Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC 2025) adroddiad technegol - Maes diogelwch cymunedol
Yn amlinellu prif wybodaeth dechnegol ar gyfer adroddiad canlyniadau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Diben y maes hwn yw mesur amddifadedd sy'n ymwneud â byw mewn cymuned ddiogel. Mae'n cwmpasu profiadau gwirioneddol o droseddu a thân, yn ogystal â chanfyddiadau pobl o ddiogelwch pan fyddant allan yn yr ardal leol. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 5% yn y mynegai cyffredinol.
Dangosyddion
Trais gydag anaf
Math o ddangosydd
Cyfradd fesul 100 o'r boblogaeth sy'n wynebu risg.
Rhifiadur
Nifer y digwyddiadau a gofnodwyd gan yr heddlu ym mhob un o'r is-gategorïau ‘trais gydag anaf’, yn ogystal â phob categori ‘lladdiad’.
Enwadur
Cyfanswm y boblogaeth breswyl yn ogystal ag amcangyfrif o'r boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd.
Ffynhonnell a chyfnod amser
Troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu a gasglwyd gan y Swyddfa Gartref; chwe blynedd o ddata blwyddyn ariannol o fis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2024.
Cyfanswm y boblogaeth breswyl (y SYG), amcangyfrifon canol blwyddyn 2018 i 2022.
Poblogaeth amhreswyl: Ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol cyn y pandemig, sef 2018 i 2019 a 2019 i 2020, cymerwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd o Gyfrifiad 2011; ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol yn ystod y pandemig, sef 2020 i 2021 a 2021 i 2022, cymerwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd o Gyfrifiad 2021; ac ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol ar ôl y pandemig, sef 2022 i 2023 a 2023 i 2024, cyfrifwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd fel cyfartaledd gwerthoedd Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021.
Nodiadau ychwanegol
Darperir rhestr lawn o'r codau troseddau sydd wedi'u cynnwys yn y dangosydd yn atodiad 8.1.
Cymaroldeb gyda MALlC 2019
Na. Dangosydd newydd yw hwn ac mae'n un o bedwar sy'n disodli'r dangosydd trais yn MALlC 2019.
Trais heb anaf
Math o ddangosydd
Cyfradd fesul 100 o'r boblogaeth sy'n wynebu risg.
Rhifiadur
Nifer y digwyddiadau a gofnodwyd gan yr heddlu ym mhob un o'r is-gategorïau ‘trais heb anaf’.
Enwadur
Cyfanswm y boblogaeth breswyl yn ogystal ag amcangyfrif o'r boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd.
Ffynhonnell a chyfnod amser
Troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu a gasglwyd gan y Swyddfa Gartref; chwe blynedd o ddata blwyddyn ariannol o fis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2024.
Cyfanswm y boblogaeth breswyl, (y SYG), amcangyfrifon canol blwyddyn 2018 i 2022.
Poblogaeth amhreswyl: Ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol cyn y pandemig, sef 2018 i 2019 a 2019 i 2020, cymerwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd o Gyfrifiad 2011; ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol yn ystod y pandemig, sef 2020 i 2021 a 2021 i 2022, cymerwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd o Gyfrifiad 2021; ac ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol ar ôl y pandemig, sef 2022 i 2023 a 2023 i 2024, cyfrifwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd fel cyfartaledd gwerthoedd Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021.
Nodiadau ychwanegol
Darperir rhestr lawn o'r codau troseddau sydd wedi'u cynnwys yn y dangosydd yn atodiad 8.1.
Cymaroldeb gyda MALlC 2019
Na. Dangosydd newydd yw hwn ac mae'n un o bedwar sy'n disodli'r dangosydd trais yn MALlC 2019.
Stelcio ac aflonyddu
Math o ddangosydd
Cyfradd fesul 100 o'r boblogaeth sy'n wynebu risg.
