Gwerthuso Lleoedd Lleol ar gyfer Natur: 2020 i 2025 (adroddiad terfynol): crynodeb
Adroddiad terfynol sy'n crynhoi'r canlyniadau i unigolion a chymunedau o ganlyniad i'r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a'r rheswm dros y canlyniadau hyn.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Nod rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur (LPfN) Llywodraeth Cymru yw cefnogi cymunedau i greu ‘natur ar garreg eu drws’, ac mae’n cael ei darparu ar wahanol lefelau, o ardaloedd awdurdodau lleol i gymunedau unigol. Cafodd y rhaglen ei datblygu i ddechrau i dargedu ardaloedd sydd â mynediad cyfyngedig at natur, gan gynnwys ardaloedd difreintiedig. Mae'r cylch gwaith hwn wedi ehangu dros amser i gynnwys gwella a chreu mannau gwyrdd, lle bo hynny'n hygyrch, mewn rhannau eraill o Gymru.
Mae'r adroddiad hwn yn adeiladu ar werthusiadau blaenorol sydd wedi canolbwyntio'n bennaf ar reoli a chyflawni rhaglenni. I’r gwrthwyneb, mae’r gwerthusiad hwn wedi canolbwyntio ar ddarparu dealltwriaeth ddyfnach o gyfraniad y rhaglen at ganlyniadau cymdeithasol, gan ategu gwaith cynharach a chynnig gwybodaeth i lywio polisi a darpariaeth yn y dyfodol.
Dyma’r adroddiad terfynol ar gyfer y gwerthusiad. Mae’n dilyn adroddiad gwerthuso dros dro a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2025 (Griffiths a Cunnington-Wynn, 2025) a'r dau werthusiad blaenorol o’r rhaglen, a gyhoeddwyd yn 2021 a 2023 (Powel, Burgess a Parkinson, 2021; Johnson a Vousden, 2023).
Dylid nodi nad yw'r gwerthusiad hwn wedi ystyried effaith y rhaglen ar fioamrywiaeth a darparu gwasanaethau ecosystem sy'n destun astudiaeth ar wahân a fydd yn cael ei chomisiynu gan Lywodraeth Cymru.
Strwythur a darpariaeth y rhaglen
Mae LPfN yn rhaglen eang sy'n cael ei darparu drwy bum brif gynllun: Partneriaethau Natur Lleol, y Cynllun Pecynnau Cymunedol, y Cynllun Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol, y Gronfa Grantiau Cyfalaf, a'r Cynllun Chwalu Rhwystrau. Mae pob cynllun yn canolbwyntio ar rywbeth penodol, megis cefnogi partneriaethau lleol, darparu adnoddau ymarferol i grwpiau cymunedol, meithrin gallu mewn ardaloedd arfordirol ac ariannu prosiectau mewn cymunedau o ddiddordeb sydd â mynediad cyfyngedig at natur. Mae'r rhaglen wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd ac wedi cefnogi miloedd o brosiectau ledled Cymru, gyda phwyslais arbennig ar ardaloedd trefol ac ardaloedd o gwmpas trefi.
Dull gwerthuso
Roedd y gwerthusiad hwn yn ystyried y rhaglen LPfN drwy lens 'dull realaidd' sy'n ffordd o ddeall beth sy'n gweithio, i bwy, ym mha amgylchiadau, a pham. Mae'n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer rhaglenni cymdeithasol cymhleth fel LPfN oherwydd mae'n cydnabod bod pobl a lleoedd yn wahanol, a bod newid yn digwydd mewn gwahanol ffyrdd.
