n dod i’r amlwg. Byddwn yn lledaenu’r ddogfen ac yn datblygu rhaglen o ymgysylltu i gydweithio â’r gymuned ymchwil yn ein meysydd o ddiddordeb.
Ry’n ni’n croesawu cyswllt sy’n ymwneud â’n meysydd o ddiddordeb ymchwil. Os hoffech eu trafod, rhannu gwaith perthnasol, neu drafod cyfleoedd i gydweithio ar ymchwil, cysylltwch â ni drwy’r ffurflen gyswllt neu drwy e-bost yn ymchwil.cymraeg@llyw.cymru.
Darllenwch hysbysiad preifatrwydd Meysydd Diddordeb Ymchwil Cymraeg 2050.
[1] Gan gynnwys ymchwilwyr mewn prifysgolion, cwmnïau ymchwil neu gyrff eraill; comisiynwyr neu gyllidwyr ymchwil; yn ogystal ag unigolion sy’n ymwneud â pholisi neu ymarfer ac sydd â diddordeb mewn tystiolaeth ymchwil.
Strategaeth a themâu Cymraeg 2050
Mae Cymraeg 2050, a gyhoeddwyd yn 2017, yn nodi ein dull hirdymor ar gyfer y Gymraeg. Mae’r strategaeth wedi’i strwythuro o amgylch tair thema gyd-ddibynnol:
1. Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg
2. Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
3. Creu amodau ffafriol—seilwaith a chyd-destun
Mae Cymraeg 2050 yn ystyried caffael a defnyddio’r Gymraeg yn brofiad gydol oes ac yn rhywbeth sy’n bosibl drwy gydol ein bywydau. Mae polisi a chynllunio iaith yn drawsbynciol yn eu hanfod. Mae’r tair thema’n rhychwantu ystod eang o feysydd polisi, gan gynnwys y blynyddoedd cynnar, addysg a hyfforddiant, iechyd, gofal cymdeithasol, yr economi, tai, cynllunio ac adfywio cymunedol. Mae’r cwmpas eang hwn wedi ei adlewyrchu yn y ddogfen hon.
Fframwaith Ymchwil a Gwerthuso Cymraeg 2050
Fe wnaethom gyhoeddi ein Fframwaith Ymchwil a Gwerthuso Cymraeg 2050 yn 2022. Mae’n darparu canllawiau i Lywodraeth Cymru a chynulleidfaoedd allanol ar sut i asesu cynnydd a gwerthuso effaith Cymraeg 2050.
Er bod y ddogfen hon a’r fframwaith at wahanol ddibenion, maen nhw’n ategu ei gilydd. Mae’r ddogfen hon yn nodi blaenoriaethau tystiolaeth cyfredol sy’n berthnasol i Cymraeg 2050 a fyddai’n elwa o ymgysylltu a chydweithio â’r gymuned ymchwil. Mae’r fframwaith yn cefnogi cydweithio drwy gynnig trafodaeth fanwl o nodau’r strategaeth a’r cysylltiadau rhyngddynt, yn ogystal â’r ystyriaethau methodolegol, y cyd-destun, y rhagdybiaethau, y risgiau, a’r ffynonellau data sy’n berthnasol i’r rhai sy’n cynnal ymchwil a gwerthuso yn y maes hwn.
Cwestiynau ymchwil ar themâu Cymraeg 2050
Thema 1: Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg
Mae Cymraeg 2050 yn gosod targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rhan allweddol o gyflawni’r nod hwn yw hyrwyddo trosglwyddo’r Gymraeg rhwng y cenedlaethau. Mae’r strategaeth hefyd yn cydnabod rôl hanfodol y sectorau blynyddoedd cynnar ac addysg orfodol wrth ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc gaffael neu ddysgu’r Gymraeg. Mae hwyluso cyfleoedd i gaffael neu ddatblygu sgiliau Cymraeg ymhellach yn ddiweddarach mewn bywyd hefyd yn hanfodol—drwy addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, yn y gweithle, a thrwy rwydweithiau eraill.
Trosglwyddo iaith
- Sut gellir diffinio a deall gwahanol fathau o drosglwyddo iaith rhwng y cenedlaethau, a sut maent yn amrywio ar draws cyd-destunau sosioieithyddol, daearyddol, economaidd-gymdeithasol a demograffig, ac yn ôl rhywedd a’r math o aelwyd?
