Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC 2025) adroddiad technegol - Maes yr amgylchedd ffisegol
Yn amlinellu prif wybodaeth dechnegol ar gyfer adroddiad canlyniadau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Diben y maes hwn yw mesur ffactorau yn yr ardal leol a all effeithio ar lesiant neu ansawdd bywyd y rhai sy’n byw mewn ardal. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 5% yn y mynegai cyffredinol.
Dangosyddion
Sgôr ansawdd aer
Mae’r is-faes ansawdd aer yn cynnwys tri dangosydd sy’n seiliedig ar werthoedd crynodiad cyfartalog wedi’u pwysoli yn ôl y boblogaeth y llygryddion allweddol canlynol:
- Nitrogen deuocsid (NO2)
- Gronynnau llai na 10 µm mewn diamedr (PM10)
- Gronynnau llai na 2.5 µm mewn diamedr (PM2.5)
Nwy a gynhyrchir pan fydd tanwyddau ffosil yn cael eu llosgi yw NO2, sy’n arwain at amrywiaeth o effeithiau negyddol ar iechyd a’r amgylchedd.
Ystyr mater gronynnol (PM) yw popeth yn yr aer nad yw’n nwy ac felly sy’n cynnwys amrywiaeth enfawr o gyfansoddion a deunyddiau cemegol. Gall rhai o’r rhain fod yn wenwynig. Yn dibynnu ar faint y gronynnau, gallant fynd i mewn i’r llif gwaed a dod ynghlwm wrth organau hanfodol fel y galon neu’r ymennydd.
Ceir rhagor o wybodaeth ynglŷn â pham mae NO2 a PM yn cael eu mesur yn yr adroddiadau perthnasol yn natganiadau ystadegol DEFRA am ansawdd aer (GOV.UK).
Mae’r dangosyddion yn yr is-faes ansawdd aer wedi cael eu llunio drwy ddefnyddio mesuriadau llygryddion a allai gael effeithiau negyddol ar iechyd pobl a/neu’r amgylchedd, yn seiliedig ar y ddealltwriaeth feddygol a gwyddonol orau, ac fe’u cynigir fel mesur procsi o ansawdd yr amgylchedd oddi amgylch. Mae ansawdd aer gwael yn awgrymu agosrwydd at weithgareddau penodol megis traffig, hylosgi domestig a safleoedd diwydiannol: sef gweithgareddau a allai gael effaith negyddol ar ansawdd bywyd, yr amgylchedd lleol ac iechyd.
Math o ddangosydd
Y tri dangosydd ar wahân sy’n ffurfio’r is-faes ansawdd aer yw:
- Gwerth crynodiad cyfartalog wedi’i bwysoli yn ôl y boblogaeth, NO2
- Gwerth crynodiad cyfartalog wedi’i bwysoli yn ôl y boblogaeth, PM10
- Gwerth crynodiad cyfartalog wedi’i bwysoli yn ôl y boblogaeth, PM2.5
Caiff y gwerthoedd crynodiad cyfartalog eu mesur mewn microgramau fesul metr ciwbig (µg/m3).
Rhifiadur
Dd/B
Enwadur
Dd/B
Ffynhonnell a chyfnod amser
Y ffynonellau a ddefnyddir i ffurfio’r dangosyddion ansawdd aer yw:
- data llygryddion, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), 2023
- amcangyfrifon Poblogaeth Ardaloedd Bach, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2022
- data ar anheddau, AddressBase yr Arolwg Ordnans, 2025
Nodiadau ychwanegol
Bob blwyddyn, mae model Mapio Hinsawdd Llygredd Llywodraeth y DU yn cyfrifo crynodiadau llygryddion cyfartalog ar gyfer pob cilomedr sgwâr o’r DU. Caiff y model ei raddnodi yn erbyn mesuriadau a ddaw o rwydwaith monitro ansawdd aer cenedlaethol y DU.
Caiff y data hyn eu cyfuno ag amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bach a data ar anheddau i ddarparu data wedi’u pwysoli yn ôl y boblogaeth.
Ar gyfer pob un o ardaloedd cynnyrch y cyfrifiad (unedau daearyddol ystadegol sy’n cynnwys tua 150 eiddo), caiff crynodiadau’r llygryddion eu pwysoli yn ôl nifer yr anheddau ym mhob cilomedr sgwâr i roi crynodiad cyfartalog o NO2, PM2.5 a PM10 yn ardal cynnyrch y cyfrifiad.
Ar gyfer pob Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI), cyfrifwyd cyfartaledd wedi’i bwysoli yn ôl y boblogaeth dros ei hardaloedd cynnyrch cyfansoddol o dan y cyfrifiad i roi crynodiad cyfartalog o NO2, PM2.5 a PM10.
Cymaroldeb gyda MALlC 2019
Gellir ei gymharu, ar y cyfan. O ddiweddariad 2022 o’r dangosyddion llesiant cenedlaethol ansawdd aer ymlaen, cyflwynwyd gwelliant methodolegol i’r ffordd y caiff pwysoliadau anheddau eu cyfrifo, am nad oedd y broses wreiddiol a ddefnyddiwyd i amcangyfrif y dangosyddion ansawdd aer (cyn 2022, gan gynnwys dangosyddion MALlC 2019) yn cyfrifo’r pwysoliadau yn y ffordd fwriadedig. Mae asesiad o’r effaith ar y data hanesyddol wedi cael ei gynnal ac mae’r effaith yn fach. O ystyried bod y data ar lygredd aer yn cael eu modelu a bod yr amcangyfrifon poblogaeth yn mynd drwy broses ailsylfaenu ar ôl y cyfrifiad, mae ansicrwydd ar hyn o bryd ynglŷn â’r amcangyfrifon hyn. Oherwydd yr ansicrwydd hwn, y prinder data hanesyddol manwl ar anheddau ac effaith fach y newid methodolegol, nid yw’r data hanesyddol wedi cael eu diwygio.
