Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

Mae’r economi ymwelwyr yn ffynhonnell bwysig o swyddi ledled Cymru; yn 2022 cynhyrchodd diwydiannau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth oddeutu 5.1% o Werth Ychwanegol Gros (GVA) Cymru (Proffil economi ymwelwyr Cymru: 2024).

Mae yna hefyd gostau sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau a seilwaith sy’n cael eu defnyddio gan ymwelwyr. Er enghraifft, bydd ymwelwyr yn defnyddio seilwaith ffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus, meysydd parcio, goleuadau stryd, gwasanaethau rheoli gwastraff, toiledau cyhoeddus, canolfannau croeso, gwasanaethau brys ac iechyd, llwybrau troed, seddi, a seilwaith adeiledig arall. Trethi sy’n ariannu’r gwasanaethau a’r seilwaith hanfodol hyn.

Uchelgais Llywodraeth Cymru yw tyfu twristiaeth er lles Cymru drwy gefnogi cymunedau lleol mewn ffordd gynaliadwy, gan ddatblygu fframwaith sy’n fuddiol i’r ddwy ochr – i’n hymwelwyr ac i’n dinasyddion.

Mae Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) etc. (Cymru) 2025 (“Deddf 2025”) yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr yn ôl disgresiwn. Bydd yr ardoll ymwelwyr yn codi refeniw newydd a fydd yn cael ei ailfuddsoddi mewn ardaloedd lleol i gefnogi twristiaeth a seilwaith, gan wella ansawdd profiadau ymwelwyr. Bydd hynny yn ei dro o fudd i’r cymunedau y mae ymwelwyr yn dod i aros ynddynt.

Defnyddir ardollau ymwelwyr tebyg mewn llawer o wledydd ledled y byd er budd ardaloedd lleol, ac mae’r rhain yn parhau i weld eu heconomïau ymwelwyr yn ffynnu. Gellir ailadrodd y llwyddiant hwn yng Nghymru ac mae gan awdurdodau lleol bellach y pŵer i benderfynu drostynt eu hunain a ddylid cyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu hardal.

Mae’r canllawiau hyn wedi’u cynllunio i egluro’r fframwaith cyfreithiol ac amlinellu’r arferion gorau o ran llywodraethiant a chydweithio. Fe’u dyroddir o dan adran 61(1) o Ddeddf 2025, ac mae awdurdodau lleol (mae’r canllawiau hyn yn cyfeirio at ‘awdurdodau lleol’ - fodd bynnag, cyfeirir atynt fel prif gynghorau yn Neddf Llety Ymwelwyr (Cofrestru ac Ardoll) etc. (Cymru) 2025) o dan ddyletswydd o dan adran 61(2) i roi sylw iddynt wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 3 o Ddeddf 2025. Bydd y canllawiau o ddiddordeb hefyd i’r sector twristiaeth ac i ddarparwyr llety ymwelwyr.

Eu bwriad yw darparu cymorth clir a chynhwysfawr i awdurdodau lleol wrth iddynt ymgymryd â’r gwaith o weithredu’r ardoll.

Rwy’n falch o gyflwyno’r canllawiau hyn gan obeithio y byddant yn adnodd defnyddiol, ac rwy’n edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd yr ardoll ymwelwyr yn ei chael ar ein cymunedau a’r gwahaniaeth amlwg y bydd yn ei wneud.

Mark Drakeford AS
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Cyflwyniad

1.1 Cafodd Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) etc. (Cymru) 2025 (y cyfeirir ati o hyn allan fel “Deddf 2025”) ei phasio gan y Senedd ar 8 Gorffennaf 2025 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 18 Medi 2025. Mae’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol i godi ardoll (“yr ardoll”) ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr yn eu hardal. Mae’r ardoll yn ddisgresiynol ei natur; mater i awdurdodau lleol fydd penderfynu a ddylid ei chyflwyno, ar ôl ymgynghori â’u cymunedau a busnesau lleol.

1.2 Canllawiau yw’r rhain ar gyfer awdurdodau lleol sy’n ystyried datblygu a gweithredu ardoll yn eu hardal. Mae’n bosibl y bydd darparwyr llety ymwelwyr hefyd yn ei gweld yn fuddiol darllen a deall y canllawiau hyn, yn enwedig o ran cyfathrebu ag ymwelwyr, yn ogystal ag eraill sydd â buddiant mewn ardoll arfaethedig.

1.3 Maent wedi’u cynllunio i roi eglurder a chymorth o ran deall Deddf 2025, a hefyd o ran sefydlu arferion gorau ar gyfer llywodraethiant a chydweithio. Datblygwyd y canllawiau hyn ar y cyd ag awdurdodau lleol a chynrychiolwyr o’r sector twristiaeth ac ymgynghorwyd arnynt yn unol â’r gofyniad yn adran 61(1) o Ddeddf 2025. 

1.4 Bydd Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) yn darparu canllawiau gweithredol ar wahân i ddarparwyr llety ymwelwyr i’w cynorthwyo â’u rhwymedigaethau o ran casglu a throsglwyddo’r ardoll.

1.5 Nid yw’r canllawiau hyn yn gyngor cyfreithiol nac yn ddehongliad cynhwysfawr o ddeddfwriaeth. Fe’u datblygwyd i gynorthwyo awdurdodau lleol sydd am gyflwyno ardoll ymwelwyr, ac y mae’n rhaid iddynt roi sylw i’r canllawiau hyn. Dylai awdurdodau lleol geisio’u cyngor cyfreithiol eu hunain mewn perthynas â chyflwyno ardoll yn eu hardal.

1.6 Bydd y canllawiau hyn yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru a byddant yn cael eu hadolygu a’u diweddaru o bryd i’w gilydd.

2. Cyfrifoldebau: Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol, ACC a Darparwyr Llety Ymwelwyr

2.1 Bydd cyflwyno’r ardoll yn gofyn am gydweithredu effeithiol rhwng Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol, ACC a darparwyr llety ymwelwyr, i sicrhau bod yr ardoll yn gweithredu’n esmwyth ac yn rhoi budd i gymunedau, busnesau ac ymwelwyr. Mae eu cyfrifoldebau wedi’u crynhoi isod.

2.2 Gweinidogion Cymru

  • Gosod y fframwaith deddfwriaethol a’r cyfeiriad polisi.
  • Dyroddi canllawiau statudol y mae’n rhaid i awdurdodau lleol roi sylw iddynt wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 3 o Ddeddf 2025.

2.3 Awdurdodau lleol

2.4 Yn unol ag adran 61(2) o Ddeddf 2025, rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i’r canllawiau hyn wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 3 (y mae rhai ohonynt wedi’u hamlinellu isod) gan gynnwys wrth ystyried a ddylid arfer swyddogaeth o dan y Rhan honno.

  • Paratoi cynnig ar gyfer cyflwyno’r ardoll yn eu hardal.
  • Hysbysu ACC am eu cynnig i gyflwyno’r ardoll (adran 47(4)(a) o Ddeddf 2025).
  • Cyhoeddi adroddiad yn nodi eu cynnig (adran 47(4)(b)(i) o Ddeddf 2025) gan nodi:
    • Amcangyfrif o’r refeniw a’r costau.
    • Y defnydd y bwriedir ei wneud o’r elw at ddibenion rheoli a gwella cyrchfan.
    • Aelodaeth arfaethedig y Fforwm Partneriaeth Ardoll Ymwelwyr.
  • Anfon copi o’r adroddiad hwnnw at ACC (adran 47(4)(c) o Ddeddf 2025)
  • Ymgynghori â chymunedau lleol a rhanddeiliaid, gan gynnwys ymgyngoreion gorfodol (adran 47(4)(d) o Ddeddf 2025).
  • Ystyried y cynnig gan roi sylw i unrhyw sylwadau a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad (adran 47(7) o Ddeddf 2025).
  • Hysbysu ACC a yw’r awdurdod lleol yn bwriadu bwrw ymlaen â gweithredu’r ardoll, a chyhoeddi adroddiad terfynol yn nodi a yw’n bwriadu bwrw ymlaen â’i gynnig. Os ydyw, rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi manylion y cynnig ac esboniad o unrhyw newidiadau a wnaed i’r adroddiad a gyhoeddodd o dan adran 47(4)(b) o Ddeddf 2025 ac anfon yr adroddiad hwnnw at ACC (adran 47(8) o Ddeddf 2025).
  • Ystyried cynnal asesiad effaith lleol, sy’n gymorth i wneud penderfyniadau effeithiol.