Rhifiadur
Nifer y digwyddiadau a gofnodwyd gan yr heddlu ym mhob un o'r is-gategorïau ‘stelcio ac aflonyddu’.

Troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus
Math o ddangosydd
Cyfradd fesul 100 o'r boblogaeth sy'n wynebu risg.
Rhifiadur
Number of police recorded incidents in all sub-categories of ‘public order’ and ‘possession of weapon offences’.
Rhifiadur
Nifer y digwyddiadau a gofnodwyd gan yr heddlu ym mhob un o'r is-gategorïau ‘troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus’ a ‘throseddau meddu ar arfau’.
Enwadur
Cyfanswm y boblogaeth breswyl yn ogystal ag amcangyfrif o'r boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd.
Ffynhonnell a chyfnod amser
Troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu a gasglwyd gan y Swyddfa Gartref; chwe blynedd o ddata blwyddyn ariannol o fis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2024.
Cyfanswm y boblogaeth breswyl, (y SYG), amcangyfrifon canol blwyddyn 2018 i 2022.
Poblogaeth amhreswyl: Ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol cyn y pandemig, sef 2018 i 2019 a 2019 i 2020, cymerwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd o Gyfrifiad 2011; ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol yn ystod y pandemig, sef 2020 i 2021 a 2021 i 2022, cymerwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd o Gyfrifiad 2021; ac ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol ar ôl y pandemig, sef 2022 i 2023 a 2023 i 2024, cyfrifwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd fel cyfartaledd gwerthoedd Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021.
Nodiadau ychwanegol
Darperir rhestr lawn o'r codau troseddau sydd wedi'u cynnwys yn y dangosydd yn atodiad 8.1.
Cymaroldeb gyda MALlC 2019
Na. Dangosydd newydd yw hwn ac mae'n un o bedwar sy'n disodli'r dangosydd trais yn MALlC 2019.
Bwrgleriaeth
Math o ddangosydd
Cyfradd fesul 100 eiddo sy'n wynebu risg.
Rhifiadur
Nifer y digwyddiadau a gofnodwyd gan yr heddlu ym mhob un o'r is-gategorïau ‘bwrgleriaeth’.
Enwadur
Anheddau preswyl ar lefel AGEHI o Gyfrifiad 2021 yn ogystal ag eiddo amhreswyl ar lefel AGEHI o Address Base yr Arolwg Ordnans.
Ffynhonnell a chyfnod amser
Data ar droseddau a gofnodwyd gan yr heddlu a gasglwyd gan y Swyddfa Gartref; chwe blynedd o ddata blwyddyn ariannol o fis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2024.
Anheddau preswyl o Gyfrifiad 2021 yn ogystal ag eiddo annomestig o AddressBase Plus yr Arolwg Ordnans.
Nodiadau ychwanegol
Darperir rhestr lawn o'r codau troseddau sydd wedi'u cynnwys yn y dangosydd yn atodiad 8.1.
Cymaroldeb gyda MALlC 2019
Gellir ei gymharu, ar y cyfan.
Dwyn
Math o ddangosydd
Cyfradd fesul 100 o'r boblogaeth sy'n wynebu risg.
Rhifiadur
Nifer y digwyddiadau a gofnodwyd gan yr heddlu ym mhob un o'r is-gategorïau ‘dwyn’ a ‘lladrata’, ac eithrio ‘dwyn o siopau’.
Enwadur
Cyfanswm y boblogaeth breswyl yn ogystal ag amcangyfrif o'r boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd.
Ffynhonnell a chyfnod amser
Troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu a gasglwyd gan y Swyddfa Gartref; chwe blynedd o ddata blwyddyn ariannol o fis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2024.
Cyfanswm y boblogaeth breswyl, (y SYG), amcangyfrifon canol blwyddyn 2018 i 2022.
