Cyflawni net sero mewn gwasanaethau deintyddol yng Nghymru: datganiad sefyllfa
Datganiad sefyllfa gan Bwyllgor Deintyddol Cymru yn egluro ei fodd o gyflawni net sero mewn gwasanaethau deintyddol yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Dyddiad
7 Tachwedd 2025
Diben
Mae newid hinsawdd yng Nghymru yn digwydd nawr ac mae angen mynd i'r afael ag ef ar frys. Mae effaith gweithgareddau dynol yn ddiamheuol, ac mae gwasanaethau deintyddol yn cyfrannu at y broblem.
Diben y datganiad sefyllfa hwn yw dylanwadu ar bolisi a chynllunio deintyddol, yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol yng Nghymru, sy'n ymwneud â lleihau effaith amgylcheddol gwasanaethau deintyddol yng Nghymru.
Dylai'r datganiad sefyllfa hwn atgoffa cyrff cyhoeddus yng Nghymru bod camau rhagweithiol ar ymgorffori cynaliadwyedd yn y ddarpariaeth gofal deintyddol ledled Cymru yn flaenoriaeth allweddol.
Cwmpas
Mae'r datganiad sefyllfa hwn mewn perthynas â lleihau effaith amgylcheddol gwasanaethau deintyddol yng Nghymru.
Mae angen dull mwy cynaliadwy ym mhob gwasanaeth deintyddol:
- Gwasanaeth Deintyddol Cyffredinol
- Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol
- Gwasanaethau Deintyddol Brys
- addysg israddedig ac ôl-raddedig
- gofal eilaidd gan gynnwys gwasanaethau ysbyty
Prif ffocws y datganiad hwn yw dylanwadu ar ddatblygiad polisi a rhaglenni cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd ac ymyrraeth yn genedlaethol, i leihau effaith amgylcheddol gwasanaethau deintyddol.
Mae gan weithwyr deintyddol proffesiynol, byrddau iechyd, rheolwyr y GIG, timau caffael, cyrff addysgol, a chynllunwyr gwasanaethau i gyd rôl sylweddol i'w chwarae. Gall newidiadau bach lluosog ychwanegu at newid sylweddol.
Cefndir
Mae Cymru Iachach yn cynnwys ymrwymiad i "Gynnwys camau gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd wrth wneud penderfyniadau a chynlluniau ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol". Mae hyn yn unol â'r ymrwymiad "Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang" (Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol).
Mae gofal iechyd yn cyfrannu'n sylweddol at allyriadau carbon a defnyddio adnoddau. Mae deintyddiaeth yn cynnwys symiau mawr o blastigau untro, teithio aml, ac offer ynni-ddwys. Mae Pwyllgor Deintyddol Cymru yn cydnabod yr angen brys i drosglwyddo tuag at fodelau gofal mwy cynaliadwy sy'n lleihau niwed amgylcheddol.
Deddfwriaeth berthnasol, gyfredol, y DU yw diwygiad 2019 i'r Ddeddf Newid Hinsawdd (2008),sy'n manylu ar ymrwymiad y DU i leihau allyriadau carbon i sero net erbyn 2050. Mae hyn yn cefnogi'n uniongyrchol ymrwymiadau'r DU o dan Gytundeb Paris 2015, sy'n anelu at gyfyngu'r cynnydd mewn tymheredd cyfartalog byd-eang i ‘ymhell islaw’ 2ᵒC. Yn 2022, y GIG oedd y system iechyd gyntaf i ymgorffori sero net mewn deddfwriaeth, drwy'r Ddeddf Iechyd a Gofal (2022).
Dangosodd adroddiad a ysgrifennwyd gan y Ganolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy i gyfrifo ôl troed carbon deintyddiaeth yn Lloegr 2013-2014, fod teithio staff a chleifion yn cyfrif am 33.4% a 31.1% o allyriadau carbon yn y drefn honno. Wedi'i ddilyn gan gaffael (19%), ynni (15.3%), gwastraff (0.2%) a dŵr (0.1%). Wrth asesu ôl troed carbon gwahanol driniaethau deintyddol, cyfrannodd archwiliadau yr allyriadau mwyaf (27.1%). Digennu a llathru (13.4%), llenwadau amalgam (9.7%) a llenwadau cyfansawdd (9.7%).
Mae Pwyllgor Deintyddol Cymru yn cydnabod gwaith sefydliadau deintyddol i leihau eu heffaith amgylcheddol. Mae practisau deintyddol wedi ymddangos yn amlwg yng ngwobrau Gofal Sylfaenol Gwyrddach dros y blynyddoedd diwethaf.
Ym mis Mawrth 2024, cyhoeddodd Penaethiaid Proffesiwn Llywodraeth Cymru eu datganiad sefyllfa. Roedd y datganiad yn cynnwys galwad am weithredu, yn argymell bod pob ymarferydd iechyd yn cefnogi gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn eu sefydliad drwy eirioli dros ymarfer cynaliadwy ar bob lefel o ddarparu gofal. Mae hefyd yn gofyn i ymarferwyr gefnogi eu cydweithwyr yn hyn o beth. Drwy flaenoriaethu cynaliadwyedd amgylcheddol, gall staff gofal iechyd greu dyfodol iachach i gleifion a'r blaned.
