Neidio i'r prif gynnwy

Rydyn ni'n gwybod bod rhai pobl yn poeni os oes tomen lo nas defnyddir ar bwys eu cymuned. Mae Llywodraeth Cymru, eich cyngor lleol a sefydliadau eraill yn gweithio gyda'i gilydd i'ch cadw'n ddiogel.

Yr hyn rydyn ni'n ei wneud yn awr

  • Archwilio a monitro pob tomen lo nas defnyddir yng Nghymru yn rheolaidd.
  • Ariannu cynghorau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud gwaith i sicrhau bod tomenni'n fwy diogel – gan gynnwys tomenni preifat.
  • Cyhoeddi mapiau sy'n dangos ble mae tomenni a pha mor aml maen nhw'n cael eu harchwilio. Mae'r rhan fwyaf o domenni nas defnyddir yng nghymoedd de Cymru, ond effeithir ar rannau eraill o'r wlad hefyd.

Perchnogion y tomenni sy'n parhau i fod yn gyfrifol amdanyn nhw, ond mae Llywodraeth Cymru yn helpu. Rydyn ni eisoes wedi buddsoddi £100 miliwn mewn diogelwch tomenni glo ers 2020, ac mae cyllid arall gwerth £120 miliwn wedi cael ei gynllunio. Bydd hyn yn cefnogi'r rhai sy'n byw yng nghysgod y tomenni, ac yn dod â chyfleoedd am swyddi a'r potensial i gymunedau ddefnyddio'r safleoedd at ddibenion hamdden.

Cyfraith newydd i wella diogelwch

Bydd deddf newydd gan Lywodraeth Cymru yn mynd hyd yn oed ymhellach i amddiffyn cymunedau Cymru am genedlaethau i ddod. 

Bydd y gyfraith hon yn creu sefydliad newydd o'r enw Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru. O fis Ebrill 2027 ymlaen, bydd yr Awdurdod hwn yn monitro pob tomen yn rheolaidd, yn creu cynlluniau diogelwch ar gyfer safleoedd risg uwch ac yn rheoli argyfyngau i gadw cymunedau'n ddiogel.

Angen help neu wybodaeth? 

Os ydych yn poeni am domen yn eich ardal chi, rhowch wybod i'r Awdurdod Adfer Mwyngloddio ar 0800 021 9230 (radffôn) neu e-bostiwch tips@MiningRemediation.gov.uk 

I gael rhagor o wybodaeth: www.llyw.cymru/diogelwch-tomenni-glo

neu ysgrifennwch at: 

Y Tîm Diogelwch Tomenni Glo, 
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, 
Parc Cathays, 
Caerdydd, 
CF10 3NQ