Poblogaeth amhreswyl: Ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol cyn y pandemig, sef 2018 i 2019 a 2019 i 2020, cymerwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd o Gyfrifiad 2011; ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol yn ystod y pandemig, sef 2020 i 2021 a 2021 i 2022, cymerwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd o Gyfrifiad 2021; ac ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol ar ôl y pandemig, sef 2022 i 2023 a 2023 i 2024, cyfrifwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd fel cyfartaledd gwerthoedd Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021.
Nodiadau ychwanegol
Darperir rhestr lawn o'r codau troseddau sydd wedi'u cynnwys yn y dangosydd yn atodiad 8.1.
Cymaroldeb gyda MALlC 2019
Nid yw'n gymaradwy, ond mae'n debygol y bydd effaith amlwg mewn ardaloedd trefol wrth i niferoedd mawr a gaiff eu hystyried fel rhan o'r ‘boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd’ gael eu cynnwys yn yr enwadur am y tro cyntaf, gan wneud yr ardaloedd hyn yn berthynol llai amddifad. O ganlyniad gallai ardaloedd mwy gwledig (na fydd eu henwadur yn newid fawr ddim) symud i fyny'r safleoedd amddifadedd wrth i ardaloedd trefol symud i lawr.
Difrod troseddol
Math o ddangosydd
Cyfradd fesul 100 o'r boblogaeth sy'n wynebu risg.
Rhifiadur
Nifer y digwyddiadau a gofnodwyd gan yr heddlu ym mhob un o'r is-gategorïau ‘difrod troseddol’ a ‘thanau bwriadol’.
Enwadur
Cyfanswm y boblogaeth breswyl yn ogystal ag amcangyfrif o'r boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd.
Ffynhonnell a chyfnod amser
Troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu a gasglwyd gan y Swyddfa Gartref; chwe blynedd o ddata blwyddyn ariannol o fis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2024
Cyfanswm y boblogaeth breswyl, (y SYG), amcangyfrifon canol blwyddyn 2018 i 2022.
Poblogaeth amhreswyl: Ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol cyn y pandemig, sef 2018 i 2019 a 2019 i 2020, cymerwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd o Gyfrifiad 2011; ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol yn ystod y pandemig, sef 2020 i 2021 a 2021 i 2022, cymerwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd o Gyfrifiad 2021; ac ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol ar ôl y pandemig, sef 2022 i 2023 a 2023 i 2024, cyfrifwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd fel cyfartaledd gwerthoedd Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021.
Nodiadau ychwanegol
Darperir rhestr lawn o'r codau troseddau sydd wedi'u cynnwys yn y dangosydd yn atodiad 8.1.
Cymaroldeb gyda MALlC 2019
Nid yw'n gymaradwy, ond mae'n debygol y bydd effaith amlwg mewn ardaloedd trefol wrth i niferoedd mawr a gaiff eu hystyried fel rhan o'r ‘boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd’ gael eu cynnwys yn yr enwadur am y tro cyntaf, gan wneud yr ardaloedd hyn yn berthynol llai amddifad. O ganlyniad gallai ardaloedd mwy gwledig (na fydd eu henwadur yn newid fawr ddim) symud i fyny'r safleoedd amddifadedd wrth i ardaloedd trefol symud i lawr.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol
Math o ddangosydd
Cyfradd fesul 100 o'r boblogaeth sy'n wynebu risg.
Rhifiadur
Nifer y digwyddiadau ym mhob un o'r is-gategorïau ymddygiad gwrthgymdeithasol y rhoddir gwybod i'r heddlu amdanynt ac a gaiff eu cofnodi fel digwyddiadau heddlu, sy'n cynnwys achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ‘personol’, ‘amgylcheddol’ a ‘niwsans’.
Enwadur
Cyfanswm y boblogaeth breswyl yn ogystal ag amcangyfrif o'r boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd.
Ffynhonnell a chyfnod amser
Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, heddluoedd Cymru; dwy flynedd o ddata blwyddyn ariannol o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2024.
