Adolygiad o’r dystiolaeth ar ymyriadau yn y DU a byd eang i hybu cyfranogiad mewn addysg drydyddol, gan ganolbwyntio ar gofrestru, cadw a chyrhaeddiad.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Cynhaliwyd adolygiad tystiolaeth cyflym rhwng Medi 2024 a Chwefror 2025. Mae'r adolygiad hwn yn cyflwyno tystiolaeth o dros 130 o ffynonellau (llenyddiaeth lwyd, llenyddiaeth academaidd, ffynonellau llywodraethol ag sector) ar y prif ymyriadau yn y DU a ddatblygwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf ochr yn ochr â thystiolaeth ryngwladol ehangach ar ymyriadau llwyddiannus (UDA, Awstralia, Canada, Seland Newydd, yr Almaen).
Crynodeb o’r ystyriaethau
Mae’r adolygiad yn tynnu sylw at ystyriaethau a gododd o ymchwil a gynhaliwyd yn y DU ac yn rhyngwladol.
Y prif fyfyrdodau a llwybrau ymchwil a awgrymir yw'r canlynol.
Monitro a gwerthuso
Mae’n hanfodol bod y cynllun monitro a gwerthuso ar gyfer ymyriad yn gydnaws â nod yr ymyriad hwnnw, er mwyn sicrhau y gellir mesur canlyniadau ac effeithiau, a bod adnoddau’n cael eu dyrannu i gasglu a dadansoddi gwybodaeth. Er enghraifft, os yw ymyriad wedi’i anelu’n bennaf at gynyddu cyfranogiad mewn addysg uwch ac addysg bellach, mae angen mesur hyn trwy’r nifer o unigolion sydd wedi’u cofrestru ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch ochr yn ochr â deilliannau meddal megis lefelau uwch o ran dyhead. Mae hyn yn cynnwys monitro tymor hwy i asesu effaith ymyriadau a gweithgareddau ar ddysgwyr dan anfantais yn y dyfodol, a grwpiau dysgwyr penodol gan gynnwys dysgwyr aeddfed, gofalwyr, y rhai sy’n gadael gofal, dysgwyr ethnig leiafrifol a dysgwyr galwedigaethol.
Cyfranogiad rhieni
Mae tystiolaeth yn dangos bod gan rieni ddylanwad uniongyrchol ar benderfyniadau’r dysgwr ynghylch addysg uwch, a bod rhieni dysgwyr dan anfantais yn fwy tebygol o gwestiynu gwerth a chost addysg uwch. Felly, dylai ymyriadau gynnwys gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar ymgysylltiad teuluol a rhieni, a dealltwriaeth o opsiynau addysg drydyddol.
Cymorth cyfannol
I’r prifysgolion hynny sydd wedi defnyddio derbyniadau cyd-destunol, mae’n cael effaith gadarnhaol ar gynyddu cofrestru grwpiau dan anfantais mewn addysg uwch. Fodd bynnag, ar ôl cofrestru, mae angen cymorth cyfannol a pharhaus i sicrhau y gall dysgwyr o gefndiroedd amrywiol ffynnu ar ôl iddynt fod mewn addysg uwch. Mae hyn yn cynnwys cynghori academaidd, mentora, a chymorth ariannol i gadw’r myfyrwyr a sicrhau eu llwyddiant.
Mentora pwrpasol
Datblygu rhaglenni mentora sy’n mynd i’r afael ag anghenion penodol dysgwyr. Mae hyfforddiant academaidd a chymorth targedig i ddysgwyr sy’n ei chael yn anodd yn hanfodol wrth eu hatal rhag rhoi’r gorau i addysg bellach. Gall modelau rôl y gellir uniaethu â nhw roi hwb sylweddol i hyder, dyheadau a dealltwriaeth dysgwyr o addysg uwch, yn enwedig pan fydd gan y mentoriaid gefndiroedd tebyg i’r dysgwyr maen nhw’n eu cefnogi.
Gwasanaethau iechyd meddwl
Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod angen ehangu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl, a monitro’r effaith ar gyfraddau cadw dysgwyr a llwyddiant dysgwyr. Mae galw am gymorth iechyd meddwl a llesiant mewn addysg uwch, ond mae diffyg tystiolaeth gadarn sy’n nodi effaith mathau o gymorth iechyd meddwl ar gynyddu cyfranogiad myfyrwyr mewn addysg uwch.
Parodrwydd academaidd
Sicrhau bod y cwricwlwm yn gydnaws ag anghenion y farchnad lafur, ac yn cynnig hyfforddiant ymarferol fel rhan o addysg a hyfforddiant galwedigaethol, er mwyn cynyddu cyfraddau cyfranogiad a chwblhau mewn addysg bellach. Mae ymgorffori cymwysterau galwedigaethol a thechnegol yn ysgogi dysgwyr i barhau trwy addysg drwy wneud eu dysgu yn berthnasol i yrfaoedd yn y dyfodol.
Seilwaith digidol
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod angen buddsoddi mewn seilwaith dysgu digidol a datblygiad proffesiynol ar gyfer addysgwyr er mwyn gwella ymgysylltiad a llwyddiant dysgwyr.
Adroddiadau
Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 568 KB
Cyswllt
Cyflogadwyedd Sgiliau Ymchwil
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