- Sut gellir diffinio a deall mathau eraill o drosglwyddo iaith—megis drwy frodyr a chwiorydd, partneriaid/priod, teulu estynedig, cyfoedion neu gymunedau—a sut maent yn amrywio ar draws cyd-destunau sosioieithyddol, daearyddol, economaidd-gymdeithasol a demograffig?
- Pa ffactorau sy’n galluogi neu’n cyfyngu ar wahanol fathau o drosglwyddo iaith?
- Pa ddulliau sy’n effeithiol wrth gefnogi gwahanol fathau o drosglwyddo iaith?
- Beth yw’r berthynas rhwng gwahanol fathau o drosglwyddo iaith a chanlyniadau ieithyddol plant?
Y blynyddoedd cynnar
- Pa ffactorau sy’n effeithio ar y cyflenwad a’r defnydd o ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, ar draws cyd-destunau sosioieithyddol, daearyddol, economaidd-gymdeithasol a demograffig amrywiol?
- Pa newidiadau hirdymor i gyflenwad a defnydd gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar sydd wedi digwydd ers pandemig COVID-19, a beth yw eu goblygiadau ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg?
- Pa fath(au) o ddarpariaeth a chefnogaeth y mae teuluoedd eu heisiau gan ddarparwyr cyfrwng Cymraeg?
- Pa ddulliau (o’r cyfnod cyn geni ymlaen) sy’n effeithiol wrth gynyddu’r defnydd?
- Pa ddulliau allai helpu i ymgysylltu â theuluoedd nad ydynt yn defnyddio gofal plant a/neu addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, er mwyn hyrwyddo a chefnogi mynediad at addysg orfodol cyfrwng Cymraeg?
- Pa ddulliau trochi iaith yn y blynyddoedd cynnar sy’n cyflawni’r canlyniadau ieithyddol gorau posibl i blant sy’n dysgu mewn iaith sy’n wahanol i’w hiaith gartref?
Addysg statudol
Ysgolion cyfrwng Cymraeg
- Pa ffactorau neu ymyraethau sy’n effeithio ar benderfyniadau rhieni/gwarcheidwaid ynghylch cyfrwng iaith addysg eu plant, mewn cyd-destunau sosioieithyddol, daearyddol, economaidd-gymdeithasol a demograffig amrywiol?
- Pa ffactorau sy’n effeithio ar benderfyniadau rhieni/gwarcheidwaid ynghylch cyfrwng iaith addysg plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn benodol, a sut mae’r ffactorau hyn yn amrywio yn ôl yr iaith/ieithoedd a siaredir gartref?
- Pa ffactorau neu ymyraethau allai gynyddu canran y dysgwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol sy’n dechrau ac yn parhau mewn addysg cyfrwng Cymraeg?
- Pa ffactorau sy’n arwain at rai plant yn cael eu trosglwyddo allan o addysg cyfrwng Cymraeg ar wahanol gamau addysg—yn enwedig wrth bontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd—mewn cyd-destunau sosioieithyddol, daearyddol, economaidd-gymdeithasol a demograffig amrywiol?
- Pa ffactorau sy’n effeithio ar benderfyniadau rhieni/gwarcheidwaid a dysgwyr i fanteisio ar addysg drochi hwyr yn y Gymraeg ar wahanol gamau o addysg orfodol?
- Pa ddulliau neu ymyraethau sy’n effeithiol wrth gynyddu defnydd cymdeithasol dysgwyr o’r Gymraeg yn ystod y diwrnod ysgol?
- Mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, sut y gellir addasu dulliau addysgu ar sail cyfran y dysgwyr sy’n siarad Cymraeg gartref, er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i bawb, ar bob cam addysg?
Ysgolion cyfrwng Saesneg
- Beth yw agweddau dysgwyr, rhieni/gwarcheidwaid a staff mewn ysgolion cyfrwng Saesneg tuag at y Gymraeg ac addysg Gymraeg yn gyffredinol[2], mewn cyd-destunau sosioieithyddol, daearyddol, economaidd-gymdeithasol a demograffig amrywiol?
- Beth yw canfyddiadau dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a’u rhieni/gwarcheidwaid o’u profiadau o addysg Gymraeg yn y sector cynradd a/neu uwchradd?
- Pa ddulliau neu ymyraethau sy’n meithrin agweddau cadarnhaol?
- Pa fath a pha faint o ddarpariaeth sydd ei hangen wrth ddysgu iaith ychwanegol i gyrraedd gwahanol lefelau o’r Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd (CEFR)?