Roedd gwaith maes y gwerthusiad a ddisgrifir yn yr adroddiad terfynol hwn yn defnyddio dulliau cymysg, gan gyfuno arolygon cyfranogwyr y prosiect, ymweliadau safle a chyfweliadau, ac adolygiad llenyddiaeth. Roedd yr arolwg (cyfanswm o 178 o ymatebion, gan gynnwys ymatebion rhannol) yn casglu gwybodaeth gan staff, gwirfoddolwyr a chyfranogwyr, ac roedd 16 o ymweliadau â safleoedd yn rhoi dealltwriaeth fanwl o weithgareddau a chanlyniadau'r prosiect. Nododd adolygiad llenyddiaeth ragor o ymchwil allweddol i gefnogi neu herio canfyddiadau'r prif waith maes i gefnogi hyder yn y casgliadau cyffredinol sy'n cael eu gwneud.
Prif ganfyddiadau
Yn gyffredinol, daeth y gwerthusiad i'r casgliad bod y rhaglen LPfN wedi dangos gwerth a photensial ymyriadau cymunedol a rhai sy'n seiliedig ar natur i sicrhau manteision personol a chymdeithasol. Mae'r canfyddiadau hyn yn cyd-fynd â sylfaen dystiolaeth ehangach sy'n dangos y gall mynediad at fannau gwyrdd wella iechyd, cryfhau cydlyniant cymdeithasol, a meithrin safbwyntiau ac ymddygiad sydd o blaid yr amgylchedd. Mae llenyddiaeth ehangach yn cefnogi'r potensial i brosiectau a gweithgareddau greu effeithiau sylweddol i gymunedau sydd â mynediad cyfyngedig at natur a mannau gwyrdd. Nid oedd y prif waith maes ar gyfer y gwerthusiad hwn yn gallu archwilio hyn yn fanwl ar gyfer LPfN yn benodol, ond roedd y gwaith maes a wnaed yn tynnu sylw at rai profiadau cadarnhaol.
Nid yw'r dystiolaeth sydd ar gael yn caniatáu casgliadau pendant ynghylch graddfa na gwytnwch y canlyniadau a nodwyd. Fodd bynnag, mae'n arwydd cryf y gall prosiectau cymunedol a ariennir gan LPfN greu mannau lleol gwerthfawr, cryfhau cysylltiadau cymunedol, a chefnogi ymgysylltiad cadarnhaol â natur o dan yr amodau cywir.
Canlyniadau a gynhyrchir gan brosiectau LPfN
Roedd y dystiolaeth a gasglwyd yn awgrymu bod prosiectau LPfN wedi cyfrannu at amrywiaeth o ganlyniadau i unigolion a chymunedau. Cynhyrchir y canlyniadau hynny hefyd gan amrywiaeth eang iawn o brosiectau a gweithgareddau. Roedd dadansoddiad o ymatebion i'r arolwg, ymweliadau safle a chyfweliadau yn dangos bod mwy o ymgysylltu â mannau gwyrdd a naturiol lleol yn nodwedd gyson ar draws y rhaglen. Dywedodd cyfranogwyr eu bod wedi cymryd rhan yn y gwaith o greu, gwella a defnyddio'r mannau hyn, a oedd yn ymddangos fel pe baent wedi arwain at amrywiaeth o ganlyniadau cadarnhaol yn gysylltiedig â natur ac ar gyfer llesiant personol.
Roedd gwelliannau mewn llesiant yn amlwg, gydag ymatebwyr yn aml yn nodi bod mannau naturiol yn fuddiol ar gyfer ymlacio ac iechyd meddwl. Nodwyd manteision i iechyd corfforol, fel treulio mwy o amser yn yr awyr agored a chyfleoedd i wneud ymarfer corff, er y canfuwyd bod y canlyniadau hyn yn gyffredinol yn rhai cynyddrannol yn hytrach na thrawsnewidiol. Roedd prosiectau hefyd yn hwyluso cysylltiadau cymdeithasol, gyda chyfranogwyr yn disgrifio cyfleoedd i gwrdd ag eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol. I rai cyfranogwyr, roedd y cyfleoedd hyn yn helpu i leihau eu hunigrwydd eu hunain.