Sgôr perygl llifogydd
Math o ddangosydd
Mae’r dangosydd perygl llifogydd yn ystyried cyfran yr aelwydydd sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd, y môr a llifogydd dŵr wyneb. Caiff sgôr perygl llifogydd o rhwng 1 a 100 ei gynhyrchu ar gyfer pob AGEHI (gweler isod am ragor o wybodaeth).
Rhifiadur
Dd/B
Enwadur
Dd/B
Ffynhonnell a chyfnod amser
Data Asesu Perygl Llifogydd yng Nghymru (FRAW), Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), 2025.
Nodiadau ychwanegol
Mae’r dangosydd perygl llifogydd yn ystyried cyfran yr aelwydydd sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd, y môr a llifogydd dŵr wyneb. Mae’r risg yn seiliedig ar amlder rhagweledig, yn hytrach na lefel y difrod a achosir gan y llifogydd.
Mae’r categorïau o risg a ddefnyddir fel a ganlyn:
- risg isel, mae’r posibilrwydd o lifogydd yn llai nag 1 mewn 100 (1%) mewn unrhyw flwyddyn benodol
- risg ganolig, mae’r posibilrwydd o lifogydd yn llai nag 1 mewn 30 (3.3%) ond yn hafal i 1 mewn 100 (1%) neu fwy na hynny mewn unrhyw flwyddyn benodol
- risg uchel, mae’r posibilrwydd o lifogydd yn hafal i 1 mewn 30 (3.3%) neu fwy na hynny mewn unrhyw flwyddyn benodol
Er mwyn sicrhau bod yr ardaloedd hynny lle ceir perygl llifogydd mwy difrifol yn cael eu hystyried yn fwy difreintiedig nag ardaloedd lle ceir perygl llifogydd llai difrifol, rhoddwyd y pwysoliad canlynol:
- cafodd nifer yr aelwydydd mewn ardal risg uchel ei luosi â 24
- cafodd nifer yr aelwydydd mewn ardal risg ganolig ei luosi â 4
- cafodd nifer yr aelwydydd mewn ardal risg isel ei luosi ag 1
Ceir rhagor o wybodaeth am y fethodoleg ar gyfer pennu’r pwysoliadau uchod yn atodiad 9.1.
Noder, mewn achosion lle roedd aelwydydd yn wynebu gwahanol lefelau o risg gan wahanol fathau o lifogydd, fod y lefel risg uchaf wedi cael blaenoriaeth. Cyfrifir pob un o’r ffigurau hyn ar gyfer pob ACEHI ac wedyn cânt eu hadio at ei gilydd er mwyn rhoi cyfanswm wedi’i normaleiddio y cartrefi sydd mewn perygl o lifogydd fesul ACEHI. Wedyn, caiff y ffigur hwn ei rannu â chyfanswm nifer yr aelwydydd yn yr ACEHI er mwyn rhoi cyfran yr aelwydydd sydd mewn perygl o lifogydd. Wedyn caiff y gwerthoedd hyn eu graddio a’u trawsffurfio’n esbonyddol i roi sgôr gyffredinol ar gyfer perygl llifogydd.
Cymaroldeb gyda MALlC 2019
Gellir ei gymharu, ar y cyfan.
Agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch
Math o ddangosydd
Agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch yw canran yr aelwydydd ym mhob ardal sydd o fewn 300 metr (taith gerdded o tua 5 munud) i fan gwyrdd naturiol hygyrch.
Rhifiadur
Cyfrifon o anheddau preswyl ar lefel AGEHI sydd o fewn 300 metr i fan gwyrdd naturiol, hygyrch.
Enwadur
Nifer yr anheddau preswyl mewn AGEHI.
Ffynhonnell a chyfnod amser
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol i ffurfio’r dangosydd hwn:
- eiddo sydd o fewn cwmpas: Cronfa Ddata Ddaearyddol Genedlaethol yr Arolwg Ordnans, sef Built Address, Medi 2025
- MasterMap Topography Layer® yr Arolwg Ordnans, Medi 2025
- Open Greenspace yr Arolwg Ordnans, Medi 2025
- Llwybrau Cenedlaethol: CNC, a gyrchwyd ym mis Hydref 2025 (dyddiad cyhoeddi 18 Mehefin 2025)
- Mynediad Agored CNC, a gyrchwyd ym mis Medi 2025
- Tir Agored
- Tir Mynediad Statudol Arall
- Tir Comin Cofrestredig
- Tir Arall a Gyflwynwyd
- Coedwigoedd a Gyflwynwyd
Nodiadau ychwanegol
Mae’r dangosydd hwn yn mesur cyfran yr aelwydydd ym mhob ACEHI sydd o fewn 300 metr (taith gerdded o 5 munud) i fan gwyrdd naturiol hygyrch. Er mwyn cyfrifo’r dangosydd hwn, deilliwyd olion troed mannau gwyrdd o MasterMap Topography Layer® yr Arolwg Ordnans, diffiniwyd cwmpas gan Open Greenspace yr Arolwg Ordnans ynghyd â teipolegau cydnabyddedig CNC ar gyfer mannau gwyrdd naturiol, Llwybrau Cenedlaethol a theipolegau sy’n cynnwys Mynediad Agored o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Mae’r allbwn yn nodi safleoedd y gellid yn hyderus eu disgrifio fel lleoedd â naws naturiol y mae gan y cyhoedd hawl mynediad iddynt. Ni chafodd safleoedd megis cyrsiau golff, rhandiroedd na mynwentydd eu cynnwys ar y rhestr. Er mwyn brasamcanu taith gerdded o 5 munud, crëwyd polygonau â radiws o 300 metr o amgylch y mannau gwyrdd. Wedyn, cafodd yr holl anheddau preswyl o fewn cwmpas (a gafwyd o NGD Built Address yr Arolwg Ordnans) eu croestorri â’r polygonau hyn a’u nodi os oeddent o fewn 300 metr i fan gwyrdd naturiol, hygyrch. Wedyn, cafodd cyfansymiau anheddau eu cyfuno ar lefel ACEHI i gyfrifo cyfran yr anheddau o fewn 300 metr i fan gwyrdd naturiol, hygyrch. Ceir manylion pellach am ddeillio’r dangosydd hwn yn atodiad 9.2.