Cyfanswm y boblogaeth breswyl, (y SYG), amcangyfrifon canol blwyddyn 2018 i 2022.
Cyfrifwyd y gydran amhreswyl mewn gweithleoedd fel cyfartaledd gwerthoedd Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021.
Nodiadau ychwanegol
Darparwyd achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gyfer dwy flwyddyn ariannol, sef mis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023 a mis Ebrill 2023 i fis Mawrth 2024. Er y cafodd data ar ymddygiad gwrthgymdeithasol eu hadolygu hefyd ar gyfer y flwyddyn ariannol o fis Ebrill 2021 i fis Mawrth 2022, cafodd data ar gyfer mis Ebrill 2021 hyd at fis Mawrth 2022 eu gwrthod yn sgil pryderon am anghysondeb daearyddol arferion plismona ac arferion cofnodi mewn perthynas â thorri cyfyngiadau yn ystod y pandemig. Felly, er mwyn osgoi cyflwyno tueddiadau daearyddol, dim ond data ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gyfer y cyfnod ar ôl y pandemig a gafodd eu cynnwys.
Darperir rhestr lawn o'r codau troseddau sydd wedi'u cynnwys yn y dangosydd yn atodiad 8.1.
Cymaroldeb gyda MALlC 2019
Nid yw'n gymaradwy, ond mae'n debygol y bydd effaith amlwg mewn ardaloedd trefol wrth i niferoedd mawr a gaiff eu hystyried fel rhan o'r ‘boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd’ gael eu cynnwys yn yr enwadur am y tro cyntaf, gan wneud yr ardaloedd hyn yn berthynol llai amddifad. O ganlyniad gallai ardaloedd mwy gwledig (na fydd eu henwadur yn newid fawr ddim) symud i fyny'r safleoedd amddifadedd wrth i ardaloedd trefol symud i lawr.
Digwyddiadau tân
Math o ddangosydd
Cyfradd fesul 100 o'r boblogaeth sy'n wynebu risg.
Rhifiadur
Nifer y galwadau tân yr ymatebodd y gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru iddynt.
Enwadur
Cyfanswm y boblogaeth breswyl heb gynnwys poblogaeth y carchardai.
Ffynhonnell a chyfnod amser
System Cofnodi Digwyddiadau'r Swyddfa Gartref; tair blynedd o ddata blwyddyn ariannol o fis Ebrill 2021 i fis Mawrth 2024.
Cyfanswm y boblogaeth breswyl (y SYG), amcangyfrifon canol blwyddyn 2021 i 2022.
Poblogaeth y carchardai, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi.
Nodiadau ychwanegol
Mae'r dangosydd hwn yn casglu gwybodaeth am brofiadau go iawn o dân. Casglwyd nifer yr achosion o brif danau, tanau eilaidd a thanau simnai yn ôl AGEHI.
Mae digwyddiadau lle mae angen galw gwasanaethau tân ac achub allan yn ymwneud ag amddifadedd ac yn fwy tebygol o ddigwydd mewn grwpiau difreintiedig.
Mae prif danau yn cynnwys pob tân mewn adeilad, cerbyd a strwythur awyr agored neu unrhyw dân lle mae pobl yn cael eu hanafu neu eu hachub neu unrhyw dân yr ymatebir iddo gan ddefnyddio pump neu fwy o offer.
Tanau eilaidd yw'r mwyafrif o danau awyr agored, gan gynnwys tanau ar laswelltir a thanau sbwriel oni fydd pobl yn cael eu hanafu neu eu hachub, eiddo yn cael ei golli neu bump neu fwy o offer yn cael eu defnyddio i ymateb iddynt.
Mae tanau simnai yn danau adroddadwy mewn adeiladau a feddiennir lle roedd y tân wedi'i gyfyngu i strwythur y simnai a lle nad oedd unrhyw un wedi cael ei anafu na'i achub ac nad ymatebwyd iddynt gan ddefnyddio pump neu fwy o offer.