2.5 Swyddogaethau a phenderfyniadau awdurdodau lleol

2.6 Mae adran 54 yn nodi sut y mae’n rhaid i benderfyniadau sy’n ymwneud â’r ardoll ymwelwyr gael eu gwneud o fewn awdurdod lleol. Rhaid i bob penderfyniad sy’n ymwneud ag arfer swyddogaethau mewn perthynas â’r ardoll gael ei wneud gan y cyngor llawn. Nid swyddogaethau’r weithrediaeth (y Cabinet) yw’r rhain ac ni ellir eu dirprwyo iddi. Mae hyn yn sicrhau bod penderfyniadau ynghylch a ddylid cyflwyno ardoll ac unrhyw amrywiadau neu ddirymiadau dilynol, yn cael eu gwneud ar y cyd gan aelodau etholedig yr awdurdod yn y cyngor llawn.

2.7 Mae adran 54 hefyd yn datgymhwyso adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) at ddibenion awdurdod lleol sy’n cyflawni ei swyddogaethau o dan Ddeddf 2025. Mae hyn yn golygu na all awdurdodau lleol drefnu bod swyddogaethau sy’n ymwneud â’r ardoll yn cael eu cyflawni gan bwyllgor, is-bwyllgor, swyddog, nac awdurdod lleol arall, hyd yn oed pan fyddai dirprwyo o’r fath yn cael ei ganiatáu fel arfer o dan Ddeddf 1972.

2.8 Caiff swyddogion ddarparu cyngor, gwneud gwaith paratoi, a gweithredu penderfyniadau ar ôl iddynt gael eu gwneud, ond ni chânt arfer y swyddogaethau gwneud penderfyniadau eu hunain. Felly, dylai awdurdodau roi llwybrau llywodraethiant priodol ar waith i sicrhau bod cyfarfodydd y cyngor yn cael eu trefnu’n amserol a bod llinellau adrodd clir fel bod gofynion statudol yn cael eu bodloni a bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn unol â Deddf 2025.

2.9 Unwaith y gwneir penderfyniad ffurfiol i gyflwyno ardoll:

  • Hysbysu ACC am eu penderfyniad terfynol. Wrth anfon yr hysbysiad at ACC o dan adran 47(8), yr arfer gorau fyddai i’r awdurdod gadarnhau hefyd wrth ACC ei fod yn barod i dderbyn telerau’r cytundeb lefel gwasanaeth ag ACC.
  • Cyhoeddi hysbysiad (adran 48(2) o Ddeddf 2025) ar wefan y cyngor a llwyfannau hygyrch eraill, sy’n nodi:
    • Cyfraddau’r ardoll.
    • Y dyddiad y daw’r ardoll yn effeithiol, na chaiff fod yn dyddiad sydd cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad a rhaid mai naill ai 1 Ebrill neu 1 Hydref yw’r dyddiad hwnnw (adran 48(3) o Ddeddf 2025). Gall ACC a’r awdurdod lleol gytuno ar gyfnod byrrach ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad (adran 48(3)(a)(ii)) a gallai hyn fod yn berthnasol pe bai’r awdurdod yn methu â rhoi gwybod i ACC. Ar ddyddiad yr hysbysiad cyhoeddus y dylai’r cyfnod hysbysu ddechrau.
  • Cymryd camau rhesymol i sicrhau bod Fforwm Partneriaeth Ardoll Ymwelwyr yn cael ei sefydlu heb fod yn hwyrach na 3 mis ar ôl i’r ardoll ddod yn effeithiol yn ei ardal (adran 46 o Ddeddf 2025).
  • Cynnal cyfrif ar wahân ar gyfer enillion yr ardoll (adran 43(1) o Ddeddf 2025).
  • Cyhoeddi adroddiad blynyddol (adran 45 o Ddeddf 2025) sy’n nodi:
  • Cyfanswm refeniw a refeniw net.
  • Sut y mae enillion yr ardoll ar gyfer y flwyddyn ariannol o dan sylw wedi cael eu defnyddio, neu sut y byddant yn cael eu defnyddio, gan y cyngor, a sut y mae’r defnydd hwnnw at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn ardal y cyngor.
  • Dylai awdurdodau hefyd gyhoeddi unrhyw asesiadau effaith sydd wedi’u cynnal. Mae hyn yn hybu tryloywder ac yn galluogi rhanddeiliaid i ddeall yr effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol posibl. Mae hefyd yn helpu i sicrhau gwybodaeth ddigonol ar gyfer ymgynghori a gwneud penderfyniadau.
  • Yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r polisïau perthnasol ar ddiogelu data, rhannu gwybodaeth ag ACC i helpu’r prosesau cydymffurfio a gorfodi. 
  • Mae’n bosibl hefyd y bydd awdurdodau lleol yn dymuno monitro a gwerthuso effaith yr ardoll, er mwyn llywio unrhyw benderfyniadau yn ei gylch yn y dyfodol.

2.10 Mae Deddf 2025 hefyd yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ganiatáu i awdurdodau lleol ychwanegu swm ychwanegol at naill ai gyfradd uwch neu gyfradd is yr ardoll yn ei ardal a/neu i ganiatáu i awdurdod lleol ychwanegu swm ychwanegol mewn perthynas â rhannau penodol o’i ardal yn unig neu ychwanegu symiau gwahanol mewn perthynas â gwahanol ardaloedd (adran 34 o Ddeddf 2025). Caiff rheoliadau hefyd bennu cyfnod o amser pan nad yw’r swm ychwanegol yn gymwys. Dim ond os bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud y rheoliadau angenrheidiol y bydd hyn yn opsiwn i awdurdod lleol, ond mae adran 34(4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori cyn gwneud y rheoliadau a bydd y Canllawiau hyn yn cael eu diweddaru os arferir y pŵer gwneud rheoliadau. Mae adran 47(3) o Ddeddf 2025 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ardoll fod wedi bod mewn grym yn ardal yr awdurdod lleol am 12 mis cyn iddo gymryd unrhyw gamau i ychwanegu swm ychwanegol at yr ardoll. 

2.11 Awdurdod Cyllid Cymru

  • Gweinyddu’r gofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr.
  • Casglu a rheoli’r ardoll ar ran awdurdodau lleol.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf 2025 a chymryd camau gorfodi lle y bo angen.

2.12 Bydd ACC yn ymgynghori ag awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan ynglŷn â’u cynlluniau corfforaethol.  Dylai’r awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw gan ystyried sut mae’r ardoll ymwelwyr yn gweithredu yn eu hardal.

2.13 Ar ôl i’r ardoll gael ei chyflwyno yn ardal awdurdod lleol, gall ACC ddarparu data perfformiad i’r awdurdod lleol ynglŷn â chasglu a rheoli’r ardoll ar gyfer yr ardal leol honno. Bydd ACC yn cynnal cyfarfodydd chwarterol gyda’r awdurdodau lleol sydd wedi dewis defnyddio’r ardoll, a fydd yn caniatáu rhagor o gydweithio a rhannu gwybodaeth.

2.14 Mae’n bosibl hefyd y bydd ACC yn gallu defnyddio gwybodaeth o’r gofrestr genedlaethol o ddarparwyr llety i helpu i amcangyfrif y sylfaen dreth bosibl ar gyfer ardal awdurdod lleol i’w cynorthwyo â’u hymgynghoriad cychwynnol. Gall ACC hefyd rannu ag awdurdodau lleol yr wybodaeth y mae’n ei chasglu drwy ei swyddogaethau cofrestru, i gynorthwyo eu gweithgareddau ymgynghori ynglŷn â’r ardoll.

2.15 Bydd ACC, mewn perthynas â pob un o’r ardaloedd awdurdod lleol y cyflwynwyd yr ardoll ynddi, yn cadw cyfrif ar wahân ar gyfer enillion yr ardoll a gesglir mewn cysylltiad â’r ardal awdurdod lleol honno (gweler adran 24A(1) o Ddeddf 2016). Rhaid i ACC dalu enillion yr ardoll a gesglir bob blwyddyn ariannol mewn cysylltiad ag ardal awdurdod lleol (gan gynnwys unrhyw log ar yr enillion) i’r awdurdod lleol hwnnw (adran 24A(2) o Ddeddf 2016), heb fod yn hwyrach na:

  1. 30 Mehefin yn y flwyddyn ariannol ganlynol, neu
  2. unrhyw ddyddiad arall y cytunir arno rhwng ACC a’r awdurdod lleol. 

2.16 Rhaid i ACC ddidynnu o’r enillion a dderbyniwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol y symiau hynny yr ystyrir eu bod yn briodol mewn cysylltiad â’r costau y mae wedi mynd iddynt mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol honno mewn perthynas â’r ardoll ar gyfer yr ardal honno (adran 24A(3) o Ddeddf 2016). Gweler hefyd adran 24A(4) o Ddeddf 2016 am ddarpariaeth mewn perthynas â chostau ac alldaliadau a allai ddod yn daladwy).