- Sut mae hyn yn amrywio yn ôl oedran neu gam addysg, a chyd-destun sosioieithyddol?
- Pa fodelau i gynyddu’r addysg mewn iaith ychwanegol, y tu hwnt i ddysgu’r iaith fel pwnc, sy’n cael effaith cadarnhaol ar ganlyniadau ieithyddol dysgwyr ar wahanol gamau addysg?
[2] Hynny yw, Cymraeg fel pwnc ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Arall
- Sut gall ysgolion cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg, a dwy iaith feithrin cysylltiadau emosiynol cadarnhaol â’r Gymraeg ymhlith dysgwyr ar bob cam addysg, ar draws cyd-destunau sosioieithyddol a daearyddol amrywiol?
- Mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg, a dwy iaith, pa fodelau, gynlluniau, dulliau addysgu, ac adnoddau sy’n effeithiol o ran gwella canlyniadau iaith llafar dysgwyr (gallu a/neu hyder)?
- Pa fodelau o addysg dwy iaith sydd fwyaf effeithiol o ran canlyniadau ieithyddol dysgwyr?
- Pa ddulliau sy’n effeithiol mewn ysgolion wrth asesu gallu a hyder dysgwyr i sgwrsio’n ddigymell?
- Pa fodelau o addysg Gymraeg sydd ar waith ar hyn o bryd o fewn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) ac ysgolion arbennig ar draws Cymru? Pa dystiolaeth sydd ar gael am eu gweithredu a’u canlyniadau?
Addysg ôl-orfodol
Pobl ifanc sy’n gadael addysg orfodol
- Pa lwybrau y mae pobl ifanc sy’n cwblhau addysg orfodol cyfrwng Cymraeg neu ddwy iaith yn eu dilyn i addysg drydyddol a thu hwnt?
- Sut mae hyn yn amrywio ar draws cyd-destunau sosioieithyddol, daearyddol, economaidd-gymdeithasol a demograffig?
- Beth yw’r goblygiadau ar gyfer eu defnydd parhaus o’r Gymraeg?
- Beth yw safbwyntiau pobl ifanc sy’n cwblhau addysg orfodol cyfrwng Cymraeg neu ddwy iaith ar barhau i ddefnyddio’r Gymraeg ar gyfer astudio yn y sector drydyddol a/neu yn eu gyrfaoedd?
- Pa mor hyderus a/neu frwdfrydig ydynt i’w defnyddio, a beth all eu cefnogi neu eu hannog i wneud hynny?
- Beth yw eu canfyddiadau ar werth eu sgiliau Cymraeg i’w gyrfaoedd yn y dyfodol?
- Pa ddulliau addysgu neu fodelau o addysg Gymraeg yn y sector drydyddol sy'n effeithiol o ran canlyniadau ieithyddol?
- Pa fodelau neu ymyraethau sy’n effeithiol o ran cynyddu argaeledd a/neu’r nifer o bobl sy’n manteisio ar brentisiaethau Cymraeg?
Dysgu’r Gymraeg yn oedolyn
- Pa ffactorau neu ddulliau sy’n cymell oedolion i ddysgu’r Gymraeg, gan gynnwys unigolion mewn grwpiau penodol, megis pobl ifanc 16–25 oed; pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol; y gweithlu addysg; a rhieni newydd neu ddarpar rieni?
- Pa ffactorau neu ddulliau sy’n galluogi neu’n cyfyngu ar gynnydd oedolion wrth ddysgu’r Gymraeg, yn enwedig o ran y gyfran sy’n dod yn siaradwyr annibynnol?
- Pa ffactorau neu ddulliau sy’n effeithiol wrth godi hyder siaradwyr Cymraeg rhugl i ddefnyddio’r Gymraeg gyda dysgwyr?
Y gweithlu addysg, adnoddau a chymwysterau
- Pa ddulliau neu ymyraethau allai gynyddu recriwtio a chadw gweithlu ar gyfer gofal plant, addysg blynyddoedd cynnar, ac addysg orfodol cyfrwng Cymraeg?
- Beth allai gynyddu cynrychiolaeth pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn y gweithlu gofal plant, addysg blynyddoedd cynnar ac addysg orfodol cyfrwng Cymraeg?