Cymaroldeb gyda MALlC 2019
Gellir, i ryw raddau. Mae’r dangosydd hwn yn fersiwn wedi’i diweddaru o ddangosydd 2019 ac mae bellach yn cynnwys Llwybrau Cenedlaethol.
Sgôr mannau gwyrdd amgylchol
Math o ddangosydd
Mae’r dangosydd hwn yn mesur pa mor wyrdd yw’r amgylchedd ym mhob ACEHI. Caiff Mynegai Llystyfiant â Gwahaniaeth wedi’i Normaleiddio Cymedrig ei gynhyrchu ar gyfer pob AGEHI.
Rhifiadur
Dd/B
Enwadur
Dd/B
Ffynhonnell a chyfnod amser
Cynhyrchwyd y dangosydd gan Wyddor Data Poblogaeth, Prifysgol Abertawe. Er mwyn cynhyrchu’r dangosydd, defnyddiwyd y ffynonellau canlynol:
- Gwerthoedd y Mynegai Llystyfiant â Gwahaniaeth wedi’i Normaleiddio ar gyfer y dangosydd hwn, delweddau lloeren adlewyrchol wyneb 3m gan Planet, 2024
- Daw anheddau preswyl o AddressBase® Plus, 2025
Nodiadau ychwanegol
Mae’r dangosydd hwn yn mesur pa mor wyrdd yw’r amgylchedd ym mhob ACEHI. Caiff ei gyfrifo fel y Mynegai Llystyfiant â Gwahaniaeth wedi’i Normaleiddio o fewn tir clustogi Ewclidaidd o 300 metr o amgylch pob annedd breswyl. Nid yw tir clustogi Ewclidaidd yn gorfod dilyn ffin ACEHI am y cydnabyddir nad yw daearyddiaeth ACEHI o reidrwydd yn cynrychioli ymddygiad pobl. Mae hyn yn dileu unrhyw effaith ymylu lle y gall aelwyd fod wedi’i lleoli mewn ACEHI benodol ond mae ei thir clustogi Ewclidaidd yn gorgyffwrdd ag ACEHI arall. Mae’r Mynegai Llystyfiant â Gwahaniaeth wedi’i Normaleiddio yn cyfrifo’r gwahaniaeth wedi’i normaleiddio rhwng y bandiau coch ac is-goch ar gyfer cofnodi mesuriadau meintiol a safonedig o bresenoldeb ac iechyd llystyfiant. Mae llystyfiant iach yn adlewyrchu cryn dipyn o’r tonfeddi lled-is-goch sy’n eu taro ac yn amsugno mwy o donfeddi coch am eu bod yn cynnwys mwy o gloroffyl. Defnyddir sianeli sbectrol Lled-is-goch a choch delwedd i gyfrifo gwerth mynegai, gan ddefnyddio’r hafaliad canlynol:
NDVI=(NIR-R)
(NIR+R)
I gyfrifo gwerthoedd Mynegai Llystyfiant â Gwahaniaeth wedi’i Normaleiddio ar gyfer y dangosydd hwn, gwnaethom ddefnyddio delweddau lloeren adlewyrchol arwyneb 3m gan Planet. Daw anheddau preswyl o AddressBase® Plus.
Cymaroldeb gyda MALlC 2019
Gellir, i ryw raddau. Yn 2019, cynhyrchwyd sgoriau Mynegai Llystyfiant â Gwahaniaeth wedi’i Normaleiddio drwy ddefnyddio ffotograffau o’r awyr (gyda chydraniad o 50 cm), ar gyfer MALlC 2025 defnyddiwyd delweddau lloeren (gyda chydraniad o 3m). Felly, byddem yn disgwyl ychydig o amrywio naturiol o ganlyniad i’r newid yn y ffynhonell o ddelweddau.
Llygredd sŵn
Math o ddangosydd
Cyfran y boblogaeth sy’n cael ei hamlygu i lefel sŵn dydd noswaith nos gyfunol o ffyrdd a rheilffyrdd sy’n hafal i 55dB neu fwy. Mae Lden yn golygu ‘Day-Evening-Night Level’, ac fe'i defnyddir i ddisgrifio amlygiad sŵn cyfartalog dros gyfnod o 24 awr, gyda chosbau wedi'u cymhwyso ar gyfer sŵn gyda'r nos.
Rhifiadur
Y boblogaeth o fewn AGEHI sy’n cael ei hamlygu i lefel sŵn dydd noswaith nos gyfunol o ffyrdd a rheilffyrdd sy’n hafal i 55dB neu fwy.
Enwadur
Poblogaeth AGEHI.
Ffynhonnell a chyfnod amser
Mapiau sŵn strategol Rownd 4, System Modelu Sŵn, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA). Mae’r data yn ymwneud â 2021.
Poblogaeth: Cyfrifiad 2021, SYG.
Nodiadau ychwanegol
Ceir manylion pellach am ddeillio’r dangosydd hwn yn atodiad 9.3.
Cymaroldeb gyda MALlC 2019
Ni ellir ei gymharu am mai dangosydd newydd ydyw.
Llunio’r maes
Ceir 7 dangosydd sydd wedi’u rhannu’n 4 is-faes sy’n ffurfiol maes yr amgylchedd ffisegol, wedi’i bwysoli fel a ganlyn. Cytunwyd ar bwysoliadau’r is-faes â’r grŵp arbenigol ar feysydd, ac mae 5% o bwysoliad pob is-faea ym MALlC 2019 wedi’i ddyrannu i’r is-faes newydd ar lygredd sŵn.