2.17 Bydd y costau hyn yn cael eu capio ar 10% o enillion yr ardoll ymwelwyr gan mai bwriad Gweinidogion Cymru yw bod awdurdodau lleol yn cadw o leiaf 90% o’u refeniw ardoll ymwelwyr. Bydd rhagor o fanylion am gostau ar gael gan ACC.

Senario: Amseriad Taliadau

Os bydd awdurdod lleol yn cyflwyno’r ardoll i ddechrau ym mis Ebrill 2027, bydd y taliad cyntaf posibl gan ACC yn cael ei wneud erbyn 30 Mehefin 2028 fan bellaf. Taliad ar gyfer tri chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2027-2028 yn unig fydd hwn oherwydd bod y cylch talu wedi’i seilio ar yr ardoll a gesglir mewn gwirionedd yn ystod blwyddyn ariannol. Ni fydd yr ardoll ar gyfer chwarter 4 a’r ardoll gan ffeilwyr blynyddol yn cael eu casglu tan y flwyddyn ariannol ganlynol (2028–2029).

Gan ddefnyddio’r un dyddiad cychwyn, sef Ebrill 2027, bydd y taliad nesaf, sy’n ddyledus erbyn Mehefin 2029, yn cynnwys ardoll chwarter 4 a ac ardoll ffeilwyr blynyddol a gasglwyd ar gyfer 2027-28 ynghyd â’r ardoll a gasglwyd ar gyfer chwarteri 1-3 2028-2029.

Ar ôl blwyddyn lawn gyntaf cylch cyfrifyddu’r ardoll, bydd yr amserlen dalu yn setlo i batrwm rheolaidd.

2.18 Darparwyr Llety Ymwelwyr

2.19 O dan Ddeddf 2025, y darparwr llety ymwelwyr yw’r person sy’n atebol i dalu’r ardoll sy’n codi pan fydd yr hawl o dan y contract i breswylio yn y llety wedi dod i ben (adran 30 o Ddeddf 2025). Bydd yr ardoll yn cael ei chasglu gan ddarparwyr llety ymwelwyr ac yn cael ei throsglwyddo i ACC.

2.20 Rhaid i bob darparwr llety ymwelwyr yng Nghymru gofrestru ei hun a chofrestru’r fangre a weithredir ganddo, gydag ACC, boed ei awdurdod lleol wedi cyflwyno ardoll ai peidio. Mae’r ddyletswydd i gofrestru yn dechrau ar 1 Hydref 2026. Bydd canllawiau ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr yn cael eu cyhoeddi gan ACC.

2.21 Pan fo awdurdod lleol yn cyflwyno ardoll ymwelwyr, bydd darparwyr llety yn gyfrifol am wneud y canlynol:

  • Cyfrifo’r ardoll yn seiliedig ar nifer yr arosiadau dros nos a’r gyfradd sy’n gymwys.
  • Cyfleu gwybodaeth glir am yr ardoll i westeion pan fyddant yn archebu ac yn talu.

2.22 Bydd yn ofynnol i ddarparwyr llety ymwelwyr drosglwyddo’r ardoll i ACC yn rheolaidd (fel y nodir yng nghanllawiau ACC). Bydd ACC yn cynnig cymorth a deunyddiau canllaw i helpu darparwyr.

3. Ymgynghori

3.1 Rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’i gymunedau ynglŷn â’i gynnig cyhoeddedig, i lywio ei benderfyniad ynghylch gweithredu ardoll (adran 47 o Ddeddf 2025).

3.2 Bydd awdurdodau lleol yn ymwybodol o’u rhwymedigaethau cyfreithiol ehangach o ran y gyfraith ar ymgynghori, a dylent gydymffurfio â nhw. Eu hatgoffa am hynny yw diben y canllawiau hyn, yn hytrach na chymryd ei le.

3.3 Wrth gynnal ymgyngoriadau cynllunio cyhoeddus, rhaid i awdurdodau lleol gadw at Egwyddorion Gunning. Mae’r egwyddorion hyn yn cael eu cydnabod yn eang fel arfer da ar gyfer sicrhau tegwch, tryloywder, ac ymgysylltu ystyrlon. Mae’r pedair egwyddor hyn yn ffurfio’r sylfaen gyfreithiol a moesegol ar gyfer ymgynghori effeithiol, gan ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer ymgynghori effeithiol.

  • Rhaid i’r ymgynghoriad gael ei gynnal ar gam ffurfiannol.
  • Rhaid darparu digon o wybodaeth i ganiatáu ystyriaeth ac ymateb deallus.
  • Rhaid rhoi digon o amser i ystyried ac ymateb.
  • Rhaid i’r penderfynwr ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn gydwybodol.

3.4 Gall cymhwyso’r egwyddorion hyn helpu i feithrin ymddiriedaeth gyda rhanddeiliaid, helpu i wneud penderfyniadau gwybodus, a lleihau’r risg o her gyfreithiol. Dylai’r deunyddiau ymgynghori fod yn glir ac yn hygyrch, dylai’r amserlenni fod yn realistig, a dylid rhoi ystyriaeth wirioneddol i’r adborth wrth lunio’r penderfyniadau polisi terfynol.

3. 5 Bydd gan bob awdurdod lleol strategaeth cyfranogi cyhoeddus sy’n hyrwyddo ac yn annog cyfranogi ym mhroses gwneud penderfyniadau’r cyngor. Bydd y strategaethau hyn yn nodi sut i annog a galluogi pobl a chymunedau lleol i gymryd rhan weithredol mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

3.6 Paratoi cynnig

3.7 O dan adran 47 o Ddeddf 2025, rhaid i awdurdod lleol sy’n ystyried gweithredu ardoll ymwelwyr hysbysu ACC am ei fwriad a chyhoeddi adroddiad sy’n nodi ei gynnig ar gyfer cyflwyno’r ardoll yn ei ardal. Rhaid i’r cynnig gynnwys:

  • Amcangyfrif o’r refeniw disgwyliedig o’r ardoll ym mlwyddyn lawn gyntaf ei weithredu, ynghyd â’r costau disgwyliedig sy’n gysylltiedig â gweithredu’r ardoll.
  • Disgrifiad o sut mae’r cyngor yn bwriadu defnyddio’r elw o’r ardoll, yn dangos sut y bydd yn defnyddio’r refeniw i gynorthwyo’r gwaith o reoli a gwella cyrchfannau yn yr ardal.
  • Ei gynlluniau ar gyfer sefydlu fforwm partneriaeth ardoll ymwelwyr, gan gynnwys manylion y rhanddeiliaid y mae’n bwriadu eu gwahodd i gymryd rhan.

3.8 Mae’n bosibl y bydd awdurdodau lleol hefyd yn dymuno cynnwys yr wybodaeth ganlynol yn eu cynnig (nid yw’r rhestr hon yn un ddiffiniol, a gall awdurdodau gynnwys unrhyw wybodaeth sy’n ddefnyddiol yn eu tyb nhw):

  • Nodi’r amcanion y mae’r awdurdod am eu cyflawni.
  • Nodi’r manteision posibl, e.e. cynnig awgrymiadau ynghylch sut y gellid buddsoddi’r ardoll er budd yr ardal leol, busnesau, trigolion ac ymwelwyr.
  • Sut y mae’r ardoll yn cefnogi’r blaenoriaethau a nodir yn strategaeth dwristiaeth / cynllun rheoli cyrchfannau y cyngor.

3.9 Dylai awdurdodau lleol ystyried effeithiau posibl eu cynnig. Rhaid i asesiadau effaith nodi’r manteision disgwyliedig ac unrhyw gostau a ragwelir wrth gyflwyno ardoll. Er enghraifft, costau sy’n gysylltiedig â threfnu’r ymgynghoriad, a’r refeniw disgwyliedig o’r ardoll a sut y byddant yn cael eu defnyddio. Mae awdurdodau lleol hefyd o dan amryw o ddyletswyddau statudol y dylent fod yn ymwybodol ohonynt wrth ystyried effeithiau posibl, er enghraifft Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (Deddf Cydraddoldeb 2010 ynghyd â’r Dyletswyddau Penodol i Gymru), yr Effaith ar y Gymraeg, a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae awdurdodau lleol yn cynnal asesiadau effaith yn rheolaidd i’w helpu i wneud penderfyniadau effeithiol, yn unol â llywodraethiant da, a dylid parhau i ddilyn y prosesau lleol presennol yn hyn o beth.

3.10 Mae’n bosibl hefyd y bydd awdurdodau yn dymuno ystyried yr effeithiau economaidd lleol posibl o gyflwyno ardoll ymwelwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Asesiad Effaith Economaidd ar lefel genedlaethol ar gyfer y polisi ardoll ymwelwyr. Gan nad oes data ar gael ynghylch elastigedd y galw mewn perthynas â phrisiau lleol, dylai unrhyw asesiad o effeithiau economaidd lleol ystyried dulliau ansoddol, gan geisio barn rhanddeiliaid drwy ymgysylltu ac ymgynghori, a chan ystyried y gwaith sydd wedi’i wneud eisoes gan Lywodraeth Cymru. 

3.11 Mae swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn arwain cymuned ymarfer ar Asesiadau Effaith, ac mae croeso i awdurdodau lleol ymuno â hi os ydynt yn dymuno. I gael rhagor o fanylion cysylltwch â: Dyfodol.Cynaliadwy@llyw.cymru

3.12 Pan fo awdurdod lleol yn cynnig diddymu’r ardoll, rhaid iddo gyhoeddi datganiad yn nodi pa effaith y disgwylir i ddiddymu’r ardoll ei chael ar refeniw’r cyngor mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol lawn gyntaf ar ôl i’r ardoll gael ei diddymu (adran 47(4)(b)(iii) o Ddeddf 2025).

3.13 Yr ymgyngoreion gorfodol (adran 47(6) o Ddeddf 2025) yw:

  • Pobl leol, h.y. pobl sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn ardal yr awdurdod lleol.
  • Cynghorau tref neu gynghorau cymuned yn ardal yr awdurdod lleol.
  • Y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, o fewn ystyr Rhan 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ar gyfer ardal yr awdurdod lleol.
  • Yr awdurdod lleol ar gyfer ardal sy’n cyffinio ag ardal yr awdurdod ymgynghori, h.y. cynghorau cyfagos, er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o’r cynlluniau. Er na chaiff awdurdodau lleol wneud cais ffurfiol i gyflwyno’r ardoll ar y cyd yn eu hardaloedd, mae’n bosibl y byddant am ystyried a oes unrhyw gyfleoedd i gydweithio neu gydweithredu.
  • Yr Awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal yr awdurdod lleol.
  • Cyd-bwyllgor corfforedig sy’n cynnwys o leiaf un prif aelod gweithrediaeth o’r awdurdod lleol yn aelod ohono.
  • Sefydliadau sy’n cynrychioli busnesau sy’n gweithio ym maes twristiaeth, neu sy’n ymwneud â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth, yn ardal yr awdurdod lleol; a/neu sy’n hybu neu’n hwyluso twristiaeth yn ardal y cyngor.
  • Os cyflwyno’r ardoll yw’r cynnig, dylai’r ymgynghoriad gynnwys pob person a bennir yn yr adroddiad yn rhinwedd adran 47(5)(c) o’r Ddeddf (sy’n cyfeirio at aelodaeth arfaethedig y fforwm partneriaeth ardoll ymwelwyr) nad yw fel arall yn ymgynghorai gorfodol. 
  • Os cynigir newid neu ddiddymu’r ardoll, pob aelod o’r fforwm partneriaeth ardoll a sefydlwyd gan y cyngor nad yw fel arall yn ymgynghorai gorfodol.

3.14 Mae’n bosibl hefyd y bydd awdurdodau lleol yn dymuno ehangu’r cwmpas y tu hwnt i’r ymgyngoreion gorfodol, fel y gwelant yn dda.

3.15 Bydd ACC yn cydweithredu â’r awdurdodau lleol drwy gydol y broses ymgynghori i roi cyngor ac i esbonio sut y bydd casglu ardoll yn gweithio. Dylai’r cydweithrediad hwn ymestyn i gael y canlynol gan ACC:

  • Manylion am sut y bydd y broses gasglu yn gweithio.
  • Cyngor ar sut y mae’r ddeddfwriaeth yn gweithredu.
  • Bydd ACC yn sefydlu fforwm ar gyfer awdurdodau lleol sydd wedi gwneud dewis ffurfiol i ddefnyddio’r ardoll (yn unol â’r cytundeb lefel gwasanaeth). Bydd ACC yn defnyddio’r amser rhwng yr hysbysiad a’r dyddiad dechrau i helpu â’r paratoadau gweithredu a’r gwaith cynllunio ar gyfer y cam yn dilyn cyflwyno’r ardoll.
  • Esbonio sut y byddai’r gyfundrefn gosbi a gorfodi yn gweithio.
  • Mynd i ddigwyddiadau ymgynghori neu weithgareddau ymgysylltu a gynhelir gan yr awdurdod lleol, i helpu i ateb cwestiynau am weithredu ardoll.
  • Rhoi cyngor i’r awdurdod lleol am unrhyw risgiau gweithredol posibl.
  • Helpu’r awdurdod lleol i amcangyfrif ei sylfaen dreth bosibl, unwaith y bydd data cofrestru llawn ar gael.
  • Darparu gwybodaeth i’r awdurdod lleol am y costau a fydd yn cael eu didynnu o’r refeniw a sut y caiff y rhain eu cyfrifo.

3.16 Dylai awdurdodau lleol ystyried eu rhwymedigaethau cyfreithiol i sicrhau ymgynghori effeithiol. Dylai ymgynghoriad effeithiol geisio barn gynrychioliadol gan y gymuned leol ac archwilio ystod o ddulliau i gefnogi ymgysylltu. Dylai’r ymgynghoriad fod yn gymesur â’r effeithiau posibl. Ar gyfer yr ardoll, mae’r ddeddfwriaeth yn nodi’r ymgyngoreion gorfodol y mae’n rhaid ceisio’u barn. 

3.17 Dylai’r ymgynghoriad fod yn hygyrch i bawb sy’n dymuno cymryd rhan a dylai fod yn agored am ddigon o amser i ganiatáu ymatebion.

3.18 Dylai’r ymgysylltu fod yn unol â Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus yr awdurdod lleol. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar Strategaethau Cyfranogiad y Cyhoedd ar gael yma: Canllawiau statudol ac anstatudol ar ddemocratiaeth o fewn prif gynghorau: cyfranogiad y cyhoedd; strategaethau a deisebau

3.19 Mae egwyddorion cenedlaethol ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru, sy’n adlewyrchu arferion da, wedi’u datblygu ar y cyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Llywodraeth Cymru, Un Llais Cymru, ac ymarferwyr cyfranogi ac ymgysylltu.

Mae’r egwyddorion, gan gynnwys yr egwyddorion a chanllaw i ymarferwyr, ar gael ar wefan CLlLC: Llywodraethu a Pherfformiad Corfforaethol.

3.20 Os bydd swyddogion awdurdodau lleol, ar ôl ymgynghori, yn penderfynu argymell cyflwyno ardoll yn eu hardal, rhaid i’r penderfyniad i gyflwyno ardoll gael ei wneud drwy’r cyngor llawn.

3.21 Dylai awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn gwneud ymdrech i gyrraedd pawb y gallai cyflwyno ardoll yn eu hardal effeithio arnynt, ac yn gwneud trefniadau addas i estyn allan at y rhai a fyddai’n annhebygol o ymateb i ymgynghoriad ysgrifenedig.

3.22 I gynorthwyo â’r ymgynghoriad, gall awdurdodau lleol ddefnyddio ein tudalennau gwe a’n ffilm:

Mae taflen ar gael hefyd:

3.23 Dylai awdurdodau lleol gysylltu â thîm yr ardoll ymwelwyr i gael rhagor o wybodaeth: ArdollYmwelwyr@Llyw.Cymru

3.24 Ystyriaethau eraill ar gyfer awdurdodau lleol

3.25 Dylai awdurdodau lleol hefyd ystyried Cod yr Ymarfer a Argymhellir ar gyfer Awdurdodau Lleol wrth ystyried dulliau ymgynghori, yn ogystal â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, er mwyn sicrhau bod ystod amrywiol o bobl yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau:

3.26 Er nad yw’n ofyniad gorfodol yn y ddeddfwriaeth, byddem yn annog awdurdodau lleol i ystyried eu cynlluniau rheoli cyrchfannau a/neu eu strategaeth dwristiaeth bresennol wrth ddatblygu cynnig i ddefnyddio ardoll. Gall yr ardoll fod yn alluogwr tuag at gyflawni cynlluniau rheoli cyrchfannau lleol (lle bo’r rhain yn bodoli). Mae’r ymgynghoriad hefyd yn gyfle i geisio barn ehangach ar unrhyw gynllun rheoli cyrchfannau / strategaeth dwristiaeth leol gan randdeiliaid sydd â diddordeb. Gall defnyddio’r dull hwn helpu i sicrhau cydlyniant cynlluniau lleol.

3.27 Rhaid i awdurdod lleol roi gwybod i ACC am ei fwriadau a chyhoeddi adroddiad sy’n nodi ble y bydd yr ardoll yn cael ei chyflwyno. Dylai’r adroddiad gynnwys:

  • Amcangyfrif o’r swm y disgwylir iddo gael ei godi yn yr ardal honno yn ystod y flwyddyn ariannol lawn gyntaf ar ôl i’r ardoll gael ei chyflwyno ac amcangyfrif o’r gost i’r awdurdod.
  • Sut y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu defnyddio’r elw a sut y bydd yn ei ddefnyddio at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn ardal y cyngor.

Cynigion ar gyfer aelodaeth o’r fforwm partneriaeth ardoll i’w sefydlu gan y cyngor, gan nodi’r personau y mae’r cyngor yn bwriadu eu gwahodd i fod yn aelodau o’r fforwm.

4. Gofynion cyhoeddi

4.1 Os bydd cyngor llawn awdurdod lleol yn cymeradwyo cyflwyno ardoll, newidiadau i’r ardoll neu ddiddymu’r ardoll, rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad (adran 48(2) o Ddeddf 2025).

4.2 Wrth gyhoeddi’r hysbysiad, rhaid i’r awdurdod lleol wneud y canlynol:

  • Cyhoeddi canlyniadau ei benderfyniad ar ei dudalennau gwe, ac mewn unrhyw ffordd arall y mae’r cyngor yn ei hystyried yn briodol (adran 48(6) o Ddeddf 2025).
  • Pennu beth fydd cyfraddau’r ardoll.
  • Rhoi gwybod ar ba ddyddiad y daw’r newidiadau i’r ardoll i rym. Yn gyffredinol, ni fydd y dyddiad a bennir yn ddim llai na 12 mis, ar ôl dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad a naill ai 1 Ebrill neu 1 Hydref, fodd bynnag caiff fod yn llai na 12 mis os yw’r awdurdod lleol yn cytuno ar hynny ag ACC.
  • Unrhyw wybodaeth arall y mae’r cyngor yn ystyried ei bod yn briodol. Er enghraifft, gallai hyn fod yn wybodaeth am weithredu, y camau nesaf neu wybodaeth berthnasol arall y dylai rhanddeiliaid fod yn ymwybodol ohoni.

4.3 Er bod rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi’r hysbysiad ar ei wefan, dylai awdurdodau lleol hefyd ystyried sut y mae eu cymunedau yn cael mynediad at wybodaeth ar hyn o bryd a’r disgwyliadau o ran ble y byddai hysbysiadau o’r fath ar gael. Er enghraifft, mewn cylchlythyrau cynghorau lleol, papurau newydd lleol, ar hysbysfyrddau mewn neuaddau tref, ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol ac ati. Bydd awdurdodau lleol wedi sefydlu sianeli cyfathrebu a dylent ystyried y ffordd orau o roi gwybod i’w cymunedau am benderfyniadau. Mae’n bosibl hefyd y bydd yr awdurdod lleol yn dymuno parhau i gyfathrebu â rhanddeiliaid yr effeithir arnynt, megis darparwyr llety ymwelwyr, ACC, ymwelwyr, awdurdodau lleol cyfagos ac ati.

4.4 Anogir awdurdodau lleol yn gryf i gymryd rhan mewn deialog barhaus a gweithio mewn partneriaeth. Bwriad Fforymau Partneriaeth Ardoll Ymwelwyr yw darparu cyfrwng ar gyfer ymgysylltu parhaus ynglŷn â’r ardoll.

5. Cyfnod rhybudd

5.1 Y cyfnod hysbysu gofynnol i gyflwyno’r ardoll mewn ardal awdurdod lleol o dan adran 48(3) o Ddeddf 2025 yw 12 mis. Mae hyn er mwyn caniatáu digon o amser i weithredu a diweddaru systemau, darparu hyfforddiant a chanllawiau i ddarparwyr a sicrhau bod ymwelwyr yn cael eu hysbysu a’u paratoi ar gyfer cyflwyno’r ardoll. Caiff y cyfnod fod yn fyrrach na 12 mis drwy gytundeb rhwng yr awdurdod lleol ac ACC. Mae’r cyfnod rhybudd o 12 mis yn dechrau o’r diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad.

5.2 Mae’n bosibl y bydd awdurdodau lleol am ymgyfarwyddo â’r rheolau trosiannol yn adran 49. Mae’r adran hon yn nodi, os archebwyd llety cyn diwedd y cyfnod o chwe mis ar ôl i’r cyngor benderfynu cyflwyno’r ardoll ymwelwyr, nad oes ardoll yn daladwy ar yr arhosiad hwnnw. Fodd bynnag, os yw’r archeb yn cael ei newid ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, rhaid talu’r ardoll ymwelwyr ar gyfer unrhyw bobl ychwanegol y bydd ganddynt hawl i aros oherwydd y newid a/neu ar gyfer unrhyw nosweithiau ychwanegol sy’n cael eu hychwanegu oherwydd y newid.

Enghraifft

Awdurdod lleol yn penderfynu cyflwyno ardoll ymwelwyr

Cyfnod hysbysu o 12 mis cyn i’r ardoll ddechrau

Archebu llety erbyn diwedd y cyfnod o 6 mis ar ôl dyddiad y penderfyniad?

A gafodd yr archeb ei newid ar neu ar ôl y dyddiad 6 mis hwnnw?

Do

Ardoll ymwelwyr yn daladwy ar gyfer:

  • unrhyw bobl ychwanegol a ychwanegwyd at yr archeb
  • unrhyw nosweithiau ychwanegol a ychwanegwyd at yr archeb

Naddo

Dim ardoll ymwelwyr yn daladwy ar gyfer yr archeb gwreiddiol.

5.3 Rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i ACC, gan fanylu ar ganlyniadau’r ymarfer ymgynghori a phenderfyniad y cyngor. Yn ogystal, dylai’r hysbysiad hwn gynnwys cytundeb lefel gwasanaeth y cytunwyd arno ag ACC. Dylai’r awdurdod lleol anfon y cytundeb wedi’i lofnodi i ACC yr un pryd â’i hysbysiad ffurfiol. Bydd ACC yn dechrau gweithgareddau gweithredu mewn cydweithrediad â’r awdurdod lleol unwaith y bydd wedi cael hysbysiad ffurfiol o benderfyniad awdurdod lleol.

Senario: Cyflwyno Ardoll Ymwelwyr

Y cefndir: Mae’r awdurdod lleol yn ystyried cyflwyno ardoll ymwelwyr i gefnogi seilwaith lleol a chynaliadwyedd twristiaeth.

Datblygu cynnig

Dyddiad dechrau: Hydref 2025. Mae’r Cyngor yn paratoi cynnig

Ymgynghori

Dyddiad dechrau: 1 Rhagfyr 2025 - Dyddiad gorffen: 28 Chwefror 2026

Mae’r cyngor yn hysbysu ACC ac yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus, gan ymgysylltu ag ymgyngoreion gorfodol.

Penderfyniad

Dyddiad penderfyniad y cyngor: 31 Mawrth 2026

Mae’r cyngor llawn yn pleidleisio i fwrw ymlaen â’r ardoll, gan ystyried yr adborth i’r ymgynghoriad a’r asesiad effaith.

Hysbysiad ffurfiol

Dyddiad hysbysu: 31 Mawrth 2026.

Anfonir hysbysiad ffurfiol i ACC. Caiff y dyddiad gweithredu ei bennu. Mae hysbysiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan y cyngor ac yn y cyfryngau lleol.

Paratoi i weithredu

Cyfnod: Ebrill 2026 - Mawrth 2027

Bydd ACC yn gweithio gyda’r cyngor i sefydlu mecanweithiau casglu. Caiff ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus ei lansio. Sefydlir fforwm Partneriaeth Ardoll Ymwelwyr.

Bydd ACC yn cefnogi darparwyr llety ymwelwyr drwy ddarparu canllawiau a dulliau eraill i’w helpu i gyflawni eu rhwymedigaethau.

Yr ardoll yn dechrau

Y dyddiad dechrau: 1 Ebrill 2027. Bydd yr ardoll yn gymwys i arosiadau dros nos a archebir ar ôl 1 Hydref 2026 ac sy’n digwydd o 1 Ebrill ymlaen. Bydd yr ardoll yn cael ei chasglu gan ddarparwyr a’i throsglwyddo i ACC.

Mae’r Ardoll Ymwelwyr yn cael ei chyflwyno’n swyddogol. Mae ymwelwyr sy’n aros dros nos mewn llety cymhwysol yn dechrau talu’r ardoll, sy’n cael ei chasglu gan ddarparwyr a’i throsglwyddo i ACC.

6. Defnyddio refeniw

6.1 Rhaid i awdurdod lleol sydd wedi cyflwyno ardoll gael cyfrif ar wahân ar gyfer enillion yr ardoll honno (adran 43(1) o Ddeddf 2025). Bydd y taliad yn cael ei wneud erbyn 30 Mehefin neu ddyddiad arall y cytunir arno rhwng ACC a’r awdurdod lleol.

6.2 Rhaid i awdurdodau lleol nodi, fel rhan o’u proses benderfynu ar gyfer cyflwyno ardoll, sut y bwriedir defnyddio’r refeniw yn lleol. Rhad i’r adroddiad y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei gyhoeddi o dan adran 47(4)(b) o Ddeddf 2025 fanylu ar y bwriad o ran defnyddio’r refeniw. Gall y defnydd o’r refeniw a’r prosiectau a gefnogir gael eu newid dros amser, a swyddogion etholedig lleol fydd yn gwneud y penderfyniadau terfynol ar wariant. Mae’n bosibl y bydd awdurdodau lleol yn dymuno ystyried dyrannu refeniw ar sail canran tuag at feysydd gwariant. Gallai hyn helpu pobl i ddeall sut y bwriedir defnyddio’r refeniw a darparu fframwaith ar gyfer penderfyniadau gwario parhaus.

6.3 Un o’r themâu a godwyd amlaf yn yr ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar yr ardoll ymwelwyr oedd sicrhau bod y refeniw o fudd i’r sector twristiaeth.

6.4 Rhaid i’r refeniw a gaiff awdurdod lleol o’r ardoll (drwy ACC) gael ei neilltuo a’i ddyrannu at ddibenion ‘Rheoli a Gwella Cyrchfannau’ yn ei ardal (adran 44 o Ddeddf 2025). Lle bynnag y bo’n briodol, dylai hyn fod yn gysylltiedig â strategaeth economi ymwelwyr leol. Bydd awdurdodau lleol yn ymwybodol o strategaeth Llywodraeth Cymru a sut y gallent gefnogi hynny.

6.5 Gall enghreifftiau o wariant ar reoli a gwella cyrchfannau gynnwys y canlynol, ond nid yw’r rhestr hon yn cynnwys popeth ac nid yw mewn unrhyw drefn benodol o ran blaenoriaeth:

  • Lliniaru effaith ymwelwyr, er enghraifft glanhau strydoedd, casglu gwastraff, cynnal a chadw toiledau
  • Cynnal a hybu’r defnydd o’r Gymraeg.
  • Hybu a chefnogi twf economaidd cynaliadwy twristiaeth a mathau eraill o deithio.
  • Darparu, cynnal a gwella seilwaith, cyfleusterau a gwasanaethau i’w defnyddio gan ymwelwyr (p’un a ydynt i’w defnyddio gan bobl leol hefyd ai peidio), er enghraifft, cynnal traethau, parciau a chanol trefi yn well.
  • Hybu neu gefnogi twf cynaliadwy y diwydiant twristiaeth.
  • Cyfleusterau da i ymwelwyr megis toiledau cyhoeddus, meysydd parcio neu wella’r rhwydwaith ar gyfer ceir trydan, sy’n hanfodol i ddarparu arlwy cystadleuol i ymwelwyr yng Nghymru.
  • Cadw atyniadau naturiol a diwylliannol.
  • Gwariant ar seilwaith, er enghraifft canolfannau gwybodaeth i dwristiaid, gwella llwybrau troed, ac ati.
  • Marchnata lleol, gan weithio mewn partneriaeth â Croeso Cymru a defnyddio eu brand cenedlaethol sy’n hyrwyddo negeseuon lleol.
  • Cynnal prosesau ecolegol hanfodol a helpu i warchod treftadaeth naturiol a bioamrywiaeth.
  • Gwarchod treftadaeth ddiwylliannol adeiledig a byw (gan gynnwys diogelu a hybu’r defnydd o’r Gymraeg).
  • Hybu neu gefnogi ymdrechion twristiaeth adfywiol, h.y. twristiaeth sy’n cael effaith gadarnhaol ar gymunedau lleol a’r amgylchedd.
  • Hyfforddiant sy’n gysylltiedig â thwristiaeth neu ddatblygu sgiliau neu weithgaredd sy’n hwyluso hyn.
  • Prosiectau ehangach megis gwella cysylltedd mewn ardaloedd gwledig neu ardaloedd poblogaidd, sy’n bwysig i ymwelwyr.
  • Gallai prosiectau amgylcheddol gynnwys prosiectau dŵr glân a thraethau glân, yn ogystal â phrosiectau hygyrchedd ar gyfer atyniadau.

6.6 Caiff awdurdodau lleol ddyrannu enillion o’r ardoll i gefnogi prosiectau tymor hwy a gymeradwywyd. Pan fwriedir cadw incwm ar gyfer gwariant yn y dyfodol, rhaid i’r awdurdod sefydlu cronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi at y diben hwn. Rhaid i’r awdurdod ddiffinio’n glir yr amcanion penodol y mae’r arian yn cael ei gronni ar eu cyfer, gan gynnwys y prosiect neu’r rhaglen arfaethedig, y rhesymeg dros ohirio gwariant, a’r amserlen ddisgwyliedig ar gyfer defnyddio’r gronfa wrth gefn.

7. Sefydlu Fforwm Partneriaeth Ardoll Ymwelwyr

7.1 Rhaid i awdurdodau lleol sy’n cyflwyno ardoll yn eu hardal gymryd camau rhesymol i sefydlu Fforwm Partneriaeth Ardoll Ymwelwyr (“fforwm”) heb fod yn hwyrach na 3 mis ar ôl i’r ardoll ddod yn effeithiol yn ardal y cyngor (adran 46 o Ddeddf 2025). Dylai awdurdodau lleol ystyried a ellid addasu fforymau presennol at y dibenion hyn er mwyn sicrhau cydlyniant a chysondeb o ran dulliau llywodraethu ehangach ar gyfer rheoli cyrchfannau yn eu hardaloedd.

7.2 Yn benodol, bydd y fforwm yn darparu’r canlynol i’r cyngor:

  • Gwybodaeth a chyngor ar sut y gellir defnyddio enillion yr ardoll at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn ardal y cyngor.
  • Gwybodaeth a chyngor ar gynnig gan y cyngor (pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud rheoliadau) i:
    • Ychwanegu swm ychwanegol at yr ardoll.
    • Newid swm ychwanegol sydd wedi’i ychwanegu at yr ardoll.
    • Tynnu swm ychwanegol sydd wedi’i ychwanegu at yr ardoll.

7.3 Dylai barn y fforwm lywio’r broses o wneud penderfyniadau ynghylch ailfuddsoddi enillion yr ardoll, a rhaid i gyngor roi sylw i unrhyw wybodaeth neu gyngor a ddarperir yn y fforwm ynglŷn â’r materion ym mharagraff 7.2 uchod.

7.4 Rhaid i’r awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y fforwm yn cynnwys personau sy’n gynrychiolwyr:

  • Sefydliadau sy’n cynrychioli busnesau sy’n gweithio ym maes twristiaeth, neu sy’n ymwneud â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth, yn ardal yr awdurdod lleol.
  • Sefydliadau sy’n hybu neu’n hwyluso twristiaeth yn ardal y cyngor.
  • Cyrff lleol perthnasol eraill a chynrychiolwyr sydd â buddiant mewn twristiaeth neu lety ymwelwyr yn ardal y cyngor, y mae’r cyngor yn ystyried eu bod yn briodol.

Fel rhan o sefydlu’r fforwm, dylai awdurdod lleol sy’n dewis cyflwyno ardoll weithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol megis Parciau Cenedlaethol.

7.6 Bydd y fforwm yn llwyfan ar gyfer trafodaeth gydweithredol a bydd yn darparu mewnwelediadau ac argymhellion gwerthfawr ar y ffordd orau o ddefnyddio’r arian a gynhyrchir gan yr ardoll. Bydd y dull hwn yn sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu’n deg a thryloyw, gan adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau’r sector twristiaeth a’r gymuned leol.

7.7 Swyddogion etholedig lleol yn yr awdurdod lleol fydd yn penderfynu’n derfynol sut y mae refeniw i’w ddyrannu.

8. Gofynion adrodd

8.1 Rhaid i awdurdodau lleol gyhoeddi adroddiad ar gyfer pob blwyddyn ariannol y mae wedi cael enillion ardoll ynddi (adran 45 o Ddeddf 2025). Dylai’r adroddiad fanylu ar sut mae refeniw’r ardoll wedi’i ddyrannu.

8.2 Rhaid i’r adroddiad roi gwybod i bobl am gyfanswm y refeniw a gasglwyd yn y flwyddyn ariannol dan sylw, y refeniw net a gafwyd ar ôl didynnu costau ACC, a sut mae’r enillion ar gyfer y flwyddyn ariannol honno wedi’u gwario neu y byddant yn cael eu gwario ar reoli a gwella cyrchfannau. Dylai’r adroddiad ddarparu asesiad o’r effaith y mae’r prosiectau hynny wedi’i chael ar fusnesau a chymunedau lleol. Efallai y bydd yr awdurdod hefyd yn dymuno manteisio ar y cyfle i roi gwybod am gynlluniau ar gyfer prosiectau neu gynigion yn y dyfodol. Bydd hyn yn arbennig o berthnasol os yw cyllid yn cael ei gario drosodd i’w wario mewn blynyddoedd i ddod.

8.3 Bydd angen i awdurdodau lleol ystyried pa lefel o fanylder i’w darparu am weithgareddau sydd wedi’u hariannu o’r ardoll a pha fanteision sydd wedi’u deillio o hyn. Yn amlwg, dylai hyn fod yn gymesur a bydd yn amrywio o ardal i ardal, o ystyried y gwahanol lefelau o gyllid y bydd awdurdodau lleol sydd wedi cyflwyno’r ardoll yn eu cael.

8.4 Rhaid i’r adroddiad gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol (adran 66(3)(a)(i) o Ddeddf 2025) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl 30 Mehefin y flwyddyn ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi, a heb fod yn hwyrach na diwedd y flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi (adran 45(4) o Ddeddf 2025). Rhaid i awdurdod lleol hefyd gyhoeddi’r adroddiad mewn unrhyw ffordd arall sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol (adran 66(3)(a)(ii)) a rhaid i’r adroddiad fod ar gael i’w archwilio yn swyddfeydd yr awdurdod lleol am o leiaf 12 mis ar ôl iddo gael ei gyhoeddi (adran 66(3)(b) o Ddeddf 2025).

Senario: Adrodd

Yr ardoll yn weithredol, o 1 Ebrill 2027

Dylid cyhoeddi’r Adroddiad Blynyddol Cyntaf cyn gynted â phosibl ar ôl Mehefin 2028

Mae’r adroddiad yn manylu ar y refeniw a gasglwyd, y gwariant ar reoli cyrchfannau, ac asesiad o’r effaith

Yr adborth gan y Fforwm Partneriaeth Ardoll wedi’i ymgorffori

9. Ymgysylltu

9.1 Ymgynghoriad yw’r mecanwaith statudol ffurfiol sy’n ofynnol gan Ddeddf 2025; fodd bynnag, mae ymgysylltu parhaus â chymunedau yn hanfodol yn unol â Chod yr Arfer a Argymhellir ar gyfer awdurdodau lleol: Awdurdodau lleol: cod yr arfer a argymhellir and Llywodraethu a Pherfformiad Corfforaethol.

9.2 Caiff awdurdodau lleol ddewis defnyddio cymysgedd o’r canlynol i ymgysylltu â chymunedau a busnesau lleol:

  • Cyfryngau digidol a chymdeithasol.
  • Radio lleol.
  • Digwyddiadau untro.
  • Cyfryngau print.
  • Cyfarfodydd cyhoeddus a/neu weithdai.

10. Cyfathrebu

10.1 Mae cyfathrebu effeithiol am yr ardoll yn gofyn am waith cydgysylltiedig rhwng awdurdodau lleol ac ACC, a dylai’r rolau a’r cyfrifoldebau fod yn glir ym mhob cam o’r broses.

10. 2 Bydd gweithio fel hyn yn sicrhau bod busnesau, preswylwyr a darparwyr llety ymwelwyr yn cael gwybodaeth gyson, amserol a phriodol, a bydd yn osgoi dyblygu ymdrechion.

10.3 Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gyfathrebu â’u cymunedau am y broses ymgynghori. Mae hyn yn cynnwys esbonio’r cynnig i gyflwyno ardoll, yr amserlen ymgynghori, sut y gall preswylwyr a busnesau gymryd rhan, a ble i ddod o hyd i ddogfennau ymgynghori a chyflwyno ymatebion.

10.4 Wrth rannu gwybodaeth am yr ardoll ymwelwyr, dylai awdurdodau lleol sicrhau bod y deunyddiau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae hyn yn helpu pawb i gael gweld y manylion yn eu dewis iaith ac yn adlewyrchu’r ymrwymiad yr ydym i gyd yn ei rannu i hyrwyddo’r Gymraeg fel rhan o fywyd pob dydd. Nid mater o fodloni safonau yn unig yw darparu deunydd dwyieithog. Os ydych yn cynllunio deunyddiau newydd, meddyliwch sut y gall y Gymraeg fod yn weladwy ac yn hygyrch o’r cychwyn cyntaf. Mae hyn hefyd yn cefnogi nod Cymraeg 2050 o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

10.5 Y cyfnod cyn gweithredu

10.6 Yn dilyn y penderfyniad i weithredu ardoll, dylai awdurdodau lleol weithio ar y cyd ag ACC i sicrhau bod busnesau’n barod ar gyfer ei chyflwyno.

10.7 Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gyfathrebu â busnesau a thrigolion lleol am eu penderfyniad i gyflwyno ardoll. Dylai’r cyfathrebu hwn esbonio pam eu bod wedi dewis cyflwyno’r ardoll ac amlinellu’r manteision posibl, gan gynnwys sut y bydd refeniw yn cael ei fuddsoddi’n lleol.

10.8 Gweithredu a rhoi ar waith

10.9 Bydd ACC yn cymryd cyfrifoldeb am gyfathrebu’n uniongyrchol â darparwyr llety ymwelwyr i roi’r cymorth a’r arweiniad y bydd arnynt eu hangen i gydymffurfio â gofynion yr ardoll. Mae hyn yn cynnwys esbonio’r gweithdrefnau casglu a throsglwyddo, yr amserlenni talu, a sicrhau bod canllawiau gweithredol ar gael.

10.10 Dulliau a sianeli cyfathrebu

10.11 Gall awdurdodau lleol ac ACC gysylltu â busnesau’n uniongyrchol drwy e-bost, drwy ffonio neu drwy’r post, ond mae’n bosibl hefyd y byddant hefyd am ystyried defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gyrraedd eu cynulleidfa ehangach, gan gynnwys unrhyw gyfuniad o’r gweithgareddau isod:

  • Tudalennau gwe a chyfryngau cymdeithasol yr awdurdodau lleol.
  • Y wasg leol a chylchgronau.
  • Slotiau ar y radio a’r teledu. Mae’n bosibl y bydd awdurdodau lleol yn dymuno cydweithio â gorsafoedd teledu a radio lleol i ddarlledu negeseuon am yr ardoll yn eu hardal.
  • Dosbarthu taflenni a llyfrynnau i fusnesau ac aelwydydd.
  • Cynnal fforymau neu sesiynau neuadd tref i drafod cyflwyno’r ardoll.
  • Gweithdai ar gyfer busnesau lleol a chymdeithasau busnes i esbonio ac ateb cwestiynau ynghylch manylion technegol yr ardoll.
  • Defnyddio fforymau twristiaeth neu grwpiau partneriaeth presennol i drafod cyflwyno’r ardoll.
  • Cwestiynau cyffredin – efallai y byddai’n ddefnyddiol i’r awdurdod lleol lunio rhestr o gwestiynau cyffredin i’w cynnwys mewn deunyddiau cyfathrebu ac ar ei wefan.
  • Stondinau untro mewn digwyddiadau lleol ac mewn ardaloedd sy’n denu nifer fawr o bobl megis y stryd fawr a mannau siopa.
  • Unrhyw weithgaredd arall sydd â’r nod o wella dealltwriaeth ymhlith y boblogaeth leol am gyflwyno’r ardoll.

10.12 Bydd y gofrestr genedlaethol o ddarparwyr llety ymwelwyr yn rhoi gwybodaeth werthfawr ynglŷn â faint o ddarparwyr sy’n gweithredu ym mhob ardal. Bydd hefyd yn helpu i gyfathrebu’n uniongyrchol â darparwyr.

10.1 Mae cyfathrebu clir a thryloywder yn allweddol i ymdrechion codi ymwybyddiaeth llwyddiannus. Dylai awdurdodau lleol deilwra eu strategaethau i anghenion penodol a demograffeg eu cymunedau, gan sicrhau bod y deunydd cyfathrebu yn gynhwysol ac yn hygyrch i bob grŵp.

11. Cyfathrebu ag ymwelwyr

11.1 Er mai cyfrifoldeb y darparwr llety ymwelwyr yw darparu manylion am gost llety, bydd awdurdodau lleol am sicrhau bod ymwelwyr yn deall beth yw’r ardoll, beth yw’r cyfraddau, a beth mae eu cyfraniad nhw yn helpu i’w ariannu. Mae gan awdurdodau lleol rôl i’w chwarae hefyd wrth godi ymwybyddiaeth o’r defnydd o ardoll yn eu hardal. Gellir gwneud hyn drwy roi hysbysiad ar eu gwefan neu ar ddeunydd hyrwyddo ar gyfer yr ardal.

12. Rhannu gwybodaeth

12.1 Mae sefydlu a rheoli’r gofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr a gorfodi cydymffurfiaeth â gofynion cofrestru (h.y. y swyddogaethau cofrestru) yn swyddogaethau i ACC. Bwriad y gofrestr o ddarparwyr llety yw rhoi un ffynhonnell wybodaeth dryloyw, awdurdodol a dibynadwy i ymwelwyr a rhanddeiliaid eraill.

12.2 Anogir awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol i ACC at ddibenion cydymffurfio. Mae rhannu gwybodaeth fel hyn yn bwysig. Er enghraifft, defnyddio gwybodaeth sydd ar gael yn barod (e.e. cynllunio, trwyddedu, hyrwyddo twristiaeth) neu ffynonellau gwybodaeth credadwy eraill (e.e. cwynion, adroddiadau cyhoeddus, rhestrau ar-lein) i ganfod diffyg cydymffurfio posibl â’r gofynion cofrestru.

12.3 Fel y nodir gan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, swyddogaeth gyffredinol ACC yw casglu a rheoli’r trethi a gesglir ganddo. Yn ogystal â phrif swyddogaethau a phwerau eraill ACC, caiff wneud unrhyw beth y mae’n ei ystyried:

  1. yn angenrheidiol neu’n hwylus mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau, neu
  2. yn atodol i arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol i hynny.

12.4 Wrth rannu data, rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i’w polisïau diogelu data a’r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol, gan gynnwys eu dyletswyddau statudol presennol o dan Ddeddf Diogelu Data 2018.

13. Gweithio rhanbarthol – cydweithio ag awdurdodau lleol eraill ac awdurdodau parciau cenedlaethol

13.1 Anogir awdurdodau lleol i weithio gyda’i gilydd, drwy bartneriaethau twristiaeth rhanbarthol a fforymau eraill, er mwyn cael cysondeb o ran nodau twristiaeth ehangach, gan ddefnyddio data a mewnwelediadau a rennir i lywio penderfyniadau a rhannu arferion gorau.

13.2 O dan Adran 47(6) o Ddeddf 2025, rhaid i awdurdodau lleol ymgynghori â’r canlynol:

  • Awdurdodau lleol cyfagos (y rhai sy’n rhannu ffiniau).
  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ar gyfer unrhyw Barc Cenedlaethol sydd yn rhannol o fewn ardal y cyngor.
  • Cyd-bwyllgorau Corfforedig sy’n cynnwys rhai o brif aelodau gweithrediaeth y cyngor.

13.3 Mae hyn yn annog cydgysylltu rhanbarthol a dealltwriaeth gyffredin o effaith yr ardoll, yn ogystal â thryloywder a rhannu’r hyn a ddysgir ar draws awdurdodau.

Er mai mater i bob awdurdod lleol yn y pen draw fydd ymgymryd â’u rhwymedigaethau statudol a’u prosesau gwneud penderfyniadau, dylent ystyried cynlluniau awdurdodau cyfagos mewn perthynas ag ardoll ac efallai y byddant yn dymuno cysoni eu cynigion i sicrhau cydlyniant. Mae cyfle i hybu cydweithio rhanbarthol a defnydd strategol o refeniw, a dylai awdurdodau lleol gadw hynny mewn cof. Gall hyn fod yn arbennig o berthnasol wrth gyflwyno’r ardoll i ddechrau, wrth i fusnesau ac ymwelwyr ddod i arfer â’r tâl. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig i hynny:

  • Cysoni’r dyddiadau cychwyn ar gyfer gweithredu.
  • Cydweithio wrth lunio cynigion.
  • Cysoni dulliau ymgynghori.
  • Ariannu cyd-amcanion ar gyfer twristiaeth, gan annog dull rhanbarthol o fuddsoddi a rheoli twristiaeth.

13.4 Bydd sicrhau elfen o gysondeb yn y negeseuon a’r dull gweithredu hefyd yn helpu’r broses gychwynnol o weithredu ardollau ar draws Cymru.

14. Adolygu’r effeithiau – monitro a gwerthuso

14.1 Unwaith y bydd ardoll yn weithredol, bydd awdurdodau lleol yn dymuno asesu effaith yr ardoll yn eu hardal i sicrhau nad oes unrhyw effeithiau andwyol neu anfwriadol.

14.2 Gall awdurdodau lleol fonitro effaith eu penderfyniadau gwariant a’u defnydd o’r ardoll drwy amryw o ddulliau, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig i hynny:

  • Dadansoddiad cost a budd o brosiectau, rhaglenni a gweithgareddau a ariennir o refeniw yr ardoll.
  • Arolygon, cyfweliadau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid (e.e. adborth gan y Fforwm Partneriaeth Ardoll Ymwelwyr).
  • Dadansoddi tueddiadau, gan ystyried niferoedd a llif ymwelwyr.
  • Dadansoddi tueddiadau o ran darpariaeth llety ymwelwyr yn eu hardal leol.

14.3 Byddai angen ystyried dangosyddion ar lefel leol, gan gyd-fynd â phenderfyniadau gwariant.

Atodiad A: Rhestr Wirio ar gyfer Gweithredu Ardoll Ymwelwyr

1. Cynllunio cychwynnol

  • Amcangyfrif y refeniw a'r costau posibl o weithredu'r ardoll.
  • Ystyried paratoi asesiad effaith lleol (cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol).

2. Datblygu cynnig

  • Drafftio cynnig sy'n cynnwys:
    • Amcangyfrif o'r refeniw ar gyfer y flwyddyn lawn gyntaf.
    • Y defnydd y bwriedir ei wneud o'r enillion at ddibenion Rheoli a gwella cyrchfannau.
    • Amcanion a manteision posibl.
    • Cynlluniau ar gyfer sefydlu Fforwm Partneriaeth Ardoll Ymwelwyr.
  • Hysbysu ACC o'r bwriad i gyflwyno'r ardoll.
  • Paratoi deunyddiau ymgynghori.

3. Ymgynghori

  • Ymgysylltu ag ymgyngoreion gorfodoi:
    • Trigolion lleol
    • busnesau
    • cynghorau cymuned
    • Byrddau Gwasanaethau Lleol
    • cynghorau cyfagos
    • awdurdodau Parciau Cenedlaethol
    • sefydliadau twristiaeth.
  • Ystyried ehangu'r cwmpas i randdeiliaid ychwanegol.
  • Cyhoeddi'r cynnig ac asesiad effaith.
  • Ymgynghori.
  • Ystyried yr adborth.

4. Penderfynu a hysbysu

  • Y cyngor llawn yn pleidleisio i benderfynu a ddylid bwrw ymlaen
  • Os caiff ei gymeradwyo:
    • Hysbysu ACC yn ffurfiol a chytuno ar gytundeb lefel gwasanaeth.
    • Cyhoeddi hysbysiad ar wefan y cyngor a sianeli eraill:
      • Cyfraddau'r ardoll
      • Dyddiad dod yn effeithiol (fel arfer 12 mis ar ôl yr hysbysiad, gan ddechrau ar 1 Ebrill neu 1 Hydref).
    • Rhannu'r penderfyniad a rhanddeiliaid.

5. Paratoi cyn gweithredu

  • Sefydlu Fforwm Partneriaeth Ardoll Ymwelwyr.
  • Lansio ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus.
  • Cydgysylltu ag ACC o ran:
    • Mecanweithiau casglu.
    • Canllawiau i ddarparwyr llety.
  • Sicrha.u body systemau a'r prosesau'n barod ar gyfer dechra.u'r ardoll.

6. Dechrau'r Ardoll

  • Yr ardoll yn gymwys i arosiadau dros nos a archebir ar ôl cyfnod rhagarweiniol o chwe mis ac sy'n digwydd ar ôl y dyddiad y daw'r ardoll yn effeithiol.
  • Darparwyr llety yn casglu'r Ardoll ac yn ei t hrosglwyddo i ACC.
  • Cadw cyfrif ar wahan ar gyfer enillion yr ardoll.

7. Ar ôl gweithredu

  • Cyhoeddi adroddiad blynyddol (cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl 30 Mehefin y flwyddyn ariannol ganlynol):
    • Cyfanswm refeniw a refeniw net.
    • Dadansoddiad gwariant.
    • Asesu'r effaith.
  • Monitro a gwerthuso'r effeithiau (niferoedd ymwelwyr, adborth busnesau, canlyniadau prosiectau).
  • Parhau i ymgysylltu drwy'r Fforwm Partneriaeth.
  • Adolygu ac addasu'r ardoll neu'r bla.enoriaethau gwario yn ôl yr angen.