Cymaroldeb gyda MALlC 2019
Ar y cyfan.
Llunio'r maes
Mae naw dangosydd yn y maes diogelwch cymunedol, sydd wedi'u pwysoli fel a ganlyn. Defnyddiwyd y dechneg dadansoddi ffactorau i gyfrifo pwysoliadau'r dangosyddion.
- 22% trais gydag anaf
- 22% troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus
- 18% difrod troseddol
- 13% trais heb anaf
- 8% stelcio ac aflonyddu
- 4% dwyn
- 3% bwrgleriaeth
- 8% ymddygiad gwrthgymdeithasol
- 2% digwyddiadau tân
Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 5% yn y mynegai cyffredinol.
Newidiadau ers MALlC 2019
Bu sawl newid methodolegol i'r maes diogelwch cymunedol rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025. Nodir rhestr lawn o'r newidiadau isod
Mae'r maes diogelwch cymunedol bellach yn cynnwys naw dangosydd, o gymharu â chwech yn MALlC 2019 (sef: trais, bwrgleriaeth, dwyn, difrod troseddol, ymddygiad gwrthgymdeithasol a digwyddiadau tân). Ar gyfer MALlC 2025, mae'r dangosydd trais wedi cael ei rannu yn dri dangosydd gwahanol sy'n ymwneud â thrais a dangosydd arall sy'n ymwneud â throseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus a meddu ar arfau. Mae'r dangosyddion hyn yn rhoi adlewyrchiad gwell o'r lefel uwch o droseddau treisgar o gymharu â'r categorïau eraill ar lefelau cenedlaethol ac is-genedlaethol.
Mae'r maes bellach yn cynnwys cyfres fwy cynhwysfawr o droseddau hysbysadwy: tra bod dangosyddion trais a dwyn MALlC 2019 yn cynnwys is-setiau dethol o droseddau hysbysadwy yn ymwneud â dwyn a thrais cyffredinol, mae dangosyddion MALlC 2025 yn seiliedig ar y set gyflawn o gategorïau troseddau hysbysadwy (ac eithrio dwyn o siopau, sydd wedi'i hepgor o'r dangosydd dwyn).
Mae'r cyfnod data ar gyfer y saith dangosydd yn seiliedig ar droseddau a gofnodwyd wedi cael ei ymestyn o ddwy i chwe blynedd. Mae'r gyfres amser estynedig hon yn gwneud y data yn fwy cadarn drwy leihau effeithiau anwadalrwydd data bach y gellir ei weld o un flwyddyn i'r llall mewn ystadegau troseddau AGEHI, er mwyn adlewyrchu'n well y risg ategol o fod yn ddioddefwr.
Mae'r cyfnod data ar gyfer digwyddiadau tân wedi cael ei ymestyn o 2 flynedd i 3 blynedd. Gall nifer y digwyddiadau tân fod yn anwadal ac maent yn aml yn gysylltiedig â'r tywydd. Mae ymestyn i gyfnod tair blynedd yn golygu ei bod yn fwy tebygol y caiff ardaloedd sy'n tueddu i brofi tanau awyr agored eu cynnwys yn y data.
Mae'r enwaduron ar gyfer chwech o'r saith dangosydd trosedd a'r dangosydd ymddygiad gwrthgymdeithasol bellach yn cynnwys cyfrifiad ar gyfer y ‘boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd’ i gynhyrchu amcangyfrif deilliedig o'r ‘boblogaeth sy'n wynebu risg’. Ystyriwyd bod hwn yn enwadur gwell na defnyddio'r boblogaeth breswyl am ei fod, i raddau, yn rhoi cyfrif am y boblogaeth fwy sy'n wynebu risg o fod yn ddioddefwyr mewn ardaloedd fel canol trefi a dinasoedd (gan adlewyrchu, er enghraifft, yr economi nos a ffactorau risg cysylltiedig o ran bod yn ddioddefwr).
Mae poblogaeth carchardai bellach wedi'u cynnwys yn yr enwadur hwn, gan fod crynodiadau o droseddau treisgar wedi'u canfod mewn carchardai, sy'n awgrymu y dylid cadw poblogaeth carchardai yn yr enwadur gan fod carcharorion mewn perygl o fod yn ddioddefwr.
Gwybodaeth ychwanegol
Methodoleg ar gyfer data a gofnodwyd gan yr heddlu yn y maes hwn
Cafodd data ar droseddau a gofnodwyd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol eu casglu a’u prosesu gan deprivation.org ar ein rhan gan ddefnyddio dull a oedd yn gyson â mynegeion amddifadedd 2025 Lloegr. Ceir rhagor o fanylion am y fethodoleg yn adroddiad technegol mynegeion amddifadedd 2025 Lloegr (y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol).
Mae’r maes hwn yn defnyddio microddata wedi’u geogodio ar droseddau a gofnodwyd gan yr heddlu ac achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, a ddaw o Hwb Data’r Swyddfa Gartref, data crai Police.uk, a darnau o wybodaeth bwrpasol gan heddluoedd. Yn wahanol i ddata cyhoeddus wedi’u hanonymeiddio, mae’r setiau data hyn yn cynnwys manylion lleoliad llawn, sy’n ei gwneud yn bosibl i fapio’n fanwl gywir. Oherwydd sensitifrwydd y data, cafodd yr holl ddata eu prosesu yn amgylcheddau diogel yr heddlu o dan gytundebau Cyngor Prif Swyddogion yr Heddlu.
Cafodd cofnodion unigol o droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol eu cyfuno i ACEHIau gan ddefnyddio adnodd mapio pwrpasol. Cafodd troseddau o fewn 10 metr i ffiniau eu dosrannu rhwng ACEHIau cyfagos, gan ddisodli’r ardal glustogi flaenorol o 100m a ddefnyddiwyd yn 2019 er mwyn adlewyrchu mwy o gywirdeb o ganlyniad i geogodio.
Roedd prosesau sicrhau ansawdd yn cynnwys gwiriadau yn erbyn ystadegau cyfun yr heddlu a chael gwared ar anghysondebau, megis cofnodion y tu allan i ffiniau heddlu. Cyfyngwyd cyfrifon i gyfansymiau Ardaloedd Heddluoedd er mwyn ymdrin â chofnodion heb eu mapio ac osgoi achosion o ystumio o ganlyniad i droseddau a gafodd eu geogodio i safleoedd yr heddlu.
Atodiad 8.1: categorïau o droseddau ac achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofnodwyd
Trais gydag anaf
Mae dangosydd ‘trais gydag anaf’ MALlC 2025 yn cynnwys holl is-gategorïau lladdiad a thrais gydag anaf y Swyddfa Gartref. Mae'r holl godau ar gael ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018 i 2019, i 2023 i 2024.
| Cod trosedd | Enw trosedd |
|---|---|
| 1 | Llofruddio |
| 4.1 | Dynladdiad |
| 4.1 | Dynladdiad corfforaethol |
| 4.2 | Babanladdiad |
| 2 | Ymgais i Lofruddio |
| 4.3 | Dinistrio'n fwriadol blentyn hyfyw heb ei eni |
| 5D | Ymosod gyda'r Bwriad o Achosi Niwed Difrifol |
| 5E | Peryglu Bywyd |
| 4.7 | Achosi neu ganiatáu marwolaeth neu niwed corfforol difrifol i blentyn neu berson agored i niwed |
| 8N | Ymosod ac Anafu |
| 8P | Ymosod ac Anafu Gwaethygedig ar sail Hil neu Grefydd |
| 8S | Ymosod ar gwnstabl a'i anafu |
| 8T | Ymosod gan achosi anaf ar weithiwr argyfwng (ac eithrio cwnstabl) |
Trais heb anaf
Mae dangosydd ‘trais heb anaf’ MALlC 2025 yn cynnwys holl is-gategorïau trais heb anaf y Swyddfa Gartref. Mae'r holl godau ar gael ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018 i 2019, i 2023 i 2024.