- Pa ddulliau neu ymyraethau allai gynyddu recriwtio a chadw gweithlu sydd â chyfuniad o’r sgiliau arbenigol a gallu yn y Gymraeg i gynnig darpariaeth dysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg?
- Pa ffactorau neu ymyraethau allai gynyddu’r nifer o bobl sy’n gwneud hyfforddiant dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg?
- Pa ffactorau neu fodelau allai gynyddu ymwneud darpar athrawon â’r Gymraeg yn ystod eu cyfnod hyfforddi?
- Beth yw sgiliau, cymhelliant, a lefelau hyder athrawon i ddarparu addysg Gymraeg mewn cyd-destunau amrywiol—gan gynnwys 1/ mewn addysg blynyddoedd cynnar, addysg orfodol, ac addysg ôl orfodol; 2/ mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, dwy iaith, a chyfrwng Saesneg; 3/ yn ystod addysg gychwynnol, y cyfnod gyrfa gynnar, ac wedi hynny?
- Pa hyfforddiant a/neu gefnogaeth sydd eu heisiau ar athrawon yn y cyd-destunau amrywiol hyn o ran sgiliau iaith a dulliau addysgu iaith?
- Pa gyfleoedd sydd i recriwtio pobl sy’n newid gyrfa i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg?
- Pa fathau neu fodelau o hyfforddiant fyddai fwyaf defnyddiol a deniadol iddynt?
Thema 2: Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
Ochr yn ochr â chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, mae Cymraeg 2050 yn cydnabod bod ei lwyddiant hefyd yn ddibynnol ar gynyddu’r defnydd o’r iaith. Mae’r strategaeth yn gosod targed ar gyfer canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu i 20% erbyn 2050. Ein huchelgais yw i’r Gymraeg gael ei defnyddio mewn bywyd bob dydd mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol, ac i wasanaethau gael eu cynnig yn rhagweithiol yn y Gymraeg.
Mae Mwy na Geiriau, cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol, hefyd yn canolbwyntio ar wella mynediad pobl at wasanaethau yn y Gymraeg.
O fewn y thema hon, mae anghenion tystiolaeth sy’n ymwneud â defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, â gwasanaethau, ac yn gymdeithasol.
Cyffredinol
- Beth yw’r cyfleoedd, y gallu, y lefelau hyder a’r cymhelliant sydd gan wahanol grwpiau i ddefnyddio eu Cymraeg mewn gwahanol beuoedd?
- Beth yw’r berthynas rhwng y ffactorau hyn a phatrymau bywyd bob dydd, yn enwedig yng nghyd-destun ôl-COVID-19?
- Beth yw’r berthynas rhwng y ffactorau hyn a faint mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau?
Y gweithle
- Pa fodelau o weithleoedd dwyieithog sy’n bodoli?
- Pa dystiolaeth sydd ar gael o ran eu rhoi ar waith a’u canlyniadau mewn gwahanol sectorau a chyd-destunau?
- Beth yw nodweddion neu ddangosyddion allweddol gweithle dwyieithog llwyddiannus?
- Beth gallwn ni ei ddysgu o ranbarthau neu wledydd eraill ynghylch mesur neu fonitro defnydd iaith mewn gweithleoedd dwyieithog?
- Pa strategaethau ffurfiol neu anffurfiol sy’n effeithiol wrth gynyddu’r defnydd o iaith leiafrifol yn y gweithle (ar gyfer gweithio neu ryngweithio cymdeithasol)?
- Pa addasiadau sydd eu hangen i’r strategaethau hyn ar gyfer gweithio hybrid a newidiadau eraill ers COVID-19?
- I ba raddau mae pobl yn barod i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfodydd hybrid neu ar-lein, a beth yw eu profiadau o wneud hyn?
- Pa fodelau o hyfforddiant iaith yn y gweithle sy’n effeithiol wrth weithio tuag at weithlu dwyieithog?
- Pa ffactorau neu gefnogaeth sefydliadol sy’n helpu dysgwyr Cymraeg i ddefnyddio eu sgiliau iaith yn y gweithle?
- Sut mae’r gallu i weithio mewn dewis iaith yn effeithio ar berfformiad, cynhyrchiant neu boddhad yn y gwaith?
- Beth yw’r berthynas rhwng defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a defnydd ehangach o’r Gymraeg y tu allan i’r gweithle?
Gwasanaethau (e.e. iechyd, gofal cymdeithasol, tai, addysg, cyfiawnder)
- Pa ffactorau neu ddulliau sy’n dylanwadu ar benderfyniadau unigolion i ddefnyddio gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg?
- I ba raddau mae cynnydd yn argaeledd gwasanaethau Cymraeg yn arwain at gynnydd yn eu defnydd?
- Sut mae technoleg wedi cael ei defnyddio’n effeithiol i gefnogi darparu gwasanaethau Cymraeg? (gweler hefyd Thema 3 ‘Technoleg ddigidol’)
- Pa effaith mae derbyn gwasanaethau yn y Gymraeg yn ei chael ar brofiadau a chanlyniadau cleifion sy’n ffafrio defnyddio’r Gymraeg—yn enwedig ar gyfer grwpiau blaenoriaeth Mwy na geiriau, gan gynnwys pobl â dementia, pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, plant a phobl ifanc, pobl hŷn, pobl sy’n defnyddio gwasanaethau therapi iaith a lleferydd, a phobl ag anableddau dysgu?
- Pa ffactorau sy’n galluogi neu’n cyfyngu ar ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn iaith leiafrifol?
- Beth gallwn ni ei ddysgu o achosion neu gyd-destunau, yng Nghymru neu yn rhyngwladol, lle mae darpariaeth gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn iaith leiafrifol wedi ei gwella?
Defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg
- Pa ymyraethau cymdeithasol neu gymunedol sy’n effeithiol wrth gynyddu defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg, ar bob cyfnod bywyd ac mewn cyd-destunau amrywiol?
- Pa ddulliau sy’n effeithiol wrth greu a chynnal mannau gwaith a chymdeithasol cynhwysol lle mae’r Gymraeg yn iaith ddiofyn?
- Ym mha beuoedd mae plant a phobl ifanc yn fwy neu’n llai tebygol o ddefnyddio’u Cymraeg?
- Pa ffactorau neu ymyraethau sy’n hwyluso neu’n cyfyngu ar eu defnydd o’r Gymraeg mewn gwahanol beuoedd?
- Beth sy’n effeithio ar hyder plant a phobl ifanc i ddefnyddio’u Cymraeg?
- Pa ffactorau neu ymyraethau sy’n hwyluso neu’n cyfyngu ar allu darparwyr i gynnig gweithgareddau cyfrwng Cymraeg i blant a phobl ifanc ar draws cyd-destunau sosioieithyddol, daearyddol ac economaidd-gymdeithasol amrywiol?
- Ble, a sut, y dylid canolbwyntio ymdrechion i gynyddu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol?
- Pa hyfforddiant a/neu gefnogaeth sydd eu hangen ar weithwyr ieuenctid er mwyn annog defnydd plant a phobl ifanc o’r Gymraeg?
- Beth yw safbwyntiau pobl ifanc sy’n cwblhau addysg orfodol cyfrwng Cymraeg neu ddwy iaith ar barhau i ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol, a beth fyddai’n eu cefnogi neu’n eu hannog i barhau i’w defnyddio? (gweler hefyd Thema 1 ‘Addysg ôl-orfodol’)
- Beth yw profiadau byw pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol o ran defnyddio’r Gymraeg?
Thema 3: Creu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun
Mae’r thema hon yn ymwneud â chreu’r seilwaith a’r amodau i gefnogi’r ddwy thema flaenorol—hynny yw, caffael a defnyddio’r Gymraeg. Mae’n cwmpasu ystod eang o feysydd polisi.
Mae cynllunio a datblygu economaidd effeithiol yn hanfodol i greu amgylchedd lle y gellir trosglwyddo, caffael, dysgu a defnyddio’r Gymraeg. Mae codi cynhyrchiant mewn cymunedau â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg yn arbennig o bwysig er mwyn sicrhau eu hyfywedd hirdymor—a thrwy hynny, hyfywedd y Gymraeg ynddynt. Mae sicrhau bod y Gymraeg yn rhan ganolog o fywyd diwylliannol a’r cyfryngau yng Nghymru, ac ar flaen y gad o ran arloesi digidol, hefyd yn hanfodol i lwyddiant Cymraeg 2050.
O fewn y thema hon, mae cwestiynau ar y gymuned a’r economi, diwylliant a’r cyfryngau, technoleg ddigidol, seilwaith ieithyddol, a chynllunio ieithyddol.
Cymuned a’r economi
- Sut gellir hyrwyddo a chyflawni twf mewn cynhyrchiant heb effeithio’n negyddol ar hyfywedd y Gymraeg mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith?