O ran datblygiad personol, dywedodd cyfranogwyr eu bod wedi meithrin sgiliau a gwybodaeth newydd, yn enwedig mewn garddio, rheoli cynefinoedd, a stiwardiaeth amgylcheddol. Er bod llawer o’r ymatebwyr eisoes yn defnyddio mannau gwyrdd yn rheolaidd cyn iddynt gymryd rhan mewn prosiectau LPfN, roedd cymryd rhan wedi arwain at fabwysiadu arferion sy'n fwy ystyriol o'r amgylchedd, gan gynnwys newidiadau mewn arferion garddio a mwy o sylw i fioamrywiaeth. Roedd hyn yn dangos y potensial i'r rheini a oedd eisoes â safbwyntiau cadarnhaol ar natur a'r amgylchedd wneud newidiadau bach i’w hymddygiad o ganlyniad i gymryd rhan mewn prosiect LPfN.
Mecanweithiau a chyd-destun ar gyfer cyflawni'r canlyniadau
Cysyniad allweddol yn y dull gwerthuso realaidd, a oedd yn sail i'r dadansoddiad a gynhaliwyd ar gyfer y gwerthusiad hwn, yw bod canlyniadau'n codi o sut mae unigolion yn ymateb i'r adnoddau a'r cyfleoedd a ddarperir gan ymyriad—yn yr achos hwn, prosiectau LPfN. Gelwir y rhyngweithio hwn rhwng adnoddau rhaglenni a rhesymeg unigolion yn 'fecanwaith'. Y mecanwaith, ynghyd â'r cyd-destun y mae gweithgarwch yn digwydd ynddo, sy'n pennu'r canlyniad yn y pen draw. Defnyddiwyd canfyddiadau'r gwerthusiad i nodi'r prif fecanweithiau sy'n ymddangos fel pe baent yn arwain at ganlyniadau'r rhaglen LPfN.
Deall cymhellion cyfranogwyr a darparu'r cyfleoedd cywir
Mae tystiolaeth o'r arolwg gwerthuso a'r ymweliadau safle yn dangos bod cyfranogwyr yn ymgysylltu fwyaf pan fydd prosiectau'n cynnig cyfleoedd sy'n cael eu hystyried yn ystyrlon ac sy'n cyd-fynd â'u cymhellion. Nododd y gwerthusiad mai'r cymhellion mwyaf cyffredin oedd gwella'r ardal leol, treulio amser yn yr awyr agored, a rhoi'n ôl i'r gymuned. Mae'r cymhellion hyn yn sail i lawer o'r canlyniadau cadarnhaol a welwyd ac maent yn ehangach na phrif amcan y rhaglen o greu a gwella mynediad at fannau gwyrdd a naturiol.
Ymgysylltu â'r cyfranogwyr cywir a chaniatáu i brosiectau ddatblygu
Bydd y diffiniad o'r cyfranogwr 'cywir'—neu gymuned—yn dibynnu ar amcanion penodol prosiect neu gynllun. Er enghraifft, nod prosiectau Chwalu Rhwystrau oedd ymgysylltu â chymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol o ran mynediad at natur, a oedd yn gofyn am allgymorth a gweithgareddau wedi'u targedu ar gyfer y proffil hwnnw. I'r gwrthwyneb, efallai y bydd angen i brosiectau sy'n canolbwyntio ar wella neu greu safle penodol ddenu cyfranogwyr sydd â'r sgiliau a'r argaeledd i gwblhau gwaith ymarferol i ddechrau. O ganlyniad, mae proffil y cyfranogwyr yn amrywio ar draws prosiectau LPfN, gan adlewyrchu blaenoriaethau ac anghenion gwahanol.
Mae canfyddiadau'r gwerthusiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd caniatáu i brosiectau LPfN ddatblygu dros amser. Mae'r rhaglen yn darparu hyblygrwydd drwy wahanol becynnau o fewn cynlluniau ac ar draws cynlluniau, gan alluogi prosiectau i symud ymlaen at amcanion sefydliadol ehangach. Er enghraifft, efallai y bydd ffocws cychwynnol ar welliannau ffisegol i safle yn newid yn ddiweddarach i ddenu defnyddwyr—yn enwedig unigolion a grwpiau sydd heb gael lawer o gyfleoedd yn flaenorol i ymgysylltu â mannau gwyrdd neu naturiol.
Dull hyblyg, wedi'i deilwra
Mae LPfN wedi cefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau ar draws lleoliadau amrywiol, gan gynnwys gerddi cymunedol, mannau gwyrdd trefol, coetiroedd, gerddi ysbytai, a phrosiectau adfer gwlyptiroedd. Mae tystiolaeth yn dangos bod canlyniadau cadarnhaol wedi cael eu cynhyrchu ar draws y cyd-destunau amrywiol hyn. Er na chafodd y dulliau gweithredu eu cymharu’n fanwl, mae'r canfyddiadau'n awgrymu nad oes un llwybr penodol at gyflawni canlyniadau arfaethedig LPfN. Yn hytrach, mae rhoi’r hyblygrwydd i gymunedau gyflawni amcanion y rhaglen mewn ffyrdd sy'n adlewyrchu anghenion a chyfleoedd lleol yn ymddangos yn fecanwaith pwysig ar gyfer llwyddiant.
Cymysgedd o weithgareddau a galluogi cyfranogwyr i symud ymlaen
Nododd y gwerthusiad amrywiaeth o fanteision personol i gyfranogwyr, gan gynnwys datblygu cysylltiadau cymdeithasol, dysgu sgiliau newydd, a gwella llesiant meddyliol. Mae tystiolaeth yn awgrymu mai'r prif fecanwaith y tu ôl i'r canlyniadau hyn yw creu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol —drwy weithgareddau grŵp, gwirfoddoli a digwyddiadau cymunedol—sy'n gwella llesiant, lefelau cadw, ac ymdeimlad o berthyn. Canfu canfyddiadau gwaith maes cynradd hefyd, pan oedd tasgau ymarferol yn cael eu paru â chyfleoedd dysgu, fod cyfranogwyr yn fwy tebygol o symud ymlaen o gymryd rhan i weithgareddau uwch fel hyfforddiant cadwraeth. Mae'n ymddangos bod y cyfuniad hwn o waith ymarferol a datblygu sgiliau yn sbarduno newid o ddiddordeb cyffredinol i ymdeimlad cryfach o gyfrifoldeb dros yr amgylchedd lleol.
Capasiti a chyd-destun lleol
Yn gyffredinol, mae LPfN yn cael ei arwain gan y galw, sy'n golygu bod gweithgarwch yn dibynnu ar allu sefydliadau lleol i ymgysylltu a chyflwyno ceisiadau am gymorth. Os nad yw grwpiau’n gwneud cais, nid yw prosiectau’n digwydd. Mae hyn yn golygu bod capasiti sefydliad—i wneud cais am gyllid ac i gyflawni prosiectau'n effeithiol—yn fecanwaith allweddol ac yn ffactor cyd-destunol yn y rhaglen. Roedd yr adroddiad interim hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd staff y cynllun, yn enwedig eu gwybodaeth, eu profiad a'u gallu i ymgysylltu â sefydliadau a chymunedau lleol.
Mae cymorth i feithrin gallu yn nodwedd o nifer o gynlluniau LPfN. Canfu gwaith maes ar gyfer y gwerthusiad hwn fod cymorth o'r fath yn darparu adnoddau ac offer na fyddent wedi bod ar gael fel arall ac mae’n helpu sefydliadau i feithrin partneriaethau cryfach a chydweithio’n well.
