Neidio i'r prif gynnwy

Awgrymiadau ar sut i fod yn ddiogel ac yn gynhwysol tra’n rhedeg clwb rhedeg.

I lawer o fenywod, mae mynd i redeg yn golygu mwy na chamu allan o'r drws. Gall olygu cynllunio llwybrau, bod yn wyliadwrus, a meddwl am ddiogelwch personol mewn ffordd nad oes rhaid i ddynion wneud bob amser.

Beth yw dy rôl?

Drwy fod yn ymwybodol o sut mae dy eiriau, ymddygiad, a phresenoldeb yn effeithio ar eraill, gelli di helpu i osod tôn. Nid yw disgwyliadau clir, parch tuag at eich gilydd a chynnal sgwrs agored yn creu mannau sy’n fwy diogel ar gyfer menywod yn unig, maent yn creu clybiau rhedeg sy’n fwy croesawgar a phleserus i bawb sy'n rhan ohonynt.

Mae Clwb Rhedeg Iawn yn golygu:

  • dod at ein gilydd
  • cefnogi ein gilydd i gynnal sgyrsiau gonest
  • adeiladu ymddiriedaeth
  • creu modelau rôl cadarnhaol o fewn cymunedau rhedeg
  • helpu i wneud rhedeg a'n cymunedau yn fwy diogel i fenywod

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd y canllaw hwn yn dy helpu i feddwl am ddiogelwch, parch a chynhwysiant, a sut y gall gweithredoedd bach bob dydd wneud gwir wahaniaeth.

Lawrlwytha ganllaw Clwb Rhedeg Iawn, der ag e’ pan yn rhedeg nesaf, a bydd yn rhan o'r sgwrs.

Un rhediad. Un sgwrs. ​​Un cam tuag at wneud Cymru y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw.