Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 4 Chwefror 2026.

Cyfnod ymgynghori:
10 Rhagfyr 2025 i 4 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 361 KB

PDF
361 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydyn ni eisiau eich barn ar ddiwygio diwrnodau gwaith Dogfen Cyflog ac Amodau athrawon Ysgol (Cymru) (STPCD(W)) a Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 i gadarnhau'r ddarpariaeth o ddiwrnodau HMS mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru ar gyfer dysgu a datblygiad proffesiynol.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar gynigion i adolygu nifer a defnydd diwrnodau hyfforddiant mewn swydd (HMS) yng Nghymru. Rydym yn archwilio sut i gefnogi dysgu proffesiynol trwy gydol eu gyrfaoedd yn well ar gyfer pob ymarferydd ysgol, gan gynnwys athrawon, cynorthwywyr addysgu, staff cyflenwi, ac arweinwyr trwy:

  • Gynnal y diwrnod HMS ychwanegol a ddarparwyd ar gyfer y flwyddyn ysgol 2025 i 2026 ar gyfer pob blwyddyn ysgol yn y dyfodol, drwy ychwanegu diwrnod HMS at y 5 diwrnod HMS a ddarperir eisoes gan y Ddogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru), i ddarparu cyfanswm o chwe diwrnod HMS fesul blwyddyn academaidd.
  • Diwygio Rheoliadau Addysg (Diwrnod Ysgol a Blwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 i benderfynu ar ddefnydd a strwythur diwrnodau HMS.

Help a chymorth

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Cangen Arweinyddiaeth
Yr is-adran Ymarferwyr Ysgol
Cyfarwyddiaeth Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

e-bost: YmgynghoriadHMS2025@llyw.cymru