- Beth yw gwerth economaidd ac ieithyddol mentrau a busnesau cymdeithasol mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith?
- Pa fathau o gefnogaeth all helpu’r rhain i gyflawni eu hamcanion a thyfu?
- Pa ffactorau sy’n arwain siaradwyr Cymraeg i adael cymunedau gwledig Cymraeg, a sut mae’r ffactorau hyn yn amrywio ar draws gwahanol gyfnodau bywyd?
- Beth yw nodweddion siaradwyr Cymraeg sy’n agored i ddychwelyd neu ymgartrefi mewn cymunedau gwledig Cymraeg ar wahanol gyfnodau bywyd?
- Pa ffactorau, ymyraethau neu negeseuon all gymell siaradwyr Cymraeg i ddychwelyd neu ymgartrefi?
Diwylliant a’r cyfryngau
- Pa ffactorau neu ymyraethau all hwyluso neu gyfyngu ar integreiddio’r Gymraeg yn y sectorau celfyddydau, diwylliannol, chwaraeon a’r cyfryngau?
- Pa ffactorau sy’n effeithio ar barodrwydd siaradwyr Cymraeg i weithio a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y sector diwylliannol?
- Pa effaith mae dylanwadwyr a chynnwys cyfryngau cymdeithasol yn ei chael ar ddefnydd iaith leiafrifol?
Technoleg ddigidol
- Beth yw goblygiadau technolegau sy’n dod i’r amlwg (emerging) ar gyfer y Gymraeg?
- Beth gallwn ni ei ddysgu o ranbarthau neu wledydd eraill sydd â sefyllfaoedd dwyieithog o ran datblygu a mabwysiadu technolegau iaith?
- Sut mae athroniaethau cod agored yn cyfrannu at ddatblygu a mabwysiadu technolegau Cymraeg?
- Sut gall technoleg cyfieithu a thechnolegau eraill gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn gofodau cyhoeddus a digidol?
- Sut gall Deallusrwydd Artiffisial a thechnolegau eraill gynyddu neu wella defnydd o’r Gymraeg mewn sectorau megis iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, gweinyddiaeth a busnes?
- Pa ffactorau sy’n galluogi neu’n cyfyngu ar ddefnyddio’r Gymraeg mewn technolegau cynorthwyol ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a’r gweithle?
- Beth gallwn ni ei ddysgu o ymchwil defnyddwyr am y dyluniad a’r defnydd gorau posibl o ddyfeisiau cyfathrebu cynyddol ac amgen (Augmentative and Alternative Communication [AAC]) dwyieithog?
- Beth sy’n dylanwadu ar benderfyniadau unigolion i fabwysiadu ac i ddefnyddio technolegau neu greu mwy o gynnwys ar gyfryngau cymdeithasol mewn iaith leiafrifol?
- Sut mae technoleg a chynnwys digidol yn effeithio ar yr iaith a ddefnyddir rhwng aelodau teulu ac o fewn grwpiau cymdeithasol?
- Beth yw’r heriau allweddol o ran sicrhau diogelwch ar-lein mewn iaith leiafrifol?
- Pa ddulliau sy’n effeithiol wrth fynd i’r afael â’r heriau hyn?
Seilwaith ieithyddol
- Pa ddulliau y gellir eu defnyddio i nodi bylchau mewn terminoleg yn systematig, datblygu terminoleg safonol newydd, a hyrwyddo ei defnydd?
- Beth gallwn ei ddysgu o sut mae rhanbarthau neu wledydd eraill wedi mynd i’r afael â materion terminolegol tebyg?
- Pa ddulliau y gellir eu defnyddio i fonitro’r defnydd o derminoleg sydd newydd ei datblygu mewn technolegau Deallusrwydd Artiffisial?
- Pa ddulliau y gellir eu defnyddio i olrhain y defnydd o derminoleg sydd newydd ei datblygu mewn disgwrs cyhoeddus?
- I ba raddau mae unigolion yn manteisio ar yr adnoddau ieithyddol sydd ar gael i gefnogi eu defnydd o’r Gymraeg?
- Pa ddulliau sy’n effeithiol o ran cynyddu defnydd o’r adnoddau hyn?
- Pa faterion ieithyddol sy’n effeithio defnydd y gweithlu o’r Gymraeg (e.e. argaeledd terminoleg addas neu faterion gramadegol)?
- Pa fath o gefnogaeth neu adnoddau ieithyddol allai hwyluso defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle?
- Sut gall ysgrifennu triawd gynyddu’r defnydd o wasanaethau Cymraeg?
- Beth yw’r patrymau o ddisodli anffurfiol enwau lleoedd (i ffwrdd o’u ffurfiau gwreiddiol mewn iaith leiafrifol)?
- Beth yw’r patrymau o sefydlu enwau topograffig anffurfiol newydd sydd yn mynd ymlaen i gael eu defnyddio’n eang—naill ai lle nad oedd enw yn bodoli gynt neu gan ddisodli enwau Cymraeg?
Cynllunio ieithyddol
- Beth yw goblygiadau newid demograffeg tebygol yng Nghymru ar gyfer y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
- Beth gallwn ei ddysgu o ranbarthau neu wledydd eraill sydd wedi ymgorffori’r CEFR yn llwyddiannus?
- Pa ddulliau sydd wedi cael eu defnyddio’n effeithiol mewn gwahanol gyd-destunau i gasglu data a thystiolaeth gadarn ar allu iaith—yn enwedig yn ôl lefelau CEFR—a/neu ddefnydd iaith ar draws gwahanol beuoedd?
- Pa ddulliau sy’n effeithiol o ran cefnogi cynllunio a hyrwyddo iaith ar draws sawl lefel, megis rhwng cyrff llywodraethol a thrwy bartneriaethau traws-sector?
- Pa fathau o gefnogaeth sydd eu hangen ar wahanol fathau o sefydliadau i ymgymryd â’u cynllunio eu hunain er mwyn cyfrannu at gyflawni uchelgeisiau Cymraeg 2050?
- Pa ymddygiadau neu sefyllfaoedd allai, yn anfwriadol, annog pobl i beidio â defnyddio’r Gymraeg neu ddylanwadu’n negyddol ar agweddau tuag ati?
- Beth yw manteision a chyfyngiadau dulliau sy’n seiliedig ar rwydweithiau o adfywio iaith o’u cymharu ag ymdrechion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn?
Ystyriaethau trawsbynciol
Mae polisi a chynllunio’r Gymraeg yn drawsbynciol yn eu hanfod, ac ry’n ni am annog a dysgu o ymchwil sy’n adlewyrchu’r natur drawsbynciol hon.
Mae’r tair thema sy’n strwythuro’r ddogfen hon yn gyd-ddibynnol, ac mae gennym ddiddordeb mewn ymchwil a dadansoddi holistaidd sy’n torri ar draws themâu, cwestiynau a deilliannau.
Mae pob un o’r tair thema hefyd yn torri ar draws meysydd polisi eraill, megis y blynyddoedd cynnar, addysg a hyfforddiant, iechyd, gofal cymdeithasol, yr economi, tai, a chynllunio ac adfywio cymunedol. Ry’n ni’n croesawu mwy o ymgysylltu ag ymchwilwyr sy’n gweithio yn y meysydd polisi hyn a meysydd polisi eraill a allai fod eisiau ymgorffori ystyriaethau sy’n ymwneud â’r Gymraeg i’w gwaith, neu sydd â data neu dystiolaeth sy’n berthnasol i nodau Cymraeg 2050.
Mae hefyd themâu cyffredinol sy’n darparu lens y gellir ei defnyddio i archwilio llawer o’r pynciau a’r cwestiynau yn y ddogfen hon:
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae gennym ddiddordeb yn y cysylltiad rhwng y Gymraeg a nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys oedran, hil, anabledd, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Er bod rhai cwestiynau yn y ddogfen hon yn canolbwyntio ar nodweddion penodol, ry’n ni hefyd am annog archwilio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws ein holl gwestiynau ymchwil fel y gallwn ystyried y nodweddion gwarchodedig yn well wrth i ni wneud penderfyniadau.
Cyd-destun sosioieithyddol, daearyddol a chymdeithasol
Ry’n ni’n gwerthfawrogi ymchwil a gwerthuso sy’n ystyried cyd-destunau sosioieithyddol, daearyddol a chymdeithasol amrywiol Cymru, gan gynnwys amrywiaeth yn nwysedd siaradwyr Cymraeg, mewn amodau economaidd-gymdeithasol ac ar draws ardaloedd gwledig/trefol. Mae hyn yn cynnwys deall sut mae’r cyd-destunau hyn yn dylanwadu ar agweddau, ymddygiadau, penderfyniadau a chanlyniadau polisi.