| Cod trosedd | Enw trosedd |
|---|---|
| 3A | Cynllwyn i lofruddio |
| 3B | Bygythiadau i ladd |
| 11A | Creulondeb i Blant / Pobl Ifanc |
| 13 | Cipio plentyn |
| 14 | Caffael erthyliad anghyfreithlon |
| 36 | Herwgipio |
| 104 | Ymosod heb achosi anaf ar gwnstabl |
| 105A | Ymosod heb anafu |
| 105B | Ymosod heb anafu Gwaethygedig ar sail Hil neu Grefydd |
| 106 | Caethwasiaeth Fodern |
Stelcio ac aflonyddu
Mae dangosydd ‘stelcio ac aflonyddu’ MALlC 2025 yn cynnwys holl is-gategorïau stelcio ac aflonyddu'r Swyddfa Gartref. Mae'r holl godau ar gael ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018 i 2019, i 2023 i 2024.
| Cod trosedd | Enw trosedd |
|---|---|
| 8L | Aflonyddu |
| 8M | Aflonyddu Gwaethygedig ar sail Hil neu Grefydd |
| 8Q | Stelcio |
| 8R | Cyfathrebu Maleisus |
| 8U | Ymddygiad Rheolaethol neu Orfodaethol |
Bwrgleriaeth
Mae dangosydd ‘bwrgleriaeth’ MALlC 2025 yn cynnwys holl is-gategorïau bwrgleriaeth y Swyddfa Gartref.
| Cod trosedd | Enw trosedd | Blynyddoedd cymwys (blynyddoedd ariannol) |
|---|---|---|
| 28E | Bwrgleriaeth – preswyl | 2018-19 i 2022-23 |
| 28F | Ymgais i ladrata – Preswyl | 2018-19 i 2022-23 |
| 28G | Ladrad trwy dynnu sylw – Preswyl | 2018-19 i 2022-23 |
| 28H | Ymgais i ladrad trwy dynnu sylw – Preswyl | 2018-19 i 2022-23 |
| 28I | Ladrad preswyl mewn cartref | 2023-24 |
| 28J | Ymgais i ladrad preswyl mewn cartref | 2023-24 |
| 28K | Ladrad trwy dynnu sylw – preswyl (cartref) | 2023-24 |
| 28L | Ymgais i ladrad trwy dynnu sylw – preswyl (cartref) | 2023-24 |
| 28M | Ladrad preswyl mewn adeilad annibynnol | 2023-24 |
| 28N | Ymgais i ladrad preswyl mewn adeilad annibynnol | 2023-24 |
| 28O | Ladrad trwy dynnu sylw – preswyl (adeilad annibynnol) | 2023-24 |
| 28P | Ymgais i ladrad trwy dynnu sylw – preswyl (adeilad annibynnol) | 2023-24 |
| 29A | Bwrgleriaeth waethygedig – preswyl | 2018-19 i 2022-23 |
| 29B | Ladrad â thrais – preswyl (cartref) | 2023-24 |
| 29C | Ladrad â thrais – preswyl (adeilad annibynnol) | 2023-24 |
| 30C | Bwrgleriaeth – busnes a chymunedol | 2018-19 i 2023-24 |
| 30D | Ymgais i ladrata - busnes a chymunedol | 2018-19 i 2023-24 |
| 31A | Bwrgleriaeth waethygedig – busnes a chymunedol | 2018-19 i 2023-24 |
Dwyn
Mae dangosydd ‘dwyn’ MALlC 2025 yn cynnwys holl is-gategorïau lladrata a dwyn (heblaw am ddwyn o siopau) y Swyddfa Gartref. Mae'r holl godau ar gael ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018 i 2019, i 2023 i 2024.
