Pe bai'n cael ei gyflwyno, byddai'r Bil hwn yn newid y rheolau ar gyfer aelodaeth feddygol o Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru.
Dogfennau
Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 83 KB
Manylion
Pe bai'n cael ei gyflwyno, byddai'r Bil:
- yn newid y rheolau ar gyfer pwy gaiff fod yn aelod meddygol o Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru, ac
- yn cadarnhau bod penodiadau blaenorol i'r Tribiwnlys ac aelodaeth flaenorol ohono yn parhau'n ddilys.
Rydym wedi cyhoeddi'r Bil drafft er mwyn i Aelodau'r Senedd a'r cyhoedd allu gweld y cwmpas a'r cyfeiriad arfaethedig. Mae'r Bil yn dal i fod yn amodol ar benderfyniad y Llywydd, cyn ei gyflwyno'n ffurfiol.
Bydd y Memorandwm Esboniadol a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Bil yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Senedd cyn gynted ag y bydd y Bil wedi'i gyflwyno.