- Ansawdd aer, 35%, a ffurfiwyd o’r dangosyddion canlynol sy’n cyfrannu’n gyfartal at yr is-faes:
- Nitrogen deuocsid (NO2)
- Gronynnau llai na 10 µm (PM10)
- Gronynnau llai na 2.5 µm (PM2.5)
- Perygl lifogydd, 35%
- Mannau gwyrdd, 15%, a ffurfiwyd o’r dangosyddion canlynol sy’n cyfrannu’n gyfartal at yr is-faes:
- Agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch
- Sgôr mannau gwyrdd amgylchol
- Llygredd sŵn, 15%
Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 5% yn y mynegai cyffredinol.
Yr Is-faes ansawdd aer
Er mwyn cyfrifo sgôr gyffredinol yr is-faes ansawdd aer, addaswyd gwerth pob dangosydd (drwy broses drawsffurfio) gan ddefnyddio ffactor yn seiliedig ar yr amcan, safon neu ffactor risg ar gyfer y llygrydd a’r ystadegyn penodol hwnnw. Datblygwyd y dull hwn er mwyn ystyried safonau ansawdd aer ar gyfer pob sylwedd, sy’n seiliedig ar y ddealltwriaeth feddygol a gwyddonol orau o’u heffeithiau ar iechyd a/neu’r amgylchedd. Mae’r dull hefyd yn sicrhau bod ardaloedd lle y ceir lefelau uchel o lygryddion penodol, ond nid llygryddion eraill, yn cael eu dosbarthu’n ardaloedd difreintiedig iawn; ni fydd lefelau isel o un llygrydd yn gwrthbwyso effaith lefel uchel o lygrydd arall.
Y safonau a ddefnyddiwyd i normaleiddio’r crynodiadau o’r llygryddion hyn ym MALlC 2025 yw targedau interim terfynol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer pob llygrydd:
- NO2: 20µg/m3 crynodiad cyfartalog blynyddol
- PM10: 20µg/m3 crynodiad cyfartalog blynyddol
- PM2.5: 10µg/m3 crynodiad cyfartalog blynyddol
Cafodd gwerthoedd wedi’u trawsffurfio’r dangosyddion ar gyfer pob ACEHI eu cyfartaleddu a’u rhoi yn nhrefn eu safleoedd. Wedyn, cafodd y safleoedd hyn eu trawsffurfio’n esbonyddol i roi sgôr is-faes ar gyfer pob ACEHI.
Yr is-faes Mannau Gwyrdd
Er mwyn cyfrifo sgôr gyffredinol yr is-faes Mannau Gwyrdd, cafodd pob set o werthoedd dangosyddion eu rhoi yn nhrefn eu safleoedd a’u normaleiddio. Wedyn, cyfunwyd y gwerthoedd wedi’u normaleiddio gan ddefnyddio’r pwysoliad uchod:
- 50% agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch
- 50% sgôr mannau gwyrdd amgylchol
Wedyn, cafodd y gwerthoedd cyfunol eu rhoi yn nhrefn eu safleoedd eto a’u trawsffurfio’n esbonyddol i roi sgôr is-faes ar gyfer pob ACEHI.
Newidiadau ers MALlC 2019
Bu sawl newid methodolegol i faes yr amgylchedd ffisegol rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025. Ceir rhestr lawn o’r newidiadau isod.
Ychwanegwyd llygredd sŵn fel dangosydd newydd; mae’n seiliedig ar gyfran y boblogaeth sy’n cael ei hamlygu i lygredd sŵn o ffyrdd a rheilffyrdd sy’n hafal i 55dB neu fwy na hynny.
Yn y dangosydd agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch, mae llwybrau cenedlaethol bellach wedi cael eu cynnwys yn y dangosydd hwn. Ceir rhagor o fanylion am hyn yn yr adran ar y dangosyddion.
Ar gyfer y dangosydd mannau gwyrdd amgylchol, mae’r ffynhonnell data wedi newid ar gyfer MALlC 2025 o gymharu â MALlC 2019. Yn 2019, cynhyrchwyd sgoriau Mynegai Llystyfiant â Gwahaniaeth wedi’i Normaleiddio drwy ddefnyddio ffotograffau o’r awyr (gyda chydraniad o 50 cm), ar gyfer MALlC 2025 defnyddiwyd delweddau lloeren (gyda chydraniad o 3m).
Mae pwysoliadau’r is-feysydd wedi cael eu diweddaru ar gyfer MALlC 2025 i ystyried y dangosydd llygredd sŵn sydd wedi cael ei ychwanegu. Ym MALlC 2019, cafodd yr is-feysydd eu pwysoli fel a ganlyn:
- 40% ansawdd aer (3 dangosydd llygredd wedi’i bwysoli’n gyfartal)
- 40% perygl lifogydd
- 20% mannau gwyrdd (y daw hanner o fannau gwyrdd amgylchol a’r hanner arall o agosrwydd at fan gwyrdd)
Ar gyfer MALlC 2025, cafodd yr is-feysydd eu pwysoli fel a ganlyn:
- 35% ansawdd aer (3 dangosydd llygredd wedi’i bwysoli’n gyfartal)
- 35% perygl llifogydd
- 15% mannau gwyrdd (y daw hanner o fannau gwyrdd amgylchol a’r hanner arall o agosrwydd at fan gwyrdd)
- 15% llygredd sŵn
Gwybodaeth ychwanegol
Yn ychwanegol at safleoedd meysydd a gwerthoedd dangosyddion, mae safleoedd is-feysydd yr amgylchedd ffisegol hefyd yn cael eu cyhoeddi ar wefan StatsCymru.
Atodiad 9.1: pwysoliadau’r categori perygl llifogydd
Mae’r dangosydd perygl llifogydd yn ystyried cyfran yr aelwydydd sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd, y môr a llifogydd dŵr wyneb. Mae’r risg yn seiliedig ar amlder rhagweledig, yn hytrach na lefel y difrod a achosir gan y llifogydd. Mae nifer yr aelwydydd sy’n wynebu risg sylweddol o lifogydd yn cael pwysoliad uwch na’r rhai sy’n wynebu risg is. Am fod y data sydd ar gael yn amrywio, ni chafodd amddiffynfeydd rhag llifogydd eu hystyried wrth bennu categorïau o berygl llifogydd.