| Cod trosedd | Enw trosedd |
|---|---|
| 34A | Dwyn Eiddo Busnes |
| 34B | Dwyn Eiddo Personol |
| 37.2 | Cymryd Cerbyd Gwaethygedig |
| 45 | Dwyn o Gerbyd |
| 48 | Dwyn Cerbyd Modur neu Gymryd Cerbyd Modur heb Awdurdod |
| 126 | Ymyrryd â Cherbyd |
| 39 | Dwyn oddi ar y Person |
| 44 | Dwyn beic pedalau neu ei gymryd heb awdurdod |
| 35 | Blacmel |
| 40 | Dwyn o annedd ac eithrio o beiriant awtomatig neu fesurydd |
| 41 | Dwyn gan weithiwr cyflogedig |
| 42 | Dwyn post |
| 43 | Defnydd anonest o drydan |
| 47 | Dwyn o beiriant awtomatig neu fesurydd |
| 49 | Dwyn o fath arall |
| 49A | Mynd ymaith heb dalu |
Difrod troseddol
Mae dangosydd ‘difrod troseddol’ MALlC 2025 yn cynnwys holl is-gategorïau difrod troseddol a thanau bwriadol y Swyddfa Gartref. Mae'r holl godau ar gael ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018 i 2019, i 2023 i 2024.
| Cod trosedd | Enw trosedd |
|---|---|
| 56A | Tân bwriadol sy'n peryglu bywyd |
| 56B | Tân bwriadol nad yw'n peryglu bywyd |
| 58A | Difrod Troseddol i Annedd |
| 58B | Difrod Troseddol i Adeilad heblaw Annedd |
| 58C | Difrod Troseddol i Gerbyd |
| 58D | Mathau Eraill o Ddifrod Troseddol |
| 58J | Difrod Troseddol Gwaethygedig ar sail Hil neu Grefydd |
Trefn gyhoeddus a meddu ar arfau
Mae dangosydd ‘trefn gyhoeddus a meddu ar arfau’ MALlC 2025 yn cynnwys holl is-gategorïau troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus a meddu ar arfau'r Swyddfa Gartref. Mae'r holl godau ar gael ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018 i 2019, i 2023 i 2024.
| Cod trosedd | Enw trosedd |
|---|---|
| 9A | Achosi ofn, dychryn neu ofid i'r cyhoedd |
| 9B | Achosi ofn, dychryn neu ofid i'r cyhoedd, wedi'i waethygu gan hiliaeth neu grefydd |
| 62A | Anhrefn treisgar |
| 66 | Troseddau eraill yn erbyn y Wladwriaeth neu'r drefn gyhoeddus |
| 10A | Meddu ar Arfau Tanio gyda'r bwriad o gyflawni trosedd |
| 10B | Troseddau sy'n ymwneud â Meddu ar Arfau Tanio |
| 10C | Meddu ar arfau eraill |
| 10D | Meddu ar eitem â llafn neu bigyn |
| 81 | Troseddau eraill sy’n ymwneud ag arfau tanio |
| 90 | Troseddau eraill yn ymwneud â chyllyll |
Ymddygiad gwrthgymdeithasol
Mae dangosydd ‘ymddygiad gwrthgymdeithasol’ MALlC 2025 yn cynnwys holl is-gategorïau ymddygiad gwrthgymdeithasol y Swyddfa Gartref. Mae'r holl gategorïau ar gael ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022 i 2023 a 2023 i 2024.
Codau trosedd y Swyddfa Gartref a ddefnyddiwyd ar gyfer y dangosydd ‘ymddygiad gwrthgymdeithasol’
- Personol
- Amgylcheddol
- Niwsans