Amserlenni a chynnal safleoedd, gweithgareddau a chanlyniadau
Mae cynnal canlyniadau y tu hwnt i oes cymorth LPfN yn ystyriaeth hollbwysig. Mae angen gwaith cynnal a chadw a gweithgarwch parhaus ar safleoedd sy'n cael eu creu neu eu gwella; fel arall, mae perygl na fydd y canlyniadau sy’n cael eu cyflawni yn parhau. Roedd amser yn cael ei amlygu fel mater allweddol yn y gwerthusiad hwn—cyfyngiadau cyfnodau cyflawni byr a'r angen i ddatblygu cyfnodau hwy ar gyfer rhai canlyniadau, fel newid ymddygiad a chydlyniant cymunedol. Dywedodd llawer o safleoedd a gymerodd ran yn ystod y gwaith maes eu bod yn parhau â'u prosiectau, er y gallai hyn adlewyrchu rhagfarn sampl at brosiectau gweithredol. Lle'r oedd gweithgarwch yn cael ei gynnal, roedd yn cael ei gyflawni gan amlaf drwy sicrhau cyllid ychwanegol a dibynnu ar ymgysylltu â'r gymuned a chymorth gan wirfoddolwyr.
Argymhellion
Daw'r adroddiad i ben gyda chyfres o argymhellion a luniwyd i lywio'r gwaith o reoli polisïau a rhaglenni yn y dyfodol. Mae'r rhain yn cynnwys targedu ardaloedd nad ydynt wedi ymgysylltu llawer yn hanesyddol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau daearyddol a chymdeithasol o ran mynediad at natur; sicrhau bod ymgysylltu â chyfranogwyr newydd yn un o amcanion clir rhaglenni i ehangu cyrhaeddiad ac effaith LPfN; cryfhau'r ddarpariaeth leol drwy sefydliadau cymunedol profiadol i sicrhau bod prosiectau yn seiliedig ar wybodaeth a chapasiti lleol; atgyfnerthu newid ymddygiad drwy ymgysylltu parhaus ac effaith weladwy i gynnal arferion sydd o blaid yr amgylchedd; a chryfhau dulliau monitro a gwerthuso ar draws y rhaglen i ddarparu tystiolaeth gadarn ac annibynnol o ganlyniadau a chefnogi dysgu parhaus.
Mae'r argymhellion yn pwysleisio'r angen am allgymorth wedi'i dargedu, cefnogaeth barhaus i weithredwyr cymunedol, a buddsoddiad parhaus mewn dulliau monitro a gwerthuso cadarn ac annibynnol. Gyda'i gilydd, maent yn darparu map ar gyfer manteisio i'r eithaf ar fanteision, tegwch a chynaliadwyedd y rhaglen LPfN yn y tymor hir.
Sylwadau i gloi
I grynhoi, canfuwyd bod y rhaglen LPfN wedi sicrhau manteision ystyrlon i bobl a chymunedau drwy greu cyfleoedd i ymgysylltu â natur, meithrin cysylltiad cymdeithasol, a chefnogi llesiant. Mae'r dystiolaeth a gasglwyd drwy'r gwerthusiad hwn yn cyfeirio at fecanweithiau penodol a gyfrannodd at y canlyniadau a arsylwyd - cysoni cymhelliant, hyblygrwydd, cysylltiad cymdeithasol, a chynnydd. Dylai'r mecanweithiau hyn fod wrth wraidd y gwaith o ddylunio polisïau a rheoli rhaglenni yn y dyfodol er mwyn gwella effeithiolrwydd ac effaith. Bydd monitro a gwerthuso parhaus yn bwysig i wella’r dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ac i lywio'r ddarpariaeth yn y dyfodol.
Manylion cyswllt
Awdur yr adroddiad: Endaf Griffiths, Dr. Lowri Cunnington-Wynn, Anna Burgess, Emily Hacker a Tomasz Jablonski.
Gyda chydnabyddiaeth o'r gefnogaeth a'r arweiniad ar y dull gwerthuso realaidd a roddwyd i'r tîm ymchwil gan Dr Kev Harris.
Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Tîm Ymchwil Hinsawdd a'r Amgylchedd
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: YmchwilHinsawddAcAmgylchedd@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 121/2025
ISBN Digidol: 978-1-80633-740-8