Datblygwyd y fethodoleg bwysoli a amlinellir yn yr atodiad hwn mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r ffactorau pwysoli yn defnyddio’r categorïau o risg isod, sef yr un rhai a ddefnyddiwyd ar gyfer MALlC 2019, fel yr amlinellwyd yn adroddiad technegol 2019.
| Categori NaFRA | Diffiniad (y tebygolrwydd o lifogydd mewn unrhyw flwyddyn benodol) | % yr eiddo preswyl sy'n wynebu perygl o lifogydd | Pwysoliad |
|---|---|---|---|
| Uchel | Yn hafal i 1 mewn 30 neu fwy na hynny | 0.60% | 0.06 (neu 24) |
| Canolig | Yn llai nag 1 mewn 30 ond yn hafal i 1 mewn 100 neu fwy na hynny | 1.30% | 0.01 (neu 4) |
| Isel | Yn llai nag 1 mewn 100 ond yn hafal i 1 mewn 1000 neu fwy na hynny | 5.60% | 0.0025 (neu 1) |
| Isel Iawn | Yn llai nag 1 mewn 1000. | 0.05% | 0.0025 (neu 1) |
Ym MALlC 2025, caiff y dangosydd perygl llifogydd ei lunio gan ddefnyddio data Asesu Perygl Llifogydd Cymru a ddarperir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae data Asesu Perygl Llifogydd Cymru yn defnyddio’r un categorïau â data NaFRA (ac eithrio’r categori risg ‘isel iawn’) ac, felly, rydym wedi defnyddio’r un pwysoliadau ar gyfer perygl llifogydd ag a gafwyd ar gyfer MALlC 2019.
Methodoleg ar gyfer pennu pwysoliadau
Fel yn achos y ddau fynegai blaenorol, rydym yn defnyddio gwybodaeth am ddifrod llifogydd cyfartalog fel y’i paratowyd gan Ganolfan Ymchwil Perygl Llifogydd Prifysgol Middlesex yn ei Llawlyfr Amryliw.
Y rhagdybiaeth sylfaenol yw bod yr effaith ar ansawdd bywyd yn cynyddu wrth i’r posibilrwydd o ddifrod gynyddu.
Mae'r difrod llifogydd cyfartalog blynyddol wedi’i bwysoli (WAAD) yn cynrychioli'r difrod economaidd blynyddol disgwyliedig o lifogydd, wedi'i bwysoli gan y tebygolrwydd bod wahanol ddigwyddiadau llifogydd yn digwydd. Fe'i cyfrifir fel yr arwynebedd o dan y gromlin wrth plotio gwerthoedd difrod llifogydd yn erbyn tebygolrwydd gormodiant (sef gwrthdro’r cyfnod dychwelyd mewn blynyddoedd). Mae'r dull hwn yn cyfrif am ddifrifoldeb a thebygolrwydd digwyddiadau llifogydd.
- Mae gwerthoedd difrod yn deillio o ddigwyddiadau wedi'u modelu ar gyfer cyfnodau dychwelyd penodol (e.e., 5, 10, 25, 50, 100 mlynedd).
- Ni wahaniaethir rhwng y mathau o eiddo preswyl.
- Mae cyfrifiadau WAAD yn seiliedig ar eiddo o fewn Parth Llifogydd 2 (siawn flynyddol mwy na 0.1% o lifogydd).
- Ar gyfer digwyddiadau eithafol, mae mwy o eiddo yn cael eu heffeithio, ond mae dyfnderoedd llifogydd cyfartalog yn tueddu i aros yn is na 1 metr.
Mae'r Offeryn Amcangyfrif WAAD, a ddarperir yn y Llawlyfr Amryliw, wedi'i gynllunio i amcangyfrif manteision posibl o leihau'r perygl o lifogydd i eiddo. Mae'r buddion hyn yn cael eu mynegi fel difrod economaidd wedi’i osgoi dros gyfnod arfarnu safonol o 50 mlynedd.
| Amlder Llifogydd | Difrod (£) |
|---|---|
| 5 | 9,500 |
| 10 | 17,847 |
| 25 | 19,716 |
| 50 | 27,776 |
| 100 | 30,877 |
Yna defnyddir cymarebau WAAD i gyfrifo pwysoliadau MALlC.
| Cyfnod Dychwelyd | Tebygolrwydd Gormodiant | Gwerth WAAD | Cymhareb WAAD | Gwerth MALlC | Cymhareb MALlC |
|---|---|---|---|---|---|
| 30 | 0.0333 | 4976 | 23.5 | 0.06 | 24 |
| 100 | 0.01 | 767 | 3.6 | 0.01 | 4 |
| 1000 | 0.001 | 211 | 1 | 0.0025 | 1 |
Mae hyn yn sicrhau bod ardaloedd â difrod llifogydd disgwyliedig uwch yn derbyn pwysoliadau uwch yn y mynegai amddifadedd.
Atodiad 9.2: dull cyfrifo agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch
Diffiniad o fannau gwyrdd naturiol hygyrch
Mae’r diffiniad o fannau gwyrdd naturiol, hygyrch yn dilyn Arweinlyfr Mannau Gwyrdd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn fanwl.
Mae’r set ddata a luniwyd er mwyn cyfrifo’r dangosydd agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch ym MALlC 2025 yn cynnwys cyfres o reolau ar gyfer hygyrchedd a naturioldeb y gellir dweud yn hyderus eu bod yn lleoedd â naws naturiol y mae gan y cyhoedd hawl mynediad iddynt, ac yn adeiladu ar hynny.
Mae CNC a Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw’r diffiniad hwn yn hollgynhwysfawr ac y gall dinasyddion ystyried bod llawer mwy o leoedd (gan gynnwys parciau trefol) yn rhai naturiol. At hynny, mae llawer mwy o fannau hygyrch nag a ddiffinnir gan y gyfraith. Felly, er mwyn gwella’r diffiniad hwn, defnyddiwyd ardaloedd trefol ac arfordirol (polygonau sy’n cynrychioli mannau gwyrdd a glas trefol ac arfordirol) i lenwi bylchau mewn data. Noder bod y polygonau ychwanegol hyn yn ‘debygol’ o fod yn hygyrch ond nad ydynt yn nodi’n bendant fod gan bobl hawl mynediad gyfreithiol iddynt.
Mae’r diffiniad hwn yn fodd i ddangos yr holl dir a dŵr yng Nghymru nas gorchuddir ag arwynebau o waith dyn ac a allai, felly, sicrhau manteision o ran iechyd neu les.
Rydym yn ymwybodol nad yw’r set ddata hon yn cynnwys rhai polygonau sy’n darparu gwasanaethau ecosystem (e.e. llwybrau beicio, ardaloedd chwarae o waith dyn), ond am fod y set ddata hon yn canolbwyntio ar fannau sy’n sicrhau manteision o ran iechyd a lles oherwydd natur naturiol eu harwynebau, rydym wedi hepgor yn rhain yn fwriadol.
Profodd CNC y sail reolau hon drwy wneud cymariaethau â lluniau a dynnwyd o’r awyr yn ogystal â llunio mapiau o ardaloedd trefol a gwledig cyfarwydd er mwyn cymharu a chadarnhau bod y sail reolau yn cyflawni’r canlyniad bwriadedig.
Ffynonellau data
Diffiniad o fannau gwyrdd naturiol hygyrch
- Mae pob polygon o MasterMap Topography Layer® yr Arolwg Ordnans sy’n bodloni’r meini prawf ‘naturiol’, ‘lluosog’ ac ‘anhysbys’ yn cael ei ddosbarthu. Er mwyn i’r polygonau hyn fynd drwy’r cam cynnwys terfynol mae’n rhaid iddynt groestorri’n ddaearyddol â’r canlynol.
- Pob polygon sy’n nodi Mynediad Agored o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Mae’r Ddeddf yn rhoi hawl mynediad ar droed at ddibenion hamdden awyr agored ac, yng Nghymru, daeth yr hawl a roddir o dan y Ddeddf i rym ym mis Mai 2005. Yr haenau a gynhwyswyd yw:
- Coedwigoedd a Gyflwynwyd
- Tir Arall a Gyflwynwyd
- Tir Agored
- Tir Mynediad Statudol Arall
- Tir Comin Cofrestredig
Mae mannau gwyrdd ychwanegol i ystyried hygyrchedd trefol ac arfordirol yn dilyn y diffiniad o:
- bob polygon o MasterMap Topography Layer® yr Arolwg Ordnans y mae ei grŵp disgrifiadol yn bodloni’r categori ‘dŵr llanw’
- pob polygon ‘naturiol’, ‘lluosog’ neu ‘anhysbys’ o MasterMap Topography Layer® yr Arolwg Ordnans sy’n croestorri â chwmpas polygonau Open Greenspace yr Arolwg Ordnans, sy’n cyd-fynd â’r teipolegau canlynol:
- parciau cyhoeddus neu ardd
- maes chwarae
- lle chwarae
- cyfleusterau chwaraeon eraill
Mae llwybrau cenedlaethol penodol yn dilyn ffyrdd nad ydynt yn un o’r disgrifiadau uchod i’w cynnwys. Y dull a fabwysiadwyd yw creu tir clustogi o 300 metr o amgylch y llwybr a dod o hyd i’r eiddo sy’n croestorri â’r tir clustogi hwn.
Methodoleg lwybro
Ystyriwyd y dull dadansoddi rhwydweithiau a phellteroedd Ewclidaidd (dull ‘fel yr hed y frân’) ar gyfer modelu’r amser teithio er mwyn nodi pa mor agos yw annedd breswyl at fannau gwyrdd naturiol hygyrch. Fodd bynnag, er bod y dull dadansoddi rhwydweithiau yn dra chynrychioliadol o ymddygiadau go iawn ac er mai hwn yw’r dull a ffefrir, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod anghysondebau a bylchau sylweddol mewn data o ran data pwyntiau mynediad polygonau mannau gwyrdd a rhwydwaith llwybrau sy’n gyson yn genedlaethol. Felly, byddai defnyddio’r dull dadansoddi rhwydweithiau yn anghyson yn genedlaethol ac yn anaddas ar gyfer MALlC ar hyn o bryd.
Er nad yw pellteroedd Ewclidaidd yn ystyried rhwystrau go iawn, gall y broses o’u llunio fod yn gyson yn genedlaethol a darparu dull ystadegol gadarn er mwyn cyfrifo’r ardaloedd hygyrch o amgylch mannau gwyrdd. Felly, defnyddiwyd pellteroedd Ewclidaidd i lunio’r polygonau amser teithio yn seiliedig ar y set ddata mannau gwyrdd at ddibenion MALlC 2019.
Derbynnir yn eang yr ystyrir bod gan anheddau preswyl fynediad digonol i fannau gwyrdd naturiol hygyrch os gallant gyrraedd safleoedd o fewn 5 munud ar droed. Mewn astudiaeth a gynhaliwyd gan Brifysgol Manceinion i Gyngor Cefn Gwlad Cymru fel y’i gelwid gynt, (CNC bellach), mae tystiolaeth glir i ddangos, ar y cyfan, bod dinasyddion yn annhebygol iawn o gerdded y tu hwnt i’r trothwy o 5 munud i gyrraedd seilwaith gwyrdd lleol.
Ar gyfartaledd, bydd unigolyn sy’n cerdded am 5 munud yn mynd tua 400 metr. Er mwyn darparu ar gyfer diffygion methodoleg pellter Ewclidaidd, lluniwyd polygonau amser teithio â radiws o 300 metr er mwyn ystyried rhwystrau go iawn i fynediad i fannau gwyrdd.
Yna, cafodd yr holl anheddau preswyl (fel y’u cafwyd o OS NGD Built Address) eu croestorri â pholygonau amser teithio er mwyn nodi os oeddent o fewn 5 munud ar droed i fan gwyrdd naturiol hygyrch yn ôl y diffiniad.
Wedyn, cafodd yr anheddau eu cyfuno i Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) a chyfrifwyd canran cyfanswm yr anheddau a oedd yn agos at fan gwyrdd naturiol hygyrch.
Annex 9.3: llygredd swn
Cwmpas a chefndir
Penodwyd Noise Consultants Limited (NCL) gan Is-adran Diogelwch Amgylcheddol Llywodraeth Cymru yn 2021 er mwyn paratoi mapiau sŵn strategol Rownd 4 a'r ystadegau amlygrwydd i sŵn cysylltiedig yng Nghymru. Creodd NCL bartneriaeth â Mott MacDonald, Oden Systems, Acustica a Stapelfeldt (‘Tîm y Prosiect’) i ddatblygu'r model a darparu'r allbynnau gofynnol. Darparwyd y mapiau a'r modelau i Lywodraeth Cymru yn 2023.
Mae'r gofyniad i lunio mapiau sŵn strategol oherwydd Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006. Mae'r Rheoliadau'n gofyn am fapio'r canlynol:
- Ffyrdd mawr (y rhai â mwy na 3 miliwn o symudiadau blynyddol)
- Rheilffyrdd mawr (y rhai â mwy na 30,000 o dramwyadau trên blynyddol)
- Meysydd awyr mawr (y rhai â mwy na 50,000 o symudiadau blynyddol)
- Ffynonellau mewn crynodrefi (ffynonellau diwydiant, ffyrdd a rheilffyrdd).
Mae'r Rheoliadau'n gofyn bod sŵn yn cael ei fapio bob 5 mlynedd. Hyd yma, bu pedair rownd o fapio sŵn strategol, gyda'r rownd ddiweddaraf (Rownd 4) yn seiliedig ar y sefyllfa yn 2021.
Caiff data'r model a'r canlyniadau cysylltiedig eu defnyddio i ddeillio ystadegau amlygrwydd i sŵn AGEHI eu cymryd o fodel a chanlyniadau mapio sŵn strategol Rownd 4. Felly, mae'r canlyniadau mapio sŵn yn ymwneud â'r flwyddyn 2021.
Ar ôl cwblhau'r gwaith mapio, cysylltodd Llywodraeth Cymru ag NCL i geisio deall ymarferoldeb darparu ystadegau amlygrwydd i sŵn yn seiliedig ar ganlyniadau'r gwaith mapio sŵn ffyrdd a rheilffyrdd ar gyfer Cymru ar lefel AGEHI, i fod yn ffactor yn MALlC 2025.
Roedd NCL eisoes wedi cwblhau a darparu ystadegau amlygrwydd i sŵn lefel AGEHI i Deprivation.org a fyddai'n cynnwys Mynegeion Amddifadedd Lloegr 2025, ac felly, er mwyn sicrhau cysondeb, roedd y dull a fabwysiadwyd ar gyfer ystadegau amlygrwydd i sŵn AGEHI Cymru yn debyg.
Deillio ystadegau amlygrwydd i sŵn
Set ddata ffin ystadegol
Er mwyn cynhyrchu'r ystadegau amlygrwydd i sŵn ar lefel AGEHI, cafwyd gafael ar set ddata ffin AGEHI gan Borth Daearyddiaeth Agored y SYG.
Metrigau sŵn
Lluniwyd ystadegau amlygrwydd i sŵn o'r canlyniadau mapio sŵn ar gyfer metrig sŵn Lden. Mae'r metrig sŵn Lden, y cyfeirir ato hefyd fel y ‘lefel dydd-gyda'r nos-dros nos’, yn cynrychioli sŵn hirdymor cyfartalog blynyddol dros 24 awr, ac mae'n cynnwys cymhwyso cosb 5dB(A) ar gyfer sŵn o fewn y cyfnod gyda'r nos (19:00-23:00) a chosb 10dB(A) ar gyfer sŵn o fewn y cyfnod dros nos (23:00-07:00).
Caiff y cosbau eu cymhwyso i gyfrif am y sensitifrwydd cynyddol i lefelau sŵn o fewn y cyfnodau hyn.
Caiff y metrig sŵn Lden ei ddefnyddio ar raddfa eang mewn astudiaethau effaith iechyd, gan gysylltu amlygrwydd i sŵn hirdymor â'r risg o glefyd y galon isgemig, gorbwysedd, strôc ac anfodlonrwydd. Felly, caiff y metrig hwn ei ystyried yn briodol ar gyfer y MALlC. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth yng Nghanllawiau Sŵn Amgylcheddol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer y Rhanbarth Ewropeaidd.
Ffynonellau sŵn wedi'u cynnwys
Mae ystadegau amlygrwydd i sŵn AGEHI yn defnyddio canlyniadau mapio sŵn Rownd 4 o ffynonellau sŵn traffig y ffordd a'r rheilffordd, lle mae pob ffordd a rheilffordd gyhoeddus yng Nghymru wedi'i modelu a'i mapio. Mae sŵn diwydiant yn Rownd 4 wedi'i fodelu ar lefel gymharol uchel o gymharu â ffyrdd a rheilffyrdd, a chaiff ond ei fodelu o fewn crynodrefi. Felly, ystyriwyd nad oedd cynnwys sŵn diwydiant yn briodol yn ystadegau amlygrwydd i sŵn AGEHI, ac mae data amlygrwydd cyfunol ond yn seiliedig ar ffynonellau ffyrdd a rheilffyrdd Rownd 4 yn unig.
Trosolwg o gamau prosesu
Mae'r adran hon yn cynnig crynodeb o'r camau prosesu a gymerwyd i lunio ystadegau amlygrwydd i sŵn AGEHI. Caiff trosolwg fanylach o'r broses i lunio ystadegau amlygrwydd i sŵn lefel AGEHI ei chyflwyno yn Atodiad A1.
Creu canlyniadau lefel adeiladu ffyrdd a rheilffyrdd
Mae cyfrifo amlygrwydd i sŵn ar lefel adeiladu ar gyfer ffynonellau ffyrdd a rheilffyrdd yn gofyn am gysylltu canlyniadau modelu ar gyfer derbynyddion ffasâd adeilad gyda nifer yr anheddau o fewn adeiladau, yn ogystal â phennu nifer o bobl i bob annedd.
Mae'r dull o bennu lefelau a gyfrifwyd wrth dderbynyddion y ffasâd i anheddau a phobl mewn anheddau wedi'u gosod yn CNOSSOS-EU. Mae tri dull ar gael, a grynhoir isod:
Dull 1: Mae lleoliad anheddau unigol yn hysbys
Pan fo lleoliad anheddau unigol yn hysbys (fel gyda thai ar wahân, tai pâr, tai teras neu adeiladau o fflatiau lle mae rhaniad mewnol yr adeiladau yn hysbys), caiff yr annedd a nifer y bobl yn yr annedd eu pennu i bwynt derbyn y ffasâd wrth ffasâd mwyaf agored yr annedd.
Dull 2: Mae gwybodaeth ar gael sy'n dangos y caiff anheddau eu trefnu mewn fflat fel bod ganddynt ffasâd unigol sy'n agored i sŵn.
Mae dull 2 yn gymwys i flociau o fflatiau y mae gan bob un ohonynt ffenestr ym mhob fflat gan wynebu un cyfeiriad yn unig. O dan y dull hwn, caiff yr anheddau a'r bobl mewn anheddau eu pennu i bob derbynnydd ffasâd sy'n gysylltiedig â'r adeilad, wedi'u pwysoli gan hyd y ffasâd y mae pob derbynnydd ffasâd yn ei gynrychioli, gan arwain at bennu'r lefelau sŵn a gyfrifir isaf, canolig ac uchaf o gwmpas ffasâd yr adeilad i'r anheddau a'r nifer o bobl yn yr anheddau.
Dull 3: Mae gwybodaeth ar gael sy'n dangos y caiff anheddau eu trefnu mewn adeilad o fflatiau fel nad oes mwy nag un ffasâd yn cael ei hamlygu i sŵn.
Mae Dull 3 yn gymwys i'r adeiladau o fflatiau a chanddynt anheddau â ffenestri yn wynebu mwy nag un cyfeiriad. Dylid ystyried y dull hwn hefyd fel y senario awtomatig mewn sefyllfaoedd lle nad yw cynllun yr anheddau mewn adeilad yn hysbys. Dan y dull hwn, caiff lefelau sŵn uwchlaw canolrif pob derbynnydd ffasâd adeilad eu pennu i'r anheddau a'r bobl mewn anheddau.
Ni fu'n bosibl ystyried Dull 2, o gofio bod cynllun yr anheddau yn yr adeiladau a ystyrir ym mapiau Rownd 4 yn anhysbys. Felly:
- Mae Dull 1 wedi'i gymhwyso i adeiladau ag un annedd; ac
- Mae Dull 3 wedi'i gymhwyso i bob adeilad preswyl amlanheddog arall
Pennwyd lefelau sŵn i boblogaeth ac anheddau gan ddefnyddio'r dulliau a ddisgrifiwyd uchod, drwy uno data priodoleddau o set ddata'r adeilad, set ddata derbynnydd y ffasâd, a'r holl wybodaeth sy'n ofynnol o fewn ffeiliau canlyniadau'r model. Cafodd yr amcangyfrif canlyniadau amlygrwydd eu hallbynnu ym mhob adeilad ar gyfer pob derbynnydd cynrychioliadol ac roedd pob band amlygrwydd i sŵn o 1dB yn cyfrifo metrigau sŵn gan gynnwys Lden.
Pennu cod AGEHI i ganlyniadau ffyrdd a rheilffyrdd a godwyd
Cynhaliwyd dadansoddiad gofodol er mwyn nodi ffin AGEHI fod pob adeilad o'i fewn, a phennu'r cod (‘LSOA21CD’) ac enw (‘LSOA21NM’) AGEHI cyfatebol i'r adeilad.
Cyfrifo'r lefel sŵn gyfunol yn yr adeiladau
Cyfrifwyd lefel sŵn gyfunol sy'n cyfuno sŵn ffyrdd a rheilffyrdd lefel adeilad drwy grynhoad logarithmig, fel a ganlyn:
Deillio ystadegau amlygrwydd i sŵn AGEHI
Lluniodd y gwaith prosesu a osodwyd uchod set ddata adeiladu lle priodolwyd y canlynol i bob adeilad:
- Cod ac enw AGEHI
- Poblogaeth
- Amlygrwydd i sŵn cyfunol (ffyrdd a rheilffyrdd cyfunol, Lden)
- Amlygrwydd i sŵn traffig ffyrdd (Lden)
- Amlygrwydd i sŵn rheilffyrdd (Lden)
Defnyddiwyd y data a briodolwyd i gyfrifo cyfanswm y boblogaeth a'r boblogaeth a amlygwyd i ffyrdd, rheilffyrdd ac Lden cyfunol, ac allbwn fel ffeil CSV a oedd yn cynnwys y boblogaeth a amlygir i ffyrdd, rheilffyrdd a sŵn cyfunol fesul AGEHI mewn bandiau 1dB o 40dB hyd at >=75 dB a chaiff cyfanswm y boblogaeth ei gyfrifo o'r haen canlyniadau adeiladau fesul AGEHI.