Datganiadau sefyllfa
Mae Pwyllgor Deintyddol Cymru yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyflawni sector cyhoeddus sero net erbyn 2030, gyda tharged i GIG Cymru ostwng 34% erbyn 2030 gyda 2018 i 2019 yn waelodlin.
Mae Pwyllgor Deintyddol Cymru yn gefnogol i fwriad deddfwriaethol a strategol Llywodraeth Cymru i leihau effaith gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru ar yr amgylchedd. Mae'r pwyllgor yn cefnogi mesurau deddfwriaethol a mesurau eraill i leihau effaith negyddol gwasanaethau deintyddol.
Argymhellion
Mae Pwyllgor Deintyddol Cymru yn gwneud yr argymhellion canlynol:
Yn unol â rhaglen ‘Lleihau Gwastraff Gyda'n Gilydd’ Comisiwn Bevan ac egwyddorion ‘Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu, Ailfeddwl’, mae Pwyllgor Deintyddol Cymru yn cefnogi ac yn annog mabwysiadu dull mwy cynaliadwy o ran gwasanaethau deintyddol drwy:
- ymgorffori'r ymarfer clinigol gorau (Cyflawni Gwell Iechyd y Geg), dulliau atal yn gyntaf sy'n lleihau baich clefydau ac ymyriadau cysylltiedig a thrin ar gyfer yr hirdymor
- cydweithio ag addysgwyr deintyddol i hyrwyddo dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ddarparu gofal iechyd y geg
- canfod, diagnosis a thriniaeth gynharach a chyflymach (Clinigau Un Stop)
- caffael cynaliadwy o ddeunyddiau, offer a nwyddau traul deintyddol
- lleihau gwastraff ac ailgylchu, gan ganolbwyntio ar leihau plastigau untro lle mae dewisiadau amgen diogel yn bodoli
- defnydd cyfrifol o ocsid nitrus, gan ddefnyddio storio silindr, yn hytrach na systemau maniffold.
- optimeiddio lleoliad y gofal
- atebion teithio carbon isel i staff a chleifion
- gweithrediadau effeithlon o ran ynni, gan gynnwys defnyddio goleuadau, gwresogi ac offer deintyddol ynni isel
- moderneiddio a llif gwaith digidol, gan gynnwys ymgynghoriadau ac addysg o bell lle y bo'n briodol, a galluogi rhannu gwybodaeth yn ddigidol rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ym maes deintyddiaeth, a rhwng y proffesiynau gofal iechyd ehangach
- defnydd cyfrifol o ddeallusrwydd artiffisial i wella effeithlonrwydd a lleihau gwastraff, wrth barhau i fod yn ymwybodol o'i botensial ar gyfer effaith amgylcheddol sylweddol
- bioamrywiaeth, drwy ddatblygu a chynnal amgylcheddau sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt mewn perthynas ag ardaloedd gerddi, blychau ffenestri, planwyr a mannau to
Ni ddylai newidiadau yn hyn o beth beryglu diogelwch cleifion na chanlyniadau clinigol.
Dylai newidiadau fod yn seiliedig ar dystiolaeth gref. Dylai Llywodraeth Cymru a GIG Cymru gydweithio â sefydliadau academaidd ar gyfer ymchwil a gwerthuso er mwyn deall yn fanwl effaith newidiadau i'r gwasanaeth deintyddol ar allyriadau carbon a'r amgylchedd. Mae angen datblygu fframwaith sero net ar sail genedlaethol i werthuso gostyngiadau carbon sy'n gysylltiedig ag unrhyw fodelau gofal newydd a phresennol.
Mae Pwyllgor Deintyddol Cymru yn annog timau deintyddol i ymgysylltu â Matrics Cynaliadwyedd Amgylcheddol ar gyfer Ymarfer Deintyddol AaGIC a'r Rhaglen Gofal Sylfaenol Gwyrddach.
Dylai hyfforddiant fod ar gael yn hawdd i dimau deintyddol i leihau eu heffaith amgylcheddol.
Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i leihau achosion o Heb Fynychu a Heb eu Cludo mewn practis deintyddol, sy'n arwain at wastraffu amser clinigol, gweinyddu ac adnoddau.
Yn unol ag ymrwymiad Cymru Iachach i aeddfedrwydd digidol a data, dylai Llywodraeth Cymru barhau i foderneiddio'r seilwaith digidol i sicrhau cyfathrebu effeithlon rhwng timau deintyddol, cleifion a'r proffesiynau gofal iechyd ehangach.
Sail resymegol
Mae'r sefyllfa hon yn cyd-fynd â datganiad Argyfwng Hinsawdd Llywodraeth Cymru (2019) a Chynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru. Mae cymorth gofal ataliol a lleiaf ymyrrol yn cefnogi nodau iechyd y boblogaeth ac amgylcheddol, ac mae rheoli ymarfer cynaliadwy yn sicrhau gwydnwch hirdymor.
Dyddiad adolygu
Bydd Pwyllgor Deintyddol Cymru yn adolygu'r datganiad hwn yn flynyddol a fydd yn cynnwys trafodaeth ar y cynnydd a wnaed yn erbyn argymhellion y pwyllgor.
Gwybodaeth gyswllt
Ysgrifennydd Pwyllgor Deintyddol Cymru: committeesecretariat1@gov.wales
