Neidio i'r prif gynnwys

Llwybr Coedwig Cymru

Rhan beilot oddeutu 80km o Lwybr Coedwig Cymru gydag arwyddbyst sy’n eich cysylltu gyda rhai o’n safleoedd Coedwig Genedlaethol yn Ne Cymru.

Fe welwch yr amrywiaeth o goetiroedd a choedwigoedd, o goed llydanddail cymysg i goedwigoedd cynhyrchiol – rhywbeth i'r teulu ei fwynhau, rhywbeth i bobl sy'n hoff o natur a'r rhai sy'n chwilio am antur ar droed, ar olwynion neu garnau! ....... mae'r daith yn dechrau nawr....

Ynglŷn â'r llwybr

Y rhan beilot hon o Lwybr Coedwig Cymru yw’r cam cyntaf yn ei ddatblygiad ehangach ar draws Cymru - prosiect uchelgeisiol i ddatblygu Llwybr coedwig sy’n cysylltu ein safleoedd Coedwig Cenedlaethol ledled Cymru.

Mae'r llwybr hwn yn dilyn Rhwydweithiau Hawliau Tramwy presennol ac yn darparu amrywiaeth o olygfeydd o'n coetiroedd a'n coed, o fod o dan orchudd canopi coed i olygfeydd anhygoel o'n tirweddau coedwigaeth.

Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i ddatblygu'r llwybr a byddwn yn parhau i ddiweddaru'r wefan hon.

Dewch o hyd i’ch llwybr

Parc Gwledig Porthceri i Goedwig Hensol
Parc Gwledig Porthceri i Goedwig Hensol
Gan ddechrau ar hyd yr arfordir, ymgollwch yn y coetir a chrwydrwch drwy un o’r rhannau mwyaf amrywiol.
Coedwig Hensol i Goedwig Llantrisant
Coedwig Hensol i Goedwig Llantrisant
Gallwch archwilio cymysgedd o goetiroedd gwledig a threfol, gyda phob un yn cynnig rhywbeth unigryw ar hyd y llwybr.
Coedwig Llantrisant i Nant y Moel
Coedwig Llantrisant i Nant y Moel
Darn o’r llwybr sy’n addas i feiciau gan ddilyn Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol 4 ac 883.
Nant y Moel i Bont Walby
Nant y Moel i Bont Walby
Mwynhewch olygfeydd panoramig eang cyn cychwyn i ardal fwyaf coediog y llwybr.

Map o Lwybr Coedwig Cymru

Dargyfeirio a chau llwybrau

Ar hyn o bryd mae rhai dargyfeiriadau ac mae rhai llwybrau ar Lwybr Coedwig Cymru ar gau. 

Darganfod mwy cyn i chi ymweld 

Efallai na fydd y map yn hygyrch i bob defnyddiwr. Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r map hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru.

Mae’r map cyflawn i’w weld ar MapDataCymru.

Lawrlwytho llwybrau Llwybr Coedwig Cymru ar ffurf ffeil GPX. 

Mae'r ffeiliau hyn yn caniatáu ichi ychwanegu'r llwybrau at ddyfeisiau neu apiau GPS. Sylwch nad yw ffeiliau GPX yn cynnwys unrhyw gau neu ddargyfeirio dros dro.

Allwedd y map

Image
Porthkerry to Hensol Forest
Porthceri i Goedwig Hensol
Image
Hensol to Llantrisant Forest
Hensol i Goedwig Llantrisant
Image
Llantrisant Forest to Nant y Moel
Llantrisant i Nant y Moel
Image
Nant y Moel to Pont Walby
Nant y Moel i Bont Walby
Image
National Forest
Coedwig Genedlaethol i Gymru
Image
Llwybr Coedwig Cymru Trail Section Start / End
Llwybr Coedwig Cymru: dechrau / diwedd adran

Mae lliw’r llwybrau ar y map yn cynrychioli pob adran wahanol o’r llwybr. Nid ydynt yn cynrychioli’r math o lwybr.

Gweler y llwybr o'r uchod