Canfyddiadau, agweddau ac ymddygiad
Ry’n ni am ddyfnhau’n dealltwriaeth o sut mae canfyddiadau ac agweddau yn dylanwadu ar ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg—a sut mae ymddygiad yn siapio canfyddiadau ac agweddau.
Dysgu o ranbarthau neu wledydd eraill sydd ag ieithoedd lleiafrifol
Er bod y ddogfen hon yn canolbwyntio ar y Gymraeg, mae llawer o ranbarthau a gwledydd eraill sydd ag ieithoedd lleiafrifol yn wynebu heriau tebyg. Ry’n ni’n gwerthfawrogi dysgu o ranbarthau a gwledydd eraill ac wedi bod yn cydweithio â phartneriaid rhyngwladol ers blynyddoedd lawer. Fodd bynnag, gan nad yw’n bosibl cael y wybodaeth ddiweddaraf am bob un datblygiad y tu allan i Gymru bob amser, ry’n ni’n gobeithio bydd y ddogfen hon yn tynnu sylw at y mathau o fewnwelediad o gyd-destunau eraill sydd o ddiddordeb arbennig i ni.
Dulliau dadansoddi ac ymchwilio
Ry’n ni’n cydnabod y bydd dealltwriaeth o ystod o ddisgyblaethau a dulliau methodolegol yn ein helpu i adeiladu sail dystiolaeth fwy cynhwysfawr i lywio’n penderfyniadau. Mae gennym ddiddordeb arbennig yn y defnydd o ddulliau arloesol a chadarn ar gyfer ymchwil ar y Gymraeg. Ry’n ni am weithio gydag ymchwilwyr ar draws ystod o ddisgyblaethau i archwilio cyfleoedd ar gyfer cymhwyso dulliau newydd ac amrywiol. Isod mae rhai dulliau penodol ry’n ni’n credu allai fod yn arbennig o werthfawr wrth gryfhau’r sail dystiolaeth:
Gwerthuso effaith
Mae gennym ddiddordeb mewn gwerthusiadau cadarn o effaith, sy’n defnyddio dulliau arbrofol, lled-arbrofol, a dulliau sy’n seiliedig ar theori. Ry’n ni am ddeall yn well beth sy’n gweithio, i bwy, ac ym mha gyd-destun mewn perthynas â chyflawni canlyniadau Cymraeg 2050.
Arbrofi
Ry’n ni am feithrin diwylliant o arbrofi, gan gynnwys datblygu a phrofi syniadau newydd drwy ddulliau cyn-arbrofol a gwerthuso arloesol.
Gwerth am arian
Ry’n ni am ddatblygu’n dealltwriaeth o werth am arian ymyraethau o fewn ein meysydd o ddiddordeb.
Data gweinyddol a chysylltu data
Mae Banc Data SAIL yn cynnig cyfleoedd helaeth i ddefnyddio data gweinyddol a chysylltu data i ateb cwestiynau polisi allweddol. Ry’n ni’n awyddus i weld ymchwil sy’n manteisio ar y potensial hwn i ateb cwestiynau sy’n ymwneud â’r Gymraeg.
Mewnwelediadau ymddygiadol
Ry’n ni’n croesawu’r defnydd o ddulliau ymddygiadol i ddeall anghenion, cymhellion ac ymddygiadau pobl yn well mewn perthynas â defnyddio’r Gymraeg.
Dulliau cwrs bywyd
Mae Cymraeg 2050 yn ystyried caffael a defnyddio’r Gymraeg yn brofiad gydol oes. Mae gennym ddiddordeb yn y defnydd o ddulliau cwrs bywyd sy’n archwilio perthynas pobl â’r iaith mewn gwahanol gyfnodau bywyd. Gall hyn gynnwys astudiaethau hydredol, dulliau ethnograffig a dulliau eraill o archwilio profiadau byw, ac astudiaethau o lwybrau grwpiau penodol o siaradwyr.
Safbwyntiau rhyngddisgyblaethol
We want to encourage contributions from a wide range of disciplines and perspectives that can challenge and enrich our understanding of policy issues and solutions.
Cysylltwch â ni
I nodi eich diddordeb yn y Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil hyn, cysylltwch â ni drwy’r ffurflen gysylltu ar-lein neu drwy e-bost yn ymchwil.cymraeg@llyw.cymru
